Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill/Y Dysgawdr
| ← Gweinidog Llan y Mynydd | Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill gan Thomas Gwynn Jones |
Y Bardd → |
IV. Y DYSGAWDR.
(ER COF AM EMRYS AP IWAN).
PAN weithiai gynt â'i ddwylaw yn yr ardd,
Daeth ato dduwies ieuanc; ebe hi
"Ceridwen ydwyf, rhoed it awen bardd,
Dyred am hynny, canlyn dithau fi."
A myned a wnaeth yntau gyda hi,
Hyd lwybrau teg ond dyrys yn y coed,
Lle gwelai dlysion flodau fwy na rhi,
Lle clywai y gynghanedd fwyna 'rioed.
Canlynnodd hi am lawer blwyddyn wen,
Hyd nes adnabu harddwch lliw a llun;
Oddiar ei lygad tynnodd hithau len
Nes ydoedd mwy yn gweled Duw ei hun.
Ni chanodd ond ychydig gerddi gynt,
Ac nid oes undyn byw a'u gwelodd hwy;
Er iddo weled llawer ar ei hynt,
Fe wyddai fod i'w weled lawer mwy.
Ag ef ym mhlas Ceridwen, coed a chraig,
Daeth ato dduwies arall; ebe hi,
"Gwrando, rhoed iti reddf yr ysgolhaig,
O mynni wybod, dyred, canlyn fi."
Cyfododd yntau a chanlynnodd hi
Ar led y gwledydd am flynyddau maith;
Adnabu drwyddi wŷr o uchel fri.
A dysgodd ganddi lawer estron iaith.
Fe'i gwelwyd yn ei chanlyn ar ei thaith
Hyd feusydd enwog Groeg a Rhufain gynt,
A chlyw-wyd ef yn adrodd lawer gwaith
Y cerddi a ddysgodd ganddi ar ei hynt.
Cynefin iddo oedd Italia werdd,
Ac ar ei dafod, llefn oedd iaith y wlad;
O waith ei beirdd, e fedrai lawer cerdd,
A gwyddai am ei breuddwyd hi a'i brad.
Hoff ganddo Ffrainc feddylgar, loew a hardd,
Brenhines dawn a deall daear lawr;
A'r "eang Ffrangeg," hithau, iaith y bardd
A'r gwr bonheddig, carodd hi yn fawr.
Adwaenai wlad Ysbaen, lle trig o hyd
Urddas a hamdden gwiw y Ganol Oes;
Mwyn y llefarai'r iaith sy'n cadw hud
Hen fywyd balch a llawn o firain foes.
Hyd lannau Rhein y rhodiodd lawer gwaith,
A hanes hen ei chestyll, gwyddai ef;
Ac nid anhysbys iddo ef ychwaith
Oedd erwin fawredd yr Almaeneg gref.
Fe'i gwelwyd ef ar lannau afon Nil
Yn rhodio'n araf ar ei ben ei hun,
Lle huna mud weddillion llawer mil
O oesau medr a gwybod cynnar dyn.
Bu'n edrych ar y pyramidiau fry,
Agwrdd freuddwydion oesau bore'r byd,
Bu'n edrych ol y cynion gynt a fu
Yn tyllu El Mocattam ar ei hyd.
Bu'n gwylio Mosc Mohammed Ali draw,
A'i chromen megys cwpan glaer o wawn.
Yn nofio'n hoew, a meindwr ar bob llaw,
Fel pelydr aur, dan ruddgoch haul prynhawn.
Bu'n gwrando'r Muezzin, a'r haul ar ŵyr
Tu draw i orwel pell yr anial mawr,
Yn galw y ffyddlon at ei weddi hwyr,
A'i lais fel llef o'r nef yn syrthio i lawr.
Bu'n crwydro hyd heolydd Cairo bell,
Ar derfyn dydd newynnog Ramadân,
A llawer un yn codi yn ei gell
At Allah hanner gweddi, hanner cân.
Bu'n gwrando ar y cychwyr wrth eu gwaith
Yn rhwyfo ar yr afon lawer tro,
Tan hanner canu mewn rhyw ryfedd iaith
Nad oes a'i llefair mwyach yn y fro.
Fe welodd bererinion fwy na mwy,
Yn cyrchu tua Mecca ar eu taith,
A theimlodd nad oedd ofer iddynt hwy
Na dirmygadwy ganddo yntau chwaith.
Ar wyneb oer y Sphinx bu'n syllu'n hir,
A'r deml, sydd uthr, er bod yn adfail, mwy;
A wyddai'r sawl a'u cododd hwy y gwir?
Erys y maen, pa le yr aethant hwy?
A duwies Gwybod yn ei ddwyn i'w hynt,
Daeth ato dduwies arall; ebe hi:
"Rhoed awen wir y dysgawdr iti gynt,
O mynni ddysgu, dyred gyda mi."
A chanlyn honno wedi hyn a wnaeth,
Dug hithau ef yn ol i'w wlad ei hun;
Ond nid adnabu hi ei mab pan ddaeth-
Nid oedd ei feddwl ef a hithau'n un.
Mynasai ef gael iaith ei wlad yn lân,
A gwneud ei llên yn eang ac yn gref,
A thybiai hithau, gyda'r beirniaid mân,
Mai mympwy ydoedd ei wybodaeth ef.
Mewn prinder a dinodedd y bu fyw,
Heb le i wneud ei oreu ef ei hun.
Ond dysgodd ambell un i weled Duw,
Heblaw drwy gyfing osodiadau dyn.
Fe roddwyd iddo nawdd gan ambell un
Nad oedd ond teilwng i fod iddo'n was;
Am fynnu rhyddid yn ei wlad ei hun
Rhoed dirmyg arno gan estroniaid bas.
Ni fagodd Cymru fab a'i carodd hi
Yn burach nag y carodd ef, erioed,
Nag un a roisai, er ei lles a'i bri,
Yn loewach erddi y doniau iddo roed.
Ond ni rwgnachodd rhag ei druan ffawd,
Ac nid achwynodd unwaith ar ei wlad,
Bodlonodd ar ryw gylchoedd bychain tlawd,
A rhannodd o'i wybodaeth fawr yn rhad.
Ni byddai ar ei iaith na brych na briw,
Bid wrth y tân, bid araith ar gyhoedd;
Hawdd gwybod wrth ei ymadroddion gwiw
Mai gwr o ddysg a gwr bonheddig oedd.
Yn dawel ac yn ddiwyd, gwnaeth ei waith,
Nes daeth ei daith ar ganol dydd i ben,
A distaw iawn y dug ei gystudd maith
Fel un yn gweld yr achos drwy y llen.
Ni wybu'r oes mo faint ei ddoniau ef,
Ni wybu undyn faint a wyddai chwaith,
Ond os na chlywir mwyach yma'i lef,
Daw goleu dydd yfory ar ei waith.