Neidio i'r cynnwys

Ymdeithgan yr Urdd

Oddi ar Wicidestun

Ymdeithgan Urdd Gobaith Cymru,
(Ymdeithgan Cymru Fydd yn wreiddiol


Dathlwn glod ein cyndadau,
Enwog gewri Cymru fu;
Gwŷr yn gweld y seren
Ddisglair trwy y cwmwl du,
Ar ôl llawer awel groes,
Atgyfodwn yn ein hoes,
Hen alawon dysg a moes Cymru Fu.

Cytgan


Sain, cerdd a chân,
Hen Gymru lân,
Heddiw lanwo Gymru wen, Cymru lân,
Plant Cymru Fu, hen Gymru gu,
Codwn enw Cymru lân.

Bonedd Gwlad gyda’i gwerin
Foesymgrymant ger ei bron,
Merched mwyn a llanciau
Roddant gêd ar allor hon;
Dewch â’i thelyn feinlas fwyn,
Hen alawon syml eu swyn,
Adlais odlau grug a brwyn Cymru Fydd.

—Lewis Davies Jones (Llew Tegid)