Yn Llefaru Eto/Edward Matthews, Eweni Byr-hanes, a'i nodweddion fel Pregethwr
| ← John Harris Jones Pregeth—Dwyn Meibion lawer i Ogoniant, Hebreaid ii. 10. | Yn Llefaru Eto gan Anhysbys |
Edward Matthews Pregeth—Yr Anmherffaith a'r Perffaith, I Cor. xiii. 1, 12. → |

Y Parch. Edward Matthews, Eweni.
𝔜 𝔓𝔞𝔯𝔠𝔥. 𝔈𝔡𝔴𝔞𝔯𝔡 𝔐𝔞𝔱𝔱𝔥𝔢𝔴𝔰, 𝔈𝔴𝔢𝔫𝔦.
FEL PREGETHWR.
Gan y Parch. J. Wyndham Lewis, Caerfyrddin.
GANWYD y gwr mawr ac athrylithgar hwn yn Sant Athan, Bro Morganwg, Mai 13eg, 1813; a bu farw am chwarter i wyth o'r gloch boreu Sadwrn, Tachwedd 26ain, 1892, yn ei breswylfod ei hun, sef, Bryneglwys—ty ardderchog a adeiladwyd ganddo dair blynedd cyn ei farwolaeth, ar lan afon Ogwy, yn nghwr deheuol tref hynafol Pen-y-bont-ar-Ogwy, yn Sir Forganwg. Saif lle genedigol y bardd-bregethwr a'r dramatist enwog ar lan Sianel Bristol, tonau yr hon sydd wedi bod yn golchi ei draed er ys oesau, dwywaith o leiaf, yn y dydd.
Yr oedd tad ein gwrthrych—Thomas Alexander Matthews, wedi hanu o un o deuluoedd hynaf a pharchusaf Bro Morganwg. Y mae llawer o'i hynafiaid yn gorwedd yn Ngangell Eglwys Gadeiriol Llandaff. Perthynas iddo hefyd oedd y Tad Matthews, y dirwestwr enwog wnaeth gymaint o les yn y cyfeiriad hwn yn yr Ynys Werdd. Yr oedd ei fam hefyd—Miss Ann Morgan, yn ferch un o deuluoedd mwyaf cyfrifol y Fro. Bu farw y fam pan oedd Edward, yr ieuangaf o chwech o blant, yn dair mlwydd oed; ond yr oedd yn ei chofio, er hyny, yn dda; a chawsom y pleser o'i glywed, fwy nag unwaith, yn desgrifio pa fath un ydoedd y foneddiges a gafodd y fraint o fod yn fam iddo. Wedi i'w dad wario yr etifeddiaeth ar redegfeydd ceffylau, ac ofer-gampau dwyrain Morganwg, aeth efe a phedwar o'r plant, tri mab ac un ferch, i'r America; ond aeth Thomas Alexander Matthews, y mab hynaf, i Hirwain, lle enwog iawn yr amser hwnw am ei lofeydd, &c; a chymerodd Edward fychan, yr hwn oedd ddeng mlwydd yn ieuangach nag ef gydag ef, a bu iddo yn dad ac yn noddwr; ac yn eglwys Hirwain y dechreuodd efe bregethu pan oddeutu 18 mlwydd oed.
Er iddo gael llawer o wrthwynebiad y ddwy flynedd gyntaf, eto yr ydym yn ei gael yn bregethwr y Cyfarfod Misol mewn pum mlynedd ar ol dechreu pregethu! Daeth yn mhen deng mlynedd y pregethwr mwyaf poblogaidd yn Morganwg, ac eithrio y Parch. William Evans, yr "udgorn arian" o Donyrefail; a pharhaodd yn un o brif bregethwyr Cymru am 55 mlynedd. Er fod llawer o ddadleu ac amrywiaeth barn yn ei gylch fel pregethwr, yr oedd pob dosbarth yn y wlad yn caru ei glywed; ond yn marn y bobl, y werin bobl, nid oedd neb yn y De, pa fodd bynag, fel 'Matthews o'r Eweni.'
Rhodd Duw yn ddiau ydoedd i'r Cyfundeb Methodistaidd. Dynion galluog, pregethwyr hyawdl a nerthol, ydynt roddion penaf yr Arglwydd Iesu i'n byd ni. Un o'r profion sicraf fod enwad o Dduw, a bod ganddo waith i'w gyflawni dros Dduw, yw fod Pen yr Eglwys wedi rhoi i'r enwad hwnw bregethwyr galluog a phoblogaidd : nid all yr un enwad fyw yn hir oddi eithr fod yn ei bwlpud wyr grymus. Pan oedd " Seintiau y Dyddiau Diweddaf," y dynion dirmygedig a diymadferth hyny, yn bygwth cario y cwbl o'u blaen, nid yn unig yn Llanelli, ond hefyd yn rhai o drefi Morganwg, flynyddoedd yn ol, clywais pan yn llanc yn Llychwr, un o'r dynion callaf yn yr hen fwrdeisdref hono yn gwneyd y sylw rhagorol hwn, yn atebiad i frawd arall oedd yn dygwydd bod yn yr ystafell ar y pryd. "Feä pawb, chwi gewch weled," ebe dyn ag oedd ei galon yn llawer gwell na'i ben, " fe ä pawb yn Llanelli a'r cymydogaethau hyn yn Seintiau." Nid yn Seintiau yn ystyr y Testament Newydd, ond Seintiau y Dyddiau Diweddaf; "ac fe welir ein capelau yn fuan," meddai, "wedi eu cau." "Dim perygl," ebe gwr ag oedd genym ni syniad uchel am ei farn, "dim perygl, oddi eithr fod ganddynt anrhaethol well pregethwyr na'r rhai sydd wedi bod yn Nghaslychwr yn pregethu." Y mae yn y sylw yna wirionedd mawr pwysig; nid all yr un enwad fyw yn hir oddi eithr fod ganddo ddynion galluog a hyawdl yn ei bwlpud. I'w phiegethwyr y mae cenedl y Cymry yn ddyledus am ei phethau goreu. Proftwydi, pregethwyr yr Hen Destament, oedd cymwynaswyr mwyaf y genedl Iuddewig. Yr oedd yr offeiriad, y mae yn wir, yn ddyn pwysig; yr oedd yn bwysig am fod ganddo swydd bwysig; ond er mai efe oedd dyn y genedl, ei chynrychiolydd gerbron Duw, eto, yr oedd yn llawer pellach oddi wrth y bobl na dyn Duw, sef y proffwyd, neu y pregethwr. Diffyg mawr yr offeiriad dan y gyfraith oedd ei fod yn cyflawni ei waith yn rhy swyddogol; oblegid y mae swydd, er pob gofal ac ymdrech i'r gwrthwyneb, yn creu pellder, ac yn cynyrchu oerni. Pellder ac oerni yw canlyniadau naturiol, os nad anocheladwy pob swydd. Peth oer iawn yw swydd; ac y mae y swydd leiaf yn tueddu i wahanu, ac i greu pellder: mae swydd ynddi ei hun yn ddidoliad ac yn bellder. Y proffwyd, dyn Duw, ac nid yr archoffeiriad, dyn y bobl eu hunain, oedd yr agosaf atynt; ac efe hefyd oedd yn medru cydymdeimlo ddyfnaf å hwynt yn eu trallodion a'u profedigaethau. Y proffwyd oedd y dyn mwyaf dwyfol, y mwyaf llawn o Dduw o bawb oedd yn Nghanaan; ac am y rhesum hyny, efe oedd y mwyaf humane, y mwyaf dynol o bawb yn mhlith y genedl: efe oedd yn medru cydymdeimlo ddyfnaf â'r werin bobl. Y Proffwyd Mawr, y Dyn a'r Duwdod ynddo yn trigo, oedd yr unig gyfaill oedd gan bublicanod a phechaduriaid Palestina; ac y mae yr hyn sydd yn wirionedd am yr Athraw, yn wirionedd hefyd am y dysgybl. Ni bu pregethwr mwy caredig wrth bregethwyr ieuainc na Mr. Matthews; rhoddodd lawer o lyfrau, a darlithiodd yn rhad i gynorthwyo rhai sydd heddyw yn y dosbarth blaenaf o bregethwyr y Methodistiaid yn y De, i gael addysg ragbarotoawl dda cyn myned i'r athrofa.
Ond fel meddyliwr, ysgrifenwr, a phregethwr, adnabyddir ef gan genedl y Cymry. Ar gyfrif ei ddawn, ei ystumiau, a'i action, fel y dywedir, yr oedd yn hollol ar ei ben ei hun: ni bu ei fath yn y pulpud Cymreig. Yr oedd ei floedd y peth mwyaf effeithiol a gorchfygol a glywsom erioed. Tynai sylw pawb—pob dosbarth yn y gynulleidfa—o'r dechreu; ond am y floedd y byddai y lluaws yn dysgwyl, ac yn hiraethu.
Fe allai y carai ein darllenwyr gael desgrifiad o'n gwron o ran ei ymddangosiad corfforol, ei arddull o siarad, a'i ystumiau yn y pulpud, &c. O ran taldra, yr oedd oddeutu pum troedfedd a naw modfedd yn tueddu i fod yn gorffol—ac o wneuthuriad cryf a chadarn. Yr oedd ei ben yn un o'r rhai mwyaf a welsom, ac o'r un ffurf a phen yr athrylithgar John Foster. Tyfai ei wallt—gwallt llwyd—oleu—yn hytrach yn isel fel nad oedd ond haner ei dalcen yn y golwg. Eiliau ysgeifn; llygaid gleision, tawel a myfyrgar; ond anfynych y byddai yn eu hagor yn llawn. Yr oedd yn rhaid i'w enaid gael ei gynhyrfu gan ryw ddrychfeddwl mawr a gogoneddus cyn y gwnai efe hyny. Gwyneb llydan, llyfn, heb gymaint a blewyn arno, oddi eithr ychydig yn lled uchel ar y cernau. Dyna oedd yr arferiad pan ddechreuodd efe eillio, a glynodd wrth y ffasiwn hyd ddydd ei farwolaeth. Genau cymedrol oedd ganddo o ran lledoddeutu haner lled genau Dr. Owen Thomas, er esampl; genau bloeddiwr yn hytrach na siaradwr llithrig a hyawdl oedd ei enau ef. Pan wenai, gwelid ei fod wedi ei fendithio â rhes o ddanedd bychain glân, o'r un maintioli, ac yr oeddynt mor wynion a'r ifori. Cerddai yn drwm ac yn araf, a'i ben yn hytrach yn mlaen, gan syllu ar bob gwrthddrych, a phob golygfa ar y dde ac ar yr aswy. Ar ol blino ar wrthddrychau a golygfeydd y ddaear, edrychai i fyny i'r nefoedd gwmpasog a gogoneddus uwch ben. Safai yn syth yn y pulpud pan yn darllen yr emyn a'r benod, a thra yn gweddio, ac ar hyd y bregeth. Ymaflai, naill ai yn un o gloriau y llyfr hymnau a'r Beibl, gan eu hongian, neu tröai y cloriau yn eu gwrthol. Hyn oedd y rheswm fod llawer yn gosod Beibl a llyfr hymnau mwy cyffredin ar y pulpud ar y Sabboth pan y byddai Mr. Matthews yn dygwydd pregethu yn y lle. Plygai y Beibl gan ei osod yn agos i'w lygaid am ei fod yn fyr ei olwg; yr oedd ei olygon mor fyr fel nad allodd erioed ddweyd beth ydoedd ar y gloch pan edrychai ar gloc y capel. Darllenai yn araf a hamddenol, ond, rhyfeddol o ddyddorol; yr oedd yr hyn a ddarllenai yn cael ei wneyd yn fyw i'r gwrandawyr. Gweddiai hefyd yn araf a gwylaidd, a hynod fyr; ond ni theimlem fod yn ei weddi unrhyw ddiffyg; ni theimlem ei fod wedi gadael dim allan ddylasai fod ynddi. Yr oedd ei weddi yn un eang a chynwysfawr, er yn fyr. Ymddiddanol ydoedd y rhan gyntaf o'r bregeth; ac i lawer dyna y darn godidocaf a rhagoraf o'r cwbl. Gwneyd background i ddarlun ardderchog oedd ei waith yr haner cyntaf o'r bregeth. Yna dadorchuddiai yn sydyn y darlun yr oedd wedi bod wrtho am awr, neu am awr a haner, nes synu pawb: cymerai bawb, fel y dywedir, by surprise. Yr oedd cryn llawer o surprises yn mhob pregeth o'i eiddo. Yn ein barn ni, Mr. Matthews oedd Charles Dickens y pulpud Cymreig efe oedd y mwyaf realistic yn Nghymru; yr oedd pob peth yn myn'd yn fyw dan ei ddwylaw.
Yn mlynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth, pwysleisiai ar hawliau Duw. Dyna un o nodweddion gwahaniaethol pregethwyr mawr, ac yn neillduol diwygwyr pob oes a gwlad. Ond yn mlynyddoedd olaf ei oes, tosturi Duw at fyd colledig a thruenus—parodrwydd Duw i wrando ar 'lef dyn '—oedd baich ei weinidogaeth rymus ac effeithiol. Y mae yn sicr na chafodd neb odfeuon mwy grymus a nerthol yn Nghymru na'n gwron o'r Eweni. Odfeuon a gofir byth oedd odfeuon Pwllheli, o flaen y Parchedig Henry Rees; ac Aberystwyth, drachefn, o flaen yr un gwr enwog. Odfa ryfeddol oedd hono ar y maes ar ol yr ysgrifenydd yn Nghymdeithasfa Llangefni. Ond un o'r troion mwyaf nerthol y clywsom ni ef erioed oedd yn Nghymanfa Gyffredinol Dolgellau, ar ol y diweddar Dr. John Hughes, Caernarfon. Ei destyn y pryd hwnw oedd, "Gan ddiolch i'r Tad, yr hwn a'n gwnaeth ni yn gymhwys i gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni. Yr hwn a'n gwaredodd ni allan o feddiant y tywyllwch, ac a'n symudodd i deyrnas ei anwyl Fab." Sylwai fod y gair 'symud yn cael ei gymhwyso at gyfieithu o un iaith i iaith arall, a'i fod yn cael ei ddefnyddio am symud (translatio) esgob o un esgobaeth i'r llall. Translated ydyw y gair a ddefnyddir am y weithred hono. Y mae yr esgob, meddai efe, er ei dranslatio, yn aros yr un o ran ei gymeriad moesol; nid ydyw y symudiad yn effeithio un cyfnewidiad yn ei gyflwr. Y mae yr iaith y cyfieithir o honi yn parhau i fod, Ond y mae Duw pan yn symud—pan yn cyfieithu yn translatio pechadur o 'feddiant y tywyllwch i deyrnas ei anwyl Fab'—yn dileu y gwreiddiol. Symudwyd, translatiwyd Paul ar y ffordd i Damascus; ac wrth wneyd hyny, fe ddilewyd y gwreiddiol yn llwyr ac am byth. 'Cablwr' ydoedd cyn ei symud; ond • gweddiwr' oedd wedi ei symud i Grist. 'Wele, y mae efe yn gweddio,' oedd tystiolaeth yr Arglwydd i Ananias am dano. Odfa ryfeddol oedd hono!
Odfa nerthol iawn, hefyd, ac ofnadwy yn ei heffeithiau ar y bobl, oedd hono ar ol Dr. Saunders, ar brydnawn ddydd Llun, yn Nghapel Nazareth, yn Nghwm Rhondda. Yr oedd y Parch. David James, Llaneirwg, a'r ysgrifenydd, wedi bod yn pregethu yn y boreu; Dr. Saunders a Mr. Matthews am 2; am 6, yr ysgrifenydd a Dr. Saunders yn nghapel Nazareth; a'r Parch. D. James a Mr. Mathews yr un adeg yn nghapel Siloh (A.) Yr oedd hufen y Cwm—yn feirdd, yn feddygwyr, cyfreithwyr, &c.—yn odfa y prydnawn. Yn ymyl y sedd fawr, eisteddai un o feddygon adnabyddus y lle, a'i gynorthwywr, a Mr. Ishmael Williams, o'r Ddinas, a Mr. R. Smith Lewis, Ton—y—pandy. Yn y sedd fawr, ar gyfer y pregethwr, eisteddai y Barnwr Gwilym Williams o Fiskin; y Mri. D. Evans, Bodringallt; J. James, y Manager; Dafydd Terry, o'r Ddinas; a W. Abraham (Mabon,) A.S.
Testyn Dr. Saunders oedd Luc iv. 18, 19;—"Blwyddyn gymeradwy yr Arglwydd." Ni chlywsom y Dr. braidd erioed yn fwy hyawdl. Testyn Mr. Matthews ydoedd Salm xxv. 16;—" Tro ataf, a thugarha wrthyf: canys unig a thlawd ydwyf." Bu yn aros llawer gyda'r geiriau 'unig a thlawd.' "Fu neb sydd yma," meddai, yn wirioneddol unig eto. Pan ddaethom i'r byd, yr oedd rhywun yn yr ystafell i'n derbyn, ac i'n hymgeleddu. Ond am uffern, lle ydyw ag y bydd pob un yn unig ynddo—yn dragwyddol unig! Nid ydynt yn caru eu gilydd yno, nac yn cydymdeimlo â'u gilydd. Tywyllwch fel y fagddu—nos dragwyddol fydd hi yn uffern! Wêl y pechadur neb yn oes oesoedd yno; ac ni chlyw ddim yn dyfod trwy y duwch ond cableddau, rhegfeydd, a rhincian danedd i dragwyddoldeb!" Yn y fan hon, fe wnaeth y pregethwr rincian ei ddanedd deirgwaith, fel y gellid ei glywed allan o'r heol. Ymdaenodd cwmwl, hefyd, ar y pryd dros yr holl Gwm, a daeth yn ystorm o fellt a tharanau dychrynllyd. Chwanegodd hyn yn ddirfawr at effaith desgrifiad ofnadwy y pregethwr o drueni yr unig,' yr annuwiol, yn y byd a ddaw. Yr oedd pawb yn y lle yn ofni ac yn crynu; ac yr oedd yr olwg ar y pregethwr yn un arswydlawn o ddifrifol. Yr oedd y meddyg yn glasu, ac yn troi yn ol a blaen ar ei sedd; y Barnwr Williams yn foddfa o ddagrau; Terry, o'r Ddinas, yn taraw ei ffon fawr ar lawr y sedd fawr, ac yn gwaeddi, "Wel, wel, beth wnawn ni, Mr. Matthews anwyl? " Y nefoedd fawr,' ebe yntau, mewn bloedd oedd yn cario y cwbl o'i blaen — " y nefoedd fawr! 'Does dim rhaid i neb sydd yma, o drugaredd, fyned yno, oddi eithr ei fod yn mynu myn'd—yn mynu bod yn golledig! Fe fu Iesu Grist ' yn unig' er mwyn rhoddi ei gwmni i bechadur yn y glyn. 'O'r bobl nid oedd neb' gyda'n Harglwydd ni! Gorchfygodd y gelyn ei ei hunan; cuddiod edifeirwch o'i olwg; diddymodd angau—llyngcodd ef mewn buddugoliaeth; a chyfododd yn fuddugoliaethus foreu y trydydd dydd! Pan fydd y credadyn farw, fe fydd Iesu Grist yn yr ystafell. Bydd gydag ef yn yr afon, hefyd, i ddal ei ben uwch law y don. Pan elych trwy y dyfroedd, myfi a fyddaf gyda thi, a thrwy yr afonydd fel na lifont drosot," &c. Erbyn hyn, yr oedd yn orfoledd mawr trwy yr holl le; ac yn swn y gorfoleddu a'r molianu am drefn i'n gwaredu rhag bod yn 'unig' yn angau, ac yn 'unig' yn y farn, y terfynwyd yr odfa ryfeddol hon.
Y mae lle gwag iawn yn y Sassiwn, ac yn y Dywysogaeth yn gyffredinol, ar ol y fath bregethwr nerthol a gwreiddiol; ac y mae yn ofid calon i ugeiniau o filoedd o Gymry yn ngwahanol wledydd y ddaear, fel i'r ysgrifenydd ei hun, na chânt weled ei wyneb urddasol a phendefigaidd ef mwyach, na chlywed ei floeddiadau gorchfygol ac anghydmharol byth mwy. Y mae galaru a thristau ar ol gwr mor enwog—un o'r rhai enwogaf o gedyrn 'mynydd Duw'—yn naturiol; ond tra yn galaru, dylem gofio fod y gweddiwr mawr, a'r pregethwr hyawdl fu yn ysgwyd Cymru, yn parhau i fyw, ac yn parhau i wasanaethu yr un Arglwydd, ond mewn cylch llawer uwch, ac yn mhlith creaduriaid uwch a mwy urddasol na'r rhai a breswyliant ein daear ni.
"We wonder'd, Matthews, that thou went'st so soon
From the world's stage to the grave's tiring—room :
We thought thee dead; but this thy printed worth
Tells thy spectators, that thou went'st but forth
To enter with applause: an actor's art
Can die, and live to act a second part :
That's but an exit of mortality,
This a re—entrance to a plaudite."
"Angel Duw yn fy ngwlad oedd—a daniwyd
A doniau o'r nefoedd :
Ei hyawdl lais roddai floedd
Ai 'n fywyd trwy 'r tyrfaoedd."
"Boed heddwch i'w lwch anwyl ef—yn awr,
'Yn nhy ei hir gartref!'
Ac o fodd gwnawn gyfaddef
Marw wnaeth Gwr mawr y Nef!"