Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (tud-42)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (tud-41) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Howell Harris (tud-43)

taranai yn ofnadwy yn erbyn dawnsfeydd cynulliadau llygredig, puteindra, a meddwdod; merwinai clustiau y gwŷr mawr wrth glywed, ac anfonasant rywun i chwareu'r drwm, fel y boddid ei lais; dechreuodd y werinos hefyd luchio cerig, ac afalau, a llaid. Ond yn mlaen yr aeth gweision Crist, yn gorchfygu ac i orchfygu. Aethant oddiyno trwy ran o Sir Gaerloyw; yna dychwelasant i Drefecca. Hydref 22, aethant i Hay; ymosodwyd arnynt yn enbyd yno; dihangodd Harris yn ddianaf, ond tarawodd rhywun Seward druan a chareg ar ei ben, fel y bu farw cyn pen nemawr ddyddiau. Efe, yn ddiau, oedd merthyr cyntaf Methodistiaeth.

Tua dechreu y flwyddyn 1741 y mae Howell Harris yn ymweled a'r Gogledd yr ail waith. Aeth ar y tro hwn ar wahoddiad un Robert Griffith, o Bryn Foyno, yr hwn a'i taer gymhellai, oblegyd i lawer gael eu hargyhoeddi trwyddo pan fu yn flaenorol yn Llanuwchllyn. Yn ddiegwan o ffydd y mae yntau yn myned, er llid y gelyn a bygythion yr offeiriaid. Ymdaenodd y newydd am ei ddyfodiad fel tân gwyllt trwy y wlad, a gwnaed parotoadau eang i'w rwystro i bregethu, ac i'w faeddu. Wrth agoshau at y Bala, ar lan y llyn, goddiweddwyd ef gan offeiriad y plwyf. Rhybuddiodd yr offeiriad ef, os oedd am ddianc a'i fywyd yn ysglyfaeth, am beidio myned i'r dref. Atebai yntau mai ymdeimlad a'i ddyledswydd oedd yn ei yru, nas gallai droi yn ei ol, ac mai ei unig amcan oedd mynegu ffordd iachawdwriaeth i'r bobl, a hyny heb roddi achos tramgwydd i neb. Cyffrodd yr off'eiriad, ac yn ei ddig cyfododd ei ffon, gan fygwth ei daro. Ateb yn fwynaidd a wnaeth Harris, a chafodd lonydd i fyned yn ei flaen. Erbyn cyrhaedd y Bala, lle yr oedd ychydig ddisgybhon yn disgwyl am dano, cafodd y dref yn llawn cythrwfl, y werinos wedi ymgynull ynghyd, ac yn tyngu y gwnaent ei ladd. Blaenor y gad oedd yr offeiriad, yr hwn oedd wedi parotoi baril o gwrw, gan ei gosod yn gyfleus ar y gareg farch yn ymyl y tafarndy, er mwyn gwneyd y bobl yn fwy ffyrnig trwy yfed. Dechreuodd Harris lefaru ar yr heol, ond llefodd yr offeiriad yn groch ar i'r. rhai a garent yr Eglwys ddyfod i'w hamddiffyn. Ar hyn dyma lu, wedi yfed yn helaeth, ac wedi ymddiosg hyd at eu crysau, yn dyfod yn mlaen yn fygythiol, gyda phastynau yn eu dwylaw. Yr oedd fel pe buasai uffern wedi cael ei gollwng yn rhydd. Barnwyd mai ofer ceisio parhau yr odfa ar yr heol, ac awd i dŷ preifat yn nghanol y dref, lle y gwnaeth Harris ymgais i lefaru oddiar y geiriau: "Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid i?" Yn y cyfamser yr oedd y werinos yn yfed cynwys y faril, ac yn cael eu hanog gan y Person i ymosod ar y tŷ. Ni chafodd ymadroddi ond ychydig. Torwyd y ffenestri yn ganddryll, daeth rhai o'r terfysgwyr i mewn, gan ruo fel bwystfilod. Ond meddianai gweinidog Crist ei enaid mewn amynedd, ni ddeuai dychryn yn agos ato, a theimlai alwad arno i fyned yn ei flaen; a phan ar gais taer cyfeillion y rhodd i fynu, profai fel pe bai yr Arglwydd wedi ei adael. Ond er tewi ni chaffai lonydd. Yr oedd y terfysgwyr wedi penderfynu ei gael allan. Dringodd rhai i'r tô, gan fygwth tynu y ty i lawr; ymwthiai eraill i mewn trwy y ffenestri drylliedig. Aflan y bu raid iddo ef a rhai o'i wrandawyr fyned, fel defaid i safnau y cwn. Gwnaeth ei gyfeillion eu goreu drosto, ond ei amddiffyn ni fedrent. Ymosodai y dorf fileinig, cynwysedig o'r ddau ryw, arno yn y modd mwyaf creulon; y benywod a'i trybaeddent a thom yr heolydd, y gwŷr a'i curent a'u dyrnau, ac a'u pastynau, nes yr oedd ei waed yn cochi yr heol. Dilynwyd ef allan o'r dref tua'r llyn, bu dan draed yr erlidwyr am beth amser, a thybiodd yn sicr y collai ei fywyd. Llusgwyd ef o gwmpas wrth napcyn ei wddf, a buasai wedi cael ei dagu oni bai i'r napcyn ddyfod yn rhydd. Ond cyfryngodd yr Arglwydd ar ei ran mewn modd oedd bron yn wyrthiol, a dihangodd o'u dwylaw. Daethai Jenkin Morgan, un o ysgolfeistri Griífith Jones, i'r Bala i'w glywed, a bu ei hoedl yntau mewn enbydrwydd. Pan ar gefn ei geffyl, ac yn ceisio dianc, gafaelwyd ynddo gan y werinos. Gwnaed ymdrech i'w daflu ef a'i geffyl dros y graig i'r llyn; glynodd ei droed yn yr wrthafl, a bu felly yn cael ei lusgo o gwmpas am enyd; ond trwy diriondeb Rhagluniaeth dihangodd yntau. Sicrheir ddarfod i farn amlwg Duw orddiwes y rhai blaenaf yn yr helynt warthus. Wedi i'r terfysgwyr wasgar, ymgasglodd y dysgyblion yn nghysgod y tywyllwch i'r llety, lle y buont yn ceisio meddygyniaethu clwyfau eu gilydd. Cynghorai Harris ei gyd-ddyoddefwyr i lynu wrth y Gwaredwr, ac i lawenhau oblegyd eu cyfrif yn deilwng i ddyoddef drosto. Yr oedd Harris ei hun



Nodiadau[golygu]