Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill/Gwenonwy
| ← Atgof | Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill gan Thomas Gwynn Jones |
Dafydd ab Edmwnd → |
GWENONWY.
DISGYN hyd lethrau
A bronnau y bryn
Mae ef tua'r gad
Dros ei wlad yn y glyn.
Disgwyl ar lan
Brudd a llonydd y llyn,
Mae hi dan ymgroesi
A'i hwyneb yn wyn.
Gwenonwy!" medd ef,
"Goronwy!" medd hi,—
A gwadu eu holl iaith
Mae eu llygaid lli.
Iaith calon wrth galon
Yn unig yw,
Heb lunio 'rioed air
Ac heb dorri ar glyw.
Ni ddysgir mohoni
Mae hi yn reddf;
Ac nid anghofir—
Hi a dyf yn ddeddf.
Mae hi fyth yn ifanc,
Mae hi fyth yn hen,
Mae gwae yn ei gofid
A gwynfyd i'w gwên.
Nis gall ac nis gwyr
Ond y serchog a'r pur,
Mwy erddi fydd cariad,
Llai erddi fydd cur.
"Gwenonwy!" medd ef,
"Goronwy!" medd hi,
A gwadu eu holl iaith.
Mae eu llygaid lli.
Mor arw ydyw rhuad
Y gad yn y glyn,
Mor drist ydyw wyneb
Y rhiain a'r llyn!
Mae'r nos ar y maes
Lle bu'r gad yn y glyn,
A gwag ydyw'r castell
A llwyd ydyw'r llyn.