Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill/Y Chwarelwr
| ← Y Gwladgarwr | Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill gan Thomas Gwynn Jones |
→ |
XI.—Y CHWARELWR.
(SEILEDIG AR DDIGWYDDIAD GWIRIONEDDOL, A CHYFLWYNEDIG I CHWARELWYR ARFON).
GWEITHIO y maent yn y chwarel,
Dau fu gyfeillion erioed,—
Ar rimyn cul yn nannedd y graig,
Dim ond rhyw le i roi troed.
Danynt ymegyr y dyfnder,
A'r graig yn serth ac yn llefn,
A chlogwyn yn taflu dros ei droed,
Rhyngddynt a'r brig drachefn.
Crogi mae'r rhaff dros y dibyn—
Hyd-ddi y daethant i lawr,
Ac hyd-ddi, pan gano corn yr hwyr,
Y dringant y clogwyn mawr.
Tyllant dan sawdl y clogwyn.
I'w chwalu oddiar y ffordd,
A'r garreg ateb yn gwatwar swn
Cyson yr ebill a'r ordd.
Cwyd tarth o gilfachau'r mynydd,
Mae'r cysgod yn ddu ar y ddol;
Gŵyro mae'r haul i'r gorllewin pell—
Pwy wêl ei ddyfod yn ol?
O'r diwedd mae'r corn yn canu,
Mae diben ar waith y dydd,
A mil o gaethion masnach a moeth
Am ennyd yn mynd yn rhydd.
Ac wele'r ddau gyfaill yn barod
I gychwyn y dringo fry;
Mae'r cyntaf yn gafael yn y rhaff
I fynd, ond, O Dduw! beth a fu?
'Roedd tro ar y rhaff yn rhywle,
A chwympodd yntau i lawr,
A llithrodd nes erys, ar flaen y rhaff,
Ynghrog uwch y dyfnder mawr.
Sefyll mae'r llall ar y dibyn,
A'i waed yn fferu gan fraw,
A gwel fod y clogwyn yn taflu'r rhaff
Naid helaeth o gyrraedd ei law!
Mae'n gweiddi "Gwydna dy afael
I mi gael rhoi naid ar y rhaff
A dringo a gollwng rhaff arall i lawr-
A oes gen ti ddigon o raff?"
O'r dyfnder, sy'n prysur dduo,
Daw ateb crynedig ond clir-
"Mi ddaliaf-na, paid a'th beryglu dy hun,
Ni fedrai'i ddim dal yn hir!"
"Dal d'afael, mi neidiaf y funud
Y clyw fi'n gweiddi tri!"
Ust! "Un, dau, tri!"—dacw ef allan fel saeth,
Och! methodd y rhaff—dyna gri!
Na! gwelwch ef, caeodd ei ddwylaw
Fel dur am y rhaff! ac yn awr
O afael i afael, mae'n cyrraedd y brig,
A dacw raff arall i lawr!
"Rho'th droed drwy y ddolen os medri!"
Medd llais dros y clogwyn fry,—
Ond ni ddaw ateb yn ol, ac yn awr,
Mor ddistaw yw'r dyfnder du!
"Rhy hwyr, druan bach!" medd y cyfaill,
A'r rhaff eto'n llac yn ei law;
Na! gwelwch e'n dal, mae'r rhaff yn tynhau,
Mae cymorth yn dyfod draw.
Mae dwsin o ddwylaw cryfion
Yn awr am y rhaff yn cau;
Tynnant—daw pen dros y brig—dyna floedd,—
Cofleidio eu gilydd mae'r ddau!
CWMNI Y CYHOEDDWYR CYMREIG (CYF.), CAERNARFON.