Neidio i'r cynnwys

Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill/Yn yr Hydref

← Awr Ferr Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill

gan Thomas Gwynn Jones

Tir Ieuenctid →

YN YR HYDREF.

MAE y glaswellt wedi llwydo,
Marw yw myrddiwn dail y coed,
Rhag y gwynt, fel pe'n arswydo,
Crynant dan fy nhroed.

Disgyn mae y glaw, a chwyno
Mae y gwynt ym mrig y nos;
Llwydrew Hydref sy'n difwyno
Wyneb natur dlos.

Goleu llwyd sydd yn yr awyr
Lle bu oleu disglair gynt;
Blodau meirwon, mae eu sawyr
Heno yn y gwynt.

Euthum tua'r lle bai Llio
Yn fy nisgwyl ddydd o haf,
Drwy y coedydd noethion, crio
Roedd yr awel glaf.


Nodiadau

[golygu]