Yn Llefaru Eto/John Hughes, Fel Pregethwr
| ← Roger Edwards cerdd gan Daniel Owen | Yn Llefaru Eto gan Anhysbys |
John Hughes, Adgofion am Sasiwn Dolgellau, 1860. → |

Y Parch. John Hughes, D.D.
𝔜 𝔓𝔞𝔯𝔠𝔥. 𝔍𝔬𝔥𝔫 ℌ𝔲𝔤𝔥𝔢𝔰, 𝔇.𝔇.
FEL PREGETHWR.
Gan y Parch. John Owen Jones, B.A., Y Bala.
NID oes neb wedi ysgrifenu am y diweddar Ddr. Hughes nad ydyw yn mhlith pethau eraill wedi crybwyll am ei arabedd. Ac yr oedd efe yn ddiddadl yn feddianol ar wir arabedd. Nid gwawdiaith ydym yn ei olygu. Yr oedd efe 'n feistr ar wawdiaith ; gallai ddweyd pethau, os byddai 'n argyhoeddedig mai'r ffordd hono y gwnai fwyaf o ddaioni, a dynai waed. Ond y mae gwahaniaeth rhwng arabedd a gwawdiaith. Gall y naill a'r llall fod yn ddigrifol ; ond rhaid i'r cyntaf fod felly, dichon y llall beidio bod. Nid yw pob dyn sarcastic yn humorous, ond anfynych y ceir dyn gwir humorous heb feddu 'r gallu i fod yn sarcastic hefyd. Y mae ambell un wrth geisio bod yn ddigrifol, yn ysgafn a chwareus, wrth geisio dangos ei fod yn feddianol ar arabedd, yn ddieithriad yn clwyfo; y mae ei arabedd yn troi yn wawdiaith frathog. Nid felly Dr. Hughes. Gallai ef fod yn wir ddigrifol heb glwyfo neb, a gallai ddefnyddio 'r wawdiaith lemaf heb ddigio 'n anghymodlawn y sawl fyddai dan y wialen. I bawb fu'n gwylio tipyn ar ei symudiadau yn y Cymdeithasfaoedd a'r Cyfarfodydd Misol, a chylchoedd eraill, mae 'n amlwg mai nid anfynych y byddai ei ddigrifwch yn bygwth troi 'n brofedigaeth iddo. Os byddai rhywbeth mwy digrifol na'i gilydd mewn rhyw anerchiad neu amgylchiad neu gynllun, byddai Dr. Hughes yn sicr o'i weled, ac odid fawr na lwyddai i'w osod allan mewn rhyw ymadrodd byr, cynwysfawr. Ond yn ei bregethau llwyddai i gadw'r arabedd hwn dan reolaeth, gan ei ddefnyddio weithiau i amcanion gwir ragorol.
Nis gallai neb wrandaw ar Dr. Hughes yn pregethu heb deimlo ei fod efe yn gwbl feistr ar yr iaith Gymraeg. Byddai ei eiriau bob amser yn bur, yn gryf, ac yn ddetholedig, a'i frawddegau 'n gaboledig dros ben; a llawer gwaith y clywsom ef yn rhoi pwys ar i bregethwyr ieuainc ddysgu Cymraeg, myn'd i mewn i drysorau 'r iaith, ac nid ei llurgunio neu ymfoddloni ar ryw "Gymraeg llaprog, plwyfol," pan yn ceisio traethu gwirioneddau mawr yr efengyl. Credai ef y dylai 'r pregethwr gysegru pob gallu a mantais a fedd i wasanaethu 'r efengyl, ac ymdrechai yntau roddi iddi oreu yr iaith Gymraeg. Y mae gan ambell un fwy o feddyliau nag o iaith, ac arall fwy o iaith nag o feddyliau, ond llwyddai Dr. Hughes i osod allan y meddyliau mwyaf yn yr iaith odidocaf. A theimlid hyny'n arbenig pan y byddai'n gwahaniaethu rhwng geiriau a'u gilydd, fel y clywsom ef unwaith yn gwahaniaethu rhwng callineb a doethineb. Gwnai efe hyn yn lled fynych yn ei bregethau; ond nid er mwyn gwahaniaethu neu wneyd arddangosiad o'i allu i ddadansoddi, ond er mwyn drwy hyny ddwyn gwirioneddau pwysig i'r amlwg. Mynych y llwyddai, drwy'r dull hwn, i ddinystrio llawer o gau syniadau, i ddangos prif elfenau rhyw wirionedd fyddai ganddo dan sylw, ac yna i'w cyfuno gan eu dwyn i egluro 'i brif bwnc: a thrwy hyny clevo deall ac yn aml gyraedd calon y gwrandawyr.
Deuai yr un manylrwydd i'r golwg mewn nodwedd arall a welid mewn llawer o'i bregethau. Os mai Lightfoot a Meyer oedd ei hoff esbonwyr, teimlem yn wastad, wrth geisio 'i ddilyn yn troi a throsi o gwmpas ei destyn, gan egluro 'r cysylltiadau a dangos perthynas y gwahanol ranau a'u gilydd ac â phrif wirionedd y benod neu 'r llyfr, y byddai pob esboniad llyfr wedi ei lyncu i fyny yn y syniad clir a fyddai ganddo ef ei hun. Nid oedd efe, mae'n wir, wedi myn'd yn ddwfn, yn ol ei gyfaddefiad ei hun, i feusydd yr Uwchfeirniadaeth; parotoi yr ydoedd, yn ei ddyddiau olaf, i wneyd ymosodiad ar y maes hwnw. Er hyny, gorfodid pawb i deimlo fod yn ei esboniadaeth ef ar lawer adnod ryw newydd-deb a manylrwydd neillduol. "O holl alluoedd ei feddwl," ebe rhywun am dano, "hwyrach nad oedd yr un yn fwy nodweddiadol na'r gallu oedd ganddo i ddihysbyddu cynwysiad y llyfr a ddarllenai, ac i droi ei sylwedd i fod yn rhan o sylwedd ei ysbryd ef ei hun." A gellir dweyd hefyd am'dano 'n esbonio llawer rhan o'r Ysgrythyr yn ei bregethau, y llwyddai i gael gafael sicr ar swm a sylwedd cenadwri Duw ynddynt, nes peri i ni deimlo mai nid mater o ddeall yn unig a fyddai ei eglurhad arnynt, ond rhywbeth ag y byddai ei brofiad a'i ysbryd ef ei hun yn ei gadarnhau.
Ac y mae hyn yn peri i ni feddwl am beth arall a welid yn amlwg yn Dr. Hughes fel pregethwr. Yn ei bregethau ef ceid cyfuniad o feddyliau dyfnion a theimlad tanllyd. Nid rhyfedd ei fod yn feddianol ar gyflawnder o feddyliau, oherwydd astudiai'n fanwl bobpeth goreu llenyddiaeth Lloegr a Germani mewn athroniaeth a duwinyddiaeth. "Gyda golwg ar gwestiynau duwinyddol y dydd, ebe un a'i hadwaenai 'n dda, "yn holl amrywiaeth eu hagweddion, nid oedd braidd lyfr yn ymddangos drwy 'r wasg-llyfrau yn dal perthynas â'r Bod o Dduw, yr adnabyddiaeth o hono, âg Ysbrydoliaeth yr Ysgrythyrau, â'r Goruwchnaturiol, ar Berson y Gwaredwr, ar Ddadblygiad yr Athrawiaeth Gristionogol, a'r cyffelyb-nad ydoedd yn eu hefrydu yn fanwl, ac yn dihysbyddu yn llwyr eu cynwysiad." Nis gall dyn fyddo wedi ymdrechu 'n deg i ddeall Butler, Mansel, Mill, Hamilton, Martensen, Reuss, Dorner, ac eraill o'r un nodwedd, fod yn dlawd mewn meddyliau, yn enwedig pan gofiwn yr ychwanegai at efrydiaeth o bynciau athroniaeth a duwinyddiaeth efrydiaeth o hanes athroniaeth a hanes yr Eglwys a'i duwinyddiaeth. Ond heblaw hyn, amlwg yw yr yfai efe gynwys y fath lyfrau a Krummacher's "The Suffering Saviour," Edwards ar "Serchiadau Crefyddol;" ac nis gall ymwneyd llawer â llyfrau o'r fath ond puro, dwyseiddio, a gwresogi 'r teimlad. Pur anfynych y gellir dweyd y byddai Dr. Hughes, wrth bregethu, "yn sych," oherwydd nid meddyliau mewn un rhan o'r bregeth, a theimlad mewn rhan arall, a fyddai ganddo. Gwir mai pan yn cymhwyso'r gwirionedd at gydwybodau a chalonau 'r gwrandawyr y ceid ganddo yr ehediadau mwyaf barddonol a'r desgrifiadau mwyaf byw; ond byddai'n amlwg y teimlai efe ar hyd y bregeth mai'r gwirionedd a fyddai ganddo, ac y byddai'r gwirionedd hwnw ac yntau 'n un. Nid casglu defnyddiau tân y byddai efe am un rhan o'r bregeth, ac yna cyneu 'r tân ; byddai'r tân yn ei enaid ef ei hun o'r dechreu i'r diwedd, oherwydd byddai 'r gwirionedd ei hun yno.
"Nid wyf yn credu," ebe Dr. Owen Thomas am Dr. Hughes, "fod ei lwyddiant fel pregethwr i'w briodoli i lais soniarus, yr hyn sydd wir am rai; ond nid hyn sydd yn peri fod dynion yn awyddus am ei glywed ef. Nid wyf yn dweyd nad oes ganddo lais a fuasai yn swyno y cynulleidfaoedd pe buasai yn gwneyd defnydd o hono; ond nid llais yw ei hynodrwydd ef. Nid mewn adrodd ystraeon ychwaith y mae cuddiad ei gryfder. Nid wyf am fychanu ei allu i wneyd defnydd da o stori, ond nid trwy hyny y mae efe wedi enill ei boblogrwydd." Dyma, yn ol Dr. Thomas, brif nodweddion Dr. Hughes fel pregethwr, —"Ei allu i roddi eglurhad goleu a llawn ar wirioneddau gogoneddus yr efengyl; yr olwg eang a gymer ar y gwirionedd yn ei wahanol gysylltiadau ac oddiar wahanol safleoedd; ei degwch yn ei ymwneyd â syniadau gwahanol i'r rhai a gymeradwya ef ei hunan; yr ymwybodolrwydd cryf a fedd yn y gwirionedd, yr hyn sydd yn peri iddo fod yn hollol hunanfeddianol a diysgog yn nhraethiad ei genadwri; cyfoeth anhysbyddadwy ei wybodaeth, dirnadaeth eang, cyflawnder o feddyliau, a'r geiriau goreu i'w gosod allan mewn prydferthwch: gofal neillduol am roddi lle a phwysigrwydd i bob gwirionedd yn ol y lle a'r pwysigrwydd sydd iddo yn Ngair Duw; ei barodrwydd bob amser i dderbyn argraff y gwirionedd ar ei feddwl ei hunan; ei fod yn amcanu dangos y cysylltiad sydd rhwng y gwirionedd yn bynciol â moesoldeb, ac yn hyn y mae yn ddysgybl perffaith i'r Apostol Paul."