Neidio i'r cynnwys

Y Wers Olaf/Cyfrinach y Melinydd

Oddi ar Wicidestun
← Y Wers Olaf Y Wers Olaf

gan Alphonse Daudet


wedi'i gyfieithu gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)
Y Sêr →


CYFRINACH Y MELINYDD.

ADRODDWYD wrthyf y nos o'r blaen gan Siôn Ffransis—hen ganwr y bibell a ddaw o dro i dro i gadw noswyl gyda mi, gan yfed gwin poeth—ddrama fechan bentrefol y bu fy melin yn dyst ohoni ers tuag ugain mlynedd yn ol. Tarawyd fi gan stori'r gŵr, a cheisiaf ei hadrodd i chwi fel y clywais hi.

Dychmygwch am funud, ddarllenwyr hoff, eich bod yn eistedd o flaen gwydraid o win peraroglus, ac mai hen ganwr y bibell a sieryd â chwi.

"Gyfaill mwyn, nid fel y mae heddyw, yn lle marwaidd, diadsain, y bu ein gwlad erioed. Gynt, gwneid yma fasnach fawr â'r melinau, ac o fewn cylch o ddeng milltir ar hugain deuai'r amaethwyr â'u hyd i ni i'w falu. O gylch y pentref i gyd, gorchuddid y bryniau â melinau gwynt. Ar dde ac aswy, ni welid ond yr adenydd chwyrn a droai uwch y pinwydd gyda gwynt y De, rhesi o asynod bychain llwythog o sachau yn dringo ac yn disgyn ar hyd yr heolydd, a thrwy yr wythnos pleser oedd clywed, o ben y rhiw, sŵn y chwip, rhwygiad y lliain, a "Hai O!" y gweision. Ar y Sul, aem yn lluoedd i'r melinau. Ar y llofft, yr oedd y gwŷr yn yfed gwin. Yr oedd y gwragedd a'r merched mor dlws â breninesau, gyda'u gwisgoedd o rwydwaith a'u croesau aur. Awn innau â'm pibell, a than y nos dywyll dawnsid y ffarandôl. Y melinau, chwi welwch, oedd llawenydd a chyfoeth ein gwlad.

Fel y bu gwaetha'r modd, daeth i fryd rhyw Ffrancwyr o Baris sefydlu melin ager ar y ffordd yr eir i Darascon.

Popeth newydd, dedwydd da! Daeth yn arferiad gan y bobl fynd â'u hyd i'r melinau ager, ac aeth y melinau gwynt, druain, yn ddiwaith. Am beth amser, ceisiasant ymladd, eithr yr ager oedd y cryfaf, ac ysywaeth, gorfu iddynt oll, y naill ar ol y llall, gau. Ni welid yn dod mwyach yr asynod bychain. Gwerthodd y gwragedd glandeg eu croesau aur. Dim mwyach o'r gwin peraidd! Dim mwyach o'r ddawns! Yn ofer y chwythai gwynt y De; safai'r adenydd yn llonydd. Yna, ryw ddydd braf, parodd yr awdurdodau dynnu'r hen furddynau i lawr, ac yn eu lle plannwyd y winwydden a'r olewydd.

Eithr ynghanol y dymchwel i gyd, yr oedd un felin wedi dal ei thir, ac yn parhau i droi ar ei bryncyn, yn nannedd y melinau ager. Melin Henri Roland oedd, yr ydym yn awr ar fedr dadlennu ei hanes.

Hen felinydd oedd Henri Roland, yn byw yn y blawd ers trigain mlynedd, ac yn ddigllawn oherwydd cyflwr pethau. Parasai sefydlu'r melinau ager iddo fynd fel un ynfyd. Am wyth niwrnod gwelwyd ef yn rhedeg drwy y pentref, gan gyffroi y bobl o'i gylch, a chan weiddi â'i holl egni y ceisid gwenwyno'r wlad â blawd y melinau ager. "Nac ewch i lawr yna," meddai. "Er mwyn gwneuthur bara, defnyddia'r lladron yma ager—dyfais y diafol, gweithiaf innau gyda gwynt y De a gwynt y mynydd, anadl y Duw da." Ac felly y darganfyddai lu o eiriau gwych o glod i'r melinau gwynt, eithr nid oedd neb a'i gwrandawai.

Yna, o fawr ddigllonedd, caeodd yr hen ŵr ei hun yn ei felin, a bu byw wrtho'i hun fel creadur anwar. Ni fynnai gadw yn ei ymyl hyd yn oed ei wyres fechan Mari,—plentyn pymtheng mlwydd oed, na feddai ond ei thadcu yn y byd. Gorfu i'r fechan ennill ei bywioliaeth, a gweithio ar hur ar draws y ffermydd amser cynhaeaf y pryf sidan neu'r olewydd. Ac eto, ymddangosai ei thadcu yn hoff iawn ohoni. Yn fynych, cerddai ganol dydd goleu, ddeuddeng milltir ar draed, er mwyn mynd i'w gweld i'r fferm lle y gweithiai, a phan fyddai yn ei hymyl, treuliai oriau cyfain i syllu arni gan wylo.

Credid yn gyffredin yn yr ardal mai cybydd-dod a barasai i Henri Roland yrru Mari oddiwrtho, a theimlid nad peth parchus ar ei ran oedd gadael i'w wyres ymlusgo felly o un fferm i'r llall, yn agored i beryglon a holl helbulon ieuenctid mewn gwasanaeth. Gwael hefyd oedd gweld dyn fel Henri Roland, a gawsai hyd yn hyn ei barchu, yn awr yn mynd hyd yr heolydd fel cardotyn, yn droednoeth, ei het yn dyllog, a'i ddillad yn garpiau. Y gwir yw, pan welem ef yn dod i'r gwasanaeth ar y Sul, yr oedd arnom ni, yr hynafgwyr, gywilydd ohono, a theimlai Henri Roland hynny i'r fath raddau ag na feiddiai ddod mwyach i eistedd yn seddau'r gwarcheidwaid. Arhosai bob amser ym mhen pellaf yr eglwys, yn ymyl y fendithfa, gyda'r tlodion.

Ym mywyd Henri Roland, yr oedd rhywbeth nad oedd yn glir. Er ys amser hir bellach, ni chariai neb o'r pentref yd iddo, ac eto, troai adenydd ei felin bob dydd fel o'r blaen. Yn yr hwyr, cyfarfyddid â'r hen felinydd hyd yr heolydd yn gyrru ei asyn o'i flaen, yn llwythog o sacheidiau mawrion o flawd.

"Nos da, Henri Roland!" meddai'r ardalwyr wrtho. Mae'r felin yn mynd o hyd, ynte?

"O hyd, 'y mhlant i," atebai'r hen ŵr yn siriol. "Diolch i Dduw, nid ydym yn brin o waith."

Yna, os gofynnai rhywun iddo o ba le yn enw popeth y gallai cymaint o waith ddod iddo, gosodai ei fys ar ei wefus, ac atebai'n ddifrifol, "Peidiwch â dywedyd wrth neb! 'Rwy'n gweithio tuag at allforio." Byth ni cheid ychwaneg oddiwrtho.

Am roi troed o fewn i'w felin, ofer i neb geisio. Nid ai hyd yn oed Mari fach i mewn yno.

Pan eid heibio, gwelid y drws bob amser ynghau, yr adenydd mawrion bob amser yn symud, yr hen asyn yn pori'r glaswellt ger y drws, a hen gath fawr, deneu yn torheulo ar garreg y ffenestr, gan lygad-rythu arnoch â golwg ffyrnig.

Yr oedd rhyw ddirgelwch yn hyn oll, ac achosai gryn siarad ymysg pobl. Eglurai pob un yn ei ddull ei hun gyfrinach Henri Roland, ond y dŷb gyffredin oedd bod yn y felin fwy o sacheidiau o aur nag o sacheidiau o flawd.

Ymhen amser, daeth y cyfan i'r amlwg; wele pa fodd.

Un dydd, a mi yn canu fy mhibell i'r ieuenctid gael dawnsio, sylwais fod fy machgen hynaf, a Mari fechan, wedi syrthio mewn cariad â'i gilydd. Ar y cyfan, ni flinwn am hynny, oherwydd wedi'r cwbl, yr oedd enw Henri Roland mewn anrhydedd gennym ni, ac heblaw hynny, pleser i mi a fyddai gweld Mari fechan siriol yn cerdded yn ol a blaen yn fy nhŷ. Eithr gan y cai'r ddau gyfleusterau aml i fod gyda'i gilydd, awyddwn er eu lles hwy drefnu'r peth ar unwaith, ac euthum tua'r felin er mwyn dywedyd dau air am hynny wrth yr hen ŵr. A! yr hen ddewin! Dyna dderbyniad a roddes i mi! Amhosibl oedd cael ganddo agor ei ddrws. Eglurais iddo fy rhesymau oreu y medrwn trwy dwll y clo; a'r holl amser tra siaradwn, yno'r oedd yr hen filain o gath deneu, yn chwythu fel diafol uwch fy mhen.

Ni roddes yr hen ŵr amser i mi orffen, a gwaeddodd arnaf yn dra anfoesgar am ddychwel at fy mhibell; os oeddwn yn awyddus i briodi fy mab, mai gwell a fyddai i mi chwilio ymhlith merched y melinau ager. Dychmygwch fel y berwai fy ngwaed wrth glywed y geiriau ffôl hyn, eithr ar yr un pryd yr oeddwn yn ddigon call i dewi, a chan adael yr hen ynfytyn wrth ei faen melin, dychwelais i adrodd wrth y plant mor aflwyddiannus y buaswn. Ni fedrent hwy, druain, gredu'r peth. Gofynasant i mi am ganiatâd i fynd ill dau gyda'i gilydd i fyny i'r felin i siarad â'r tadcu. Ni feddwn y gwroldeb i wrthod, ac ar unwaith, wele'r ddau i ffwrdd.

Pan gyraeddasant i fyny yno yr oedd Henri Roland newydd fynd allan. Yr oedd y drws wedi ei ddwbl gloi, ond wrth ymadael, gadawsai'r hen ŵr ei ysgol o'r tu allan, ac yn y fan, cafodd y plant y syniad o fynd i mewn drwy'r ffenestr, er mwyn edrych beth oedd yn y felin enwog hon.

Syndod! Yr oedd y felin yn wag. Dim sach, dim gronyn o yd, dim blawdyn ar y muriau nac ar we'r pryf copyn. Ni chlywid hyd yn oed yr arogl hyfryd-gynnes hwnnw o wenith wedi ei falu a leinw felinau. Gorchuddid y trawst gan lwch, ac arno cysgai'r gath fawr, deneu.

Yr un olwg resynus a gwrthodedig oedd ar yr ystafell isaf, gwely gwael, amryw garpiau, darn o fara ar un o ffyn yr ysgol; a thrachefn mewn congl, tair neu bedair sach dyllog, a graean a phridd gwyn yn llifo allan ohonynt.

Dyna oedd cyfrinach Henri Roland! Y sothach yma a gludai hyd yr heolydd yn yr hwyr, er mwyn cynnal anrhydedd y felin a pheri credu bod yno falu o hyd. Druan a'r felin! Druan a Henri Roland! Er ys talm dygasai y melinau ager oddiarnynt eu gorchwyl olaf. Chwyrnellai'r adenydd beunydd, eithr ar ddim y troai'r maen.

Dychwelodd y plant mewn dagrau i adrodd wrthyf yr hyn a welsent. Llosgai fy nghalon ynof wrth eu clywed. Heb golli munud, rhedais at y cymdogion, dywedais wrthynt yr hanes mewn dau air, a chytunasom fod yn rhaid cario i felin Henri Roland gymaint o wenith ag oedd i'w gael yn y tai. Nid cynt y dywedwyd nag y gwnaethpwyd. Cychwynnodd yr holl bentref allan, a chyraeddasom i fyny yno gyda gorymdaith o asynod llwythog o yd,—o'r yd gwirioneddol.

Yr oedd y felin yn agored led y pen. O flaen y drws, yn eistedd ar sachaid o sothach, wylai Henri Roland â'i bwys ar ei ddwylaw. Yr oedd newydd ddarganfod, ar ei fynediad i mewn, fod rhywun yn ystod ei absenoldeb wedi torri i'w dŷ ac wedi dwyn oddiarno ei gyfrinach drist.

"Druan a mi!" meddai," Bellach, nid oes i mi ond marw; gwaradwyddwyd y felin." Ac ochneidiai o waelod ei enaid, gan annerch ei felin â phob math o enwau, a siarad â hi fel â bod dynol.

Ar y foment honno, wele'r asynod yn cyrraedd y clôs, a gwaeddasom ninnau oll yn uchel fel yn nyddiau dedwydd y melinau,—

Ho! Y Felin! Ho! Henri Roland!

Ac wele bentyrru'r sacheidiau o flaen y drws, a'r yd melyn-goch hyfryd yn syrthio ar y llawr ar bob tu.

Agorodd Henri Roland ei lygaid led y pen.

Cymerodd ychydig yd ar gledr ei law hen, a dywedodd, gan wylo a chwerthin ar unwaith,—

Yd yw! Y Duw mawr! Yd hyfryd! Gadewch i mi fel yr edrychwyf arno."

Yna, gan droi atom ni,—

A! Mi a wyddwn yn dda y dychwelech ataf. Lladron yw pobl y melinau ager yma i gyd."

Yr oedd arnom awydd ei gario yn fuddugoliaethus drwy'r pentref.

"Na, na, 'mhlant i. Cyn dim rhaid i mi roi tamaid i'w fwyta i'm melin. Meddyliwch gymaint o amser sydd er pan gafodd ddim rhwng ei dannedd!"

Ac yr oeddem oll â'r dagrau yn ein llygaid wrth weld yr hen ŵr yn rhuthro i'r dde ac i'r aswy, yn agoryd y sachau, yn bwrw golwg dros y meini, tra malurid y grawn, ac yr esgynnai mân lwch y blawd gwenith i'r nenfwd.

Cyfiawnder â ni yw dywedyd na ddarfu i ni o'r dydd hwnnw adael i'r hen felinydd fod yn brin o waith. Yna un bore bu farw Henri Roland, a safodd adenydd ein melin olaf, am byth y tro hwn. Wedi marw Henri Roland, ni chymerodd neb ei le. Wele! y mae amser terfynedig i bopeth yn y byd hwn, a rhaid credu bod amser melinau gwynt hefyd wedi darfod.

Nodiadau

[golygu]