Neidio i'r cynnwys

Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill/Coron Cadwallon

← Maelgwn Gwynedd Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill

gan Thomas Gwynn Jones

Cynfrig Hir a'r Brenin →

VI.—CORON CADWALLON.

WEDI creulon a mynych ymladdau
A cholli ac ennill ar faes y gwaed,
Heddwch rhwng Cadfan frenin y Cymry
Ag Aethelfrith frenin yr Eingl a wnaed.

Amod yr heddwch oedd rannu'r ynys.
A gado'i deyrnas yn rhydd i bob un,
Namyn mai Cadfan frenin y Cymry
Oedd mwyach i wisgo'r goron ei hun.

Ac Aethelfrith deyrn yr Eingl ar hynny,
Alltudio'r frenhines o'r llys a wnaeth,
A hithau'n drist rhag ofn ei ddigofaint,
Am nawdd at Gadfan i Gymru y daeth.

Trist ganddo yntau Gadfan fu weled
Druaned ei golwg, ac ar ei wys,
Daeth y frenhines ei hun i'w derbyn,
Ac iddi fe roddes ryddid y llys.

A ganed mab i'r frenhines alltud
Yngwlad ac yn llys hen elyn ei dad,
A'r noswaith honno y ganed hefyd
Etifedd gorsedd a choron y wlad.


Magwyd hwy megys brodyr o'u mebyd,
Hoff gan y ddau fod ynghyd ym mhob man;
Gwael gan Gadwallon fab Cadfan bopeth
Oni chae Edwin fab Aethelfrith ran.

Tyfasant yn feibion ieuainc heirddion,
Ac yna danfonwyd y ddau ynghyd
At Selyf frenin Llydaw i dderbyn
Y ddysg a'r gamp ydoedd oreu'n y byd.

Ac yno yn llys y brenin Selyf
Mawr oedd eu clod am eu gwryd a'u rhin,
Nid oedd a'u trechai ar gampau heddwch,
Ac nid oedd eu hafal ar faes y drin.

Bu dristwch yn llys y brenin Selyf
Pan ydoedd y ddau yn gadael y wlad,
A llawer rhiain yn drom ei chalon
A llaith ei llygaid wrth wylio eu bad.

Ond llawen fu Gadfan a'i frenhines
Pan ddaeth y llong a Chadwallon i dir;
Llawen fu hithau'r frenhines alltud
O weled ei mab wedi'r disgwyl hir.

Mawr a fu'r wledd a roed i'w croesawi,
Yno daeth holl bendefigion y wlad;
A thrigodd Edwin yn llys y Cymry
Yn fawr ei barch ac uchel ei stad.


Megys pan oeddynt yn blant, a'u cariad
Y naill at y llall yn ffyddlon a phur,
Felly y carai y ddau eu gilydd,
A hwy wedi dyfod i oedran gwŷr.

Buan yr aeth y blynyddau heibio,
A marw a fu Cadfan mewn henaint llwyd,
A daeth Cadwallon yn frenin Cymru
O enau Hafren hyd Ystrad Clwyd.

Yna daeth hanes i lys Cadwallon
Nad byw ydoedd Aethelfrith yntau mwy,
A bod yn nheyrnas yr Eingl ymrannu
Am nad oedd bennaeth a'i air arnynt hwy.

"Dos," medd Cadwallon, "i lys dy dadau,
A gwysia yno benaethiaid y wlad,
A byddaf finnau yn gyfnerth iti
Wrth raid, i ennill hen gyfoeth dy dad.

A boed i'r heddwch fu rhwng ein tadau,
Y ddau fu cyhyd yn elynion croes,
Fyth yn heddwch barhau rhyngom ninnau,
Y ddau fu gyfeillion ar hyd eu hoes."

"Gyfaill fy nghalon," eb Edwin yntau,
"Af wrth dy gyngor a chyrchaf y wlad,
Heriaf a threchaf fy holl elynion
A mynnaf ennill hen gyfoeth fy nhad."


Cychwynodd Edwin, a gwŷr Cadwallon.
A aeth i'w hepgor i deyrnas ei dad;
A chyn dychwelyd o'r Cymry adref,
Cynnal 'roedd Edwin frenhiniaeth y wlad.

A chadw heddwch eu tadau wnaethant,
A phobl y ddwywlad yn byw yn gytûn;
Yntau Gadwallon yn ol yr amod
Yn gwisgo coron yr ynys ei hun.

Pan oedd Cadwallon un dydd yn rhodio
Hyd fur ei lys ar derfynau y wlad,
Gwelodd hen filwr penwyn yn wylo,—
Milwr a fu yn rhyfeloedd ei dad.

Trist gan y brenin oedd weled dagrau
Ar ruddiau gwr a fu ddewr yn ei ddydd;
"Diau," eb ef, "mai mawr yw dy ofid,
Dywed pa achos i hwnnw y sydd?"

"Hen ydwyf fi," medd yntau yn araf,
"Cofio yr ydwyf ryfeloedd dy dad;
Gwych oedd y dydd pan ruthrem i ganlyn
Cadfan ein brenin i ganol y gad!

"Dychryn yr Eingl oedd Cadfan a'i luoedd,
Rhuthrem drwy Fryneich a Deifr ar ein hynt
Megys goddaith drwy eithin y gwanwyn,
A'r fflamau yn llamu o flaen y gwynt.


"Gwr oedd Cadfan a'i air ar genhedloedd,
A choron yr ynys oedd ar ei ben;
Heddyw, gwae fi! nid brenin y Cymry
Yw unig frenin yr ynys wen!"

"Pwy a ddywed," medd yntau Gadwallon,
"Nad unben yr ynys hon ydwyf fi?"
"Y mae," medd y milwr, "goron arall,
A phennaeth yr Eingl sy'n ei gwisgo hi!"

Hir edrychodd y ddau ar eu gilydd
A cherddodd y brenin ymaith yn fud;
Gwae yr Eingl!" eb y milwr dan wenu,
"Mae'th ysbryd di Gadfan yn fyw o hyd!"

O fur y gogledd hyd enau Hafren,
O for Iwerydd hyd oror y wlad,
Galwodd Cadwallon ei wyr yn lluoedd
I drengi neu gadw hen goron ei dad.

Megys croes wyntoedd y gaea'n hyrddio
Nes torchi gwanegau yr eigion blin,
Rhuthrodd lluoedd Cadwallon ac Edwin
I wyneb eu gilydd ar faes y drin.

A chwerw a chyndyn fu'r brwydro hwnnw,
A hwythau'r brenhinoedd ym mlaen y gad,
Wyneb yn wyneb megys gelynion,-
Y ddau a fu gynt yn gyfeillion mad.


"Cu oeddit gennyf gynt," medd Cadwallon,
"Cas gennyf eto a fyddai dy ladd;
Cofia gyfamod ein tadau heddyw,
Gollwng dy goron a chadw at dy radd!"

Cas fyddai gennyt fy lladd?" ebe Edwin,
"Cas gennyf finnau fâi rhoi iti glwy;
Nid oes er hynny unpeth a ery
Rhyngof a choron yr ynys yn hwy!"

Ciliodd yr Eingl o faes y gyflafan
A'u teyrn ar y maes yn oer ac yn fud,
A daeth Cadwallon i lys y Cymry
Eto yn unben yr ynys i gyd.

Yno ynghanol y wledd lawenydd
Dywedodd y brenin a'i wedd yn brudd-
Caned y beirdd ei glod a'i orchestion,
Hoffed a dewred oedd ef yn ei ddydd!"


Nodiadau

[golygu]