Neidio i'r cynnwys

Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill/Y Gennad

Oddi ar Wicidestun
Y Gerdd a Gollwyd Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill

gan Thomas Gwynn Jones

Gwlad y Tylwyth Teg

Y GENNAD.
[I'M MAB BACH, ARTHUR AP GWYNN, YN DDWY FLWYDD OED.]

COLLAIS fy ffordd wrth grwydro
Ymhell o'm cynefin dir;
Collais fy ffydd wrth frwydro
A'r gau sydd yn cuddio'r gwir.

O waelod anobaith llefais
Am oleu ar dynged dyn,
A'r unig ateb a gefais
Oedd adsain fy llef fy hun.

Dywedais yn flin nad ydoedd
Bywyd yn werth ei fyw,
Mai damwain oedd bod a bydoedd,
Mai breuddwyd dyn ydoedd Duw.

Chwerddais rhag gorfod wylo,
Melltithiais y byd a'i frad;
Teimlais law fach i'm hanwylo,
A llais bach yn galw "Fy Nhad!"


Gwelais ryw wawr o'r hyn ydoedd
Mor wir yn fy more iach;—
Os mud ydyw'r nef a'r bydoedd,
Mae Duw ym mhob plentyn bach!

Medi, 1904.


Nodiadau

[golygu]