Neidio i'r cynnwys

Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill/Y Nafi

← Y Conach Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill

gan Thomas Gwynn Jones

Y Gwladgarwr →

IX.-Y NAFI.

GARW yw ei wyneb
A chorniog ei law
Gan ol y tywydd
A'r caib a'r rhaw.

Cerdda 'n ddi daro
A thrwsgl hyd y dre,
Fel un cynefin
A llawer lle.

Cysgodd neithiwyr
Ym mon y clawdd-
Yno mae gorwedd
A chodi yn hawdd.

Ceiniog a dimai
Yw'r oll ganddo sydd
I dorri newyn
A syched y dydd.

Prin yw ei eiriau
A chras yw ei lais,
Gwybod cyfeiriad
Y ffordd yw ei gais.


Clywodd yn rhywle
Fod gwaith ger y dref,
Lle mae ar wareiddiad
Ei angen ef.

Cerdda 'n ddi daro
I'r meusydd draw—
Mae yno rwbel
A chaib a rhaw.

Cyn codi'r barrug
Mae yntau'n un
O fyddin y fatog,
Yr ordd a'r cŷn.

Ei freichiau noethion—
Nid eiddo grys—
Cyhyrrog ydynt
A gwlyb o chwys.

Parod fyth ydyw
Ei lwyth o glai,
Ac olwyn ei ferfa
Funud ni sai.

Yn llawn i fyny,
Yn wâg i lawr,
Heb dro na seibiant,
O awr i awr.


Prin yw ei eiriau
Cras yw ei lais,―
Gwybod yr amser
Yn unig a gais.

Mae cloch yn canu
A phawb yn troi—
Mae'n rhaid i nafi
Gael tamed i'w gnoi.

Ceiniog a dimai
Oedd gan y gwr,
A bwyty ei ginio
O fara a dwr.

"Cinio go fychan,"
Medd un ar draws,
A theif i'r estron
Gilcyn o gaws.

"Hwda," eb arall
Llygatgam, dig,
Ac estyn iddo
Damed o gig.

"Yf," medd y trydydd,
A'i bot yn llawn,
"Diod go ddiflas
Yw merddwr mawn!"


A gweithiant felly
Am wythnos gron,
A'u geiriau'n brinion
A gerwin, bron.

Bu un yn Affric
Ac India bell,
A gwelodd amseroedd,
Rhai gwaeth a rhai gwell.

Bu arall, meddai,
Ym mhellter byd,
"Symol" oedd hanes
Y gwledydd i gyd.

Gair ar ddamwain
A rheg neu ddwy
Ddanghosai belled
Y buont hwy.

Daeth nos Sadwrn,
A chyda hi
Gyflog yr wythnos
A llawer spri.

Dadleu a dadwrdd
A llawer ffrae,
Rhyw fyd bach cymysg
Rhwng cloddiau cae.


Ar ucha'r helynt,
I'r lluest daw
Y gair fod plentyn
Yn gorff ger llaw.

A'r tad ynghanol
Y dadwrdd i gyd
Sibryda "Y bachgen!"
A thrydd yn fud.

A'r estron olaf
Yn cofio'r cig
A roes ei gymydog
Llygatgam, dig.

Ni phaid y siarad,
Ond oddi draw,
Daw ef o gwmpas
A'i gap yn ei law.

Mae pawb yn estyn
Ei law yn chwap,
A hanner tal wythnos
Pob un yn y cap.

Ni thau y dadwrdd,
Ni dderfydd y broch—
Mae'r nafi yn wylo
Drwy dyngu'n groch!


Nodiadau

[golygu]