Y Trefedigaethau/Problem y Trefedigaethau
| ← Bywyd Economaidd yn Affrica Drofannol | Y Trefedigaethau gan Ifor Leslie Evans |
Coleg Harlech → |
V. PROBLEM Y TREFEDIGAETHAU
Cymerasom y rhan fwyaf o'n gofod i sôn am rai o'r
amodau byw yn ein trefedigaethau yn Affrica Drofannol.
Prin y cyffyrddasom o gwbl â'r problemau sy'n wynebu
gweinyddwyr Prydeinig mewn trefedigaethau eraill-problem
y minteioedd niferus o Seineaid a ymsefydlodd ym Malaya;
y frwydr i ddileu heintiau ac ofergoclion ymhlith brodorion
ynysoedd y Pasiffic; yr anawsterau a oedd yn gynhenid yn yr
ymgais gyntaf at hunan—lywodraeth yn Ceylon; ein perthynas
â Seineaid a Japaniaid fel canlyniad i'n meddiant o Hong
Kong; pwysigrwydd strategol caerau'r llynges, megis Gibraltar a Malta, ychwanegir yn ddirfawr at eu pwysigrwydd gan y rhyfel presennol—heb sôn am y ddyletswydd drom o
geisio cadw'r ddysgl yn wastad rhwng yr Iddew a'r Arab
ym Mhalesteina. Y mae'r holl gwestiynau yn haeddu'r
sylw mwyaf gofalus; ond wrth ddewis problemau i'w hystyried yn fanylach yn y pamffled hwn, nid yn fympwyol
hollol y gweithredwyd. Ymdriniwyd â chyflwr pethau yn
Affrica Drofannol nid yn unig am fod yn agos i 80% (yn
ôl arwynebedd y tir) o'r ymerodraeth drefedigaethol ar
gyfandir Affrica, ond hefyd am mai'r trefedigaethau hynny,
gan mwyaf, y bu dynion yn meddwl amdanynt pan fu
Pwerau "anfodlon" Ewrop yn traethu eu hawliau, yn ystod
y blynyddoedd diweddar, i gael rhan helaethach o drefedigaethau.
Y mae'n rhaid edrych ar broblem trosglwyddo trefedigaethau yn erbyn cefndir terfysg economaidd ac ansefydlogrwydd cymdeithasol a greodd ofnau ymhob gwlad. Gyrrwyd
llywodraethau i geisio sicrhau hunan-ddigonoldeb economaidd, i amddiffyn eu diwydiannau eu hunain a'u cyflenwad
o ddefnyddiau crai ar draul eiddo rhai eraill. Ac er na allodd
eu hymerodraethau achub Prydain Fawr a Ffrainc o boenau
dirwasgiad economaidd, bu eu meddiannau eang yn ddigon
i greu eiddigedd yn yr Almaen, yr Eidal a Japan. Y mae'r
Pwerau "anfodlon" hyn yn dadlau y dylid rhannu'r trefedigaethau o newydd, ar sail tri phwynt. Yn y lle cyntaf, cenfigen y Pwerau "anfodlon," ond mewn byd hapusach
hwyrach y gall ddiddymu gwirionedd rhai o'u cwynion. Pa
fodd bynnag, boed inni bob amser gofio ein bod, yn y lle
cyntaf a blaenaf, yn ymddiriedolwyr dros les y pobloedd
brodorol. Ni all yr un wlad sy'n ymladd i achub Ewrop o
anghyfiawnder a cham fforddio i ddioddef anghyfiawnder a
cham yn Affrica Drofannol, nac yn unrhyw ran arall o'i
hymerodraeth drefedigaethol. Gan hynny, y mae'n hanfodol
angenrheidiol ein bod yn gallu cyfiawnhau ein dull o lywodraethu'r trefedigaethau gerbron y byd, gerbron y pobloedd
darostyngedig, a cherbron ein cydwybod ni ein hunain.
Argraffwyd yng Ngwasg Gee