Y Trefedigaethau/Gweinyddiaeth yn Affrica Drofannol
| ← Y Modd Y Llywodraethir Y Trefedigaethau | Y Trefedigaethau gan Ifor Leslie Evans |
Bywyd Economaidd yn Affrica Drofannol → |
III. GWEINYDDIAETH YN AFFRICA DROFANNOL
Y mae'r modd y cymhwysir llywodraeth anuniongyrchol i rai o'n trefedigaethau yn Affrica Drofannol yn arwydd inni, yn y cylch politicaidd, o fwriad Llywodraeth Prydain i weithredu fel ymddiriedolwyr dros lwydd a lles yr ymerodraeth drefedigaethol. Ond nid dyna cin hunig gyfrifoldeb. Y mae gennym, a defnyddio ymadrodd yr Arglwydd Lugard, Fandad Dwbl-yr ydym yn gyfrifol, nid yn unig i'r llwythau brodorol am eu lles a'u cysur, ond hefyd i wareiddiad am ddatblygu'n iawn adnoddau tiriogaethau'r brodorion. Gwelir holl gnewyllyn y broblem y ceisia Llyw- odraeth Prydain ymgodymu â hi, pan fo rhaid penderfynu p'run o ddau gymal y Mandad a ddylai gael y lle blaenaf. Y mae'r Llywodraeth wedi cydnabod, fel rheol, pan ddigwyddo gwrthdaro rhwng buddiannau'r brodorion ac eiddo'r Ewropeaid sydd wedi ymsefydlu yn eu tiriogaethau gyda'r pwrpas o ddatblygu eu hadnoddau, mai buddiannau'r brodorion sydd i'w hystyried gyntaf, ar yr amod nad amherir ar hawliau presennol yr ymsefydlwyr. Yn Affrica Orllewinol, Tanganyika, ac i raddau yn Uganda, y mae datblygiad llywodraeth anuniongyrchol wedi symud rhywfaint i gyfeiriad cymodi'r buddiannau hyn sydd mor groes i'w gilydd ym materion llywodraeth. Bu Kenya, ar y llaw arall, ar ôl yn hyn o beth, ac yno fe ychwanegwyd at yr anawsterau trwy gadw darn helaeth o'r ucheldiroedd yn rhanbarth neilltuedig i Ewropeaid yn unig ymsefydlu ynddi, a chan bresenoldeb cryn nifer o Indiaid. Yn Kenya, yn y rhan helaethaf o Ddeheudir Affrica, ac yn wir yn yr holl drefedigaethau sydd â'u hinsawdd yn addas i ymfudwyr o Ewrop, y broblem fwyaf dyrys y gelwir ar y weinyddiaeth ddelio â hi, ydyw ceisio cymodi buddiannau holl rannau'r boblogaeth.
Er hynny, nid yw'r gwahaniaethau ym materion llywodraeth ond mynegiant politicaidd o wrthdaro dyfnach mewn buddiannau economaidd rhwng y brodorion, ar y naill law, a'r ymfudwyr o Ewrop ar y llaw arall. Y mae'r Llywodraeth yn ymboeni fwyfwy i sicrhau cydbwysedd rhwng yr angen sydd i annog y brodorion i gynhyrchu bwyd a nwyddau ar cu cyfer hwy eu hunain yn y man a'r lle, a gwaith yr Ewropeaid yn galw am frodorion i weithio am hur, ac yn bennaf i gynhyrchu ar gyfer allforio. Y mae'r broblem yn un anodd iawn, ac y mae'n boenus o amlwg y bydd yn rhaid gwneud llawer o waith cyn byth y gellir ei datrys yn deg a chyfiawn. I ba raddau y gellir dweud ein bod wedi gwella datblygu yn ein dull o arfer y Mandad Dwbl? Cyn cynnig ateb y cwestiwn hwn y mae'n rhaid rhoi gair o rybudd. Yn y gorffennol bu Llywodraeth Prydain yn gweithredu ar yr hen egwyddor na ddylai trefedigaeth gael ond y gwasan- aethau hynny y gall fforddio eu cynnal ar ei chyllid ei hunan --cyllid sy'n deillio o drethi, ac yn arbennig o dollau. "Y mae'r egwyddor hon," meddai Mr. Malcolm Macdonald, Ysgrifennydd y Llywodraeth dros y Trefedigaethau, yn Chwefror 1940, "yn un y mae'n rhaid ei diwygio, ac y mae'r Llywodraeth yn bwriadu rhyddhau, mewn achosion teilwng a phriodol, o'r ffynonellau newydd y mae eu bryd ar eu trefnu, arian ar gyfer cynnal gwaith neu wasanaethau pwysig dros gyfnod sylweddol o flynyddoedd." Y swm y bwriada'r Llywodraeth ei ddarparu yw un yn cyrraedd, yn y man pellaf, £5,000,000 y flwyddyn am ddeng mlynedd. Gellir cael y cymorth hwn, nid yn unig i gynlluniau sy'n golygu gwario cyfalaf angenrheidiol i ddatblygu'r trefedigaethau yn yr ystyr ehangaf, ond hefyd i helpu i glirio costau o bryd i'w gilydd yn y trefedigaethau ar wasanaethau arbennig, megis amaethyddiaeth, addysg, iechyd a thai. Ac felly fe sylwn gyntaf ar yr hyn a wnaethpwyd eisoes i sicrhau trefniadau iechyd a gwasanaeth addysg i'r pobloedd brodorol o dan ein llywodraeth.
(a) Addysg
Y rhai cyntaf i sefydlu canolfannau lle y rhoddid at was- anaeth pobloedd Affrica y manteision a dducpwyd yno gan y Gorllewinwyr oedd y Cenhadon. Hwynt-hwy a sefydlodd yr ysgolion cyntaf, a sgrifennodd y llyfrau cyntaf ac a ddysgodd y bobl i'w darllen. Yn wir, nid tan yn gymharol ddiweddar—gan mwyaf yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf—yr ymgymerodd y Llywodraeth â phroblem addysg yno. Erbyn hyn ffurfiwyd Adrannau Addysg ymhob trefedigaeth, a neilltuwyd cyfran arbennig o gyllid y drefedigaeth i ddatblygu'r trefniadau addysg. Yn 1924 penodwyd Pwyllgor Ymgynghorol, a enwyd yn ddiweddarach yn Bwyllgor Ymgynhorol ar Addysg yn y Trefedigaethau, gan Ysgrifennydd. y Llywodraeth dros y Trefedigaethau, ac y mae'r corff hwn wedi gwneud gwaith gwerthfawr drwy feddwl am egwyddorion cyffredinol y gall Llywodraethau'r gwahanol drefedigaethau eu mabwysiadu, ar ôl ystumio a newid tipyn arnynt yn ôl amgylchiadau arbennig pob trefedigaeth. Barn ddiweddaraf y Pwyllgor yw y dylai Llywodraethau'r trefedigaethau barhau i weithio drwy'r Genhadaeth, gan bwysleisio ar yr un pryd yr angen am gadw gwyliadwriaeth a rheolaeth dynnach arni, ac am welliant mawr yn yr addysg elfennol. Canys fe ddylid cofio fod gwaith y cenadaethau hyn, er cymaint yr ymroddiad sydd y tu ol iddo, yn amrywio'n fawr iawn yn ei werth a'i ansawdd. Creir anawsterau hefyd gan gystadleuaeth enwadol, gan y gwahanol safonau o dâl y gofynnir amdanynt gan genhadon Protestannaidd neu Gatholig, gan ddiffyg profiad llawer o'r athrawon, a chan y cyfartaledd uchel o bobl estron a gyflogir gan rai cymdeithasfeydd cenhadol mewn taleithiau o dan lywodraeth Prydain. Yn ychwanegol at hyn i gyd, ychydig o obaith sydd gan y Genhadaeth i gael rhagor o arian at y gwaith, ac y mae'n rhaid i'r datblygiadau newydd bron i gyd ddibynnu ar adnoddau'r Llywodraeth.
Yn y gorffennol bu'r cyfartaledd o'r cyllid a benodid i addysg yn annigonol, ac y mae yn awr angen mawr am ysgolion canol newydd tan nawdd y llywodraeth, addysg bellach i fenywod a merched, a datblygu addysg i'r bobl mewn oed. Y mae addysg y brodorion o hyd yn ei gychwyn cyntaf: nid yw cyfartaledd y plant a gaiff unrhyw fath o ysgol yn uwch nag 20 y 100 yn unrhyw un o'n trefedigaethau yn Affrica Drofannol. Ymhlith yr Affricanwyr y mae'n rhaid creu barn gyhoeddus o blaid addysg, ac ymhlith yr Ewropeaid y mae'n rhaid dileu rhagfarn yn erbyn rhoi addysg i'r Affricanwyr. Yn aml iawn, y mae rhagfarn o'r fath yn tarddu o'r ofn y bydd datblygiad yr Affricanwr yn peryglu safle'r dyn gwyn ac yn codi ei gostau cynhyrchu. Ond ni ddylid penderfynu a rheoli addysg deugain miliwn o Affricanwyr yn bennaf oll gan angen cyflogwyr Ewropeaidd am weithwyr o'u plith. Yr unig faen prawf cywir yw angen a phosibiliadau'r holl boblogaeth.
(b) Iechyd
Bydd datblygiad addysg, i raddau, yn penderfynu pa mor llwyddiannus fydd yr ymgais i wella'r gwasanaethau iechyd ac ychwanegu atynt. Rheolir bywyd y brodorion gan ofnau ac ofergoelion a gwaharddiadau, ac y mae bron yn amhosibl ennill eu hymddiriedaeth a'u cydweithrediad mewn trefniadau a chynlluniau iechyd oni chymerir gofal mawr i beidio â thramgwyddo yn erbyn eu credöau rhyfedd a'u harferion lleol. Fel y datblyga safon gyffredinol addysg, gwella'r amgylchiadau; ond y mae'r gwaith sydd eto i'w gyflawni yn aruthrol. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Iechyd yn Kenya, wrth ysgrifennu yn 1930, fod bron pob brodor o Affricanwr yn Kenya yn cael ei boeni gan ryw fath o lyngeryn cylla; yr oedd cyfartaledd uchel yn dioddef rywbryd neu'i gilydd gan falaria; dros ranbarthau helaeth yr oedd plâu a chlefydon y croen yn bethau cyffredin; mewn rhai ardaloedd ymddangosai fod y clwyf gwenerol ar gynnydd; a dodai afiechydon yr ysgyfaint dreth drom ar fywydau. Teimlir aflonyddwch cyffelyb wrth ystyried ffigurau marwolaeth plant ar enedigaeth yn holl drefedig- aethau trofannol Prydain. Mewn ychydig o fannau breint- iedig yn unig y ceir ffigur mor isel â 150 marwolaeth o bob 1,000 genedigaeth; am Nigeria yn ei chrynswth dywedir mai'r ffigur yw 300, ac am Kenya 400, er i'r ffigur cyfatebol am Brydain Fawr fod mor isel â 59. Gwnacthpwyd llawer o waith gan y Llywodraeth i sefydlu ysbytai a fferyllfeydd lle y gall y brodorion dderbyn gofal a thriniaeth feddygol; ond y mae'r arian y gallwyd ei sbario yn y gorffennol wedi bod yn hollol annigonol ar gyfer y gwaith mawr y mae'n rhaid ci gyflawni. Bydd eisiau'r arian a ddyfarnwyd yn ddiweddar gan y Llywodraeth, i ehangu'r gwasanaethau meddygol fel y cyfryw, i hyfforddi, mewn canolfannau arbennig, gan- noedd o gynorthwywyr meddygol o blith y brodorion, ac i ddarparu'r gwasanaethau cynorthwyol costus sy'n dilyn hynny, megis codi tai, torri ffosydd a sicrhau cyflenwad o ddŵr.
Y mae amgylchiadau byw cyntefig yn gwneuthur y bobl yn dueddol i ddioddef gan y llu clefydon sy'n gyffredin mewn gwledydd trofannol; ond nid oes yr un achos am iechyd gwael brodorion Affrica sy'n bwysicach na diffyg bwyd maethlon. Prif angen yr Affricanwr, yn ôl un ysgrifennwr, yw dau bryd sylweddol o fwyd y dydd a dau bar o esgidiau y flwyddyn. Rhoddai'r bwyd iddo gryfder i wrthsefyll yr heintiau, a rhoddai'r esgidiau iddo amddiffyn cyflawn rhag pla'r llyngyr sydd yn andwyo ei gylla ac yn sugno ei fywyd. Ac y mae digon o dystiolaeth fod ei ymborth ymhell o fod yn un addas a digonol. Edrydd y Cyfarwyddwr Meddygol yn Rhodesia Ddeheuol, am y flwyddyn a ddiweddai yn Nhachwedd 1936, fod tua 55 y cant o'r 175,000 Affricanwyr a weithiai ym mwyngloddiau'r drefedigaeth yn syrthio'n aberth i heintiau. Fe'n hysbysir "y gallai'r cyfartaledd fod wedi ei ostwng trwy ddognau haclach o fwyd, ac yn fwy fyth trwy gael ymborth briodol, achos y mae'n berffaith amlwg fod y rhan fwyaf o'r afiechyd ymhlith y brodorion hyn yn ganlyniad uniongyrchol lluniaeth anaddas a diffyg bwydydd amddiffynnol. Ond ymddengys nad oes unrhyw gymhelliad i roddi i'r brodor y maeth y mae ar ei gorff ei eisiau.
Paham, ynteu, na cheir y cymhelliad hwn? Beth yw'r rheswm fod yr Affricanwyr yn gorfod bod heb eu prydiau bwyd sylweddol a'u hesgidiau? Nid yw'r anghenion hyn yn rhai afresymol. Os yw cyfanwerth mewnforion ac allforion ein pedair trefedigaeth yng Ngorllewin Affrica wedi cynyddu, fel y gwyddom, gymaint naw gwaith yn ystod y deugain mlynedd diwethaf, beth yw'r rheswm na ellir diwallu anghenion mor syml ac elfennol? Daw'r cwestiwn hwn â ni wyneb yn wyneb â'r broblem o geisio cymodi'r ddwy elfen yn ein Mandad—ein dyletswydd tuag at bobloedd brodorol ein trefedigaethau a'n hymrwymiad i ddatblygu adnoddau'r tiriogaethau hynny er budd a lles gwareiddiad.