Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill/Tir Ieuenctid
| ← Yn yr Hydref | Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill gan Thomas Gwynn Jones |
Merch y Bugail → |
TIR IEUENCTID.
GWAE fi na fedrwn ganu megys cynt
Gerdd afiaith fy ieuenctid fel y bu,
Cyn bwrw o'm tynged i ei chysgod du
Yn llain na chyfyd, draw ar draws fy hynt.
Pei medrwn, canwn eto lawen gerdd,
A dodwn yn ei gwythi beth o'r gwin
A yfais innau à sychedig fin
Fel Trystan gynt ar frig y weilgi werdd.
Eithr heno, du yw tonnau'r môr i mi,
A llwyd yw'r ewyn ar eu brigau draw—
Ond tyrd fy Esyllt innau! dyro'th law,
A chanaf fel y cenais gynt i ti!
Am unwaith eto dyred gyda mi
I Dir Ieuenctid, lle mae "hendre werdd "
Dy gariad di a minnau,—canaf gerdd
Y bore unwaith eto gyda thi!
O Dir Ieuenctid! gartre hud, lle mae
Y Tylwyth Teg hyd heddyw fel erioed
Yn dawnsio'r hwyr yn gylchau dan y coed,
Heb ofni gwg na theimlo poen na gwae.
Mae'th goedydd yn ymestyn ar bob llaw
A'u ceinciau fyth dan gnwd o iraidd ddail,
Fel gwlanog gnufau'n hofran yn yr haul,
Neu grugau o gymylau di ben draw.
Gad ini dreulio yno ddim ond awr
Ymhell o swn a thrafferth byd a'i boen,
Daw ini beth o'r hen golledig hoen
A wel y rhai sy a'u golwg at y wawr.