Neidio i'r cynnwys

Y Wers Olaf/Yr Afr Fach Wen

Oddi ar Wicidestun
Y Ddau Dafarn Y Wers Olaf

gan Alphonse Daudet


wedi'i gyfieithu gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)
Y Ferch o Arles


YR AFR FACH WEN.

Ni bu Mr. Silin erioed yn ffodus gyda'i eifr. Collai hwynt oll yn yr un modd: ar fore braf, torrent eu rhaffau, dihangent i'r mynydd, ac i fyny yno, y blaidd a'u llarpiai. Ni chadwai geiriau teg eu meistr nac ofn y blaidd hwy'n ol. Geifr annibynnol oeddynt, yn dewis ar unrhyw delerau ryddid ac awyr iach.

Yr oedd y gŵr da Mr. Silin, na ddeallai ddim ar anianawd ei greaduriaid, yn ofidus o'u plegid. Dywedai:

Mae ar ben. Mae'r geifr yn blino aros gyda mi. Ni fedraf gadw dim un.'

Eto ni ddigalonnodd, ac ar ol colli chwe gafr yn yr un modd, prynodd iddo'i hun y seithfed, eithr y tro hwn gofalodd ei chael yn ddigon ifanc fel y gallai ymarfer yn well â byw gydag ef.

O'r fath un dlos oedd gafr fechan Mr. Silin! Mor dlos oedd â'i llygaid mwyn, ei barf bigfain, ei charnau duon, disglair, ei chyrn lleiniog, a'i blew gwyn, hir fel hugan drosti! Yr oedd wedyn mor ufudd a hoffus, yn cymryd ei godro heb symud, a heb roi ei throed yn y llestr. Hen gariad fach o afr!

Yr oedd gan Mr. Silin, tu ol i'w dŷ, gae bychan, wedi ei amgylchu â drain gwynion. Yno y rhoddodd yr afr newydd. Dododd hi yn rhwym wrth bost yn y man goreu o'r cae, gan ofalu rhoddi iddi ddigon o raff, ac ai yno yn awr ac yn y man i weld a oedd wrth ei bodd. Yr oedd yr afr yn ddedwydd iawn, a phorai'r glaswellt mor ddiddig nes llawenychu o Mr. Silin.

O'r diwedd," meddyliai'r gŵr druan, "dyma un heb flino aros gyda mi." Ei dwyllo'i hun yr oedd Mr. Silin, yr oedd ei afr wedi blino.


Un diwrnod, dywedai yn ei meddwl, gan edrych ar y mynydd:

'Rwy'n siwr ei bod yn braf i fyny acw! Mor hyfryd fyddai prancio yn y grug heb yr hen raff yma sy'n dolurio fy ngwddf! Purion peth yw i asyn neu ych bori mewn cae! Rhaid i eifr gael digon o ehangder."

O'r foment honno nid oedd flas iddi ar borfa'r cae. Aeth yn flin ei hysbryd. Teneuodd, aeth ei llaeth yn brin. Trueni oedd ei gweld yn tynnu ar ei rhaff drwy'r dydd, ei hwyneb i gyfeiriad y mynydd, ei ffroenau yn agored, gan ddywedyd "Mê!" mor ddolefus.

Deallodd Mr. Silin yn fuan fod rhywbeth yn blino'r afr, ond ni wyddai pa beth. Un bore, pan geisiai ei godro, trodd yr afr ato, gan ddywedyd wrtho yn ei hiaith ei hun:

"Gwrandewch, Mr. Silin, 'rwyf i wedi blino yma gyda chi. Gadewch i mi fynd i'r mynydd."

"O'r annwyl! Hon eto!" ebe Mr. Silin yn syn, a than rym yr ergyd, gadawodd y llestr llaeth i syrthio; yna gan eistedd ar y glaswellt wrth ochr ei afr, dywedodd:

"Beth, Gwenno, a wyt ti am fy ngadael?"

Ac atebodd Gwenno:

"Ydwyf, Mr. Silin."

"A ydwyt yn brin o borfa yma?"

"O, nac ydwyf, Mr. Silin."

Mae dy raff yn rhy fyr, efallai. A gaf i ei gwneuthur yn hwy?

"'Does dim eisiau, Mr. Silin."

"Wel, beth sydd yn eisiau arnat? Beth a garit ei gael?"

"'Rwyf am gael mynd i'r mynydd, Mr. Silin."

"Ond, druan, wyddost ti ddim fod y blaidd ar y mynydd. Beth a wnei di pan ddaw ef?"

"Mi rof i gorniad iddo, Mr. Silin."

"Fe chwardd y blaidd am ben dy gyrn. Fe larpiodd rai o'm geifr oedd â chryfach cyrn ganddynt nag sydd gennyt ti. Ti wyddost am yr hen afr Mwynwen, druan, oedd yma y llynedd? Gafr fawr, gref, mor llawn o asbri â bwch. Ymladdodd hi â'r blaidd trwy gydol y nos, yna yn y bore, y blaidd a'i llarpiodd."

"O! druan a Mwynwen! Ond waeth am hynny, Mr. Silin, gadewch i mi fynd i'r mynydd."

"Yn enw'r daioni!" ebe Mr. Silin; "beth a wneir i'm geifr i, ynte? Un arall i'w llarpio gan y blaidd! Wel, na, mi a'th achubaf di er dy waethaf, yr un ffol! a rhag ofn i ti dorri dy raff, mi'th gaeaf yn yr ystabl, ac yno y cei aros o hyd."

Ar hynny, arweiniodd Mr. Silin yr afr i ystabl dywyll, a gwnaeth y drws yn ddwbl ddiogel. Yn anffodus, anghofiodd y ffenestr, a phrin y trodd ei gefn nad oedd yr afr allan.

Pan gyrhaeddodd yr afr wen ben y mynydd, bu yno lawenydd cyffredinol. Ni welsai yr hen ffynidwydd erioed ddim cyn dlysed. Derbyniwyd hi fel brenhines fechan. Ymgrymai'r castanwydd hyd lawr er mwyn ei chusanu â blaen eu canghennau. Ymagorai'r banad! euraid ar ei llwybr, ac aroglent mor bêr ag y gallent. Yr oedd yr holl fynydd yn cadw gwyl iddi.

O, mor hapus oedd yr afr! Dim rhaff mwy, dim o'r post, dim i'w rhwystro i brancio ac i bori yn ol ei hafiaith. Dyna lle'r oedd porfa! bron cyn daled â'i chyrn. A'r fath borfa! Peraroglus, main, yn cynnwys mil o lysiau,—pur wahanol i laswellt y cae. A'r blodau ynte! Clychau mawr, glas, bysedd y cwn, hir, lliw porffor, fforest gyfan o flodau gwylltion, yn orlawn o sudd rhagorol.

Yn hanner meddw, ymroliai yr afr wen i mewn yno, ei choesau yn yr awyr, ac ymdreiglai bendramwnwgl ar y llethr, gyda'r dail syrthiedig a'r cnau ceffylau. Yna'n sydyn, codai gydag un naid ar ei thraed. Wele hi i ffwrdd, ei phen yn estynedig, drwy ganol y drain a'r llwyni, yn awr ar fryncyn, yn awr ar waelod rhewyn, i fyny i lawr, ymhobman. Gellid meddwl bod deg o eifr Mr. Silin ar y mynydd.

Nid oedd ofn dim ar Wenno.

Ag un naid ai dros y nentydd, a gwlychid hi wrth eu croesi â llwch llaith ac ewyn. Yna, yn diferu, gorweddai yn ei hyd ar ryw graig wastad i'w sychu gan yr haul. Un tro wrth ddod i ymyl darn gwastad uchel, a meillionen rhwng ei dannedd, gwelodd obry ar y gwastadedd dŷ Mr. Silin, a'r cae bach o'i ol. Parodd yr olwg arno iddi chwerthin hyd ddagrau. "Onid yw yn fach!" ebe hi. "Sut y medrais fyw o'i fewn?"

Druan a hi! O'i gweld ei hun ar lan mor uchel credai ei bod o leiaf gymaint â'r byd.

Mewn gair, dydd da a fu hwnnw i afr Mr. Silin. Tua chanol dydd, wrth redeg i'r dde ac i'r aswy, aeth i ganol nifer o ewigod yn bwyta o winwydd gwyllt. Parodd y rhedegydd fechan â'r wisg wen gyffro yn eu plith. Rhoisant iddi'r lle goreu yn y gwinwydd, ac yr oedd y boneddigion oll yn dra serchog. Ymddengys i un ohonynt â chôt ddu ganddo gael y fraint o ennill serch Gwenno. Crwydrodd y ddau gariad gyda'i gilydd drwy y coed am awr neu ddwy, ac os myn neb wybod beth a ddywedent wrth ei gilydd, gofynned i'r nentydd siaradus a lif yng nghudd yn y mwswgl. *** Yn sydyn cododd y gwynt. Aeth y mynydd yn lasddu; y nos ydoedd. "Eisoes!" ebe'r afr fechan, a safodd yn syn.

Obry, ymgollai y caeau mewn niwl. Diflannai cae bach Mr. Silin yn y nudden, ac o'r tŷ ni welid mwy ond y to ac ychydig fwg. Clywodd glychau praidd a gyrchai rhywun, a theimlodd ei henaid yn athrist. Wrth fynd heibio iddi ar ei ymdaith tuag adref, cyffyrddodd hebog â hi â'i adenydd. Crynodd, yna clybuwyd rhu yn y mynydd:

"Hw! Hw!"

Meddyliodd am y blaidd, drwy gydol y dydd ni feddyliasai'r un ffôl am dano o gwbl. Ar yr un foment, o'r dyffryn obry, daeth sain utgorn. Y gŵr da Mr. Silin a wnai ei ymdrech olaf.

"Hw! Hw!" rhuai'r blaidd.

"Dere'n ol! Dere'n ol!" meddai'r utgorn.

Daeth awydd dychwelyd ar Wenno, ond wrth gofio am y post, y rhaff, gwair y cae bach, meddyliodd na allai mwyach ddygymod â'r bywyd hwnnw, ac mai gwell oedd aros.

Ni seiniodd yr utgorn drachefn. Clywodd yr afr o'r tu ol iddi sŵn dail. Trodd yn ol a gwelodd yn y caddug ddau glust byr, unionsyth, a dau lygad yn disgleirio. Y blaidd oedd. *** Enfawr, llonydd, yn eistedd ar ei gynffon, yr oedd yno yn syllu ar yr afr fach wen, ac yn ei harchwaethu ymlaen llaw. Gan y gwyddai y bwytâi hi, nid oedd brys arno, ond pan drodd hi yn ol, dechreuodd yntau chwerthin yn faleisus:

"Ha! Ha! gafr fach Mr. Silin!" a thynnodd ei dafod coch, mawr dros ei weflau.

Teimlodd Gwenno fod popeth ar ben. Un funud wrth atgofio hanes Mwynwen, druan, fel yr ymladdasai drwy'r nos, a chael ei bwyta wedyn yn y bore, dywedodd ynddi ei hun mai gwell efallai a fyddai cymryd ei bwyta ar unwaith; yna, wedi ail feddwl, rhoddodd ei hun yn barod i ymladd, ei phen ar lawr, a'i chyrn ymlaen, fel yr afr fach ddewr ydoedd. Nid bod ganddi obaith lladd y blaidd,—nid yw geifr yn lladd bleiddiaid, ond yn unig er mwyn gweld a fedrai hi ddal cyhyd â Mwynwen.

Yna neshaodd yr anghenfil, a dechreuodd y cyrn bychain ar eu dawns.

A! yr afr fach ddewr, fel yr ymdrechai! Mwy na dengwaith y parodd i'r blaidd gilio'n ol i gael ei anadl. Yn ystod pob munud o seibiant fel hyn, porai'r un awyddus yn frysiog flewyn o'r borfa a hoffai gymaint. Yna dychwelai i'r ornest a'i genau yn llawn. Parhaodd hyn drwy y nos. Yn awr ac eilwaith gwelai gafr Mr. Silin y sêr yn dawnsio yn yr wybren glir, a dywedai ynddi ei hun:

"O am ddal ati hyd oni thyr y wawr!"

Diffoddai'r sêr un ar ol y llall. Dyblodd Gwenno ergydion ei chyrn a'r blaidd ergydion ei ddannedd. Ymddangosodd goleu llwyd ar y gorwel. Clybuwyd cân ceiliog cryglyd o ffermdy gerllaw.

"O'r diwedd!" ebe'r afr druan, canys aros am y dydd a wnaethai cyn marw; a gorweddodd yn ei hyd ar y ddaear, a'i gwisg wen brydferth wedi ei hystaenio â gwaed.

Yna rhuthrodd y blaidd ar yr afr fechan a bwytaodd hi.


Nodiadau

[golygu]