Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill/Maelgwn Gwynedd
| ← Ogof Arthur | Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill gan Thomas Gwynn Jones |
Coron Cadwallon → |
V.—MAELGWN GWYNEDD.
MAE lluoedd yr Eingl o'r tir yn torri
Cymru Cunedda Wledig yn ddwy,
Ac wele longau'r cenhedloedd duon
Ar draeth y gorllewin, fwy na mwy.
A Maelgwyn Gwynedd, anfonodd ddyfyn
At dywysogion gwlad Gymru oll.
Maent hwythau erbyn heno'n gwersyllu
Ger Aber Dyfi, heb un yngholl.
Llawer ystafell sy dywyll heno,
Heb dân, heb gerddau, heb fedd na gwin;
A llawer pennaeth ar faes yn huno
A bardd dan arfau yn achadw ffin.
A bardd a'i bwys ar ei waew yn syllu,
Draw tua'r môr dros y tywyll ros,
Lle'r oedd y bore fynachlog, cenfydd
Fflamau yn llamu drwy wyll y nos.
"Och!" medd y bardd, "ai tân y gelynion
Acw'n difa'r fynachlog y sydd?
Anfon, o Dduw! ddialydd dy weision.
I ddifa'r estron ar glais y dydd!"
Torri mae'r wawr yn oer ac yn araf,
A lled ei gwawl dros yr eigion glas,
Gan ddangos miloedd o longau duon,
A'r traeth yn frith gan y gelyn cas.
A chyfyd lluoedd y tywysogion
I gyrchu'n eofn i faes y gad;
Pa le yn awr y mae Maelgwn Gwynedd
A'i lu, yn nydd cyfyngder ei wlad?
Maelgwn, a wysiodd y tywysogion
Oll i gyngor o'r gogledd a'r de,
Ac eto heddyw'n wyneb y gelyn
Nid oes bennaeth yn ol ond efe.
Mae'r traeth yn llawn o luoedd y gelyn,
A blaen eu byddin yn treiddio'n hy
I fewn i'r wlad hyd gymoedd a nentydd,
A thanau yn dangos llwybrau'r llu.
Rhuthrwn i'w canol!" medd Cynan Powys,
"Trenged pob un rhwng y dur a'r dŵr,
A bydded mwyach yn Wledig Cymru
A fo yn y gad yn flaena gŵr!"
Rhuthro ar hyn y mae'r tywysogion
A dilyn pob un y mae ei lu,
Megys llifogydd y gaea'n neidio
Yn grych eu rhediad, yn groch eu rhu.
Rhuthrant i lawr y cymoedd a'r nentydd
A'r coed a'r creigiau'n ateb eu llef;
Hyrddiant y gelyn yn ol o'u blaenau
Fel crinddail hydref rhag tymestl gref.
Ffoant, troant, arafant, a safant
Yn dwrr aneirif ar fin y don,
Pob un a'i gledd yn ei law yn barod
A'i darian hefyd o flaen ei fron.
A dacw fyddin y tywysogion
Yn llifo ymlaen fel tonnau'r môr,
A'r myneich ar lethr y bryn cyfagos
A'u gweddi yn daer am nawdd yr Iôr.
Cryn y ddaear gan hwrdd y byddinoedd;
Aruthr y tery blaenrhes y ddwy.
Fel y bydd tonnau deufor gyfarfod
A thymestl erch yn eu corddi hwy.
Rhuo fel taran mae swn y brwydro,
A hir a chroch yw y rhyfel gri;
Ond ffoi mae'r gelyn yn ol i'w longau,
A'i waed yn cochi ewyn y lli.
A'r llongau duon yn ceisio dianc,
Cau am danynt mae llynges wen.
Llynges brenin y gogledd ydyw,
A Maelgwn ei hunan arni'n ben.
Ac ni ddihangodd o'r llongau duon
Un i fynegi hanes y gad;
A chadwodd Maelgwn yr oed a wnaethai
Yntau a thywysogion y wlad.
"Myfi yw'r Gwledig," medd Cynan Powys,
"Myfi oedd flaena'n yr ymgyrch hon;"
"A minnau," atebodd Maelgwn Gwynedd
"A'u rhoes yn isel o dan y don!"
Yna bu gyngor y tywysogion
Ar faes y gad yn y fan a'r lle
I geisio dewis y gwr a fyddai
Wledig Cymru yn ogledd a de.
A hir a fu'r drafod, ac ofer hefyd,
Hyd oni lefarodd Maeldaf Hen:-
"A safo hwyaf rhag llanw yr eigion,
"Bydded Wledig wrth arwydd ein Rhen."
Pan oedd y tywysogion yn cysgu,
A'u gwŷr o'u hamgylch oll ar y rhos,
Gwneuthur cadair o edyn cwyredig
A ddarfu Maeldaf Hen yn y nos.
Cyrchodd y tywysogion yn fore
Drannoeth i lawr hyd y tywod mân,
A dododd Maeldaf Hen y cadeiriau
Yno yn rhes, dair llath ar wahân.
Ac wele'r llanw yn codi yn araf,
A'r tonnau yn taflu'n uwch o hyd,
A'r tywysogion i gyd yn disgwyl
Dedryd y nef ar helynt y byd.
Mae'r llanw yn codi gan daflu cadair
Tywysog ar ol tywysog i lawr;
Ond nofio mae un ar frig y tonnau,
A Maelgwn yw Gwledig Cymru yn awr!