Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill/Heddyw ac Yfory
Gwedd
| ← Serch a Siom | Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill gan Thomas Gwynn Jones |
Y Pennaeth → |
HEDDYW AC YFORY.
Tu ne quasieris, scire nefas, &c.
[Hor. Car. XI. Lib. I.]
WEN deg, na ymofyn di
(Nid iawn ei wybod ini)
Pa union dymp i ni'n dau
A adawodd y duwiau,
Na wna yn ol swynion neb
Iti i geisio ateb.
Diau, pand gwell, yn dawel,
Ei ddwyn, beth bynnag a ddel!
O rhoes Iau aeafau hir
In, ai'r ola'n awr welir
Yn hyrddio nes darnio'r don
Ar wag ogofau'r eigion.—
Dithau, dwg win, bydd doethach,
A'th hyder fo wrth d'awr fach;
A ni'n ymddiddan, einioes.
Wael, i ffwrdd o'n gafael, ffoes;
Rhodder dy gred ar heddyw,
Na chred drannoeth, anoeth yw!