Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill/Arthur Gawr
| ← Caradog | Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill gan Thomas Gwynn Jones |
Ogof Arthur → |
III.—ARTHUR GAWR.
MAE galar drwy Ynys Brydain,
Nid dewr y gelyn, ond bas,—
Gwenwyn yn nwfr y ffynnon a roed,
Ac Uthr Bendragon a las.
O goedydd duon y gogledd,
Onentydd dyfnion y de,
O'r dwyrain llyfn a'r gorllewin llwyd
Daw'r gri "Pwy a leinw ei le?"
Prysur y cyrch y penaethiaid
Gaer Ludd o gyrrau y wlad,
I ddewis unben Prydain a rhoi
Y goron i lyw y gad.
Daw rhai o dueddau'r gogledd
A'u gwisg yn felyn a glas,
Fel blodau'r banadl a dail y pin,
A'u canlyn mae llawer gwas.
O diroedd y de daw eraill,
A'u gwisg yn goch ac yn ddu,―
Coch fel y gwaed a du fel y nos,—
A'u canlyn hwythau mae llu.
Daw eraill o du y dwyrain,
A'u gwisg yn wineu a rhudd,
Gwineu a rhudd fel gwenau yr haul
O'r dwyrain ar doriad dydd.
Daw llawer o du'r gorllewin,
A'u dillad yn wyrdd a gwyn,
Gwyrdd fel irddail hyd lwyni yr haf,
Gwyn fel ôd gaeaf ar fryn.
Ond ofer cymeryd cyngor
Nid yw'r penaethiaid gytûn;
Gwych gan bob un pe gallasai ef
Ennill y goron ei hun.
Dair gwaith bu gyfarfod a chyngor,
A theirgwaith oferwaith fu,
Ac yna y dywed Myrddin air,
A doeth oedd, ym marn y llu.
"Gosteg benaethiaid," eb Myrddin
"Mawr yw caledi ein gwlad,
A'r gelyn du yn anrheithio'r tir,
Pwy a fydd flaenor y gad?
"Bydded i chwi yr offeiriaid
Heno weddio ar Dduw
Ar roddi ohono arwydd gwir
Pwy a fydd ini yn llyw.
"Ac yno dewiswn hwnnw
A thyngwn yn enw'r ffydd
Y mynnwn drechu y gelyn traws,
A chadw y deyrnas yn rhydd."
Gorffwys a wnaeth y penaethiaid
Bob un ar ei darian gref,
A'r gwŷr o grefydd a'u gweddi'n daer
Ar Dduw am ei arwydd ef.
A threiglodd y noswaith honno
A cherdded ei horiau'n hir,
A phawb yn disgwyl am wawr y dydd
I ddangos yr arwydd gwir.
Ac weithian, dyfod mae'r drudion
A'r wawr ar eu harfau'n glaer;
A daw'r offeiriaid o'r eglwys draw
Yn araf at borth y gaer.
Ar lawnt agored y castell,
Saif maen megys darn o fur,
Ag eingion dur ynghanol y maen,
A chledd hyd ei garn yn y dur.
Y mae ar y maen ysgrifen,
Ysgrifen aur ydyw hi:-
"A dynno'r cledd o ganol y dur
A fydd ar yr ynys ri."
I geisio ei dynnu, dyfod
Mae enwog a chedyrn wŷr,
Ond nid oes un a all lacio'r llafn
Ynghanol yr eingion dur.
Brenhinoedd gogledd a deheu,
Gorllewin a dwyrain dud,
Ceisiant yn ofer, a throant draw
A siom ar eu gwedd i gyd.
A dywed y pen offeiriad:—
"Am nad oes a'i tynno ef,
Nid oes a haeddai yn frenin fod
Yn ol danghosiad y nef."
Ond cyn iddynt fyned ymaith,
Mae arall a ddaw ymlaen,
A chwardd y penaethiaid wrth ei weld
Yn neidio i ben y maen.
Plygu mae yntau yn ystwyth
A chydio yngharn y cledd,
A'i dynnu a'i chwyfio uwch ei ben,
A gwên yn goleuo'i wedd.
"Wele ein teyrn!" ebe Myrddin,
"Arthur fab Uthr ydyw ef,
Gwledig yr ynys o union dras
Yn ol danghosiad y nef!"
A gweiddi y mae'r penaethiaid
A'r llu a'u hetyb yn awr—
Byth bydded Ynys Brydain yn rhydd,
A byw fyddo Arthur Gawr!"