Neidio i'r cynnwys

Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill/Ogof Arthur

← Arthur Gawr Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill

gan Thomas Gwynn Jones

Maelgwn Gwynedd →

IV.—OGOF ARTHUR.

RHODIAI gwr yn araf unwaith
Heibio'r llannerch yng Nghaer Ludd
Lle bu lys yr hen Frythoniaid—
Gwych oedd hwnnw yn ei ddydd.

Estron oedd y gwr a chrwydrad,
Tlawd a thruan ar ei hynt,
Ac ni wyddai 'i fod yn rhodio
Lle bu gastell Arthur gynt.

Llaes ei wallt a llym ei lygad,
Byrr ei gam, a'i gefn yn grwm,
Ar ei ffon las onnen gnapiog
Pwyso'r oedd y gwr yn drwm.

Ag efe yn mynd yn araf,
Araf heibio'r lle bu'r llys,
Daeth rhyw henwr i'w gyfarfod,
Safodd, cododd arno'i fys.

Yntau'n dal i fyned rhacddo,
"Aros," eb yr henwr llwyd,
"Ni bydd ofer iti wrando,
Aros, onid Cymro wyd?"


Yna safodd yntau'r estron,
Meddai Cymro ydwyf fi
Wedi gadael gwlad fy nhadau;
Dywed beth a fynnit ti."

Eb yr henwr bychan yntau
Mynnwn i yr hyn a ddaw;
Pa le y cefaist ti y pastwn
Onnen yna sy'n dy law?"

"Mi a'i piau," eb yr estron,
"Waeth ba le y cefais hi;"
"Gwrando," ebe yr henwr yntau,
"Gwell it pe'm hatebit ti."

"Torrais hi ar lethr Elidir,
Lle mae llwyni cyll ac ynn,"
Eb yr estron, yntau'r henwr
Gwrando'r oedd a syllu'n syn.

Meddai: "Tyfodd hon ar foncyff
Sydd o'r golwg yn y llawr,
Ac o dan y boncyff hwnnw
Y mae genau ogof fawr.

"Cwsg y brenin a'i farchogion
Yn yr ogof uthr ei maint,
Oni ddaw a'u geilw i ymladd
Eto dros eu bro a'u braint.


"Cwsg y drudion dan eu harfau
Oll o gwmpas Arthur gawr;
Yn y canol mae trysorau,
Meini gwyrth a golud mawr.

"Mae ynghrog wrth gadwyn haearn
Gref yngenau'r ogo, gloch;
Pan gyffyrdder tafod honno,
Cân yn uchel ac yn groch.

"Ar ei chaniad try'r marchogion,
Twrf eu heirf yn clecian fydd;
Cyfyd pawb ei ben, a gofyn
Arthur gawr "A yw hi'n ddydd?"

"Ac os daw ar hynny 'r ateb
Iddo "Cwsg, ni ddaeth yr awr,"
Gorwedd Arthur a'i farchogion
Eto yn eu trymgwsg mawr.

"Cysgant nes daw'r neb a etyb
Felly, "Deffro, daeth y dydd;"
Cyfyd Arthur a'i farchogion
A daw'r Brython eto'n rhydd!"

Troes y gwr yn syn i holi
Rhagor am yr ogof fawr,
Ond nid oedd yr henwr yno—
Aeth fel pe'i llyncasai'r llawr.


Crwydrodd yntau'r gwr a'r onnen,
Daeth hyd lethr Elidir fawr,
Ac fe gafodd yno'r boncyff
Oedd o'r golwg yn y llawr.

Troes y boncyff draw, a chafodd
Enau'r ogo dano'n glir;
Ac wrth gadwyn haearn yno.
Crogai cloch a thafod hir.

Aeth y gwr i mewn yn araf—
Crynu'r ydoedd yn ei fraw,
Weled Arthur a'i farchogion
Yno'n cysgu ar bob llaw.

Gloewon ydoedd eu tariannau
Fel y lloer pan fo yn llawn,
A'u cleddyfau yn disgleirio
Megys pelydr haul brynhawn.

Dug y gwr o'r trysor lawer,
Ond wrth fyned heibio'r gloch,
Fe'i tarawodd oni chanodd
Hithau'n uchel ac yn groch.

Troi a orug y marchogion
Oni thinciai'r arfau'n rhydd;
Cododd pawb ei ben, a galwodd
Arthur Gawr "A ddaeth y dydd?"


Yna cofiodd ac atebodd
Yntau, "Cwsg, ni ddaeth yr awr;"
Suddodd Arthur a'i farchogion
Oll yn ol i'w trymgwsg mawr.

Lawer tro bu'r gwr yn chwilio
Am yr ogof wedi hyn,
Ond ni welodd fyth mo'r llannerch
Rhwng y llwyni cyll ac ynn.

Ond pan ddelo'r awr, daw'r arwr
Etyb, "Deffro, daeth y dydd,"
Cyfyd Arthur a'i farchogion,
A daw'r Brython eto'n rhydd!


Nodiadau

[golygu]