Neidio i'r cynnwys

Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill/Y Nef a Fu

Oddi ar Wicidestun
Ymadawiad Arthur Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill

gan Thomas Gwynn Jones

Mab yr Ystorm

DYRIFAU A CHYWYDDAU.


Y NEF A FU.

GWAE fynd y goleu a'r gwirionedd fry,
A dyfod yma wyll a chelwydd du;
Pand ymbalfalu'r ydym ninnau'n awr
Yn uffern heddyw am y Nef a Fu?

Nef ienctid y blynyddau, byddai dlos
Yn nhrem y dirion wawr, neu'n nhrymder nos;
Gwastraffai gân duwiesau'n swn y gwynt,
A neithdar duwiau'n rhad ar dwyn a rhos.

Pan liwiai Fai ei goed a'i lwyni fyrdd
A'i feusydd gant åg ol ei fysedd gwyrdd,
I mi yn nydd a nos 'roedd ieuanc dduw
A'i hudlath aur yn dangos mil o ffyrdd.

A minnau yn rhyfeddu, megys un
Ym mlaenau amgen bro na'i fro ei hun,
A yrro ar ei enaid swyn na thyrr,
Fal honno a welodd Macsen drwy ei hun.[1]

O! dlysni cynnes lawndra'r manddail ir,
Gedennog donnau ar ganghennau hir,
A'u hymchŵydd megys gwenyg mân y mor
Pan grwydro awel drwy yr wybren glir.


Mân flodau gwynion, cochion, bob yn ail,
Ar frigau hoew yn chwerthin yn yr haul,
Hyd nes mynaswn yn fy newydd nwyf
Fy nhrochi'n rhydd yn esmwyth donnau'r dail.

Fel Myrddin Ddewin, gwelais yn y fan
Afallen beren yn ei hargel, dan[2]
Ei llen o flodau gwynion, ydoedd fel
Ton wen orewyn Hywel ar y lan.[3]

Ac yno gynt pan ddodai haf ei droed,
Pa sawl Blodeuwedd welais ger y coed?[4]
Pe na bâi gâd Greiddylad Galan Mai, [5]
Blodeuwedd, dôi, tra chadwai haf ei oed.


Rhwng blodau'r deri gwelais wyn ei grudd,
A'i gwrid ym mlodau'r gwyddfid rhwng y gwŷdd;
Ar flodau'r erwain yr oedd lliw ei bron,
A'i gwallt ar frig banhadlen hanner cudd.

A byddai'n croesi'r ddôl o dan y coed
Y llwybrau glanaf welodd dyn erioed,
Lle sangodd Olwen, fechanigen wen,[6]
A'r meillion gwynion yno'n ol ei throed.[7]

Pan fyddai wyneb dôl a gweun a ffrith
Dan orne huan bore'n berlau brith,
Ceid dan y deri gylchau'r Tylwyth Teg,
Fodrwyau gwyrdd ynghanol gleiniau'r gwlith.

Di nifer ydoedd llwybrau mân y coed,
A'u mwsogl aur yn masw ogleisio'm troed,
A minnau wrth eu crwydro megys un
Ar lwybrau nad adnabu dyn erioed.

O! ferw ac iasau gwyllt y grwydr, a'u hud
Di dorri yn meddwi fy synhwyrau i gyd,
O gam i gam, a minnau'n disgwyl mwy
Yn nhro pob llwybr, a'i gael yn fwy o hyd.


Trwy ddwfn gysgodion tewfrig goed y glyn,
Ni threiddiai namyn goleu tyner, gwyn;
Eithr ambell lain agored rhwng y gwŷdd
O lif aur wawl y dydd yn cronni llyn.

A thrwy rigolau hirion yma a thraw,
Mân wythi aur yn saethu ar bob llaw,
Nes darfod ym mhellterau'r cysgod dwfn
Fel meinion byst haul hinon wedi glaw.

'Roedd gyfliw'r blawd ysbyddad ar y pren
Ag ysgafn ewyn brig y waneg wen
Pan dorro'n frwysgflaen ar fwsoglyd faen,
A gwreichion haul yn gawod am ei phen.

Yr oedd y perthi yn eu gwyn i gyd
Fel offeiriadon ar ddefosiwn mud,
A'r deri preiffion fel pileri nadd
Teml Anian, lle nad oedd na gwae na gwŷd.

Rhos gwylltion hyd y llwyni megys cain
Fân glychau mud ynghrôg wrth raffau main,
Ac ambell wrysgen gynnar yno'n dwyn
Ei grawn, fel gleiniau gwefr, ymhlith y drain.

Ym mrig yr hwyr disgynnai'r gwlith i lawr,
A'r awyr laith yn drom gan beraidd sawr
Y blodau, nes oedd canwelw niwl y glyn.
Megys mygydarth allor Natur fawr."


Gorweddais lawer tro dan gysgod pren,
A chlywais ganu rhyfedd uwch fy mhen,
Fel hwnnw gynt yn awr ei dranc a ddaeth
I glyw telynor mwyn y Garreg Wen.

Ni byddai drymder yn difwyno'r dydd,
Na blinder chwerw yn troi y nos yn brudd;
Nid aethai ffynnon gobaith eto'n hesb,
Ni ddaethai creulon ffawd i lethu ffydd.

Gwell pe'm dodesid cyn fy nyddiau blin
O dan y dail, fel "Dafydd gywydd gwin,"
Neu megys Omar yntau yn y bedd,
A'r rhos yn gwrido yno ar ei fin!

Chwerw ydoedd golli gwawl y dyddiau fu,
A dyfod yn ei le dywyllwch du,
A gwaeth gael rhai i ddweyd mai cysgod oedd
Fy haf, mai'r sylwedd ydyw'r gaeaf sy.

Ai teg yw'r blodau eto, megys cynt,
Pan yrro Mai i'w deffro dyner wynt?
Diau mai teg; brys, ffwl, a dos i'w hel,
Llanw amcan dyn drwy droi eu tlysni'n bunt!

Ac onid elli droi eu tlysni hwy
Yn aur i ti neu arall, ni waeth pwy,
Gad iddynt, ofer ydynt; creodd Duw
Dydi i wneud un geiniog fach yn ddwy.


Nid ydyw hwnnw ond breuddwydiwr ffol
A garo'r blodau yn lle tyrchu'r ddol
Am fwyn i'r gwr sy'n son am godi dyn.
A'i ddwyn ymlaen, ac yn ei ddal yn ol.

Gan fyrred hoedl a phrinned amser dyn,
Ni ddylai'u treulio, megys drwy ei hun,
I edrych ar brydferthwch blodau gwyllt—
Oni ddaw iddo dâl am dynnu eu llun.

A minnau, er y gwn mai celwydd mall
Yw truth y twyllwyr llyfn a'm geilw yn ddall,
Nid oes a'm gweryd rhag eu celwydd hwy
Cyd na bo gael y gwir, er gweld y gwall.

Gwn weithian, mynd a wnaeth y gwawl a'r gwir,
Y dydd y'm dysgwyd am addewid hir,
I werthu braint fy ngeni—codi ffos
Neu dorri gwrych a throi a thrin y tir.

Nid rhyfedd mwyach na ddaw imi'r nef
A gollais gynt, er llawer truan lef;
Yn ol cyweirio'm gwely lle yr wyf,
Nid oes i mi ond gorwedd arno ef.

Pe medrwn siarad rhagrith llyfn heb dawl,
Diameu y dôi imi uchel fawl,
Ac arian teg a wnaethpwyd, gywraint waith!
Er hudo dyn i fyw yn rhwydau diawl.


Ond salw y dysgais i'r gelfyddyd fawr,
Am hyn, nid wyf ond gwesyn bach yn awr,
Yn gweld y gwegi ac yn rhegi'r nos,
Ond wedi colli gobaith am y wawr.

Dywedodd rhywun wrthyt nad oes Dduw,
Ac nad oes uffern, mai dychymyg yw
Y ddau; ond aros, dial mae y naill,
Ac yn y llall yr ydym ninnau'n byw.

A welaist ti y gwr a'i gerbyd drud
Oedd gynneu'n gyrru'n falch ar hyd y stryd?
Breuddwydiodd lawer breuddwyd tlws pan oedd
Y goleu a'r gwirionedd yn y byd.

Ond gwerthodd yntau 'i enedigaeth fraint,
Ac ar y fargen, cafodd fendith saint;
Er iddo chwerthin am eu pen, nid gwaeth-
Ni feiir twyll a ffynno, er ei faint.

Nid arddelw ef mo'i hen freuddwydion mwy
Am nad oes ddeunydd llogau ynddynt hwy;
A phe daliasai atynt, eb efe,
Buasai heddyw'n dlotyn ar y plwy.

Ond er ei uched pan lasweno'n gas,
Mae chwerwder ysbryd yn ei ragrith bas;
Os nad yw heddyw'n dlotyn ar y plwy,
Y mae er hynny'n dlotyn yn y plas.


Ond ef yw pen cymdeithas wag ei bryd,
Efe yw'r celwydd sy'n rheoli'r byd,
Gan rwymo ffyliaid anwybodaeth hurt
A chnafon ffel dysgeidiaeth oll ynghyd.

Lle bo, daw miloedd i'w groesawi ef,
A'i foli megys duw âg anwar lef;
Bydd gwŷr o grefydd a phenaethiaid dysg
Yn gymysg â gwehilion gwlad a thref.

Er son offeiriad da ac athro doeth
O hyd am galon lân a meddwl coeth,
Swm popeth a glybuwyd ydyw hyn—
Prif amcan bywyd, golud yw, a moeth.

Hydref, 1903.


Nodiadau

[golygu]
  1. "Ef awelei y uot yn kerdet gwladoed teccaf a gwastattaf awelsei dyn eiryoet or parth arall yr mynyd." ["Breuddwyd Macsen Wledig."]
  2. Afallen peren blodeu esplit,
    A tif in argel in argoydit"
    ["Afallennau Myrddin."]
  3. "Tonn wenn orewyn a orwlych bet
    Guytua ruuaun bebyr ben teyrnet."
    [Gorhofet Hywel ab Owain Gwynedd].
  4. "Ac yna y kymerassant hwy blodeu y deri, a blodeu y banadyl, a blodeu yr erwein, ac or rei hynny asswynaw yr un uorwyn deckaf a thelediwaf a welas dyn eiryoet. Ac bedydyaw or bedyd a wneynt yna, a dodi Blodeuwed arnei." ["Math fab Mathonwy."]
  5. "Clybot o Arthur hynny ... a gwneuthur tangneued y rwng Gwynn mab Nud a Gwythyr mab Greidawl. Sef tangneued awnaethpwyt, gadu y uorwyn yn ty y that yndiuwyn or dwy barth, ac ymlad bob duw Kalan Mei uyth hyt dydbrawt or dyd hwnnw allan, y rwng Gwynn a Gwythyr, ar un a orffo onadunt dydbrawt kymeret y uorwyn." ["Kulhwch ac Olwen."]
  6. Wrth gamu brwynen breit na dygwyt
    Bechannigen wenn wann y gogwyt.
    [Hywel ab Owain Gwynedd.]
  7. "Pedeir meillonen gwynnyon auydei yn y hol pa fford bynnac y delhei." ["Kulhwch ac Olwen."]