Neidio i'r cynnwys

Yn Llefaru Eto/Joseph Thomas, Carno Fel Pregethwr

Oddi ar Wicidestun
David Charles Davies Englynion Coffaol Yn Llefaru Eto

gan Anhysbys

Joseph Thomas, Carno Byr-hanes

Y Parch. Joseph Thomas, Carno.

𝔜 𝔓𝔞𝔯𝔠𝔥. 𝔍𝔬𝔰𝔢𝔭𝔥 𝔗𝔥𝔬𝔪𝔞𝔰, ℭ𝔞𝔯𝔫𝔬.

FEL PREGETHWR.
Gan y Parch. E. Wynne Parry, B.A., Bala.

MAE yn debyg na fu yr un pregethwr yn ddyfnach yn serchiadau cynulleidfaoedd ein gwlad yn ystod y deng mlynedd a'r hugain diweddaf na'r gwr anwyl y mae ei enw uchod. Cawsai ffafr yn ngolwg pob dosbarth o bob enwad, yn nghyd a'r lluaws mawr sydd heb fod yn perthyn i unrhyw enwad, dysgedig ac annysgedig, tlawd a chyfoethog, gwreng a bonheddig fel eu gilydd. Edrychid yn mlaen gyda dysgwyliad siriol a hapus am ei ymweliad ag ardal ar un o'r gwyliau nodedig, ac wedi yr elai yr wyl heibio byddai ei sylwadau a'i gymhariaethau yn cael eu hadrodd a'u hailadrodd am amser maith. Er ei fod yn ei fedd er's dros bum' mlynedd, mynych y gwelir rhai yma ac acw ar hyd a lled y wlad yn gwenu trwy eu dagrau wrth adgoffa rhyw sylw tlws o eiddo Joseph Thomas.

Pa fodd y gwnaeth iddo ei hun le mor ddwfn yn serchiadau ein cynulleidfaoedd? Os cymherir ef a phregethwyr poblogaidd fu yn cydoesi ag ef yn ein gwlad, gwelir ar unwaith fod gwahaniaeth dirfawr rhyngddo a phob un o honynt. Ni feddai athrylith ddysglaer na llais soniarus Morgan y Dyffryn, na hyawdledd urddasol Dr. Saunders, na chwaith ystor gyfoethog o wybodaeth dduwinyddol a hanesyddol fel Dr. Hughes; ni feddai feddwl cywrain athronydd fel David Charles Davies, na thalentau a doniau amrywiol fel Dr. Owen Thomas. Ac eto nid oedd neb o'r cedyrn hyn yn fwy wrth fodd calon mwyafrif y cynulleidfaoedd nag oedd efe. Ymdrechwn yn fyr roddi cyfrif am ei boblogrwydd mawr.

Yn un peth, yr oedd ganddo ymddangosiad dengar. Cafodd gorff lluniaidd, hardd, gwyneb oedd fel yr haul yn gwasgaru sirioldeb drwy y lle, ac, yn enwedig y blynyddoedd olaf, pan yr oedd ei wallt gwyn arianaidd yn goron ar ei ben, enillai ei olwg serch y gwrandawyr cyn iddo ddweyd gair. Hefyd, meddai alluoedd naturiol da. Gwir nad oedd yn feddyliwr dwfn nac yn dduwinydd mawr, eto nid oedd natur wedi bod yn grintachlyd wrtho ychwaith yn y cyfeiriad yma, ac yn arbenig meddai ryw graffder neillduol i adnabod dynion ac i gyfaddasu ei genadwri i gyraedd eu calonau. Credwn ei fod wedi astudio yr art o bregethu yn llawer iawn mwy nag a feddyliai neb. Gallai dyeithrddyn, wrth ei weled yn y pwlpud a golwg led wladaidd arno, a chlywed ei ddull diaddurn o lefaru, dybied mai drwy ryw ffawd dda, heb yn wybod iddo ei hunan bron, y cynyrchai effeithiau mor hapus ar y bobl. Camgymeriad hollol fuasai tybiaeth fel yna. Fel y mae arlunydd medrus yn ymddangos bron yn ddiofal wrth drin ei baent a'i bwyntel, fel pe yn eu taro ar ddamwain yma a thraw ar y canfas, ond vedi enill y feistrolaeth yna trwy flynyddoedd o astudiaeth galed a dysgyblaeth lem, a phob cyffyrddiad o'i eiddo ar y darlun yn gywir i drwch y blewyn, felly yr oedd yntau yn gwybod i'r dim beth i'w ddweyd. Er fod ei bregethau yn llawn o arabedd, gwyddai pa le i dynu y llinell-faint oedd yn ddigon i greu sirioldeb a mwynhad diniwed heb ddirywio i ysgafnder a gwamalrwydd. Byddai bob amser ar waith yn casglu defnyddiau, fel y wenynen o bob llysieuyn. Yn y tai lle y lletyai, yn y trên wrth fyn'd a dyfod i'w gyhoeddiadau, wrth daflu golwg dros golofnau y newyddiaduron, sylwai yn fanwl ar bob peth, a meddai y ddawn werthfawr i droi y cwbl yn wasanaethgar iddo fel pregethwr. Meddai lygad bardd, edrychai ar ddygwyddiadau bychan cyffredin y dreflan ddinod lle trigai, a chanfyddai o danynt a thucefn iddynt humour a pathos dwfn bywyd.

Gwelsom ef unwaith yn gwneyd cynulleidfa fawr yn Lerpwl yn foddfa o ddagrau drwyddi wrth adrodd ymddyddan syml oedd wedi cymeryd lle rhyngddo a phlentyn bychan chwech neu saith mlwydd oed mewn rhyw dy lle y dygwyddai letya. Yr oedd yr un bychan yn sefyll wrth lin y gwr dyeithr nos Sadwrn, ac yn ymgomio yn hollol ddiofn ag ef, ac yn dweyd holl hanes y teulu. Dywedodd am ei frawd hynaf oedd wedi bod i ffwrdd yn yr ysgol, ac wedi bod yn dyfod adref am y gwyliau o dro i dro, ond " un o'r dyddiau nesaf," meddai yr un bychan, "mae o yn dwad adre', a'r tro yma yn dwad adre' i aros." Sylw bach diniwed ddigon -ond aeth meddwl Mr. Thomas at lawer teulu wedi eu bylchu gan angeu, at rieni duwiol wedi eu galw adref ac yn edrych yn hiraethlawn am y diwrnod y byddai y plant i gyd wedi dyfod adref atynt, ac wedi dyfod "adre' i aros." Adroddai y gair hwn gyda goslef hynod o effeithiol a'r dagrau yn ffrydio dros ei ruddiau. Fel y derbyniai Moses bob math o roddion gan y genedl ar gyfer y tabernacl -aur, arian a phres, sidan glas a phorphor, ysgarlad, lliain main, blew geifr, crwyn hyrddod, crwyn daearfoch, olew, llysiau, a meini onix, ac a droai bob peth i wasanaeth ty Dduw, felly casglai Mr. Thomas ddefnyddiau o bob man ac a osodai bob peth yn ei le mewn pregeth neu anerchiad at wasanaeth yr efengyl.

Elfen arall yn ei boblogrwydd oedd ei fod bob amser ar level y gynulleidfa. Siaradai iaith y bobl gyffredin. Gwir na ddisgynai byth unrhyw ymadrodd anghoeth dros ei wefusau, ni ddefnyddiai ddim anghyson â chwaeth dda, ac eto iaith y werin oedd ei iaith. Yr un modd am fater ei bregethau,-cludai y bobl gydag ef. Gwelwyd pregethwyr da, meddylgar, galluog, yn trin pynciau dyrus yn ddeheuig, ond yn myned o gyraedd corff mawr y gwrandawyr, ac felly y bregeth i fesur mawr yn ddifudd ac yn feichus, oddigerth i ambell un uwch ei gyrhaeddiadau a chyflymach ei amgyftrediad na'r cyffredin. Ond yr oedd ef yn ymlwybro fel y gallai pawb ei ddilyn-yn dweyd pethau syml ac agos at y bobl. Fel y mae bardd yn rhoi mynegiad i deimladau a meddyliau ag y mae miloedd wedi bod yn ymwybodol o honynt er heb erioed allu eu gosod allan mewn geiriau, a thrwy, hyny yn deongli y dyn iddo ei hun, felly byddai Mr. Thomas yn symud hyd lwybrau cynefin ac yn trin pethau o fewn cyraedd pawb, ond yn taflu rhyw swyn dros y cyfan trwy ei ddawn neillduol ei hun.

Eto, ni byddai yn ymwneyd llawer a gwirioneddau cyffredinol, penagored, ni foddlonai ar osodiadau abstract. Dyma un rheswm paham y mae llawer pregethwr cywir ac egniol mor flinderus i wrando arno ac mor ddieffaith. Dywed bethau digon gwir a phwysig, ond ychydig o argraff a wnant ar y gynulleidfa. Mae eu geiriau fel arfau wedi pylu—nid ydynt yn tori i mewn i'r byw. Gwneir argraff ddyfnach yn fynych trwy hanesyn neu gymhariaeth, neu drwy ddefnyddio gair sydd yn codi darlun byw o flaen y meddwl na thrwy unrhyw swm o ymresymu moel. Gwelir fel y mae yr Iesu yn y bregeth ar y mynydd yn son am yr halen, y ddinas, y ganwyll, y brain, y lili, y porth cyfyng, y ty ar y graig, &c., er mwyn i'r pethau hyn fel cleddyf llym dau-finiog dori i mewn ac agor ffordd i wirioneddau pwysig i gyraedd y meddwl a'r galon. Gwyr pawb a gafodd y fraint o wrandaw Joseph Thomas mor nodedig yr oedd am hyn. Mantais ddirfawr hefyd iddo oedd ei gydnabyddiaeth lwyr å hanesion yr Hen Destament; yr oedd ef gartref yn llwybrau anhygyrch Joshua a'r Barnwyr a'r Chroniclau, ac oddiyno dygai lawer hanesyn dyddorol a phwrpasol i egluro ei bwnc. Gwnai hyn ei bregethau yn ddifyr iawn i'w gwrando, fel na flinid cynulleidfa gan awr a haner o bregeth, ac hefyd yn hawdd iawn eu cofio. Adroddid hwynt mewn ymddyddanion ar hyd y wlad am amser maith, ac felly parheid a dyfnheid eu hargraff.

Elfen arall bwysig iawn, fel yr awgrymwyd eisoes, oedd yr humour a lanwai ei natur. Gresyn na fuasai geiriau Cymraeg da am y ddau frawd hyn—humour a pathos. Rhyw ddau efaill ydynt, yn debyg iawn i'w gilydd ac i'w cael gyda eu gilydd bob amser. Credwn eu bod yn codi o galon fawr a dynoliaeth lydan,—na cheir hwynt byth mewn dynion bychain, culion, a hunanol. Anmhosibl yw rhoddi darnodiad boddhaol o honynt, ond cynwysa humour y gallu i wisgo dygwyddiadau cyffredin mewn gwedd ddigrifol, chwareus, a hyny yn llawn natur dda, heb ddim chwerwder na gwenwyn ynddo. Gwir fod gan Mr. Thomas allu i ddweyd pethau miniog iawn. Pan ymollyngai i feirniadu, gallai symio i fyny nodweddion, ac yn arbenig wendidau rhyw frawd, mewn brawddeg neu ddwy na anghofid byth gan y neb a'u clywent. Ond yr oedd yn ormod o foneddwr ac yn ormod o Gristion i ddefnyddio yr erfyn yma ond yn gynil iawn.

Ond am y peth arall—yr elfen humorous oedd ynddo—byddai hon yn byrlymu allan yn barhaus yn ei ymddiddanion a'i anerchiadau a'i bregethau nes peri llawer o fwynhad pur a diniwed hollol, a'i helpu i gyraedd amcan mawr y weinidogaeth. Ac yn nglyn a hyn yr oedd yn llawn tynerwch i gydymdeimlo â galar a thristwch yn mhob man. Gwnai y ddau beth yma ef yn wr anwyl iawn gan bawb.

Gyda golwg ar ffurf ei bregethau, cyfansoddi yn lled lac a diofal a wnai. Nid oedd yn gofalu llawer am drefnusrwydd yn rhaniadau y bregeth ac yn nghyflead ei faterion, yn hytrach cadwyn o sylwadau pert a chyfres o hanesion difyr a chymhariaethau priodol a geid ganddo. Byddai weithiau yn symud cymhariaeth o un bregeth i'r llall a gallai wneyd hyny heb niweidio y gymhariaeth na'r pregethau. Ond os oedd fel hyn yn ddibris o reolau caeth cyfansoddiad a saerniaeth pregeth, nid pregethu yn ddiamcan y byddai. Yn y bregeth, er engraifft, ar y geiriau hyny "Ai difater genyt ein colli ni?" y mae un meddwl yn rhedeg drwy y cyfan ac fel llinyn yn dal y perlau i gyd—y meddwl "nad difater gan Dduw ein colli ni." Cadwai olwg bob amser ar amcan mawr gweinidogaeth yr efengyl ac argyhoeddai bawb ei fod o ddifrif, ei fod yn genad dros Grist ac yn erfyn ar bechaduriaid i ddyfod i gymod â Duw. Tua diwedd ei oes gwelid hyn yn fwy—fwy amlwg, rhyw ddwysder teimlad fel pe byddai cyflwr y gwrandawyr yn pwyso yn drwm ar ei feddwl, yr hyn a barai fod ei apeliadau yn hynod effeithiol. Pan ychwanegwn at y pethau hyn y cymeriad gloeyw a gadwodd am oes faith, ei dduwioldeb diamheuol, a'r "eneiniad oddiwrth y Sanctaidd hwnw" yr hwn oedd mor amlwg yn gorphwys ar ei ysbryd a'i bregethu, nid rhyfedd fod ei weinidogaeth wedi bod mor fendithiol âg eiddo odid neb yn Nghymru.

Nodiadau

[golygu]