Neidio i'r cynnwys

Y Wers Olaf (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Y Wers Olaf (testun cyfansawdd)

gan Alphonse Daudet


wedi'i gyfieithu gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)
I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Y Wers Olaf
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Alphonse Daudet
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Elizabeth Mary Jones (Moelona)
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Cyfres y Werin
ar Wicipedia

CYFRES Y WERIN


Golygyddion:

IFOR L. EVANS.HENRY LEWIS.


RHIF 4.


Y WERS OLAF.

MOELONA.



Cyhoeddwyd gan
Y CWMNI CYHOEDDI ADDYSGOL, CAERDYDD.
THE EDUCATIONAL PUBLISHING Co., LTD., PENARTH ROAD, CARDIFF.

Amcan CYFRES Y WERIN:—"i ddyscu, helpu, diddanu. a pherffeiddio gwyr fy ngwlad, ymhob peth a fo golud iddynt, hyglod yngolwg y byd."

(Geiriau'r Dr. Griffith Roberts yn y Rhagymadrodd i'w Ramadeg a gyhoeddwyd yn 1567.)

Copi yw'r wyneb-ddalen o honno sydd ar y llyfr cyntaf a argraffwyd yn Gymraeg, sef "Yn y lhyvyr hwnn gan Syr John Prys, a ymddangosodd yn 1546.


CYFRES Y WERIN 4

Y WERS OLAF

ac ystoriau eraill
gan

ALPHONSE DAUDET.


Wedi eu troi i'r Gymraeg

gan

MOELONA.

CYNNWYS


RHAGAIR.

DYWEDIR mai i Ffrainc y perthyn yn bennaf y gelf o adrodd ystorïau, ac, yn anad un rhan arall o Ffrainc, i Provence yn nyffryn Rhôn. O ystorïwyr Provence ni chododd neb mwy nag Alphonse Daudet.

Pan oedd Daudet yn ddwy ar bymtheg oed aeth i Baris, ac yno, dan ddylanwad atgof a hiraeth, yr ysgrifennodd ei ystorïau swynol am fywyd ei fro enedigol. Nid oedd Daudet ond chwech ar hugain oed pan ymddangosodd ei Lettres de mon Moulin (Llythyrau o'm Melin). Dygodd hwn ef ar unwaith i reng flaenaf ystorïwyr pob oes.

Mae ei arddull yn seml, ffres, a naturiol, fel y ffynnon fyw, risialaidd a dardd yn ochr y mynydd. Ceir yn ei holl weithiau ryw swyn nodweddiadol ac arbennig.

Hoffai Daudet feddwl am dano'i hun ym mhrif ddinas ei wlad fel llys-gennad dros Provence. Drwy ei lyfrau gwnaeth fwy dros ei fro enedigol nag odid unrhyw awdur arall dros unrhyw wlad. Bydd Provence byw byth yn ei Numa Roumestan, ei Tartarin de Tarascon, ac yn bennaf oll yn ei Lettres de mon Moulin.

Cymerwyd "Y Wers Olaf" o'r Contes du Lundi, a'r ystorïau eraill i gyd o'r Lettres.

Pan fyddai enw yn un anodd i Gymro ei gynhanu, defnyddiwyd un arall yn ei le, gan ofalu bid sicr fod hwnnw hefyd yn un ag iddo ffurf Ffrangeg, megis Siôn, Gregori, Ffransis, Mari.

GLAIS,
Ionawr, 1921.


Y WERS OLAF.
YSTORI LLANC O ALSAS.

Y BORE hwnnw yr oeddwn yn ddiweddar iawn yn mynd i'r ysgol, ac ofnwn gerydd, gan fod Mr. Hamel wedi dywedyd wrthym y byddai yn ein holi ar y berfau, ac ni wyddwn i ddim cymaint â'r gair cyntaf. Am eiliad sibrydodd rhywbeth wrthyf am golli'r wers a mynd am dro drwy'r caeau.

Yr oedd y tywydd mor boeth, mor glir!

Clywid y fwyalchen yn canu ym mlaen y goedwig, ac yn y ddôl tu ol i'r felin lifio yr oedd y Prwsiaid yn ymarfer. Temtiai'r pethau hyn fi yn fwy na rheolau'r berfau, ond bum ddigon cryf i wrthsefyll, a rhedais yn gyflym tua'r ysgol.

Wrth fynd heibio i neuadd y pentref gwelwn nifer o bobl yn sefyll o flaen y fan lle y gosodid i fyny hysbysiadau. Er ys dwy flynedd, o'r fan honno y deuthai i ni bob newydd drwg, y brwydrau a gollasid, archebion a gorchmynion y Llywodraeth, a meddyliwn heb aros, "Beth sydd yn bod heddyw eto?"

Yna, a mi yn croesi'r sgwâr dan redeg, clywn Wachter y gof, a safai yno gyda'i brentis yn darllen yr hysbysiad, yn galw arnaf:

"Paid â brysio cymaint, 'machgen i; ti gyrheiddi dy ysgol yn ddigon buan."

Credwn mai cellwair â mi yr ydoedd, ac euthum dan chwythu i mewn i gyntedd bychan Mr. Hamel.

Bob amser, ar ddechreu'r ysgol, yr oedd yno dwrw mawr a glywid bron o'r ystrŷd, agor a chau desgiau, adrodd gwersi bawb gyda'i gilydd a chau'r clustiau er mwyn deall yn well, a gwialen fawr y meistr yn taro'r bwrdd: "Distawrwydd!"

Yr oeddwn wedi cyfrif ar y dwndwr yma i gael mynd i'm lle heb fy ngweld; ond y bore hwn yr oedd popeth mor ddistaw â phetai yn fore Sul. Drwy'r ffenestr agored gwelwn fy nghyd-ysgolheigion eisoes yn eu lleoedd, a Mr. Hamel yn mynd a dod a'r wialen ofnadwy dan ei fraich. Gorfu i mi agor y drws a mynd i mewn yn y distawrwydd dwfn yma. Gellwch ddychmygu mor goch oedd fy wyneb ac mor ofnus oeddwn.

Eithr edrych arnaf heb wg a wnaeth Mr. Hamel, a dywedyd wrthyf yn fwyn: "Cerdda yn fuan i'th le, Ffransis bach; yr oeddem yn mynd i ddechreu hebot.'

Neidiais dros y fainc ac eisteddais ar unwaith o flaen fy nesg. Yna, wedi i mi ymdawelu ychydig, sylwais fod ein meistr wedi gwisgo ei ddillad goreu, ei gôt werdd, brydferth, a'r cap sidan du â'r brodwaith arno. Ni wisgai byth mo'r rhai hyn ond ar ddydd arholiad neu ddydd rhannu gwobrwyon. Hefyd, yr oedd rhyw olwg ddifrifol a syn ar y dosbarth i gyd. Ond yr hyn a'm synnodd fwyaf oedd gweld, ar ben pellaf yr ystafell, yn y seddau oedd fynychaf yn wag, rai o wŷr y pentref yn eistedd yn ddistaw fel ni, yr hen Hawser a'i gap trionglog, y cyn-faer, y cyn-ysgrifennydd, a phersonau eraill. Edrychai'r bobl hyn i gyd yn drist. Deuthai Hawser â hen lyfr yr Wyddor ganddo, â'i ymylon wedi treulio, a daliai ef yn agored ar ei liniau, a'i sbectol fawr wedi ei gosod ar draws y tudalennau.

Tra rhyfeddwn am hyn oll, esgynnodd Mr. Hamel i ben cadair, a chyda'r un llais tawel-brudd dywedodd wrthym:

"Fy mhlant, dyma'r tro olaf y cewch wers gennyf i. Mae'r gorchymyn wedi dod o Berlin i beidio â dysgu mwyach ond yr Ellmyneg yn ysgolion Alsas a Lorên. Daw'r meistr newydd yfory. Heddyw, chwi a gewch eich gwers olaf yn y Ffrangeg. Dymunaf arnoch fod yn astud iawn."

Cyffrowyd fi gan yr ychydig eiriau hynny. Y cnafiaid! Dyna'r hysbysiad a roisent ar fur y neuadd, ynte! Fy ngwers olaf yn y Ffrangeg!

A minnau na fedrwn ond prin ysgrifennu! Ni chawn ei dysgu byth mwy, ynte! Byddai raid aros yn y fan hon! Fel y dymunwn yn awr am ail gyfle ar yr amser a gollwyd, y gwersi a esgeuluswyd i chwilio am nythau adar neu i lithro ar afon Saar! Fy llyfrau a gashawn gymaint gynneu, ac a deimlwn mor drwm i'w cario, fy ngramadeg, fy llyfr hanes, a ymddangosent i mi yn awr fel hen ffrindiau y blinwn oherwydd gorfod eu gadael. A Mr. Hamel, yntau. Yr oedd y syniad ei fod yn mynd i ffwrdd ac na welwn mohono mwyach, yn peri i mi anghofio pob cosb, pob curfa.

Druan ag ef!

O barch i'r wers olaf yma y gwisgasai ei ddillad dydd Sul, ac yn awr deellais paham y deuthai hen bobl y pentref i eistedd ym mhen draw'r ystafell. Yr oedd hynny fel petai'n dywedyd bod yn ddrwg ganddynt na fuasent wedi dod i'r ysgol hon yn amlach. Yr oedd hefyd yn rhyw ffordd o ddiolch i'n meistr am ei ddeugain mlynedd o wasanaeth, ac hefyd yn ddangoseg o barch i'n gwlad oedd ar fynd . . .

Deuthwn hyd y fan hon yn fy myfyrdodau pan glywn alw fy enw. Fy nhro i oedd i adrodd. Pa beth na roddaswn am fedru adrodd o'r dechreu i'r diwedd, yn uchel a chlir heb goll, y berfau yma i gyd; eithr petruswn i ar y geiriau cyntaf, a safwn ar fy nhraed â'm calon yn llawn heb feiddio codi fy mhen. Clywais Mr. Hamel yn dywedyd wrthyf:

"Ni cheryddaf i mohonot, Ffransis bach, dylit gael dy gosbi, dyna'r gwir. Bob dydd dywedit ti ac eraill, 'Twt, mae gennyf ddigon o amser, mi a ddysgaf yfory.' Ac yn awr ti a weli beth sydd yn digwydd. O ie, bai mawr ein gwlad Alsas a fu gohirio ei haddysg hyd yfory. Yn awr, mae gan y dynion yna hawl i ddywedyd wrthym: 'Beth! Cymerwch arnoch mai Ffrancwyr ydych, a chwithau heb fedru siarad nac ysgrifennu eich iaith!' Yn hyn i gyd, 'machgen i, nid ti yw'r mwyaf ei fai. Y mae gennym oll ein rhan o euogrwydd i'w chario.

"Ni fu eich rhieni yn ddigon awyddus am i chwi gael addysg. Gwell oedd ganddynt eich danfon i weithio ar y tir neu gyda'r rhod nyddu er mwyn ennill ychydig arian. A wyf i fy hun ddieuog? Oni wneuthum i chwi lawer gwaith ddyfrhau fy ngardd yn lle gweithio? A phan fynnwn fynd i bysgota brithyll, ai blin gennyf oedd eich gollwng chwi ymaith?"

Yna o un peth i'r llall, dechreuodd Mr. Hamel siarad â ni am yr iaith Ffrangeg, gan ddywedyd mai hi oedd iaith dlysaf y byd, y fwyaf clir a'r fwyaf cadarn: fod rhaid i ni ei chadw rhyngom â'n gilydd a pheidio byth â'i hanghofio, oherwydd pan syrth pobl yn gaethion, cyhyd ag y cadwant eu hiaith mae hynny fel pe dalient allwedd eu carchar. Yna cymerodd ramadeg a darllenodd i ni ein gwers. Synnais weld fel y deallwn. Teimlwn fod popeth a ddywedai yn hawdd, hawdd. Credaf hefyd na wrandawswn erioed yn well, ac na fuasai yntau chwaith erioed mor amyneddgar yn egluro. Gellid meddwl fod y dyn, druan, cyn mynd, am roi i ni yr hyn oll a wyddai, ac am ei arllwys i'n pennau y cwbl ar y tro.

Wedi gorffen y wers, aethpwyd i ysgrifennu. Yr oedd Mr. Hamel wedi paratoi samplau newydd sbon ar gyfer y diwrnod hwnnw, ac wedi ysgrifennu arnynt mewn llaw fras brydferth "Ffrainc, Alsas, Ffrainc, Alsas." Yr oeddynt fel baneri bychain yn chwifio o gylch y dosbarth, wedi eu hongian wrth farrau ein desgiau. O, fel yr oedd pob un o honom ar ei oreu, a dyna ddistawrwydd! Ni chlywid dim ond llithriad y pinnau ar y papur. Un waith, daeth aderyn i mewn, ond ni wnaeth neb sylw o hono, dim hyd yn oed y plant bach oedd mor ddiwyd yn ysgrifennu eu strôcs,—o galon ac o gydwybod, fel pe baent hwythau hefyd yn ysgrifennu Ffrangeg. Ar do'r ysgol, yr oedd colomennod yn canu eu cŵ-cŵ leddf, a meddyliwn ynof fy hun wrth wrando arnynt:

"Tybed a wna'r bobl yna i'r colomennod hefyd ganu Ellmyneg?

O dro i dro, pan godwn fy mhen o'm papur, gwelwn Mr. Hamel heb symud yn ei gadair yn syllu ar y pethau o'i gylch fel pe dymunai gario yn ei gof yr ystafell fechan i gyd. Er ys deugain mlynedd yr oedd yno yn yr un lle, y cyntedd o'i flaen ac yna'r dosbarth. Ond yr oedd y meinciau a'r desgiau, o fynych eistedd a phwyso arnynt, wedi ymloewi, yr oedd y goeden gnau ar y clôs wedi tyfu, a'r goeden hops a blanasai ef ei hun erbyn hyn yn garlantu'r ffenestr cyfuwch â'r to. Ing calon i'r dyn druan oedd meddwl gadael y pethau hyn i gyd, a chlywed ei chwaer yn mynd a dod uwchben, ar fedr cau'r cistiau! oherwydd yr oeddynt i fynd i ffwrdd drannoeth, i fyw i'r wlad am byth.

Er hynny, bu yn ddigon gwrol i fynd ymlaen â'r gwersi hyd y diwedd. Ar ol ysgrifennu cawsom wers ar hanes, yna aeth y plant bach drwy eu Ba, Be, Bi, Bo, Bu. Obry ar ben pellaf yr ystafell yr oedd yr hen Hawser wedi gwisgo ei sbectol, a chan ddal ei lyfr â'i ddwy law, sillafai'r llythrennau gyda'r plant. Gwelwn ei fod yntau hefyd yn gwneuthur ei oreu; crynai ei lais gan deimlad, a swniai mor rhyfedd i'n clyw nes bod awydd ar bawb ohonom chwerthin ac wylo. A! mi gofiaf byth am y wers olaf honno!

Cyn hir, tarawodd cloc yr eglwys ddeuddeg, yna canodd y gloch. Ar yr un funud seiniai utgyrn y Prwsiaid—ar eu ffordd o gae'r ymarfer—dan ein ffenestri. Cododd Mr. Hamel yn welw o'i gadair. Erioed ni welais ef yn edrych mor dal.

"Gyfeillion," eb ef, "gyfeillion, yr wyf . . . yr wyf . . .

Ond yr oedd rhywbeth yn ei dagu. Ni fedrai orffen ei frawddeg.

Yna trodd at yr astell, cymerodd ddarn o sialc, a chan wasgu'n galed, ysgrifennodd mor fras ag y gallai:

FFRAINC AM BYTH.

Yna safodd yno gan bwyso ei ben ar y mur, a heb ddywedyd gair, gwnaeth i ni arwydd â'i law:

"Mae'r cwbl drosodd. Ewch adref."

CYFRINACH Y MELINYDD.

ADRODDWYD wrthyf y nos o'r blaen gan Siôn Ffransis—hen ganwr y bibell a ddaw o dro i dro i gadw noswyl gyda mi, gan yfed gwin poeth—ddrama fechan bentrefol y bu fy melin yn dyst ohoni ers tuag ugain mlynedd yn ol. Tarawyd fi gan stori'r gŵr, a cheisiaf ei hadrodd i chwi fel y clywais hi.

Dychmygwch am funud, ddarllenwyr hoff, eich bod yn eistedd o flaen gwydraid o win peraroglus, ac mai hen ganwr y bibell a sieryd â chwi.

"Gyfaill mwyn, nid fel y mae heddyw, yn lle marwaidd, diadsain, y bu ein gwlad erioed. Gynt, gwneid yma fasnach fawr â'r melinau, ac o fewn cylch o ddeng milltir ar hugain deuai'r amaethwyr â'u hyd i ni i'w falu. O gylch y pentref i gyd, gorchuddid y bryniau â melinau gwynt. Ar dde ac aswy, ni welid ond yr adenydd chwyrn a droai uwch y pinwydd gyda gwynt y De, rhesi o asynod bychain llwythog o sachau yn dringo ac yn disgyn ar hyd yr heolydd, a thrwy yr wythnos pleser oedd clywed, o ben y rhiw, sŵn y chwip, rhwygiad y lliain, a "Hai O!" y gweision. Ar y Sul, aem yn lluoedd i'r melinau. Ar y llofft, yr oedd y gwŷr yn yfed gwin. Yr oedd y gwragedd a'r merched mor dlws â breninesau, gyda'u gwisgoedd o rwydwaith a'u croesau aur. Awn innau â'm pibell, a than y nos dywyll dawnsid y ffarandôl. Y melinau, chwi welwch, oedd llawenydd a chyfoeth ein gwlad.

Fel y bu gwaetha'r modd, daeth i fryd rhyw Ffrancwyr o Baris sefydlu melin ager ar y ffordd yr eir i Darascon.

Popeth newydd, dedwydd da! Daeth yn arferiad gan y bobl fynd â'u hyd i'r melinau ager, ac aeth y melinau gwynt, druain, yn ddiwaith. Am beth amser, ceisiasant ymladd, eithr yr ager oedd y cryfaf, ac ysywaeth, gorfu iddynt oll, y naill ar ol y llall, gau. Ni welid yn dod mwyach yr asynod bychain. Gwerthodd y gwragedd glandeg eu croesau aur. Dim mwyach o'r gwin peraidd! Dim mwyach o'r ddawns! Yn ofer y chwythai gwynt y De; safai'r adenydd yn llonydd. Yna, ryw ddydd braf, parodd yr awdurdodau dynnu'r hen furddynau i lawr, ac yn eu lle plannwyd y winwydden a'r olewydd.

Eithr ynghanol y dymchwel i gyd, yr oedd un felin wedi dal ei thir, ac yn parhau i droi ar ei bryncyn, yn nannedd y melinau ager. Melin Henri Roland oedd, yr ydym yn awr ar fedr dadlennu ei hanes.

Hen felinydd oedd Henri Roland, yn byw yn y blawd ers trigain mlynedd, ac yn ddigllawn oherwydd cyflwr pethau. Parasai sefydlu'r melinau ager iddo fynd fel un ynfyd. Am wyth niwrnod gwelwyd ef yn rhedeg drwy y pentref, gan gyffroi y bobl o'i gylch, a chan weiddi â'i holl egni y ceisid gwenwyno'r wlad â blawd y melinau ager. "Nac ewch i lawr yna," meddai. "Er mwyn gwneuthur bara, defnyddia'r lladron yma ager—dyfais y diafol, gweithiaf innau gyda gwynt y De a gwynt y mynydd, anadl y Duw da." Ac felly y darganfyddai lu o eiriau gwych o glod i'r melinau gwynt, eithr nid oedd neb a'i gwrandawai.

Yna, o fawr ddigllonedd, caeodd yr hen ŵr ei hun yn ei felin, a bu byw wrtho'i hun fel creadur anwar. Ni fynnai gadw yn ei ymyl hyd yn oed ei wyres fechan Mari,—plentyn pymtheng mlwydd oed, na feddai ond ei thadcu yn y byd. Gorfu i'r fechan ennill ei bywioliaeth, a gweithio ar hur ar draws y ffermydd amser cynhaeaf y pryf sidan neu'r olewydd. Ac eto, ymddangosai ei thadcu yn hoff iawn ohoni. Yn fynych, cerddai ganol dydd goleu, ddeuddeng milltir ar draed, er mwyn mynd i'w gweld i'r fferm lle y gweithiai, a phan fyddai yn ei hymyl, treuliai oriau cyfain i syllu arni gan wylo.

Credid yn gyffredin yn yr ardal mai cybydd-dod a barasai i Henri Roland yrru Mari oddiwrtho, a theimlid nad peth parchus ar ei ran oedd gadael i'w wyres ymlusgo felly o un fferm i'r llall, yn agored i beryglon a holl helbulon ieuenctid mewn gwasanaeth. Gwael hefyd oedd gweld dyn fel Henri Roland, a gawsai hyd yn hyn ei barchu, yn awr yn mynd hyd yr heolydd fel cardotyn, yn droednoeth, ei het yn dyllog, a'i ddillad yn garpiau. Y gwir yw, pan welem ef yn dod i'r gwasanaeth ar y Sul, yr oedd arnom ni, yr hynafgwyr, gywilydd ohono, a theimlai Henri Roland hynny i'r fath raddau ag na feiddiai ddod mwyach i eistedd yn seddau'r gwarcheidwaid. Arhosai bob amser ym mhen pellaf yr eglwys, yn ymyl y fendithfa, gyda'r tlodion.

Ym mywyd Henri Roland, yr oedd rhywbeth nad oedd yn glir. Er ys amser hir bellach, ni chariai neb o'r pentref yd iddo, ac eto, troai adenydd ei felin bob dydd fel o'r blaen. Yn yr hwyr, cyfarfyddid â'r hen felinydd hyd yr heolydd yn gyrru ei asyn o'i flaen, yn llwythog o sacheidiau mawrion o flawd.

"Nos da, Henri Roland!" meddai'r ardalwyr wrtho. Mae'r felin yn mynd o hyd, ynte?

"O hyd, 'y mhlant i," atebai'r hen ŵr yn siriol. "Diolch i Dduw, nid ydym yn brin o waith."

Yna, os gofynnai rhywun iddo o ba le yn enw popeth y gallai cymaint o waith ddod iddo, gosodai ei fys ar ei wefus, ac atebai'n ddifrifol, "Peidiwch â dywedyd wrth neb! 'Rwy'n gweithio tuag at allforio." Byth ni cheid ychwaneg oddiwrtho.

Am roi troed o fewn i'w felin, ofer i neb geisio. Nid ai hyd yn oed Mari fach i mewn yno.

Pan eid heibio, gwelid y drws bob amser ynghau, yr adenydd mawrion bob amser yn symud, yr hen asyn yn pori'r glaswellt ger y drws, a hen gath fawr, deneu yn torheulo ar garreg y ffenestr, gan lygad-rythu arnoch â golwg ffyrnig.

Yr oedd rhyw ddirgelwch yn hyn oll, ac achosai gryn siarad ymysg pobl. Eglurai pob un yn ei ddull ei hun gyfrinach Henri Roland, ond y dŷb gyffredin oedd bod yn y felin fwy o sacheidiau o aur nag o sacheidiau o flawd.

Ymhen amser, daeth y cyfan i'r amlwg; wele pa fodd.

Un dydd, a mi yn canu fy mhibell i'r ieuenctid gael dawnsio, sylwais fod fy machgen hynaf, a Mari fechan, wedi syrthio mewn cariad â'i gilydd. Ar y cyfan, ni flinwn am hynny, oherwydd wedi'r cwbl, yr oedd enw Henri Roland mewn anrhydedd gennym ni, ac heblaw hynny, pleser i mi a fyddai gweld Mari fechan siriol yn cerdded yn ol a blaen yn fy nhŷ. Eithr gan y cai'r ddau gyfleusterau aml i fod gyda'i gilydd, awyddwn er eu lles hwy drefnu'r peth ar unwaith, ac euthum tua'r felin er mwyn dywedyd dau air am hynny wrth yr hen ŵr. A! yr hen ddewin! Dyna dderbyniad a roddes i mi! Amhosibl oedd cael ganddo agor ei ddrws. Eglurais iddo fy rhesymau oreu y medrwn trwy dwll y clo; a'r holl amser tra siaradwn, yno'r oedd yr hen filain o gath deneu, yn chwythu fel diafol uwch fy mhen.

Ni roddes yr hen ŵr amser i mi orffen, a gwaeddodd arnaf yn dra anfoesgar am ddychwel at fy mhibell; os oeddwn yn awyddus i briodi fy mab, mai gwell a fyddai i mi chwilio ymhlith merched y melinau ager. Dychmygwch fel y berwai fy ngwaed wrth glywed y geiriau ffôl hyn, eithr ar yr un pryd yr oeddwn yn ddigon call i dewi, a chan adael yr hen ynfytyn wrth ei faen melin, dychwelais i adrodd wrth y plant mor aflwyddiannus y buaswn. Ni fedrent hwy, druain, gredu'r peth. Gofynasant i mi am ganiatâd i fynd ill dau gyda'i gilydd i fyny i'r felin i siarad â'r tadcu. Ni feddwn y gwroldeb i wrthod, ac ar unwaith, wele'r ddau i ffwrdd.

Pan gyraeddasant i fyny yno yr oedd Henri Roland newydd fynd allan. Yr oedd y drws wedi ei ddwbl gloi, ond wrth ymadael, gadawsai'r hen ŵr ei ysgol o'r tu allan, ac yn y fan, cafodd y plant y syniad o fynd i mewn drwy'r ffenestr, er mwyn edrych beth oedd yn y felin enwog hon.

Syndod! Yr oedd y felin yn wag. Dim sach, dim gronyn o yd, dim blawdyn ar y muriau nac ar we'r pryf copyn. Ni chlywid hyd yn oed yr arogl hyfryd-gynnes hwnnw o wenith wedi ei falu a leinw felinau. Gorchuddid y trawst gan lwch, ac arno cysgai'r gath fawr, deneu.

Yr un olwg resynus a gwrthodedig oedd ar yr ystafell isaf, gwely gwael, amryw garpiau, darn o fara ar un o ffyn yr ysgol; a thrachefn mewn congl, tair neu bedair sach dyllog, a graean a phridd gwyn yn llifo allan ohonynt.

Dyna oedd cyfrinach Henri Roland! Y sothach yma a gludai hyd yr heolydd yn yr hwyr, er mwyn cynnal anrhydedd y felin a pheri credu bod yno falu o hyd. Druan a'r felin! Druan a Henri Roland! Er ys talm dygasai y melinau ager oddiarnynt eu gorchwyl olaf. Chwyrnellai'r adenydd beunydd, eithr ar ddim y troai'r maen.

Dychwelodd y plant mewn dagrau i adrodd wrthyf yr hyn a welsent. Llosgai fy nghalon ynof wrth eu clywed. Heb golli munud, rhedais at y cymdogion, dywedais wrthynt yr hanes mewn dau air, a chytunasom fod yn rhaid cario i felin Henri Roland gymaint o wenith ag oedd i'w gael yn y tai. Nid cynt y dywedwyd nag y gwnaethpwyd. Cychwynnodd yr holl bentref allan, a chyraeddasom i fyny yno gyda gorymdaith o asynod llwythog o yd,—o'r yd gwirioneddol.

Yr oedd y felin yn agored led y pen. O flaen y drws, yn eistedd ar sachaid o sothach, wylai Henri Roland â'i bwys ar ei ddwylaw. Yr oedd newydd ddarganfod, ar ei fynediad i mewn, fod rhywun yn ystod ei absenoldeb wedi torri i'w dŷ ac wedi dwyn oddiarno ei gyfrinach drist.

"Druan a mi!" meddai," Bellach, nid oes i mi ond marw; gwaradwyddwyd y felin." Ac ochneidiai o waelod ei enaid, gan annerch ei felin â phob math o enwau, a siarad â hi fel â bod dynol.

Ar y foment honno, wele'r asynod yn cyrraedd y clôs, a gwaeddasom ninnau oll yn uchel fel yn nyddiau dedwydd y melinau,—

Ho! Y Felin! Ho! Henri Roland!

Ac wele bentyrru'r sacheidiau o flaen y drws, a'r yd melyn-goch hyfryd yn syrthio ar y llawr ar bob tu.

Agorodd Henri Roland ei lygaid led y pen.

Cymerodd ychydig yd ar gledr ei law hen, a dywedodd, gan wylo a chwerthin ar unwaith,—

Yd yw! Y Duw mawr! Yd hyfryd! Gadewch i mi fel yr edrychwyf arno."

Yna, gan droi atom ni,—

A! Mi a wyddwn yn dda y dychwelech ataf. Lladron yw pobl y melinau ager yma i gyd."

Yr oedd arnom awydd ei gario yn fuddugoliaethus drwy'r pentref.

"Na, na, 'mhlant i. Cyn dim rhaid i mi roi tamaid i'w fwyta i'm melin. Meddyliwch gymaint o amser sydd er pan gafodd ddim rhwng ei dannedd!"

Ac yr oeddem oll â'r dagrau yn ein llygaid wrth weld yr hen ŵr yn rhuthro i'r dde ac i'r aswy, yn agoryd y sachau, yn bwrw golwg dros y meini, tra malurid y grawn, ac yr esgynnai mân lwch y blawd gwenith i'r nenfwd.

Cyfiawnder â ni yw dywedyd na ddarfu i ni o'r dydd hwnnw adael i'r hen felinydd fod yn brin o waith. Yna un bore bu farw Henri Roland, a safodd adenydd ein melin olaf, am byth y tro hwn. Wedi marw Henri Roland, ni chymerodd neb ei le. Wele! y mae amser terfynedig i bopeth yn y byd hwn, a rhaid credu bod amser melinau gwynt hefyd wedi darfod.

Y SÊR.
STORI UN O FUGEILIAID DE-DDWYRAIN FFRAINC.

Yn ystod yr amser y bugeiliwn y defaid ar y Mynydd Mawr, byddwn wythnosau cyfain heb weld enaid byw, yn unig ar y rhos gyda'm ci Labri a'm praidd. O bryd i bryd, ai meudwy Brynafon heibio er mwyn chwilio am lysiau, neu gwelwn wyneb du ambell lowr o'r Mynydd Bach; eithr dynion syml oedd y rhai hyn, rhai distaw oherwydd unigedd, wedi colli'r blas ar siarad, ac heb wybod dim o gyfrinachau'r pentrefi a'r trefi. Felly, bob pythefnos, pan glywn ar y rhiw glychau bychain y mul o'r fferm yn dwyn i mi luniaeth y bythefnos, a gweld yn ymddangos bob yn dipyn, tuhwnt i'r bryn, ben effro'r gwas bach neu benwisg goch yr hen fodryb Nora, hapus iawn fyddwn yn wir. Mynnwn gael adrodd i mi newyddion y wlad islaw, am y bedyddio a'r priodi; eithr yr hyn a'm diddorai'n fwy na'r cyfan oedd gwybod hynt merch fy meistr a'm meistres,—Stéphanette,—y brydferthaf o fewn cylch o ddeng milltir ar hugain. Heb ddangos fy mod yn cymryd gormod o ddiddordeb, cawn allan a ai hi i'r gwleddoedd, i'r neithiorau, a gai hi o hyd gariadau newyddion, ac i'r neb a ofyn pa beth oedd hyn i mi, fugail tlawd o'r mynydd, atebaf mai ugain oed oeddwn, ac mai Stéphanette oedd y brydferthaf a welswn i yn fy mywyd.

Un Sul, a mi yn disgwyl bwyd y bythefnos, digwyddodd na chyrhaeddodd hyd yn hwyr iawn. Y bore dywedwn,—"Bai'r cwrdd mawr ydyw," yna, tua chanol dydd, daeth storm enbyd, a meddyliwn na allai'r mul gychwyn oherwydd cyflwr drwg yr heolydd. O'r diwedd, tua thri o'r gloch, tra oedd yr wybren wedi ei golchi, a'r mynydd yn disgleirio gan ddŵr a heulwen, ynghanol sŵn diferiad y dail a llif yr afonydd llawnion, clywais glychau'r mul, mor llawen ac mor fyw â chlychau'r eglwys fore'r Pasg. Eithr nid y gwas bach na'r hen Nora a'i harweiniai. "Pwy?" meddwch chwi. Stéphanette, y ferch, fy mhlant! Stéphanette ei hunan, yn eistedd yn syth rhwng y sacheidiau coed, yn wridog gan awyr y mynydd, a dylanwad adfywiol yr ystorm. Yr oedd y gwas bach yn anhwylus, modryb Nora ar ei gwyliau yn nhai ei phlant. Dywedodd y dlos Stéphanette hyn oll wrthyf tra disgynnai oddiar gefn ei mul; ac hefyd iddi hithau gyrraedd yn hwyr am golli ohoni ei ffordd; eithr o'i gweld yn ei dillad dydd Sul, gyda'i rhuban blodeuog, ei gwisg ddisglair a'i rhwydwaith, ymddangosai yn debycach ei bod yn hwyr oherwydd bod mewn rhyw ddawns, na phe bai wedi bod yn chwilio ei ffordd yn yr allt. O'r un dlos! Ni flinai fy llygaid edrych arni. Gwir nas gwelswn erioed mor agos. Weithiau, yn y gaeaf, pan fyddai'r praidd wedi dod i lawr i'r dyffryn, a minnau yn mynd i mewn i'r ffermdy yn yr hwyr i swper, ai drwy yr ystafell yn frysiog, heb braidd siarad â'r gwasanaeth-ddynion, bob amser yn wych ei gwisg ac yn dra balch. Ac yn awr, yr oedd gyda mi yno o'm blaen, i mi yn unig! Onid oedd hyn yn ddigon i beri i un golli ei ben?

Wedi tynnu'r bwyd o'r fasged, dechreuodd Stéphanette edrych mewn cywreinrwydd o'i chwmpas. Gan gydio yn ei gwisg ddydd Sul, gain, rhag ei difwyno, aeth i mewn i'r gorlan; dymunodd weld y gongl lle y cysgwn, y gwely gwellt a'r croen dafad, fy nghlog mawr yn hongian ar y mur, fy nryll, fy ngharreg dân. Rhoddai hyn oll fwynhad iddi.

Felly, yma 'rwyt ti'n byw, fugail bach? Mor annifyr yw arnat, bob amser wrthyt dy hun! Beth fyddi di'n 'i wneuthur? Am ba beth y byddi di'n meddwl?

Bu arnaf awydd ateb,—"Am danoch chi, meistres "; ac ni fuaswn wedi dywedyd anwiredd, ond yr oeddwn mor gynhyrfus fy nheimlad fel na fedrwn gael gair allan. Credaf, yn wir, y deallai hi hynny, a bod yr un ystrywgar yn cymryd pleser i ddyblu fy mhoenedigaeth â'i direidi.

A'th gariad, fugail, a fydd hi'n dod i fyny i'th weld weithiau? Rhaid mai'r afr aur yw hi, neu Estérel, un o'r tylwyth teg, na red ond i ben mynyddoedd."

A thra siaradai â mi, ymddangosai hithau fel un o'r tylwyth teg, â'i chwerthiniad iachus, ei phen ar dro, a'i brys i fynd, a wnai ei hymweliad fel rhyw ddrychiolaeth.

'Ffarwel, fugail!"

Ffarwel, meistres!"

Ac wele hi i ffwrdd, gan ddwyn ei basgedi gweigion.

Fel y diflannai i lawr hyd y llwybr, teimlwn fel pe bai'r cerrig a dreiglai dan draed y mul, yn syrthio un ac un ar fy nghalon. Gwrandewais arnynt yn hir, hir, ac hyd ddiwedd y dydd safwn fel un yng nghwsg, heb feiddio symud rhag peri hedeg o'm breuddwyd. Tua'r hwyr, pan oedd y gorwelion yn dechreu glasu, a'r defaid yn tyrru at ei gilydd gan frefu er mwyn mynd i mewn i'r gorlan, clywn rywun ar y goriwaered yn fy ngalw, a gwelais Stéphanette yn ymddangos, nid mwyach yn chwerthin fel o'r blaen, eithr yn crynu gan ofn a lleithder ac oerfel. Ar waelod y bryn, meddai, gwelodd fod yr afon yn llawn gan law yr ystorm, ac wrth geisio mynd trwyddi ar garlam, iddi fod bron â boddi. Hyn oedd yn ofnadwy, nad gwiw iddi ar yr awr honno o'r nos feddwl am ddychwelyd i'r fferm, oherwydd am yr heol fawr, ni feiddiai fy meistres fynd y ffordd honno ei hun, a minnau, ni fedrwn adael fy mhraidd. Poenid hi yn enbyd gan y syniad o dreulio'r nos ar y mynydd, yn bennaf oherwydd anesmwythder meddwl ei pherthynasau. Ceisiais innau ei chysuro oreu y medrwn:

Yng Ngorffennaf mae'r nos yn fyr, meistres. Dim ond munud anhyfryd yw.'

Ac ar frys, mi a gynheuais dân mawr er mwyn sychu ei thraed a'i gwisg a wlychesid yn nyfroedd yr afon. Yna rhoddais o'i blaen laeth a theisennau, eithr ni feddyliai'r fechan am dwymo nac am fwyta, ac wrth weld y dagrau mawrion a lanwai ei llygaid yr oedd arnaf innau hefyd awydd wylo.

Erbyn hyn, deuthai y nos mewn gwirionedd. Nid oedd bellach ar bennau y mynyddoedd namyn llwch o heulwen—rhyw darth o oleuni ar ymylon y machlud. Gofynnais i'r fechan fynd i mewn i'r gorlan i orffwys. Wedi taenu croen prydferth hollol newydd ar y gwellt glân, dymunais iddi noswaith dda, ac euthum i eistedd y tu allan, o flaen y drws. Duw sydd dyst i mi, er y tân o gariad a losgai fy ngwaed, na ddaeth i mi yr un meddwl ffiaidd, dim ond balchter mawr wrth feddwl bod mewn congl o'r gorlan—yn ymyl y praidd a edrychai arni'n cysgu, gyda chymaint cywreinrwydd—ferch fy meistr a'm meistres, fel dafad wynnach a gwerthfawrocach na'r lleill i gyd,—yn gorwedd, wedi ei hymddiried i'm gofal i. Erioed ni welswn ymddangos o'r nefoedd ddyfned na'r sêr ddisgleiried. Yn sydyn, agorodd drws y gorlan, ac ymddangosodd Stéphanette.

Ni fedrai gysgu. Gwnai'r creaduriaid sŵn â'r gwellt wrth symud, neu brefent yn eu breuddwydion. Gwell a fyddai ganddi ddod ger y tân. Wrth weld hyn, teflais fy nghroen mynn dros ei hysgwyddau, cyffroais y tân, ac eisteddasom naill wrth ochr y llall—heb siarad. Os treuliasoch erioed noson yn yr awyr agored, gwyddoch fod byd cyfrin, ar yr awr y cysgwn ni, yn deffro yn yr unigedd a'r tawelwch. Bryd hyn, cân y ffrydiau yn llawer mwy clir, goleuir y llynnoedd gan fflamau bychain. Mae holl ysbrydion y mynydd yn mynd a dod yn rhydd, ac y mae yn yr awyr ryw rugl-drwst, ryw suon anhysyn, fel pe clywid y canghennau'n prifio, y borfa'n tyfu. Y dydd, bywyd blodau yw; eithr y nos, bywyd pethau yw. I'r anghyfarwydd pair hyn ofn. Felly, gyda'r sŵn lleiaf, crynai yr eneth ieuanc, ac ymwasgai yn nês ataf i. Un waith, o'r llyn a ddisgleiriai islaw, daeth llef hir, alarus, fel ton tuag atom. Ar yr un foment llithrai seren-wib dlos uwch ein pennau tua'r un cyfeiriad fel pe cariai'r gri, yr oeddem newydd ei chlywed, oleuni gyda hi.

"Beth yw?" gofynnai Stéphanette, mewn llais isel. Enaid yn mynd i baradwys, meistres," a gwneuthum arwydd y Groes.

Gwnaeth hithau'r un arwydd, a safodd am ennyd â'i phen i fyny mewn dwfn fyfyrdod. Yna dywedodd wrthyf, Mae'n wir, ynte, fugail, eich bod chi i gyd yn ddewiniaid?" "Dim o gwbl, meistres. Ond yma, yr ydym yn byw yn nês at y sêr, a gwyddom a ddigwydd yno yn well na phobl y gwastadedd."

Edrychai i fyny o hyd, ei phen yn pwyso ar ei llaw, wedi ei hamgylchu â'r croen dafad, fel bugail bychan nefol.

"Dyna dyrfa sydd yna! Onid ydynt yn hardd! Erioed ni welais gynifer ohonynt! A wyddost eu henwau, fugail?" O, gwn, meistres. Gwelwch! Yn union uwch ein pen wele Heol Sant Iago.[1] A o Ffrainc yn syth dros yr Ysbaen. Sant Iago a'i gwnaeth er mwyn dangos ei ffordd i'r dewr Siarlymaen tra rhyfelai â'r Sarasiniaid. Ymhellach ymlaen wele Gerbyd yr Eneidiau[2] gyda'i bedair seren ddisglair. Y tair seren ar y blaen yw y Tri Anifail,[3] a'r un fechan sydd gyferbyn â'r drydedd yw yr Aradrwr.[4] A welwch chi oddiamgylch ymhobman y nifer mawr yma o sêr yn syrthio? Eneidiau ydynt na fyn Duw mo'u cael yn Ei nef. Ychydig yn is i lawr, wele'r Rhaca neu'r Tri Brenin.[5] Hwy sy'n gwneuthur y tro i ni'r bugeiliaid yn lle cloc.

Dim ond edrych arnynt, gwn ei bod awr wedi hanner nos. Ychydig yn is i lawr, o hyd i gyfeiriad y De, gwena Siôn Milan[6]—y ddisgleiriaf o'r sêr. Wele'r hyn a edrydd y bugeiliaid am y seren yma. Dywedir i Siôn Milan un noson, gyda'r Tri Brenin a'r Cywdy, gael eu gwahodd i neithior seren o blith eu cydnabod. Mewn mwy o frys, cychwynnodd y Cywdy, meddir, ynghyntaf, a chymerodd y ffordd uchaf. Edrychwch arni i fyny fry, ar ben draw'r wybren. Croesodd y Tri Brenin yn is i lawr a daliasant hi. Eithr yr oedd Siôn Milan ddiog, wedi cysgu. yn rhy hir, ymhell ar ol, ac mewn digllonedd, er mwyn peri iddynt aros, efe a daflodd atynt ei ffon. Dyna paham y gelwir y Tri Brenin yn Ffon Siôn Milan hefyd. Eithr y dlysaf o'r holl sêr, meistres, yw yr eiddom ni,—Seren y Bugail, a oleua i ni gyda'r wawr pan ddygom allan ein praidd, ac hefyd yn yr hwyr pan ddychwelwn â hwy. Galwn hi hefyd yn Magelon, y dlos Fagelon, a red ar ol Pedro Profens,[7] ac a'i prioda bob saith mlynedd."

"Beth! fugail, a oes ynte briodasau ymhlith y sêr?" "O oes, meistres."

A thra ceisiwn esbonio iddi beth oedd y priodasau hyn, teimlwn rywbeth oeraidd, pêr yn pwyso'n ysgafn ar fy ysgwydd. Ei phen, wedi trymhau gan gwsg, a orffwysai arnaf i gyda rhugl-drwst hyfryd o rubanau, o eddi, ac o wallt tonnog. Arhosodd felly, heb symud hyd y funud y llwydai sêr y ffurfafen, yn cael eu diffoddi gydag esgyniad y dydd. A syllwn innau arni'n cysgu, â'm henaid yn derfysglyd, eithr yn cael fy sanctaidd warchod gan y noson glaer na roddes i mi erioed namyn meddyliau pur. O'n cylch, ai y sêr ymlaen ar eu hymdaith ddistaw, yn ufudd megis praidd mawr; ac weithiau dychmygwn fod un o'r sêr yma, y dlysaf, y ddisgleiriaf, wedi colli ei ffordd, ac wedi dod a phwyso ei phen ar fy ysgwydd i gysgu.

Y DDAU DAFARN.

DYCHWELYD O Nimes yr oeddwn, ar brynhawn o Orffennaf. Yr oedd y gwres yn llethol. Ymestynnai'r ffordd wen, boeth, lychlyd, rhwng y planigfeydd olewydd a deri ieuainc, o dan haul mawr fel darn arian pŵl a lanwai'r holl nen. Dim mymryn o gysgod, dim awel o wynt. Dim ond dawns y tês a gwich-ganu ceiliogod y rhedyn, cerddoriaeth ynfyd, fyddarol, wyllt, fel pe bai yn llais i'r cynnwrf tanbaid. Cerddwn drwy le unig er ys dwy awr, yna, gwelwn yn sydyn o'm blaen nifer o dai gwynion yn dod i'r golwg drwy lwch yr heol. Ylle a elwid yn Arhosfa Sant Finsent oedd,—pump neu chwe ffermdy, ysguboriau hir dan nennau cochion, llyn heb ddwfr ynddo ynghanol clwstwr o goed ffigys dilewyrch, ac ym mhen draw'r pentref, dau dafarn mawr yn edrych i wynebau ei gilydd o bob tu i'r heol.

Yr oedd rhywbeth yn darawiadol yn agosrwydd y ddau dafarn hyn. Ar un ochr, adeilad newydd, mawr, yn llawn bywyd a mynd, yr holl ddrysau'n agored, y Van wedi aros o'i flaen, y ceffylau yn mygu a'u hoffer yn cael eu tynnu oddiarnynt, teithwyr wedi disgyn yn yfed yn frysiog ar y ffordd yng nghysgod byr y muriau, y clôs yn llawn mulod a cherbydau; y gyrwyr yn gorweddian yn y tai maes gan ddisgwyl am eu gwydraid. Oddi mewn, llefau, rhegfeydd, sŵn dyrnau yn taro'r byrddau, clic y gwydrau, sŵn chwarae biliards, cyrc y poteli lemwnêd yn neidio allan, ac uwchlaw'r terfysg hwn i gyd llais llon, soniarus, yn canu nes gwneuthur i'r ffenestri siglo:

Yr eneth fach ddel
A gododd yn fore;
Aeth i lan y môr
A'i harian bob dime.


Distaw a gwrthodedig yr olwg oedd y tafarn gyferbyn. Porfa o flaen y drws, tyllau yn y ffenestri, uwchben y drws cangen o fanadl gwyw yn hongian fel hen bluen fawr, grisiau'r trothwy yn cael eu dal i fyny â cherrig o'r heol. Y cwbl mor dlodaidd, mor druenus, nes mai caredigrwydd mewn gwirionedd a fyddai mynd yno i yfed gwydraid.

Euthum i mewn a chefais fy hun mewn ystafell hir, wag, a digysur, a goleu'r dydd yn disgleirio drwy dair ffenestr heb lenni arnynt yn ei gwneuthur yn fwy gwag a digysur fyth. Rhai byrddau yfed a gwydrau yma a thraw arnynt yn bŵl gan lwch, bwrdd biliards wedi cracio a'i bedair poced fel ffiolau, cadair freichiau felen, hen gownter, oll fel pe baent yn cysgu yno ynghanol y gwres afiach a thrwm. A'r clêr! y clêr! ni welswn erioed gynifer: ar y nenfwd, ar y ffenestri, yn y gwydrau, yn dyrfaoedd. Pan agorais y drws yr oedd yno furmur ac ysgwyd esgyll fel ped elswn i mewn i gwch gwenyn.

Ar ben pellaf yr ystafell yn ymyl y ffenestr, safai gwraig, yn edrych yn ddyfal allan. Gelwais arni ddwy waith:

Hei! Meistres!"

Trodd yn araf gan ddangos i mi wyneb curiedig, rhychiog, lliw'r pridd, ac yn ei gylchu, fel ffrâm, goler mawr o lâs wawrgoch, fel a wisgir gan hen wragedd yn ein hardal ni. Nid hen wraig oedd hon chwaith, eithr gwnaethai dagrau hi yn wyw ei gwedd.

"Beth sydd arnoch ei eisiau?" gofynnai, gan sychu ei llygaid.

'Eistedd am funud a chael rhywbeth i'w yfed."

Edrychodd arnaf yn syn iawn heb symud o'i lle fel pe bai heb ddeall.

Onid tafarn yw hwn, ynte?"

"Ie, tafarn yw, os mynnwch. Ond pam nad ewch chwi i'r tafarn gyferbyn fel y lleill. Mae'n llawer mwy llawen."

"Mae'n rhy lawen i mi. Gwell gennyfi dario yma," ac heb aros am ateb, eisteddais wrth un o'r byrddau.

Pan oedd yn hollol sicr fy mod o ddifrif, dechreuodd y dafarnwraig fynd a dod gyda golwg dra phrysur,—agor dreiriau, symud poteli, sychu'r gwydrau, gyrru ymaith y clêr. Hawdd gweld bod teithiwr i weini arno yn ddigwyddiad pwysig iawn. Yn awr ac yn y man safai'r druan, gan ddal ei phen fel ped anobeithiai fedru gwneuthur y cwbl.

Yna ai i'r ystafell gefn; clywn hi yn trafod allweddau, yn symud cloeon, yn chwilio mewn padell am fara, symud, sychu, a golchi platiau. O bryd i bryd, anadliad dwfn,—ochenaid a fethodd ei mygu yn llwyr.

Ar ol chwarter awr o'r helynt hwn, cefais o'm blaen blatiaid o rawnwin sychion, torth o fara hen, caled, a photelaid o win.

'Dyna fe i chwi, ynte," ebe'r greadures ryfedd, a dychwelodd ar unwaith i'w lle wrth y ffenestr.

Wrth yfed, ceisiais gael ganddi siarad. "Does dim llawer o bobl yn galw yma, wraig fach, a oes?"

"O, nac oes, syr, neb byth. Pan oeddem ni yma'n unig yn y lle, 'roedd yn wahanol: arhosai'r Van yma, nyni a fyddai'n rhoi bwyd i'r helwyr amser hela'r hwyaid gwylltion, caem gerbydau yma drwy'r flwyddyn. Ond wedi i'n cymdogion ymsefydlu yma, collasom y cwbl. Gwell gan bobl fynd gyferbyn. Mae yn rhy brudd iddynt yn ein tŷ ni .

Y gwir yw, 'dyw'r tŷ yma ddim yn lle llawen iawn. 'Dwyf i ddim yn fenyw olygus, 'dyw fy iechyd i ddim yn dda iawn, mae fy nwy ferch wedi marw. A chyferbyn, maent yn chwerthin drwy'r dydd. Un o Arles sydd yn cadw'r tafarn,—benyw lân, gyda gwisgoedd hardd a chadwyn o aur yn drithro am ei gwddf. Ei chariad hi yw arweinydd y Van; mae ef yn mynd â'r cerbyd yno wedyn. Heblaw hynny, mae ganddi nifer mawr o ferched llawen yn forynion. Felly mae'n cael digon o gwsmeriaid. Mae holl ieuenctid yr ardaloedd yma i gyd yn mynd yno. A'r gyrwyr allan o'u ffordd er mwyn galw yn ei thŷ hi. A minnau'r fan hon fy hunan drwy'r dydd yn nychu."

Dywedai hyn mewn llais pell, digyffro, a'i thalcen o hyd yn pwyso yn erbyn y ffenestr. Amlwg oedd bod rhywbeth gyferbyn a dynnai ei sylw.

Yn sydyn, o'r tu arall i'r heol, clywyd cyffro mawr. Ymysgydwai'r cerbyd mawr yn y llwch. Clywid cleciadau'r chwip, cri'r llanciau, a'r merched yn dyrfa ar garreg y drws yn gweiddi: "Ffarwel! Ffarwel!" ac ar hynny y llais nerthol gynneu yn ail-ddechreu yn fwy soniarus fyth:

Aeth i lan y môr
Ai harian bob dime;
Pwy welodd yn dod
Ond tri milwr llawen.....


Wrth glywed y llais hwn crynai'r wraig dros ei chorff i gyd, a chan droi ataf:

Glywch chwi?" ebe hi wrthyf yn ddistaw; "fy ngŵr yw ef. Onid yw e'n canu'n dda?"

"Beth? Eich gŵr? Ydyw yntau hefyd yn mynd fan acw?"

Yna, gyda golwg dorcalonnus ond yn fwyn iawn, dywedodd:

"Beth a ddisgwyliech chwi, syr? Fel yna y mae dynion, ni charant weld wylo; ac 'rwyf innau yn wylo beunydd er pan gollais fy rhai bach. Ac y mae mor drist yn yr hen dŷ mawr yma, heb neb yma byth. Felly pan flina ormod, mae Josi, druan, yn mynd fan acw i yfed, a chan fod ganddo lais da, gwna'r fenyw yna o Arles iddo ganu. Ust! dyna fe yn ail-ddechreu."

A chan grynu ac estyn allan ei dwylaw a'r dagrau mawrion yn ei gwneuthur yn fwy diolwg fyth, safai yno fel mewn perlewyg o flaen y ffenestr yn gwrando ar ei Josi yn canu i'r fenyw o Arles:

Dywedodd y cyntaf
Dydd da, hoffus feinwen."


YR AFR FACH WEN.

Ni bu Mr. Silin erioed yn ffodus gyda'i eifr. Collai hwynt oll yn yr un modd: ar fore braf, torrent eu rhaffau, dihangent i'r mynydd, ac i fyny yno, y blaidd a'u llarpiai. Ni chadwai geiriau teg eu meistr nac ofn y blaidd hwy'n ol. Geifr annibynnol oeddynt, yn dewis ar unrhyw delerau ryddid ac awyr iach.

Yr oedd y gŵr da Mr. Silin, na ddeallai ddim ar anianawd ei greaduriaid, yn ofidus o'u plegid. Dywedai:

Mae ar ben. Mae'r geifr yn blino aros gyda mi. Ni fedraf gadw dim un.'

Eto ni ddigalonnodd, ac ar ol colli chwe gafr yn yr un modd, prynodd iddo'i hun y seithfed, eithr y tro hwn gofalodd ei chael yn ddigon ifanc fel y gallai ymarfer yn well â byw gydag ef.

O'r fath un dlos oedd gafr fechan Mr. Silin! Mor dlos oedd â'i llygaid mwyn, ei barf bigfain, ei charnau duon, disglair, ei chyrn lleiniog, a'i blew gwyn, hir fel hugan drosti! Yr oedd wedyn mor ufudd a hoffus, yn cymryd ei godro heb symud, a heb roi ei throed yn y llestr. Hen gariad fach o afr!

Yr oedd gan Mr. Silin, tu ol i'w dŷ, gae bychan, wedi ei amgylchu â drain gwynion. Yno y rhoddodd yr afr newydd. Dododd hi yn rhwym wrth bost yn y man goreu o'r cae, gan ofalu rhoddi iddi ddigon o raff, ac ai yno yn awr ac yn y man i weld a oedd wrth ei bodd. Yr oedd yr afr yn ddedwydd iawn, a phorai'r glaswellt mor ddiddig nes llawenychu o Mr. Silin.

O'r diwedd," meddyliai'r gŵr druan, "dyma un heb flino aros gyda mi." Ei dwyllo'i hun yr oedd Mr. Silin, yr oedd ei afr wedi blino.


Un diwrnod, dywedai yn ei meddwl, gan edrych ar y mynydd:

'Rwy'n siwr ei bod yn braf i fyny acw! Mor hyfryd fyddai prancio yn y grug heb yr hen raff yma sy'n dolurio fy ngwddf! Purion peth yw i asyn neu ych bori mewn cae! Rhaid i eifr gael digon o ehangder."

O'r foment honno nid oedd flas iddi ar borfa'r cae. Aeth yn flin ei hysbryd. Teneuodd, aeth ei llaeth yn brin. Trueni oedd ei gweld yn tynnu ar ei rhaff drwy'r dydd, ei hwyneb i gyfeiriad y mynydd, ei ffroenau yn agored, gan ddywedyd "Mê!" mor ddolefus.

Deallodd Mr. Silin yn fuan fod rhywbeth yn blino'r afr, ond ni wyddai pa beth. Un bore, pan geisiai ei godro, trodd yr afr ato, gan ddywedyd wrtho yn ei hiaith ei hun:

"Gwrandewch, Mr. Silin, 'rwyf i wedi blino yma gyda chi. Gadewch i mi fynd i'r mynydd."

"O'r annwyl! Hon eto!" ebe Mr. Silin yn syn, a than rym yr ergyd, gadawodd y llestr llaeth i syrthio; yna gan eistedd ar y glaswellt wrth ochr ei afr, dywedodd:

"Beth, Gwenno, a wyt ti am fy ngadael?"

Ac atebodd Gwenno:

"Ydwyf, Mr. Silin."

"A ydwyt yn brin o borfa yma?"

"O, nac ydwyf, Mr. Silin."

Mae dy raff yn rhy fyr, efallai. A gaf i ei gwneuthur yn hwy?

"'Does dim eisiau, Mr. Silin."

"Wel, beth sydd yn eisiau arnat? Beth a garit ei gael?"

"'Rwyf am gael mynd i'r mynydd, Mr. Silin."

"Ond, druan, wyddost ti ddim fod y blaidd ar y mynydd. Beth a wnei di pan ddaw ef?"

"Mi rof i gorniad iddo, Mr. Silin."

"Fe chwardd y blaidd am ben dy gyrn. Fe larpiodd rai o'm geifr oedd â chryfach cyrn ganddynt nag sydd gennyt ti. Ti wyddost am yr hen afr Mwynwen, druan, oedd yma y llynedd? Gafr fawr, gref, mor llawn o asbri â bwch. Ymladdodd hi â'r blaidd trwy gydol y nos, yna yn y bore, y blaidd a'i llarpiodd."

"O! druan a Mwynwen! Ond waeth am hynny, Mr. Silin, gadewch i mi fynd i'r mynydd."

"Yn enw'r daioni!" ebe Mr. Silin; "beth a wneir i'm geifr i, ynte? Un arall i'w llarpio gan y blaidd! Wel, na, mi a'th achubaf di er dy waethaf, yr un ffol! a rhag ofn i ti dorri dy raff, mi'th gaeaf yn yr ystabl, ac yno y cei aros o hyd."

Ar hynny, arweiniodd Mr. Silin yr afr i ystabl dywyll, a gwnaeth y drws yn ddwbl ddiogel. Yn anffodus, anghofiodd y ffenestr, a phrin y trodd ei gefn nad oedd yr afr allan.

Pan gyrhaeddodd yr afr wen ben y mynydd, bu yno lawenydd cyffredinol. Ni welsai yr hen ffynidwydd erioed ddim cyn dlysed. Derbyniwyd hi fel brenhines fechan. Ymgrymai'r castanwydd hyd lawr er mwyn ei chusanu â blaen eu canghennau. Ymagorai'r banad! euraid ar ei llwybr, ac aroglent mor bêr ag y gallent. Yr oedd yr holl fynydd yn cadw gwyl iddi.

O, mor hapus oedd yr afr! Dim rhaff mwy, dim o'r post, dim i'w rhwystro i brancio ac i bori yn ol ei hafiaith. Dyna lle'r oedd porfa! bron cyn daled â'i chyrn. A'r fath borfa! Peraroglus, main, yn cynnwys mil o lysiau,—pur wahanol i laswellt y cae. A'r blodau ynte! Clychau mawr, glas, bysedd y cwn, hir, lliw porffor, fforest gyfan o flodau gwylltion, yn orlawn o sudd rhagorol.

Yn hanner meddw, ymroliai yr afr wen i mewn yno, ei choesau yn yr awyr, ac ymdreiglai bendramwnwgl ar y llethr, gyda'r dail syrthiedig a'r cnau ceffylau. Yna'n sydyn, codai gydag un naid ar ei thraed. Wele hi i ffwrdd, ei phen yn estynedig, drwy ganol y drain a'r llwyni, yn awr ar fryncyn, yn awr ar waelod rhewyn, i fyny i lawr, ymhobman. Gellid meddwl bod deg o eifr Mr. Silin ar y mynydd.

Nid oedd ofn dim ar Wenno.

Ag un naid ai dros y nentydd, a gwlychid hi wrth eu croesi â llwch llaith ac ewyn. Yna, yn diferu, gorweddai yn ei hyd ar ryw graig wastad i'w sychu gan yr haul. Un tro wrth ddod i ymyl darn gwastad uchel, a meillionen rhwng ei dannedd, gwelodd obry ar y gwastadedd dŷ Mr. Silin, a'r cae bach o'i ol. Parodd yr olwg arno iddi chwerthin hyd ddagrau. "Onid yw yn fach!" ebe hi. "Sut y medrais fyw o'i fewn?"

Druan a hi! O'i gweld ei hun ar lan mor uchel credai ei bod o leiaf gymaint â'r byd.

Mewn gair, dydd da a fu hwnnw i afr Mr. Silin. Tua chanol dydd, wrth redeg i'r dde ac i'r aswy, aeth i ganol nifer o ewigod yn bwyta o winwydd gwyllt. Parodd y rhedegydd fechan â'r wisg wen gyffro yn eu plith. Rhoisant iddi'r lle goreu yn y gwinwydd, ac yr oedd y boneddigion oll yn dra serchog. Ymddengys i un ohonynt â chôt ddu ganddo gael y fraint o ennill serch Gwenno. Crwydrodd y ddau gariad gyda'i gilydd drwy y coed am awr neu ddwy, ac os myn neb wybod beth a ddywedent wrth ei gilydd, gofynned i'r nentydd siaradus a lif yng nghudd yn y mwswgl. *** Yn sydyn cododd y gwynt. Aeth y mynydd yn lasddu; y nos ydoedd. "Eisoes!" ebe'r afr fechan, a safodd yn syn.

Obry, ymgollai y caeau mewn niwl. Diflannai cae bach Mr. Silin yn y nudden, ac o'r tŷ ni welid mwy ond y to ac ychydig fwg. Clywodd glychau praidd a gyrchai rhywun, a theimlodd ei henaid yn athrist. Wrth fynd heibio iddi ar ei ymdaith tuag adref, cyffyrddodd hebog â hi â'i adenydd. Crynodd, yna clybuwyd rhu yn y mynydd:

"Hw! Hw!"

Meddyliodd am y blaidd, drwy gydol y dydd ni feddyliasai'r un ffôl am dano o gwbl. Ar yr un foment, o'r dyffryn obry, daeth sain utgorn. Y gŵr da Mr. Silin a wnai ei ymdrech olaf.

"Hw! Hw!" rhuai'r blaidd.

"Dere'n ol! Dere'n ol!" meddai'r utgorn.

Daeth awydd dychwelyd ar Wenno, ond wrth gofio am y post, y rhaff, gwair y cae bach, meddyliodd na allai mwyach ddygymod â'r bywyd hwnnw, ac mai gwell oedd aros.

Ni seiniodd yr utgorn drachefn. Clywodd yr afr o'r tu ol iddi sŵn dail. Trodd yn ol a gwelodd yn y caddug ddau glust byr, unionsyth, a dau lygad yn disgleirio. Y blaidd oedd. *** Enfawr, llonydd, yn eistedd ar ei gynffon, yr oedd yno yn syllu ar yr afr fach wen, ac yn ei harchwaethu ymlaen llaw. Gan y gwyddai y bwytâi hi, nid oedd brys arno, ond pan drodd hi yn ol, dechreuodd yntau chwerthin yn faleisus:

"Ha! Ha! gafr fach Mr. Silin!" a thynnodd ei dafod coch, mawr dros ei weflau.

Teimlodd Gwenno fod popeth ar ben. Un funud wrth atgofio hanes Mwynwen, druan, fel yr ymladdasai drwy'r nos, a chael ei bwyta wedyn yn y bore, dywedodd ynddi ei hun mai gwell efallai a fyddai cymryd ei bwyta ar unwaith; yna, wedi ail feddwl, rhoddodd ei hun yn barod i ymladd, ei phen ar lawr, a'i chyrn ymlaen, fel yr afr fach ddewr ydoedd. Nid bod ganddi obaith lladd y blaidd,—nid yw geifr yn lladd bleiddiaid, ond yn unig er mwyn gweld a fedrai hi ddal cyhyd â Mwynwen.

Yna neshaodd yr anghenfil, a dechreuodd y cyrn bychain ar eu dawns.

A! yr afr fach ddewr, fel yr ymdrechai! Mwy na dengwaith y parodd i'r blaidd gilio'n ol i gael ei anadl. Yn ystod pob munud o seibiant fel hyn, porai'r un awyddus yn frysiog flewyn o'r borfa a hoffai gymaint. Yna dychwelai i'r ornest a'i genau yn llawn. Parhaodd hyn drwy y nos. Yn awr ac eilwaith gwelai gafr Mr. Silin y sêr yn dawnsio yn yr wybren glir, a dywedai ynddi ei hun:

"O am ddal ati hyd oni thyr y wawr!"

Diffoddai'r sêr un ar ol y llall. Dyblodd Gwenno ergydion ei chyrn a'r blaidd ergydion ei ddannedd. Ymddangosodd goleu llwyd ar y gorwel. Clybuwyd cân ceiliog cryglyd o ffermdy gerllaw.

"O'r diwedd!" ebe'r afr druan, canys aros am y dydd a wnaethai cyn marw; a gorweddodd yn ei hyd ar y ddaear, a'i gwisg wen brydferth wedi ei hystaenio â gwaed.

Yna rhuthrodd y blaidd ar yr afr fechan a bwytaodd hi.


Y FERCH O ARLES.

WRTH ddisgyn o'm melin er mwyn mynd i'r pentref, eir heibio i fferm a adeiladwyd yn agos i'r ffordd, ym mhen draw buarth mawr â danadl yn tyfu drosto. Un o wir ffermdai ein gwlad yw hwn, gyda'i lechi cochion, a'i fur mawr, tywyll, aml-dyllog, ac uwchben, melin wynt yr ysgubor, y chwerfan er mwyn codi'r meini, ac yma a thraw, ambell ddyrnaid o wair melyn.

Paham y'm tarawyd gan yr olwg ar y tŷ hwn? Paham y llethid fy nghalon gan yr olwg ar y drws caeëdig yma? Ni fedrwn ei esbonio, ac eto yr oedd rhyw ysgryd arnaf wrth weld y lle. Yr oedd gormod o ddistawrwydd o'i gylch. Pan eid heibio, ni chyfarthai'r cwn, a hedai'r ieir ymaith heb glochtar. O'r tu mewn, dim llais! Dim hyd yn oed gloch mul! Oni bai am lenni gwynion y ffenestri, a'r mwg a ddeuai o'r simnai, credasid nad oedd yno neb yn byw.

Doe, ar darawiad deuddeg, dychwelwn o'r pentref, ac er mwyn osgoi tanbeidrwydd yr haul, cerddwn wrth ochr gwal y fferm, yng nghysgod y llwyni danadl. Ar y ffordd, o flaen y ffermdy, yr oedd y gweision distaw ar orffen llanw llwyth o wair. Yr oedd y porth yn agored. Teflais gipolwg wrth fynd heibio, a gwelais ar ben draw'r buarth,—ei bwys ar ei ddau benelin, a'i ben yn ei ddwylaw,—ar fwrdd mawr o garreg, hen ŵr tal, penwyn, ei siaced yn rhy fyr, a'i lodrau'n garpiog. Sefais. Sibrydodd un o'r dynion wrthyf:

"Ust! y meistr yw. Fel yna y mae oddiar yr anffawd i'w fab."

Ar y funud honno aeth heibio i ni wraig a llanc bychan mewn dillad duon, a chanddynt Lyfrau Gweddi mawrion goreuredig, ac aethant i mewn i'r ffermdy.

Ychwanegodd y dyn:

Meistres a'r mab ieuengaf yn dychwelyd o'r offeren. Ânt yno bob dydd er pan laddodd y bachgen ei hun. A! syr, y fath anrhaith! Gwisg y tad o hyd ddillad y bachgen a fu farw. Ni fedr neb gael ganddo eu gadael . . . Hoi! Geffyl!"

Ymysgydwodd y cerbyd at gychwyn. Minnau, yn awyddus i glywed mwy, a ofynnais i'r gyrrwr am gael esgyn i'w ymyl, ac i fyny yno, yn y gwair, y cefais gwbl o'r hanes drylliog hwn.

Ian oedd ei enw. Llanc braf, ugain oed oedd, yn addfwyn fel geneth, yn gryf ac wyneb-agored. Gan ei fod yn olygus iawn, cai sylw'r merched, eithr am un yn unig y meddyliai efe, un fechan o Arles, mewn pali ac eddi i gyd, a gyfarfuasai unwaith ar y campfaes yn Arles. Ar y dechreu nid edrychid yn ffafriol ar y cysylltiad hwn yn y fferm. Dywedid mai hoeden oedd yr eneth, ac nad rhai o'r ardal honno oedd ei rhieni. Ond dymunai Ian â'i holl enaid ei ferch o Arles. Dywedai:

"Byddaf farw onis caf."

Bu raid ildio. Penderfynwyd eu priodi ar ol y cynhaeaf. Yna, un nos Sul, yng nghyntedd y ffermdy, yr oedd y teulu ar orffen eu cinio. Yr oedd bron yn wledd neithior yno. Ni chynorthwyai'r ddyweddi, ond yfesid i'w hiechyd da lawer gwaith. Daeth dyn at y drws, ac mewn llais crynedig, gofynnodd am gael siarad â'r meistr, Stephan, ag ef yn unig. Cododd Stephan ac aeth allan i'r heol.

"Syr," ebe'r dyn wrtho, yr ydych yn mynd i briodi eich plentyn â dyhiren—un a fu fel gwraig i mi am ddwy flynedd. Mi a brofaf yr hyn a ddywedaf; wele lythyrau. Gŵyr ei rhieni y cyfan, ac addawsent hi i mi, ond oddiar pan geisiodd eich mab hi, ni fynnant hwy na hithau mwy mo honof.

Tybiaswn, wedi'r hyn a fu, na allasai hi fod yn wraig i un arall."

"O'r gore," ebe Stephan, wedi darllen y llythyrau. "Dewch i mewn i yfed gwydraid o win."

Atebodd y dyn:

Dim, diolch. Y mae arnaf fwy o ofid nag o syched." Ac aeth i'w ffordd.

Dychwelodd y tad heb ddangos ei gyffro. Ail gymerodd ei le wrth y ford, a gorffennwyd y wledd mewn llawenydd. Y noson honno, aeth Stephan a'i fab gyda'i gilydd allan i'r caeau. Arosasant allan yn hir. Pan ddychwelasant, yr oedd y fam o hyd yn eu disgwyl.

"Wraig," ebe'r ffermwr, gan arwain ei fab tuag ati, cysura ef. Y mae mewn gofid." *** Ni soniodd Ian mwy am y ferch o Arles. Er hynny, carai hi o hyd, ac hyd yn oed yn fwy nag erioed er pan ddangoswyd hi iddo ym mreichiau un arall. Eithr rhy falch oedd i ddywedyd gair; hynny a'i lladdodd, druan ag ef! Weithiau, treuliai ddyddiau cyfain mewn congl heb symud. Brydiau eraill, gweithiai ar y tir yn ffyrnig, gan wneuthur ei hunan waith tri llafurwr. Yn yr hwyr, cerddai ar hyd ffordd Arles, ac ai yn ei flaen hyd nes y gwelai glochtai meinion y dref yn codi rhyngddo a machlud haul. Yna dychwelai. Nid aeth erioed ymhellach.

O'i weld felly, bob amser yn drist ac unig, ni wyddai pobl y fferm beth i'w wneuthur. Ofnid aflwydd. Un tro, wrth y bwrdd, dywedodd ei fam wrtho wedi ei weld â'i lygaid yn llawn dagrau:

"Wel, gwrando, Ian. Os wyt am ei chael wedi'r cwbl, ni a'i rhoddwn i ti."

Gwridodd y tad gan gywilydd, a phlygodd ei ben. Gwnaeth Ian arwydd na fynnai mo honi, ac aeth allan.

O'r dydd hwnnw, newidiodd ei ddull o fyw, gan ymddangos bob amser yn llon er mwyn rhoi tawelwch meddwl i'w rieni. Gwelid ef eto yn y ddawns, yn y dafarn, yn y chwaraeon. Yn etholiad Fonvieille, efe a arweiniai â'r ffarandôl.

Dywedai'r tad, "Mae wedi gwella." Ond yr oedd gan y fam ei hofnau o hyd, a gwyliai ei phlentyn yn fwy nag erioed. Cysgai Ian gyda'i frawd ieuengaf yn ymyl tai'r pryf sidan. Cododd y fam wely iddi ei hun wrth ochr eu hystafell hwy. Gallai fod eisiau ei gofal ar y pryfed yn ystod y nos.

Daeth gwledd Sant Eli, noddwr y ffermwyr. Llawenydd mawr yn y fferm. Yr oedd yno dŷ agored i bawb, a gwin poeth ddigonedd. Yna'r chwaraeon, y tanau, a'r llwyni danadl llawn llusernau lliwiedig. Byw fyddo Sant Eli! Dawnsid yn ddiddiwedd. Llosgodd y brawd ieuengaf ei gôt newydd. Ymddangosai Ian ei hun yn llawen; ceisiai gan ei fam ddawnsio; wylai'r hen wraig o lawenydd am hyn.

Ganol nos aethpwyd i orffwys. Yr oedd ar bawb eisiau cysgu. Ond ni chysgodd Ian. Dywedai ei frawd ieuengaf ar ol hyn mai ochneidio a wnaethai drwy'r nos.

Trannoeth gyda'r wawr, clywodd y fam rywun yn croesi ei hystafell gan redeg. Cafodd fath o rybudd:

"Ian, ai ti sydd yna? "

Nid etyb Ian. Y mae eisoes ar yr ysgol. Yn frysiog, frysiog, cwyd y fam.

"Ian, i ba le yr ei di?"

Esgyn i'r llofft uchaf, â hithau ar ei ol:

"Fy mab, yn enw'r nefoedd !"

Cae yntau y drws a thyn y follt.

Ian! fy Ian annwyl! ateb fi. Beth wyt ti'n mynd i'w wneuthur?

Gan ymbalfalu â'i dwylaw hen, crynedig, chwilia am y glicied. Ffenestr yn agoryd, sŵn corff ar lechi'r cyntedd, a dyna'r cwbl!

Dywedasai ynddo'i hun, druan tlawd, " 'Rwy'n ei charu'n rhy fawr. Mi a af oddiyma."

O'r fath rai gresynus ydym! Caled yw er hynny, na fedrai dirmyg ladd cariad!

Y bore hwnnw, ymholai pobl pwy a allai fod yn crio felly i lawr gerllaw fferm Stephan.

Y fam oedd yno yn y cyntedd, o flaen ford garreg orchuddiedig â gwlith a gwaed—yn wylofain, a chorff marw ei mab ar ei breichiau noeth.

GWIN Y PARCHEDIG DAD GREGORI.

"YFWCH hwn, ffrind, a gadewch i mi glywed eich barn am dano."

A phob yn ddiferyn, gyda gofal manwl marsiandwr yn cyfri perlau, arllwysodd offeiriad Graveson i mi lymaid bychan o hylif gwyrdd-euraid, poeth, nwyfus, hyfryd. Teimlwn fel petai heulwen o'm mewn.

"Dyma win y Tad Gregori, llawenydd a iechyd ein Profens," ebe'r gŵr da wrthyf gyda gwên fuddugoliaethus. Gwneir ef ym mynachty Premontres,—pum milltir o'ch melin chwi. Onid yw hwn gystal â gwinoedd goreu'r byd? A beth pe gwyddech pa fath hanes digrif sydd i'r trwyth yma. Gwrandewch ynte."

Felly, yn ddigon diniwed a difeddwl-ddrwg, yn ystafell ginio tŷ'r offeiriad-oedd mor onest a thawel gyda'i" Ffordd y Groes" mewn darluniau bychain, a'r llenni prydferth wedi eu startsio fel crysau gwynion, dechreuodd yr offeiriad stori fechan sydd dipyn yn ysgafn ac amharchus, ar ddull un o storiau Erasmus neu Asŵsi. *** Ugain mlynedd yn ol, yr oedd Tadau Premontres, neu yn hytrach y Tadau Gwynion fel y gelwid hwy gan y Profensiaid, wedi syrthio ar amseroedd drwg. Pe gwelsech eu tŷ ar yr adeg hon, parasai boen i chwi.

Yr oedd y mur mawr, a'r Tŵr hynafol yn mynd yn ddarnau. O gylch yr eglwys ymhobman tyfai porfa, yr oedd y colofnau bychain yn torri a'r seintiau cerrig yn malurio yn eu cornelau. Dim un ffenestr yn gyfan, dim un drws yn dal. Ar y closydd, yn y capelau, chwythai gwynt Rhôn fel yng Nghamarg, gan ddiffoddi'r canhwyllau, torri plwm y ffenestri, a hyrddio dwfr y bendithfeydd. Eithr y pruddaf o'r cwbl oedd clochty'r eglwys, yn ddistaw megis colomendy gwag, a'r Tadau, o ddiffyg arian i brynu cloch, yn gorfod galw i'r gwasanaeth boreol gyda chliciau wedi eu gwneuthur o bren almon.

Druain a'r Tadau Gwynion! Gwelaf hwy yn awr, yng ngorymdaith yr Wyl Fawr, yn cerdded yn brudd yn eu dillad clytiog, yn welw a theneu o fyw ar ffrwythau, ac ar eu hol, yr abad, yn cerdded yn ben-isel, yn gas ganddo ddangos i'r haul ei groes ddiaddurn a'i benwisg o liain gwyn wedi ei fwyta gan bryfed. Wylai gwragedd y lle o dosturi yn y rhengoedd, a sisial-chwerthin a wnai'r gwŷr corffol a gariai'r faner, gan gyfeirio at y myneich druain:

"Mae'r bechgyn llawen yn teneuo wrth fyw gyda'i gilydd."

Y ffaith oedd bod y Tadau Gwynion anffodus eu hunain wedi dechreu ymholi onid gwell a fyddai iddynt gymryd eu taith dros y byd, a chwilio porfa bob un drosto'i hun.

Yna, un dydd pan drinid y mater hwn mewn cyfarfod, hysbyswyd y prior fod y brawd Gregori yn dymuno ei glywed gan y cyngor. Y brawd Gregori a ofalai am wartheg y mynachty; hynny yw, treuliai ei ddyddiau i grwydro o glôs i glôs gan yrru o'i flaen ddwy fuwch deneu a geisiai eu porfa rhwng agennau'r llawr cerrig. Ac yntau wedi ei fagu gan hen ferch hanner call o ardal arall, a elwid yn gyffredin Modryb Begon, a'i ddwyn wedyn at y myneich, ni ddysgasai'r dyn druan erioed ddim ond gyrru ei wartheg ac adrodd ei bader; dywedai honno hefyd yn ei dafodiaith ei hun, oherwydd yr oedd ei ymennydd yn galed, a'i feddwl mor finiog a dagr o blwm. Yr oedd hefyd yn Gristion selog, er ychydig yn freuddwydiol, yn hapus o dan gerydd, ac yn ei ddisgyblu ei hun gydag argyhoeddiad cryf, a dyna freichiau!

Pan welwyd ef yn dod i mewn i ystafell y cyfarfod, yn wirion a hurt, yn moesgyfarch y cwmni gan lusgo'i goes, chwarddodd pawb,—y prior, y canoniaid a'r trysorydd. Dyna'r effaith a gai bob amser pa le bynnag yr ai, gyda'i wyneb llwyd siriol a'r farf gudyn gafr, a'i lygaid diniwed, ond ni hidiai'r brawd Gregori ddim am hynny.

"Barchedigion," meddai mewn tôn ddigrif, gan droi a throi ei gadwyn o gerrig olewydd, "mae'n ddigon gwir mai llestri gweigion sydd yn gwneuthur y sŵn goreu. A gredech chwi fy mod i, gan waghau fy mhen druan, oedd eisoes mor wag, wedi cael gafael ar gynllun a'n tyn ni oll allan o'n trybini. Dyma'r sut. Chwi adwaenech Modryb Begon, y fenyw ragorol a ofalai am danaf pan oeddwn fychan. (Duw gadwo'i henaid, y greadures! 'Roedd hi'n arfer canu hen ganeuon digon isel pan fyddai wedi yfed.) Dywedaf wrthych ynte, Barchedigion, fod Modryb Begon yn ystod ei bywyd yn adnabod llysiau'r mynyddoedd cystal a gwell nag unrhyw hen aderyn o Gorsica. A thua diwedd ei hoes, yr oedd wedi llwyddo i wneuthur trwyth digymar o gymysgu pump neu chwe math o lysiau a gasglem gyda'n gilydd ar y mynyddoedd. Mae blynyddoedd lawer oddiar hynny, ond credaf gyda help Sant Awstin a chaniatad ein Tad abad, y medrwn, o chwilio'n ddyfal, ail-ddarganfod cyfansoddiad y trwyth rhyfedd hwn. Ni byddai rhagor gennym i'w wneuthur ond ei roi mewn poteli a'i werthu dipyn yn ddrud. Yn y modd hwn medrai ein cyfundeb ymgyfoethogi'n raddol, fel y gwnaeth ein brodyr mewn rhai lleoedd eraill."

Ni chafodd amser i orffen. Yr oedd y prior yn barod i syrthio ar ei wddf. Mynnai y canoniaid ysgwyd llaw ag ef. Y trysorydd, yn fwy ei gyffro na'r un o'r lleill, a gusanai'n barchus ymyl garpiog ei wisg. Yna aeth pob un yn ol i'w gadair i ystyried, a'r awr honno, penderfynodd y cyfarfod fod gofal y gwartheg i'w osod ar frawd arall, er mwyn i'r brawd Gregori gael ei feddwl a'i holl amser yn llwyr at baratoi ei drwyth. *** Pa fodd y medrodd y brawd da atgofio cyfarwyddyd Modryb Begon? Gyda pha ymdrechion? Pa faint o golli cwsg? Nis dywed hanes. Beth bynnag, hyn sydd sicr,-ymhen chwe mis yr oedd gwin y Tadau Gwynion eisoes yn boblogaidd iawn. Trwy'r holl sir i gyd, trwy ardaloedd Arles, nid oedd ffermdy na cheid yn ei seler, rhwng y poteli gwin a'r poteli olewydd wedi eu piclo, gostrel fechan o bridd coch, wedi ei selio ag arfbais Profens, gyda mynach mewn perlewyg ar label arian. Oherwydd y gwerthu oedd ar y gwin, ymgyfoethogodd tŷ Premontres yn dra chyflym. Ail-godwyd y Tŵr mawr. Cafodd y prior benwisg newydd, a'r eglwys ffenestri lliwiedig prydferth, ac yn y clochty hardd, un bore Pasg, clywid cymanfa o glychau mawrion a bychain yn tiwnio ac yn canu mewn llawn hwyl.

Am y brawd Gregori—y brawd hwnnw druan oedd â'i hurtrwydd yn destun chwerthin gan bawb—ni feddyliai neb am ei wawdio mwyach. Nid adweinid bellach ond y Parchedig Dad Gregori,—dyn â phen arno, ac o wybodaeth "I mi y maent yn ddyledus am hyn oll," meddai'r Tad wrtho'i hun, a phob tro y deuai'r meddwl hwn ato ymchwyddai gan falchter.

Cafodd y dyn druan ei gosbi'n drwm am hyn. Cewch weld. *** Un noson, yn ystod y gwasanaeth, daeth i mewn i'r eglwys yn gynhyrfus anghyffredin, yn goch, ar golli ei anadl, ei benwisg ar dro, ac mor ffwdanus ag iddo wrth gymryd o'r dwfr santaidd, wlychu ei lawes hyd y penelin. Credid ar y dechreu mai wedi gwylltu yr oedd oherwydd cyrraedd yn hwyr, ond pan welwyd ef yn ymgrymu'n addolgar i'r organ ac i'r galeri yn lle i'r brif allor, yn rhedeg fel y gwynt ar draws yr eglwys, yn crwydro yn y côr am bum munud cyn cael o hyd i'w le, yna wedi eistedd yn gwyro i'r dde a'r aswy gan wenu'n or-lawen, clywid murmur o syndod drwy'r lle. Sibrydid o lyfr gweddi i lyfr gweddi: "Beth sydd ar y Tad Gregori? Beth sydd ar y Tad Gregori?

Dwy waith y gadawodd y prior i'w groes syrthio ar y llechi yn ei dymer i orchymyn distawrwydd. Obry ym mhen pellaf y côr ai y Salmau ymlaen o hyd, ond gwan oedd yr atebion.

Yn sydyn, ar ganol un Salm dacw'r Tad Gregori yn gorwedd yn ol yn ei gadair, ac yn canu mewn llais uchel:

Ym Mharis y mae Tad Gwyn,

Tra la la, tra la la.

Cododd pawb mewn braw a syndod. Gwaeddodd rhywun:

"I mi y maent yn ddyledus am hyn oll," meddai'r Tad wrtho'i hun, a phob tro y deuai'r meddwl hwn ato ymchwyddai gan falchter.

Cafodd y dyn druan ei gosbi'n drwm am hyn. Cewch weld. *** Un noson, yn ystod y gwasanaeth, daeth i mewn i'r eglwys yn gynhyrfus anghyffredin, yn goch, ar golli ei anadl, ei benwisg ar dro, ac mor ffwdanus ag iddo wrth gymryd o'r dwfr santaidd, wlychu ei lawes hyd y penelin. Credid ar y dechreu mai wedi gwylltu yr oedd oherwydd cyrraedd yn hwyr, ond pan welwyd ef yn ymgrymu'n addolgar i'r organ ac i'r galeri yn lle i'r brif allor, yn rhedeg fel y gwynt ar draws yr eglwys, yn crwydro yn y côr am bum munud cyn cael o hyd i'w le, yna wedi eistedd yn gwyro i'r dde a'r aswy gan wenu'n or-lawen, clywid murmur o syndod drwy'r lle. Sibrydid o lyfr gweddi i lyfr gweddi: "Beth sydd ar y Tad Gregori? Beth sydd ar y Tad Gregori?

Dwy waith y gadawodd y prior i'w groes syrthio ar y llechi yn ei dymer i orchymyn distawrwydd. Obry ym mhen pellaf y côr ai y Salmau ymlaen o hyd, ond gwan oedd yr atebion.

Yn sydyn, ar ganol un Salm dacw'r Tad Gregori yn gorwedd yn ol yn ei gadair, ac yn canu mewn llais uchel:

Ym Mharis y mae Tad Gwyn,
Tra la la, tra la la.


Cododd pawb mewn braw a syndod. Gwaeddodd rhywun:

"Ewch ag ef allan. Mae wedi colli arno'i hun."

Gwnaeth y canoniaid arwydd y Groes. Ymdrechodd y prior gael trefn unwaith yn rhagor. Ond ni welai'r Tad Gregori ddim, ni chlywai ddim, a gorfu i ddau fynach corffol ei lusgo allan drwy ddrws bychan y côr, ac yntau yn gwingo fel un ynfyd ac yn parhau i ganu yn uwch nag erioed:

Tra la la, tra la la.

*** Trannoeth, y bore bach, yr oedd y dyn druan ar ei liniau yn ystafell ddirgel y prior, yn gwneuthur ei gyffes gydag afonydd o ddagrau.

"Y gwin, syr, y gwin a'm twyllodd," eb ef, gan daro'i ddwyfron.

Ac o'i weld mor ofidus ac mor edifeiriol, yr oedd y prior caredig ei hun yn barod i wylo.

Dewch, dewch, Dad Gregori, ymdawelwch! Fe ddiflanna hyn fel y gwlith o flaen yr haul. Wedi'r cyfan, ni fu'r drwg yn gymaint ag y tybiwch. Y gân oedd dipyn yn—hm! hm! Beth bynnag, hyderwn na chlywodd y newydd-ddyfodiaid mo honi. Yn awr, gadewch weld,—dywedwch i mi sut y digwyddodd y peth i chwi. Wrth brofi'r trwyth, onide? Eich llaw, efallai, wedi bod dipyn yn rhy drwm. Ie, ie, 'rwy'n deall. Fel y brawd arall hwnnw a ddyfeisiodd y pylor, aethoch yn aberth i'ch dyfais. Dywedwch yn awr, ynte, fy ffrind, a oes raid i chwi dreio arnoch eich hunan y trwyth rhyfedd hwn?

"Yn anffodus, oes, syr. O'i brofi y gwn nerth a gradd yr alcohol. Ond ar y diwedd, er mwyn gwybod ei flas i'r genau, ni chymraf ond diferyn ar flaen fy nhafod."

"O, da iawn. Ond dywedwch eto,—pan brofwch y gwin fel hyn o raid, a ydych yn ei gael yn dda? A ydych yn ei hoffi?"

"Ydwyf, ysywaeth, syr," ebe'r truan, gan wrido. "Er ys dwy noson bellach 'rwyf wedi cael y fath flas hyfryd arno! Y diafol sydd yn chware'r tric hwn â mi, rwy'n siwr. Ac yr wyf wedi penderfynu peidio â chymryd dim o hyn allan ond diferyn i brofi ei nerth ar y dechreu. 'Does dim i'w wneuthur os na fydd y gwin mor rhagorol, os na fydd yn perlio cymaint—"

"Gochelwch hynny," ebe'r prior yn wyllt ar ei draws. "Rhaid gofalu peidio ag anfodloni'r cwsmeriaid. Y cwbl sydd gennych i'w wneuthur yn awr, a chwithau wedi gweld y perigl, yw gwylio arnoch eich hun. Gadewch weld, pa faint sydd eisiau i chwi ei gymryd er mwyn ei brofi? Pymtheg neu ugain defnyn? Dywedwn ugain defnyn. Bydd y diafol yn gyfrwys iawn os deil chwi ag ugain defnyn. Hefyd, rhag digwydd damwain eto, caniatâf i chwi beidio â dod i'r eglwys o hyn allan. Cewch adrodd y gwasanaeth hwyrol yn y ddistyllfa. Ac yn awr, ewch mewn heddwch, Barchedig, ac uwchlaw pob dim, cyfrifwch y defnynnau."

Eithr yn ofer y cyfrifai'r Parchedig y defnynnau. Y diafol a'i daliai, ac nis gollyngai mwyach.

Dyna wasanaeth rhyfedd a glywai y ddistyllfa!

Yn ystod y dydd, ai popeth ymlaen yn iawn. Yr oedd y Tad yn dawel ddigon. Paratoai ei lestri, ei fesurau 15 gwahanai ei lysiau yn ofalus,—llysiau Profens i gyd, rhai pêr, llwyd, danheddog, yn orlawn o bersawr a heulwen. Ond yn yr hwyr pan fyddai'r llysiau'n wlych, a'r trwyth yn cynhesu yn y llestri copr mawr, dechreuai merthyrdod y dyn, druan.

"Dau ar bymtheg, deunaw, pedwar ar bymtheg, ugain!" Syrthiai'r diferynnau o'r bibell i'r gwydryn coch. Llyncai'r Tad yr ugain hynny ar un dracht, bron heb eu mwynhau. Yr unfed ar hugain a barai wanc arno. O'r unfed diferyn ar hugain yma! Yna, er mwyn dianc rhag y demtasiwn ai i benlinio i ben draw'r ystafell ac ymsuddai mewn paderau. Ond o'r trwyth cynnes, esgynnai awelig fechan, beraroglus, a cherddai o'i gylch, ac o'i fodd neu o'i anfodd hudai ef yn ol tuag at y llestri. Yr oedd y trwyth yn wyrdd-euraid prydferth. Gan blygu uwch ei ben, ei ffroenau yn agored, troai'r Tad ef yn gynnil â'r bibell risial, ac yn y sêr disglair a nofiai ar wyneb yr hylif gwyrdd dychmygai weld llygaid Modryb Begon yn chwerthin ac yn wincio wrth edrych arno.

"Un diferyn eto, ynte!"

Ac o ddiferyn i ddiferyn, gorffennai'r truan â'i gwpan yn llawn hyd yr ymylon. Yna ymollyngai yn ddiymadferth ar gadair freichiau, ac â'i lygaid yn hanner cau, archwaethai ei bechod bob yn ddracht gan sibrwd wrtho'i hun gyda rhyw euogrwydd per-lewygol:

"O, 'rwy'n fy namnio fy hun! Rwy'n fy namnio fy hun!

Gwaeth na'r cwbl, cai ar waelod y trwyth dieflig hwn, na wn i drwy ba ddewiniaeth, bob un o hen ganeuon llygredig Modryb Begon:

Tair hen wreigan fechan
Ryw ddydd a wnaethant wledd,


neu

Merch y ffermwr Andre
A aeth ei hun i'r coed.


a phob amser y gân enwog am " y Tadau Gwyn, Tra la la.”

Dychmygwch ei gyffro fore trannoeth, pan ddywedai y rhai a gysgai yn y gell nesaf ato, gyda gwên faleisus,—Ho! Ho! y Tad Gregori. Roeddech chi'n llawen iawn neithiwr wrth fynd i'ch gwely."

Yna dagrau, anobaith, ac ympryd, sachliain, a disgyblaeth. Eithr ni thyciai dim yn erbyn diafl y trwyth, a phob nos, ar yr un awr, meddiennid y dyn o'r newydd. *** Yn ystod yr amser hwn dylifai'r archebion i'r abaty. Deuent o Nimes, o Aix, o Avignon, ac o Marseilles. Bob yn dipyn, cymerai'r abaty wedd fasnachol. Yr oedd yno frodyr at bacio, brodyr at labelu, brodyr at y cyfrifon, eraill at y cludo; oherwydd un peth a'r llall ni chenid y gloch yn rheolaidd iawn i alw pobl i'r gwasanaeth Dwyfol, ond nid oedd pobl y wlad lawer ar eu colled, gallaf eich sicrhau.

Yna, un bore Sul braf, tra darllenai'r trysorydd gyfrifon diwedd y flwyddyn i gyfarfod llawn, a'r canoniaid duwiol yn gwrando, eu llygaid yn disgleirio a gwên ar eu hwynebau, wele'r Tad Gregori yn rhuthro i ganol y cynhulliad gan weiddi:

"Mae ar ben! Wnaf i ddim ohono eto! Dewch â'm gwartheg yn ol i mi!

"Beth sy'n bod, y Tad Gregori?" gofynnai'r Prior, yn gwybod yn ei galon beth oedd ar ddyfod.

Beth sy'n bod, syr? Hyn sy'n bod, fy mod i'n paratoi i mi fy hun dragwyddoldeb o dân a brwmstan. Rwy'n yfed, rwy'n yfed fel ffŵl . . .

Ond mi a ddywedais wrthych am gyfrif y diferynnau." "Ha! ie, cyfrif y diferynnau! Wrth gwpaneidiau y mae'n rhaid cyfrif nawr! Ie, Barchedigion, 'rwyf wedi dod i hyn! Tair costrelaid bob nos! Chwi wyddoch yn iawn na all hyn ddim mynd ymlaen. Felly ceisiwch y neb a fynnoch i wneuthur y trwyth. Llosged tân Duw fi os ymgymeraf â'r gwaith eto!'

Nid oedd neb yn chwerthin yn awr.

"Ond chwi a'n dinistriwch," llefai'r trysorydd, gan ysgwyd ei lyfr mawr, .

"Ai gwell a fyddai gennych i mi fy namnio fy hun?" Yna cododd y Prior ar ei draed.

"Barchedigion," eb ef, gan estyn allan ei law wen, luniaidd, â'r fodrwy swyddogol yn disgleirio arni, ffordd i ddod allan o'r anhawster. Yn yr hwyr, onide, fy mab annwyl, y temtir chwi gan y diafol?

Ie, syr, yn ddi-ffael bob nos. Ac yn awr, pan welaf y nos yn dod, os caf ei ddywedyd, syr, mae'r chwys yn torri allan drosof, fel asyn y gŵr hwnnw pan welai'r cyfrwy'n dod."

"O wel, ymdawelwch! O hyn allan bob nos, yn ystod y gwasanaeth, ni a adroddwn ar eich rhan chwi weddi Sant Awstin, sydd yn rhoi gollyngdod llawn. Yna, pa beth bynnag a ddigwydd, chwi a fyddwch dan gysgod. Mae yn golygu maddeuant yn ystod y pechod."

O! da iawn! diolch ynte, fy arglwydd brior!"

A heb holi ychwaneg yn ei gylch, dychwelodd y Tad Gregori at ei gwpanau, mor ysgafn ei galon a'r ehedydd. O hynny allan bob nos, ar ddiwedd gwasanaeth olaf y dydd, byth nid anghofiai'r offeiriad ddywedyd:

Gweddïwn dros ein hannwyl frawd, y Tad Gregori, sydd yn aberthu ei enaid er mwyn y bobl. Gwrando ni, O Dduw!"

A thra oedd y dyrfa fechan yn eu gwisgoedd gwynion ar eu gliniau yng ngoleu egwan yr eglwys, a sŵn y weddi yn ehedeg drostynt gan dyner ysgwyd fel awel uwch yr eira, obry, ym mhen pellaf y mynachty, tu ol i ffenestr oleu, liwiedig y ddistyllfa, clywid y Tad Gregori yn canu nerth ei ben:

Ym Mharis y mae Tad Gwyn,
Tra la la, tra la la;
Ym Mharis y mae Tad Gwyn
Yn dawnsio gyda'r merched
Ar hyd y gerddi tlws,
Tra la la, tra la la.


Yna arhosai'r truan mewn braw,—"Trugaredd! beth pe bai rhywun yn fy nghlywed?"

THE EDUCATIONAL PUBLISHING CO., LTD.,
CARDIFF AND LONDON.


Nodiadau

[golygu]
  1. Y Llwybr Llaethog.
  2. Yr Arth Fawr.
  3. Sêr Blaena'r Arth.
  4. Yr Aradrwr
  5. Orion.
  6. Sirius.
  7. Sadwrn.

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1956, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.