Neidio i'r cynnwys

Y Tadau Methodistaidd Cyfrol II/John Evans, Y Bala

Oddi ar Wicidestun
Cychwyniad Methodistiaeth yn Ngwahanol Ranau Gwynedd Y Tadau Methodistaidd Cyfrol II

gan John Morgan Jones


a William Morgan, Pant
Robert Roberts, Clynog

PENOD XXII.
JOHN EVANS, Y BALA.

Ei rieni yn ddynion dychlynaidd, ond heb fod yn grefyddol—John Evans yn dysgu darllen yn icuanc, ac yn cael blas ar ranau hanesiol y Beibl yn troi allan yn llans gwyllt—Yn anmharod i gymeryd ei lw—Yn symud i'r Bala—Yn ymuno a'r Methodistiaid—Yn myned i Gymdeithasfa Trecastell, a bugail yn ei gyfarwyddo—Yn dechreu pregethu—Yn bregethwr syml a sylweddol—Yn mynychu Cymdeithasfaoedd De a Gogledd—Humphrey Edward William Evans, Fedwarian—Evan Moses—Sion Moses—Adwaen ein gilydd yn y nefoedd—Nifer o ffraeth ddywediadau John Evans—Ei graffder yn y seiat—Cael oes hir Yn cymeryd rhan yn yr ordeiniad cyntaf—Ei afiechyd olaf a'i farwolaeth.

JOHN EVANS, y Bala, oedd y pregethwr Methodistaidd cyntaf a gynyrchodd Gwynedd, ag y gellir dweyd am dano ei fod yn enwog trwy holl Gymru. Ac yr oedd ei enwogrwydd yntau yn gynwysedig yn fwy mewn ymroddiad diflino, penderfyniad anhyblyg, medr i arwain mewn amgylchiadau o ddyryswch, toraeth o synwyr, a rhyw ffraethder arbenig o'i eiddo ei hun, nag mewn doniau gweinidogaethol. Cafodd ei eni yn Glanyrafon, yn agos i Wrexham, yn y flwyddyn 1723, felly, yr oedd yn hogyn tua deuddeg mlwydd oed pan gychwynodd y diwygiad Methodistaidd. Pan yr oedd tua phedair oed, symudodd ei rieni i gymydogaeth Adwy'r Clawdd, i dyddyn bychan a berchenogent hwy eu hunain. Ar y tir hwn adeilasant amryw dai. Dywed Methodistiaeth Cymru fod y tai yn sefyll yn y flwydd yn 1851, a bod yn mur un o honynt gareg, ar yr hon yr oedd yn gerfiedig:—

E
W A
1728

Y mae yn amlwg felly, er nad oedd rhieni John Evans yn gyfoethog, eu bod yn gefnog, ac yn byw yn gysurus. Nid oeddynt yn grefyddol yn ystyr gyffredin y gair. Aent i'r eglwys ar y Sul; arweinient fywyd dychlynaidd; dysgent eu mab i fyw yn foesol, gan beidio dywedyd celwydd a thyngu, peidio lladratta, a pheidio halogi y Sabbath. Ond nid oedd ganddynt unrhyw ddirnadaeth am gyflwr euog pechadur, nac am wirioneddau mawrion a neillduol trefn yr iachawdwriaeth. Buasai eglwys Ymneillduol enwog yn Ngwrexham; bu Morgan Llwyd, o Wynedd, yn weinidog arni am beth amser; ond erbyn hyn, fel y cyffredin o eglwysi Ymneillduol y wlad, yr oedd wedi syrthio i farweidddra, ac yn cael ei anrheithio gan gwerylon. Felly, nid oedd gan rieni John Evans ond yr Eglwys Wladol i ddybynu arni am hyfforddiant crefyddol, ac ychydig iawn a gaent yno.

Derbyniodd y bachgen John addysg ragorach nag a arferid roddi i blant yr adeg hon. Medrai ddarllen ei Feibl yn rhigl, a hyny yn Gymraeg ac yn Saesneg, pan yn rhyw ddeg oed. Daeth hefyd yn alluog i ysgrifenu a rhifyddu. Ymddengys iddo gael blas yn foreu ar ranau hanesiol y Beibl. Meddai hanes Noah, Abraham, Joseph, ymadawiad Israel o'r Aipht, y daith yn yr anialwch, a'r cyffelyb, swyn diderfyn iddo; nid yn unig ymgydnabyddai a'r hanesion yma ar ei ben ei hun, gan eu trysori yn ei gof, eithr elai i dai y cymydogion, ac adroddai hwynt yno. A chan anamled ydoedd Beiblau yr adeg hono, ac mor lleied oedd yn alluog i ddarllen, yr oedd y pethau a adroddid allan o'r Ysgrythyr mor ddyeithr i'r bobl o gwmpas, ag a fuasent i anwariaid Affrica. Eithr fel yr oedd yn tyfu i fynu, collodd ei hyfrydwch yn y Beibl i raddau mawr, a dechreuodd ganlyn cwmni annuwiol, gan gymeryd dyddordeb yn y chwareuyddiaethau a gynhelid ar y Sabbath. Yn ofer yr ymliwiai ei fam ag ef, yr oedd hudoliaeth y chwareu yn ormod iddo allu ei gwrthsefyll; a threuliai ddydd Duw o foreu hyd hwyr i ganlyn oferedd. Eithr dychwelai adref dan lwyth o euogrwydd cydwybod; byddai ofn marw a'r farn bron llethu ei feddwl; ac erbyn cyrhaedd y tŷ, yr oedd ei fam gyda ei cherydd, fel pe byddai yn ymgorphoriad o Sinai a'i chyfraith, yn ei aros. Yn hanes ei fywyd, dywed i Dduw ei atal rhag syrthio i bechodau rhyfygus cyhoedd; cafodd ei gadw rhag godineb, meddwdod, lladrad, a rhegu; a cheisiai yn fynych wneyd plastr o'r rhinweddau hyn i'w cymhwyso at ei gydwybod friw, "heb wybod eto," meddai, "fod cyfraith Duw yn dal ar egin y pechodau hyny yn y galon." Nid oedd wedi deall fod trachwantau y galon yn bechodau gwaedd- fawr, a bod Duw yn dal dyn yn gyfrifol am feddyliau halogedig, yn gystal ac am weithredoedd drwg.

Pan rhwng deuddeg a thair-ar-ddeg oed, rhwym wyd ef yn egwyddorwas gyda gwehydd; a thyfodd yn fachgen iraidd, cryf, a thal. Nid oedd nemawr o'i gyfoedion a allai gystadlu ag ef mewn corpholaeth a chryfdwr. Wedi gorphen tymhor ei ymrwymiad, cododd chwant cryf arno i ymrestru yn filwr; a dagrau ac ymbiliau ei fam yn unig a'i hataliodd rhag gwneyd hyny. A phrin y llwyddodd hyny, oblegyd unwaith aeth mor bell a Chaerlleon, gyda'r bwriad o ymuno a chatrawd o feirchfilwyr. Eithr erbyn cyrhaedd y ddinas, yr oedd y meirchfilwyr wedi ymadael y diwrnod blaenorol. Cafodd bob anogaeth i ymrestru gyda'r gwŷr traed oedd yno, ond hyny nis gwnai. Gan mai bychan oedd y tal am weithio fel gwehydd, gadawodd y grefft am dymhor, ac aeth i weithio i'r gwaith mŵn plwm oedd ryw gymaint o bellder o'i gartref. Yma, gan ei fod yn ymgymysgu ag oferwyr, a'i fod wedi myned i letya o dŷ ei rieni, ac felly, wedi colli rhybuddion ei fam, gwisgodd ymaith yn hollol bob difrifwch, a daeth yn un o'r İlanciau gwylltaf o fewn i'r lle. Ei awydd mawr yn awr oedd myned i Loegr, er gweled y byd. Nid oedd dim pellach o'i feddwl na phreswylio yn Nghymru fynyddig. "Ond i Gymru," meddai, "y gorfu dyfod."

Yr ydym yn dyfod yn awr at amgylchiad y gellir yn briodol edrych arno fel trobwynt ei fywyd. Tuag at iddo ddyfod tan ddylanwad yr efengyl, rhaid oedd ei yru allan o'i ardal enedigol, ac yr oedd y dull a gymerodd Rhagluniaeth i ddwyn hyn oddiamgylch yn dra hynod. Meddai ef, pan yn ysgrifenu hanes ei fywyd, gwedi myned i wth o oedran: "Yr wyf hyd heddyw, wrth edrych yn ol, a chofio fel bu, yn rhyfeddu y ffordd a gymerodd yr Arglwydd i'm gyru o'm cymydogaeth fy hun, i gymydogaeth nad oeddwn yn adnabod na dyn na dynes ynddi, sef i'r Bala, lle yr wyf yn preswylio er ys dwy-flynedd- ar-bymtheg-a-deugain." Yr oedd yr amgylchiad fel y canlyn: Cododd ymrafael chwerw rhwng y gŵr y lletyai John Evans yn ei dy â chymydog iddo. Mor enbyd oedd y teimlad rhyngddynt, fel y bygythiodd y cymydog, yn nghlyw John Evans, y lladdai y gŵr. Teimlodd John Evans ei bod yn ddyledswydd arno i hysbysu ei letywr, a'i osod ar ei wyliadwriaeth. Mynegwyd yr un bygythiad i'r gŵr gan eraill. Mewn canlyniad, cododd yntau warant i ddal y bygythiwr, a'i ddwyn gerbron yr ynadon, a gwysiwyd John Evans, yn mysg eraill, i fod yn dyst. "Yn awr," meddai John Evans, "y mae bys Duw i'w weled. yn dechreu gweithio i ddwyn ei amcan i ben. Canys ar y ffordd wrth fyned o flaen yr ustus, daeth meddyliau dwys a difrif ataf, mai peth mawr a phwysig oedd cymeryd llw; ac mai rhaid oedd wrth gymeryd llw ddywedyd y dull y dywedodd y dyn yn gymhwys bob sillaf a llythyren, ac onide y byddai y llw yn llw drwg, a bod llw drwg yn bechod yn erbyn yr Yspryd Glân, yr hwn bechod nad oes maddeuant o hono, nac yn y byd hwn, nac yn yr hwn a ddaw. Gweithiodd yr ystyriaethau hyn mor rymus ar fy meddwl, fel y darfu i mi benderfynu na chymerwn un llw; nid am fod genyf un duedd at un o'r pleidiau mwy na'u gilydd, ond bod arnaf ofn na chofiwn y dull yn gymhwys y dywedodd y dyn. Wedi myned gerbron yr ustus, galwyd y tystion yn mlaen, a rhoddwyd eu llwon iddynt, a myfi oedd y diweddaf a alwyd. Dywedais wrth yr ustus nad oeddwn yn chwenych myned ar fy llw, o herwydd na buaswn erioed ar fy llw. Yntau a atebodd fod yn rhaid i mi fyned ar fy llw fel tyst yn yr achos. Minau a ddywedais nad awn i ddim ar fy llw. Yntau a atebodd, os nad awn, yr anfonai fi i'r carchar. Minau a ddywedais fod yn well genyf hyny, a'r dagrau yn treiglo o fy llygaid. Pan welodd yr ustus hyny, deallodd mai ofn cymeryd fy llw oedd arnaf, ac nid cyndynrwydd i roddi fy llw yn yr achos; a bu yn fwy tyner wrthyf, a dywedodd: Nid yw llw ond yn gofyn y gwir hyd eithaf eich gwybodaeth. Felly y bu. Cymerais fy llw, gan ofalu dweyd y gair hwnw, 'hyd eithaf fy ngwybodaeth.' Rhwymwyd y bygythiwr am ei fygythion, ac achosion eraill a dystiwyd i'w erbyn, i'r sessiwn fawr."

Dengys yr hanes dynerwch cydwybod, a gofal am eirwiredd, na cheir yn fynych ei gyffelyb, yn arbenig mewn llanc ieuanc digrefydd. Eithr nid oedd ei brofedigaeth trosodd eto. Er iddo ofalu, wrth gymeryd ei Iw, ddywedyd mai hyd eithaf ei wybodaeth yr oedd yn tystio, llanwyd ei feddwl â dychryn drachefn rhag nad oedd wedi bod yn hollol ffyddlon i'r gwirionedd. Ofnai ei fod wedi dywedyd rhywbeth nad oedd yn hollol gywir, a'i fod felly wedi cymeryd llw drwg, ac wedi pechu yn erbyn yr Yspryd Glân. Bu yn derfysg ofnadwy yn ei feddwl ; cihodd cwsg oddiwrtho am wythnosau, "a phrin," meddai, "y dihengais a'm bywyd a'm synwyrau genyf." Eithr cafodd waredigaeth annysgwyhadwy. Yn nhŷ cymydog, daeth o hyd, yn ddamweiniol, i lyfr bychan, sef Saith Pregeth Mr. Robert Russell. Ymdriniai y gyntaf o'r saith a'r pechod yn erbyn yr Yspryd Glân. Darllenodd y bregeth yn awchus, a symudwyd ei ofnau yn llwyr, "mor llwyr ag y bydd yr haul yn llyncu i fynu wlih y wawr."

Eithr yr oedd y sessiwn yn agoshau, ac yn ei fyw nis gallai John Evans ymgymodi a'r syniad o gymeryd ei lw drachefn. Fel yr oedd yr adeg yn dyfod yn nes, yr oedd ei drallod yntau yn mwyhau. Y Sabbath o flaen y sessiwn penderfynodd ddianc, ac aeth ymaith o dŷ ei dad heb yngan gair wrth neb. Bwriadai, ar y cyntaf, fyned i Sir Fflint, i rai o'r gweithiau mŵn oedd yno. Ond wedi cychwyn, daeth i'w gof ddarfod iddo glywed fod gwaith mŵn plwm mawr yn Sir Aberteifi, ac mai trwy y Bala yr oedd y ffordd yno. Trodd o'r ffordd ar hyd pa un y cychwynasai, a chyfeiriodd ei gamrau tua'r Bala, gan gyrhaedd yno, wedi teithio tua deng- milltir-ar-hugain, yn hwyr y dydd. Erbyn cyrhaedd y dref, yr oedd yn flin, ac heb wybod pa le i droi am lety; nid oedd ei logell ychwaith yn rhy lawn. Meddyliodd y gallai fod yno wehyddion, ac o bosibl y caffai waith gwau, fel ag i enill ychydig arian i orphen ei daith. Wedi holi, cyfarwyddwyd ef i dŷ hynafgwr, o'r enw Edward Williams, yr hwn a'i gwahoddodd ef i mewn, ac a ddangosodd barodrwydd i roddi llety iddo. Eithr nid ymddiddanai ag ef am wau, am mai y Sabbath ydoedd.

Dyma John Evans yn y Bala, lle y trefnasai Rhagluniaeth iddo dreulio y gweddill o'i oes. Daeth yma yn y flwyddyn 1742, ac efe yn llanc deunaw mlwydd oed, sef yn mhen tua blwyddyn gwedi i Howell Harris gael ei gamdrin mor enbyd yn y lle. Nid oedd yma yr un achos eto gan y Methodistiaid ; ymgynullai yr ychydig a gawsent eu hargyhoeddi trwy weinidogaeth Howell Harris gyda'r Ymneillduwyr yn nhŷ Edward Williams. Yr oedd Edward Williams yn ŵr nodedig o dduwiol; cynhaliai addoliad teuluaidd gyda chysondeb, a byddai yn teithio milltiroedd i glywed gair Duw yn cael ei bregethu. Trwy gael aros yn ei dŷ ef, syrthiodd llinynau John Evans mewn lle tra dymunol. A phrin yr oedd y gŵr ieuanc wedi cael hamdden i ymddadluddedu pan y dechreuodd y cyfeillion crefyddol ymgasglu i'r lle, a dechreuasant yn ddioed ar eu gorchwyl, sef darllen, gweddio, a chanu mawl. Gwnaent hyn gyda'r fath fywiogrwydd, a gwresawgrwydd yspryd, nes synu y llanc ; nid oedd wedi gweled na chlywed y fath beth o'r blaen; nis gwyddai beth i'w wneyd o honynt; ond meddai, "nid oeddwn yn cael dim allan o le yn yr hyn a ddywedent, na'r hyn a wnaent." Ni ddarfu i'w haddoliad ddylanwadu ar ei deimlad ef, safai megys yn y pellder, gan edrych ar y cwbl mewn yspryd beirniadol. Boreu tranoeth, gwedi darllen a gweddîo, cytunodd ag Edward Willims i aros gydag ef i wau. Dechreuodd feddwl efallai fod a fynai yr Arglwydd a threfnu iddo gael gwaith mor hawdd, mewn lle oedd yn gwbl anadnabyddus iddo. Ond nid oedd eto wedi ei gyfnewid ; yn wir, nid oedd wedi ei ddifrifoli, nac wedi ei ddiddyfnu oddiwrth ei hen rysedd. Bu am agos i haner blwyddyn gwedi myned i'r Bala yn dilyn oferedd megys cynt. Trwy drafferth fawr, medrodd Edward Williams ei berswadio, un nos Sabbath, i fyned gydag ef i'r Weirglodd Gilfach, yn nghymydogaeth Llanuwchllyn, i wrando gŵr dyeithr yn pregethu. Dyna y tro cyntaf iddo gly wed Ymneillduwr yn pregethu. Eithr beirniad oedd John Evans yn yr odfa; synai yn fawr weled y llefarwr yn gallu traddodi heb lyfr; eithr ni chyffyrddodd dim a'i galon. Yr holl effaith a gafodd y bregeth arno, medd efe ei hun, oedd ei ddifyru. Ond ymddengys ei fod yn cael pleser wrth wrando; os nad oedd ei galon yn cael ei hargyhoeddi, yr oedd ei ddeall yn cael ei oleuo; ac wrth arfer mynychu y cyfarfodydd, daeth i ddirnad athrawiaethau yr efengyl, ac i ddeall mai trwy ffydd yn Nghrist y cyfiawnheir pechadur. Yn raddol, gadawodd bob drwg arferion, gan arwain bywyd dychlynaidd, eithr nid oedd yn proffesu.

Yn y flwyddyn 1744, priododd â Margaret Morris, merch i un Morris ap Robert, yr hwn a berthynai i'r ychydig Ymneillduwyr oedd yn y Bala. Yr oedd Morris ap Robert nid yn unig yn dduwiol, ond yn gryn lenor; meddai dalent gref, ac ymhoffai mewn barddoniaeth. Y mae rhai o'i weithiau ar gael yn awr, sef Cyngor difrifol i'r Cymry, a chywydd i Lyn Tegid. Etifeddai ei ferch, Margaret, lawer o athrylith ei thad, a bu yn hoff o lyfrau trwy ei hoes. Dywed Methodistiaeth Cymru ei bod yn flaenorol wedi uno a'r Methodistiaid. Yr ydym yn amheus a oedd seiat Fethodistaidd reolaidd wedi cael ei sefydlu yn y Bala mor foreu a hyn. Pe byddai, a phe bai Margaret Morris yn aelod o honi, ni oddefid iddi briodi â John Evans, ac efe heb fod yn proffesu, heb ei dysgyblu. Ond efallai ei bod yn teimlo yn gynhesach at y Methodistiaid nag at yr Ymneillduwyr. Eithr yn bur fuan, ffurfiwyd yma seiat Fethodistaidd, ac ymunodd Margaret Evans â hi. Rhyw wyth neu ddeg oedd yr aelodau oll, a'r arweinwyr oedd dau frawd o'r Deheudir, gofaint wrth eu galwedigaeth, sef Evan Moses, a Sion Moses. Yr oedd John Evans, er nad yn aelod proffesedig, yn wrandawr cyson. Eithr yn Sulgwyn, 1745, cafwyd odfa ryfedd yn y Bala. Ai cyfarfod gweddi oedd yno, ynte pregeth, ni wyddis, ond disgynodd yr Yspryd Glân yno mor wirioneddol ag y gwnaethai yn Jerusalem ar ddydd y Pentecost. Yn mysg y rhai a loriwyd yn y cyfarfod hwn yr oedd John Evans. Peidiodd a bod yn feirniad o hyn allan; daeth yn ddysgybl gwirioneddol i Grist, ac ymroddodd i'w wasanaethu, a hyny gydag ymroddiad na cheir yn fynych ei gyffelyb, hyd ei fedd.

Wedi dyfod yn benteulu ymsefydlodd John Evans mewn masnach fel gwehydd drosto ei hun. Gwedi hyn, bu am beth amser yn rhwymo llyfrau. Eithr am flynyddoedd lawer cyn ei farw masnachai fel canwyllwr. Daeth yn fuan i gael ei ystyried yn un o'r dynion mwyaf parchus yn nhref y Bala; edrychai gwreng a boneddig i fynu ato. Cydgyfarfyddai amryw elfenau i beri hyn. Yr oedd o ran ei berson a'i ymddygiad yn dra boneddigaidd. Meddai gorph tal; cerddai yn syth; gwisgai yn lanwaith a thrwsiadus, ac yr oedd ei osgo yn ddylanwadol. Yn mhellach, cariai ei fasnach yn mlaen, nid yn unig gyda diwydrwydd ac ymroddiad, ond mewn pob gonestrwydd; daeth yn ddealledig yn fuan trwy y dref na wnelai gam gwirfoddol â neb, ac y gellid anfon plentyn ato heb ofn iddo gael ei dwyllo. Ac hefyd, daeth ei stôr o synwyr yn adnabyddus; heb un ymgais o'i eiddo ei hun, daeth yn oracl y dref; ymgynghorid ag ef ar bob math o achosion. Nid oes amheuaeth ddarfod i gysylltiad John Evans â Methodistiaeth ddyrchafu y Cyfundeb yn ngolwg y cyhoedd, nid yn unig yn y Bala, eithr trwy yr holl wlad oddiamgylch.

Er mai ychydig oedd y ddeadell fechan yn y Bala pan yr ymunodd John Evans â hi, caent yn aml gyfarfodydd gogoneddus. Anaml y caent bregethu; ofnai pregethwyr Deheudir ddyfod yno oblegyd yr erledigaeth, ac nid oedd nemawr yn y Gogledd hyd yn hyn wedi dechreu ar y gwaith o gynghori. Ymgyfarfyddai y crefyddwyr i ddarllen, a gweddio, a chanu mawl, ac nid anaml teimlent y Presenoldeb dwyfol yn eu mysg yn amlwg. "Yr wyf yn cofio fy mod mewn cyfarfod gweddïo unwaith," meddai John Evans, "gydag ychydig o honynt, pan ddaeth rhyw ddylanwadau rhyfeddol arnynt, ac effeithiodd mor hynod nes yr oeddynt yn tori allan, rhai i wylo ac eraill i orfoleddu. Yr wyf yn cofio i un dyn syml a duwiol waeddi allan: "Y mae yma le rhy boeth i ddiafol." Bernais ynof fy hun, fy mod yn o gyffelyb iddo, wrth ystyried dull ac agwedd fy meddwl.' Cyn dydd y cadwent eu cyfarfodydd yn fynych, rhag ofn yr erlidwyr. Yr ydym wedi adrodd yn barod fel y cylymai pob un o'r aelodau linyn wrth ei gorph, gan adael i'r pen arall i'r llinyn grogi allan trwy y ffenestr, er mwyn i'r gofalwr ddyfod heibio a'i ddeffro trwy roddi plwc i'r llinyn. Y gofalwr fynychaf, meddir, oedd Evan Moses; a'i air o dan y ffenestr fyddai: "Cyfod, frawd, a thyr'd at yr Arglwydd." Y mae yn anhawdd peidio edmygu penderfyniad a zêl y crefyddwyr ardderchog hyn, y rhai a aberthent gymaint er cael y fraint o gydaddoli.

Daeth John Evans yn mron ar unwaith yn arweinydd yn mysg Methodistiaid y Bala. Yr oedd ei yni, a'i ymroddiad i waith yr Arglwydd, yn rheswm am hyn, yn ogystal a'i synwyr a'i safle. Bu am ugain mlynedd ar ol ymuno â chrefydd cyn dechreu pregethu; ond llafuriai yn ddiorphwys trwy hyd yr amser hwnw gyda'r achos, a hyny nid yn unig yn y dref lle yr oedd yn byw, ond yn yr holl ardaloedd o gwmpas. Efe, fel y gwelsom, trwy ei fawr ddylanwad yr efengyl, a fu yn offeryn i gael pregethu gyntaf i ardal Adwy'r Clawdd. Arferai ar y Sabbath gymeryd rhai o'r brodyr o'r Bala gydag ef, a cherdded pymtheg-milltir-ar-hugain ar draed, i ardaloedd Penrhyndeudraeth, Ffestiniog, a lleoedd eraill, er cynorthwyo i gadw cyfarfodydd gweddi. Nid oedd ganddynt un lle i orphwys ar eu taith, nac un tŷ i gael lluniaeth ynddo; ni chaent ddracht o laeth yn unlle, gan faint y rhagfarn at y Pengryniaid, fel eu gelwid. Tocyn o fara a chaws sych fyddai eu hymborth, a dwfr rhyw ffynhon a darddai mewn unigedd ar lechwedd y mynydd eu diod; ond er bod yn fynych yn mron diffygio, teimlent mai braint anrhaethol oedd cael gwasanaethu yr Arglwydd Iesu.

Penderfynodd wneyd ymdrech i gael prif bregethwyr y De i ddyfod i'r Gogledd drachefn, ac i'r pwrpas hwnw aeth yn ei un swydd i Gymdeithasfa Trecastell, yn Sir Frycheiniog. Ni wyddis pa bryd y digwyddodd hyn, ond ymddengys ei fod yn bur fuan wedi iddo ymuno a'r Methodistiaid. Yr oedd ei ffordd ar draws y mynyddoedd gwylltion, ac ni wyddai yntau gam o honi. Yn Llanbrynmair, cafodd ddau ŵr yn gymdeithion, ond yr oeddynt mor anhysbys o'r wlad ag yntau. Daethant rywsut i Rhaiadr ar Wy, a rhoddwyd rhyw nodau iddynt yno fel arwyddion ffordd ar y mynyddoedd oedd o'u blaenau. Ond yn mhen enyd dechreuodd nosu arnynt, a methent weled y nodau. Dechreuasant bryderu yn enbyd, ond pan mewn cyfyngder meddwl, daeth gŵr ar ddull bugail atynt yn ddisymwth, gan ofyn, ai nid i Gymdeithasfa Trecastell yr oeddynt yn myned? Atebasant hwythau mai ïe. "Yr ydych wedi colli y ffordd," meddai yntau; "ewch ar eich union rhwng y ddau fryn acw, a chwedi gadael y mynyddoedd, chwi a ddeuwch at dy fferm ar ochr y ffordd. Pobl o'r un grefydd a chwi sydd yn byw yno, ac ond i chwi alw, chwi a gewch lety cysurus." Fel yr oeddynt yn rhyfeddu at y waredigaeth fawr a gawsent, troisant eu llygaid yn ol i gael ail olwg ar eu cymwynasydd, ac i ddiolch iddo am ei garedigrwydd; ond er eu mawr syndod yr oedd wedi diflanu. Ar gefn y mynydd noeth yr oeddynt ar y pryd, ac nid oedd un lle i'r gŵr allu ymguddio. Ar hyn, dywedodd John Evans, " Angel oedd e', yn siwr." Yn mlaen yr aethant yn ol y cyfarwyddyd, a daethant o hyd i'r amaethdy, a chawsant bob caredigrwydd yno, fel y dywedasai y bugail. Yr oeddynt yn Nhrecastell yn foreu tranoeth; ac erbyn cyrhaedd, cawsant fod Rowland, Harris, a Whitefield, yn pregethu am un-ar-ddeg, a bod y pregethau hyny yn terfynu y Gymdeithasfa. Eithr llwyddodd John Evans yn ei gais, a chafodd addewid gan Rowland a Harris, ac amryw o'r prif gynghorwyr, i ymweled a'r Gogledd. Nid oes dim yn anghredadwy yn syniad John Evans gyda golwg ar pwy ydoedd y bugail. Anfynych y cyfarfyddid a neb llai darostyngedig i ddychymyg ac ofergoeledd nag efe, ac efallai nad ydym eto yn meddu syniad priodol am helaethrwydd gweinidogaeth angelion.

Tua'r flwyddyn 1765, sef yn mhen rhyw ugain mlynedd gwedi iddo ymuno â chrefydd, dechreuodd bregethu. Y mae yn debyg mai llithro yn raddol i'r swydd a wnaeth. Wrth arfer trafaelu yn mhell ac yn agos i gynorthwyo gyda chynal cyfarfodydd gweddïau, a seiadau, nid anhawdd iddo oedd myned gam yn mhellach, gan roddi gair o gynghor i gynulleidfa gymysg. Tebygol nad oedd Cyfarfod Misol yn Sir Feirionydd ar y pryd, i roddi caniatad iddo. Ond y mae yn ddiau fod y brodyr mwyaf craff a duwiol yn ei gymhell, gan y gwyddent am helaethrwydd ei wybodaeth, a dyfnder ei ddirnadaeth o wirioneddau yr efengyl. Ychydig o bregethwyr yr oes hono a ddalient eu cymharu ag ef o ran cydnabyddiaeth â gwahanol wybodaethau. Yr oedd yn hanesydd cyffredinol da, yn ddaearyddwr rhagorol, ac yn gyfarwydd mewn aml i gangen o ddysgeidiaeth, na fyddai y cyffredin yn efrydu. Ac yn arbenig yr oedd yn dduwinydd gwych. Wedi ymaflyd yn y weinidogaeth, ymdaflodd i'r gwaith gyda yr un ymroddiad ag a'i nodweddai gyda phob peth. Teithiodd lawer i bregethu, yn arbenig yn rhanau mynyddig Meirionydd, heb dderbyn dim cydnabyddiaeth. Codai foreu y Sabbath gyda glasiad y wawr, a chychwynai i'w daith; byddai yn aml rai degau o filltiroedd ganddo i'w teithio; pregethai dair gwaith, ac yna dychwelai adref yr un noson, pa mor ystormus bynag y gallai'r tywydd fod, er mwyn bod yn barod at ei alwedigaeth foreu dydd Llun. Un nos Sul, pregethai yn Nghwm-tir-mynach, ac yn ebrwydd gwedi yr odfa, parotoai i gychwyn adref. Yr oedd yn noson dywyll; y gwlaw a ddisgynai yn rhaiadrau mawrion, ac yr oedd ei ffordd yntau yn arw. Crefai y cyfeillion arno aros. Hyn ni
CAPEL Y BALA, FEL Y MAE YN BRESENOL.
[Yma yr adeiladwyd y Capel Methodistaidd cyntaf yn Sir Feirionydd.]

fynai yntau; dywedai fod achos pwysig yn galw am iddo fod gartref yn foreu tranoeth. "Ymddiriedwch i Ragluniaeth," meddai un o'r brodyr wrtho. Atebai yntau yn ol: "Rhaid i mi wneyd fy ngwaith fy hun. Ni wna Rhagluniaeth doddi y gwer, a ffurfio canwyllau, rhaid i mi gyflawni hyny, neu bydd heb ei wneyd." Oni bai ei fod mor ofalus am ei amgylchiadau ar yr wythnos, nis gallai wasanaethu yr efengyl fel y gwnelai ar y Sabbath.

Fel y gellid dysgwyl, pregethwr sylweddol, yn traethu y gwirionedd yn y symlrwydd o hono, oedd John Evans. Byddai llawer o'r cynghorwyr y pryd hwnw yn apelio yn benaf at y temlad; deffro yr annuwiol oedd eu hamcan; ac wrth gyhoeddi dystryw ar anwir fyd, byddent yn bloeddio, ac yn llythyrenol gyflawni y gorchymyn "Llefa a'th gêg, nac arbed." Yr oedd hyn yn ateb yr amseroedd yn dda, a bu dan fendith Duw i gyrhaedd yr amcan ddegau o weithiau. Tybiai rhai, felly, fod bloeddio yn elfen anhebgor mewn pregeth. Eithr goleuo y deall, porthi y bobl â gwybodaeth, gan apelio at y teimlad a'r nwyd trwy y ddirnadaeth, a wnelai John Evans. Felly, yr oedd ei ddull o ymadrodd yn dawel, ac ni fyddai un amser yn dyrchafu ei lef. Mawr hoffid ef gan y rhai mwyaf deallgar; yr oedd eglurder ei arddull, Ysgrythyroldeb a symledd ei iaith, cadernid ei ymresymiad, a'r duedd ymarferol fyddai i'w holl bregethau, yn ei wneyd yn nodedig o gymeradwy gan y rhai a roddent bwys ar sylwedd a gwirionedd. Traddodai yn ei lais siarad naturiol, heb unrhyw ymgais at oslef na thonyddiaeth. Pan y gofynai rhywun iddo paham na fyddai yn bloeddio ac yn poethi yn y pwlpud, fel y gwnelai y cyffredin o'r pregethwyr, atebai, yn ei ddull ffraeth ei hun, nad oedd dim eisiau chwysu wrth ddweyd y gwir. Oblegyd ei arafwch, cymerodd rhyw ychydig o bregethwyr ei achos dan ystyriaeth, ai nid gwell iddo fyddai rhoddi y pregethu i fynu. Yr oedd hyn cyn i Mr. Charles ymsefydlu yn y Bala, a chyn ffurfio y Cyfarfod Misol. Wedi cryn lawer o siarad, deuwyd i'r penderfyniad, gan nad oedd fawr arddeliad yn ymddangos ar ei weinidogaeth, na fawr hwyl yn cydfyned a'i draddodi, mai gwell fyddai iddo ymatal, a phenodwyd brawd i gario y genadwri iddo. "Ho," meddai yntau yn ol," ewch at y rhai a'ch anfonodd, a dywedwch y parhâf i bregethu hyd nes y gwelaf bregethwyr gwell na mi yn codi." Yr oeddent yn haeddu y sen, yn ddiau, oblegyd os oedd angen am bregethwyr cyffrous, i daranu uwchben yr annuwiol, yr oedd llawn cymaint o eisiau pregethwyr o fath John Evans, i hyfforddi y bobl yn egwyddorion crefydd, ac i'w hadeiladu yn ngwirioneddau yr efengyl.

Mynychai John Evans Gymdeithasfaoedd y Deheudir fel rhai'r Gogledd, a dywedir mai cerdded ar ei draed y byddai yn wastad. Yr ydym yn cael, yn nyddlyfr Howell Harris, ei fod ef, a'i gyfaill Humphrey Edward, yn bresenol yn Nghymdeithasfa Castellnewydd-Emlyn, Hydref, 1764 a phan yr aeth yn ddadl boeth rhwng Harris â rhai o'r cynghorwyr am y priodoldeb o gadw yn mlaen y Sefydliad yn Nhrefecca, cynygiai yr olaf fod y mater yn cael ei gyflwyno i'w benderfynu gan y ddau Ogleddwr. Ond ni chydunai Mr. Harris a hyn, ystyriai ei fod yn nglyn ag adeiladiad Trefecca dan gyfarwyddyd dwyfol. Eithr prawf cynygiad y cynghorwyr fod John Evans, yr adeg foreu hyn—oblegyd efe oedd y penaf o'r ddau—nid yn unig yn dra adnabyddus yn y Deheudir, ond hefyd fod ymddiried cyffredinol yn ei farn, er nad oedd yr adeg hon wedi dechreu pregethu. Yr oedd yn bresenol, hefyd, yn Nghymdeithasfa Abergwaun, Chwefror 14, 1770, ac yr oedd Howell Harris ac yntau yn tynu y dorch am y Gymdeithasfa ddyfodol; Harris yn ei gwahodd i Drefecca, a John Evans yn ei gofyn i'r Bala. Haner ddigiai Harris oblegyd fod y cynghorwr o'r Bala yn ei wrthwynebu, a dywedai na fyddai gwrthod ei gais ef am y Gymdeithasfa yn dangos fawr cariad. Ceryddai John Evans ef wrth ateb am osod ei deimlad personol ei hun o flaen daioni ysprydol yr oll o Wynedd. A John Evans a orfu. Rhaid oedd wrth wroldeb dirfawr i wrthwynebu gŵr o ddylanwad Howell Harris, ond yr oedd John Evans yn ddigon galluog i'r gwaith.

Y mae amryw o hen gynghorwyr y Bala, y rhai oeddynt yn cydfyw â John Evans, yn haeddu gair o sylw. Un ydyw Humphrey Edward. Brodor Lanllugan, yn Sir Drefaldwyn, ydoedd; ac yno y cafodd grefydd. Nid annhebyg mai gweinidogaeth Howell Harris a fu yn foddion argyhoeddiad iddo. Aeth yn bur ieuanc i wasanaethu i Bentyrch, gerllaw Llanfaircareinion. Y mae hanesyn am dano yma yn teilyngu ei gofnodi. Yr oedd gan Humphrey Edward geffyl bywiog, yn cael ei gadw ar dir ei feistr. Ryw dro, daeth pregethwr tlawd o'r Deheudir, o'r enw William Harry, heibio. Yr oedd y pregethwr yn hen ac ar ei draed; a chan anamled y lleoedd pregethu yn y dyddiau hyny, yr oedd cerdded o'r naill fan i'r llall bron yn ormod i'w nerth. Wrth ei weled mor flin ac egwan, toddodd calon y llanc, a phenderfynodd ei anrhegu a'r merlyn. Dywedodd ei fwriad wrth ei feistr. "Gwell fyddai i ti adael i mi ei gael," meddai hwnw; "ti gei rywbeth am dano felly." "Na," meddai yntau, "nid ydych chwi yn teithio'r wlad i rybuddio pechaduriaid." Yn foreu tranoeth, cychwynai Humphrey Edward i'r mynydd i gyrchu ei geffyl; ond erbyn cyrhaedd yno, yr oedd niwl tew yn gorchuddio pob peth, fel mai prin y gallai weled llathen o'i flaen. Ofnai y llanc nas gallai ddod o hyd i'r anifail. Ond er ei syndod, dyma y merlyn yn dyfod ato yn gyflym, dan weryru, fel pe buasai arno flys cymhell ei hun i'r gwasanaeth a fwriedid iddo. Cymerodd ei ddal yn rhwydd, a'i arwain o'r mynydd. Rhoddwyd ef i'r pregethwr, yr hwn a'i derbyniodd yn ddiolchgar, gan weled llaw Duw yn yr amgylchiad.

Yn mhen peth amser, symudodd Humphrey i'r Bala, ac yna y dechreuodd bregethu. Bu yn llafurus ac ymdrechgar am flynyddoedd lawer. Teithiai ar ei draed, i rybuddio dynion i ffoi rhag y llid a fydd, ac yr ydym yn ei gael amryw weithiau yn Nghymdeithasfaoedd y Deheudir. Cofir ei fod yn Nghymdeithasfa Castellnewydd-Emlyn fel cyfaill John Evans. Byr oedd ei ddawn; gwladaidd a chartrefol iawn oedd llawer o'i sylwadau; ond byddai yn cynyg at gydwybod ei wrandawyr, a chafodd brofion amlwg fod Duw yn bendithio ei lafur. Pan yn hen, aeth ar daith i Sir Fôn; sylwai y brodyr yn y Cyfarfod Misol ei fod yn llesg, a chydunent na ddylai hynafgwr parchus o'i fath gael teithio o le i le ar draed; ac felly, anrhegasant ef â cheffyl, gan ymddwyn tuag ato ef yn union fel yr ymddygasai yntau yn ei ieuenctyd at William Harry. Ychydig o drefn fyddai ar ei sylwadau; pryn y rhaid dweyd nad arferai ysgrifenu ei bregethau; hwyrach mai wedi myned i'r pwlpud, neu i ben y stôl, ac agor y Beibl, y meddyliai am destun. Meddai y Parch. T. Owen, Wyddgrug: [ref>Y Drysorfa, 1847.</ref>"Y mae pob peth yn deg yn ei amser; yr oedd yr adeg hono yn amser tywyll iawn ar y wlad, pan na wyddai y bobl fawr am athrawiaethau y Beibl; ac yr oedd rhyw gynghor ffwrdd ag ef yn codi oddiar galon gynhes at Iesu Grist, ac awydd achub eneidiau, yn gwneyd y tro yn eithaf. Ac ar amserau, byddai 'yn tywallt,' fel y dywedid, arno ef a'i wrandawyr.'

Y mae rhai o'i sylwadau, o herwydd eu gwreiddiolder a'u pertrwydd, wedi cyrhaedd yr oes hon. Unwaith wrth bregethu, dywedai am rai crefyddwyr eu bod yn debyg i'r ceiliogwydd. "Chwi a gewch weled y ceiliogwydd," meddai, "yn awr yn pori gyda'r defaid yn y cae, a phryd arall yn bwyta o gafn y mochyn. Y mae yn gallu cyd-drigo a'r defaid, ac a'r moch hefyd. Felly am rai dynion crefyddol, y maent yn gallu byw yn mhob man, gyda duwiolion, a chyda yr annuwiolion." Dywedai wrth ddyn unwaith oedd yn adrodd ei brofiad yn y seiat: "Wyddost ti? Am bob wns o ras sydd ynot, y mae ynot dynell o ragrith." Cyffelybai ddyn arall i gwd hops, ei ddau ben wedi eu gwnio, fel nas gallai neb wybod beth oedd ynddo. Byddai yr hen gynghorwyr yn arfer plaendra gonest fel hyn, ac ni fyddai neb yn digio wrthynt. Bu Humphrey Edward farw yn hen ac yn gyflawn o ddyddiau.

Cynghorwr arall a breswyliai yn nghymydogaeth y Bala, oedd William Evans, Fedwarian, llawer mwy poblogaidd a gwlithog ei ddawn na Humphrey Edward. Ceir amryw hanesion am yr erledigaeth a ddyoddefodd efe. Cyhoeddasid ef unwaith i bregethu yn Maesydd-llydain, amaethdy yn nghymydogaeth Penrhyndeudraeth. Pan ddaeth yr amser i'r odfa ddechreu, deallwyd fod yno dorf o erlidwyr wedi dyfod. Cymaint oedd eu cyffro, a'r swn a gadwent, fel y deallwyd nas gellid cynal un math o gyfarfod. Ofnid hefyd iddynt wneyd niwed i'r dodrefn, a thrwy hyny golledu yr hwn oedd yn byw yn y tŷ. Penderfynodd y crefyddwyr fyned i Penybwlch, lle o fewn rhyw haner milltir o bellder. Wrth eu bod yn myned, canlynid hwy gan y terfysgwyr, y rhai a'u goganent yn mhob modd, ac a luchient gerig atynt. Eithr pan ddaethant at glwyd oedd yn derfyn rhwng dau blwyf, penderfynodd un o'r gwrandawyr, dyn cryf o gorph a gwrol o feddwl, y safai yn yr adwy. Cauodd y glwyd, a chan wynebu y werinos, dywedodd: "Pwy bynag o honoch a ddaw trwy y llidiart yma, bydd yn ddyn marw yn y fan." Nid oedd y dorf wedi arfer cael eu gwrthwynebu gan y crefyddwyr; caent lonydd fel rheol i wneuthur iddynt y niwed a fynent; felly gyrodd bygythiad a her y dyn ddychryn arnynt, a throisant yn llechwraidd a dystaw bawb i'w gartref. Dywedir y byddai William Evans yn cyfarwyddo y rhai a drefnent gyfarfod iddo, os byddai yr odfa i gael ei chadw allan, am iddynt ddewis llecyn lle na fyddai cerig i'w taflu atynt; "Ni fyddwn fawr gwaeth," meddai yr hen Gristion dewr, "pe bai tipyn o laid yn cael ei luchio atom."

Byddai dylanwad gweinidogaeth William Evans weithiau yn anorchfygol. Adroddir am ddyn ieuanc, mab y Brynlli Fawr, yr hwn a gawsai ei rybuddio nad elai yn agos at y Methodistiaid, oddigerth i'w lluchio, onide y caffai ei swyno. Tra yr oedd William Evans yn llefaru, daeth yntau at lidiart y cae, o chwilfrydedd i wrando pa beth a ddywedid. Gafaelodd y gwirionedd yn ei gydwybod; teimlai iasau brawychus yn ei gerdded; aeth ei liniau i guro yn nghyd, tybiodd yn ei ddychryn mai gwir oedd y dywediad a glywsai, a dyna ef gwaeddi dros y lle: "Yr wyf wedi fy swyno." Ac felly y trodd allan. Enillodd yr efengyl galon y llanc, a chanlynwr ffyddlon i Fab Duw a fu o hyny allan.

Dro arall, pregethai tan ddraenen yn agos i Pen-y-stryd, Trawsfynydd. Yn y cyfarfod yr oedd gwr ieuanc, o'r enw Edmund Jones, yr hwn eisioes a fwriasai ei goelbren gyda'r brodyr, ac a fu yn dra defnyddiol yn Sir Feirionydd gwedi hyn am flynyddoedd lawer. Yr oedd chwaer Edmund Jones, modd bynag, yn ffyrnig yn erbyn y Methodistiaid, ac yn filain wrth ei brawd, oblegyd ddarfod iddo gefnu ar grefydd ei hynafiaid. Aethai hi i'r eglwys, yn ddefosiynol fel arfer. Wrth ei bod yn dychwelyd, yr oedd ei ffordd yn ei harwain heibio i'r man lle yr oedd William Evans yn pregethu. Gwyddai Edmund hyny, ac aeth yr ochr arall i'r clawdd i weddio am i'r gair ei saethu hi, wrth ei bod yn pasio. Yn mhen ychydig hi a ddaeth at y lle, a gwaeddai: "A ydyw Edmund ni yna? yr hen ffwl." Gweddïai Edmund yntau yn uchel y tu hwnt i'r clawdd: "Saetha hi, Arglwydd, ar gefn ei cheffyl." A gweddi y brawd a orchfygodd; ei saethu a gafodd y ferch, a chyn pen pythefnos yr oedd yn gofyn am ei lle yn y seiat.

Yr ydym wedi cyfeirio yn barod at Evan Moses, a Sion Moses, y ddau frawd o'r Deheudir, gofaint wrth eu galwedigaeth. Evan Moses, fel rheol, a fyddai yn deffro y crefyddwyr i'r odfa cyn dydd. Yn nyddiau ei ieuenctyd yr oedd yn ddyn ofer, masweddgar, ac yn hynod mewn annuwioldeb. Pa bryd a pha le yr argyhoeddwyd ef, nis gwyddom, ond cafodd droedigaeth amlwg. Dywedai John Evans am dano na welodd neb mo hono, wedi iddo ymuno â chrefydd yn ysgafn, nac mewn tymher ddrwg, nac yn arfer gair segur. Nid yn unig yr oedd yn gynghorwr, ond cyfansoddai hymnau, a hyny yn yr efail, rhwng y tân a'r eingion, fel y cyfansoddai Edward Coslett ei bregethau. Fel na chollai na phenill na syniad, byddai y pin, a'r inc, a'r papyr, yn ei ymyl yn wastad pan wrth ei waith. Yr oedd yn nodedig am ei symledd. Cyhoeddodd y byddai iddo bregethu am bump o'r gloch y boreu, bob dydd o'i fywyd, a chadwodd ei air, er na fyddai ei gynulleidfa yn aml ond bychan. Gorphenodd ei yrfa mewn llawenydd.

Y mae lle i gredu fod Sion Moses wedi cael crefydd o flaen ei frawd, a rhagorai arno hefyd mewn dawn a phoblogrwydd. Yr oedd efe yn un o'r ychydig a safodd o blaid Howell Harris yn y Bala pan yr ymosodwyd arno mor greulon, a bernir, oni bai i Sion Moses ac eraill ruthro i wyneb y perygl, a gosod eu heinioes mewn enbydrwydd, y buasent yn curo ei enaid allan o'i gorph. Gwedi i'r ffrwgwd basio, codwyd gwarant, a daliwyd Sion Moses, a'i fam, Catherine Edward, am gynwys Mr. Harris yn eu ty; daliwyd hefyd Robert Griffith Siencyn, a Dafydd Stephen, dau ŵr o blwyf Llanuwchllyn, am wrando, a rhwym wyd hwy oll i ateb i'r chwarter sessiwn y Pasg canlynol. Bu raid i Catherine Edward dalu ugain swllt o ddirwy am ganiatau pregethu yn ei thŷ, a'r tri arall bum' swllt yr un oblegyd bod yno yn wrandawyr.

Defnyddiai Sion Moses, fel llawer o'r pregethwyr yr adeg hono, ryw ddyfais ddiniwed yn aml er mwyn cael hamdden a llonydd i draethu ei genadwri. Aethai unwaith i Lanfair, Dyffryn Clwyd. Ar y ffordd yno cloffodd ei geffyl, am nad oedd y bedol wedi ei gosod yn iawn. Aeth yntau a'r ceffyl at y gof i wella y drwg. Yr oedd torf o erlidwyr wedi ymgasglu yn barod, er mwyn baeddu y llefarwr. Gosodasent yn flaenor arnynt ddyn cryf ac ymladdgar, ond byr o gorpholaeth. Drwgdybiwyd Sion Moses pan ar ei ffordd i'r efail mai efe oedd y pregethwr, ac aeth y blaenor ato, a gofynodd: "Ai chwi yw y Pengrwn a gafodd ei gyhoeddi i fod yma yn pregethu?" "Nid wyf yn meddwl fod fy mhen yn fwy crwn na phen rhywun arall, edrychwch chwi," ebai Sion Moses, gan dynu ei het a gogwyddo ei ben iddo. "Mi doraf fi eich pen os beiddiwch sefyll i fynu, a llefaru wrth y bobl," ebai'r paffiwr. "Pe y gwnaech hyny, byddwn yn dalach na chwi wedin," ebai Sion Moses, yr hwn oedd dros ddwy lath o hyd. Effeithiodd yr ysmaldod ar yr ymladdwr, ac meddai: "Tyred i'r dafarn, i gael peint efo'n gilydd." I'r dafarn yr aeth y ddau, oblegyd nid oedd dirwestiaeth wedi ei geni yr adeg hono, ac ni ystyrid yfed diod feddwol yn bechod, ond cadw o fewn terfynau cymedroldeb. Pan uwchben y gwydriad cwrw, trodd y pregethwr at y paffiwr, ac mewn dull mwyn a thawel, gofynodd iddo: "Mewn difrif, pa fantais a enillwch wrth ymosod ar ŵr fel myfi? Ni chewch anrhydedd o guro dyn diamddiffyn, ac ni wna y wlad ond eich gwawdio." Ebai yr erlidiwr: "Myn y gŵr drwg, ni chaiff neb gyffwrdd â chwi. Pregethwch faint a fynoch, chwi a gewch lonyddwch." Cadwodd y dyn ei air, a phregethodd Sion Moses gyda hwyl. Y mae coffadwriaeth y ddau ôf yn aroglu yn beraidd yn y yn y Bala a'r cymydogaethau hyd y dydd hwn.

Ond i ddychwelyd at John Evans. Nid llawer o hanes ei lafur gyda'r efengyl sydd ar gael; ni chofnodir odfaeon grymus a gafodd; gorphwysa ei enwogrwydd presenol yn benaf ar ei ddywediadau synwyrlawn, yn y rhai y cyfunir mewn modd nodedig o hapus, graffder sylw, a ffraethineb. Difynwn rai o honynt, allan o lawer sydd ar gael. Gofynai ei wraig iddo unwaith, yr hon, yn ei ffordd ei hun, oedd lawn mor hynod ag yntau, ac a gadwai esboniad Caryl ar Job ar y bwrdd yn agored o'i blaen pan yn tylino bara: "A ydych yn meddwl, John, y byddwn yn adnabod ein gilydd yn y nefoedd?" "Byddwn, yn sicr," ebai yntau. "A ydych yn meddwl y byddwn yn ffolach yno nag yma?" Ond wedi dwysfyfyrio am enyd, ychwanegai "Ond, Marged, gallwn fod yn ymyl ein gilydd am fil o flynyddoedd, heb weled ein gilydd, gan fel y bydd gogoniant a rhyfeddodau person y Gwaredwr mawr wedi myned a'n bryd." Ymddengys fod Margaret yn hoff o ddadleu, ac ystyriai John Evans hi yn tueddu weithiau at fod yn eithafol. Ryw ddiwrnod, daeth hi i'r tŷ, a dyn o'r gymydogaeth o gyffelyb yspryd a hithau. Yn y man, trodd yr ymddiddan ar yr angenrheidrwydd o gadw canol y ffordd. Clywai John Evans y siarad, a chaffai dipyn o ddifyrwch wrth wrando ar y ddau yn canmol rhinwedd, am ba un nad oedd yr un o honynt yn nodedig, ac meddai yn mhen ychydig "Gwir mai canol y ffordd yw y goreu; ond mi gredaf na bydd yr un o honoch chwi yn hwy ar y canol nag y rhaid i chwi fod wrth groesi o un ochr i'r llall."

Dengys yr hanesyn canlynol nid yn unig graffder ei sylw, ond tynerwch ei yspryd yn ogystal. Arosodd llanc ieuanc, na ystyrid yn meddu dogn cyflawn o synwyr cyffredin, ar ol yn seiat y Bala. Ei enw oedd Abram Jones, a phreswyliai yn y Ceunant, ar Waun y Bala. Gan na edrychid arno fel yn llawn llathen, cafodd fod yn y gymdeithas amryw weithiau heb i neb wneyd sylw o hono. Eithr wrth ei weled yn parhau i ddyfod, cyfododd un o'r blaenoriaid, a dywedodd: "Nis gwn beth i feddwl am Abram yma; y mae yn dyfod atom er ys troion bellach." Eithr cyn iddo fyned yn mlaen yn mhellach, ac archolli teimlad y llanc diniwed, rhwystrodd John Evans ef, gan ddweyd ar ei draws: "Amser a ddengys beth yw Abram." Profodd y canlyniad fod John Evans yn ei le. Bu "Abram o'r Ceunant" yn grefyddwr gloyw am driugain mlynedd; daeth yn adnabyddus i holl Fethodistiaid Meirionydd fel un amlycach am gynhesrwydd calon at Iesu Grist, nag am wiriondeb ei ben; a thrwy ymarweddiad difrycheulyd profodd ei fod yn Israeliad yn wir. Y noson cyn ei farw dywedai Abram Jones: "Bum yn nhŷ y Gwr—ei hoff enw am Iesu Grist—dros driugain mlynedd, ond ni ddywedodd y Gŵr beth a fwriadai wneyd â mi. Wasgais inau ddim arno am ddweyd; yr oeddwn yn cael pleser yn ei wasanaeth, a rhyw nerth i lynu trwy yr holl amser; ond yrwan, yn nghorph y flwyddyn yma, y mae y Gwr wedi dweyd yn blaen wrthyf, nad yw am ddamnio Abram Jones."

Y mae genym engrhaifft arall o dynerwch ei yspryd. Gwedi pregeth o'i eiddo yn Llanuwchllyn, cynygiodd gwraig ei hun i'r seiat, yr hon yn flaenorol a arweiniasai fywyd anfucheddol. Wrth ei holi, cafwyd ei bod yn dra anwybodus am drefn yr efengyl. Aeth yn gwestiwn beth i'w wneyd â hi, ei derbyn ar brawf neu beidio. Wedi i amryw ddweyd eu meddyliau, a phawb yn dangos petrusder, gofynwyd barn John Evans. Meddai yntau: "Wel, y cam cyntaf tuag at fyned trwy y porth cyfyng yw troi y wyneb ato." A'r ymadrodd hwn, gwnaeth y ffordd yn rhydd i'r wraig, yr hon oedd mewn trallod meddwl dirfawr, i gael aros yn nghymdeithas y saint.

Pan yr oedd John Evans mewn gwth o oedran, a'i glyw wedi myned yn ddrwg mewn canlyniad, cynhelid Cymdeithasfa yn y Bala. Y llywydd oedd Mr. Charles, a phwnc y seiat neillduol oedd ffydd. Yr oedd amryw o'r colofnau yn bresenol, megys Jones, Llangan, Nathaniel Rowland, ac eraill. Datgenid amryw farnau gyda golwg ar y gras oedd dan sylw; dywedai rhai mai goleuni yn yr enaid yw gwir ffydd; mynai eraill mai perswadiad y meddwl i gymeryd Duw ar ei air ydyw. Y diweddaf i siarad oedd Dafydd Jones, Llangan, a dywedai ef mai mentro yw ffydd, mentro'r bywyd ar Fab Duw am byth. Cyn cloi y pwnc i fynu, trodd Mr. Charles at John Evans, yr hwn a eisteddai dan y pwlpud, a gofynai a oedd efe yn clywed. Atebai yntau nad oedd yn deall nemawr. "Siarad am ffydd y maent," ebai Mr. Charles. "Efallai yn siwr," meddai John Evans yn ol;" "beth y maent yn ddweyd yw gwir ffydd?" "O, y mae gwahanol farnau yma; y peth diweddaf a ddywedwyd yw mai menter ydyw; mentro yr enaid ar Grist." "Y mae y dywediad yn gywir," ebai yr hen batriarch; "menter ydyw ffydd, ond cofiwch hyny, menter a'i llygad yn ei phen ydyw. Y mae ffydd yn mentro, ac y mae rhyfyg yn mentro yn ogystal; ond cyn y gwnaiff ffydd fentro, rhaid iddi gael sail, sef Gair Duw."

Y mae amryw o'i ddywediadau yn dal cysylltiad a'r Parchedig Thomas Charles. Un dydd Sadwrn, yr oedd yn ddiwrnod garw anarferol, ac yr oedd cyhoeddiad Mr. Charles dranoeth mewn lle bychan yn nghanol mynyddoedd Meirionydd. Cryfhau a wnelai yr ystorm; chwythai y gwynt yr eirwlaw oer i lawr o fynydd y Berwyn, nes yr oedd braidd yn beryglus myned allan o dŷ. Petrusai Mr. Charles beth i'w wneyd, mentro i'w gyhoeddiad trwy y tywydd neu beidio. Yn ei betrusder anfonodd y forwyn i dŷ yr hen John Evans, yr hwn oedd gerllaw, i ofyn cynghor. Meddai yntau yn ol : "Gofynwch i Mr. Charles pa un ai meistr ai gwas ydyw. Os meistr, gall wneyd fel yr ewyllysio; y mae ei ddewis ar ei law. Ond os gwas, rhaid iddo ufuddhau i'r alwad arno.' Penderfynodd hyn y mater; ac er mor enbyd a pheryglus yr ystorm, i'w gyhoeddiad yr aeth Mr. Charles.

Pan yr oedd Mr. Charles yn sal, ac yn dyoddef yn drwm dan law y meddygon, o herwydd tori ymaith ran o fawd ei law, cyrchai John Evans i'w weled bob dydd. Un diwrnod, yr oedd yspryd y claf yn dra isel; darganfyddasai y meddyg fod y llygredigaeth wedi cyrhaedd yn mhellach na'r rhan a gawsai ei thori i ffwrdd, ac y byddai raid dadgymalu y gweddill o'r bawd. Gofynodd yn dra sobr i'w hen gyfaill "John Evans, beth ydych yn feddwl a wna yr Arglwydd o honof?" "Nis gwn i yn wir," meddai yntau, "beth a wna efe o honoch; ond mi a wn hyn, Syr, na wna ef ddim cam â chwi, canys nid yw yr Arglwydd yn gweled yn dda wneuthur cam â gŵr yn ei fater." Cydiodd y dywediad yn meddwl Mr. Charles, a thystiai gwedi hyny wrth y Parch. John Parry, o Gaer, i'r geiriau fforddio cysur cryf iddo pan dan gyllill llymion y meddygon. Wrth ymweled a'i gyfaill claf, ni fyddai John Evans un amser yn ymadael heb ddarllen a gweddïo. Ac yn ddieithriad, dewisai i'w darllen gyfran o'r Beibl a fyddai yn cyfeirio at ddyoddefiadau yr Arglwydd Iesu. Sylwodd Mr. Charles ar y peth, a gofynodd iddo y rheswm am hyny "oblegyd mi wn," meddai, "fod genych ryw amcan mewn golwg." "Oes, Syr," ebai yntau yn ol, "y mae genyf amcan mewn golwg. Nid oes gwir ddyddanwch yn tarddu o un man, ond o ddyoddefiadau Crist; ac nid oes dim mor debyg o'n dwyn i ddyoddef yn amyneddgar a chydnabyddiaeth agos a'i boenau ef, yr hwn a ddyoddefodd gyfryw ddywedyd yn ei erbyn gan bechaduriaid."

Meddai Mr. Charles ymddiried diderfyn yn ei farn. Mewn Cyfarfod Misol, unwaith, ymddiddenid â nifer o wŷr ieuainc, gyda golwg ar eu derbyniad i'r weinidogaeth. Wedi i amryw siarad, trodd Mr. Charles at John Evans, gan ofyn a oedd gair ar ei feddwl i'w ddweyd. Cododd yntau ar ei draed, a dywedodd: "Oes, y mae genyf un cwestiwn i'w ofyn iddynt. Beth yw eich amcan wrth bregethu? At ba beth yr ydych yn anelu yn mhob pregeth? " Meddai Mr. Charles yn ol : "Efallai mai gwell i chwi ddweyd at beth y dylent amcanu; byddai hyny yn hyfforddiant i ni oll." "Wel," ebai yntau, "chwi a ddylech yn mlaenaf amcanu at oleuo deall eich gwrandawyr; nid oes modd cael gwir leshad wrth wrando, tra y byddo y deall yn dywyll. Yn nesaf, dylech amcanu deffro cydwybodau euog a chysglyd. Anelwch y saethau sydd i'w cael yn ngeiriau y Goruchaf at eu calonau, i edrych a wel Duw yn dda fendithio hyn er eu cyffroi, a pheri iddynt waeddi, wedi eu dwysbigo, fel y dorf ar ddydd y Pentecost, Ha, wyr frodyr, beth a wnawn ni?' Yn nesaf, amcenwch yn mhob pregeth at enill y serchiadau, a dwyn y bobl i garu Crist, a'r trysorau sydd yn yr efengyl. Ac yn olaf, cofiwch amcanu ar i'ch holl bregethau fod yn anogaethol i sancteiddrwydd buchedd." Yn sicr, byddai yn anhawdd cael gwell crynodeb o'r amcanion a ddylai fod yn llywodraethu pregethwyr yr efengyl yn eu gweinidogaeth.

Dro arall, mewn Cymdeithasfa yn y Bala, yn seiat neillduol y pregethwyr, aeth ddadl beth yw y cymhwysder arbenig at y weinidogaeth ag y mae Duw yn roddi i'w wir genhadon? Ai rhagor o'r gras cyffredin, a gyfrenir gan Dduw Dduw mewn rhan i bob Cristion; ynte, a ydyw yn rhoddi yspryd y weinidogaeth fel cymhwysder ar ei ben ei hun? Gwedi i amryw siarad, gofynwyd barn John Evans. Meddai yntau: "Y mae yn rhoddi pob un o'r ddau. Y mae yn rhoddi ychwaneg o ras nag i Gristion cyffredin, ac y mae yn rhoddi yspryd a dawn y weinidogaeth yn ogystal."

Mewn Cymdeithasfa yn y Deheudir, unwaith, trechodd hyd yn nod Jones, Llangan, yr hwn a feddai un o'r tafodau mwyaf llithrig a fu erioed yn Nghymru. Cwyno yr oedd John Evans, nad oedd pregethwyr y Dê ar ei teithiau yn ymweled a'r ddeadell fechan dlawd a ymgynullai yn y Graig, nid yn nepell o Fachynlleth. Atebai Jones, Llangan: "Wel, John Evans, does neb o'r brodyr yno yn dod un amser i'r Gymdeithasfa, i ddywedyd, 'Dewch."" Meddai John Evans yn ol : Wel, Syr, a ydych wedi anghofio ddarfod dywedyd wrthych, Ewch?'" Bu raid i'r gwr o Langan, er ffraethed ydoedd, eistedd i lawr wedi ei lwyr orchfygu; a gwnaeth hyny gyda gwên siriol yn chwareu ar ei wyneb.

Mewn Cymdeithasfa arall, y mater â pha un yr ymdrinid oedd etholedigaeth. Gan nad oedd John Evans yn clywed, gofynodd beth oedd testun yr ymddiddan. Atebwyd, mai etholedigaeth gras. Tybiai yntau, fel yr ymddengys, nad oedd fawr i'w enill wrth ymdrin â phwnc mor ddwfn, ac mai buddiol fyddai siarad ar ryw athrawiaeth fwy ymarferol, a gofynodd drachefn: "A oes yma rywun yn petruso gyda golwg ar y gwirionedd am etholedigaeth? Os nad oes, y mae pethau eraill lawn mor angenrheidiol i'w trin, a phethau y gellir eu profi yn gystal a'u gwybod." Cyfododd John Jones, Edeyrn, ar ei draed, gŵr oedd yn gyforiog o ddawn a ffraethineb, yn ogystal a phregethwr da, a dywedai: "Amaethwr ydwyf fi, John Evans; a phe y baech yn fy ngweled mewn un cae arbenig, ni fyddai hyny yn profi nad oes genyf gaeau eraill." "Gwir," ebai yntau yn ol; "ond mi a allwn yn ddyogel gasglu hyny pe y gwelwn chwi yn yr un cae o hyd." Awgryma yr atebiad fod y pwnc o etholedigaeth yn destun ymdriniaeth yn bur aml, ac yn marn John Evans, fod athrawiaethau eraill, lawn mor bwysig, yn cael eu hesgeuluso.

Yr oedd gwroldeb ei yspryd yn gyfartal i'w ffraethineb, a chadwodd hyny hyd derfyn ei oes. Mewn cynhadledd yn Nghymdeithasfa y Bala, pan yr oedd wedi myned yn floesg, ac yn anhawdd ei ddeall, oblegyd henaint, wrth lefaru troiai ei wyneb at y pregethwyr oeddynt yn eistedd dan y pwlpud. Cyfododd John Elias, gan ei gyfarch: "Trowch eich wyneb at y bobl, John Evans; dywedwch wrth y bobl." Edrychodd yntau ar Mr. Elias, gyda ei olwg lym, dreiddiol, a dywedodd gydag awdurdod: "Beth! Ai nid pobl ydych chwi?" A da gan y gŵr mawr hwnw oedd cael eistedd yn ol, ac ymguddio dan y pwlpud.

Unwaith aeth i Gaer, a chyfarfu Crynwr ag ef ar yr heol. Sylwai hwnw ar ei wisgiad dirodres, ei agweddiad syml, a'i gerddediad pwyllog, a chredodd ei fod yn perthyn i'r un blaid grefyddol ag ef ei hun. Aeth ato, a chan osod ei law ar ei ysgwydd, dywedodd: "Y mae yr Yspryd yn dywedyd wrthyf dy fod yn un o honom ni.' Atebai John Evans ar darawiad: "Os yspryd a ddywedodd hyny wrthyt, yspryd celwyddog ydyw." Aeth y Crynwr ymaith, wedi cael yr ergyd trymaf a allai gael.

Braidd nad oedd John Evans yn rhagori yn y seiat yn hytrach nag yn y pwlpud. Ei arfer oedd taflu gofyniad i hwn, a gofyniad i'r llall, megys: "Pa fodd yr ydych yn teimlo at bechod?" "A ydych chwi yn newynog ac yn sychedig am gyfiawnder?" "A ydych chwi yn caru yr Arglwydd Iesu?' Os dywedai yr atebydd ei fod yn gobeithio hyny, dywedai yntau yn ol: "Edrychwch ati eich bod yn gywir," a throai at y nesaf. Byddai weithiau yn cael atebion tra digrifol, ond ni fyddai dim yn ei daflu ef o'i le, nac yn cythruddo ei yspryd. Un tro, dywedai hen frawd hynod o syml a diniwed wrtho, o'r enw Rowlant Robert, y Pandy: "John Evans, yr wyf yn credu fod pechod wedi gwneyd lles mawr i mi." "Beth!" ebai yntau; "pechod wedi gwneyd daioni ichwi? Na, yn sicr, ni wnaeth pechod ddaioni i neb erioed." Meddai yr hen Rowlant yn ol "Do, yn wir, John Evans; fe wnaeth ddaioni i mi; y mae wedi fy ngyru i weddio llawer iawn." "Yr ydych yn camgymeryd yn fawr, Rowlant Robert," ebai yntau; "nid yw pechod yn gwneyd dim ond caledu. Os oes rhywbeth yn eich gyru i weddio yn ei erbyn, nid o bechod ei hun y mae hwnw yn tarddu; o'r nefoedd y mae yn dyfod."

Yr oedd yn gwbl argyhoeddedig fod meithder mewn cyfarfodydd crefyddol yn anfuddiol, a safai yn erbyn y cyfryw beth yn benderfynol. Ei air yn wastad oedd: "Ychydig yn fyr, ac i bwrpas." Aml y dywedai: "Pan fyddo y bobl yn dechreu blino y mae yr addoli yn darfod." Yr oedd lawn mor zêlog a hyny dros ddechreu yr odfaeon mewn pryd. Un tro, rhoddodd wers ar hyn i drigolion y Bala, nad anghofiasant tra y bu efe byw. Yr oedd i bregethu yn y capel nos Wener, ac aeth yntau yno at yr eiliad. Rhyw ddau neu dri oedd wedi dyfod yn nghyd, ond dechreuodd ef ar unwaith, ac nid hir y bu cyn dwyn y gwasanaeth i derfyn. Yna, clodd y drws, a gosododd yr agoriad yn ei logell. Ar ei ffordd i'r tŷ, cyfarfyddodd ag amryw yn myned at y capel, y rhai a ofynent iddo: "I ba le yr ewch chwi, John Evans?" "Mi af adref," ebai yntau. "Ai nid ydych yn dyfod i'r odfa?' mae yr odfa trosodd," ebai John Evans, yn bur swrth. Rhoddodd y tro derfyn ar anmhrydlondeb mewn dyfod i foddion gras, yn y Bala, yn ystod ei ddyddiau ef.

Mor onest ydoedd yn ei fasnach, fel y daeth ei gywirdeb yn ddiareb gwlad. Prynodd geffyl unwaith gan gymydog, a thalodd am dano. Yn mhen ychydig wedi hyny, canmolai cymydog arall y fargen, a dywedai fod y ceffyl yn werth punt yn fwy nag oedd efe wedi roddi am dano."Os felly," ebai yntau, "y mae yn gymhwys i'r gŵr gael y bunt," a danfonodd hi iddo yn ddioed. Dro arall, anfonwyd bachgenyn o'r wlad gyda gwer iddo. "Y mae fy nhad yn dweyd," ebai y plentyn, "fod yn rhaid iddo gael hyn a hyn y pwys am dano." "Wel, fy machgen i," meddai John Evans wrtho, "yr wyf yn rhoddi ychwaneg na hyny am y gwer heddyw; caiff dy dad yn ol hyn a hyn." Nid rhyfedd fod ei barch yn y Bala yn fawr, a bod gan yr holl wlad ymddiried diderfyn ynddo.

Yr ydym wedi awgrymu eisioes nad oedd yn boblogaidd iawn parthed doniau, er fod y rhai a roddent fwy o bwys ar sylwedd nag ar swn yn ei fawr hoffi; ond yr oedd yn drefniedydd tra rhagorol. Wrth fod y diwygiad Methodistaidd yn enill tir, a'r gwrandawyr yn lliosogi, daeth galw mawr am adeiladu capelau yn ngwahanol ranau y wlad. Eithr nid oedd yr un cynllun tuag at hyny, nac ond ychydig arian i dalu am danynt. Cynygiodd yntau fod pob aelod yn cyfranu dimai yn yr wythnos, sef chwech a dimai y chwarter, tuag at adeiladu addoldai yn y manau yr oedd angen am danynt. Cymeradwywyd ei gynygiad mewn Cymdeithasfa yn Sir Gaernarfon. "Hyn," meddai ei fywgraffydd, sef y Parch. Simon Llwyd, "oedd dechreuad y casgliad chwarterol." Daeth y casgliad chwarterol, gwedi hyn, yn sefydliad pwysig yn y Gogledd, a diau iddo fod yn foddion i gael capel mewn aml i ardal na chaffai y fraint oni bai hyny." Cafodd John Evans oes faith; bu fyw hyd ymyl ei 94 flwydd, a bu mewn cysylltiad a'r Methodistiaid am yn agos i ddeuddeng-mlynedd-a-thriugain. Gwelodd y Cyfundeb yn cychwyn yn eiddil, yn arbenig yn Ngwynedd, y crefyddwyr yn ychydig mewn rhif, ac yn ddirmygedig ac erlidiedig gan fonedd a gwreng. Gwelodd yr anghydfod poenus yn cychwyn rhwng Rowland a Harris; nid anhebyg ddarfod iddo ef gymeryd rhan yn y ddadl, oblegyd yr oedd yn ŵr rhy ddylanwadol i gael ei adael allan o'r cyfrif, ac y mae bron yn sicr mai wrth Rowland yr ymlynodd. Gwelodd, wedi nos faith a rhewllyd, pan yr oedd crefydd fel pe ar ddarfod o'r tir, wawr diwygiad, blaenffrwyth aml i ddiwygiad a ddilynodd, yn tori ar Gymru, gyda dyfodiad allan emynau anfarwol Williams, Pantycelyn. Gwelodd y saint yn dawnsio mewn gorfoledd yn nhref y Bala, ac yn nghymoedd culion Meirionydd; bu yn
COPI O'R ARGRAFF AR Y GAREG FEDD, YN MYNWENT LLANYCIL.
gwrando ar eu caniadau, ac yn clustfeinio ar eu moliant. Fel rheol, nid oedd ef yn bleidiol i eithafion mewn brwdaniaeth grefyddol; ofnai rhag i dân dyeithr gael ei ddwyn i mewn i gysegr Duw; ond y mae yn sicr fod y diwygiadau Cymreig, y rhai mor eglur oeddynt yn gynyrch uniongyrchol Yspryd Duw, yn llanw ei galon â diolchgarwch. Gwelodd yr ymryson a fu yn mysg y Methodistiaid yn adeg helynt Peter Williams; gan i'r mater fod yn destun ymdriniaeth yn Nghymdeithasfa y Bala, nis gallai ysgoi gymeryd rhyw ran yn y ddadl. Gwelodd y Parch. Thomas Charles yn ymuno a'r Methodistiaid; canfyddodd ef, a diau ei fod yn ŵr o gynghor iddo yn sefydlu yr Ysgol Sabbothol, a thrwy ei ddylanwad yn rhoddi bod i Gymdeithas y Beiblau. Diau iddo gymeryd rhan yn nadl yr ordeiniad, a hawdd genym gredu mai ei farn ef mewn rhan a ddylanwadodd ar Mr. Charles, fel ag i'w wneyd yn bleidiol i gorph y Methodistiaid neillduo pregethwyr o'u mysg eu hunain i gyflawn waith y weinidogaeth. Y mae yn sicr genym, gan mor uchel ei barch yn yr eglwysi, y buasai efe yn arbenig yn un o'r cyfryw ag a neillduid i'r holl waith, oni bai fod henaint gwedi ei orddiwes, fel na fuasai tywallt y corn olew ar ei ben o unrhyw ddefnydd, oblegyd yr oedd yn bedwar-ugain-ac-wyth oed ar y pryd. Ond er na chafodd ei neillduo, rhoddwyd iddo le blaenllaw yn nghyfarfod yr ordeiniad, yr hwn a gynhaliwyd yn y Bala, Mehefin 19, 1811. Fel hyn y ceir yr hanes yn y Cyffes Ffydd: "Yn gyntaf, y gŵr hynaf a pharchedicaf yn y Corph, John Evans, o'r Bala, a ddarllenodd 1 Tim. iii., ac wrth ei darllen, a wnaeth ychydig sylwadau addas a syml ar y cyneddfau gofynol yn ngweinidogion yr efengyl yn y benod hono; ac
YR HYBARCH JOHN EVANS, O'R BALA.
[Cymerwyd y darlun hwn o hono yn 1812, pan yr oedd yn 89 oed.]


EGLWYS A MYNWENT LLANYCIL, AR LAN LLYN TEGID.
[Lle claddedigaeth amryw o Enogion Methodistaidd, megys John Evans, T. Charles, Simon Lloyd, Dr. Lewis Edwards, Dr. J. Parry, Dafydd Cadwaladr, &c., &c.]

wedi iddo ddarfod darllen, gweddïodd ar yr achos, yn syml ac yn addas iawn." Prawf yr adroddiad mor uchel oedd y lle a feddai yn syniadau goreugwyr y Cyfundeb. Cafodd John Evans oes faith. Gwelodd y bobl a ddirmygid yn lliosogi, yn dwyn eu gwahanol ffurfiau o weithgarwch i drefn, ac yn dyfod yn barchus yn ngolwg eu herlidwyr gynt, gan gael eu cydnabod fel y gallu crefyddol cryfaf yn y Dywysogaeth. Braidd nad ydyw cysylltiad John Evans a'r Cyfundeb yn ymestyn dros haner hyd ei oes, o'i ddechreuad hyd y dydd hwn. Gan iddo gael oes mor faith, a'i fod yn ŵr mor sylwgar, nis gallesid cael ei gyffelyb i adrodd hanes y diwygiad Methodistaidd, cyflwr y wlad cyn i'r diwygiad dori allan, a'r dylanwad a gafodd er newid moes, a chrefyddoli y Cymry. Da genym iddo wneyd llawer yn y cyfeiriad hwn, trwy ei adroddiad i Mr. Charles, yr hwn yntau a'i cyhoeddodd yn y Drysorfa Ysprydol, ar ffurf ymddiddan rhwng Senex a Scrutator. Llafuriodd yn ddiwyd gyda ei alwedigaeth nes yr oedd dros 90 mlwydd oed, a chwedi iddo fethu, cafodd ei gynal yn barchus gan y brodyr yn Sir Feirionydd. Yn ei flynyddoedd olaf yr oedd ei glyw mor drwm, fel na ddeallai air o'r hyn a leferid yn y capel; ond rhoddai ei bresenoldeb gyda'r cysondeb mwyaf yn yr addoliad cyhoeddus; a phan ofynid iddo y rheswm paham, dywedai: "Yr wyf yn myned i'r cysegr i addoli yr Arglwydd." Ei afiechyd olaf oedd gwywdra, a lleithder yr ymenydd. Parai hyn beth dyryswch. ar ei synwyr ar amserau. Ond rywsut, yr oedd ei synwyr crefyddol heb ei amharu hyd y diwedd. Aeth ei gyfeillion i ymweled ag ef un tro, a chawsant ef mewn cryn helbul meddwl rhag na wnelai yr Arglwydd Iesu ei dderbyn. Crybwyllodd un o honynt wrtho eiriau y Gwaredwr: "Y neb a ddel ataf fi, nis bwriaf ef allan ddim." Cydiodd yn y geiriau; ac meddai, gyda dwylaw plethedig, a'r dagrau yn llenwi ei lygaid: "Beth a wna pechadur tlawd o'm bath i yn well nag ymaflyd yn yr addewid werthfawr yna?' Dro arall, gofynai cyfaill iddo pa fodd yr oedd yn teimlo. Atebai yntau: "Yr wyf yn bur ddiboen, ac yr wyf yn cael amser da yn fy saldra; er hyny, yr wyf yn meddwl fod angau yn agos, ond y mae fy amser yn llaw yr Arglwydd. Y mae yn well arnaf fi nag oedd ar Iesu o Nazareth. Llawer diwrnod blin, a llawer noswaith flin, a gafodd efe; ond yr wyf fi yn cael amser tirion iawn. Llawer loes chwerw a gafodd yr Iesu yn nyddiau ei gnawd; ond myfi, er haeddu gwialenodau, sydd yn cael trugareddau.' Bu farw mewn tangnefedd, Awst 12, 1817, a rhoddwyd ef i orwedd yn mynwent Llanycil, ar lan llyn Tegid.

HANES Y DARLUNIAU.

Ymddengys nad oes ond un darlun o'r Hybarch John Evans, o'r Bala, mewn bod, sef yr un a gymerwyd o hono gan Mr. Hugh Hughes, yr arlunydd o Gaernarfon, yn y flwyddyn 1812. Darfu i Mr. Hughes gymeryd darluniau o amryw o brif bregethwyr ei ddydd, heblaw un John Evans, megys Robert Dafydd, Brynengan; John Elias, o Fôn, ac eraill. Darlun ar ganfas ydyw, wedi ei arlunio mewn olew, ac y mae yn bresenol mewn cadwraeth ofalus yn Athrofa y Bala. Bu ar goll am flynyddau lawer, ac i'r Parchedig Hugh Williams, M.A., o'r Bala, yr ydym yn ddyledus am ei ddarganfod, a'i adfer. Yn nhreigliad amser disgynodd y darlun i ddwylaw pobl yn y Bala, nad oeddynt yn gwybod gwerth yr hyn oedd yn eu meddiant. Gwnaed ef ddwy flynedd cyn marwolaeth Mr. Charles; a phan gymerir i ystyriaeth fod yr arlunydd yn fab-yn-nghyfraith i'r Parch. David Charles, Caerfyrddin, nid ymddengys yn anhebygol fod gan Mr. Charles, o'r Bala, law yn y gwaith. Dichon yr amcanai gael y darlun wedi ei gerfio ar ddur, a'i osod yn Y Drysorfa, sef y cylchgrawn a olygid ganddo. Os felly, rhwystrwyd ef gan angau i ddwyn ei amcan i ben. Bu farw Mr. Charles yn 1814, ac yr oedd Y Drysorfa wedi peidio ymddangos flwyddyn cyn i'r amgylchiad hwnw gymeryd lle. Pan ymddangosodd Y Drysorfa eilwaith, sef yn y flwyddyn 1819, dan olygiad y Parch. Simon Lloyd, cawn ddarlun ynddi o John Evans. Copi o'r darlun a geir yno, ydyw yr un sydd yn addurno y gwaith hwn. Y mae yn gerfiedig dan y darlun yn Y Drysorfa y geiriau canlynol:—"MR. JOHN EVANS, O'R BALA. Rhodd H. Hughes i ddarllenwyr y Drysorfa."


Nodiadau

[golygu]