Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill/Atgof
Gwedd
| ← Merch y Bugail | Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill gan Thomas Gwynn Jones |
Gwenonwy → |
ATGOF.
WELE nos welw yn nesu,
Daw yn ddwys a'i hadain ddu;
A haul i'w wely heli,
A daw'r lloer i wrido'r lli;
Wylo'n rhydd drwy lwyni rhos
Wna'r awel; cwyna'r eos
Mor groew ym mrig yr ywen.
A dyf fry uwch gwely Gwen.