Y sawl sydd deilwng, gwyn ei fyd

Oddi ar Wicidestun

Mae Y sawl sydd deilwng, gwyn ei fyd yn emyn gan Edmwnd Prys (1544 - 1623)


Y sawl sydd deilwng, gwyn ei fyd,
Drwy fadde'i gyd ei drosedd,
Ac y cysgodwyd ei holl fai,
Ei bechod, a'i anwiredd.


A'r dyn â gwynfyd Duw a'i llwydd,
Ni chyfri'r Arglwydd iddo
Mo ei gamweddau; ac ni chaed
Dim twyll dichellfrad ynddo.


Rhyw loches gadarn wyt i mi,
Rhag ing y'm cedwi'n ffyddlon;
Ac amgylchyni fi ar led
A cherdd ymwared gyson.