Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill/Penmon
| ← Cariad | Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill gan Thomas Gwynn Jones |
Yr Hydref → |
PENMON.
[I'M CYD BERERIN, W. J. G.]
ONID hoff yw cofio'n taith
Mewn hoen i Benmon unwaith?
Odidog ddiwrnod ydoedd,
Sul uwch yr holl Suliau oedd;
I ni daeth hedd o'r daith hon—
Praw o ran pererinion.
Ar eillt Mon 'roedd emrallt Mai,
Ar ei min, aerwy Menai
Ddillyn yn ymestyn mal
Un dres o gannaid risial.
O dan draed 'roedd blodau'n drwch,
Cerddem ym mysg eu harddwch;
E fynnem gofio'u henwau
A dwyn o'r tecaf, ill dau,
O'u plith, ond nis dewisem—
Oni wnaed pob un yn em?
Acw o lom graig clywem gri
Yr wylan, ferch môr heli;
Hoew donnai ei hadanedd
Llyfn, claer, fel arfod llafn cledd;
Tröai yn uchter awyr,
Saethai, hir hedai ar ŵyr;
Gwisgi oedd a gosgeiddig
Wrth ddisgyn ar frochwyn frig
Y don, a ddawnsiai dani;
Onid hardd ei myned hi,
Falch hoewgorff ar fylch eigion,
Glöyn y dwfr, glain y don!
A'r garan ar y goror
Draw ymhell, drist feudwy'r mor;
Safai'r glaslwyd freuddwydiwr
Ar ryw dalp o faen, a'r dwr,
Gan fwrw lluwch gwyn ferw y lli,
O'i gylch yn chware a golchi;
Yntau'n aros heb osio
Newid trem na rhoi un tro;—
Gwrandawr gawr beiston goror,
Gwyliwr mud miraglau'r môr!
Cyrraedd Penmon, ac aros
Lle taenai'r haf wylltion ros
Ar fieri mor firain,
A gwrid ar hyd brigau'r drain.
Teg oedd y Mynachty gynt;
Ymholem am ei helynt,
Ac o'r hen bryd ger ein bron
Ymrithiai'r muriau weithion.
Berth oedd waith ei borth a'i ddôr,
A'i dyrau cain main mynor;
Nawdd i wan ei neuadd o,
Glanwaith bob cuddigl yno.
Heibio i'r fron 'roedd llwybr fry,
A meindwr y clomendy
Yn esgyn mor flaen wisgi
O drwch coed aeron di ri,
Lle yn echudd llwyn uchel
Y caid y pysgodlyn cel.
Ar y ffin 'roedd oer ffynnon,
Dwr gloew o hyd dreiglai hon,
A'i flas, o ryw felus rin,
Oedd wobr i'r ddau bererin.
Ac yna bu ryw gân bêr,
Ymhen ysbaid, mwyn osber;
Cywirgerdd clych ac organ,
Lleisiau côr yn arllwys cân
I lad nef, gan Ladin iaith;
Ond er chwilio'r drych eilwaith,
Mwy nid oedd namyn y dail
Prydferth hyd dalpiau'r adfail,
A distawrwydd dwys, tirion-
Mwy ni chaem weld myneich Mon!
Hydref 24, 1906.