Neidio i'r cynnwys

Y Trefedigaethau/Bywyd Economaidd yn Affrica Drofannol

Oddi ar Wicidestun
Gweinyddiaeth yn Affrica Drofannol Y Trefedigaethau

gan Ifor Leslie Evans

Problem y Trefedigaethau

IV. BYWYD ECONOMAIDD YN AFFRICA DROFANNOL

(a) Anghenion y Dyn Du

Gellir dweud fod gan Affrica ddwy gyfundrefn economaidd, yr un Ewropeaidd a'r un frodorol. Trewir dyn ar unwaith gan y gwahaniaeth mawr sydd rhyngddynt: ar y naill law dyma'r Ewropead, a'i hymddiried yng ngwerth anturiaeth yr unigolyn, ac yn defnyddio holl offer a chelfi'r diwydiant modern; ac ar y llaw arall dyna amrywiaeth mawr. o bobloedd brodorol, y mwyafrif ohonynt o hyd yn unedau ar ffurf y llwyth, a'u bywyd ynghlwm wrth y tir, boed hynny wrth ei droi a'i drin neu ynteu wrth bori eu hanifeiliaid arno. Beth bynnag, y mae'r ddwy gyfundrefn economaidd yn gorgyffwrdd â'i gilydd yn y ffaith fod ar y brodor eisiau'r Ewropead fel marchnad i'r cnydau sydd ganddo i'w hallforio, ac ar yr Ewropead yntau eisiau llafur y brodor yn ei fwyngloddiau a'i blanhigfeydd.

Y Llywodraeth ei hun a bwysodd ar y brodorion dyfu cnydau i'w hallforio. Y mae gwasanaethau'r weinyddiaeth y mae'n rhaid i'r Llywodraeth eu darpar, a'r gwasanaethau ychwanegol mewn iechyd ac addysg y dylai eu darpar, yn costio arian: rhaid codi arian trwy drethi: ac y mae hyn, o safbwynt y brodor sy'n talu'r trethi, yn galw am gael gweddill yn y cynnyrch dros ben yr hyn a dreulir ganddo. ac am gael marchnad i'r gweddill hwnnw. Yn y gorffennol buasai pentref yn Affrica Drofannol yn fodlon ar gynhyrchu hynny o nwyddau yn unig a fai'n ddigon i'w drigolion ef ei hun. Ac felly, yr oedd yn rhaid i'r Llywodraeth annog allforio nwyddau, yn fwynau neu'n gynnyrch amaethyddol, ac er mwyn gallu trosglwyddo'r nwyddau hyn i farchnad y byd, yr oedd yn rhaid cael gwell cyfryngau a chyfleusterau i'w cludo yno. Adeiladwyd rheilffyrdd a phorthladdoedd; a chan fynd gam ymhellach, sefydlodd y Llywodraeth ymhob un o'r trefedigaethau hyn Adran Amaethyddol sy'n gwneuthur arbrofion gyda chnydau economaidd ac yn cyhoeddi propaganda dros eu codi a'u gwella. Talwyd sylw arbennig i'r cnydau hynny a fyddai sicraf o gael marchnad. allanol; ac felly, erbyn 1928, brodorion y Gold Coast ocdd y prif gynhyrchwyr coco yn y byd, ac yr oedd mwy a mwy o gnau'r ddaear, o olew'r balmwydden, ac o goco, yn dal i lifo o Nigeria i farchnadoedd Ewrop ac America. Prif ganlyniad yr egnion hyn fu gwneuthur niferoedd mawr o frodorion Affrica Drofannol yn ddibynnol, mewn mesur sy'n amrywio tipyn ond sydd ar gynnydd, ar y codi a'r gostwng dirgel ym mhrisiau marchnad y byd. I raddau helaeth iawn y mae eu hymneilltuacth economaidd wedi ei diddymu. Yn ystod y blynyddoedd y bu'r byd yn dioddef gan y dirwasgiad, o 1929 i 1932, daeth llawer ohonynt sylweddoli hynny trwy gryn dipyn o ddioddef, achos darganfuant eu bod yn derbyn llai a llai am y cnydau y telid hwy amdanynt ag arian, cnydau megis coco, coffi, cotwm a chynnyrch y palmwydd. Yr oedd y sefyllfa, wrth gwrs, yn arbennig o ddifrifol yn y rhanbarthau hynny lle yr oedd y trigolion wedi ymroi â'u holl galon i gynhyrchu cnydau i'w hallforio: yn y blynyddoedd pan oedd llwyddiant masnachol ar ei ben-llanw, cawsant elw da: ond ym mlynyddoedd y trai daeth tro sydyn ar fyd. Er 1935, megis mewn mannau eraill, bu gwelliant cyson; ond pan fydd y rhyfel presennol ar ben, dichon y daw blynyddoedd digon dielw drachefn. Braint a dyletswydd y wlad hon, fel ymddiriedolwr dros y brodorion, yw gwneud popeth yn ei gallu i'w hamddiffyn a'u gwarchod rhag effeithiau gwaethaf cwymp alaethus arall ym mhris y cynhyrchion crai ar farchnad y byd.

Yn ffodus, y mae arwyddion nad aeth gwers y gorffennol yn ofer gan ein gweinyddwyr. Yn wir, ers rhai blynyddoedd y mae Adran Amaethyddol Nigeria, er enghraifft, wedi sylweddoli'r peryglon sydd yn codi os dibynnir gormod ar farchnadoedd y byd allanol yn unig, ac wedi bod yn gwneuthur arbrofion gyda chynlluniau i wella'r cnydau bwyd brodorol. Pa rai, ynteu, yw'r anawsterau pennaf? Yn lle cyntaf, y mae'n rhaid inni sylweddoli fod amaethyddiaeth Affrica, fel rheol, yn eithafol o gyntefig, ac mewn llawer ardal y mae wedi ei seilio ar driniaeth symudol y tir. Lle y bo digonedd o dir, bydd mintai fechan o frodorion yn ymsefydlu mewn un man am dair neu bum mlynedd, yn cymryd y cwbl a allant o'r tir heb roi dim yn ôl ynddo, ac yna yn symud oddi yno i fan arall. Ac ynglŷn â chodi anifeiliaid, y pwyntiau pwysig yw'r rhain. Yn gyntaf, dros rannau helaeth o Affrica, y mae'r gwybedyn tsetse, yr hwn sy'n cludo'r hunglwyf, yn ei gwneud hi'n amhosibl codi gwartheg. Yn ail, mewn rhanbarthau cyfain, yn arbennig yn Affrica Ddeheuol ac Affrica Ddwyreiniol, perygl a rhwystr sydd ar gynnydd yw bod y pridd yn cael ei ysu a'i dreulio. Y mae'r mwyafrif o'r Affricanwyr sy'n siarad Bantu yn synied am wartheg—a hynny yn gymysg â syniad crefyddol fel bron yr unig ffurf ar gyfoeth. Gan hynny, y maent yn meddwl yn nhermau rhif yn hytrach na gwerth, ac yn awr dyma'r Dyn Gwyn yn dod ar y maes, a'r meddygon anifeiliaid yn llwyddo i wared, o un i un, y clefydon gwartheg a fuasai'n rhwystr yn y gorffennol i gynnydd mawr ym mhreiddiau da'r brodorion. Mewn llawer o ardaloedd y mae cadw gormod o stoc eisoes yn hen beth. Y mae hyn yn arwain i bori'r tir hyd at ei ddifa, a phan gollo'r pridd yr amddiffyn a gaiff gan y porfeydd a'i gorchuddia, y mae perygl iddo gael ei olchi i ffwrdd gan y glawogydd llifeiriol sydd mor nodweddiadol o'r tymor gwlyb yn y Trofannau. Ac felly mewn llawer rhanbarth—ac yn eu plith rai o rannau gorau Affrica Ddwyreiniol—y mae treulio ac ysu'r pridd eisoes yn fater difrifol iawn.

Beth, ynteu, yw'r feddyginiaeth? I wella ansawdd a safon amaethyddiaeth y brodorion, yr hyn y mae'n rhaid ei wneuthur gyntaf oll yw dyfod o hyd i ryw ddulliau eraill i roi bywyd newydd yn y tir ar ôl codi cnydau arno. O'r gwahanol ddulliau a archwiliwyd un o'r rhai mwyaf addawol yw ffarmio cymysg. Y mae ei lwyddiant, serch hynny, yn dibynnu ar yr ymdrechion a wneir i sicrhau gwaredigaeth rhag haint yn y rhanbarthau lle y ceir y gwybedyn tsetse, ac i drefnu y defnyddir gwartheg mewn ffordd fwy economaidd gan y brodorion mewn mannau eraill. Ond cyn y gall ffarmio cymysg o'r math y meddylir amdano fod yn llwyddiannus, y mae'n rhaid i'r brodorion ddysgu ymsefydlu ar y tir mewn modd mwy parhaol nag y buont yn arfer ei wneuthur yn y gorffennol. Yn awr, pe gellid cael ganddynt ymroi i godi cnydau a'u newid o flwyddyn i flwyddyn mewn trefn a fai'n taro i'r amodau lleol, byddent yn abl i sefyll yn yr un lle. O gael mwy o amrywiaeth yn eu cnydau ceid. hefyd fwy o amrywiaeth yn eu hymborth: unwaith yr ymsefydlent mewn un lle yn barhaus, gallent adeiladu cabanau gwell: a byddai'r holl bethau hyn yn cael dylanwad dymunol iawn ar eu hiechyd ac ar eu cysur a'u lles cyffredinol. Y mae popeth, wrth gwrs, yn dibynnu ar eu perswadio i dderbyn trefn addas o newid y cnydau; ac mewn trefn o'r fath byddai cnydau i'w hallforio—megis cnau'r ddaear neu gotwm yn rhan hanfodol a rheolaidd o gynllun lletach a mwy cynhwysfawr. Ar ôl blynyddoedd o ymchwil rhagarweiniol, y mae polisi ar y fath linellau eisoes ar waith mewn amryw rannau o'r Affrica Drofannol sydd dan ofal Prydain. Cyn y gellir ei gymhwyso a'i gyfaddasu i ranbarthau eang bydd yn rhaid wrth bropaganda diwyd am lawer o flynyddoedd, achos nid gwaith hawdd yw newid arferion sydd wedi gwreiddio ers canrifoedd. Ond yn y modd hwn ymddengys yn bosibl dal i gynhyrchu cymaint, a hyd yn oed fwy, o allforion amaethyddol, heb wneuthur i'r brodorion Affricanaidd ddibynnu'n gyfan gwbl ar gyfnewidiadau mympwyol marchnad y byd. Hefyd, dylai datblygiad economaidd o'r fath arwain i welliant amlwg mewn iechyd ac amodau byw yn gyffredinol. A gallai Prydain Fawr yn ddigon teg hawlio ci bod yn ymgodymu â'r cyfrifoldeb a roddwyd arni gan y Mandad Dwbl.

(b) Anghenion y Dyn Gwyn

Ym mha le bynnag a pha bryd bynnag y rhoddid Llywodraeth Prydain i reoli dros lwythau Affricanaidd, byddid. yn gosod trethi er mwyn talu treuliau'r weinyddiaeth. Ond yr oedd defnyddio arian bath yn beth na wyddid amdano yn Affrica Drofannol o gwbl cyn i'r Ewropeaid gyrraedd yno. Ac felly, er mwyn gallu talu'r trethi uniongyrchol, yn ôl cais y Llywodraeth, mewn arian parod, yr oedd dau brif lwybr yn agored i'r brodorion: yn y lle cyntaf, gallent, fel y gwelsom, dyfu cnydau i'w hallforio; yn yr ail, gallent geisio gwaith am hur a thâl yng ngwasanaeth y dyn gwyn. Y mae hyn yn gyfystyr â dweud fod gofynion y dreth, ac yn rhai ardaloedd ryw gymaint o orfodaeth, wedi bod yn gyfrifol, i raddau helaeth, yn y gorffennol am beri i bobl Affrica ymgydnabod â gorchwylion diwydiannol Ewropeaidd. Erbyn heddiw, fodd bynnag, dangosodd profiad yn Affrica fod gan drethi, onid ydynt yn ormesol, lawer llai o ddylanwad parhaol nag sydd gan siopwr y pentref. Y mae gweled mintai yn dychwelyd o weithio mewn mwynglawdd neu blanhigfa, gyda'u dillad amryliw, eu cyllyll, eu horganau ceg, a'u plancedi, yn gymhelliad i bentrefwyr eraill fynd i weithio am arian. A bydd gwŷr ieuainc, wedi blino ar gyfyngiadau bywyd eu pentref, yn chwilio am waith i ddiwallu eu dyhead am antur ac annibyniaeth, a hefyd i ennill digon o gyfoeth i dalu gwaddol am eu gwragedd neu i gael dillad i'w gwisgo eu hunain a'u teuluoedd. Ar yr un pryd fe ddylid cofio mai prif ofal a gorchwyl y rhan fwyaf o boblogaeth trefedigaethau Affrica yw cynhyrchu digon i'w cynnal eu hunain; y mae rhan arall lawer llai sy'n ymroi i gynhyrchu nwyddau ar gyfer y farchnad; ac ychydig iawn sydd ar hyn o bryd yn dibynnu'n llwyr ar weithio am hur. Ond y mae denu hyd yn oed yr ychydig hyn o blith y brodorion i weithio y tu allan i'w hardaloedd hwy eu hunain yn cael effaith digon difrifol i achosi pryder mawr i'r rhai sy'n astudio sefyllfa pethau yn Affrica.

Y mae cael llafurwyr yn symud o'r naill fan i'r llall o bryd i'w gilydd yn beth a ddigwydd bron ymhob tiriogaeth yn Affrica, ond ni theimlir canlyniadau hynny i'r un graddau ymhobman. Ceir symud i'r ffermydd ac i'r planhigfeydd cotwm, coffi, a sisal yn Affrica Ddwyreiniol, ond y mae'r man y gweithir ynddo yn aml iawn yng nghymdogaeth y rhanbarthau brodorol y daw'r llafurwyr ohonynt, ac erys y llafurwr yn ei gysylltiad â'i bobl ei hun; beth bynnag, anaml iawn y mae gorchwylion amaethyddol yn golygu cymaint o newid amgylchfyd ag a wna gwaith diwydiannol. Gweithio yn y mwyngloddiau, ac yn neilltuol yn y rheini sy'n tynnu eu gweithwyr o bellter ac yn eu rhwymo wrth gytundebau a'u ceidw o gartref am ysbeidiau hir, sy'n gyfrifol am y math hwnnw o symud llafurwyr a gaiff yr effeithiau mwyaf arwyddocaol.

Y symud amlycaf yw i'r mwyngloddiau aur a chopr yn Undeb Deheudir Affrica a Rhodesia. Amcangyfrifwyd, er enghraifft, fod y gweithwyr sydd bob blwyddyn yn gadael Swaziland (i fynd i'r Undeb, yn bennaf) yn rhyw 10,000 allan o boblogaeth o 26,000 o bobl mewn oed; o Bechuanaland yn rhyw 7,000 allan o tua 40,000; ac o Basutoland yn rhyw 60,000 allan o 120,000; ac er na ellir cyfrif pa faint of amser y maent i ffwrdd, y mae'n eglur nad yw'r rhai a gyflogir yn y mwyngloddiau yn absennol am lai na blwyddyn, a'r cyfnod y gweithir ynddo, ar gyfartaledd, yw un mis ar ddeg. Y mae Rhodesia Ogleddol hithau yn rhanbarth y daw llafurwyr ohoni; amcangyfrifwyd fod 53,462 o frodorion yn 1936 yn cael eu cyflogi y tu mewn i ffiniau'r rhanbarth, a 51.212 y tu allan iddynt. Y mae'r un broblem, ers llawer flynyddoedd, wedi bod yn achos pryder yn Nyasaland, canys yno amcangyfrifwyd fod 120,000 yn 1935 allan o boblogaeth o 750,000 o wrywod yn gweithio y tu allan i'r wlad.

Yn y tiriogaethau a enwyd uchod y gwelir amlycaf effeithiau symud llafurwyr o fan i fan (yn Uganda ac yn nhrefedigaethau Gorllewin Affrica cyfyngir y symud i dymhorau arbennig ac i bwrpas amaethyddol). Y mae'n debyg of fod yn wir fod yn y tiriogaethau hynny ardaloedd lle y mae absenoldeb y gwrywod mewn oed wedi effeithio ar y cynnydd normal yn y boblogaeth. Gellir hefyd gymryd yn ganiataol fod eu habsenoldeb mewn llawer man wedi peri fod llai o nwyddau yn cael eu cynhyrchu at gynhaliaeth. Felly, adroddodd Prif Ddirprwywr y Brodorion yn Rhodesia Ddeheuol yn 1926 fod yn y rhanbarthau neilltuedig, y cyfaddefid fod gormod o boblogaeth ynddynt, dri chwarter y tir y gellid ei drin heb ei droi o gwbl oherwydd diffyg gwŷr. Y mae'n wir fod llawer o'r gwaith amaethyddol yn cael ei wneud gan y gwragedd; ar y llaw arall, ymhob cymdeithas frodorol, y mae gan y gwryw orchwylion arbennig na ellir mo'u trosglwyddo i wragedd. Y mae'r rhain yn neilltuol of bwysig yn yr ardaloedd hynny lle y trinir y tir bron i gyd yn ôl y drefn symudol, ac y mae'n rhaid cwympo coed cyn y gellir bracnaru'r tir a hau ynddo. Yn Neheudir Affrica, yn arbennig, y mae'r ffaith fod yr aradr fwyfwy yn cymryd lle'r gaib wedi gwneuthur rhan y gwryw wrth drin y tir yn bwysicach byth. Hwyrach y gellid cyflenwi'r golled mewn cynnyrch gan yr elw a ddeilliai o'r cyflogau a enillid gan y gwŷr yn eu habsenoldeb, pe dygid cyfartaledd sylweddol o'r enillion yn ôl, ond nid yw hynny yn digwydd bob amser. Yn wir, gan mor isel yw safon y cyflogau nid oes gan y gweithwyr a à ar gerdded siawns i gronni digon o gyfalaf i adael i drefniadau economaidd hanfodol y pentref gael eu had-drefnu mewn modd i wneuthur iawn am absenoldeb y gwŷr. Y mae'n bosibl sôn yn fwy pendant am effeithiau cymdeithasol yr ymfudiad. Trawyd Comisiwn, a oedd yn archwilio amodau byw yn Affrica Ddwyreiniol, yn 1929, gan y sefyllfa ddifrifol a ddigwyddai petai cymaint o frodorion yn absennol o'r rhanbarthau neilltuedig ag i ymyrryd â pharhad y teuluoedd brodorol a'u bywyd llwythol. Hyd yn hyn ni chafwyd astudiaeth gyffredinol o'r broblem, ond y mae adroddiad Pwyllgor yn 1936 yn cynnwys tystiolaeth o awdurdod fod ymfudo o Nyasaland yn cael drwg-effaith ar fywyd y teulu ac yn ei ddadgymalu, yn arwain i lacrwydd mewn moesau, ac i anwybyddu'r defodau traddodiadol sy'n rheoli ymddygiad.

Erbyn heddiw y mae'r canlyniadau hyn yn rhai mor hawdd gosod bys arnynt ag yr hawliant fod sylw difrifol yn cael ei roi i'r cwestiwn i ba raddau y mae'n bosibl eu rhwystro. Gellir gofyn yn burion onid yw amgylchiadau yn Affrica yn cyfiawnhau gwneuthur dewis pwrpasol rhwng cefnogi cynnyrch nwyddau brodorol ac ehangu anturiaeth ddiwydiannol. Y mae cwestiwn o'r fath yn rhy fawr i ym- drin ag ef yma; ond gellir awgrymu nad yw'r ddwy ffordd o ddatblygiad o anghenraid yn rhedeg yn groes i'w gilydd. I'r gwrthwyneb, cred sy'n magu mwy a mwy o nerth yw fod datblygu trin y tir gan y brodorion ar gyfer eu hanghenion eu hunain yn help sylweddol i ffurfio llu o weithwyr mwy effeithiol, i ddwyn sefydlogrwydd a chadernid i fywyd teuluol y brodorion, i sicrhau iechyd, a thrwy hynny i beri cynnydd yn y boblogaeth. Yn wir, fe gaiff cymdeithas frodorol a fo'n llwyddiannus ac yn parhau i ddatblygu, a'i hanghenion yn cynyddu, ffynhonnell incwm newydd a derbyniol wrth gael cyfle i ennill cyflog dan amgylchiadau priodol. Ar yr un pryd, er gorfod derbyn fel pethau anochel lawer o'r hyn sy'n codi oddi wrth y galw am lafurwyr diwydiannol, y mae angen mawr am bolisi i geisio lliniaru ei ganlyniadau drwy benderfynu i ba raddau y dylid tynnu. gweithwyr o ardaloedd arbennig, a thrwy wella amodau cyffredinol byw yn y rhanbarthau a amddifedir ohonynt. Y mae'r ail beth mewn golwg yn egwyddor ym mholisi Prydain sydd wedi ei chydnabod fwyfwy yn ymarferol, er mai ychydig o sylw a roddwyd i'r cyntaf. Yn wir, ac ystyried galwadau trwm y trethi, a bod mwy a mwy o ofyn am nwyddau Ewropeaidd, bydd yn rhaid diwygio llawer o bethau cyn y gellir datrys y broblem yn llwyr. Dylid nid yn unig ostwng y trethi mewn rhanbarthau anghysbell, ond hefyd ddarparu moddion eraill i gael cyflog mewn arian parod. Gellir gwneud yr ail beth naill ai drwy gefnogi cynhyrchu gan y brodorion eu hunain ai ynteu drwy sefydlu planhigfeydd yn agos i'r ardaloedd lle triga'r llwythau. Dylid cofio, serch hynny, na all y feddyginiaeth olaf hon fod yn effeithiol ond ar yr amod nad yw'n golygu lleihau maint y tir y gellir ei gadw at gynnal y brodorion. Yn Affrica Orllewinol rhoddir prydlesau i Ewropeaid at fasnachu neu at fwyngloddiau; a siarad yn gyffredinol, cadwyd trefn a rheolaeth weddol dda ar y dylanwadau economaidd Ewropeaidd, a'r bwriad yw eu gwneuthur yn ddarostyngedig i fuddiannau'r gymdeithas frodorol, a chadw'r hyn a gynhyrchir gan y brodorion fel y brif sail y gellir codi cyfundrefn economaidd arni. Yn anffodus, diystyrwyd yr egwyddor hon yn llwyr yn Affrica Ddeheuol ac Affrica Ddwyreiniol. Hyn yn bennaf dim sydd i gyfrif am yr anhrefn a'r terfysg sydd yn bygwth y gymdeithas frodorol yn y parthau hynny. Y mae'n ofidus meddwl fod pethau wedi datblygu yno fel gwnaethant er bod gan yr ymfudwyr a'r cyfarwyddwyr Prydeinig holl hanes India'r Gorllewin i'w tywys. Yno, yn yr hynaf oll o drefedigaethau Prydain, y mae twf proletariat heb dir wedi dwyn yn ei sgîl broblemau aruthrol nad oes. modd, ysywaeth, inni ymdrin â hwy mewn pamffled bychan fel hwn.

Nodiadau

[golygu]