Y Trefedigaethau/Rhagair
| ← Y Trefedigaethau | Y Trefedigaethau gan Ifor Leslie Evans |
Datblygiad Yr Ymerodraeth Drefedigaethol → |
RHAGAIR
OHERWYDD prysurdeb gyda gwaith arall ni ellais ysgrifennu'r pamffled hwn heb gymorth, ac y mae fy nyled yn fawr i'r Dr. E. Jones Parry, Darlithydd yn Hanes y Trefedigaethau yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, am wneuthur y gwaith bron i gyd, ac i Mr. Thomas Jones, M.A., am edrych ar ôl ein Cymraeg. Yr hyn y ceisiasom ei wneuthur, yn hynny o ofod a oedd gennym, yw dangos pa mor gymhleth yw problem y trefedigaethau, a nodi rhai o'r prif ystyriaethau economaidd a chymdeithasol sydd yn gorwedd dan ei hagweddau politicaidd.
Y mae Prydain Fawr a Ffrainc yn eu polisi trefedigaethol i raddau helaeth wedi tyfu allan o'r cyflwr cynnar hwnnw pan na feddylid am y trefedigaethau ond fel tiroedd i arglwyddiaethu arnynt a gorelwa ynddynt, ac y maent fwy-fwy yn coleddu'r syniad mai math o ymddiriedolwyr ydynt hwy dros bobloedd mwy cyntefig. Y mae'r Almaen Naziaidd a'r Eidal Ffasgaidd, ar y llaw arall, yn y cyflwr cynnar hwnnw lle y dyheir am feddiannu trefedigaethau am resymau parch a bri ac, fel y cyfeddyf eu harweinwyr yn ddigon agored, fel y gallo pobloedd "uwchraddol" ffynnu'n economaidd ar draul gwasgu a gormesu pobloedd "israddol." Gwelir felly fod problem y trefedigaethau yn fwy na brwydr rhwng "y rhai y mae ganddynt" a'r rhai nad oes ganddynt": ynghlwm wrthi y mae problem foesol sylfaenol ynglŷn â gwerthoedd dynol. Y safbwynt a gymerwn ni yn y pamffled hwn yw nad yw'r dyn du, pa mor gyntefig a pha mor anaeddfed bynnag fo, yn llai o ddyn am fod ei groen yn ddu a'i ymddygiad yn aml iawn, efallai, yn debyg i eiddo plentyn neilltuol o ddrygionus.
Hwyrach fod y dull hwn o ymosod ar y pwnc yn un sy'n pledio hunan-gyfiawnder a bodlonrwydd cysetlyd ynom ni ein hunain. A ydyw'r hyn a wnaethom ni mor lân a phur ag y gallwn fforddio taflu cerrig at eraill? Dyna Affrica Drofannol Brydeinig, er enghraifft, lle y mae tair ar ddeg o diriogaethau trefedigaethol gwahanol. Byddwn i yn barod i ddweud yn bendant am saith allan o'r un ar ddeg yr wyf i fy hun wedi ymweled â hwynt, mai buddiannau'r trigolion brodorol ydoedd prif egwyddor ein gweinyddiaeth. Yn y pedair arall yr oedd dwy duedd yn y weinyddiaeth: sicrhau lles a llwydd y brodorion, ar y naill law, a diogelu buddiannau economaidd Ewropeaidd ar y llaw arall; ond yr oedd hefyd gais di-ildio i gyrraedd cyfaddawd ymarferol rhyngddynt. Wrth gwrs, y mae amcanion yn gymysg, ac ni all gosodiadau cyffredinol am faes mor eang lai na bod nid yn unig yn anodd ond hefyd yn beryglus. Ond y mae un peth yn glir. Ar wahân i ychydig o eithriadau, nid yw. trefedigaethau a feddiennir yn ffynonellau cyfoeth mawr: heb eithriad o gwbl, y mae meddiannu trefedigaethau yn golygu dyletswyddau a rhwymedigaethau moesol na ellir mo'u hosgoi—ac yn anad neb gan weriniaeth wareiddiedig.