Neidio i'r cynnwys

Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill/Y Gerdd a Gollwyd

Oddi ar Wicidestun
Dyn a Derwen Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill

gan Thomas Gwynn Jones

Y Gennad

Y GERDD A GOLLWYD.
[ER COF AM BEN BOWEN.]

FYRRED oedd dy fore di,
Gyhyd ydoedd gwae d'edwi!

O'i bodd, rhoddwyd calon bur,
Lân iti, o law Natur;
Oroleuni gloew Anian
Y daeth it lygaid a'i thân
Teg ynddynt; rhoed it ganddi
Gael dwy ran o'i glewder hi.
Trwy boen, fe genaist i'r byd
Ei chyfrinach, ferr ennyd,
Mal, o wisgo Mai lasgoed,
Y cân aderyn y coed.
Berr wawd y bore ydoedd,
Addaw'r haf a ddeuai'r oedd.
Ond yn ieuenctyd y dydd,
Difwynwyd haf awenydd;
Ennyd hir bu'r enaid tau
Yn ing cysgodion angau;
Ac er drwy boen grwydro byd
Heb blygu dim o'u plegyd,
Fel eryr na fo'i lorio
Er y ddart a'i briwiodd o,—

Ni pheidiai gwelw anelwig
Dynged oer, dy angau dig,
A'th ddilyn oni'th ddaliodd,
A'th fynd mewn di obaith fodd,
I'r lle bu oriau llawen
Euraid y bardd ar dy ben;
Y lle bu lliwiau bywyd
Loewaf a gwychaf i gyd;
Lle cafwyd, lle collwyd cu
Obaith, bu rhaid wynebu
Chwerw engur dawch yr angau
Ban ydoedd wybr byw'n dyddhau!

Rhoed Natur ar daen eto
Ei gwrid dros dy wely gro—
Lliw rhos dros y bedd lle'r wyd,
Gwerdd gell y gerdd a gollwyd!

Medi 18, 1903.


Nodiadau

[golygu]