Y Trefedigaethau/Datblygiad Yr Ymerodraeth Drefedigaethol
| ← Rhagair | Y Trefedigaethau gan Ifor Leslie Evans |
Y Modd Y Llywodraethir Y Trefedigaethau → |
Y TREFEDIGAETHAU
I. DATBLYGIAD YR YMERODRAETH DREFEDIGAETHOL
A PHEIDIO â chyfrif o gwbl y Dominiynau hunan-lywodraethol a gwlad fawr yr India, sydd ynddi ei hun yn gyfandir, y mae'r ymerodraeth drefedigaethol yn cynnwys yn agos i hanner cant o diriogacthau gwahanol a unir â'i gilydd yn eu ffyddlondeb cyffredinol i Goron Prydain, os nad mewn dim byd arall. O fewn y gyfundrefn boliticaidd enfawr hon y mae tua thrigain miliwn o bobl—a'r rheini o liwiau, o ieithoedd, ac o grefyddau lawer—yn llwyddo, mewn gwirionedd, i fyw eu bywyd beunyddiol mewn unoliaeth gyffredinol sydd, er hynny, yn gallu hepgor unffurfiaeth. Y mae llawer ohonynt, a siarad yn ffigurol, yn gymdeithion rhyfedd yn yr un gwely, ac y mae'r stori am y modd y daethant ynghyd—am y modd yr adeiladwyd yr ymerodraeth drefedigaethol—yn stori hanner-brwnt a hanner-rhamantus, lle y cymysgir bwriad pendant a hap a damwain mewn ffordd. ryfedd iawn.
Erbyn diwedd yr XVI ganrif yr oedd y wlad hon wedi dechrau ymgodi'n allu mawr ar y môr. Er mwyn distrywio monopôl yr Ysbaen yn ei masnach â'r Byd Newydd, defnyddiodd llongau Prydain rai o ynysoedd India'r Gorllewin fel canolfannau i fasnachu mewn nwyddau gwaharddedig â threfedigaethau'r Ysbaen. Cyn pen llawer flynyddoedd dacthpwyd i brisio'r ynysoedd am eu gwerth ynddynt eu hunain, oherwydd y nwyddau a gynhyrchid ynddynt, yn arbennig siwgr. O Loegr y deuai'r cyfalaf ddefnyddid i ehangu'r planhigfeydd lle y tyfid y siwgr; ac i gyflenwi'r diffyg gweithwyr ar yr ynysoedd eu hunain dygid llongeidiau o gaethweision drosodd o Affrica. Caethwasiaeth, ac yn fwy fyth y dychrynfeydd a oedd yn gysylltiedig â Masnach y Caethion, oedd y pris a dalwyd yng ngwaed a chyrff dynion am ddatblygiad economaidd cynnar planhigfeydd ein trefedigaethau yn India'r Gorllewin ac yng Ngogledd America.
Yn y cyfamser yr oedd menter ac anturiaeth ym myd masnach yn arloesi llwybrau trafnidiaeth newydd mewn mannau eraill, ac yn ystod y can mlynedd nesaf, fwy neu lai, yr oedd Cwmni Seisnig India'r Dwyrain, yr hwn a sefydlwyd yn 1600, wedi codi yn yr India gyfres o ffatrioedd masnach a chysylltiad agos rhyngddynt a'i gilydd. Drwy gydol y XVIII ganrif tyfodd y cysylltiadau masnachol rhwng y wlad hon a'r Dwyrain yn fwyfwy pwysig o hyd ac o hyd. Yr oedd y rhain, yn eu tro, yn gwarantu diogelwch a manteision i longau Prydain dros fwy na deng mil o filltiroedd ar y môr. Masnach, nid ceisio ennill tiroedd, a symbylodd yr holl weithgarwch hwn, ond megis yn yr India, felly hefyd mewn mannau eraill, yr oedd y naill beth yn arwain i'r llall yn anochel. A dyna hanes Ascension, St. Helena, Penrhyn Gobaith Da, Mauritius, y Seychelles a Ceylon (cafwyd y pedwar olaf ar draul Ffrainc a'r Iseldiroedd fel canlyniad i'r rhyfeloedd yn erbyn Napoleon)—fe'u henillwyd yn bennaf er mwyn sicrhau a diogelu yr unig lwybr posibl o Brydain i'r India yn nyddiau'r llong hwyliau. Ar ddyfodiad y llong ager collasant lawer o'u pwysigrwydd yn hyn o beth; a phan agorwyd Camlas Sŵes yn 1869 dyna newid yr holl sefyllfa'n llwyr, trwy wneuthur Môr y Canoldir y briffordd bwysicaf i'r India a'r Dwyrain. Ac felly, yn hollol annisgwyl, daeth gwerth ac ystyr newydd i'r ffaith ein bod yn berchen ar Gibraltar a Malta, lleoedd a gipiwyd yn 1704 ac 1802. Yn ychwanegol at hyn, yn 1875, daeth Prydain Fawr i fod y prif gyfranddeiliad yng Nghwmni Camlas Sŵes, ac yna, trwy ennill Cyprus, dair blynedd yn ddiweddarach, seliodd ei meistrolaeth a'i goruchafiaeth yn rhannau dwyreiniol Môr y Canoldir. Yr oedd Camlas Sŵes wedi datblygu i fod yr hyn a ddisgrifiodd Bismarck fel "madruddyn cefn yr Ymerodraeth Brydeinig."
Tua'r amser hwn—hwyrach y gellir nodi'r flwyddyn 1872, y flwyddyn y traddododd Disraeli ei araith yn y Crystal Palace, fel y trobwynt—y dechreuodd pobl Prydain ymysgwyd o'r teimlad dihidio hwnnw tuag at yr ymerodraeth a fuasai'n nodweddiadol o hanner cyntaf teyrnasiad Victoria. Yn y cyfamser yr oedd yr ymerodraeth wedi parhau i dyfu: er nad oedd Penang (1786) a Singapore (1819) yn ddim ar y pryd ond gorsafoedd masnachu digon di-nod, eto i gyd daethant o dipyn i beth yn ganolbwynt y rhwydwaith diddorol a chymhleth hwnnw o diriogaethau a adwaenir heddiw fel Malaya Brydeinig. Yn ychwanegol at hyn, fe roes Hong Kong (1841) inni afael a dylanwad ar helyntion. Seina. Ar waethaf y datblygiadau hyn, fodd bynnag, erbyn canol y XIX ganrif daethai llawer o bobl i gredu fod y Chwyldro Americanaidd wedi profi y byddai'r Trefedigaethau, os tyfent mewn cyfoeth a gallu, yn anochel, wrth wneuthur hynny, yn ymdorri'n rhydd oddi wrth y Famwlad. Boed iddynt, felly, meddid, fynd eu ffyrdd eu hunain. mewn heddwch. Hefyd, bob amser yn y gorffennol yr oedd. y polisi trefedigaethol wedi golygu cyfyngiadau masnachol, ac edrychid ar y rheini yn anfoddog iawn gan y genhedlaeth newydd o Rydd Fasnachwyr. Prydain, diolch i'w goruchafiaeth ddiwydiannol, ydoedd y ffatri a wisgai'r byd; a chyhyd ag y parhai'r monopôl hwnnw ar farchnad y byd, nid oedd bryd y Sais ar lywodraethu; ni fynnai ond masnachu. Yn y drefn hon ar bethau nid oedd lle i ehangu'r ymerodraeth ac ennill tiroedd; ac er na bu i Cobden, Gladstone, ac arweinwyr eraill "Ysgol Manceinion" weithio dros ddiddymu'r ymerodraeth, er hynny disgwylient iddi ddadgymalu, ac yr oeddynt yn barod i helpu'r cyfnewidiad trwy estyn hunan-lywodraeth. O tua 1870 ymlaen datblygodd y polisi trefedigaethol mewn cyfeiriad i'r gwrthwyneb yn hollol, ac yn chwarter olaf y XIX ganrif gwelwyd imperialaeth Prydain yn mynd o nerth i nerth. Yn y gwaelod, y mae'n debyg fod cymaint o achosion economaidd ag o unrhyw achosion eraill wrth wraidd y mudiad hwn i ennill gafael ar fwy o dir a daear. Canlyniad ydoedd i'r cynnydd enfawr a fu yng ngallu cynhyrchiol diwydiannau Ewrop ac i waith Prydain yn methu diogelu ei monopôl ar fasnach y byd pan ddechreuodd Pwerau eraill gystadlu yn ei herbyn. A phan ymroddes Ffrainc, yr Almaen, a gwledydd eraill, i'r gwaith o ennill ymerodraeth, darbwyllwyd pobl Prydain mai rheolaeth boliticaidd arnynt oedd yr unig beth a allai ddiogelu'n ddigon effeithiol y marchnadoedd newydd, ac yn arbennig, y meysydd newydd i fuddsoddi arian yr oedd arnynt yn awr eu heisiau. Ond ni ddylid gadael i'r agwedd economaidd hon, pa mor bwysig bynnag fo, fwrw i'r cysgod yr egnïon eraill yn y don hon o imperialaeth a lifodd dros Brydain. O'r safbwynt seicolegol, y mae'n debyg fod poblogrwydd damcaniaethau am ddatblygiad cymdeithas, am "yr ymdrech am fodolaeth" a "goroesiad y cryfaf" yn holl-bwysig. Yr oedd hyn nid yn unig yn cyfiawnhau cystadleuaeth ac ymdrech, ond hefyd yn dwyn i mewn elfen o greulondeb a oedd yn nodweddiadol o'r holl fudiad. Ar yr un pryd yr oedd yr elfen grefyddol yn rhy gryf i'w hanwybyddu: yn wir, y cenhadon ydoedd y rhai cyntaf i agor llwybr i Affrica Drofannol. Hyd yn oed. yng Nghymru troes diddordeb yng ngwaith y genhadaeth dramor sel ac ymroddiad ein cyndadau yn ddŵr i felin imperialaeth Prydain. Felly, yn chwarter olaf y XIX ganrif, parodd yr egnion hyn, o'u cymryd gyda'i gilydd, i lywodraeth Prydain ymehangu o ychydig orsafoedd masnachu yng ngeneuau'r afon Niger nes cynnwys yr holl diriogaethau enfawr yn y blaendiroedd; arweiniodd i ennill Affrica Ddwyreiniol Brydeinig (Kenya), Uganda a Nyasaland; parodd hefyd i awdurdod Prydain ymledu o'r Cape Colony tua'r gogledd cyn belled â Rhodesia. Yn olaf oll, ar ôl rhyfel 1914-18, ychwanegwyd ymhellach at yr ymerodraeth Brydeinig yn Affrica ac mewn parthau eraill o'r byd, trwy estyn awdurdod Prydain dros rai o'r trefedigaethau a fuasai'n ciddo i'r Almaen gynt (e.g., Tanganyika), i'w llywodraethu o dan nawdd Cynghrair y Cenhedloedd.