Y Trefedigaethau/Y Modd Y Llywodraethir Y Trefedigaethau
| ← Datblygiad Yr Ymerodraeth Drefedigaethol | Y Trefedigaethau gan Ifor Leslie Evans |
Gweinyddiaeth yn Affrica Drofannol → |
II. Y MODD Y LLYWODRAETHIR Y TREFEDIGAETHAU
Y mae trigolion y tiriogaethau eang hyn, a dducpwyd dan faner Prydain i raddau trwy hap a damwain, ac i raddau o fwriad, yn byw ac yn gweithio dan amgylchiadau pur wahanol i'w gilydd ac mewn amrywiol gyflyrau gwareiddiad. Gan hynny, y mae'n dilyn yn naturiol a rhesymol na all fod unrhyw un ffurf bendant o lywodraeth y gellir ei chymhwyso, heb ystumio dim arni, i bob math o amgylchiadau. Yn hytrach, y mae'n rhaid wrth ffurfiau mor wahanol i'w gilydd fel mai prin y gellir rhoi amlinelliad ohonynt yn yr ychydig ofod sydd gennym.
Yn gyntaf, y mae gan Burma gyfansoddiad sydd mewn dosbarth ar ei ben ei hun.
Yn ail, gellir ystyried yr unig ddwy drefedigaeth hunan-lywodraethol yn yr Ymerodraeth Brydeinig heddiw, sef Rhodesia Ddeheuol a Ceylon, fel gwledydd sydd ar y ffordd i gyrraedd safle annibynnol y tu mewn i Undeb y Cenhedloedd Prydeinig.
Y trydydd dosbarth, a'r un mwyaf o ddigon o ran rhif, yw'r trefedigaethau gyda llywodraeth gynrychioliadol. Gellir thannu'r rhain yn nifer o ddosbarthiadau llai yn ôl y modd y ffurfir y Corff Deddfroddol ynddynt, rhai ohonynt yn dibynnu'n llwyr ar etholiad, eraill yn cynnwys rhai aelodau oherwydd eu swydd ac eraill trwy enwebiad, gyda hyn a hyn yn cael eu hethol. Ymhob achos (a dyma lle y mae aelodau o'r dosbarth hwn yn gwahaniaethu oddi wrth y trefedigaethau hunan-lywodraethol) y mae'r weinyddiaeth yn atebol i'r Goron, drwy ei chynrychiolydd ym mherson y Llywodraethwr, ac nid yn uniongyrchol i'r Corff Deddf- roddol. Cynnwys y pedwerydd dosbarth y tiriogaethau hynny y mac Prydain Fawr yn dal trwyddedau i'w gwarchod a'u datblygu ar ran Cynghrair y Cenhedloedd. Yn y pumed dosbarth daw'r taleithiau sydd dan nawdd ac amddiffyn Prydain. Y mae gan rai o'r taleithiau hyn (er enghraifft, Sarawak) ymreolaeth fewnol, ond rheolir eu cysylltiadau allanol gan Lywodraeth Prydain; y mae rhai eraill, megis Tonga, lle y rheolir materion mewnol ac allanol gan Lywodraeth Prydain, ond lle y mae'r weinyddiaeth fewnol yn nwylo'r llywodraethwr brodorol.
Ac yn y dosbarth olaf ceir y tiriogaethau hynny y mae Prydain Fawr yn eu rheoli mewn partneriaeth â gwlad arall, c.e., yr Hebrides Newydd mewn partneriaeth â Ffrainc. A gadael allan y Dominiynau, yr India, a Burma, gwelsom nad oes ond dwy, ymhlith yr hanner cant (fwy neu lai) o drefedigaethau a berthyn i Brydain, yn mwynhau hunan-lywodraeth. Ar y cyfan, er hynny, fe gymerwyd yn ganiataol, ac yn wir mynegwyd hynny'n swyddogol lawer gwaith, yr estynnir hunan-lywodraeth i'r trefedigaethau eraill wrth iddynt ddyfod yn addas i'w defnyddio a phan font yn aeddfed i hynny. "Y mae'n rhaid deall," medd yr Arglwydd Hailey, "mai'r hyn y mae polisi Prydain yn anelu ato ar gyfer dyfodol politicaidd ei threfedigaethau yn Affrica yw hunan-lywodraeth wedi ei seilio ar sefydliadau cynrychioliadol." Er mwyn paratoi ar gyfer hyn, i ddisgyblu'r brodorion yn y gwaith o lywodraethu, crewyd, o dipyn i beth, y gyfundrefn a adwaenir fel "llywodraeth an-uniongyrchol." Rhoddwyd cynnig arni am y tro cyntaf yn Affrica gan yr Arglwydd Lugard, pan ddigwyddodd ei gael ei hun, ym mlynyddoedd cyntaf y ganrif hon, yn gynrychiolydd Prydain Fawr, a chanddo'r cwbl o Nigeria Ogleddol ar ei ddwylo. Bid siŵr, y mae concwerwyr eraill, cyn belled yn ôl â'r Normaniaid a'r Rhufeinwyr, a hyd yn oed cyn hynny, yn niffyg gwŷr ac arian, wedi defnyddio sefydliadau'r pobloedd gorchfygedig. Dyna a wnaeth yr Arglwydd Lugard, ond fe wnaeth hefyd rywbeth llawer mwy. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, gyda bagad o swyddogion galluog, daliodd ati i weithio allan gyfundrefn a allai weddnewid y breniniaethau dirywiol a gafodd yn Nigeria Ogleddol, a'u troi'n rhywbeth tebyg i gorfforaethau llywodraeth leol, a hynny er budd a lles yr holl bobl. A dyna, yn fyr, yw ystyr llywodraeth anuniongyrchol: ymgais i ddefnyddio a datblygu sefydliadau politicaidd sydd eisoes mewn bodolaeth, er mwyn llywodraethu pobloedd a ddarostyngwyd. Yr awdurdodau a fu yn y gorffennol yn cadw trefn a dosbarth ar faterion pob uned o'r gymdeithas frodorol oedd penaethiaid neu gynghorau'r llwyth. Os yw'r trigolion heddiw yn dal i gydnabod yr awdurdodau hyn o hyd, ac i ufuddhau iddynt, fe ddyry Llywodraeth Prydain iddynt bwerau a galluoedd (wedi eu diffinio'n fanwl) i weinyddu'r cyfreithiau, i'w dehongli a hyd yn oed i'w llunio. Fe'u cyfrifir, yn wir, yn rhannau hanfodol o beirianwaith y llywodraeth. Pan fo awdurdod brodorol sy'n dderbyniol gan y bobl, wedi ei sefydlu, y mae'n ddyletswydd ar y swyddog gweinyddol Prydeinig hyfforddi'r gweinyddwyr brodorol yn eu dyletswyddau fel llywodraethwyr eu pobl yn ôl safonau gwareiddiad. Y mae gan y swyddog gweinyddol, wrth gefn iddo, hawliau i ymyrryd—hawliau y bydd yn eu defnyddio, pan fo rhaid, i gywiro cyfeiliorni neu anghyfiawnder, ond bydd yn annog y brodorion i ddatrys cu problemau eu hunain. Gosodir y trethi gan Lywodraeth Ganolog y Diriogaeth, hynny yw, gan y Llywodraethwr Prydeinig, ond penderfynir eu maint a'u casglu gan y Trysorlysoedd Brodorol, a chaniatéir iddynt gadw cyfartaledd arbennig ohonynt—cyfartaledd sy'n amrywio o 25% i 75%—ar gyfer treuliau eu gweinyddiaeth.
Dyna'n fras y sail y gweithredir arni mewn llywodraeth anuniongyrchol. Hwyrach y barna'r mwyafrif o bobl mai hon yw'r unig gyfundrefn bosibl, achos y mae'n ymddangos ar unwaith mor gyfiawn a naturiol; y mae'n meithrin teimlad gyfrifoldeb yn y brodorion, yn rhoi cyfrwng i ynni a medr y rhai mwyaf blaenllaw eu mynegi eu hunain, ac yn gadael i bob uned mewn talaith fynd rhagddi yn ei ffordd ei hun; ac yn olaf, yn ôl ein dyletswydd foesol a'n cyfrifoldeb fel ymddiriedolwyr dros bobloedd Affrica, y mae cynrychiolwyr Prydain yno yn dysgu'r brodorion i'w llywodraethu eu hunain. Diau mai rhyw ffurf ar weinyddiaeth anuniongyrchol yw'r unig fath o lywodraeth y gellir meddwl amdani ar hyn o bryd mewn rhannau helaeth o'r ymerodraeth drefedigaethol. Ond nid yw'r ffurf hon heb ei mannau gwan, a bu beirniaid digon diffuant eu cydymdeimlad yn barod i'w dangos. Efallai mai'r feirniadaeth bwysicaf ar lywodraeth anuniongyrchol yw nad yw'n darparu digon ar gyfer creu cyfnewidiadau yn y gyfundrefn gan y bobl sydd â mwyaf o ddiddordeb ynddi, sef hynny o'r brodorion a gafodd fanteision addysg. Y mae'r gyfundrefn lwythol wedi ei glanhau o'u drygau gwaethaf; ond y mae perygl i benaethiaid brodorol droi'n swyddogion gormesol sy'n derbyn eu hawdurdod gan y pen-goruchwyliwr Prydeinig yn hytrach nac oddi wrth ddefodau ac arferion y brodorion eu hunain. Hefyd, geilw'r beirniaid sylw at yr anghysondeb sydd mewn ceisio cadw a datblygu sefydliadau politicaidd y llwythau, ac ar yr un pryd eu sefydliadau cymdeithasol ac economaidd yn cael eu tanseilio gan ddylanwad syniadau ac addysg Ewropeaidd. Y mae cymdeithas y llwythau yn newid yn gyflym; ond os meddylia'r swyddogion Prydeinig am ddisgyblu dosbarth llywodraethol o benaethiaid ar gyfer gweinyddiaeth effeithiol-os meddyliant am hynny'n unig, y mae llywodraeth anuniongyrchol yn rhwym o fferru a throi'n adweithiol. Y mae'r pwyntiau beirniadaeth hyn yn rhai pwysig; ond ar y cyfan y mae'n debyg y cytunai'r mwyafrif o bobl fod llywodraeth anuniongyrchol yn beth da cyn belled ag y mae'n mynd. I gael llwyddiant terfynol, fodd bynnag, y mae'n rhaid iddi wrth ryw drefniadau i'w datblygu ymhellach ac i sicrhau fod brodorion wedi cael addysg yn cydweithio o fewn cyfundrefn y llwyth. Y mae llywodraeth anuniongyrchol wedi ei hestyn i rannau eraill o'n hymerodraeth yn Affrica gyda chryn lwyddiant-fel dull o weinyddiaeth. Ond na foed inni anghofio y bydd ein hymerodraeth, yn y pen draw, yn ei chyfiawnhau ei hun neu beidio i'r graddau y tuedda, yn wirioneddol a chyson, i droi'r trefedigaethau yn gymdeithasau rhydd o ddynion rhydd hynny yw, i'r graddau y sicrha ryddid economaidd a diwylliannol i'r cylchoedd hynny sydd yn alluog i'w ddefnyddio, ac y datblyga'r gallu hwnnw yn y rheini nad yw eto wedi cyrraedd ei lawn dwf ynddynt, drwy eu hannog a rhoi cyfle iddynt i ymarfer â'u llywodraethu eu hunain.