Neidio i'r cynnwys

Yn Llefaru Eto/John Harris Jones Byr-gofiant

Oddi ar Wicidestun
John Harris Jones Fel Pregethwr Yn Llefaru Eto

gan Anhysbys

John Harris Jones Pregeth—Dwyn Meibion lawer i Ogoniant, Hebreaid ii. 10.

Byr-gofiant

Ganwyd Dr. Harries Jones mewn ffermdy o'r enw Waenwthan, yn mhlwyf Llangeler, sir Gaerfyrddin, ar y 28ain o Awst, 1827. Pan yn ddwyflwydd oed, symudodd ei rieni i Penybanc, Closygraig, yn yr un sir. Daeth yn aelod gweithgar o'r Ysgol Sul, a dysgodd yr Hyfforddwr yn berffaith. Yr ysgol gyntaf gafodd ydoedd ysgol Saron, Llangeler; yn 12 oed, symudodd i ysgol ramadegol Castell newydd emlyn. Ar ol hyn ceisiwyd gwneyd ffarmwr o hono, ond taflodd y drol a'r ceftyl a llwyth o ymenyn dros ddibyn, a setlodd hyny ei dynged. Wedi bod yn Ngholeg Presbyteraidd Caerfyrddin, trwy ymroad a phenderfyniad, enillodd ysgoloriaeth Dr. Williams yn Mhrifysgol Glasgow, Arosodd yma bedair blynedd. Enillodd wobr uchaf y Brifysgol, sef y bathodyn aur, a chafodd ei M.A. Yna aeth i Germani, bu yn efrydu yn Mhrifysgolion Goettingen a Halle, ac enillodd y teitl o Ph.D. Dewiswyd ef yn athraw yn Ngholeg Trefecca. Mawr oedd serch a chariad y dysgyblion ato, ac ymroddodd o ddifrif gyda'i holl ddyledswyddau, ac enill poblogrwydd yn mysg ei gydwladwyr. Ordeiniwyd ef yn 1859. Bu farw yn Southport, Gorphenaf 21, 1885, a chludwyd ei weddillion i fynwent Closygraig. " Efe oedd fawr gan ei genedl, ac yn gymeradwy yn yn mysg lluaws ei frodyr, yn ceisio daioni i'w bobl, ac yn dywedyd am heddwch i'w holl diriogaeth."

Nodiadau

[golygu]