Neidio i'r cynnwys

Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill/Merch y Bugail

Oddi ar Wicidestun
Tir Ieuenctid Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill

gan Thomas Gwynn Jones

Atgof

MERCH Y BUGAIL.

MAE'TH dresi cyn felynned
A blodau banadl ha,
A'th fynwes di cyn wynned
Ag oered ag yw'r ia.

Mae'th ddeurudd cyn wridoced
A'r rhosyn cocha 'rioed,
A'th galon cyn llidioced
A'r hydref yn y coed.

Mae'th fin di gyfliw mefus
Addfeta'r heulog fron,
Ond nid oes neb a lefys
Gusanu'r wefus hon.

Mae'th lygaid di cyn lased
A blodau cegid y brain,
A'th eiriau di cyn gased
A'r pigau ar y drain.

Mae'th rodiad mor osgeiddig
A phe bait iarlles, di,
A llawer rhwyf yn eiddig
O gariad ati hi!


Nodiadau

[golygu]