Neidio i'r cynnwys

Y Wers Olaf/Y Ferch o Arles

Oddi ar Wicidestun
Yr Afr Fach Wen Y Wers Olaf

gan Alphonse Daudet


wedi'i gyfieithu gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)
Gwin Y Parchedig Dad Gregori


Y FERCH O ARLES.

WRTH ddisgyn o'm melin er mwyn mynd i'r pentref, eir heibio i fferm a adeiladwyd yn agos i'r ffordd, ym mhen draw buarth mawr â danadl yn tyfu drosto. Un o wir ffermdai ein gwlad yw hwn, gyda'i lechi cochion, a'i fur mawr, tywyll, aml-dyllog, ac uwchben, melin wynt yr ysgubor, y chwerfan er mwyn codi'r meini, ac yma a thraw, ambell ddyrnaid o wair melyn.

Paham y'm tarawyd gan yr olwg ar y tŷ hwn? Paham y llethid fy nghalon gan yr olwg ar y drws caeëdig yma? Ni fedrwn ei esbonio, ac eto yr oedd rhyw ysgryd arnaf wrth weld y lle. Yr oedd gormod o ddistawrwydd o'i gylch. Pan eid heibio, ni chyfarthai'r cwn, a hedai'r ieir ymaith heb glochtar. O'r tu mewn, dim llais! Dim hyd yn oed gloch mul! Oni bai am lenni gwynion y ffenestri, a'r mwg a ddeuai o'r simnai, credasid nad oedd yno neb yn byw.

Doe, ar darawiad deuddeg, dychwelwn o'r pentref, ac er mwyn osgoi tanbeidrwydd yr haul, cerddwn wrth ochr gwal y fferm, yng nghysgod y llwyni danadl. Ar y ffordd, o flaen y ffermdy, yr oedd y gweision distaw ar orffen llanw llwyth o wair. Yr oedd y porth yn agored. Teflais gipolwg wrth fynd heibio, a gwelais ar ben draw'r buarth,—ei bwys ar ei ddau benelin, a'i ben yn ei ddwylaw,—ar fwrdd mawr o garreg, hen ŵr tal, penwyn, ei siaced yn rhy fyr, a'i lodrau'n garpiog. Sefais. Sibrydodd un o'r dynion wrthyf:

"Ust! y meistr yw. Fel yna y mae oddiar yr anffawd i'w fab."

Ar y funud honno aeth heibio i ni wraig a llanc bychan mewn dillad duon, a chanddynt Lyfrau Gweddi mawrion goreuredig, ac aethant i mewn i'r ffermdy.

Ychwanegodd y dyn:

Meistres a'r mab ieuengaf yn dychwelyd o'r offeren. Ânt yno bob dydd er pan laddodd y bachgen ei hun. A! syr, y fath anrhaith! Gwisg y tad o hyd ddillad y bachgen a fu farw. Ni fedr neb gael ganddo eu gadael . . . Hoi! Geffyl!"

Ymysgydwodd y cerbyd at gychwyn. Minnau, yn awyddus i glywed mwy, a ofynnais i'r gyrrwr am gael esgyn i'w ymyl, ac i fyny yno, yn y gwair, y cefais gwbl o'r hanes drylliog hwn.

Ian oedd ei enw. Llanc braf, ugain oed oedd, yn addfwyn fel geneth, yn gryf ac wyneb-agored. Gan ei fod yn olygus iawn, cai sylw'r merched, eithr am un yn unig y meddyliai efe, un fechan o Arles, mewn pali ac eddi i gyd, a gyfarfuasai unwaith ar y campfaes yn Arles. Ar y dechreu nid edrychid yn ffafriol ar y cysylltiad hwn yn y fferm. Dywedid mai hoeden oedd yr eneth, ac nad rhai o'r ardal honno oedd ei rhieni. Ond dymunai Ian â'i holl enaid ei ferch o Arles. Dywedai:

"Byddaf farw onis caf."

Bu raid ildio. Penderfynwyd eu priodi ar ol y cynhaeaf. Yna, un nos Sul, yng nghyntedd y ffermdy, yr oedd y teulu ar orffen eu cinio. Yr oedd bron yn wledd neithior yno. Ni chynorthwyai'r ddyweddi, ond yfesid i'w hiechyd da lawer gwaith. Daeth dyn at y drws, ac mewn llais crynedig, gofynnodd am gael siarad â'r meistr, Stephan, ag ef yn unig. Cododd Stephan ac aeth allan i'r heol.

"Syr," ebe'r dyn wrtho, yr ydych yn mynd i briodi eich plentyn â dyhiren—un a fu fel gwraig i mi am ddwy flynedd. Mi a brofaf yr hyn a ddywedaf; wele lythyrau. Gŵyr ei rhieni y cyfan, ac addawsent hi i mi, ond oddiar pan geisiodd eich mab hi, ni fynnant hwy na hithau mwy mo honof.

Tybiaswn, wedi'r hyn a fu, na allasai hi fod yn wraig i un arall."

"O'r gore," ebe Stephan, wedi darllen y llythyrau. "Dewch i mewn i yfed gwydraid o win."

Atebodd y dyn:

Dim, diolch. Y mae arnaf fwy o ofid nag o syched." Ac aeth i'w ffordd.

Dychwelodd y tad heb ddangos ei gyffro. Ail gymerodd ei le wrth y ford, a gorffennwyd y wledd mewn llawenydd. Y noson honno, aeth Stephan a'i fab gyda'i gilydd allan i'r caeau. Arosasant allan yn hir. Pan ddychwelasant, yr oedd y fam o hyd yn eu disgwyl.

"Wraig," ebe'r ffermwr, gan arwain ei fab tuag ati, cysura ef. Y mae mewn gofid." *** Ni soniodd Ian mwy am y ferch o Arles. Er hynny, carai hi o hyd, ac hyd yn oed yn fwy nag erioed er pan ddangoswyd hi iddo ym mreichiau un arall. Eithr rhy falch oedd i ddywedyd gair; hynny a'i lladdodd, druan ag ef! Weithiau, treuliai ddyddiau cyfain mewn congl heb symud. Brydiau eraill, gweithiai ar y tir yn ffyrnig, gan wneuthur ei hunan waith tri llafurwr. Yn yr hwyr, cerddai ar hyd ffordd Arles, ac ai yn ei flaen hyd nes y gwelai glochtai meinion y dref yn codi rhyngddo a machlud haul. Yna dychwelai. Nid aeth erioed ymhellach.

O'i weld felly, bob amser yn drist ac unig, ni wyddai pobl y fferm beth i'w wneuthur. Ofnid aflwydd. Un tro, wrth y bwrdd, dywedodd ei fam wrtho wedi ei weld â'i lygaid yn llawn dagrau:

"Wel, gwrando, Ian. Os wyt am ei chael wedi'r cwbl, ni a'i rhoddwn i ti."

Gwridodd y tad gan gywilydd, a phlygodd ei ben. Gwnaeth Ian arwydd na fynnai mo honi, ac aeth allan.

O'r dydd hwnnw, newidiodd ei ddull o fyw, gan ymddangos bob amser yn llon er mwyn rhoi tawelwch meddwl i'w rieni. Gwelid ef eto yn y ddawns, yn y dafarn, yn y chwaraeon. Yn etholiad Fonvieille, efe a arweiniai â'r ffarandôl.

Dywedai'r tad, "Mae wedi gwella." Ond yr oedd gan y fam ei hofnau o hyd, a gwyliai ei phlentyn yn fwy nag erioed. Cysgai Ian gyda'i frawd ieuengaf yn ymyl tai'r pryf sidan. Cododd y fam wely iddi ei hun wrth ochr eu hystafell hwy. Gallai fod eisiau ei gofal ar y pryfed yn ystod y nos.

Daeth gwledd Sant Eli, noddwr y ffermwyr. Llawenydd mawr yn y fferm. Yr oedd yno dŷ agored i bawb, a gwin poeth ddigonedd. Yna'r chwaraeon, y tanau, a'r llwyni danadl llawn llusernau lliwiedig. Byw fyddo Sant Eli! Dawnsid yn ddiddiwedd. Llosgodd y brawd ieuengaf ei gôt newydd. Ymddangosai Ian ei hun yn llawen; ceisiai gan ei fam ddawnsio; wylai'r hen wraig o lawenydd am hyn.

Ganol nos aethpwyd i orffwys. Yr oedd ar bawb eisiau cysgu. Ond ni chysgodd Ian. Dywedai ei frawd ieuengaf ar ol hyn mai ochneidio a wnaethai drwy'r nos.

Trannoeth gyda'r wawr, clywodd y fam rywun yn croesi ei hystafell gan redeg. Cafodd fath o rybudd:

"Ian, ai ti sydd yna? "

Nid etyb Ian. Y mae eisoes ar yr ysgol. Yn frysiog, frysiog, cwyd y fam.

"Ian, i ba le yr ei di?"

Esgyn i'r llofft uchaf, â hithau ar ei ol:

"Fy mab, yn enw'r nefoedd !"

Cae yntau y drws a thyn y follt.

Ian! fy Ian annwyl! ateb fi. Beth wyt ti'n mynd i'w wneuthur?

Gan ymbalfalu â'i dwylaw hen, crynedig, chwilia am y glicied. Ffenestr yn agoryd, sŵn corff ar lechi'r cyntedd, a dyna'r cwbl!

Dywedasai ynddo'i hun, druan tlawd, " 'Rwy'n ei charu'n rhy fawr. Mi a af oddiyma."

O'r fath rai gresynus ydym! Caled yw er hynny, na fedrai dirmyg ladd cariad!

Y bore hwnnw, ymholai pobl pwy a allai fod yn crio felly i lawr gerllaw fferm Stephan.

Y fam oedd yno yn y cyntedd, o flaen ford garreg orchuddiedig â gwlith a gwaed—yn wylofain, a chorff marw ei mab ar ei breichiau noeth.

Nodiadau

[golygu]