Yn Llefaru Eto/David Charles Davies Englynion Coffaol
| ← David Charles Davies Pregeth-Gwyrdroad o'r Efengyl, Galatiaid i. 6, 7 | Yn Llefaru Eto gan Anhysbys |
Joseph Thomas, Carno Fel Pregethwr → |
ENGLYNION COFFAOL.
O golled! pa fodd y gellir ei dal,
Cwmwl du a daenir;
Wele—am Davies wylir,
Mae hi 'n wag yma yn wir.
Os galwn yn nrws ei Goleg—acw
Yn Nhrefecca wiwdeg,
A chwenych, ni chawn chwaneg
Yn y ty ei wenau teg.
Y dwthwn pan y daethai—ei Sabbath,
Ryw seibiant braf fyddai,
Fel afon Gras fe lifai,
A llonai fyd llawn o fai.
Agorai â'i feddwl gwrol— a thriniai
Athroniaeth feddyliol;
A dewr rwysg ceid ar ei ol,
Nwyfus feddyliau Nefol.
Di os mae 'n golled oesoedd—o adwyth
Ac oediad amseroedd ;
O! awr flin i roddi'r floedd,
Ymyred twrf y moroedd.
Angel lanwyd yn ngoleuni—difeth
Y dwyfol fawrhydri,
Y doethaf ddyfnaf deithi,
Diau o'r nef roes Duw ini.
Yn agos ni cheid enwogion—o'i faint
'Roedd e 'n fwy o ddigon;
Ai rhag ei flaen i'r eigion,
A gwyliai 'r dwfn—gwely 'r don.
Eilwaith fe glywir wylo—o Seion
Sydd bron a llesmeirio;
A choeliwn na chaiff, er chwilio,
Y dyn o fraint 'r un faint a fo.
Y Parch. JOHN JONES, Bryn'rodyn