Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill/Caradog
| ← Merch yr Iberiad | Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill gan Thomas Gwynn Jones |
Arthur Gawr → |
II.—CARADOG.
HYD ystrydoedd dinas Rufain
Tyrra lluoedd gyda'r wawr;
Gwelir wrth eu gwisg a'u crechwen
Ddyfod rhyw ddiwrnod mawr.
Dros y môr yn nhir y Brython,
Hir a chyndyn ydyw'r gad;
Ond lle methodd grym a gwryd,
Lluniodd ystryw benyw frad.
I fodloni nwydau'r dyrfa,—
Boblach o bob llun a lliw,—
Dygir heddyw'n garcharorion
Rai a fu elynion gwiw.
Pennaf o'r gelynion hynny
Oedd Caradog, borth ei wlad;
Nid oedd a safasai rhagddo
Cyd buasai deg y gad.
Trechodd am flynyddau meithion
Lengoedd Rhufain dro ar dro,
Brad a'i daliodd yn y diwedd—
Parth y bâi ni byddai ffo.
Wele'r milwyr yn ymdeithio
A'u baneri yn y gwynt;
Yn eu canol mewn cadwynau
Mae a fu benaethiaid gynt.
Cerdded maent yn drist eu golwg,
Ond mae acw yn eu mysg
Un a gerdda'n frenin eto,
Er y gadwyn drom a lusg.
Cenfydd hithau, 'r dorf Rufeinig,
Mai efe yw'r gwr fu gynt
Yn gwasgaru ei byddinoedd
Fel y dail o flaen y gwynt.
Meddant: "Dacw ef, y Brython!"
Yna llefant am ei waed;
Ond ni syll y Brenin arnynt
Mwy na'r llwch o dan ei draed.
Dygir ef i'r llys odidog
Lle mae mawrion fwy na mwy,
Oll yn disgwyl am ei weled.
A'r ymherawdr gyda hwy.
Yna erchir iddo blygu
I'r ymherawdr ar ei sedd;
"Beth!" ebr ef, a'i law yn ofer
Chwilio lle bái carn ei gledd.
"Plygu iti?" eb Caradog,
"Nid tydi ar faes y gad
Aeth a'r dydd, a daliwyd finnau,
Nid trwy frwydrau, ond trwy frad.
"Od wyt ti yn frenin Rhufain,
Brenin finnau fel tydi;
Ac anrhydedd fy hynafiaid
Dewrion, nis difwynaf fi!
"Yn fy ynys, ar genhedloedd.
Lawer y teyrnaswn i,
Ac nid gormod gennyf ymladd
Drostynt yn dy erbyn di.
"Yn dy wychter mawr a'th gyfoeth,
Ba ryw beth a fynnit ti?
Gwael it geisio dwyn ein hynys
Fechan oddi arnom ni!
"Rhyddid, onid gwerthfawr ydyw
Hwnnw yn dy olwg di?
Rhyddid, gwerthfawroced ydyw
Hefyd yn ein golwg ni.
"Dygaist fi'n garcharor yma,
Gelli'm lladd, os mynni di;
Eto, gwybydd, brenin ydwyf,
Ac nid byw a'm plygo i!"
Ac nid allodd pennaeth Rhufain
Lai na theimlo'r ennyd hon
Fod yn sefyll mewn cadwynau
Yno Frenin ger ei fron.
"Dygwyd di'n garcharor yma,"
Meddai, "ond ni'th laddaf i,
Canys gwn mai Brenin ydwyt,
Cei dy ryddid yma, di!"