Neidio i'r cynnwys

Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill/Merch yr Iberiad

Oddi ar Wicidestun
Mor y Nos Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill

gan Thomas Gwynn Jones

Caradog

CERDDI DOE A HEDDYW.

I.—CERDDI DOE.


I.—MERCH YR IBERIAD.

I HELY aeth mab y Brython un dydd,
A chrwydrodd ymhell o dŷ ei dad;
Ar ol ei gŵn ar drywydd yr hydd,
Cyrchodd y wyllt anghyfannedd wlad.

A'r haul yn uchter y nef, e ddaeth.
I lannerch werdd ynghanol y coed,
A sefyll yno dan lwyn a wnaeth—
Ni welsai fangre decach erioed.

Teg oedd y dail a'r blodau i gyd,
Glân oedd y mwsogl aur dan droed,
Ond tecach y ferch a safai'n fud
Dan fedwen arian ynghwrr y coed.

Du oedd ei gwallt fel cwmwl y nos
Pan na fo seren ar faes y nef,
A thonnog megys merddwr y rhos
Pan grycho awel ei wyneb ef.

Gloewddu a dwfn oedd ei llygaid hi,
Llygaid a welai freuddwydion syn;
Ei thâl cyn wynned ag ewyn lli,
A'i mynwes megys yr eira gwyn.


A'r Brython eto'n ei gwylio'n fud,
Canu yn beraidd a wnaeth y ferch,
A theimlodd yntau ryfeddol hud
Ei chân, a'i galon yn glaf o'i serch.

Mynnai y Brython ei dal a'i dwyn
Adref yn wraig iddo ef ei hun;
Neidiodd yn hoew o gysgod ei lwyn—
Hoewach i'r coed y neidiodd y fun.

Chwiliodd yntau am dani yn hir,
A gwelodd hi'n dringo'r clogwyn fry;
Clywodd ei chân yn groew ac yn glir
Fel y diflannai mewn ogo ddu.

Ac ae y Brython beunydd ei hun
I'r llannerch werdd dan glogwyn y rhos.
I ddisgwyl eto weled y fun
Ag wyneb y dydd a gwallt y nos.

Clywodd ei chanu, megys o'r blaen,
Mynych y gwelodd hithau ei hun
Fry yn ei wylio ynghysgod maen,
Ond, o symudai, diflannai'r fun,

Safodd ar odre y clogwyn mawr

Un dydd, a phan ddaeth, cyfarchodd hi:
"Riain y mynydd! dyred i lawr,
Tecach na merched y glyn wyt ti!"


Atebodd hithau o ben y maen
(Mwyn oedd ei llais fel murmur y lli):
"Fab y gwastadedd, dyred ymlaen,
Cryfach na meibion y graig wyt ti!"

"Dyred, mae gennyf, riain y bryn,
Wartheg a meirch yn y glyn is law";
"Mae gennyf finnau, bennaeth y glyn,
Ddefaid a geifr hyd y creigiau draw."

"Dyred i'm canlyn, tecach wyt ti
Na'r fun wallt felen a'r llygad glas!"
"Gwae fi pe down ar ei chyfyl hi—
Mawr yw ei chariad, mwy yw ei chas!"

"Gwae a fo gas wrth a garwyf fi,
Deffro fy nghleddau, nid oes a'i baidd!"
"Creulon a llym ydyw'th arfau di,
Garwach eu brath na dannedd y blaidd!"

"Creulon a llym yw fy arfau i,
Eto er garwed eu brath yn awr,
Pyled eu min cyn dy daro di,—
Riain y mynydd, dyred i lawr!"

"Fab y gwastadedd, pe deuwn i,
Beth gyda thi a fyddai fy myd?"
"Priod y pennaeth a fyddit ti,
Pen ar rianedd y llys i gyd."


"Hardd yw dy rodiad ar draws y bryn,
Cryfach wyt ti na meibion y graig!"
"Tecach dithau na merched y glyn,
Riain y mynydd, bydd imi'n wraig!"

"Priod y pennaeth a fyddaf fi,
Pen ar rianedd y llys i gyd,
Ond os ag arf y'm cyffyrddi di,
Mwyach ni'm gweli er chwilio'r byd!"

A dug y Brython yn llon ei wedd
Ferch yr Iberiad i lys ei dad,
Lle bu yn arglwyddes llawer gwledd,
A'i chanu yn swyno gweilch y gad.

Un dydd i hela'r hydd ar y rhos
Aeth y Brythoniaid o lys y glyn,
Y rhi ar farch cyn ddued a'r nos
A'i wraig i'w ganlyn ar balffrai gwyn.

Cododd yr hydd a chanwyd y cyrn,
A'r arglwydd, tynnu ei fwa a wnaeth,
Oni chyffyrddodd wrth droi yn chwyrn.
Law ei arglwyddes à blaen y saeth.

Clywsant y ddolef dristaf erioed,
Ac yna gwelwyd y palffrai gwyn
Draw yn carlamu, ac yn y coed
Collwyd yr olwg ar ferch y bryn.


Chwiliodd y pennaeth yn hir ei hun
Drwy goed y glyn, hyd fynydd a rhos,
Ond mwy ni welodd llygad y fun
Ag wyneb y dydd a gwallt y nos.

Pan wylai y plant am weld eu mam,
Rhyw ganu trist a glywai y tad—
"Gwylia fy merch rhag gofid a cham,
A chadw fy mab rhag perygl y gad!"


Nodiadau

[golygu]