Yn Llefaru Eto/John Harris Jones Fel Pregethwr
| ← Joseph Thomas, Carno Sylwadau o Bregeth ar Ephesiaid ii. 4-7 | Yn Llefaru Eto gan Anhysbys |
John Harris Jones Byr-gofiant → |

Y Parch. J. Harries Jones, Ph.D.
𝔜 𝔓𝔞𝔯𝔠𝔥. 𝔍. ℌ𝔞𝔯𝔯𝔦𝔢𝔰 𝔍𝔬𝔫𝔢𝔰, 𝔓𝔥.𝔇.
FEL PREGETHWR.
GAN Y PARCH. DAVID EVANS, M.A., ABERMAW.
Awdwr y "Sunday Schools of Wales," &c.
ER ei ragoriaethau fel myfyriwr ac athraw, fel pregethwr mawr a phoblogaidd, yn ddiau, yr erys Dr. Harries Jones hwyaf yn nghof y wlad. Yr oedd ynddo gydgyfarfyddiad bron o'r holl gymwysderau tuag at wneyd pregethwr mawr. Parheid drwyddo y neillduolion hyny ydoedd wedi perthyn i gewri pulpud yr oes o'r blaen yn Nghymru. Magwyd ef dan weinidogaeth Ebenezer Richards, W. Morris, Cilgerran, Richards, Abergwaun, Evans Llwynffortun, &c. Ac megys y dywedwyd am danynt hwy, "eu bod yn ddynion o bresenoldeb personol golygus ac awdurdodol, wedi eu cynysgaeddu â lleisiau o gwmpas a melodedd mawr, yr hwn drwy ymarferiad parhaus yr oeddynt wedi dysgu ei reoli, fel ag i fynegi gyda'r donyddiaeth gywreiniaf holl foddau amrywiol meddwl yr areithydd; ac yn enwedig yn meddu un o anhebgorion cyntaf llwyddiant areithyddol, yn arbenig felly yn y pulpud—difrifoldeb a dwysder tuhwnt i'r cyffredin," felly hefyd am Dr Harries Jones, ceid ynddo bresenoldeb hynod o ffafriol, wynebpryd agored a hawddgar, llygaid mawrion, llais soniarus, a gwresogrwydd ysbryd ydoedd yn rhoddi effeithiolrwydd dyblyg i'r gallu corfforol a feddai i floeddio yn swynol eiriau gwerthfawrocaf yr Iachawdwriaeth. Heblaw bod yn gydnabyddus ag arddull y cewri Cymreig, ac yn edmygydd o honynt, astudiodd hefyd y models goreu y daeth i gyfarfyddiad a hwy yn Lloegr. Ysgotland, a Germani. Tra ar y Cyfandir, er ei holl awydd i ymberffeithio mewn mewn duwinyddiaeth, athronyddiaeth a'r ieithoedd Semitaidd, nid anghofiodd un adeg ei uchelgais penaf i fod yn bregethwr llwyddianus. Ymddengys fod ganddo feddwl uchel o Tholuck fel pregethwr, ac os gwnaeth un o bregethwyr Germani yn gynllun, Tholuck ydoedd hwnw. Cymharwyd Harries Jones, cyn yma, i'w gymydog poblogaidd John Jones, Blaenanerch, ac mewn llawer o bethau yr ydoedd yn ddiau yn debyg, megys o gorff, llais cryf a swynol, a'i gydymdeimlad dwfn a gwirionedd- au syml yr efengyl. Ond a chymeryd pobpeth yn nghyd, y mae yn rhaid rhoi y flaenoriaeth i'r Dr., oblegyd y meddai yr ychwanegiad pwysig o ddiwylliant meddyliol uchel, a chanlyniad naturiol gwres- ogrwydd ysbryd wedi ei danio ar arucheledd ei fater ydoedd ei floeddio; ac yn hyn dygai lawer o ddelw y Parch John Jones, Talsarn.
Hynodid ef yn aml gan arucheledd ei ddrychfeddyliau. Yr ydoedd bob amser yn fwy barddonol ac athronyddol, nag argyhoeddiadol, yn fwy tebyg i'r prophwyd Esaiah pan ar uchelfanau y maes na phan yn edliw i'r genedl ei phechodau. Ni thybiodd y Dr. y derbyniodd erioed y comisiwn hwnw a roddwyd i Esaiah _" Llefa å'th geg, nac arbed; dyrchafa dy lais fel udgorn, a mynega i'm pobl eu camwedd, a'u pechodau i dy Jacob." Yr oedd ei natur yn rhy dyner, a'i dueddfryd yn ormod i gymeryd yr olwg ffafriol ar bethau, i ddelio llawer mewn bygythion a dyfarniadau. Ei rodfeydd mwy dymunol ef oedd graslonrwydd trefn yr iachawdwriaeth, a'r neillduolion hyny sydd yn perthyn iddi ag sydd yn dwyn yr angel- ion i chwenychu edrych i mewn iddi. Ei nod mawr ef oedd dwyn ei wrandawyr i ryfeddu yn fwy nag i arswydo, i deimlo yn debyg o dan ei weinidogaeth ag y teimlai y bardd pan yn myfyrio uwch ben rhyfeddodau y drefn :-
Pan bwy'n rhyfeddu unpeth, peth arall ddaw i 'mryd;
O iachawdwriaeth rasol, rhyfeddol wyt i gyd."
Defnyddiai gydmariaethau, yn gystal o arferion cyffredin bywyd ag o faes eang ei ddarlleniadau clasurol, i egluro neu i brydferthu pynciau y drefn. Ni phetrusai yn wir gasglu blodau o feusydd chwedloniaeth baganaidd i addurno bedd Iachawdwr y byd, neu i berarogli coffadwriaeth yr Hwn, er iddo farw, sydd eto yn fyw, ac wele byw a fydd yn oesoesoedd. Gweithiai allan ei ffigyrau yn gyflawn a chyson: ac wedi cael gafael ar ddrychfeddwl, ymhyfrydai yn y gwaith o'i ddadblygu a'i gymhwyso yn ei wahanol gysylltiadau. Yn y 68ain Salm, wedi cael lle i feddwl fod cyfeiriad yn y geiriau, "Y cantorion a aethant o'r blaen, a'r cerddorion ar ol," at orymdaith yr Arglwydd Iesu yn myned i mewn drwy byrth y Gaersalem fry, ar ol Ei esgyniad, gyda saint yr Hen Destament o'r o'r blaen, a saint y Newydd ar ol, cofus gan lawer gyda'r fath bryd. ferthwch a chyflawnder y desgrifiai yr olygfa ogoneddus. Yn ei bregeth ar yr adgyfodiad, desgrifiai long yr iachawdwriaeth yn cychwyn allan o'r porthladd, dri o'r gloch prydnawn diwrnod y croeshoeliad, ynghanol ystorm, ond cipiwyd hen leidr ar ei bwrdd o ymyl porth uffern, yn ernes o'r myrddiynau a gedwid ynddi cyn terfyn yr oruchwyliaeth. I egluro tybiaeth yr Apostol mai ofer ydoedd fydd y credinwyr, os Crist ni chyfodwyd, meddyliai am deulu wedi bod yn llafurio yn galed ar hyd eu hoes, ac yn byw yn gynil er mwyn cael ychydig wrth gefn yn eu hen ddyddiau, ond y fath siomedigaeth iddynt fyddai clywed fod y bank wedi tori, pan yr oeddynt ar fyned i bwyso ar eu hadnoddau allan o hono. Ond yr oedd y gyfryw siomedigaeth yn myned i'r cysgod o'i chydmaru â siomed— igaeth y credadyn, os ydoedd sail ei obaith ef yn profi yn dwyllod— rus. Gyda'r fath rym gan hyny yr adseiniai orfoledd yr Apostol wedi profi ei fater y tu hwynt i bob dadl, "Eithr yn awr Crist a gyfodwyd oddiwrth y meirw, ac a wnaed yn flaenffrwyth y rhai a hunasant." Hapus, yn ddieithriad, fyddai ei ddefnydd o hanes arwyr Homer a Virgil, neu rhyw ddygwyddiad yn hanesiaeth Groeg a Rhufain, fel trostan i dderchafu yn uwch i sylw ei wrandawyr glodydd y Gwaredwr. Llawer gwaith y llwyddodd i yspeilio yr Aifftiaid er mwyn cael tlysau at wasanaeth y tabernacl, ac i droi llwyni a chysegroedd yr eilunod megys yn demlau i'r Duw Goruchaf.
Drwy lawer o anhawsderau y cyrhaeddodd ei safle uchel fel "un o feistriaid y gynulleidfa." Bu am amser ar y cyntaf yn ymdrafod a'r pynciol a'r dyrus yn ei bregethau, a chafodd aml i odfa flat yn herwydd hyny. Ond erbyn ei flynyddoedd diweddaf, yr oedd wedi gadael y cynllun hwnw heibio, ac yn gofalu hwylio ei lestr ar ganol sianel gwirioneddau yr Efengyl, a'r awelon nefol, y rhan fynychaf, yn llanw ei hwyliau. Llawer Cymanfa yn Mhwllheli, a lleoedd eraill, y gwelwyd effeithiau anghyffredin yn dilyn ei weinidogaeth y pregethwr a'r gwrandawyr wedi ymdoddi i'w gilydd a'r gwasanaeth yn terfynu mewn mawl a gorfoledd megys hen ddiwygiadau Cymru gynt