Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill/Y Gwladgarwr
| ← Y Nafi | Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill gan Thomas Gwynn Jones |
Y Chwarelwr → |
X.-Y GWLADGARWR.
(ER COF AM MICHAEL DAVITT).
YNGWAWR ei fywyd gwelodd ef
Ei wlad yngafael estron drais,
A deffro wnaeth ei galon gref
Pan glywodd ef ei thruan lais.
Dywedwyd wrtho lawer tro
Mai gwlad ei dadau ydoedd hi,
A dysgodd draddodiadau'r fro
Am ryddid gynt a braint a bri.
Fe glywodd am y dyddiau fu
Pan ydoedd Finn yn ben y wlad
A hanes am Cuchullin a'i lu
Yn trechu'r gelyn yn y gad.
Wrth wrando cerddi a chwedlau'r beirdd,
Dychmygodd weld yr ynys gynt,
Ei merched fyth yn hoew a heirdd,
A'i harwyr eto ar eu hynt.
Ond truan ydoedd ei hystâd,
Heb ryddid mwy, na braint na bri,
Ac iaith brenhinoedd hen y wlad
Yn trengi ar ei gwefus hi.
Un dydd fe'i cafodd ef ei hun
Yn sefyll gyda'i dad a'i fam,
Ar fin y ffordd yn wael eu llun,
A'u cartref bychan tlawd yn fflam.
Cyneuodd tân yr estron cas
Ym mron y bychan yntau fflam,
Nad oerodd un creulondeb bas
Ac nas diffoddodd unrhyw gam.
Drwy lafur hir a chreulon drais
Fe losgai'r fflam yn bur o hyd,
A rhoddes i'r gwladgarwr lais
Ac enw a aeth hyd bellter byd.
Ni fynnai ef ond rhyddid llawn,
Ei dwyfol hawl, i'w wlad ei hun;
I'w geisio rhoddes oreu dawn
A phuraf calon gywir dyn.
Ni chafwyd tramgwydd yn y byd
Na rhwystr a safai rhagddo ef,
Yr oedd ei ffydd yn loew o hyd
A'i galon ddidwyll fyth yn gref.
Swynai a synnai lawer mil
A grym ei lawn ddigymar lef,
Ynghyngor ucha'r estron hil
Rhaid a fu wrando arno ef.
Ymlidiwyd ef o fan i fan
A'i fwrw yngharchar fu ei dal;
A newyn beunydd fu ei ran
Dan law yr estron brwnt a sal.
Ond carai ef ei wlad a'i llwydd,
Ac aeth i garchar er ei mwyn;
Ni phrynwyd ef ag aur na swydd
Fel na roi mwyach lais i'w chŵyn.
Pwy roes i dreiswyr daear hawl
I ddodi iau ar lawer parth,
A chosb y bradwr ar y sawl
Na fynno dderbyn cam a gwarth?
Cosbau y bradwr arno roed
A gwawd gelynion fwy na mwy,—
Pa bryd y tyngodd ef erioed
Lw o ffyddlondeb iddynt hwy?
Cyfododd ef ei lais yn hy
Dros bobloedd ormesedig byd;
Y gwan, fe fyddai ar ei du,
Nid bas na chyfing oedd ei fryd.
Ni phlygodd ef ei lin erioed
I frenin nac offeiriad chwaith;
Arferai'r meddwl iddo roed,
A phlaen a gonest oedd ei iaith.
Hun, di Wladgarwr, yn y bedd
Yn naear werdd dy fro dy hun,
Rhoes angau iti fythol hedd,
A chofir di tra chaffer Dyn.