Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill (testun cyfansawdd)
← | Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill gan Thomas Gwynn Jones |
Pennod Nesaf → |
I'w darllen cerdd wrth gerdd gweler Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill (testun cyfansawdd) |

YMADAWIAD ARTHUR
A
CHANIADAU EREILL.
T. GWYNN JONES.


I MEGAN.
Yng ngwanwyn ein cariad, cyn dyfod ein gwae,
Torrais ein henwau ar gamfa y cae;
Bu llawer tro, Megan, er hynny, ar fyd,
Ond eto mae'n henwau ni yno o hyd.
Mae cen yn rhyw lenwi'r llythrennau, mae'n wir,
Ond nid all eu cuddio am amser go hir;
A phan na bom ninnau i'n cael yn y byd,
Ill dau, bydd ein henwau ni yno o hyd.
Os gwybydd a'u gwelo mai serch yn ei hoen
A'u torrodd cyn dyfod nag adfyd na phoen,-
A ninnau o'r golwg yn oer ac yn fud,
Fe erys rhyw gof am ein cariad o hyd.
Ond syrth yr hen gamfa, ryw aeaf, ar ŵyr,
Daw yntau'r tyddynnwr ynghysgod yr hwyr,
A dwg hi i'w thorri yn goed ar y tan,
A derfydd ein coffa, fy nghariad, yn lân.
AT Y DARLLENYDD.
ARGRAFFWYD rhai o'r cerddi hyn mewn gwahanol gyhoeddiadau o dro i dro, ond at eu printio fel hyn gyda'u gilydd, diwygiais hwy hyd y gallwn. Nid yw cynnwys y llyfryn ond cais i roddi lleferydd i rai o deimladau cymysg tristwch a llawenydd bywyd, ac os bydd o les neu bleser i rywun a garo iaith a hanes Cymru. byddaf fi yn fodlon. Ysgrifennwyd rhai o'r cerddi pan oeddwn ymhell o'm gwlad ac yn meddwl nas gwelwn byth mwy. Nid ŵyr ond a grwydro anwyled yw Cymru, a mwyned yw'r iaith a glaned yw'r bywyd sydd yno, ac a fydd yno byth, gobeithio. Y mae i'r iaith honno a'r bywyd hwnnw elynion a pheryglon, ac os collwn ni hwy, derfydd am danom, ac ni haeddwn ond y dirmyg a gawn, hyd eithaf sicrwydd, gan bob ysgolhaig a gwr bonheddig.
T. GWYNN JONES.
- Aberystwyth,
- Gorffennaf, 1910.
CYNHWYSIAD
I Megan
At y Darllenydd
Cynhwysiad
AWDL
DYRIFAU A CHYWYDDAU
Y Nef a Fu
Mab yr Ystorm
Dyn a Derwen
Y Gerdd a Gollwyd
Y Gennad
Gwlad y Tylwyth Teg
Ex Tenebris
Daear a Nef
Cariad
Penmon
Yr Hydref
Bardd a Bywyd
Bywyd ac Angau
Serch a Siom
Heddyw ac Yfory
Y Pennaeth
Hwyr yn yr Hydref
Mai
Y Gadlef
Enid
Awr Ferr
Yn yr Hydref
Tir Ieuenctid
Merch y Bugail
Atgof
Gwenonwy
Dafydd ab Edmwnd
Mor y Nos
Cerddi Doe
I Merch yr Iberiad
II Caradog
III Arthur Gawr
IV Ogof Arthur
V Maelgwn Gwynedd
VI Coron Cadwallon
VII Cynfrig Hir a'r Brenin
VIII Owain a Nest
IX Gwenllian
X Ednyfed Fychan
CERDDI HEDDYW
I Yr Hen Ffermwr
II Yr Hen Lafurwr
III Gweinidog Llan y Mynydd
IV Y Dysgawdr
V Y Bardd
VI Y Truan
VII Elin Galon Unig
VIII Y Conach
IX Y Nafi
X Y Gwladgarwr
XI Y Chwarelwr
YMADAWIAD ARTHUR.

Bet y march, bet y gwythur,
Bet y gugaun cletyfrut,
Anoeth bid bet y arthur."
—Llyfr Du Caerfyrddin.
GORUWCH cymloedd groch Camlan,
Lle'r oedd deufur dur yn dân,
Daeth cri o'r adwythig rawd,
Llaes ymadrodd—"Llas Medrawd!"
Moedrodd y gri dorf Medrawd
Oni throes yn eitha'i rhawd
Rhag newydd nwy' deufwy dur
A rhyferthwy torf Arthur.
Ac ymlid o faes Camlan,
Uthr fu, onid aeth o'r fan,
I'r helynt ar eu holau
Mewn nwyd erch, bawb namyn dau.
Yno, mal duw celanedd,
A'i bwys ar garn glwys ei gledd,
Y naill oedd, a'r llall ger llaw
A golwg syn, yn gwyliaw.
"Arglwydd," eb hwnnw, "erglyw,
Ymaros, di achos yw;
Ateb, beth dderyw iti,
Neud, tost nad erlynnit ti!"
Ebr yntau: "Clyw, brwnt y clwyf
Hwn; clyw Fedwyr, claf ydwyf."
"Bid briw y byd!" ebr Bedwyr,
"Arthur drech, nis gorthrech gwŷr!"
"Deg clwyf," ebr Arthur, "di, clyw,
A naddodd fy mhen heddyw,
A minnau a gymynnais,
Do, gan glew am bob dygn glais;
Eithr Angau ar ruthr engur
Weithian gwân drwy'm gwythi'n gur.
Dwg fi hwnt."
"Di gei, fy ior,
Drigo," eb Bedwyr, "ragor
Yn dy wlad, can nis deil hi
O thrydd Arthur oddi wrthi!"
Troes gemliw wawl tros Gamlan
Oni bu coch wyneb can
A marw pawb o'r Cymry pur
Yno syrthiodd dros Arthur,
Ac onid oedd holl gnawd du
Drudion Medrawd yn madru!
Drwy waed, dros dyrrau o wŷr,
Heb adwy, dug braich Bedwyr,
Uthr ei nerth, arni Arthur,
Oedd lesg gan dduloes ei gur.
Yngo'r oedd lannerch rhwng iraidd lwyni
A llen der wastad o feillion drosti,
Wynned oedd a phe dôi hi,—Olwen dlos—
Ar hyd yr hirnos i grwydro arni.
Er nad pell breithell chwerwaf y Brython,
Yr oedd llawen gerdd i'w llwyni gwyrddion,
Malpai taer wae'r ddaear hon fâi'n peri
O drueni, gân adar Rhiannon!
A chyrchu'r ofer o dan y deri
A orug Bedwyr drwy'r wig heb oedi;
"Y dwfr," ebr ef, "a'th ddwg di o'th ddwys-gur,"
A rhoddi Arthur i orwedd wrthi.
"Rhyw wyrth nid oes," ebr Arthur,
"Ynddi i'm codi o'm cur;
O'r drum, o bwri dremyn,
Di weli draw, is law, lyn
Gwrm, hir, a chreigiau'r marian
Yn crychu'i lif. Cyrch ei lan,
A chlud Galedfwlch lydan
Gennyd-y mau gleddau glân-
Hyd i lechwedd dal ucho
Ar draeth y llyn; ar fyrr dro,
Heb dy atal, bid iti
Fwrw y llafn i ferw y lli.
Tremia o ben y trum y bych,
Gwylia beth bynnag welych,
Cyd y bydd, ac wedi bo,
Dyred yn ol heb dario."
Dwfn fyfyr ar Fedwyr fu
Ymhlegid gweld amlygu
Dioddef ar wedd gynefin
A herio trais hacra trin.
Eithr codi'r cledd rhyfeddol
Wnaeth, ac yna aeth yn ol
Geiriau Arthur gawr wrthaw
I ael y drum uchel draw.
O'r drum rhoes Bedwyr dremyn,
A chafas faith, frychlas fryn
Tonnog, a marian tano.
Yn dres fraith ar draws y fro
'Roedd prydferth flodau'r perthi,
Unlliw od neu ewyn lli;
Dibrin flodau'r eithin aur
Mal haen o glych melynaur;
Mân flodau'r grug yn hugan
Ar y geillt o borffor gwan;
A gwrid yr haul ar grwydr hyd
Y bau bron bob rhyw ennyd
Yn newid lliw, troi dull hon,
A'i hen weddau'n newyddion.
Draw mal mor hyd hir ymyl y marian
Yn llinell lwyd, yr oedd min llyn llydan,
A'i gry lif ar greigiau'r lan yn codi
O hyd, a thorri fel brodwaith arian.
Eto er gwymped natur o'i gwmpas,
Hynny ni lwyddodd i'w ddal na'i luddias,
Nes i grawc anghynnes gras ei atal,
A mwyfwy'r gofal a'r myfyr gafas.
Bran ddu groch ar bren oedd grin,
Goelfawr a hir ei gylfin,
Fwriai'n oer, afar ei nwyd,
Fregliach o'r dderwen friglwyd.
Safodd Bedwyr, myfyr mud
Roes omedd ar ei symud—
Dir, gnawd i grawcian bran brud!
Eb Bedwyr: "Och! na boed rin,
Yn y grawc o'r goeden grin
Er y dywaid gair dewin—
'Glywaist ti a gant y fran,
Ai drwg ai da'r darogan,
Na fid cryf heb gleddyf glân.'
Llwybr i dranc y lle bo'r drin,
Diau na ddawr angau rin
Na breiniau glew na brenin.
Diau gwell i wlad yw gwas
Byw, na'r pennaf lyw a las—
Nid gwrdd trengedig urddas!"
Cododd Bedwyr y cadarn
Gledd gerfydd ei gelfydd garn,
A thremio'n hir a thrwm wnaeth
Ar ei gywrain ragoriaeth.
"Ba dro fyth," ebr Bedwyr, "fai
Ddigon i'r sawl a'th ddygai
Galedfwlch rymus, glodfawr,
Heb falio a'th luchio i lawr,
Megys pedfai ddirmygwr,
Onid aet o dan y dwr!
A'n hil, Och! pa ryw farn lem
A gwall fai'n rhan pe'th gollem
Dithau? Gan adwyth ei gur
Y dinerthwyd dawn Arthur,
Onitê, diau nad hyn
A barasai heb resyn!
Diogel mi a'th gelaf,
A gweld a ddigwyddo gaf."
Yn ol chwiliaw a chwalu grug a drain
Y graig, dro, o'i ddeutu,
Fe gafodd ef ogof ddu
A magwyr yn ei mygu.
Dychwelodd, edrychodd dro;—nid oedd ddyn,
Nid oedd anadl yno
Ond dwr a'i dwrdd yn taro
Ar y graig, a'i su drwy'r gro.
O'i unigedd, bu'n agos, yn ei ffysg,
Iddo ffoi 'n ddi annos,—
Trwm ar a gelo aros
Distawrwydd, unigrwydd, nos!
Yn ol i'r agen eilwaith, draw e droes
Drwy y drysi diffaith;
Gofalu ar gelu'r gwaith,
Gwrando, tremio, troi ymaith.
A phan ddaeth at y ffynnon,
Aeth, er ei bryder, ger bron.
Y Brenin, a phenlino
A rhoi y gair orug o.
Ar hynny, ebr y Brenin,
A geiriau bloesg drwy gur blin:
Ateb, a ddarfu iti
Fwrw y llafn i ferw y lli?"
"O'r daith," eb Bedwyr, "deuthym
Yma'n ol d'orchymyn ym."
Eb Arthur: "Nol aberthu
Y glaif hen, ba goel a fu?"
"Hyd y gwn, bid wiw gennyd,"
Eb ef, "ni bu goel o'r byd."
"Brau a thraws," eb Arthur, "yw
Hyn, Bedwyr—geudeb ydyw!
Celaist, awyddaist ei werth,
Galedfwlch, lafn goludferth;
Bedwyr, dychwel heb oedi,
A'r llafn bwrw dithau i'r lli!"
Heb dario i ateb, aeth Bedwyr eto,
Rhedeg i'r undaith er chwerwed gwrando
Ei deyrn yn dodi arno awgrym brad
A chas ddymuniad na cheisiodd mono.
"Diau'r gofid," eb Bedwyr, "a gafodd
Ef drwy iasau ei glwyfau a'i drysodd,
A'i bwyll yn hyn a ballodd gymaint hyd,
Er ei ddoedyd, nad ŵyr a ddywedodd.
"A minnau erddo, ac er mwyn urddas,
Ai rhaid yw arnaf ddinistrio'r deyrnas,
Colli er mwyn cymwynas, nawdd ein bro,
Fel, o fod hebddo, y'n trecho'n trachas?
"Ar fod ynghadw yr hen arf dynghedus
Y saif rhyddid ein teyrnas fawreddus;
Cwympem, pe'i collid, rhag llidus alon
A rhuthr âch estron, dan orthrech astrus."
Llyna'i fyfyr, Fedwyr, fall
Yr union groesai'r anial.
Yna rhag genau'r ogo,
Safodd ac edrychodd dro;
Eto, nid oedd yno ddyn
Yn ymyl, na swn, namyn
Twrw'r dwr, man lle torrai'r don,
Mwynder hiraethus meindon
Awel ymysg y dail mân,
Fel su hun felus anian.
"Diau, rhaid," eb Bedwyr, "hyn,
Mi wnaf y mae'n ei ofyn."
Gwyrodd i'r ogof—gerwin
Grêg wedn grawe o'r goeden grin
Eto barodd ei atal—
A fyddo ddof, hawdd ei ddal.
Eb Bedwyr: "Rhaid bod y rhin
A ddywaid Myrddin ddewin
Yn y grawc o'r goeden grin.
"Gwae i'n tud o frud y fran,
A drwg oedd ei darogan—
Na fid cryf heb gleddyf glân.'
"Rhag y drachas dras, pwy drig
Weithian? Cwympodd dan ei dig
Uthr lewder Arthur Wledig!
"Di, falch lafn, Caledfwlch lym,
Draw na throed dy rin na'th rym,
O thrydd Arthur oddi wrthym!"
Ceisiodd Bedwyr bob cysur oedd ddichon
Wrth ddychwel yn brysur-
"Bid waith cad, bid waetha cur,
Mae y wyrth nad mwy Arthur!"
Yno ger bron y Brenin,
Wele ef yn plygu glin,
O barch, i gael ei arch o,
Eb Arthur, ar saib, wrtho:—
"Hir y buost a'r bywyd
Mau sydd yn byrhau o hyd;
Mynega imi'n gymwys
Ba argoel sydd, na fydd fwvs."
Troes Bedwyr gan ynganu
"Un arwydd, f'arglwydd, ni fu,
Ond dwr a'i dwrdd yn taro
Ar y graig, a'i su drwy'r gro."
"Atal!" eb Arthur, "eto,
Dir, cuddio'r drwg, ddiriaid dro,
Yr wyt, ac nid gwir iti
Fwrw y llafn i ferw y lli!
Di rhed, a'th dynghedu'r wyf,
Na fethych cyn na fythwyf;
Y breiniol gledd, bwrw hwnnw
I ferw y llyn—cofia'r llw!"
Crymodd Bedwyr, ac heb ateb, eto
Croesi'r ban farian wnaeth gan fyfyrio,
Oni chyrhaeddodd y llyn; chwerw iddo
Wneuthur i'w deyrn y gwaith a roed arno;
Eithr rhag cel drothwy'r ogo y safodd,
Plygodd, penlinodd mewn pannwl yno.
Trwy'r bwlch, dwyn Caledfwlch lân
O'r gwyll a orug allan.
Ei ddyrnfol aur addurnfawr.
Cywrain oedd, ac arni wawr
Oliwiau gemau lawer,
Lliw'r tân a lliw eira ter;
Lliw gwaed rhudd, lliw gwydr a haul,
Neu ser ynghyfnos araul;
Ei hir lafn dur lyfned oedd.
A difreg lif y dyfroedd,
A gloewed â gwiw lewych
Rhudd yr haul ar ddisglair ddrych.
Cododd Bedwyr, ac wedyn
Dringodd a safodd yn syn
Ar ymyl creigiog rimyn
Yn y llethr uwch ben y llyn.
Ebr ef: "Drymaf, uthraf awr!
Yn iach, Galedfwlch glodfawr.
Oferthaf gleddyf Arthur,
Gloewaf deyrn y gleifiau dur,
O daw barn am hyn arnom,
Mi a'm rhi, Duw farno rhôm!
O daw gwall am dy golli,
Adfered ef o'r dwfr di!"
'Roedd ei gawraidd gyhyrrau
A'i egni ef bron gwanhau,
Ond ar un naid er hynny,
Chwyfiodd ei fraich ufudd fry,
A'r arf drosto drithro drodd
Heb aros, ac fe'i bwriodd.
Onid oedd fel darn o dân
Yn y nwyfre yn hofran;
Fel modrwy trwy'r gwagle trodd
Ennyd, a syth ddisgynnodd,
Fel mellten glaer ysblennydd,
A welwo deg wawl y dydd;
Ond cyn iddo daro'r dwr,
I'w wyneb daeth rhyw gynnwr';
Ar hyn o'r llyn cododd llaw
Gadarn, gan fedrus gydiaw
Yn ei garn, ac yna i gyd,
A deheurwydd drud wryd,
Codi'r cleddyf a'i chwyfio,
Gwaniad a thrychiad dri thro;
Yna'n ol hynny, wele,
Tan y dwfr y tynnwyd e!
Draw ar hynny aeth Bedwyr ar unwaith,
A buan y croesodd y marian maith;
Meddyliau chwim oedd eilwaith drwyddo
Efò yn gwibio, rhwng ofn a gobaith.
"A fu im, diau," eb ef, "mai dewin
Gwybodus a'i peris drwy rymus rin,"
Ac aeth rhwng grug ac eithin, a thrwy'r fron
Lle'r oedd y meillion, ger bron y Brenin.
"Ba ryw antur fu, Bedwyr ?" ebr yntau
Yn wannach ei lais gan nych ei loesau;
"Dyred, byr fyddo d'eiriau, a dywed
Im rhag fy myned gan fyrred f'oriau."
Eb Bedwyr Arglwydd, llyma ddigwyddodd;
Y llain a dewlais; llaw wen a'i daliodd;
Trithro yn hy fe'i chwyfiodd, heb ballu,
Ac yna'i dynnu i'r eigion danodd."
"Ha Bedwyr anwyl! heb dario ennyd,
Yno yn gynnar, bid fy nwyn gennyd,'
Eb Arthur, "brys, canys cyd ag y bôm
Fal yma y buom, dadfeilia'm bywyd!"
Ysgôdd Bedwyr ei ysgwydd heb oedi;
Yn swrth o'r hirnych, rhoes Arthur arni;
"Saf," eb ef, "a dygaf di, yn fuan
Ar draws y marian, i'r fan a fynni."
Cerddodd Bedwyr heb orffwys, a'r pwysau
Yn tanio'i wyneb, tynhau'i ewynnau,
Er hyn heb i'r trymder wanhau gwydnwch.
Na chaledwch ei ddi nych aelodau.
Teithiodd, cyrhaeddodd y llyn, a rhoddes
Arthur ar y fan geulan, a gweles
Yn angori long eres,—hwyliau hon
Mal y wendon dan liw y melyndes.
Rhodio ar ei hyd yr oedd
Firain ferched niferoedd;
Mor wych ei drych edrychai
Pob un â phob rhyw fun fai
Laned ei gwedd, pan lenwynt
Byrth y gaer yn Arberth gynt,
Neu ban, bryd hedd, bâi wledd lon
I'r lluoedd yng Nghaer Lleon.
Ynghraidd y llong, ar ddull ail
I orsedd, 'roedd glwth eursail,
Ac ar ei gerfwaith cywrain
Gwrlid mwyth ysgarlad main.
Tair o addwyn forwynion
Ar sedd wrth yr orsedd hon
Eisteddai. Dlysed oeddynt!
Nid oedd gwedd Blodeuwedd gynt
O geinder ail; rhag gwyndawd
Perlog ne eu purloew gnawd,
Pylai gwawr y pali gwyn
A ymdonnai am danyn;
A lliw teg eu gwalltiau aur
Drwyddo fel cawod ruddaur.
Gyddfau a thalcennau can
Mal eira ymyl Aran;
Deufan goch pob dwyfoch deg,
Lliw gwin drwy wynlliw gwaneg.
Bu druan y rhianedd
Drwy weld gwan, dreuledig wedd
Y cadarn Wledig; codi
Wnaeth yr oll, a thua'u rhi
Daliodd y tair eu dwylaw
Yn brudd ym mudandod braw.
Ac ebr un o naddun hwy—
"I Arthur rhowch gynorthwy;
Awn ag ef o'i gynni i gyd
I sanctaidd Ynys Ienctid!"
Yna e gludodd Bedwyr y Gwledig,
Yn fedrus cariodd ef dros y cerrig;
Gwyliai'r rhianedd bonheddig, hwythau,
A'u mynwesau'n dychlamu yn ysig.
Breichiau glanach na'r sindal a'r pali
I'r gadair euraid a gaid i'w godi;
Gwynion ddwylaw fu'n gweini i'r Brenin,
A rhoddi gwin i larieiddio'i gynni.
"Dioer, o mynnwch," eb Bedwyr, "a minnau
I'm hola' hynt a ddeuaf mal yntau;
Ynghyd y buom ynghadau, ynghyd
O'r byd caffom ddiengyd ddydd angau."
Yna ar hyn, eb un o'r rhianedd:
"Bid iti dewi, ni ddaeth y diwedd;
Arthur byth ni syrth i'r bedd; tithau, dos,
Y mae'n d'aros waith cyn mynd i orwedd."
Bedwyr, yn drist a distaw,
Wylodd ac edrychodd draw.
Arthur lefarodd wrtho;
"Na bydd alarus," eb o;
"Mi weithion i hinon ha
Afallon af i wella;
Ond i fy nhud dof yn ol,
Hi ddygaf yn fuddugol
Eto, wedi delo dydd.
Ei bri ymysg y broydd.
Hithau er dan glwyfau'n glaf,
Am ei hanes ym mhennaf
Dafodau byd, dyfyd beirdd,
Per hefyd y cân prifeirdd.
Pob rhyw newid, bid fal bo,
Cyn hir e dreiddir drwyddo;
A o gof ein gwaith i gyd,
A'r gwir anghofir hefyd.
Ar ein gwlad daw brad, a'i bri
Dau elyn dry'n drueni.
Ond o'r boen, yn ol daw'r byd
I weiddi am ddedwyddyd,
A daw'n ol, yn ol, o hyd
I sanctaidd Oes Ieuenctyd;
Daw ini wedyn adwedd,
A chân fy nghloch, yn fy nghledd
Gafaelaf, dygaf eilwaith
Glod yn ol i'n gwlad a'n hiaith."
Hwyliodd y bad a gadaw
Bedwyr mewn syn dremyn, draw.
Lledai'r hwyl gain mal adain ar ledwyr,
Yntau a glywodd o gant gloew awyr
Ddwsmel ar awel yr hwyr,—melusdon
Yn bwrw ei swynion ar bob rhyw synnwyr.
Llyma'r mawl rhyfeddawl fodd
O loew awyr a glywodd:—
"Dros y don mae bro dirion nad ery
Cwyn yn ei thir, ac yno ni thery
Na haint na henaint fyth mo'r rhai hynny
Ddelo i'w phuraidd awel; a phery
Pob calon yn hon yn heiny a llon—
Ynys Afallon, honno sy felly!
"Yno, fro ddedwydd, mae hen freuddwydion
A fu'n esmwytho ofn oesau meithion;
Byw yno byth mae pob hen obeithion,
Yno mae cynnydd uchel amcanion;
Ni ddaw fyth, i ddeifio hon, golli ffydd,
Na thrawd cywilydd na thoriad calon.
"Yno mae tân pob awen a gano,
Grym, hyder, awch pob gwladgar a ymdrecho;
Yni a ddwg i'r neb fynn ddiwygio,
Sylfaen yw byth i'r sawl fynn obeithio;
Ni heneiddiwn tra'n noddo,—mae gwiwfoes
Ag anadl einioes y genedl yno!"
Yn y pellter fel peraidd
Anadliad, sibrydiad braidd,
Darfu'r llais; o drofâu'r llyn
Anial, lledodd niwl llwydwyn;
Yn araf cyniweiriodd
Ac yno'r llong dano dodd
A'i chelu; fel drychiolaeth
Yn y niwl diflannu wnaeth.
Bedwyr, yn drist a distaw,
At y drin aeth eto draw.
DYRIFAU A CHYWYDDAU.
Y NEF A FU.
GWAE fynd y goleu a'r gwirionedd fry,
A dyfod yma wyll a chelwydd du;
Pand ymbalfalu'r ydym ninnau'n awr
Yn uffern heddyw am y Nef a Fu?
Nef ienctid y blynyddau, byddai dlos
Yn nhrem y dirion wawr, neu'n nhrymder nos;
Gwastraffai gân duwiesau'n swn y gwynt,
A neithdar duwiau'n rhad ar dwyn a rhos.
Pan liwiai Fai ei goed a'i lwyni fyrdd
A'i feusydd gant åg ol ei fysedd gwyrdd,
I mi yn nydd a nos 'roedd ieuanc dduw
A'i hudlath aur yn dangos mil o ffyrdd.
A minnau yn rhyfeddu, megys un
Ym mlaenau amgen bro na'i fro ei hun,
A yrro ar ei enaid swyn na thyrr,
Fal honno a welodd Macsen drwy ei hun.[1]
O! dlysni cynnes lawndra'r manddail ir,
Gedennog donnau ar ganghennau hir,
A'u hymchŵydd megys gwenyg mân y mor
Pan grwydro awel drwy yr wybren glir.
Mân flodau gwynion, cochion, bob yn ail,
Ar frigau hoew yn chwerthin yn yr haul,
Hyd nes mynaswn yn fy newydd nwyf
Fy nhrochi'n rhydd yn esmwyth donnau'r dail.
Fel Myrddin Ddewin, gwelais yn y fan
Afallen beren yn ei hargel, dan[2]
Ei llen o flodau gwynion, ydoedd fel
Ton wen orewyn Hywel ar y lan.[3]
Ac yno gynt pan ddodai haf ei droed,
Pa sawl Blodeuwedd welais ger y coed?[4]
Pe na bâi gâd Greiddylad Galan Mai, [5]
Blodeuwedd, dôi, tra chadwai haf ei oed.
Rhwng blodau'r deri gwelais wyn ei grudd,
A'i gwrid ym mlodau'r gwyddfid rhwng y gwŷdd;
Ar flodau'r erwain yr oedd lliw ei bron,
A'i gwallt ar frig banhadlen hanner cudd.
A byddai'n croesi'r ddôl o dan y coed
Y llwybrau glanaf welodd dyn erioed,
Lle sangodd Olwen, fechanigen wen,[6]
A'r meillion gwynion yno'n ol ei throed.[7]
Pan fyddai wyneb dôl a gweun a ffrith
Dan orne huan bore'n berlau brith,
Ceid dan y deri gylchau'r Tylwyth Teg,
Fodrwyau gwyrdd ynghanol gleiniau'r gwlith.
Di nifer ydoedd llwybrau mân y coed,
A'u mwsogl aur yn masw ogleisio'm troed,
A minnau wrth eu crwydro megys un
Ar lwybrau nad adnabu dyn erioed.
O! ferw ac iasau gwyllt y grwydr, a'u hud
Di dorri yn meddwi fy synhwyrau i gyd,
O gam i gam, a minnau'n disgwyl mwy
Yn nhro pob llwybr, a'i gael yn fwy o hyd.
Trwy ddwfn gysgodion tewfrig goed y glyn,
Ni threiddiai namyn goleu tyner, gwyn;
Eithr ambell lain agored rhwng y gwŷdd
O lif aur wawl y dydd yn cronni llyn.
A thrwy rigolau hirion yma a thraw,
Mân wythi aur yn saethu ar bob llaw,
Nes darfod ym mhellterau'r cysgod dwfn
Fel meinion byst haul hinon wedi glaw.
'Roedd gyfliw'r blawd ysbyddad ar y pren
Ag ysgafn ewyn brig y waneg wen
Pan dorro'n frwysgflaen ar fwsoglyd faen,
A gwreichion haul yn gawod am ei phen.
Yr oedd y perthi yn eu gwyn i gyd
Fel offeiriadon ar ddefosiwn mud,
A'r deri preiffion fel pileri nadd
Teml Anian, lle nad oedd na gwae na gwŷd.
Rhos gwylltion hyd y llwyni megys cain
Fân glychau mud ynghrôg wrth raffau main,
Ac ambell wrysgen gynnar yno'n dwyn
Ei grawn, fel gleiniau gwefr, ymhlith y drain.
Ym mrig yr hwyr disgynnai'r gwlith i lawr,
A'r awyr laith yn drom gan beraidd sawr
Y blodau, nes oedd canwelw niwl y glyn.
Megys mygydarth allor Natur fawr."
Gorweddais lawer tro dan gysgod pren,
A chlywais ganu rhyfedd uwch fy mhen,
Fel hwnnw gynt yn awr ei dranc a ddaeth
I glyw telynor mwyn y Garreg Wen.
Ni byddai drymder yn difwyno'r dydd,
Na blinder chwerw yn troi y nos yn brudd;
Nid aethai ffynnon gobaith eto'n hesb,
Ni ddaethai creulon ffawd i lethu ffydd.
Gwell pe'm dodesid cyn fy nyddiau blin
O dan y dail, fel "Dafydd gywydd gwin,"
Neu megys Omar yntau yn y bedd,
A'r rhos yn gwrido yno ar ei fin!
Chwerw ydoedd golli gwawl y dyddiau fu,
A dyfod yn ei le dywyllwch du,
A gwaeth gael rhai i ddweyd mai cysgod oedd
Fy haf, mai'r sylwedd ydyw'r gaeaf sy.
Ai teg yw'r blodau eto, megys cynt,
Pan yrro Mai i'w deffro dyner wynt?
Diau mai teg; brys, ffwl, a dos i'w hel,
Llanw amcan dyn drwy droi eu tlysni'n bunt!
Ac onid elli droi eu tlysni hwy
Yn aur i ti neu arall, ni waeth pwy,
Gad iddynt, ofer ydynt; creodd Duw
Dydi i wneud un geiniog fach yn ddwy.
Nid ydyw hwnnw ond breuddwydiwr ffol
A garo'r blodau yn lle tyrchu'r ddol
Am fwyn i'r gwr sy'n son am godi dyn.
A'i ddwyn ymlaen, ac yn ei ddal yn ol.
Gan fyrred hoedl a phrinned amser dyn,
Ni ddylai'u treulio, megys drwy ei hun,
I edrych ar brydferthwch blodau gwyllt—
Oni ddaw iddo dâl am dynnu eu llun.
A minnau, er y gwn mai celwydd mall
Yw truth y twyllwyr llyfn a'm geilw yn ddall,
Nid oes a'm gweryd rhag eu celwydd hwy
Cyd na bo gael y gwir, er gweld y gwall.
Gwn weithian, mynd a wnaeth y gwawl a'r gwir,
Y dydd y'm dysgwyd am addewid hir,
I werthu braint fy ngeni—codi ffos
Neu dorri gwrych a throi a thrin y tir.
Nid rhyfedd mwyach na ddaw imi'r nef
A gollais gynt, er llawer truan lef;
Yn ol cyweirio'm gwely lle yr wyf,
Nid oes i mi ond gorwedd arno ef.
Pe medrwn siarad rhagrith llyfn heb dawl,
Diameu y dôi imi uchel fawl,
Ac arian teg a wnaethpwyd, gywraint waith!
Er hudo dyn i fyw yn rhwydau diawl.
Ond salw y dysgais i'r gelfyddyd fawr,
Am hyn, nid wyf ond gwesyn bach yn awr,
Yn gweld y gwegi ac yn rhegi'r nos,
Ond wedi colli gobaith am y wawr.
Dywedodd rhywun wrthyt nad oes Dduw,
Ac nad oes uffern, mai dychymyg yw
Y ddau; ond aros, dial mae y naill,
Ac yn y llall yr ydym ninnau'n byw.
A welaist ti y gwr a'i gerbyd drud
Oedd gynneu'n gyrru'n falch ar hyd y stryd?
Breuddwydiodd lawer breuddwyd tlws pan oedd
Y goleu a'r gwirionedd yn y byd.
Ond gwerthodd yntau 'i enedigaeth fraint,
Ac ar y fargen, cafodd fendith saint;
Er iddo chwerthin am eu pen, nid gwaeth-
Ni feiir twyll a ffynno, er ei faint.
Nid arddelw ef mo'i hen freuddwydion mwy
Am nad oes ddeunydd llogau ynddynt hwy;
A phe daliasai atynt, eb efe,
Buasai heddyw'n dlotyn ar y plwy.
Ond er ei uched pan lasweno'n gas,
Mae chwerwder ysbryd yn ei ragrith bas;
Os nad yw heddyw'n dlotyn ar y plwy,
Y mae er hynny'n dlotyn yn y plas.
Ond ef yw pen cymdeithas wag ei bryd,
Efe yw'r celwydd sy'n rheoli'r byd,
Gan rwymo ffyliaid anwybodaeth hurt
A chnafon ffel dysgeidiaeth oll ynghyd.
Lle bo, daw miloedd i'w groesawi ef,
A'i foli megys duw âg anwar lef;
Bydd gwŷr o grefydd a phenaethiaid dysg
Yn gymysg â gwehilion gwlad a thref.
Er son offeiriad da ac athro doeth
O hyd am galon lân a meddwl coeth,
Swm popeth a glybuwyd ydyw hyn—
Prif amcan bywyd, golud yw, a moeth.
Hydref, 1903.
MAB YR YSTORM.
FE lamodd y nos i'r wybrennau,
Lle gynneu 'roedd goleu claer wyn;
Mae'r bryniau â niwl ar eu pennau,
A tharth hyd waelodion y glyn;
Daw'r awel leddf, hir, fel uchenaid
O galon ddofn, ddistaw y coed,
A minnau, mae'r storm yn fy enaid
Yn cofio ei hoed.
Daw ysbryd y storm i gyfarfod
A minnau ar ganol y rhos;
Ymdorchodd y fellten, a'i harfod
Fel dydd rhwng dau eigion o nos;
A rhwygodd y daran yr entrych-
Rhwyg, adrwyg, llam, adlam, a su-
Chwardd dithau fy enaid pan fentrych
I ganol y rhu!
Mae'r gwynt yn y pellter yn rhuo,-
Mae'n awr yn chwibanu'n fy nghlust;
Rhag gwrthlam ei donnau, gan suo,
Daw'r glaw ar fy nhalcen yn byst;
O! wynt, tro dy donnau am danaf,
A throch fi, di law, yn dy li,
A dawnsiaf a chwarddaf a chanaf
Eich angerdd gwyllt chwi!
Mehefin, 1903.
DYN A DERWEN.
HWYRDDYDD haf, dan wybren glir odidog,
Bywyd ar ei oreu yn y fan,
Chware'r ydoedd plentyn bychan gwridog
Dan ganghennau derwen fawr y llan.
Chware wnaeth y plentyn bach nes blino,
Yna distaw orwedd ar y llawr;
Gwelodd un o frigau'r pren yn crino—
Meddai, "Faint yw'th oed di, dderwen fawr?"
Hwyrddydd haf, dan wybren glir dymherus,
Bywyd eto fyth yn llenwi'r fan,
Eiste'r ydoedd henwr yn flinderus
Dan ganghennau derwen fawr y llan.
Mawr yr oedd yr henwr wedi blino,
Distaw y gorweddodd ar y llawr;
"Ble," eb ef, "mae'r brigyn oedd yn crino?
Ieuanc ydwyt fyth, O dderwen fawr!"
Heno, huna'r henwr yno'n dawel,
Mae ei garreg fedd yn ddarnau'n awr;
Ond mae'r pren yn dawnsio yn yr awel—
Beth yw dyn i ti, O dderwen fawr!
Hydref, 1902.
Y GERDD A GOLLWYD.
[ER COF AM BEN BOWEN.]
FYRRED oedd dy fore di,
Gyhyd ydoedd gwae d'edwi!
O'i bodd, rhoddwyd calon bur,
Lân iti, o law Natur;
Oroleuni gloew Anian
Y daeth it lygaid a'i thân
Teg ynddynt; rhoed it ganddi
Gael dwy ran o'i glewder hi.
Trwy boen, fe genaist i'r byd
Ei chyfrinach, ferr ennyd,
Mal, o wisgo Mai lasgoed,
Y cân aderyn y coed.
Berr wawd y bore ydoedd,
Addaw'r haf a ddeuai'r oedd.
Ond yn ieuenctyd y dydd,
Difwynwyd haf awenydd;
Ennyd hir bu'r enaid tau
Yn ing cysgodion angau;
Ac er drwy boen grwydro byd
Heb blygu dim o'u plegyd,
Fel eryr na fo'i lorio
Er y ddart a'i briwiodd o,—
Ni pheidiai gwelw anelwig
Dynged oer, dy angau dig,
A'th ddilyn oni'th ddaliodd,
A'th fynd mewn di obaith fodd,
I'r lle bu oriau llawen
Euraid y bardd ar dy ben;
Y lle bu lliwiau bywyd
Loewaf a gwychaf i gyd;
Lle cafwyd, lle collwyd cu
Obaith, bu rhaid wynebu
Chwerw engur dawch yr angau
Ban ydoedd wybr byw'n dyddhau!
Rhoed Natur ar daen eto
Ei gwrid dros dy wely gro—
Lliw rhos dros y bedd lle'r wyd,
Gwerdd gell y gerdd a gollwyd!
Medi 18, 1903.
Y GENNAD.
[I'M MAB BACH, ARTHUR AP GWYNN, YN DDWY FLWYDD OED.]
COLLAIS fy ffordd wrth grwydro
Ymhell o'm cynefin dir;
Collais fy ffydd wrth frwydro
A'r gau sydd yn cuddio'r gwir.
O waelod anobaith llefais
Am oleu ar dynged dyn,
A'r unig ateb a gefais
Oedd adsain fy llef fy hun.
Dywedais yn flin nad ydoedd
Bywyd yn werth ei fyw,
Mai damwain oedd bod a bydoedd,
Mai breuddwyd dyn ydoedd Duw.
Chwerddais rhag gorfod wylo,
Melltithiais y byd a'i frad;
Teimlais law fach i'm hanwylo,
A llais bach yn galw "Fy Nhad!"
Gwelais ryw wawr o'r hyn ydoedd
Mor wir yn fy more iach;—
Os mud ydyw'r nef a'r bydoedd,
Mae Duw ym mhob plentyn bach!
Medi, 1904.
GWLAD Y TYLWYTH TEG.
I.
CLYWAIS son gan un a'm carai,
Ddyddiau gloewon
Ieuanc oed,
Fod y Tylwyth Teg yn chwarae,
Dawnsio'n hoewon
Dan y coed.
II.
Chwiliais hyd y dolau ganwaith,
Dan ganghennau
Derw y fro,
Gwelais hwy yn dawnsio'n lanwaith
Fan ddolennau
Lawer tro.
III.
Lawer noswaith, hir ddisgwyliais
Lle'r ymionnynt
Wedi hyn,
Ond ni welais, er a wyliais,
Un ohonynt
Yn y glyn.
IV.
Eto ceisiaf, er a fynno
Oes ddi awen
Dan ei rheg,
Ddychwel adref a chael yno
Ieuanc lawen
Dylwyth Teg!
Ion. 28, 1905.
EX TENEBRIS.
[I'M CYFAILL, D. R.]
UN hwyr, a mi yn drist fy ysbryd, crwydro
Ymhell a wneuthum, pan oedd llwyd gysgodau
Y nos à goleu dydd yr haf yn brwydro
Rhwng coed y glyn, a'r gwlith ar ddail a blodau
Fel dagrau'r dydd wrth farw ym mhlith y llwyni,
Neu berlau byw yn disgyn yn gawodau
O esgyll nos wrth daro ar glogwyni
Ysgythrog y mynyddau. Marwaidd gysgu
Yr oedd y niwl yn dorchau ar y twyni,
A'i hun à'm henaid innau yn cymysgu
Onid oedd arnaf oeraidd arswyd angau,
Fel un nad all, a'i galon yn terfysgu,
Na symud llaw na throed, er bod crafangau
Drychiolaeth erch, mewn breuddwyd, ar ei lethu.
O'r gwyll dihengais yn fy mraw, a changau
Y coed fel bysedd oerion yn ymblethu
Am danaf nes fy nal ar ddu banylau
Y llethr a ddyfal ddringwn;-mynych fethu
Yr oedd fy ngham ar eirwon serth ymylau
Y graig, a llawer llwyn a pherth i'm rhwydo
Nes cyrraedd pen y mynydd. Brych gymylau,
Fel ewyn môr gan dymestl wedi llwydo,
Uwch ben yr anial ros a ymestynnai,
A minnau rhag ei oered yn arswydo.
Nid ydoedd seren drwyddo a dywynnai,
Na chwa o wynt yn codi cwr y llenni
I ddangos imi'r ellyll a'm dilynnai.
Uniced oedd y daith! ac nid oedd genny
Un gobaith yr egorai gwawr ei dorau,
Gan faint yr ias a rewai fy ngwythenni.
Hyd ehangderau gwag y maith ororau
Y crwydrais rhwng clogwyni dig eu ffriwiau,
Duach na'r gwyll, fel adfail uthr allorau
Addolwyr meirwon rhyw drengedig dduwiau.
A'm hyder wedi mynd, a'm nerth yn pallu,
Gorweddais ar y grug o dan fy mriwiau-
A llyncodd cwsg, frawd angau, gof a gallu.
Ond pan ddeffroais, gwelais glaer oleuni
Y ser yn britho'r wybren nes fy nallu;
Ariannaid belydr oedd yn gloewi meini
Allorau teml dragywydd Tad yr Oesau;
A'r unig ros yn llawn o fyw gwmpeini
Na wybu ofn erioed nac unrhyw groesau.
Pa raid i minnau, mwy na hwy, bryderu?
Pand brodyr fi a niwl y nos, a ffoisai?
Bid dda bid ddrwg ar druan ddyn hyderu,
Tydi, a wnaeth y ser a'u rhoi i nofio
Ynglesni dwfn yr wybren, i'th ladmeru,
Pa beth, O Dad! yw dyn i ti i'w gofio?
Ionawr 11, 1905.
DAEAR A NEF.
[ER COF AM FY MRAWD, A FU FARW YM MLODAU
EI DDYDDIAU, TACHWEDD 13, 1905.]
HIR wyliai chwaer, un noswaith ddu,
Wrth wely angau brawd;
Un arall yno yn gwylio a gaid
Nas gwelai llygaid cnawd.
O bang i bang, gwanycha'i gwyn,
Eu dwyn yn hwy ni all;
"Mae'n myned "ebr y drist ei gwedd,
Mae'n dyfod" medd y llall.
Un cryndod hir, un isel nâd,—
Dduw dad, lonydded yw!
Medd merch y ddaear "Marw yw ef!"
Medd merch y nef "Mae'n fyw!"
CARIAD.
Tanto gentile e tanto onesta pare, &c.
(La Vita Nuova," Dante).
MOR fwyn a glân fy Rhiain pan oblygo
Ei phen i gyfarch arall, fel y tery
Bob tafod cryn yn fud, ac fel na phery
I syllu arni lygad, o rhyfygo;
Mynd y mae hi gan glywed a'i hedmygo,
Yn ŵyl, a gwisg ufylltod arni ery;
Fel un a ddaeth i'r ddaear i ladmeru
Rhyfeddod nef; pwy bynnag a'i golygo,,
Larieiddied ydyw hi fel nad all beidio
I'r galon, drwy y golwg, à defnynnu
Mwynhad y rhaid ohono gyfranogi
Cyn ei adnabod ef; o'i gwedd, ysgogi
Mae ysbryd mwyn, llawn cariad; gan dywynnu,
Cyfarcha'r enaid "Boed it ucheneidio!"
Gorffennaf, 1904.
PENMON.
[I'M CYD BERERIN, W. J. G.]
ONID hoff yw cofio'n taith
Mewn hoen i Benmon unwaith?
Odidog ddiwrnod ydoedd,
Sul uwch yr holl Suliau oedd;
I ni daeth hedd o'r daith hon—
Praw o ran pererinion.
Ar eillt Mon 'roedd emrallt Mai,
Ar ei min, aerwy Menai
Ddillyn yn ymestyn mal
Un dres o gannaid risial.
O dan draed 'roedd blodau'n drwch,
Cerddem ym mysg eu harddwch;
E fynnem gofio'u henwau
A dwyn o'r tecaf, ill dau,
O'u plith, ond nis dewisem—
Oni wnaed pob un yn em?
Acw o lom graig clywem gri
Yr wylan, ferch môr heli;
Hoew donnai ei hadanedd
Llyfn, claer, fel arfod llafn cledd;
Tröai yn uchter awyr,
Saethai, hir hedai ar ŵyr;
Gwisgi oedd a gosgeiddig
Wrth ddisgyn ar frochwyn frig
Y don, a ddawnsiai dani;
Onid hardd ei myned hi,
Falch hoewgorff ar fylch eigion,
Glöyn y dwfr, glain y don!
A'r garan ar y goror
Draw ymhell, drist feudwy'r mor;
Safai'r glaslwyd freuddwydiwr
Ar ryw dalp o faen, a'r dwr,
Gan fwrw lluwch gwyn ferw y lli,
O'i gylch yn chware a golchi;
Yntau'n aros heb osio
Newid trem na rhoi un tro;—
Gwrandawr gawr beiston goror,
Gwyliwr mud miraglau'r môr!
Cyrraedd Penmon, ac aros
Lle taenai'r haf wylltion ros
Ar fieri mor firain,
A gwrid ar hyd brigau'r drain.
Teg oedd y Mynachty gynt;
Ymholem am ei helynt,
Ac o'r hen bryd ger ein bron
Ymrithiai'r muriau weithion.
Berth oedd waith ei borth a'i ddôr,
A'i dyrau cain main mynor;
Nawdd i wan ei neuadd o,
Glanwaith bob cuddigl yno.
Heibio i'r fron 'roedd llwybr fry,
A meindwr y clomendy
Yn esgyn mor flaen wisgi
O drwch coed aeron di ri,
Lle yn echudd llwyn uchel
Y caid y pysgodlyn cel.
Ar y ffin 'roedd oer ffynnon,
Dwr gloew o hyd dreiglai hon,
A'i flas, o ryw felus rin,
Oedd wobr i'r ddau bererin.
Ac yna bu ryw gân bêr,
Ymhen ysbaid, mwyn osber;
Cywirgerdd clych ac organ,
Lleisiau côr yn arllwys cân
I lad nef, gan Ladin iaith;
Ond er chwilio'r drych eilwaith,
Mwy nid oedd namyn y dail
Prydferth hyd dalpiau'r adfail,
A distawrwydd dwys, tirion-
Mwy ni chaem weld myneich Mon!
Hydref 24, 1906.
YR HYDREF.
GWELAIS fedd yr haf heddyw,—
A'r wydd a dail, hardded yw
Ei liwiau fyrdd, olaf ef,
Yn aeddfedrwydd lleddf Hydref!
Ar wddw hen Foel Hiraddug
Barrug a roed lle bu'r grug;
A thraw ar hyd llethr a rhos,
Mae'r rhedyn fel marwydos
Yn cynneu rhwng y conion
A than frig eithin y fron.
Rhoddwyd to o rudd tywyll
Ag aur coch hyd frigau'r cyll;
Mae huling caerog melyn
Wedi cau am fedw ac ynn;
A'r dail oll fel euraid len
Ar ddyrys geinciau'r dderwen.
Ba wyrth ar y berth eirin
A fu'n rhoi gwawr ddyfna'r gwin,
A rhudd liw gwaed ar ddail gwydd
Gwylltion a drain y gelltydd?
Ai gwaed yr haf, gwedi'r hynt,
Roe ef, drist Hydref, drostynt?
A daflodd hyd fil o ddail,
Gawod dros goed a gwiail,
O aur yr haf ir, a rhin
Ei flasus, rudd felyswin?
Edrych, er prudded Hydref,
Onid hardd ei fynwent ef?
Tros y tir, os trist ei wedd,
Mor dawel yma'r diwedd!
Nid rhaid i Natur edwi
Yn flin neu'n hagr fel nyni;
Onid rhaid Natur ydyw
Marw yn hardd er mor hen yw!
Hydref, 1906.
BARDD A BYWYD.
CAI'R bardd ei hen lawenydd,
Byw dan yr haul, bod yn rhydd,
A di ball wynfyd bellach—
O chai wir ffawd a chorff iach!
Llawen fâi'r awen a rhydd
Trwy lwyni, hyd rhyw lennydd,
Yn y lle y cai yn llon
Drwsio'i gwallt a rhos gwylltion;
Crwydro lle carai; edrych
Dilin aur banhadlen wych,
Aur a saif uwch pris hefyd,
Tlysach nag aur banciau'r byd!
Draw yn nheg dir unigedd
Cai bur hoedl, cai braw o hedd
Llwyn, mynydd, llyn a mawnog,—
Bro wen cornchwiglen a chog.
Gan nwyf cai ganu afiaith
Beunydd hyd y mynydd maith;
Gweled ymhell a gwyliaw
Drum ar drum yn codi draw;
Bedwen neu griafolen fal
Arglwydd hen ar glawdd anial,
Er gwaethaf gaeaf, a gwynt
Ar ei drystiog ruthr drostynt.
Im mae hiraeth am aros
Yn y grug ar unig ros,
A'u gwyliaw pan fo'r awel
Araf yn eu gwyro fel
Gwyrdd donnau; gorwedd danynt,
A chlywed brwyn gŵyn y gwynt,
Ail rhyw su ddolurus, wan,
A grygai o hir igian,
O bang i bang, oni bo
Ebwch ail beichio wylo;
Wylo fel y sawl a fai
Mewn cur am un a'i carai;
O! daered yw ei hiraeth,
Nid unwae'r drist don ar draeth
Pan sugno'i gwae y graean
I'w dwfn lwnc hyd fin y lan;
Eithr yngrûg uthr eang ros,
Swn hiraeth mwy sy'n aros,—
Gwanc olaf eigion calon,
Ag ing hir rhag angau hon;
Hiraeth yw na thraethai iaith,
Ac a leinw a'i clyw unwaith.
Gwae na bae gwiw ein bywyd,
Rhy ofer ef ar ei hyd!
Onid oes well a phellach,
Ynfyd yw ein bywyd bach,
Ebr wynebwr anobaith,—
Eithr hyder, pand ofer waith?
Ein diben, er a dybiwyd
Gan feirdd, cael digon o fwyd
Ydyw, fyth, dros ennyd fer
A phoenus; pan orffenner,
Cawn fedd fel ein gwehelyth—
Dyna ben am dani byth!
A'r bardd, er dibrisio'r bwyd,
Rhyw fyw 'roedd ar ei freuddwyd;
Er gwychion ddychmygion mawr,
"Nid yw einioes ond unawr, "—
Trwy ing pan fyddo'n trengi,
Ni fydd gwell na'i ufudd gi!
Mehefin, 1905.
BYWYD AC ANGAU.
Solvitur acris hiems grata vice veris et Favoni, &c.
[Hor. Car. IV. Lib. I.]
TODDI mae caled aea
Yn chwyl mwyn gwanwyn a'i chwa;
Weithion, âg offer gwthir
Llongau i'r tonnau o'r tir;
Ni chilia ych i'w loches,
Ni thrig yr arddwr wrth wres
Ei dân beunydd; gweunydd gan
Lwydrew ni chlaer belydran.
Yn awr o dan y lloer dêr,
Ei llu a gynnull Gwener;
Grasau cain, fe'u harwain hi,
A llon dduwiesau'r llwyni;
Ac yno'n gôr lle canant,
Dawnsio bob yn eildro wnant.
Fwlcan yntau'n cynneu cel
Danau 'i ofaint yn ufel..
Iawn waith coroni, weithian,
Bennau a thalcennau can
A daily myrtwydd, neu deg
Flodau, wrth gyfle'u hadeg.
Ac wedyn i Dduw'r Coedydd,
Aberth fo dan gysgod gwŷdd,
Oen, os oen a ddewis o,
Neu fyn, os myn a fynno.
Undrawd fydd Angau hendrwm
Yn nhŵr y llawn, yn nhy'r llwm;
Nid oes fudd, ni âd oes fer
Ar adeg hir roi hyder.
Daw'r ddunos chwith a'r rhithion
Y sydd â chymaint o son
Am danynt; daw mud annedd
Pluto i wywo dy wedd;
Unwaith y delych yno,
Ni'th rydd y ddis yn ei thro
Yn rhi y gwin; rhoi gweniaith
Ni chei, pan fych yno, chwaith,
I'r wyneb glân a daniai
Fab neu fun, bob un, lle bâi.
SERCH A SIOM.
Quis multa gracilis te puer, &c.
[Hor.Car. V. Lib. I.]
BA fwynaf fab, O feinir,
Hoew, glân, dan bêr arogl ir,
Dan frig llwyn sy'n d'orllwyn di—
Llannerch â rhos i'w llenwi?
Er rhoi tâl i bwy'r wyt ti
Yn trwsiaw'th euraid dresi
A'u rhwymo hwy mor wiw, mal
A deheufedr di ofal?
Och! ba mor fynych y bydd
Ei gwynfan ef pan genfydd
Droi'th air rhydd yn gelwydd gau,
A dianc ffafr y duwiau!
Ac ef (gan nas gwybu gynt)
Uthr olwg gantho'r helynt,
A llu y gwyntoedd duon
Ar y môr yn digio'r don.
Ehud a'th fedd di heddyw
Yn fawr dy werth, a'i fryd yw
O'th fodd barhau i'th feddu
Fyth heb ffael, a'th gael yn gu,
Heb ganfod ynod unawr
Ystorm wyllt dy ffalster mawr!
Gwae ef a'th welo hefyd,
Heb iddaw braw, 'n lân dy bryd!
Ar y mur o'r ystorm hon
E roddais i arwyddion
I minnau offrwm unwaith
Yn y lle huganau llaith;
Yn ei dy, adduned oedd
O ddwr mawr, i dduw'r moroedd!
HEDDYW AC YFORY.
Tu ne quasieris, scire nefas, &c.
[Hor. Car. XI. Lib. I.]
WEN deg, na ymofyn di
(Nid iawn ei wybod ini)
Pa union dymp i ni'n dau
A adawodd y duwiau,
Na wna yn ol swynion neb
Iti i geisio ateb.
Diau, pand gwell, yn dawel,
Ei ddwyn, beth bynnag a ddel!
O rhoes Iau aeafau hir
In, ai'r ola'n awr welir
Yn hyrddio nes darnio'r don
Ar wag ogofau'r eigion.—
Dithau, dwg win, bydd doethach,
A'th hyder fo wrth d'awr fach;
A ni'n ymddiddan, einioes.
Wael, i ffwrdd o'n gafael, ffoes;
Rhodder dy gred ar heddyw,
Na chred drannoeth, anoeth yw!
Y PENNAETH.
NID wn i ba enw a ddygai,
Eto gwn mai llym ei gledd,
Gwn ei fod yn wr na phlygai-
Gwelais uchel fan ei fedd.
Trigai ef ynghartre rhyddid
Yn ieuenctid pell ei dras;
Heliai beunydd hyd ei rosydd,
Cysgai ar ei glogwyn glas.
Gwyddai arfer pob aderyn,
Ac adwaenai gân pob un,
Hoffai wrando ar eu canu
Oni ddysgodd gân ei hun.
Fel y gwynt yn rhydd y rhedai
Ac y crwydrai fryn a glyn,
Rhyfedd ganddo oedd a welai
Ar y teithiau unig hyn.
Dysgodd ef i'w deulu garu
Swyn y gân a'r rhamant ddrud,
Ac yngwythi meibion Cymru
Treigla'i waed yn fyw o hyd.
Carai grwydro hyd y mynydd,
Crwydro, crwydro, yma a thraw,
Yngoleuni'r haul ysblennydd,
Ac yngwyll y niwl a'r glaw.
Mawr y carai wawr y bore
A goleuni glân y dydd,
Cryf y carai'r gwyll a ddygai
Hiraeth am y pethau cudd.
Clyw-wyd llefau yn y dyffryn,
Tiriodd gelyn yn y wlad;
Tua'r fan y rhuthrodd yntau
Mal un gwrdd, ym mlaen y gad.
Cafwyd ef ar faes y brwydro,
Pryd nad byw un gelyn mwy;
Briw ei ysgwyd oedd, a granwyn,
Mud, a'i fwyall lem yn ddwy.
Dygwyd ef i ben y mynydd,
Yno dodwyd ef i lawr;
Yno lle rhoed ef i orwedd,
Codwyd arno garnedd fawr.
Yno cysgodd ef, y pennaeth,
Yno cwsg mewn bythol hedd,
Yno a'r gwynt a'r glaw a'r goleu
Fyth yn chware ar ei fedd.
HWYR YN YR HYDREF.
AETH haul i lawr gan liwio'r Eifl à thân,
A throi gwanegau'r mor yn arian byw;
Ar Eifion, dylif o dawelwch syw
A roes, a thano gwridodd Mon yn lân.
Ond ar Eryri yr oedd mantell orm
A dduai fel yr ai yr haul i lawr;
Mae Eifion weithian wedi newid gwawr,
Ac araul Fon yn duo rhag y storm.
Mae awel leddf yn suo drwy y coed,
A dafnau'r glaw oddiar ei hadain hi
Yn disgyn heno ar fy wyneb i,
A'r dail yn crynu'n ofnus wrth fy nhroed.
MAI.
O! NA bai ddiben ar y glaw,
A'r wybr yn esmwyth ac yn las;
O! nad ai wynt y gaeaf draw,
A throi o'r ddaear lom yn fras!
O! na bai'r coedydd oll yn wyrdd
Gan fywyd mis y misoedd, Mai,
Ac na bai ros ar lwyni fyrdd
Sy heddyw'n oerion, lymion rai!
O! na bai'r adar mân i gyd
Yn canu eto megys cynt,
Pan oeddit ti a minnau hyd
Y meusydd hafaidd ar ein hynt!
O! na baem ninnau heno draw
Lle tyf y blodau gwylltion fyrdd,
Yn rhodio'n hapus law yn llaw
A'r haul yn rhuddo'r eigion gwyrdd!
O! na baem lle bai ros y llwyn
Yn gwenu ar friallu'r ha,
A blodau'r drain o dwyn i dwyn
Yn wynnach na'r disgleiriaf ia!
O! na ddoi ein hieuenctid ni
Yn ol, fy nghariad, megys cynt,
Pan lawen grwydrit ti a mi
Y meusydd hafaidd ar ein hynt!
Y GADLEF.
GWYLIWN ein gwlad!
Y mae gelyn yn y glyn;
Arfau trais a brad
Sy'n tyrfu dros y bryn.
Clywn ar eu broch,
Dacw elyn ar y bryn,—
Dos a galw yn groch—
Nid oes galon a gryn!
Arthur! a ddaw
Ar ein gwartha ryw ddydd.
Na bo na llaw
Na neb in a'u lludd?
"Na ddaw," medd llais
"Er a fo o glais, tra fo gledd
I ymroddi dan får
Am ryddid neu fedd!"
Dylifant drwy y coed,
Dolefant draw a'u cyrn,
Ar adain y chwa
Eu twrw ehed yn chwyrn.
Dyrifau a Chywyddau.
O! deffro, hen gledd,-
Mae y dyffryn glân
Is carnau eu meirch
Yn ysgyrion mân!
Owain! a ddaw
Ar ein hanes ni ddydd
Na bo na ilaw
Na neb in a'u lludd?
"Na ddaw!" medd llais
O waelod y bedd,
"Bri a chadw ein gwlad
Tra fo braich a dynno gledd!"
Eofn herio maent
Ein holl faneri mwy,
Pwy a drydd y gad
Rhag eu hamled hwy?
Clywch! dyna'u trwst,
Ond nid awn dan eu traed,
Heno hun eu llu
Yn eu gwely gwaed!
"Heno!" medd llais
O waelod y bedd,
"Bri a chadw ein gwlad
Tra fo braich a dynno gledd!"
ENID.
O! F'ANWYL, anwyl Enid,
Gwresoga fy nghalon i,
A deffry'r hen serch cynhenid
Wrth weled dy wyneb di.
Mor anial a fu'r blynyddau
Dreuliasom ni ar wahan;
Mor unig ac oer a'r mynyddau
Dan amdo yr eira mân.
Mor unig a'r mynydd bannaf,—
Mor oeraidd, fy Enid dlos,—
Dan amdo yr eira cannaf,
A duaf len elor y nos!
Mi gofiaf y noswaith gyntaf
Y gwelais dy wyneb di,—
Pan deimlodd fy nhynged fryntaf
Chwyrn guriad fy nghalon i.
Dy dâl fel od gaeafol,
A'th lygaid fel ser yn gain,
A'th rudd fel grawn y criafol
Yn gymysg a blodau'r drain.
Ond O! fe gyffroes ein tynged
A chreulon wahanodd ni;
Pa bryd y bu ofid cyn flynged
I serch mor hoff a'n hun ni?
Heibio ymlusgodd blynyddau,
Yn brudd a di gysur ac oer,
Megis y nos dros fynyddau,—
Dunos heb seren na lloer.
Ond bellach mae'r nos wedi darfod,
Aeth gaeaf ein serch ar ei hynt;
Gwn y doi di i'm cyfarfod
Cyn llonned a'r dyddiau gynt!
AWR FERR.
I WYLIO niwl y nos
Yn hel yn hulin hir
Ar waen a rhiw a rhos
A llwyn a thwyn a thir,
Un hwyr eisteddem ni
Gerllaw i gwrr y llwyn,
Eilun fy nghalon a mi—
Ryw ferr awr fwyn!
YN YR HYDREF.
MAE y glaswellt wedi llwydo,
Marw yw myrddiwn dail y coed,
Rhag y gwynt, fel pe'n arswydo,
Crynant dan fy nhroed.
Disgyn mae y glaw, a chwyno
Mae y gwynt ym mrig y nos;
Llwydrew Hydref sy'n difwyno
Wyneb natur dlos.
Goleu llwyd sydd yn yr awyr
Lle bu oleu disglair gynt;
Blodau meirwon, mae eu sawyr
Heno yn y gwynt.
Euthum tua'r lle bai Llio
Yn fy nisgwyl ddydd o haf,
Drwy y coedydd noethion, crio
Roedd yr awel glaf.
TIR IEUENCTID.
GWAE fi na fedrwn ganu megys cynt
Gerdd afiaith fy ieuenctid fel y bu,
Cyn bwrw o'm tynged i ei chysgod du
Yn llain na chyfyd, draw ar draws fy hynt.
Pei medrwn, canwn eto lawen gerdd,
A dodwn yn ei gwythi beth o'r gwin
A yfais innau à sychedig fin
Fel Trystan gynt ar frig y weilgi werdd.
Eithr heno, du yw tonnau'r môr i mi,
A llwyd yw'r ewyn ar eu brigau draw—
Ond tyrd fy Esyllt innau! dyro'th law,
A chanaf fel y cenais gynt i ti!
Am unwaith eto dyred gyda mi
I Dir Ieuenctid, lle mae "hendre werdd "
Dy gariad di a minnau,—canaf gerdd
Y bore unwaith eto gyda thi!
O Dir Ieuenctid! gartre hud, lle mae
Y Tylwyth Teg hyd heddyw fel erioed
Yn dawnsio'r hwyr yn gylchau dan y coed,
Heb ofni gwg na theimlo poen na gwae.
Mae'th goedydd yn ymestyn ar bob llaw
A'u ceinciau fyth dan gnwd o iraidd ddail,
Fel gwlanog gnufau'n hofran yn yr haul,
Neu grugau o gymylau di ben draw.
Gad ini dreulio yno ddim ond awr
Ymhell o swn a thrafferth byd a'i boen,
Daw ini beth o'r hen golledig hoen
A wel y rhai sy a'u golwg at y wawr.
MERCH Y BUGAIL.
MAE'TH dresi cyn felynned
A blodau banadl ha,
A'th fynwes di cyn wynned
Ag oered ag yw'r ia.
Mae'th ddeurudd cyn wridoced
A'r rhosyn cocha 'rioed,
A'th galon cyn llidioced
A'r hydref yn y coed.
Mae'th fin di gyfliw mefus
Addfeta'r heulog fron,
Ond nid oes neb a lefys
Gusanu'r wefus hon.
Mae'th lygaid di cyn lased
A blodau cegid y brain,
A'th eiriau di cyn gased
A'r pigau ar y drain.
Mae'th rodiad mor osgeiddig
A phe bait iarlles, di,
A llawer rhwyf yn eiddig
O gariad ati hi!
ATGOF.
WELE nos welw yn nesu,
Daw yn ddwys a'i hadain ddu;
A haul i'w wely heli,
A daw'r lloer i wrido'r lli;
Wylo'n rhydd drwy lwyni rhos
Wna'r awel; cwyna'r eos
Mor groew ym mrig yr ywen.
A dyf fry uwch gwely Gwen.
GWENONWY.
DISGYN hyd lethrau
A bronnau y bryn
Mae ef tua'r gad
Dros ei wlad yn y glyn.
Disgwyl ar lan
Brudd a llonydd y llyn,
Mae hi dan ymgroesi
A'i hwyneb yn wyn.
Gwenonwy!" medd ef,
"Goronwy!" medd hi,—
A gwadu eu holl iaith
Mae eu llygaid lli.
Iaith calon wrth galon
Yn unig yw,
Heb lunio 'rioed air
Ac heb dorri ar glyw.
Ni ddysgir mohoni
Mae hi yn reddf;
Ac nid anghofir—
Hi a dyf yn ddeddf.
Mae hi fyth yn ifanc,
Mae hi fyth yn hen,
Mae gwae yn ei gofid
A gwynfyd i'w gwên.
Nis gall ac nis gwyr
Ond y serchog a'r pur,
Mwy erddi fydd cariad,
Llai erddi fydd cur.
"Gwenonwy!" medd ef,
"Goronwy!" medd hi,
A gwadu eu holl iaith.
Mae eu llygaid lli.
Mor arw ydyw rhuad
Y gad yn y glyn,
Mor drist ydyw wyneb
Y rhiain a'r llyn!
Mae'r nos ar y maes
Lle bu'r gad yn y glyn,
A gwag ydyw'r castell
A llwyd ydyw'r llyn.
DAFYDD AB EDMWND.
(COLLODD TRIGOLION HEN ARDAL DAFYDD AB EDMWND EU CYMRAEG AC NI WYDDANT DDIM AM EI WAITH NA'I ENW).
GARUAIDD dad melysaf freugerdd dyn,
A didlawd feistr ei delediwaf iaith,
Pan roddit dro, a'r fro gan Fai yn fraith,
Hyd las y lawnt lle bâi dy lusael un,
I'w bagad ros tebygud rudd y fun,
PA'i hwyneb i od unos mynydd maith;
Neu, frig yr hwyr, a'r gaea'n llwm a llaith,
Ba lys di ail a fâi dy blas dy hun!
Datganai dy ddisgyblion wrth y tân
Y feddal gerdd a fyddai ail y gwin,
A gwŷr a wyddai gamp y tannau mân
Yn bwrw o'u bysedd bob rhyw ryfedd rin;
Tithau, aur enau'r iaith, pan genit gân,
Fel osai per diferai dros dy fin.
A niwl yr hydref oer yn hulio'r tir,
A'r glaw'n fân leiniau cain hyd lwyni coed,-
A chalon drist ag anghynefin droed
Ar hyd ryw nawn bum innau'n crwydro'n hir
Gan holi plant y wlad am danad; dir
Na wybu'r rhain dy fyw'n y bau erioed,
A chan yr athro uniaith bach ni roed
Un wers o'th hanes, fab yr awen wir;
A mud yw yntau, oed, am danat ti,
Ni wyddai air am dy neuaddau hen;
Ni wybu'th fyw erioed, ni chlybu'th fri
Ar dafod gwlad-collodd ei lafar lên;
Nid eiddo ddoe ei dras na'n heddyw ni,
Ond bratiog estron iaith a thaeog wên!
Hydref, 1908.
MOR Y NOS.
EIGION a thir sydd agos
A throi yn un aruthr nos,
Ond trwy dawch y pellter du,
Gwel waneg yn gwelw wynnu,
Mal gwen wawr ymhlygion nos
Yn torri, gan chwant aros;
Hoew y naid ei hewyn hi
I'r lan, fel rhyw oleuni;
Rhithiol daen, fel erthyl dydd,
Ban dyffo, a buan diffydd,
Ond tragywydd trig ewyn
Mor y nos, er marw, yn wyn;
A'r düwch oer mor dawel
Hyd y fan i'w orfod, fel
Pe dwedai ef: "Paid, y don,
Ferw ddadwrdd, â'th freuddwydion;
Am oriau dydd ymaros,
Duw gwyll ni âd golli nos!"
Ionawr, 1910.
CERDDI DOE A HEDDYW.
I.—CERDDI DOE.
I.—MERCH YR IBERIAD.
I HELY aeth mab y Brython un dydd,
A chrwydrodd ymhell o dŷ ei dad;
Ar ol ei gŵn ar drywydd yr hydd,
Cyrchodd y wyllt anghyfannedd wlad.
A'r haul yn uchter y nef, e ddaeth.
I lannerch werdd ynghanol y coed,
A sefyll yno dan lwyn a wnaeth—
Ni welsai fangre decach erioed.
Teg oedd y dail a'r blodau i gyd,
Glân oedd y mwsogl aur dan droed,
Ond tecach y ferch a safai'n fud
Dan fedwen arian ynghwrr y coed.
Du oedd ei gwallt fel cwmwl y nos
Pan na fo seren ar faes y nef,
A thonnog megys merddwr y rhos
Pan grycho awel ei wyneb ef.
Gloewddu a dwfn oedd ei llygaid hi,
Llygaid a welai freuddwydion syn;
Ei thâl cyn wynned ag ewyn lli,
A'i mynwes megys yr eira gwyn.
A'r Brython eto'n ei gwylio'n fud,
Canu yn beraidd a wnaeth y ferch,
A theimlodd yntau ryfeddol hud
Ei chân, a'i galon yn glaf o'i serch.
Mynnai y Brython ei dal a'i dwyn
Adref yn wraig iddo ef ei hun;
Neidiodd yn hoew o gysgod ei lwyn—
Hoewach i'r coed y neidiodd y fun.
Chwiliodd yntau am dani yn hir,
A gwelodd hi'n dringo'r clogwyn fry;
Clywodd ei chân yn groew ac yn glir
Fel y diflannai mewn ogo ddu.
Ac ae y Brython beunydd ei hun
I'r llannerch werdd dan glogwyn y rhos.
I ddisgwyl eto weled y fun
Ag wyneb y dydd a gwallt y nos.
Clywodd ei chanu, megys o'r blaen,
Mynych y gwelodd hithau ei hun
Fry yn ei wylio ynghysgod maen,
Ond, o symudai, diflannai'r fun,
Safodd ar odre y clogwyn mawr
Un dydd, a phan ddaeth, cyfarchodd hi:
"Riain y mynydd! dyred i lawr,
Tecach na merched y glyn wyt ti!"
Atebodd hithau o ben y maen
(Mwyn oedd ei llais fel murmur y lli):
"Fab y gwastadedd, dyred ymlaen,
Cryfach na meibion y graig wyt ti!"
"Dyred, mae gennyf, riain y bryn,
Wartheg a meirch yn y glyn is law";
"Mae gennyf finnau, bennaeth y glyn,
Ddefaid a geifr hyd y creigiau draw."
"Dyred i'm canlyn, tecach wyt ti
Na'r fun wallt felen a'r llygad glas!"
"Gwae fi pe down ar ei chyfyl hi—
Mawr yw ei chariad, mwy yw ei chas!"
"Gwae a fo gas wrth a garwyf fi,
Deffro fy nghleddau, nid oes a'i baidd!"
"Creulon a llym ydyw'th arfau di,
Garwach eu brath na dannedd y blaidd!"
"Creulon a llym yw fy arfau i,
Eto er garwed eu brath yn awr,
Pyled eu min cyn dy daro di,—
Riain y mynydd, dyred i lawr!"
"Fab y gwastadedd, pe deuwn i,
Beth gyda thi a fyddai fy myd?"
"Priod y pennaeth a fyddit ti,
Pen ar rianedd y llys i gyd."
"Hardd yw dy rodiad ar draws y bryn,
Cryfach wyt ti na meibion y graig!"
"Tecach dithau na merched y glyn,
Riain y mynydd, bydd imi'n wraig!"
"Priod y pennaeth a fyddaf fi,
Pen ar rianedd y llys i gyd,
Ond os ag arf y'm cyffyrddi di,
Mwyach ni'm gweli er chwilio'r byd!"
A dug y Brython yn llon ei wedd
Ferch yr Iberiad i lys ei dad,
Lle bu yn arglwyddes llawer gwledd,
A'i chanu yn swyno gweilch y gad.
Un dydd i hela'r hydd ar y rhos
Aeth y Brythoniaid o lys y glyn,
Y rhi ar farch cyn ddued a'r nos
A'i wraig i'w ganlyn ar balffrai gwyn.
Cododd yr hydd a chanwyd y cyrn,
A'r arglwydd, tynnu ei fwa a wnaeth,
Oni chyffyrddodd wrth droi yn chwyrn.
Law ei arglwyddes à blaen y saeth.
Clywsant y ddolef dristaf erioed,
Ac yna gwelwyd y palffrai gwyn
Draw yn carlamu, ac yn y coed
Collwyd yr olwg ar ferch y bryn.
Chwiliodd y pennaeth yn hir ei hun
Drwy goed y glyn, hyd fynydd a rhos,
Ond mwy ni welodd llygad y fun
Ag wyneb y dydd a gwallt y nos.
Pan wylai y plant am weld eu mam,
Rhyw ganu trist a glywai y tad—
"Gwylia fy merch rhag gofid a cham,
A chadw fy mab rhag perygl y gad!"
II.—CARADOG.
HYD ystrydoedd dinas Rufain
Tyrra lluoedd gyda'r wawr;
Gwelir wrth eu gwisg a'u crechwen
Ddyfod rhyw ddiwrnod mawr.
Dros y môr yn nhir y Brython,
Hir a chyndyn ydyw'r gad;
Ond lle methodd grym a gwryd,
Lluniodd ystryw benyw frad.
I fodloni nwydau'r dyrfa,—
Boblach o bob llun a lliw,—
Dygir heddyw'n garcharorion
Rai a fu elynion gwiw.
Pennaf o'r gelynion hynny
Oedd Caradog, borth ei wlad;
Nid oedd a safasai rhagddo
Cyd buasai deg y gad.
Trechodd am flynyddau meithion
Lengoedd Rhufain dro ar dro,
Brad a'i daliodd yn y diwedd—
Parth y bâi ni byddai ffo.
Wele'r milwyr yn ymdeithio
A'u baneri yn y gwynt;
Yn eu canol mewn cadwynau
Mae a fu benaethiaid gynt.
Cerdded maent yn drist eu golwg,
Ond mae acw yn eu mysg
Un a gerdda'n frenin eto,
Er y gadwyn drom a lusg.
Cenfydd hithau, 'r dorf Rufeinig,
Mai efe yw'r gwr fu gynt
Yn gwasgaru ei byddinoedd
Fel y dail o flaen y gwynt.
Meddant: "Dacw ef, y Brython!"
Yna llefant am ei waed;
Ond ni syll y Brenin arnynt
Mwy na'r llwch o dan ei draed.
Dygir ef i'r llys odidog
Lle mae mawrion fwy na mwy,
Oll yn disgwyl am ei weled.
A'r ymherawdr gyda hwy.
Yna erchir iddo blygu
I'r ymherawdr ar ei sedd;
"Beth!" ebr ef, a'i law yn ofer
Chwilio lle bái carn ei gledd.
"Plygu iti?" eb Caradog,
"Nid tydi ar faes y gad
Aeth a'r dydd, a daliwyd finnau,
Nid trwy frwydrau, ond trwy frad.
"Od wyt ti yn frenin Rhufain,
Brenin finnau fel tydi;
Ac anrhydedd fy hynafiaid
Dewrion, nis difwynaf fi!
"Yn fy ynys, ar genhedloedd.
Lawer y teyrnaswn i,
Ac nid gormod gennyf ymladd
Drostynt yn dy erbyn di.
"Yn dy wychter mawr a'th gyfoeth,
Ba ryw beth a fynnit ti?
Gwael it geisio dwyn ein hynys
Fechan oddi arnom ni!
"Rhyddid, onid gwerthfawr ydyw
Hwnnw yn dy olwg di?
Rhyddid, gwerthfawroced ydyw
Hefyd yn ein golwg ni.
"Dygaist fi'n garcharor yma,
Gelli'm lladd, os mynni di;
Eto, gwybydd, brenin ydwyf,
Ac nid byw a'm plygo i!"
Ac nid allodd pennaeth Rhufain
Lai na theimlo'r ennyd hon
Fod yn sefyll mewn cadwynau
Yno Frenin ger ei fron.
"Dygwyd di'n garcharor yma,"
Meddai, "ond ni'th laddaf i,
Canys gwn mai Brenin ydwyt,
Cei dy ryddid yma, di!"
III.—ARTHUR GAWR.
MAE galar drwy Ynys Brydain,
Nid dewr y gelyn, ond bas,—
Gwenwyn yn nwfr y ffynnon a roed,
Ac Uthr Bendragon a las.
O goedydd duon y gogledd,
Onentydd dyfnion y de,
O'r dwyrain llyfn a'r gorllewin llwyd
Daw'r gri "Pwy a leinw ei le?"
Prysur y cyrch y penaethiaid
Gaer Ludd o gyrrau y wlad,
I ddewis unben Prydain a rhoi
Y goron i lyw y gad.
Daw rhai o dueddau'r gogledd
A'u gwisg yn felyn a glas,
Fel blodau'r banadl a dail y pin,
A'u canlyn mae llawer gwas.
O diroedd y de daw eraill,
A'u gwisg yn goch ac yn ddu,―
Coch fel y gwaed a du fel y nos,—
A'u canlyn hwythau mae llu.
Daw eraill o du y dwyrain,
A'u gwisg yn wineu a rhudd,
Gwineu a rhudd fel gwenau yr haul
O'r dwyrain ar doriad dydd.
Daw llawer o du'r gorllewin,
A'u dillad yn wyrdd a gwyn,
Gwyrdd fel irddail hyd lwyni yr haf,
Gwyn fel ôd gaeaf ar fryn.
Ond ofer cymeryd cyngor
Nid yw'r penaethiaid gytûn;
Gwych gan bob un pe gallasai ef
Ennill y goron ei hun.
Dair gwaith bu gyfarfod a chyngor,
A theirgwaith oferwaith fu,
Ac yna y dywed Myrddin air,
A doeth oedd, ym marn y llu.
"Gosteg benaethiaid," eb Myrddin
"Mawr yw caledi ein gwlad,
A'r gelyn du yn anrheithio'r tir,
Pwy a fydd flaenor y gad?
"Bydded i chwi yr offeiriaid
Heno weddio ar Dduw
Ar roddi ohono arwydd gwir
Pwy a fydd ini yn llyw.
"Ac yno dewiswn hwnnw
A thyngwn yn enw'r ffydd
Y mynnwn drechu y gelyn traws,
A chadw y deyrnas yn rhydd."
Gorffwys a wnaeth y penaethiaid
Bob un ar ei darian gref,
A'r gwŷr o grefydd a'u gweddi'n daer
Ar Dduw am ei arwydd ef.
A threiglodd y noswaith honno
A cherdded ei horiau'n hir,
A phawb yn disgwyl am wawr y dydd
I ddangos yr arwydd gwir.
Ac weithian, dyfod mae'r drudion
A'r wawr ar eu harfau'n glaer;
A daw'r offeiriaid o'r eglwys draw
Yn araf at borth y gaer.
Ar lawnt agored y castell,
Saif maen megys darn o fur,
Ag eingion dur ynghanol y maen,
A chledd hyd ei garn yn y dur.
Y mae ar y maen ysgrifen,
Ysgrifen aur ydyw hi:-
"A dynno'r cledd o ganol y dur
A fydd ar yr ynys ri."
I geisio ei dynnu, dyfod
Mae enwog a chedyrn wŷr,
Ond nid oes un a all lacio'r llafn
Ynghanol yr eingion dur.
Brenhinoedd gogledd a deheu,
Gorllewin a dwyrain dud,
Ceisiant yn ofer, a throant draw
A siom ar eu gwedd i gyd.
A dywed y pen offeiriad:—
"Am nad oes a'i tynno ef,
Nid oes a haeddai yn frenin fod
Yn ol danghosiad y nef."
Ond cyn iddynt fyned ymaith,
Mae arall a ddaw ymlaen,
A chwardd y penaethiaid wrth ei weld
Yn neidio i ben y maen.
Plygu mae yntau yn ystwyth
A chydio yngharn y cledd,
A'i dynnu a'i chwyfio uwch ei ben,
A gwên yn goleuo'i wedd.
"Wele ein teyrn!" ebe Myrddin,
"Arthur fab Uthr ydyw ef,
Gwledig yr ynys o union dras
Yn ol danghosiad y nef!"
A gweiddi y mae'r penaethiaid
A'r llu a'u hetyb yn awr—
Byth bydded Ynys Brydain yn rhydd,
A byw fyddo Arthur Gawr!"
IV.—OGOF ARTHUR.
RHODIAI gwr yn araf unwaith
Heibio'r llannerch yng Nghaer Ludd
Lle bu lys yr hen Frythoniaid—
Gwych oedd hwnnw yn ei ddydd.
Estron oedd y gwr a chrwydrad,
Tlawd a thruan ar ei hynt,
Ac ni wyddai 'i fod yn rhodio
Lle bu gastell Arthur gynt.
Llaes ei wallt a llym ei lygad,
Byrr ei gam, a'i gefn yn grwm,
Ar ei ffon las onnen gnapiog
Pwyso'r oedd y gwr yn drwm.
Ag efe yn mynd yn araf,
Araf heibio'r lle bu'r llys,
Daeth rhyw henwr i'w gyfarfod,
Safodd, cododd arno'i fys.
Yntau'n dal i fyned rhacddo,
"Aros," eb yr henwr llwyd,
"Ni bydd ofer iti wrando,
Aros, onid Cymro wyd?"
Yna safodd yntau'r estron,
Meddai Cymro ydwyf fi
Wedi gadael gwlad fy nhadau;
Dywed beth a fynnit ti."
Eb yr henwr bychan yntau
Mynnwn i yr hyn a ddaw;
Pa le y cefaist ti y pastwn
Onnen yna sy'n dy law?"
"Mi a'i piau," eb yr estron,
"Waeth ba le y cefais hi;"
"Gwrando," ebe yr henwr yntau,
"Gwell it pe'm hatebit ti."
"Torrais hi ar lethr Elidir,
Lle mae llwyni cyll ac ynn,"
Eb yr estron, yntau'r henwr
Gwrando'r oedd a syllu'n syn.
Meddai: "Tyfodd hon ar foncyff
Sydd o'r golwg yn y llawr,
Ac o dan y boncyff hwnnw
Y mae genau ogof fawr.
"Cwsg y brenin a'i farchogion
Yn yr ogof uthr ei maint,
Oni ddaw a'u geilw i ymladd
Eto dros eu bro a'u braint.
"Cwsg y drudion dan eu harfau
Oll o gwmpas Arthur gawr;
Yn y canol mae trysorau,
Meini gwyrth a golud mawr.
"Mae ynghrog wrth gadwyn haearn
Gref yngenau'r ogo, gloch;
Pan gyffyrdder tafod honno,
Cân yn uchel ac yn groch.
"Ar ei chaniad try'r marchogion,
Twrf eu heirf yn clecian fydd;
Cyfyd pawb ei ben, a gofyn
Arthur gawr "A yw hi'n ddydd?"
"Ac os daw ar hynny 'r ateb
Iddo "Cwsg, ni ddaeth yr awr,"
Gorwedd Arthur a'i farchogion
Eto yn eu trymgwsg mawr.
"Cysgant nes daw'r neb a etyb
Felly, "Deffro, daeth y dydd;"
Cyfyd Arthur a'i farchogion
A daw'r Brython eto'n rhydd!"
Troes y gwr yn syn i holi
Rhagor am yr ogof fawr,
Ond nid oedd yr henwr yno—
Aeth fel pe'i llyncasai'r llawr.
Crwydrodd yntau'r gwr a'r onnen,
Daeth hyd lethr Elidir fawr,
Ac fe gafodd yno'r boncyff
Oedd o'r golwg yn y llawr.
Troes y boncyff draw, a chafodd
Enau'r ogo dano'n glir;
Ac wrth gadwyn haearn yno.
Crogai cloch a thafod hir.
Aeth y gwr i mewn yn araf—
Crynu'r ydoedd yn ei fraw,
Weled Arthur a'i farchogion
Yno'n cysgu ar bob llaw.
Gloewon ydoedd eu tariannau
Fel y lloer pan fo yn llawn,
A'u cleddyfau yn disgleirio
Megys pelydr haul brynhawn.
Dug y gwr o'r trysor lawer,
Ond wrth fyned heibio'r gloch,
Fe'i tarawodd oni chanodd
Hithau'n uchel ac yn groch.
Troi a orug y marchogion
Oni thinciai'r arfau'n rhydd;
Cododd pawb ei ben, a galwodd
Arthur Gawr "A ddaeth y dydd?"
Yna cofiodd ac atebodd
Yntau, "Cwsg, ni ddaeth yr awr;"
Suddodd Arthur a'i farchogion
Oll yn ol i'w trymgwsg mawr.
Lawer tro bu'r gwr yn chwilio
Am yr ogof wedi hyn,
Ond ni welodd fyth mo'r llannerch
Rhwng y llwyni cyll ac ynn.
Ond pan ddelo'r awr, daw'r arwr
Etyb, "Deffro, daeth y dydd,"
Cyfyd Arthur a'i farchogion,
A daw'r Brython eto'n rhydd!
V.—MAELGWN GWYNEDD.
MAE lluoedd yr Eingl o'r tir yn torri
Cymru Cunedda Wledig yn ddwy,
Ac wele longau'r cenhedloedd duon
Ar draeth y gorllewin, fwy na mwy.
A Maelgwyn Gwynedd, anfonodd ddyfyn
At dywysogion gwlad Gymru oll.
Maent hwythau erbyn heno'n gwersyllu
Ger Aber Dyfi, heb un yngholl.
Llawer ystafell sy dywyll heno,
Heb dân, heb gerddau, heb fedd na gwin;
A llawer pennaeth ar faes yn huno
A bardd dan arfau yn achadw ffin.
A bardd a'i bwys ar ei waew yn syllu,
Draw tua'r môr dros y tywyll ros,
Lle'r oedd y bore fynachlog, cenfydd
Fflamau yn llamu drwy wyll y nos.
"Och!" medd y bardd, "ai tân y gelynion
Acw'n difa'r fynachlog y sydd?
Anfon, o Dduw! ddialydd dy weision.
I ddifa'r estron ar glais y dydd!"
Torri mae'r wawr yn oer ac yn araf,
A lled ei gwawl dros yr eigion glas,
Gan ddangos miloedd o longau duon,
A'r traeth yn frith gan y gelyn cas.
A chyfyd lluoedd y tywysogion
I gyrchu'n eofn i faes y gad;
Pa le yn awr y mae Maelgwn Gwynedd
A'i lu, yn nydd cyfyngder ei wlad?
Maelgwn, a wysiodd y tywysogion
Oll i gyngor o'r gogledd a'r de,
Ac eto heddyw'n wyneb y gelyn
Nid oes bennaeth yn ol ond efe.
Mae'r traeth yn llawn o luoedd y gelyn,
A blaen eu byddin yn treiddio'n hy
I fewn i'r wlad hyd gymoedd a nentydd,
A thanau yn dangos llwybrau'r llu.
Rhuthrwn i'w canol!" medd Cynan Powys,
"Trenged pob un rhwng y dur a'r dŵr,
A bydded mwyach yn Wledig Cymru
A fo yn y gad yn flaena gŵr!"
Rhuthro ar hyn y mae'r tywysogion
A dilyn pob un y mae ei lu,
Megys llifogydd y gaea'n neidio
Yn grych eu rhediad, yn groch eu rhu.
Rhuthrant i lawr y cymoedd a'r nentydd
A'r coed a'r creigiau'n ateb eu llef;
Hyrddiant y gelyn yn ol o'u blaenau
Fel crinddail hydref rhag tymestl gref.
Ffoant, troant, arafant, a safant
Yn dwrr aneirif ar fin y don,
Pob un a'i gledd yn ei law yn barod
A'i darian hefyd o flaen ei fron.
A dacw fyddin y tywysogion
Yn llifo ymlaen fel tonnau'r môr,
A'r myneich ar lethr y bryn cyfagos
A'u gweddi yn daer am nawdd yr Iôr.
Cryn y ddaear gan hwrdd y byddinoedd;
Aruthr y tery blaenrhes y ddwy.
Fel y bydd tonnau deufor gyfarfod
A thymestl erch yn eu corddi hwy.
Rhuo fel taran mae swn y brwydro,
A hir a chroch yw y rhyfel gri;
Ond ffoi mae'r gelyn yn ol i'w longau,
A'i waed yn cochi ewyn y lli.
A'r llongau duon yn ceisio dianc,
Cau am danynt mae llynges wen.
Llynges brenin y gogledd ydyw,
A Maelgwn ei hunan arni'n ben.
Ac ni ddihangodd o'r llongau duon
Un i fynegi hanes y gad;
A chadwodd Maelgwn yr oed a wnaethai
Yntau a thywysogion y wlad.
"Myfi yw'r Gwledig," medd Cynan Powys,
"Myfi oedd flaena'n yr ymgyrch hon;"
"A minnau," atebodd Maelgwn Gwynedd
"A'u rhoes yn isel o dan y don!"
Yna bu gyngor y tywysogion
Ar faes y gad yn y fan a'r lle
I geisio dewis y gwr a fyddai
Wledig Cymru yn ogledd a de.
A hir a fu'r drafod, ac ofer hefyd,
Hyd oni lefarodd Maeldaf Hen:-
"A safo hwyaf rhag llanw yr eigion,
"Bydded Wledig wrth arwydd ein Rhen."
Pan oedd y tywysogion yn cysgu,
A'u gwŷr o'u hamgylch oll ar y rhos,
Gwneuthur cadair o edyn cwyredig
A ddarfu Maeldaf Hen yn y nos.
Cyrchodd y tywysogion yn fore
Drannoeth i lawr hyd y tywod mân,
A dododd Maeldaf Hen y cadeiriau
Yno yn rhes, dair llath ar wahân.
Ac wele'r llanw yn codi yn araf,
A'r tonnau yn taflu'n uwch o hyd,
A'r tywysogion i gyd yn disgwyl
Dedryd y nef ar helynt y byd.
Mae'r llanw yn codi gan daflu cadair
Tywysog ar ol tywysog i lawr;
Ond nofio mae un ar frig y tonnau,
A Maelgwn yw Gwledig Cymru yn awr!
VI.—CORON CADWALLON.
WEDI creulon a mynych ymladdau
A cholli ac ennill ar faes y gwaed,
Heddwch rhwng Cadfan frenin y Cymry
Ag Aethelfrith frenin yr Eingl a wnaed.
Amod yr heddwch oedd rannu'r ynys.
A gado'i deyrnas yn rhydd i bob un,
Namyn mai Cadfan frenin y Cymry
Oedd mwyach i wisgo'r goron ei hun.
Ac Aethelfrith deyrn yr Eingl ar hynny,
Alltudio'r frenhines o'r llys a wnaeth,
A hithau'n drist rhag ofn ei ddigofaint,
Am nawdd at Gadfan i Gymru y daeth.
Trist ganddo yntau Gadfan fu weled
Druaned ei golwg, ac ar ei wys,
Daeth y frenhines ei hun i'w derbyn,
Ac iddi fe roddes ryddid y llys.
A ganed mab i'r frenhines alltud
Yngwlad ac yn llys hen elyn ei dad,
A'r noswaith honno y ganed hefyd
Etifedd gorsedd a choron y wlad.
Magwyd hwy megys brodyr o'u mebyd,
Hoff gan y ddau fod ynghyd ym mhob man;
Gwael gan Gadwallon fab Cadfan bopeth
Oni chae Edwin fab Aethelfrith ran.
Tyfasant yn feibion ieuainc heirddion,
Ac yna danfonwyd y ddau ynghyd
At Selyf frenin Llydaw i dderbyn
Y ddysg a'r gamp ydoedd oreu'n y byd.
Ac yno yn llys y brenin Selyf
Mawr oedd eu clod am eu gwryd a'u rhin,
Nid oedd a'u trechai ar gampau heddwch,
Ac nid oedd eu hafal ar faes y drin.
Bu dristwch yn llys y brenin Selyf
Pan ydoedd y ddau yn gadael y wlad,
A llawer rhiain yn drom ei chalon
A llaith ei llygaid wrth wylio eu bad.
Ond llawen fu Gadfan a'i frenhines
Pan ddaeth y llong a Chadwallon i dir;
Llawen fu hithau'r frenhines alltud
O weled ei mab wedi'r disgwyl hir.
Mawr a fu'r wledd a roed i'w croesawi,
Yno daeth holl bendefigion y wlad;
A thrigodd Edwin yn llys y Cymry
Yn fawr ei barch ac uchel ei stad.
Megys pan oeddynt yn blant, a'u cariad
Y naill at y llall yn ffyddlon a phur,
Felly y carai y ddau eu gilydd,
A hwy wedi dyfod i oedran gwŷr.
Buan yr aeth y blynyddau heibio,
A marw a fu Cadfan mewn henaint llwyd,
A daeth Cadwallon yn frenin Cymru
O enau Hafren hyd Ystrad Clwyd.
Yna daeth hanes i lys Cadwallon
Nad byw ydoedd Aethelfrith yntau mwy,
A bod yn nheyrnas yr Eingl ymrannu
Am nad oedd bennaeth a'i air arnynt hwy.
"Dos," medd Cadwallon, "i lys dy dadau,
A gwysia yno benaethiaid y wlad,
A byddaf finnau yn gyfnerth iti
Wrth raid, i ennill hen gyfoeth dy dad.
A boed i'r heddwch fu rhwng ein tadau,
Y ddau fu cyhyd yn elynion croes,
Fyth yn heddwch barhau rhyngom ninnau,
Y ddau fu gyfeillion ar hyd eu hoes."
"Gyfaill fy nghalon," eb Edwin yntau,
"Af wrth dy gyngor a chyrchaf y wlad,
Heriaf a threchaf fy holl elynion
A mynnaf ennill hen gyfoeth fy nhad."
Cychwynodd Edwin, a gwŷr Cadwallon.
A aeth i'w hepgor i deyrnas ei dad;
A chyn dychwelyd o'r Cymry adref,
Cynnal 'roedd Edwin frenhiniaeth y wlad.
A chadw heddwch eu tadau wnaethant,
A phobl y ddwywlad yn byw yn gytûn;
Yntau Gadwallon yn ol yr amod
Yn gwisgo coron yr ynys ei hun.
Pan oedd Cadwallon un dydd yn rhodio
Hyd fur ei lys ar derfynau y wlad,
Gwelodd hen filwr penwyn yn wylo,—
Milwr a fu yn rhyfeloedd ei dad.
Trist gan y brenin oedd weled dagrau
Ar ruddiau gwr a fu ddewr yn ei ddydd;
"Diau," eb ef, "mai mawr yw dy ofid,
Dywed pa achos i hwnnw y sydd?"
"Hen ydwyf fi," medd yntau yn araf,
"Cofio yr ydwyf ryfeloedd dy dad;
Gwych oedd y dydd pan ruthrem i ganlyn
Cadfan ein brenin i ganol y gad!
"Dychryn yr Eingl oedd Cadfan a'i luoedd,
Rhuthrem drwy Fryneich a Deifr ar ein hynt
Megys goddaith drwy eithin y gwanwyn,
A'r fflamau yn llamu o flaen y gwynt.
"Gwr oedd Cadfan a'i air ar genhedloedd,
A choron yr ynys oedd ar ei ben;
Heddyw, gwae fi! nid brenin y Cymry
Yw unig frenin yr ynys wen!"
"Pwy a ddywed," medd yntau Gadwallon,
"Nad unben yr ynys hon ydwyf fi?"
"Y mae," medd y milwr, "goron arall,
A phennaeth yr Eingl sy'n ei gwisgo hi!"
Hir edrychodd y ddau ar eu gilydd
A cherddodd y brenin ymaith yn fud;
Gwae yr Eingl!" eb y milwr dan wenu,
"Mae'th ysbryd di Gadfan yn fyw o hyd!"
O fur y gogledd hyd enau Hafren,
O for Iwerydd hyd oror y wlad,
Galwodd Cadwallon ei wyr yn lluoedd
I drengi neu gadw hen goron ei dad.
Megys croes wyntoedd y gaea'n hyrddio
Nes torchi gwanegau yr eigion blin,
Rhuthrodd lluoedd Cadwallon ac Edwin
I wyneb eu gilydd ar faes y drin.
A chwerw a chyndyn fu'r brwydro hwnnw,
A hwythau'r brenhinoedd ym mlaen y gad,
Wyneb yn wyneb megys gelynion,-
Y ddau a fu gynt yn gyfeillion mad.
"Cu oeddit gennyf gynt," medd Cadwallon,
"Cas gennyf eto a fyddai dy ladd;
Cofia gyfamod ein tadau heddyw,
Gollwng dy goron a chadw at dy radd!"
Cas fyddai gennyt fy lladd?" ebe Edwin,
"Cas gennyf finnau fâi rhoi iti glwy;
Nid oes er hynny unpeth a ery
Rhyngof a choron yr ynys yn hwy!"
Ciliodd yr Eingl o faes y gyflafan
A'u teyrn ar y maes yn oer ac yn fud,
A daeth Cadwallon i lys y Cymry
Eto yn unben yr ynys i gyd.
Yno ynghanol y wledd lawenydd
Dywedodd y brenin a'i wedd yn brudd-
Caned y beirdd ei glod a'i orchestion,
Hoffed a dewred oedd ef yn ei ddydd!"
VII.—CYNFRIG HIR A'R BRENIN.
A Huw GOCH yn Iarll Amwythig,
A Huw Flaidd yn Arglwydd Caer,
Dewr Fab Cynan a'u hwynebai,
Trechodd hwy mewn llawer aer.
Pan oedd Gruffydd fwya'i lwyddiant,
A'i elynion dan ei draed,
Gorug brad yr hyn nad allai
Grymus gyrch ar faes y gwaed.
Meirion Goch oedd enw'r bradwr
A'i gwahoddes ef un dydd
I gyfarfod dau bendefig
Ar ei dir i hela'r hydd.
Mynd a wnaeth y brenin yntau
Heb amddiffyn yn y byd,
Namyn rhai o wŷr ei osgordd—
Nid amheus fydd mawr ei fryd.
Felly rhoed y sawl a'u trechodd
Wedi mynych frwydro taer,
Yngefynnau Iarll Amwythig,
Ac yngharchar Arglwydd Caer.
Hir y bu'n dihoeni yno
Yn ei gell, a'r estron iau
Ar ei ddeiliaid di-arweinydd
Byth a beunydd yn trymhau.
Cynfrig Hir o dir Edeyrnion,
Gwr oedd ef o gawraidd hyd,
Gwr a'i gryfdwr yn ddihareb,
Gwr nad ofnai ddim o'r byd.
Gwyddai Cynfrig ddulliau'r estron
Yn y dref fel yn y drin,
A di-lediaith hefyd ydoedd
Iaith y gelyn ar ei fin.
Yno wedi llawer blwyddyn
O ddioddef gormes ddu,
Cyngor gan y pendefigion
Yn Edeyrnion dir a fu.
Ebr y bardd a'i lais yn crynu—
"Coder byddin, na hwyrhaer,
Llosger tai ac eiddo'r gelyn,
A diffeithier dinas Caer!"
"Gwych a fyddai wneuthur hynny!"
Eb pendefig llym ei wedd;
"Gwych!" eb eraill gan gyfodi,
Bawb a'i law ar garn ei gledd.
"Diau, gwych fâi wneuthur hynny,"
Meddai yntau Gynfrig Hir,
"Ond fe laddant hwy y brenin,
Tra diffeithiom ninnau'r tir!
"Af fy hun a mynnaf wybod
A yw'r brenin eto'n fyw,
Yna rhuthrwn a diffeithiwn
Dref yr estron, onid yw!"
Doeth ym marn y pendefigion
Ydoedd cyngor Cynfrig Hir;
Cyrchodd yntau dref y gelyn
A pheryglon estron dir.
Gan Huw Flaidd a'i wyllt gymdeithion
Goreu peth oedd drin y cledd.
Gweled creulon chwaryddiaethau,
Yna yfed gwin a medd.
"Blinais ar ddiogi heddwch,
Heddyw mynnwn wledd," eb Huw,
Dygwch allan mewn gefynnau
Frenin Cymru, od yw fyw."
Dygwyd Gruffydd mewn gefynnau,
Llusgwyd ef i faes y dref,
Lle bu'r Normyn yn ei wawdio
Ac yn gweiddi "croger ef!"
"Na," eb Huw a gwên casineb,
A chreulondeb ar ei wedd,
"Cadwer ef yn fyw a dyger
I'n difyrru wedi'r wledd."
Yna aeth y gwŷr i wledda
Gyda'r iarll, o faes y dref,
A gadawsant Ruffydd yntau
Yno yn ei gadwyn gref.
Safodd yno ddau i'w wylio
Nes bâi derfyn ar y wledd;
Pwysai'r naill ar fon ei bicell,
Pwysai'r llall ar garn ei gledd.
Darfod 'roedd y dydd yn araf,
Gwyll y nos oedd yn trymhau;
Cerddodd gwr cyhyrrog, cadarn,
Heibio'r lle y safai'r ddau.
Galwodd un o'r ddau yn ebrwydd,
A gofynnodd pwy oedd ef;
Ond bu farw y ddau heb allu
Codi llaw na rhoddi llef.
Heb lefaru gair o'i enau,
Codi'r teyrn a orug ef
Ar ei gefn a'i ddwyn yn frysiog
Drwy y mur o faes y dref.
Yno torrodd y gefynnau
Fu'n ei boeni nos a dydd,
Yna, gan benlino, dywaid,
Arglwydd, wele di yn rhydd!"
Bendith nefoedd," medd y brenin,
"Arnad am dy gariad gwir!"
"Dwyn fy mrenin o gaethiwed,
Digon im!" eb Cynfrig Hir.
VIII. OWAIN A NEST.
I.
YNGHASTELL Rhys ap Tewdwr
Yr oedd llawenydd mawr,
Am ddarfod trechu'r gelyn traws
A bwrw ei lu i lawr.
Daeth mil o bendefigion
O lawer lle i'r llys,
A mil o feirdd i ganu clod
A mawl y Brenin Rhys.
A pheri wnaeth y Brenin
Fod yno dwrneimaint,
Ymryson trin y gwaew a'r cledd
Rhwng gwyr o uchel fraint.
Ar wastad lawnt y castell
Cyfodwyd adail wiw,
A gwisgwyd a theisbannau gwych
A llenni o lawer lliw.
I'r adail eang honno
Yn ol eu gradd a'u braint,
Y daeth yr arglwyddesau oll
I wylio'r twrneimaint.
Mewn gynau pali cannaid
Gosgeddig rodiai 'r rhain,
A mentyll hir o sindal gwyrdd
Neu sidan gwineu main.
Am wên y fun ifengaf
A glanaf yn y llys,
Ymdrechai y marchogion oll,
A hi oedd Nest ferch Rhys.
A'i gwallt fel blodau'r eithin,
A'i grudd fel gwrid y rhos,
A'i llygaid megys fflamau tân,
Gwae hi ei bod mor dlos!
A daeth i gae'r ymryson,
Wŷr cedyrn llawer cad,
I brofi pwy o'u plith a gaid
Yn ben cleddyfwr gwlad.
Daeth meibion ieuainc hefyd
I drin yr arfau dur,
A chaled fu'r ymryson rhwng
Yr hen a'r ieuainc wŷr.
I ganol y marchogion
Ar ganwelw farch, e ddaeth
Rhyw farchog lluniaidd, ieuanc iawn,
A'i waew a'i gledd a'i saeth.
Gloew arian oedd y tidau
A'r byclau ar ei seirch,
A gwych a di gyffelyb oedd
Ei farch ymysg y meirch.
Gwastraffwyd aur yn addurn
Ar hyd ei darian gref,
A llawer o gywreinwaith aur
Oedd ar ei ddurwisg ef.
Yngoleu'r haul disgleiriai
Yr helm oedd am ei ben,
A'r ddraig oedd ar ei chopa hi
Yn dwyn tair pluen wen.
A'i baladr hir yn barod
Y dôi yn falch ei ffriw,
A meini gwyrth yngharn ei gledd
O lawer llun a lliw.
I'r gamp yr ae'r marchogion.
Bob un â llawen floedd,
Ond goreu gwr a'r paladr hir,
Y marchog ieuanc oedd.
Ar drin y cledd a'r bwa
Ymryson hir a fu,
Ond nid oedd ail i'r marchog gwyn
I'w gael ymhlith y llu.
Edrychai'r pendefigion
A syndod ar eu gwedd
Wrth weld y marchog ieuanc hwn
Yn trechu gwŷr y cledd.
A hwythau y marchogion.
Syn ganddynt oll a chas
Oedd gael eu trechu gan y sawl
Nid oedd ond ieuanc was.
A dewis a orugant
Y blaenaf yn eu plith
I herio'r estron eto ymlaen
A throi ei chwarae'n chwith.
Daeth hwnnw i'w gyfarfod
A'i baladr uwch ei ben,
A hawliodd wybod enw a gradd
Y gwas a'r bluen wen.
"Bid hysbys iti, farchog,"
Ebr yntau'n oer ei wên,
"Mai Owain ap Cadwgan wyf
O deulu Powys hen."
"Mae braint i mi dy herio,"
Ebr hwnnw, "am y bri";
"A pharod dderbyn," ebr y llall,
"Dy her yr ydwyf fi."
A throes y ddau yn ebrwydd
Bob un i ben ei faes;
A phawb a'i lygaid ar y fan,
Fe glywid oergri laes.
Carlamodd meirch y ddeuwr,
A swn eu rhuthr yn fawr;
A syrthio a wnaeth yr heriwr dros
Bedrain ei farch i lawr.
O'r adail lle'r eisteddai
Holl arglwyddesau'r llys,
Derbyniodd Owain faneg wen
O ddwylaw Nest ferch Rhys.
A gwelodd Nest yn cynneu
Yn llygaid Owain serch,
Ac yntau yn ei llygaid hi
Ofnadwy gariad merch.
II.
"Ha! Owain ap Cadwgan,
Pa beth a weli di?"
"Dros donnau môr Iwerydd draw
Fy ngwlad a welaf fi."
"Ai yn y wlad a weli
Mae'r ferch a geri di?"
"Cawn galon llawer rhiain dlos,
Ond gwell ei haros hi."
"Oferedd a fâi aros,
Ni weli moni mwy!"
"Af ati, ni ddeil dwfr na thân
Ni ar wahan yn hwy!"
A'i long o dir Iwerddon.
A ffoes o flaen y gwynt,
Ond mynnai cariad ben y daith
Yn llawer canwaith cynt.
Yn Aber Dyfi tiriodd
Y llong yngwyll y nos,
A gyrrodd Owain ar ei farch
Hyd lawer anial ros.
A gwawr y bore 'n torri,
Fe ddaeth i gyrrau'r tir
A lywiodd meibion Bleddyn gynt
Drwy lawer helynt hir.
Lle bu ddigonedd unwaith
Nid oedd ond anrhaith du,
A gwŷr y goror wedi ffoi
Rhag creulon estron lu.
Daeth dewin i'w gyfarfod
Ar odre coediog allt,
Yn grwm ei gefn a byrr ei gam
A hir ei farf a'i wallt.
"Ha! Owain ap Cadwgan,
Pa beth a fynni di ?"
"O ddewin hysbys, ceisio'r ferch
A gerais yr wyf fi."
"Och! Owain ap Cadwgan,
Mynega im pa le
Yr oeddit pan fu gwympo Rhys
A llosgi llys y De?"
"Ni chwympwyd llew Deheubarth,
Nid oedd a drechai Rys!"
"Mae castell estron ar y fan
Lle'r oedd ei lydan lys!"
"O Dduw! a laddwyd hithau,
Y ferch a gerais gynt?"
"Y gelyn traws a'i dug, a thi
Ar lawer ofer hynt!"
III.
Gwanychodd braich Cadwgan.
A phylodd min ei gledd,
A daeth y gwr a garai 'r gad
Yn wr a geisiai hedd.
I feithrin mwyn dangnefedd.
A rhinwedd o bob rhyw,
Gwnaeth wledd Nadolig yn ei lys
Er anrhydeddu Duw.
Gwahoddes bendefigion
Y wlad at fwrdd y wledd,
A gwelwyd Owain yn eu plith
A'i drem mor llym â'i gledd.
Bu lawen y gymdeithas,
Nid oedd ond dau yn drist—
Sef Owain oedd yn cofio Nest,
A Brawd a gofiai Grist.
Och! Owain, pwy sibrydodd.
Y geiriau wrthyt ti?—
"Mae Nest ynghastell Cenarth fry
A Gerallt gyda hi!"
Mor ber oedd sain y delyn,
Mor fwyn oedd cân y bardd
Am hanes llawer marchog dewr
A llawer rhiain hardd.
Ond trist a mud oedd Owain
Er yfed gwin a medd,
A chas a chariad bob yn ail
Yn tanio 'i waed a'i wedd.
Distewi 'r oedd y lleisiau
I gyd, o un i un,
A llaw 'r telynor ar y tant
Yn crwydro drwy ei hun.
Cyfododd yntau Owain,
A'r tân yn llosgi 'n goch,
A'r tannau 'n seinio 'n is ac is,
A'r gwynt yn rhuo'n groch.
Och! Owain ap Cadwgan,
Pa le y cyrchi di?
Mae bywyd a marwolaeth rhwng
Dy gariad a thydi!
IV.
Mae gwaedd ynghastell Cenarth
(O Dduw! mor ddu yw'r nos!)
A'r gwylwyr oddi ar y mur
Yn cwympo 'n feirw i'r ffos.
Mae braw ynghastell Cenarth
(O Dduw! mor ddu yw'r nos!)
Mae wyneb Gerallt fel yr ia
Ag wyneb Nest fel rhos.
Mae ofn ynghastell Cenarth,
(O Dduw! mor ddu yw'r nos!)
Mae Gerallt wedi ffoi, a'i wŷr
Yn dianc hyd y rhos.
Mae serch ynghastell Cenarth,
(O Dduw! mae'r nos yn ddydd)
Ar fynwes Owain wyla Nest,
O rwymau trais yn rhydd.
Mae nef ynghastell Cenarth
(O Dduw! bereiddied serch)
Angherddol ydyw cariad mab
Ond mwy yw cariad merch.
Mae tân ynghastell Cenarth
A'i fflamau 'n llosgi'r nos,
A dau yn eithaf wynfyd serch
Yn rhodio ar hyd y rhos.
Ni chlywant swn y gwyntoedd,
Ni ddorant ddüwch nos,
Mae Owain fel y storm, a Nest
Yn anaearol dlos!
V.
Ynghoedydd Ystrad Tywi
Ar nos ddrycinog ddu,
Ymguddio rhag y gelyn cas
Mae ffoedigion lu.
Och! Owain ap Cadwgan,
Ai ti yn frwnt dy frad,
Y sydd er mwyn dy elyn gynt
Yn hela gwŷr dy wlad?
Ai angof gennyt heno
Dy hen wladgarwch gynt,
Pan daniai Cymru wrth dy air
Fel goddaith yn y gwynt?
Ai dibris gennyt dylwyth
Y ferch a'th garodd di
Nes rhoddi popeth er dy fwyn
Y nos y dygaist hi?
Och! Owain ap Cadwgan,
Pa beth a glywi di?
"Mae llu yn dyfod yn y gwyll
Ac ar ein gwarthaf ni!"
Y gwŷr a'th garodd unwaith,
Dy ladd a geisiant mwy;
"Na llu y Fflandrwys diog yw,
Ni syflaf rhagddynt hwy!"
A safodd mab Cadwgan
A'i filwyr ar y rhos,
Ac yno berr a chwern a fu
Y frwydr yngwyll y nos.
Daeth saeth a chwympodd Owain
I lawr yn flin ei floedd,
A saeth dialedd chwerw a chas
O fwa Gerallt oedd.
IX.-GWENLLIAN.
"O WENLLIAN, tawel ydwyt,
Nid oes arnat fraw na brys,
Onid wyt yn ofni?" meddai
Un o arglwyddesau'r llys;
"Clyw, mae rhywun heno'n curo,
Curo, curo ar borth y llys!"
"Nid oes oddi allan heno
Namyn swn y gwynt a'r glaw,"
Medd Gwenllian, y frenhines,
Ac nid adwaen innau fraw;
Gwrando ar y gwynt yn rhuo,
Rhuo dros y tyrau draw!"
"O Wenllian, clywaf leisiau,
Lleisiau gwŷr ym mhorth y gaer;
Gwrando! oni chlywi dithau
Guro tost a gweiddi taer?"
"Clywaf swn y gwynt yn rhuo,
Rhuo dros y tyrau draw,
Yna 'n chwerthin ac yn gweiddi
Yn ei ruthr ar ol y glaw."
"O na ddôi y brenin yma
Eto i'th amddiffyn di;
Ond os trechir yntau hefyd
Gan y Norman, gwae nyni!"
"Trechu Gruffydd a fâi anawdd,
Rhoddwyd iddo nawdd y nef,
Canodd adar Llyn Safaddan
Iddo pan goronwyd ef.
"Torrodd gestyll Gŵyr, a lladdodd
Risiart, draws fab Gislebêr;
Cwympodd miloedd o'r estroniaid
Yno dan ei arfau ter.
"Cwympodd yno hefyd lawer
O'i ddeiliadon ffyddlon ef,
Onid e buasai'r estron
Heddyw'n fwyd i adar nef!
"A byddinoedd yn ei ganlyn,
Daw yn ol o lys fy nhad,
Yna rhag ei fâr, bydd diwedd
Ar yr estron yn ein gwlad!"
"Clyw! mae rhedeg yn y cyntedd,
O, Wenllian, ffown yn awr!"
Yna syrthiodd yr arglwyddes
Ar ei gliniau ar y llawr.
"Cyfod!" meddai y frenhines,
Estyn im y cleddyf draw!"
Yna agor dôr y neuadd
Wnaeth a'r cleddyf yn ei llaw.
Syrthiodd un o wŷr y brenin
Ar ei liniau wrth ei thraed,
Cymysg ar ei wyneb ydoedd
Glaw a llaid a chwys a gwaed.
Yn ei fraw nid allai yngan
Gair o'i enau wrthi hi;
"Dywed imi," eb Gwenllian,
"Pa beth yw dy neges di."
"O f'arglwyddes," meddai yntau,
"Dyfod y mae byddin fawr
A Maurice de Londres yn arwain—
Byddant yma cyn y wawr!"
Galw ynghyd holl wŷr y Castell
Allan i'w hwynebu hwy;
Pwy o wŷr y llys a'u harwain?"
Eb y gwyliwr yntau "Pwy?"
"Galw holl wŷr y castell allan
Dan eu harfau llawn bob un,"
Eb Gwenllian, y frenhines,
"Ac arweiniaf hwy fy hun."
"O, Wenllian, gwrando!" meddai
Yr arglwyddes welw ei gwedd,
"Ffo ar unwaith rhag yr estron,
Gorchwyl gwŷr yw trin y cledd!"
"Gwelais ruthrau lluoedd Gwynedd,
Bum yn gwrando'u criau croch,
Wedi llawer buddugoliaeth,
Gwelais gledd fy nhad yn goch.
"Huno'n dawel mae fy meibion,
Pell oddi wrthynt yw eu tad;
Gorchwyl gwraig yw tynnu'r cleddyf
Dros ei gwr a'i phlant a'i gwlad!"
Cyn bod gwawr yn cleisio'r dwyrain,
Pan oedd gyfliw gwr a llwyn,
Clywid twrf ym mhorth y castell,
Llawer cri a llawer cwyn.
Dros y rhagfur daeth y gelyn,
Gan ddylifo'n chwyrn i lawr,
Ond 'roedd byddin y frenhines
Rhyngddynt fyth a'r castell mawr.
Hir a chwerw a fu yr ymladd,
Ond bu raid i'r fantol droi,
Nes oedd byddin fach Gwenllian
Yn encilio, yna'n ffoi.
Rhuthro'n wyllt yr oedd yr estron,
Awchus oedd ei gleddyf erch,
Cledd bradwrus nad arbedai
Fawr na bychan, mab na merch.
Hunai deufab y frenhines
Yn eu diniweidrwydd pur,
Ond deffrowyd hwythau'n ebrwydd
Gan dinciadau arfau dur.
Duw a ŵyr pa beth fu yno,
Ac efe a farno'r cam,—
Dygwyd Maelgwn, ond gadawyd
Morgan yno gyda'i fam.
Yno 'r oedd y ddau yn oerion
Pan dywynnodd bore wawr,
Ar ddwy ffrwd o waed oedd wedi
Ymgymysgu ar y llawr.
X.—EDNYFED FYCHAN.
I.
RHUA storm ym mrig Eryri,
Rhua'n hir a dofn ei thôn,
A chynhyrfus yw y tonnau
Ar dueddau Ynys Fôn.
Disgyn mae y nos yn araf
Ar y mynydd, ar y môr;
Da fydd gaffael cysgod heno
Pan agoro'r gwynt ei ddôr.
Tua phlas Tre Garnedd heno.
Llawer un yn cyrchu sydd,
At briodas yr arglwyddes
Yn yr eglwys fory a fydd.
Gwŷr o fonedd ac anrhydedd
Sydd yn dyfod fwy na mwy,
A rhianedd penna'r ynys,
Yn eu harddwch gyda hwy.
Yn y neuadd fawr eisteddant
Bob yn ail o gylch y bwrdd;
Melus yw y medd a'r gwinoedd,
Ysgafn yw eu llawen dwrdd.
Wele res o delynorion
Ac o feirddion ar y fainc,
Gwŷr yn medru gwau a chanu
Hwylus gerdd a melus gainc.
Tyner ydyw sain y tannau,
Swn y lleisiau sy yn llon,
Fel yr awel yn y llwyni,
Megys chwerthin araf don.
Cân y beirdd am gariad dirfawr
Garwy Hir a Chreirwy dlos,
Cariad Tristan gynt ac Esyllt
Ar y môr yn nyfnder nos.
Gloewa llygaid llawer marchog,
Cura calon llawer merch,—
Melus ydyw aros cariad,
Peraidd ydyw atgof serch.
Yno mae Gwenllian hithau,
Yn ei llen o sindal drud;
Er nad ieuanc ydyw mwyach,
Hardd ei chorff a glân ei phryd.
Gwrendy ar y beirdd yn canu
Hanes calon mab a merch,—
Eiddi heno aros cariad,
Eiddi heno atgof serch.
Cofio mae am serch Ednyfed
(Och! nad byw Ednyfed mwy!)
Cofio heno yn ei chalon
Am y dydd y rhwymwyd hwy.
Gwrendy ar chwerthin y rhianedd,
Eto gwelw a thrist ei gwedd;
Gwel y gâd yngwlad yr estron,
A'r rhyfelwr yn ei fedd.
Nid oes neb a wel ei gofid,
Nid oes neb a wŵyr ei loes,
Mae a'i gwelsai ac a'i gwypai
Yn y gweryd dan ei groes.
Oddi fewn mae cân a chwerthin
Gwin a medd a gwenau mwyn;
Oddi allan mae y gwyntoedd
Heno'n wylo'n drist eu cwyn.
Trwm i galon friw Gwenllian
Yw y gân a'r chwerthin llon,
Gwell fâi swn y gwynt galarus
Gan yr hiraeth yn ei bron.
Cyfyd yn ei gofid distaw,
Gwên yn welw ac yna chwardd,
Fel a chwarddo'n oer rhag wylo,—
Yna cerdda i grwydro'r ardd.
Cerdd yn araf hyd y llwybrau,—
Yn ei gwallt mae gwynt y nos;
Deigr y nos sydd ar ei gruddiau
Lle'r oedd unwaith liw y rhos.
Nid oes arni ofn nac arswyd,
Un yw hi â'r noswaith hon,
Ac ni thry a ffoi pan genfydd.
Wr yn sefyll ger ei bron.
"Rhynged bodd i ti arglwyddes
Roddi imi borth a nawdd,"
Eb y gwr, a'i lais yn crynu,
"Teithio heno nid yw hawdd."
"Gwir yw hynny," medd Gwenllian,
"Rhoddaf iti borth a bwyd;
Dyred gyda mi i'r gegin,—
Wrth dy olwg, estron wyd?"
"Estron wyf," eb yntau, "bellach
Yn fy hen gynefin dir,
Crwydro bum hyd wledydd daear
Lawer lawer blwyddyn hir."
"Dyred," eb Gwenllian hithau,
"Di gei roesaw ar dy hynt
Am mai 'n estron crwydr y collais
Un a gerais innau gynt."
"Pwy oedd hwnnw, fwyn arglwyddes?"
Eb y gwr a'r wyneb llwyd,
"Gwael oedd iddo fynd a'th ado,
Tithau eto 'i gofio'r wyd!"
"Gelwid ef Ednyfed Fychan,
Gwr oedd ef a garai Dduw,
Cymerth ef y groes a hwyliodd
Dros y môr, a mwy nid yw."
"Pwy a etyb, fwyn arglwyddes,
Na ddaw eto ar ei hynt,
Y mae gobaith gwr o ryfel,
Medd hen air a glywais gynt."
"Ni ddaw eto," medd Gwenllian,—
Gwelw ac athrist oedd ei gwedd—
"Oes, mae gobaith gwr o ryfel,
Nid oes obaith neb o'r bedd!"
"Na fydd drist, Arglwyddes dirion,"
Eb yr estron, "dichon Duw
Gadw y sawl a ddygo arfau
Drosto Ef o hyd yn fyw."
Cerddi Doe a Heddyw.
"Ond nid byw Ednyfed Fychan,
Huno mae," eb hi, "mewn hedd,
Adwaen yma wr a'i gwelodd
Ef yn farw o fewn ei fedd."
Mynd y mae Gwenllian ymaith.
Heb lefaru dim ond hyn,
Saif y crwydryn yntau'n edrych
Ar ei hol yn hir a syn.
II.
Daeth y bore a'r briodas,
Wele bawb wrth fwrdd y wledd,
A Gwenllian gyda'i phriod
Yno'n oer a gwelw ei gwedd.
Wrth y drws fe saif y crwydryn
Yn ei garpiau 'n llwm a llwyd,
Edrych mae yr arglwydd arno
Yno'n awr yn flin ei nwyd.
"Grwydryn, pwy wyt ti, atolwg?
Beth a fynnech ?" eb efe;
"Pwy i'r neuadd a'th wahoddes?
Gwel nad yma mae dy le."
"Pe cawn delyn," eb y crwydryn,—
"Hen delynor ydwyf fi,—
Canwn foliant i'r arglwyddes
Am y nawdd a roddes hi."
"Os mai hen delynor ydwyt,"
Eb yr arglwydd, "cân i ni;
Wele delyn wrth y ffenestr,
Hen yw honno, cymer hi!"
Yna gwrida yr arglwyddes,
Yna trydd yn welw ei gwedd—
Mae a ganai'r delyn honno.
Heddyw'n huno yn ei fedd!
Ond mae dwylaw y cardotyn
Bellach ar y tannau mân,
Nes mae pawb yn troi a gwrando
Ar y ryfedd gainc a gân.
Mae Gwenllian yn cyfodi
A sibryda'n wan ei llef—
"O Ednyfed, O Ednyfed!"
Yna syrth i'w freichiau ef.
II. CERDDI HEDDYW.
I.—YR HEN FFERMWR.
(CYFLWYNEDIG I STEPHEN REES AC ISAAC JONES).
DAETH Dafydd Owen Gruffydd
I fyw i Dy'n y Coed,
Lawer blwyddyn faith yn ol,
Yn bump ar hugain oed.
Yr oedd yn wr gosgeiddig,
Llawn dwylath oedd o hyd;
Cyhyrrog oedd, ac ar ei gefn
'Doedd unrhyw bwys ddim byd.
Yr oedd ei wallt yn loewddu.
A llawn modrwyau mân,
A gwritgoch oedd ei ddwyrudd ef
A'i lygaid fel y tân.
Er nad oedd ganddo arian
Er na roed iddo ddysg,
'Doedd gwmni na buasai ef
Yn frenin yn eu mysg.
Os celyd oedd ei ddwylaw,
Os truan oedd ei ffawd,
'Roedd gwaed uchelwyr Cymru gynt
Yngwythi'r ffermwr tlawd.
Ni byddai neb a dynnai
Ar faes unionach cwys,
Nac yn y fedel undyn byw
Na threchai wrth ei bwys.
Fe wyddai draddodiadau
A chwedlau fwy na mwy,
A llawer cerdd a chywydd per
Nad oes a'u hadfer hwy.
Gan hardded oedd ei olwg
Fe swynodd lawer merch,
Ac ar y deca 'i gwedd i gyd
Rhoes yntau 'i fryd a'i serch.
Ni bu lawenach diwrnod
Ar ddeuddyn hoff erioed
Na'r dydd y dygwyd merch Y Graig
Yn wraig i Dy'n y Coed.
A gwelwyd tri o feibion
A thair o ferched glân
Cyn hir yn gwneud y lle yn llon
A'u mwynion gampau mân.
A chaled fu y llafur
I fagu'r teulu bach,
A'r byd yn ddu pan fyddent glaf
A gwyn pan fyddent iach.
Ar noswaith erwin iasoer
Yn nhrymder gaeaf du,
Daeth angau heibio'r teulu llon
A chreulon iawn a fu.
Fe wlychodd ei grafangau
Ynghochwaed calon serch,
Gan adael yno ofid taer
Am anwyl chwaer a merch.
Ym mynwent fach ddi addurn
LY capel llwm ger llaw,
Dan gysgod ywen werdd y mae
Y "bedd a'i gwlych y glaw."
A gwelwyd wedi hynny
Ddifwyno gwedd y fam,
A britho gwallt y tad cyn hir.
A throi ei warr yn gam.
Yn nhreiglad y blynyddau
Bu llawer tro ar fyd,
A diffyg aur a phrinder bwyd
A gobaith, lawer pryd.
Er garwed llawer tymor,
Ni phallwyd dwyn y rhent
Yn llawn i'r conach unoes oedd
Yn honni hen ystent.
Pan fyddai eisiau torri
Y ddadl erwina 'rioed,
Yr oedd uniondeb, pwyll a barn
I'w cael yn Nhy'n y Coed.
A phan fâi angen cyngor
Ar rai o bob rhyw oed,
Nid sicrach cyngor undyn byw
Na chyngor Ty'n y Coed."
Nid ydoedd ef nac ynad
Na barnwr mawr ei glod,
Ac eto ni bu ynad gwell
Na barnwr mwy yn bod.
Ni feddai ef awdurdod
Un gyfraith dros ei farn,
Ond grym cydwybod onest glir
Gwr cywir hyd y carn.
Yn wyneb profedigaeth,
Er gwaedu o'i galon ef,
Nid ildiai mwy na'r dderwen dan
Guriadau'r dymestl gref.
Yn wyneb angau'i hunan,
Er maint ei ddistaw loes,
Fyth nid anghofiai ddyled dyn
I'r byw dan bob rhyw groes.
Fe welodd lawer lawer
O droion chwerwon chwith,
Ond hwy na'r fellten lem a'r llif
Y cofia'r glaw a'r gwlith.
Dywedwch wrtho heddyw
Mai drwg sy'n llenwi'r byd,
A dyfyd yntau ac fe'i gwyr
Nad ydyw ddrwg i gyd.
Pa le mae'r teulu dedwydd
Fu'n Nhy'n y Coed cyhyd?
Mae dau yn fud yngwaelod bedd
A'r lleill ar led y byd.
Mor llawen oedd y dyddiau
Pan oedd y plant yn fân,
Yn chware hyd y meusydd draw
Neu'n eistedd wrth y tân!
Mor hyfryd fyddai ganddo
I'w ganlyn ef eu dwyn,
A dwedyd enwau blodau gwyllt
A llysiau coed a llwyn.
A dedwydd fyddai eistedd
Ar hirnos wrth y tân
Gan adrodd chwedlau iddynt hwy
Neu ynte ganu cân.
Ond buan darfu'r adeg,
Ac aeth y plant i gyd
Ar led y byd i lawer lle
Ymhell o'r cartre clyd.
A bellach yn y fynwent
Mae'r fam a'r ferch ynghyd,
A'r tad ei hun yn Nhy'n y Coed
Yn hen yn dwyn ei fyd.
Nid ŵyr y byd ei hanes,
Nid aeth ei glod ymhell,
Ond gŵyr a'i hedwyn ef na bu
I'w wlad erioed ei well.
Mae gwlad ein tadau'n newid
Yn llwyrach nag erioed,
Ond ni ddaw neb a fydd yn ail
I'r gwr o Dy'n y Coed.
II. YR HEN LAFURWR.
SION DAFYDD gynt o Ben yr Allt,
Yr oedd ei wallt yn ddu,
A'i gorff yn ystwyth ac yn iach,
Ei burach ef ni bu.
O ddeg o blant mewn bwthyn llwm,
Ef oedd yr hynaf un,
A'r tad yn ennill cyflog bach,
Er na bu dygnach dyn.
Ni chafodd gychwyn yn y byd,
Na chware teg erioed,
Ond gorfod troi i wneud rhyw swydd
Yn blentyn seithmlwydd oed.
Un tipyn ni chynhilodd o
Er iddo geisio'n daer,
Ond mynd a'i gyflog bychan tlawd
I fagu brawd a chwaer.
Fe gerddai 'mhell i'r Ysgol Sul
Yn flin o gam i gam,
A dysgodd lawer pennod faith,
A darllen iaith ei fam.
Yn llofft y stabl, a hithau'n oer,
Heb neb roe iddo gŵyn,
Darllennai bob rhyw lyfr a gai
Wrth oleu cannwyll frwyn.
Ac felly dysgodd lawer iawn.
Oddi wrth ei lyfrau i gyd,
A llawer mwy heb unrhyw lyfr
Nag athro yn y byd.
Adwaenai ddail a llysiau lu,
A gwyddai am eu rhin
I leddfu poen a gwella cur,
A llawer dolur blin.
Adwaenai flodau gwylltion fil,
A gwyddai'r enwau roed
Yn iaith ei dadau arnynt hwy—
Yr enwau tlysa 'rioed.
Fe wyddai enwau'r adar mân,
Adwaenai gân pob un,
A gwyddai hanes hwn a'r llall,
A'u lle a'u lliw a'u llun.
Pan ddeuai dywydd hirddydd haf,
Fe'i gwelid gyda'r nos
Yn gwylio bywyd mynydd maith
A throion hirfaith ros.
A phan fâi gaeaf du ac oer
A'i rew yn llwydo'r llwyn,
Yn llofft y stabl y byddai ef
A'i lyfr a'i gannwyll frwyn.
Os mawr a chaled oedd ei law,
Ag ef yn ddeunaw oed,
Ni bu yn unman gryfach dyn,
Na harddach un erioed.
Fe wybu yntau beth yw serch,
A charodd ferch yn fawr;
A chestyll gwych a gododd ef
Yn llon rhwng nef a llawr.
Yr oedd y llances hardd a llon
Yn llaethferch Bron y Nant,
Ac erbyn hyn yr ydoedd Sion
Yn hwsmon Pen y Pant.
Yr oedd ei gwallt modrwyog hi
Yn loewddu fel y frân,
A'i grudd fel rhosyn cocha'r byd,
A'i gwisg bob pryd yn lân.
Fe fyddai bechgyn glân y fro
Yn dotio at ei phryd,
Ond Sion a'i wedd a'i dymer fwyn
Oedd wedi dwyn ei bryd.
A'r ddau ryw hwyr o wanwyn teg
Ar wib hyd grib y graig,
Dywedodd Catrin wrtho fo
Y byddai iddo'n wraig.
Cymerodd yntau'n gartre glân.
Ryw fwthyn bychan tlws,
A dygodd lu o flodau hardd
I'r ardd o flaen y drws.
Fe'i gwelid ef a'i ddarpar gwraig
Yn croesi'r graig fin nos,
Hyhi yn mynd i daclu'r ty,
Ac yntau i blannu rhos.
Yr oedd y byd yn hardd a gwyn
I'r ddeuddyn, ond fe ddaeth
Rhyw blaned chwith a'i droi cyn hir
Yn ddu yn wir a wnaeth.
Un noswaith deg yn nechreu haf,
A Mai yn hulio'r wlad,
Daeth angau heibio Pen yr Allt,
A chollodd Sion ei dad.
'Roedd yno fam a phlantos mân
Yn druan ac yn dlawd;
Aberthodd Sion ei serch er mwyn
Dyledswydd mab a brawd.
Daeth deuddyn arall wedi hyn
I'r bwthyn gwyn i fyw;
Rhoes Sion yr ardd, dan flodau'n frith,
I'r ddau, a bendith Dduw.
A Chatrin, yn ei hol yr aeth
Yn llaethferch Bron y Nant,
A byw fel cynt yr ydoedd Sion
Yn hwsmon Pen y Pant.
Daeth gaeaf du ar ol yr haf,
A haf drachefn ar hynt,
Ond nid oedd Sion a Chatrin Rhys
Yn caru megys cynt.
Pan daenai Mai ei flodau gwiw
Hyd lawr, bob lliw a llun,
Fe welodd Sion roi Catrin Rhys
Yn wraig ffodusach dyn.
Ac yntau'n cario calon friw,
Er fod ei liw yn iach,
Gan ddwyn ei geiniog brin yn bur
I'w fam a'i frodyr bach.
Fe welodd dyfu'r brodyr bach.
Yn llanciau iach a llon;
Agorodd eu priodi hwy
Hen glwy o dan ei fron.
Fe gadwodd gartref tra bu fyw
I'w fam ym Mhen yr Allt,
A chyn ei fod yn ddeugain oed
Yr oedd yn frith ei wallt.
Bu cwymp yn chwarel Pen y Lon,
A chollodd Sion ei frawd,
A magodd yntau'r teulu bach
Ar bwys ei geiniog dlawd.
Ni chlywodd undyn mono fo
Yn cwyno dan y baich,
'Roedd cariad pur ynghalon Sion
A nerth ym mon ei fraich.
Am lawer blwyddyn dug ei bwn
Gan helpu hwn a'r llall,
A rhannu pres o'i brin ystor,
A llawer cyngor call.
Ond aeth yn hen a daeth y nos
Yn agos ato'n wir,
A'i gefn yn grwm a'i gam yn fyrr
Ar ol ei lafur hir.
Sion Dafydd gynt o Ben yr Allt,
Y mae ei wallt yn wyn,
Fe'i gwelais wrth y Tloty ddoe
A'i wedd yn hurt a syn.
III.—GWEINIDOG LLAN Y MYNYDD.
GWEINIDOG Llan y Mynydd,
Ei fywyd, llonydd fu,
Ond gwelodd ambell ddiwrnod ter,
A llawer cwmwl du.
Bu ugain mlynedd wrthi
Yn torri'r gloyn du,
A gwelid ol ei galed waith
Mewn aml i graith tra fu.
Ni ddysgodd Roeg na Lladin,
Ni wybu'r hen Hebraeg,
Ac ni cheid llun ar frawddeg gron,
Ymron, yn ei Gymraeg.
Ni wyddai ond ychydig
O bethau yn y byd,
Ac ni fynasai gredu mwy,—
Ond credai hwy i gyd.
Ni byddai ar ei bregeth
Ol dysg na goleu dawn,
Ond byddai'n llawn cynghorion gwiw
A ffydd ddiniwed iawn.
Nid oedd yn Llan y Mynydd
Ond cant o deios mân,
Cartrefi gweithwyr gwael eu ffawd
A'r oll yn dlawd, ond glân.
Y cyflog, bychan ydoedd,
A'r teulu yntau'n fawr,
A gwyddai'r gweithwyr beth oedd bod
Heb obaith lawer awr.
Pan fyddai'r gaea'n erwin,
A'r gwaith yn brin ryw bryd,
Y bugail druan oedd eu twr
A'u swcwr hwy i gyd.
Ymwelai â'r cartrefi,
Gwrandawai'r stori brudd,
A rhoddai swllt i lawer un,
A'r deigryn ar ei rudd.
Pan ddeuai angau heibio
A'i law ar dro yn drwm,
Fe geisiai roddi cysur llon,
A'i galon fel y plwm.
Wrth erchwyn gwely angau
Bu'n sefyll lawer gwaith,
A'i law a'i lygad yn rhoi help
Nad allai unrhyw iaith.
Bedyddiai blant yr ardal,
Priodai gyplau'r fro,
Efe anfonai weddi fry
Uwch ben y gwely gro.
Pan ddói alarus newydd
Am un o blant y fro,
A fâi ar led, lle bynnag bâi,
Fe ddeuai iddo fo.
E fedrai dorri'r newydd.
Mewn geiriau tyner, mwyn,
A pheri felly fod y loes
A'r groes yn haws eu dwyn.
Pan fyddai'r plant yn chware,
A'r chware'n troi yn chwith,
Fe ddygai gair y bugail wên
Fel heulwen ar y gwlith.
A phan ddigwyddai gweryl,
Neu helbul yn y fro.
Ei air a ddygai gymod iach
Ar chydig bach o dro.
Bu fyw flynyddau meithion
Mewn llety bychan llwyd,
Llom a chyffredin oedd ei wisg,
Cartrefol oedd ei fwyd.
'Roedd ganddo fwrdd a chader
A silffoedd, un neu ddwy,
I ddal ei lyfrau digon prin,
Ei ddodrefn, dyna hwy.
Nid ydoedd ei anghenion
Ond bychain iawn yn wir;
A gaffai, rhannodd ef er hyn
Am lawer blwyddyn hir.
Os gwybu'r wlad am dano,
Fe wybu am fod rhai
Yn son mai bychan oedd ei ddawn
A bod ei ddysg yn llai.
Ond gwybu llawer truan
Ei fod er hynny'n ddyn,
A bod ei galon a'i hystor
Yn fwy na nemor un.
Mae rhai ar led y gwledydd
Yn llwyddo ar eu hynt,
Yn cofio'r gwr bonheddig tlawd
Fu'n gefn mewn anffawd gynt.
Ni ddysgodd lawer iddynt
O bethau rhyfedd byd,
Ond dysgodd hwynt i fod yn ddewr
Eu bron a hael eu bryd.
Newidiodd rhai eu crefydd,
A chollodd eraill hi,
Aeth rhai yn erbyn llawer ton
Ac eraill gyda'r lli.
Ond nid oes un ohonynt
Nad anwyl ganddo'r co
Am fugail Llan y Mynydd gynt
Lle bynnag byth y bo.
Gweinidog Llan y Mynydd,
Gwn am dy feddrod llwyd,
Ond od oes nef tu draw i'r bedd,
Mi wn mai yno'r wyd!
IV. Y DYSGAWDR.
(ER COF AM EMRYS AP IWAN).
PAN weithiai gynt â'i ddwylaw yn yr ardd,
Daeth ato dduwies ieuanc; ebe hi
"Ceridwen ydwyf, rhoed it awen bardd,
Dyred am hynny, canlyn dithau fi."
A myned a wnaeth yntau gyda hi,
Hyd lwybrau teg ond dyrys yn y coed,
Lle gwelai dlysion flodau fwy na rhi,
Lle clywai y gynghanedd fwyna 'rioed.
Canlynnodd hi am lawer blwyddyn wen,
Hyd nes adnabu harddwch lliw a llun;
Oddiar ei lygad tynnodd hithau len
Nes ydoedd mwy yn gweled Duw ei hun.
Ni chanodd ond ychydig gerddi gynt,
Ac nid oes undyn byw a'u gwelodd hwy;
Er iddo weled llawer ar ei hynt,
Fe wyddai fod i'w weled lawer mwy.
Ag ef ym mhlas Ceridwen, coed a chraig,
Daeth ato dduwies arall; ebe hi,
"Gwrando, rhoed iti reddf yr ysgolhaig,
O mynni wybod, dyred, canlyn fi."
Cyfododd yntau a chanlynnodd hi
Ar led y gwledydd am flynyddau maith;
Adnabu drwyddi wŷr o uchel fri.
A dysgodd ganddi lawer estron iaith.
Fe'i gwelwyd yn ei chanlyn ar ei thaith
Hyd feusydd enwog Groeg a Rhufain gynt,
A chlyw-wyd ef yn adrodd lawer gwaith
Y cerddi a ddysgodd ganddi ar ei hynt.
Cynefin iddo oedd Italia werdd,
Ac ar ei dafod, llefn oedd iaith y wlad;
O waith ei beirdd, e fedrai lawer cerdd,
A gwyddai am ei breuddwyd hi a'i brad.
Hoff ganddo Ffrainc feddylgar, loew a hardd,
Brenhines dawn a deall daear lawr;
A'r "eang Ffrangeg," hithau, iaith y bardd
A'r gwr bonheddig, carodd hi yn fawr.
Adwaenai wlad Ysbaen, lle trig o hyd
Urddas a hamdden gwiw y Ganol Oes;
Mwyn y llefarai'r iaith sy'n cadw hud
Hen fywyd balch a llawn o firain foes.
Hyd lannau Rhein y rhodiodd lawer gwaith,
A hanes hen ei chestyll, gwyddai ef;
Ac nid anhysbys iddo ef ychwaith
Oedd erwin fawredd yr Almaeneg gref.
Fe'i gwelwyd ef ar lannau afon Nil
Yn rhodio'n araf ar ei ben ei hun,
Lle huna mud weddillion llawer mil
O oesau medr a gwybod cynnar dyn.
Bu'n edrych ar y pyramidiau fry,
Agwrdd freuddwydion oesau bore'r byd,
Bu'n edrych ol y cynion gynt a fu
Yn tyllu El Mocattam ar ei hyd.
Bu'n gwylio Mosc Mohammed Ali draw,
A'i chromen megys cwpan glaer o wawn.
Yn nofio'n hoew, a meindwr ar bob llaw,
Fel pelydr aur, dan ruddgoch haul prynhawn.
Bu'n gwrando'r Muezzin, a'r haul ar ŵyr
Tu draw i orwel pell yr anial mawr,
Yn galw y ffyddlon at ei weddi hwyr,
A'i lais fel llef o'r nef yn syrthio i lawr.
Bu'n crwydro hyd heolydd Cairo bell,
Ar derfyn dydd newynnog Ramadân,
A llawer un yn codi yn ei gell
At Allah hanner gweddi, hanner cân.
Bu'n gwrando ar y cychwyr wrth eu gwaith
Yn rhwyfo ar yr afon lawer tro,
Tan hanner canu mewn rhyw ryfedd iaith
Nad oes a'i llefair mwyach yn y fro.
Fe welodd bererinion fwy na mwy,
Yn cyrchu tua Mecca ar eu taith,
A theimlodd nad oedd ofer iddynt hwy
Na dirmygadwy ganddo yntau chwaith.
Ar wyneb oer y Sphinx bu'n syllu'n hir,
A'r deml, sydd uthr, er bod yn adfail, mwy;
A wyddai'r sawl a'u cododd hwy y gwir?
Erys y maen, pa le yr aethant hwy?
A duwies Gwybod yn ei ddwyn i'w hynt,
Daeth ato dduwies arall; ebe hi:
"Rhoed awen wir y dysgawdr iti gynt,
O mynni ddysgu, dyred gyda mi."
A chanlyn honno wedi hyn a wnaeth,
Dug hithau ef yn ol i'w wlad ei hun;
Ond nid adnabu hi ei mab pan ddaeth-
Nid oedd ei feddwl ef a hithau'n un.
Mynasai ef gael iaith ei wlad yn lân,
A gwneud ei llên yn eang ac yn gref,
A thybiai hithau, gyda'r beirniaid mân,
Mai mympwy ydoedd ei wybodaeth ef.
Mewn prinder a dinodedd y bu fyw,
Heb le i wneud ei oreu ef ei hun.
Ond dysgodd ambell un i weled Duw,
Heblaw drwy gyfing osodiadau dyn.
Fe roddwyd iddo nawdd gan ambell un
Nad oedd ond teilwng i fod iddo'n was;
Am fynnu rhyddid yn ei wlad ei hun
Rhoed dirmyg arno gan estroniaid bas.
Ni fagodd Cymru fab a'i carodd hi
Yn burach nag y carodd ef, erioed,
Nag un a roisai, er ei lles a'i bri,
Yn loewach erddi y doniau iddo roed.
Ond ni rwgnachodd rhag ei druan ffawd,
Ac nid achwynodd unwaith ar ei wlad,
Bodlonodd ar ryw gylchoedd bychain tlawd,
A rhannodd o'i wybodaeth fawr yn rhad.
Ni byddai ar ei iaith na brych na briw,
Bid wrth y tân, bid araith ar gyhoedd;
Hawdd gwybod wrth ei ymadroddion gwiw
Mai gwr o ddysg a gwr bonheddig oedd.
Yn dawel ac yn ddiwyd, gwnaeth ei waith,
Nes daeth ei daith ar ganol dydd i ben,
A distaw iawn y dug ei gystudd maith
Fel un yn gweld yr achos drwy y llen.
Ni wybu'r oes mo faint ei ddoniau ef,
Ni wybu undyn faint a wyddai chwaith,
Ond os na chlywir mwyach yma'i lef,
Daw goleu dydd yfory ar ei waith.
V.—Y BARDD.
PAN oedd ef yn llanc pen felyn
Gartref ar y mynydd gynt,
Hoffai glywed cainc y delyn,
Carai wrando ar swn y gwynt.
Carai grwydro rhwng y blodau,
Ac ymgolli dan y dail;
Gwelodd yno ryfeddodau
Fyth na chanfu ef eu hail.
Dysgodd lu o draddodiadau,
Chwedlau gwyll y duwiau gynt;
Bywiodd fywyd gwyllt ei dadau
Hyd y rhosydd, yn y gwynt.
Ag efe yn mynych grwydro
Gan freuddwydio ar yr hynt,
Gwelodd fannau lle bu frwydro
Dros y fraint a gollwyd gynt.
Carodd hanes tywysogion
Cymru pan oedd Gymru rydd,
Arthur Frenin a'i Farchogion,
A ddaw'n ol pan delo'r dydd.
Chwiliodd lawer am yr ogo
Lle maent hwy yn huno'n hir,
Nes daw'r alwad a'u harfogo
Unwaith eto dros eu tir.
Gwelodd hyd y moelydd brychion
Lawer llu, wrth oleu'r lloer,
Heibio yn eu gwisgoedd gwychion
Yn ymdeithio'n fud ac oer.
Coch a du a gwyrdd a melyn,
Glas a gwyn eu gwisgoedd cain,
Gwiw eu golwg—gwae y gelyn
Yn y rhuthr o flaen y rhain!
Yn y niwloedd oer a llwydion,
Collai hwy ar glais y wawr,
Ond ni pheidiodd â'i freuddwydion
Am ddyfodiad Arthur Fawr.
Hyfryd oedd y dyddiau hynny,
Teg a rhyfedd oedd y byd,—
Pan orffenno'r enaid synnu,
Cyll ei dwf a'i nerth i gyd.
Gwelodd flodau'r haf yn heidio
Lawer tro ar frigau'r drain,
Ond nid allodd unwaith beidio
A rhyfeddu at y rhain.
Ond yn nhreiglad y blynyddau,
Mynd a ddarfu iddo ef
O dawelwch y mynyddau,
Lle mae'r ddaear yn y nef.
Yn y dref yn flin ei drafael
Wedyn cafodd lawer croes,
Ond ni chollodd ef ei afael
Ar freuddwydion bore oes.
Gwybu estron draddodiadau,
Dysgodd bennaf ieithoedd byd;
Iaith a hanes gwlad ei dadau,
Mwy y carodd hwy o hyd.
Hir freuddwydiodd ganu cerddi
A roi fri i'w fro ei hun,
Gwneuthur llawer gorchest erddi
A'i chyfodi'n uchaf un.
Canu ei hanes hi a fynnai,
Rhoddes draserch ar yr iaith,
Digon ganddo fyth os tynnai
Rai i'w charu drwy ei waith.
Bod a geisiai yn lladmerydd
Syndod enaid drwy ei hun,
A mynasai roi lleferydd
I ieuenctyd ysbryd dyn.
Gwelodd yn ei freuddwyd goleu
Lewyrch ar ei lafur maith;
Llenwi llawer o gyfrolau
Hardd o wisg yr oedd ei waith.
Taerwyd mai oferedd ydoedd
Ei freuddwydion oll i gyd;
Eto unig fyd y bydoedd
Oeddynt iddo ef o hyd.
Yn ei galon fe ddychmygodd
Ieuanc fyd heb wae na chŵyn;
Credodd ynddo a dirmygodd
Aur ac arian er ei fwyn.
Wyched oedd ei weledigaeth,
Uched oedd ei gais ef gynt!
Ond yn nydd y brofedigaeth
Chwalwyd hwythau gyda'r gwynt.
Daeth tynghedfen i wahanu
Rhyngddo â'r idëol fyd;
Mae y cerddi heb eu canu,
Mae y bardd yn adfail mud.
Gwrthun, ebe gwŷr y geiniog,
Ofer oedd ei lafur ef.
A'i ddychymyg ffol, adeiniog,
Melltith oedd, nid bendith nef.
Nid ŵyr yntau mo'r llawenydd
Gynt a wyddai, truan yw;
Collodd ryddid yr awenydd,
Os yw'n bod, nid ydyw'n byw.
Ond er dyfod cwymp alaethus.
Ar y byd a wnaeth y bardd,
Mynych dřydd ei drem hiraethus
At y lle bu'r breuddwyd hardd.
VI.—Y TRUAN.
UN o dô isaf y werin oedd ef,
O deulu trueni a thlodi;
Y cyntaf peth a gofiai oedd llef
Anghenus o'i gylch yn cyfodi.
Gwybu ddioddef ym more 'i ddydd,
Dioddef gan oerni ac eisiau;
Gwael oedd ei raen a gwelw oedd ei rudd,
A than ei ddau lygad yn gleisiau.
Trist ydyw canu ei fywyd ef,
Bardd hagrwch yw'r prydydd a'i cano;
Budr oedd ei gartref ynghors y dref,
A phoenus yw darllen am dano.
Eto 'roedd rywbeth yn debyg i ddyn,
Ac ynddo ef unwaith bu enaid;
A'r prydydd a ganai fywyd ei hun,
Nid allai anghofio 'i uchenaid.
Gwelodd ei dad yngafael y nych
Yn marw gan dorri ei galon,
A'i fam yn dihoeni 'n druan ei drych
Ynghanol ei phoen a'i gofalon.
Yntau, gadawyd e'n druan ei ffawd
I fyw ar drugaredd cymdogion—
Oes mae calonnau ynghytiau'r tlawd,
Rhowch goel ar un ŵyr, gyfoethogion.
Gwelwyd e'n mynd i ganlyn y plant
Yn droednoeth mewn newyn a rhyndod,
A'i lygaid dyfnion yn rhoddi cant
Am ofid mud, athrist plentyndod.
Dysgwyd iddo yn ysgol y plwy
Gan rai heb adnabod cywilydd,
Fod Duw yn y nef yn dad iddynt hwy,
A dynion yn frodyr i'w gilydd.
Tybiodd mai rhyfedd na roddai y Tad,
A'r brodyr, wrth weled eu gwyched,
Damed neu lymed i'r gwael eu hystad
I dorri eu newyn a'u syched.
Methodd a deall, tyfodd yn llanc,
A'i waed gan wrthryfel yn berwi;
Cardod ar ddamwain ni thorrai ei wanc,
Ond parai i'w ysbryd chwerwi.
Cyfaill ni feddai efe yn y byd.
Ac eto cyfeillach a fynnai;
A'i galon yn chwerw ac unig, o hyd
Am rywun a'i carai, newynnai.
Cyfarfu â benyw wrth rodio'r ystryd,
A honno fel yntau yn rhynnu;
Truan a brwnt oedd ei bywyd i gyd,
Ond glân oedd ei henaid er hynny.
Er saled ei diwyg, glân oedd ei phryd,
A gwelwyd ei glendid yn fuan;
Trachwant goludog a phleser y byd
A'i dug oddiar draserch y truan.
Darfu ei obaith yntau i gyd.
Ac ni chafwyd neb i'w waredu,
Cerddodd hyd lwybrau duon y byd
A'i galon o hyd yn caledu.
Ni roddwyd iddo mo'r atgo mwyn
Am ienctid iach a di bryder,
Y fendith sy'n lleddfu llawer cwyn
Ac yn rhoi yn y galon hyder.
Drych o drueni oedd edrych yn ol,
Ac edrych ymlaen yr un ffunud;
Llithrodd dan rym y gynddaredd ffol
Na phery ei phleser ond munud.
Treiglodd i ganlyn ei ffawd yma a thraw
Yn adyn heb gartref nac annedd,
Trom ar gymdeithas dyn fu ei law,
A bwriodd ei wenwyn i'w dannedd.
Hithau Gymdeithas yn flin a'i troes
O gyfyl ei thai a'i hystrydoedd,
Er mai hyhi yn ei gwanc a roes
Y cyfle a'i gwnaeth yr hyn ydoedd.
Cododd ei law yn nhrueni rhyw hwyr
Yn erbyn Cymdeithas a'i llawnder;
Hithau a'i lladdodd o'r diwedd yn llwyr,
A galwodd y gwaith yn gyfiawnder.
Gwelodd y gyfraith honno yn dwyn
Eu bywyd oddiar ei rieni,
Teimlodd ei phwys yn ei yrru'n ddi gŵyn
I rodio hyd lwybrau trueni.
Trengodd yn aberth i gyfraith ei wlad,
Disgynnodd ei melltith hi arno;
Ni chafwyd undyn i gofio 'i ystad,
Ac eto, ystyried a'i barno.
VII.—ELIN GALON UNIG.
MERCHED truain oedd ei neiniau—
Gwau hosanau, gwneud llieiniau,
Gwisgo betgwn byrr a pheisiau,
Prin y clywai neb eu lleisiau.
Er eu bod yn gweithio'n galed
Ac yn byw yn wir cyn saled,
Methodd henaint, neiniau heini,
Dynnu daint o ben y rheini.
Nes yw arddwrn na phenelin,
Ond nid tebyg ydyw Elin,
Er ei bod i'w nain yn ŵyres,
Cafodd ddannedd gosod, ddwyres.
Pwyllog oedd ei thad ac ara,
Heliodd bres wrth werthu bara,
Ac 'roedd hynny, rhaid dywedyd,
Hen greadur, iddo'n gredyd.
Ond yr oedd ei mam hi, Nansi,
Braidd yn falch a mawr ei ffansi;
Mynnai droi ym mysg y pigion—
Bu'n gwasnaethu boneddigion."
Ni chai Elin, er y bydoedd,
Fynd i chware i'r ystrydoedd;
Ac ni chafodd fyned wedyn
I ryw ysgol fach gyffredin.
Aed a hi yn bur fawreddig
I ysgolion plant bonheddig,
Fel y caffai hi drwy hynny
Gyda hwy ei dwyn i fyny.
Dysgodd yno Saesneg gweddol,
A rhyw Ffrangeg mor ryfeddol
Fel nad ydoedd pan siaradai
Neb yn deall a ddywedai.
Dysgodd wau a brodio'n weddol,
Dwbio paent yn dra rhyfeddol,
Gwneuthur (dyna'r gwir am dano)
Dwrw poenus ar y piano.
Dysgodd ddarllen nofeligau
Am "Gymdeithas " tua'r brigau,
Ond y bennaf gamp a rifai
Ydoedd medru dawnsio'n ddifai.
Yna wedi gorffen dysgu,
Fe ddaeth allan i gymysgu
A chymdeithas ddyrchafedig
Dan ei champau yn nodedig.
Dysgodd yno'n ddigon buan
Nad oedd obaith iddi, druan,
Ddenu neb o stad i'r cortyn,
Am mai bechan oedd ei ffortun.
Eto dysgodd sut i weithio,—
Ffol o beth yw anobeithio;
Gwir mai gwell gan ambell hurtyn
Garu'r ferch na cheisio 'i ffortun.
Ond nid aml eu rhif yw'r rheiny,
Mwy na gemau ymysg y meini,
Ni ddaeth undyn a ofynnai
Am ei chalon mwy na'i mwnai.
Tyngodd hithau na chytunai
Pe ceid brenin a'i dymunai,
A dywedodd yn ddi niwed
Fod priodas yn gaethiwed.
Tyngodd wedyn mai gelynion
Creulon merched ydyw dynion,
Ac nad ellir eu digoni
Ar ddyfeisio pob drygioni.
Daliodd i ddywedyd hynny
Er nad ydoedd neb yn synnu,
Ac o'r diwedd, hi a'i credodd
Gan fynyched y dywedodd.
Yna troes i ysgrifennu
Ac i siarad ac i sennu,
Ac i hawlio gwir wastadrwydd
Yn lle'r ormes a'r anfadrwydd.
Wedi bod drwy'r wlad yn teithio,
Aeth i'r Senedd i areithio,
Er fod yno ormod eisys
O hen wragedd tra maleisus.
Ac yn ymresymiad, cipiodd.
Berwig swyddog, ac fe'i cripiodd
Hyd nad oedd ei waed redegog
Ar ei wyneb llyfn, blonhegog.
Tynnodd dusw o farf gweinidog,
Aeth a thalp o foch cadfridog,
Dyrnodd esgob yn ei stumog,
Ciciodd blismon yn ei grimog.
Barnodd gwyr y cwt baldorddi
Fod rhyw gythraul yn ei chorddi,
Er nad oedd yr holl godymu
Ddim ond dull o ymresymu.
Cyrchwyd deg o wyr i'w chario,
Bu raid cau y drws a'i fario;
Mynnai'r ustus fod yn dirion—
Carchar fynnodd Elin wirion.
Mae hi eto'n ysgrifennu
Ac yn siarad ac yn sennu,
Ac yn dal nad ydyw dynion
Ond arglwyddi a gelynion.
Am na roddwyd iddi gariad,
Mynnai dynnu oer amhariad
Ar y swynion bythol heini
Leinw ein bywyd â goleuni.
Brwnt yw'r byd a llawn creulondeb,
Nid oes ynddo ef uniondeb
Namyn lle bo cariad cynnes
Uniad enaid dyn a dynes.
Pan ddaw cartref a'i serchowgrwydd
Fel y byd yn llawn llidiowgrwydd,
Fe ddaw eithaf pob anfadrwydd,
Gormes erch ac anwastadrwydd.
Os daw'r byd o'i fall anhwyldeb.
Fel y cartref a'i anwyldeb,"
Ni bydd dyn a barai niwed,
Mwy na dynes mewn caethiwed.
VIII. Y CONACH.
CADWAI 'i hendaid yn y dref,
Le i ddarllaw diod gref,
Nid oedd hynny ynddo 'i hunan
Glod nag anglod iddo ef.
Byddai wrthi fore a hwyr,
Gwnae bob peth a wnai yn llwyr;
Beth cyn hynny oedd y teulu,
Nid oes heddyw neb a'i gŵyr.
Ond fe gasglodd lond ei god.
Ac am hynny cafodd glod,
Codwyd ef yn ustus heddwch-
Un o'r swyddi penna 'n bod.
Daeth y teulu yn ei flaen,
Er mai cas oedd cofio staen
Masnach ar yr hendaid hwnnw,
Ond mae aur yn gwella'r graen.
Aeth y taid i fyw i'r wlad,
Prynnu tir a wnaeth y tad,
Gwnaed e'n farchog am na chafodd
Fynd i'r Senedd er ei stad.
Aeth y mab pan ddaeth ei dymp
I ysgolion mawr eu camp,
A daeth adref o Rydychen-
Wedi dysgu rhwyfo'n rhemp.
Pennaf peth yngolwg hwn.
Ydoedd fedru trin y gwn;
Ni bu ail er dyddiau Nimrod
Iddo yn yr hollfyd crwn.
Carai ef yn fawr ei froch
Gŵn a meirch a siaced goch,
Rhwygo gwrychoedd, år, ac egin,
Rhegi 'n greulon, gweiddi 'n groch.
Caed fod hynny cyn bo hir
Wedi codi staen y bir,
A'i fod yntau 'n deilwng bellach
O gymdeithas benna'r tir.
Nid oedd goedydd ar y stad-
Wyr tafarnwr oedd ei dad-
Felly nid oedd yno loches
I bryfetach gwylltion gwlad.
Rhaid cael coed i'w magu hwy
A mieri fwy na mwy,
Lle cae ieir y coed a phetris
Gysgod braf o hanner plwy.
O'u cartrefi hen cyn hir
Gyrrodd ddynion goreu 'r sir,
Dygodd yn eu lle lwynogod
Onid ef oedd biau'r tir?
Bellach, magu yno mae.
Adar hanner dof, na bae
Neb o'r helwyr gynt a'u saethai
Mwy nag ieir ar gwrr y cae.
Wele'r conach wrth ei waith
Heddyw ar yr helfa faith,
A'i gyfeillion yn ei ganlyn
Megys byddin ar ei thaith.
Rhaid wrth lu o wŷr a ffyn
I ddychrynnu 'r adar syn
Cyn y codant ar yr asgell
Fel y saetho 'r helwyr hyn.
Saif y conach yntau draw,
Dau o ynnau at ei law,
Dyn i'w llwytho 'n barod iddo,
Hwythau'n clecian yn ddi daw.
Cwymp yr adar wrth ei draed
Gan ymgreinio yn eu gwaed,
A'i ddig anian ni ddigonir,
Digon iddi 'rioed ni chaed.
Hyd y llawr yn glytiau briw,
Gwinga rhai yn hanner byw,—
Cam ar druan fod yn greulon,
Camp ar draws cyfoethog yw.
Ar ddifyrrwch mae ei fryd,
Am ddifyrrwch tâl yn ddrud,
A'i ddifyrrwch unig ydyw
Lladd, lladd, lladd a lladd o hyd.
A'i ddifyrrwch ni rydd hoen,
Lledu 'n llidiog mae ei ffroen,
Creulon yw ei wanc ddiderfyn
Ef am ladd a pheri poen.
Chwerwaf cad a fu erioed
Lladdfa'r adar yn y coed,
Pennaf lladdwr oedd y conach,
Mawr y moliant iddo a roed.
Fore arall gyda'r wawr
Clywir corn y conach mawr;
Gwae lwynogod yr ardaloedd,
Ar eu hol mae ef yn awr!
Rhuthra yn ei lidiog chwant
Heibio'r gwr sy'n talu'r rhent,
Ac ni thrydd ag edrych arno
Mwy na'r llwch sydd ar ei hynt.
Dacw 'r meirch yn tyrru 'n chwyrn,
Chwardd y conach ar y wern
Weld y cŵn yn llarpio'r llwynog
Yn y canol bob yn ddarn.
Ar dy liniau syrth i lawr,
Ddyn, a thynn dy gap yn awr,
Gwybydd i dy lygad weled
Prif ogoniant Brydain Fawr!
IX.-Y NAFI.
GARW yw ei wyneb
A chorniog ei law
Gan ol y tywydd
A'r caib a'r rhaw.
Cerdda 'n ddi daro
A thrwsgl hyd y dre,
Fel un cynefin
A llawer lle.
Cysgodd neithiwyr
Ym mon y clawdd-
Yno mae gorwedd
A chodi yn hawdd.
Ceiniog a dimai
Yw'r oll ganddo sydd
I dorri newyn
A syched y dydd.
Prin yw ei eiriau
A chras yw ei lais,
Gwybod cyfeiriad
Y ffordd yw ei gais.
Clywodd yn rhywle
Fod gwaith ger y dref,
Lle mae ar wareiddiad
Ei angen ef.
Cerdda 'n ddi daro
I'r meusydd draw—
Mae yno rwbel
A chaib a rhaw.
Cyn codi'r barrug
Mae yntau'n un
O fyddin y fatog,
Yr ordd a'r cŷn.
Ei freichiau noethion—
Nid eiddo grys—
Cyhyrrog ydynt
A gwlyb o chwys.
Parod fyth ydyw
Ei lwyth o glai,
Ac olwyn ei ferfa
Funud ni sai.
Yn llawn i fyny,
Yn wâg i lawr,
Heb dro na seibiant,
O awr i awr.
Prin yw ei eiriau
Cras yw ei lais,―
Gwybod yr amser
Yn unig a gais.
Mae cloch yn canu
A phawb yn troi—
Mae'n rhaid i nafi
Gael tamed i'w gnoi.
Ceiniog a dimai
Oedd gan y gwr,
A bwyty ei ginio
O fara a dwr.
"Cinio go fychan,"
Medd un ar draws,
A theif i'r estron
Gilcyn o gaws.
"Hwda," eb arall
Llygatgam, dig,
Ac estyn iddo
Damed o gig.
"Yf," medd y trydydd,
A'i bot yn llawn,
"Diod go ddiflas
Yw merddwr mawn!"
A gweithiant felly
Am wythnos gron,
A'u geiriau'n brinion
A gerwin, bron.
Bu un yn Affric
Ac India bell,
A gwelodd amseroedd,
Rhai gwaeth a rhai gwell.
Bu arall, meddai,
Ym mhellter byd,
"Symol" oedd hanes
Y gwledydd i gyd.
Gair ar ddamwain
A rheg neu ddwy
Ddanghosai belled
Y buont hwy.
Daeth nos Sadwrn,
A chyda hi
Gyflog yr wythnos
A llawer spri.
Dadleu a dadwrdd
A llawer ffrae,
Rhyw fyd bach cymysg
Rhwng cloddiau cae.
Ar ucha'r helynt,
I'r lluest daw
Y gair fod plentyn
Yn gorff ger llaw.
A'r tad ynghanol
Y dadwrdd i gyd
Sibryda "Y bachgen!"
A thrydd yn fud.
A'r estron olaf
Yn cofio'r cig
A roes ei gymydog
Llygatgam, dig.
Ni phaid y siarad,
Ond oddi draw,
Daw ef o gwmpas
A'i gap yn ei law.
Mae pawb yn estyn
Ei law yn chwap,
A hanner tal wythnos
Pob un yn y cap.
Ni thau y dadwrdd,
Ni dderfydd y broch—
Mae'r nafi yn wylo
Drwy dyngu'n groch!
X.-Y GWLADGARWR.
(ER COF AM MICHAEL DAVITT).
YNGWAWR ei fywyd gwelodd ef
Ei wlad yngafael estron drais,
A deffro wnaeth ei galon gref
Pan glywodd ef ei thruan lais.
Dywedwyd wrtho lawer tro
Mai gwlad ei dadau ydoedd hi,
A dysgodd draddodiadau'r fro
Am ryddid gynt a braint a bri.
Fe glywodd am y dyddiau fu
Pan ydoedd Finn yn ben y wlad
A hanes am Cuchullin a'i lu
Yn trechu'r gelyn yn y gad.
Wrth wrando cerddi a chwedlau'r beirdd,
Dychmygodd weld yr ynys gynt,
Ei merched fyth yn hoew a heirdd,
A'i harwyr eto ar eu hynt.
Ond truan ydoedd ei hystâd,
Heb ryddid mwy, na braint na bri,
Ac iaith brenhinoedd hen y wlad
Yn trengi ar ei gwefus hi.
Un dydd fe'i cafodd ef ei hun
Yn sefyll gyda'i dad a'i fam,
Ar fin y ffordd yn wael eu llun,
A'u cartref bychan tlawd yn fflam.
Cyneuodd tân yr estron cas
Ym mron y bychan yntau fflam,
Nad oerodd un creulondeb bas
Ac nas diffoddodd unrhyw gam.
Drwy lafur hir a chreulon drais
Fe losgai'r fflam yn bur o hyd,
A rhoddes i'r gwladgarwr lais
Ac enw a aeth hyd bellter byd.
Ni fynnai ef ond rhyddid llawn,
Ei dwyfol hawl, i'w wlad ei hun;
I'w geisio rhoddes oreu dawn
A phuraf calon gywir dyn.
Ni chafwyd tramgwydd yn y byd
Na rhwystr a safai rhagddo ef,
Yr oedd ei ffydd yn loew o hyd
A'i galon ddidwyll fyth yn gref.
Swynai a synnai lawer mil
A grym ei lawn ddigymar lef,
Ynghyngor ucha'r estron hil
Rhaid a fu wrando arno ef.
Ymlidiwyd ef o fan i fan
A'i fwrw yngharchar fu ei dal;
A newyn beunydd fu ei ran
Dan law yr estron brwnt a sal.
Ond carai ef ei wlad a'i llwydd,
Ac aeth i garchar er ei mwyn;
Ni phrynwyd ef ag aur na swydd
Fel na roi mwyach lais i'w chŵyn.
Pwy roes i dreiswyr daear hawl
I ddodi iau ar lawer parth,
A chosb y bradwr ar y sawl
Na fynno dderbyn cam a gwarth?
Cosbau y bradwr arno roed
A gwawd gelynion fwy na mwy,—
Pa bryd y tyngodd ef erioed
Lw o ffyddlondeb iddynt hwy?
Cyfododd ef ei lais yn hy
Dros bobloedd ormesedig byd;
Y gwan, fe fyddai ar ei du,
Nid bas na chyfing oedd ei fryd.
Ni phlygodd ef ei lin erioed
I frenin nac offeiriad chwaith;
Arferai'r meddwl iddo roed,
A phlaen a gonest oedd ei iaith.
Hun, di Wladgarwr, yn y bedd
Yn naear werdd dy fro dy hun,
Rhoes angau iti fythol hedd,
A chofir di tra chaffer Dyn.
XI.—Y CHWARELWR.
(SEILEDIG AR DDIGWYDDIAD GWIRIONEDDOL, A CHYFLWYNEDIG I CHWARELWYR ARFON).
GWEITHIO y maent yn y chwarel,
Dau fu gyfeillion erioed,—
Ar rimyn cul yn nannedd y graig,
Dim ond rhyw le i roi troed.
Danynt ymegyr y dyfnder,
A'r graig yn serth ac yn llefn,
A chlogwyn yn taflu dros ei droed,
Rhyngddynt a'r brig drachefn.
Crogi mae'r rhaff dros y dibyn—
Hyd-ddi y daethant i lawr,
Ac hyd-ddi, pan gano corn yr hwyr,
Y dringant y clogwyn mawr.
Tyllant dan sawdl y clogwyn.
I'w chwalu oddiar y ffordd,
A'r garreg ateb yn gwatwar swn
Cyson yr ebill a'r ordd.
Cwyd tarth o gilfachau'r mynydd,
Mae'r cysgod yn ddu ar y ddol;
Gŵyro mae'r haul i'r gorllewin pell—
Pwy wêl ei ddyfod yn ol?
O'r diwedd mae'r corn yn canu,
Mae diben ar waith y dydd,
A mil o gaethion masnach a moeth
Am ennyd yn mynd yn rhydd.
Ac wele'r ddau gyfaill yn barod
I gychwyn y dringo fry;
Mae'r cyntaf yn gafael yn y rhaff
I fynd, ond, O Dduw! beth a fu?
'Roedd tro ar y rhaff yn rhywle,
A chwympodd yntau i lawr,
A llithrodd nes erys, ar flaen y rhaff,
Ynghrog uwch y dyfnder mawr.
Sefyll mae'r llall ar y dibyn,
A'i waed yn fferu gan fraw,
A gwel fod y clogwyn yn taflu'r rhaff
Naid helaeth o gyrraedd ei law!
Mae'n gweiddi "Gwydna dy afael
I mi gael rhoi naid ar y rhaff
A dringo a gollwng rhaff arall i lawr-
A oes gen ti ddigon o raff?"
O'r dyfnder, sy'n prysur dduo,
Daw ateb crynedig ond clir-
"Mi ddaliaf-na, paid a'th beryglu dy hun,
Ni fedrai'i ddim dal yn hir!"
"Dal d'afael, mi neidiaf y funud
Y clyw fi'n gweiddi tri!"
Ust! "Un, dau, tri!"—dacw ef allan fel saeth,
Och! methodd y rhaff—dyna gri!
Na! gwelwch ef, caeodd ei ddwylaw
Fel dur am y rhaff! ac yn awr
O afael i afael, mae'n cyrraedd y brig,
A dacw raff arall i lawr!
"Rho'th droed drwy y ddolen os medri!"
Medd llais dros y clogwyn fry,—
Ond ni ddaw ateb yn ol, ac yn awr,
Mor ddistaw yw'r dyfnder du!
"Rhy hwyr, druan bach!" medd y cyfaill,
A'r rhaff eto'n llac yn ei law;
Na! gwelwch e'n dal, mae'r rhaff yn tynhau,
Mae cymorth yn dyfod draw.
Mae dwsin o ddwylaw cryfion
Yn awr am y rhaff yn cau;
Tynnant—daw pen dros y brig—dyna floedd,—
Cofleidio eu gilydd mae'r ddau!
CWMNI Y CYHOEDDWYR CYMREIG (CYF.), CAERNARFON.

Nodiadau
[golygu]- ↑ "Ef awelei y uot yn kerdet gwladoed teccaf a gwastattaf awelsei dyn eiryoet or parth arall yr mynyd." ["Breuddwyd Macsen Wledig."]
- ↑ Afallen peren blodeu esplit,
A tif in argel in argoydit"
["Afallennau Myrddin."] - ↑ "Tonn wenn orewyn a orwlych bet
Guytua ruuaun bebyr ben teyrnet."
[Gorhofet Hywel ab Owain Gwynedd]. - ↑ "Ac yna y kymerassant hwy blodeu y deri, a blodeu y banadyl, a blodeu yr erwein, ac or rei hynny asswynaw yr un uorwyn deckaf a thelediwaf a welas dyn eiryoet. Ac bedydyaw or bedyd a wneynt yna, a dodi Blodeuwed arnei." ["Math fab Mathonwy."]
- ↑ "Clybot o Arthur hynny ... a gwneuthur tangneued y rwng Gwynn mab Nud a Gwythyr mab Greidawl. Sef tangneued awnaethpwyt, gadu y uorwyn yn ty y that yndiuwyn or dwy barth, ac ymlad bob duw Kalan Mei uyth hyt dydbrawt or dyd hwnnw allan, y rwng Gwynn a Gwythyr, ar un a orffo onadunt dydbrawt kymeret y uorwyn." ["Kulhwch ac Olwen."]
- ↑ Wrth gamu brwynen breit na dygwyt
Bechannigen wenn wann y gogwyt.
[Hywel ab Owain Gwynedd.] - ↑ "Pedeir meillonen gwynnyon auydei yn y hol pa fford bynnac y delhei." ["Kulhwch ac Olwen."]

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1925, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.