Neidio i'r cynnwys

Y Wers Olaf/Y Wers Olaf

Oddi ar Wicidestun
Rhagair Y Wers Olaf

gan Alphonse Daudet


wedi'i gyfieithu gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)
Cyfrinach y Melinydd


Y WERS OLAF.
YSTORI LLANC O ALSAS.

Y BORE hwnnw yr oeddwn yn ddiweddar iawn yn mynd i'r ysgol, ac ofnwn gerydd, gan fod Mr. Hamel wedi dywedyd wrthym y byddai yn ein holi ar y berfau, ac ni wyddwn i ddim cymaint â'r gair cyntaf. Am eiliad sibrydodd rhywbeth wrthyf am golli'r wers a mynd am dro drwy'r caeau.

Yr oedd y tywydd mor boeth, mor glir!

Clywid y fwyalchen yn canu ym mlaen y goedwig, ac yn y ddôl tu ol i'r felin lifio yr oedd y Prwsiaid yn ymarfer. Temtiai'r pethau hyn fi yn fwy na rheolau'r berfau, ond bum ddigon cryf i wrthsefyll, a rhedais yn gyflym tua'r ysgol.

Wrth fynd heibio i neuadd y pentref gwelwn nifer o bobl yn sefyll o flaen y fan lle y gosodid i fyny hysbysiadau. Er ys dwy flynedd, o'r fan honno y deuthai i ni bob newydd drwg, y brwydrau a gollasid, archebion a gorchmynion y Llywodraeth, a meddyliwn heb aros, "Beth sydd yn bod heddyw eto?"

Yna, a mi yn croesi'r sgwâr dan redeg, clywn Wachter y gof, a safai yno gyda'i brentis yn darllen yr hysbysiad, yn galw arnaf:

"Paid â brysio cymaint, 'machgen i; ti gyrheiddi dy ysgol yn ddigon buan."

Credwn mai cellwair â mi yr ydoedd, ac euthum dan chwythu i mewn i gyntedd bychan Mr. Hamel.

Bob amser, ar ddechreu'r ysgol, yr oedd yno dwrw mawr a glywid bron o'r ystrŷd, agor a chau desgiau, adrodd gwersi bawb gyda'i gilydd a chau'r clustiau er mwyn deall yn well, a gwialen fawr y meistr yn taro'r bwrdd: "Distawrwydd!"

Yr oeddwn wedi cyfrif ar y dwndwr yma i gael mynd i'm lle heb fy ngweld; ond y bore hwn yr oedd popeth mor ddistaw â phetai yn fore Sul. Drwy'r ffenestr agored gwelwn fy nghyd-ysgolheigion eisoes yn eu lleoedd, a Mr. Hamel yn mynd a dod a'r wialen ofnadwy dan ei fraich. Gorfu i mi agor y drws a mynd i mewn yn y distawrwydd dwfn yma. Gellwch ddychmygu mor goch oedd fy wyneb ac mor ofnus oeddwn.

Eithr edrych arnaf heb wg a wnaeth Mr. Hamel, a dywedyd wrthyf yn fwyn: "Cerdda yn fuan i'th le, Ffransis bach; yr oeddem yn mynd i ddechreu hebot.'

Neidiais dros y fainc ac eisteddais ar unwaith o flaen fy nesg. Yna, wedi i mi ymdawelu ychydig, sylwais fod ein meistr wedi gwisgo ei ddillad goreu, ei gôt werdd, brydferth, a'r cap sidan du â'r brodwaith arno. Ni wisgai byth mo'r rhai hyn ond ar ddydd arholiad neu ddydd rhannu gwobrwyon. Hefyd, yr oedd rhyw olwg ddifrifol a syn ar y dosbarth i gyd. Ond yr hyn a'm synnodd fwyaf oedd gweld, ar ben pellaf yr ystafell, yn y seddau oedd fynychaf yn wag, rai o wŷr y pentref yn eistedd yn ddistaw fel ni, yr hen Hawser a'i gap trionglog, y cyn-faer, y cyn-ysgrifennydd, a phersonau eraill. Edrychai'r bobl hyn i gyd yn drist. Deuthai Hawser â hen lyfr yr Wyddor ganddo, â'i ymylon wedi treulio, a daliai ef yn agored ar ei liniau, a'i sbectol fawr wedi ei gosod ar draws y tudalennau.

Tra rhyfeddwn am hyn oll, esgynnodd Mr. Hamel i ben cadair, a chyda'r un llais tawel-brudd dywedodd wrthym:

"Fy mhlant, dyma'r tro olaf y cewch wers gennyf i. Mae'r gorchymyn wedi dod o Berlin i beidio â dysgu mwyach ond yr Ellmyneg yn ysgolion Alsas a Lorên. Daw'r meistr newydd yfory. Heddyw, chwi a gewch eich gwers olaf yn y Ffrangeg. Dymunaf arnoch fod yn astud iawn."

Cyffrowyd fi gan yr ychydig eiriau hynny. Y cnafiaid! Dyna'r hysbysiad a roisent ar fur y neuadd, ynte! Fy ngwers olaf yn y Ffrangeg!

A minnau na fedrwn ond prin ysgrifennu! Ni chawn ei dysgu byth mwy, ynte! Byddai raid aros yn y fan hon! Fel y dymunwn yn awr am ail gyfle ar yr amser a gollwyd, y gwersi a esgeuluswyd i chwilio am nythau adar neu i lithro ar afon Saar! Fy llyfrau a gashawn gymaint gynneu, ac a deimlwn mor drwm i'w cario, fy ngramadeg, fy llyfr hanes, a ymddangosent i mi yn awr fel hen ffrindiau y blinwn oherwydd gorfod eu gadael. A Mr. Hamel, yntau. Yr oedd y syniad ei fod yn mynd i ffwrdd ac na welwn mohono mwyach, yn peri i mi anghofio pob cosb, pob curfa.

Druan ag ef!

O barch i'r wers olaf yma y gwisgasai ei ddillad dydd Sul, ac yn awr deellais paham y deuthai hen bobl y pentref i eistedd ym mhen draw'r ystafell. Yr oedd hynny fel petai'n dywedyd bod yn ddrwg ganddynt na fuasent wedi dod i'r ysgol hon yn amlach. Yr oedd hefyd yn rhyw ffordd o ddiolch i'n meistr am ei ddeugain mlynedd o wasanaeth, ac hefyd yn ddangoseg o barch i'n gwlad oedd ar fynd . . .

Deuthwn hyd y fan hon yn fy myfyrdodau pan glywn alw fy enw. Fy nhro i oedd i adrodd. Pa beth na roddaswn am fedru adrodd o'r dechreu i'r diwedd, yn uchel a chlir heb goll, y berfau yma i gyd; eithr petruswn i ar y geiriau cyntaf, a safwn ar fy nhraed â'm calon yn llawn heb feiddio codi fy mhen. Clywais Mr. Hamel yn dywedyd wrthyf:

"Ni cheryddaf i mohonot, Ffransis bach, dylit gael dy gosbi, dyna'r gwir. Bob dydd dywedit ti ac eraill, 'Twt, mae gennyf ddigon o amser, mi a ddysgaf yfory.' Ac yn awr ti a weli beth sydd yn digwydd. O ie, bai mawr ein gwlad Alsas a fu gohirio ei haddysg hyd yfory. Yn awr, mae gan y dynion yna hawl i ddywedyd wrthym: 'Beth! Cymerwch arnoch mai Ffrancwyr ydych, a chwithau heb fedru siarad nac ysgrifennu eich iaith!' Yn hyn i gyd, 'machgen i, nid ti yw'r mwyaf ei fai. Y mae gennym oll ein rhan o euogrwydd i'w chario.

"Ni fu eich rhieni yn ddigon awyddus am i chwi gael addysg. Gwell oedd ganddynt eich danfon i weithio ar y tir neu gyda'r rhod nyddu er mwyn ennill ychydig arian. A wyf i fy hun ddieuog? Oni wneuthum i chwi lawer gwaith ddyfrhau fy ngardd yn lle gweithio? A phan fynnwn fynd i bysgota brithyll, ai blin gennyf oedd eich gollwng chwi ymaith?"

Yna o un peth i'r llall, dechreuodd Mr. Hamel siarad â ni am yr iaith Ffrangeg, gan ddywedyd mai hi oedd iaith dlysaf y byd, y fwyaf clir a'r fwyaf cadarn: fod rhaid i ni ei chadw rhyngom â'n gilydd a pheidio byth â'i hanghofio, oherwydd pan syrth pobl yn gaethion, cyhyd ag y cadwant eu hiaith mae hynny fel pe dalient allwedd eu carchar. Yna cymerodd ramadeg a darllenodd i ni ein gwers. Synnais weld fel y deallwn. Teimlwn fod popeth a ddywedai yn hawdd, hawdd. Credaf hefyd na wrandawswn erioed yn well, ac na fuasai yntau chwaith erioed mor amyneddgar yn egluro. Gellid meddwl fod y dyn, druan, cyn mynd, am roi i ni yr hyn oll a wyddai, ac am ei arllwys i'n pennau y cwbl ar y tro.

Wedi gorffen y wers, aethpwyd i ysgrifennu. Yr oedd Mr. Hamel wedi paratoi samplau newydd sbon ar gyfer y diwrnod hwnnw, ac wedi ysgrifennu arnynt mewn llaw fras brydferth "Ffrainc, Alsas, Ffrainc, Alsas." Yr oeddynt fel baneri bychain yn chwifio o gylch y dosbarth, wedi eu hongian wrth farrau ein desgiau. O, fel yr oedd pob un o honom ar ei oreu, a dyna ddistawrwydd! Ni chlywid dim ond llithriad y pinnau ar y papur. Un waith, daeth aderyn i mewn, ond ni wnaeth neb sylw o hono, dim hyd yn oed y plant bach oedd mor ddiwyd yn ysgrifennu eu strôcs,—o galon ac o gydwybod, fel pe baent hwythau hefyd yn ysgrifennu Ffrangeg. Ar do'r ysgol, yr oedd colomennod yn canu eu cŵ-cŵ leddf, a meddyliwn ynof fy hun wrth wrando arnynt:

"Tybed a wna'r bobl yna i'r colomennod hefyd ganu Ellmyneg?

O dro i dro, pan godwn fy mhen o'm papur, gwelwn Mr. Hamel heb symud yn ei gadair yn syllu ar y pethau o'i gylch fel pe dymunai gario yn ei gof yr ystafell fechan i gyd. Er ys deugain mlynedd yr oedd yno yn yr un lle, y cyntedd o'i flaen ac yna'r dosbarth. Ond yr oedd y meinciau a'r desgiau, o fynych eistedd a phwyso arnynt, wedi ymloewi, yr oedd y goeden gnau ar y clôs wedi tyfu, a'r goeden hops a blanasai ef ei hun erbyn hyn yn garlantu'r ffenestr cyfuwch â'r to. Ing calon i'r dyn druan oedd meddwl gadael y pethau hyn i gyd, a chlywed ei chwaer yn mynd a dod uwchben, ar fedr cau'r cistiau! oherwydd yr oeddynt i fynd i ffwrdd drannoeth, i fyw i'r wlad am byth.

Er hynny, bu yn ddigon gwrol i fynd ymlaen â'r gwersi hyd y diwedd. Ar ol ysgrifennu cawsom wers ar hanes, yna aeth y plant bach drwy eu Ba, Be, Bi, Bo, Bu. Obry ar ben pellaf yr ystafell yr oedd yr hen Hawser wedi gwisgo ei sbectol, a chan ddal ei lyfr â'i ddwy law, sillafai'r llythrennau gyda'r plant. Gwelwn ei fod yntau hefyd yn gwneuthur ei oreu; crynai ei lais gan deimlad, a swniai mor rhyfedd i'n clyw nes bod awydd ar bawb ohonom chwerthin ac wylo. A! mi gofiaf byth am y wers olaf honno!

Cyn hir, tarawodd cloc yr eglwys ddeuddeg, yna canodd y gloch. Ar yr un funud seiniai utgyrn y Prwsiaid—ar eu ffordd o gae'r ymarfer—dan ein ffenestri. Cododd Mr. Hamel yn welw o'i gadair. Erioed ni welais ef yn edrych mor dal.

"Gyfeillion," eb ef, "gyfeillion, yr wyf . . . yr wyf . . .

Ond yr oedd rhywbeth yn ei dagu. Ni fedrai orffen ei frawddeg.

Yna trodd at yr astell, cymerodd ddarn o sialc, a chan wasgu'n galed, ysgrifennodd mor fras ag y gallai:

FFRAINC AM BYTH.

Yna safodd yno gan bwyso ei ben ar y mur, a heb ddywedyd gair, gwnaeth i ni arwydd â'i law:

"Mae'r cwbl drosodd. Ewch adref."

Nodiadau

[golygu]