Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill/I Megan
Gwedd
← Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill | Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill gan Thomas Gwynn Jones |
At y Darllenydd → |
I MEGAN.
Yng ngwanwyn ein cariad, cyn dyfod ein gwae,
Torrais ein henwau ar gamfa y cae;
Bu llawer tro, Megan, er hynny, ar fyd,
Ond eto mae'n henwau ni yno o hyd.
Mae cen yn rhyw lenwi'r llythrennau, mae'n wir,
Ond nid all eu cuddio am amser go hir;
A phan na bom ninnau i'n cael yn y byd,
Ill dau, bydd ein henwau ni yno o hyd.
Os gwybydd a'u gwelo mai serch yn ei hoen
A'u torrodd cyn dyfod nag adfyd na phoen,-
A ninnau o'r golwg yn oer ac yn fud,
Fe erys rhyw gof am ein cariad o hyd.
Ond syrth yr hen gamfa, ryw aeaf, ar ŵyr,
Daw yntau'r tyddynnwr ynghysgod yr hwyr,
A dwg hi i'w thorri yn goed ar y tan,
A derfydd ein coffa, fy nghariad, yn lân.