Neidio i'r cynnwys

Yn Llefaru Eto/Lewis Edwards Fel Pregethwr (1)

Oddi ar Wicidestun
Lewis Edwards Byr-hanes Yn Llefaru Eto

gan Anhysbys

Lewis Edwards Fel Pregethwr (2)

FEL PREGETHWR.

Gan y Parch. Griffith Parry, D.D., Carno.

𝕾YLW gwir iawn oedd hwnw a wnaeth Carlyle, mai hanes gwirioneddol gwlad ydyw hanes ychydig o ddynion mawr. Ac nid ydyw yn anhawdd rhoddi cyfrif am hyn. Gweithredoedd sydd yn y golwg; ond y mae gweithredoedd yn cael eu bod yn y meddwl. Yn y dirgel y mae ffynhonau bywyd y byd. Ac os edrychwn ar hanes y byd fel goruchwyliaeth Rhagluniaeth Duw, yr hon yw y wedd uchaf arno, nid oes dim yn yr olwg hon yn anghyson â'r sylw a ddyfynwyd. Nid yn ddigyfrwng y mae Duw yn gweithio. Yn hanes y byd a'r eglwys y mae y gweithrediad dwyfol trwy offerynoliaeth ddynol. Os Duw sydd yn "tywys ei bobl fel defaid," y mae hyny "trwy law Moses ac Aaron." Pan y mae "yr awr" wedi dyfod y mae "y dyn" yn barod.

Gellid rhanu dynion mawr gwlad neu oes i ddau ddosbarth. Gwneir un i fyny o'r dynion sydd yn gwneyd y gwaith mwyaf rhagorol yn amgylchiadau yr oes y maent yn byw ynddi—y rhedegwyr glewaf ar linellau meddwl a gwaith eu hoes eu hunain. Ond y mae dosbarth arall, uwch; sef y dynion sydd yn agor llinellau newydd i diriogaethau newydd o feddwl a gwaith. Y mae y rhai hyn yn rhoddi argraff eu personoliaeth nerthol eu hunain ar eu hoes. Cyfyd ychydig ddynion sydd yn grëwyr cyfnodau. Y maent yn rhoddi cyfeiriad newydd i feddwl oesoedd. Dynion i'w hoes yw y rhai hyn mewn modd arbenig, yn gynyrch eu hoes, ond o flaen eu hoes, ac ar ar yr un pryd yn meddu digon o rym i dynu eu hoes i'w canlyn. Meddylwyr mawr a diwygwyr mawr. Un fel hyn oedd Dr. Chalmers yn Ysgotland. Ac un fel hyn yn arbenig oedd Dr. Edwards yn Nghymru.

Nis gall un dyn diragfarn ameu na ddarfu i Dr. Edwards, trwy ei wasanaeth ardderchog i'w Gyfundeb a'i genedl, agor cyfnod newydd yn hanes Addysg, Llenyddiaeth a Duwinyddiaeth Cymru. Os bu dim erioed yn ddechreuad pennod newydd yn hanes gweinidogaeth yr efengyl yn Nghyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd, agoriad Athrofa y Bala oedd hyny. Drychfeddwl Dr. Edwards oedd y Traethodydd, ac efe yn benaf a'i sylweddolodd. Efe oedd ei enaid a'i rym, er fod ganddo gynorthwywyr medrus a galluog. Daeth y cyhoeddiad hwn a byd newydd o wirioneddau i olwg darllenwyr ieuaingc Cymru. Cawsant drwyddo gychwyn marsiandïaeth â rhandiroedd pell, a dechreu cydnabyddiaeth â thrysorau gwychaf llenyddiaeth yr oesoedd. Nid gormod yw dweyd fod Dr. Edwards wedi rhoddi ffurf a chyfeiriad newydd i efrydiau duwinyddol yn Nghymru. Treiddiodd i haenau dyfnach o feddwl. Newidiodd i fesur mawr destynau yr hen ddadleuaeth dduwinyddol, trwy ddangos yn mha le yr oedd y gwir anhawsderau Symudodd y tir o danynt. Gwnaeth fyr waith o lawer o'r hen ddadleuon, nes yr oeddynt yn ymddangos yn bethau anhymig, allan o amser ac allan o berthynas â'r materion y cedwid cymaint o drwst yn eu cylch. A gwnaeth hyn nid trwy ymosod arnynt, ond trwy ddangos ffordd fwy rhagorol. Ciliodd llawer o'r hen ddulliau o feddwl a dadleu ar bynciau duwinyddol yn ddistaw o'r golwg, fel y mae y tywyllwch yn graddol ddiflanu o flaen cynydd tawel a sicr goleuni y dydd.

Creodd Dr. Edwards y chwyldroad dystaw ond effeithiol hwn yn meddwl duwinyddol Cymru yn benaf trwy ddau waith o'i eiddo :yr erthyglau godidog ar " Gysondeb y Ffydd" neu "Wirioneddau Gwrthgyferbyniol," ac hefyd ei lyfr ar "Athrawiaeth yr Iawn," yr hwn o ran gwreiddiolder a nerth, dyfnder ac eglurder, sydd yn sefyll ar ei ben ei hun yn yr iaith Gymraeg. Llewyrchodd egwyddor yr erthyglau Cysondeb y Ffydd," ar y wlad fel darganfyddiad. Nid oedd neb o'r dadleuwyr pybyr ar yr athrawiaethau wedi meddwl am ddim o'r blaen, wrth gwrs, ond fod yr holl wirionedd ar eu hochr hwy, a dim ond cyfeiliornad ar yr ochr arall. Ond dyma brophwyd wedi cyfodi a chanddo weledigaeth newydd. Dengys hwn fod gwirionedd Duw yn rhy fawr i gael ei wasgu i fewn i gyfundraethau bychain dynion. Y mae rhan o'r gwirionedd gan bob ochr. Ac os ydynt yn ymddangos yn anghyson à'u gilydd, gallwn fod yn sicr nad ydynt felly mewn gwirionedd, ond eu bod yn cyfarfod mewn undod uwch. A'r peth sydd yn sicrhau hyn ydyw—nas gall yr un gwirionedd sefyll wrtho ei hun, ond mewn undeb â'r gwirionedd gwrthgyferbyniol, y rhai ydynt fel y meini yn mwa y bont tra gyferbyn â'u gilydd eto yn cynal eu gilydd, ac yn cydsefyll yn y maen clo. Profodd ac eglurodd Dr. Edwards yr egwyddor dra phwysig hon gyda golud o ddysg a dyfnder a chlirder meddwl na welwyd dim o'i gyffelyb yn ein gwlad; dangosodd ei bod yn treiddio trwy holl weithredoedd y Creawdwr ac yn dal yn holl diriogaethau gwirionedd. Dyma ddechreuad cyfnod newydd yn hanes duwinyddiaeth yn Nghymru tebyg i'r cyfnod newydd a grewyd yn hanes athroniaeth yn Lloegr trwy Novum Organum Arglwydd Bacon. Dyma Ddull newydd i efrydu duwinyddiaeth.

Tra yr edrychir yn gyffredin ar holl weithiau Duwinyddol a Llenyddol Dr. Edwards fel y trysorau gwerthfawrocaf yn yr iaith, credwn mai y tri hyn yw y rhai penaf: y Traethodau ar Gysondeb y Ffydd, Athrawiaeth yr Iawn, a Hanes Duwinyddiaeth. Nid ydym yn meddwl fod y gwaith claf wedi cael degwm y sylw a deilynga. Nis gellir ei ddarllen heb deimlo ei fod yn waith meistr trwyadl: nid un wedi casglu yn ddyfal ac yn gallu egluro yn dda wahanol olygiadau ; ond gwaith dyn mawr mewn dysg a meddwl, un yn meddu cydnabyddiaeth lwyr â llenyddiaeth dduwinyddol yr oesoedd, ac ar yr un pryd yn feddyliwr annibynol, gwreiddiol a dwfn, ac yn gallu barnu pob golygiad neu gyfundrefn yn ngoleuni hanes meddwl mewn duwinyddiaeth ac athroniaeth. Rywfodd neu gilydd, gadawyd allan y gwaith gorchestol hwn o'r argraffiad o Weithiau Dr. Edwards; ond cyhoeddwyd ef wedi hyny ar wahan yn llyfr prydferth a golygus.

Bwriadwyd y sylwadau hyn i fod yn benaf ar Dr. Edwards fel Pregethwr. Ond wrth ymwneyd â'r fath ddyn, ac â gwaith mor eithriadol o fawr a'r gwaith a gyflawnodd efe i'w Gyfundeb a'i genedl, teimlem y buasai yn anmhriodol, os nad yn wir yn anmhosibl, i edrych arno fel pregethwr yn gwbl annibynol ar y dyn a'i waith yn ei gyfanrwydd.

Ac y mae y sylw yna yn ein harwain yn naturiol i grybwyll fod Dr. Edwards yn engraifft nodedig o'r berthynas fywiol sydd i fod rhwng y bregeth a'r pregethwr. Teimlir rai gweithiau wrth wrando ambell un fod y bregeth yn llawer mwy a gwell na'r pregethwr. Gall achosion gwahanol beri hyn, y rhai nad awn i'w holrhain yn bresenol. Ond ni theimlid hyn byth gydag ef. Pa mor odidog bynag a fyddai y bregeth, ni synem o gwbl ei bod yn dyfod oddiwrtho ef. Ffynon o ddwfr yn tarddu oedd yno. Y dyn da, o drysor da ei galon, oedd yn dwyn allan bethau da. A siarad yn ddynol, a chyda hen derm athronyddol, teimlid fod yna "achos digonol " i gynyrchu yr effaith. Ac hyd yn nod pe na buasai dim neillduol iawn yn y bregeth, teimlid fod mawredd y dyn y tu cefn iddi-mawredd meddyliol a mawredd ysbrydol. Cyfranai hyn fawredd a newydd-deb i'r bregeth. I ddefnyddio cymhariaeth y diweddar Barch. Joseph Thomas ar yr un mater, gwelid fod y creawdwr yn gynhaliwr. Attegid y bregeth a blaenllymid y sylwadau gan ragoroldeb yr hwn a'i traddodai. Dygai Dr. Edwards allan o'i drysor "bethau newydd a hen;" ond yr oedd ganddo hefyd y ddawn ryfedd yr hon y dywedai Mr. Roberts, Amlwch, oedd yn hynodi Ebenezer Morris-y ddawn "i ardderchogi pethau cyffredin." Ac eto, nid ei lais ef oedd yn gwneyd hyn, na'i ddawn (yn ystyr gyffredin y gair), na'i ddull o draddodi, ond rhywbeth mwy na'r cwbl-grym ei bersonoliaeth ef ei hunan.

Y mae yn rhydd i ni gyfaddef mai Dr. Edwards a wnaeth yr argraff ddyfnaf arnom ni o neb erioed o gymeriad gwirioneddol. Credwn ei fod yn un o'r dynion mwyaf real a welwyd. Yr oedd ei fawredd yn wir fawredd, a'i ddysgeidiaeth yn wir ddysgeidiaeth. Casai â chas cyflawn bob ffug a rhodres ac ymddangosiad. Bod ac nid ymddangos oedd y peth mawr yn ei olwg, a'r hyn a gymhellai yn wastad ar ei efrydwyr. Yr oedd y nodwedd hwn o reality fel seilwaith o dan ei holl gymeriad yn foesol a meddyliol. Ac yr oedd hyn yn rhwym o nodweddu ei bregethu. Ni cheid yn y bregeth ddim un sylw ysgafn, dibwys, llipa. Yr oedd gafael a sylwedd a phwysau yn mhob un. Ni cheid ganddo eiriau ystrydebol- gweddillion marwol wedi bod unwaith yn drigleoedd bywyd. Na teimlid grym a min yn y cwbl gan nerth y bywyd a gurai trwy ei ymadroddion. Megys y mae cyfodiad yr haul yn goleuo yr awyrgylch, felly y creai ei bregeth ef awyrgylch newydd o oleuni gwirionedd. Yr oedd efe mewn modd nodedig 'o'r gwirionedd," yn ddeiliad ffyddlon yn nheyrnas gwirionedd, yn wir addolwr yn nheml gwirionedd. Gwirionedd yn ddeallol ac yn foesol—gwirionedd yn yr ystyr o truth, ac hefyd yn yr ystyr o reality. Nerth ei gariad at wirionedd a barai ei fod mor ochelgar rhag myned i eithafion gyda dim. Dyma a barai ei fod mor deg mewn dadl, ac mor gynil yn ei ymadroddion. Ni fynai gelu na gwanhau dim oedd i'w ddweyd o blaid y golygiad gwrthwynebol. Yr oedd ei lygad yn syml. A'r un cariad at wirionedd a barai iddo gashau mor lwyr bob ffug a rhagrith, pob ymgais i ymddangos heb fod. Teimlid y rhagoriaeth uchaf hwn yn treiddio trwy y bregeth, nes rhoddi iddi allu mawr ar gydwybod y gwrandawr. Yr oedd fel blaenbrawf o ddydd y farn.

Yn nglyn â hyn, ac fel rhan o hono, rhaid nodi difrifwch fel nodwedd arbenig yn nghymeriad y dyn mawr hwn. Yr oedd ei fywyd ef i raddau nodedig yn "fywyd o ddifrif." Gwelodd bethau mawr; gosododd amcanion mawr o flaen ei lygad; a chyrchodd atynt drwy bob rhwystrau heb lwfrhau. Yr oedd ynddo gyfuniad nodedig o fawredd meddwl a mawredd ysbryd—nerth meddwl a difrifwch ysbryd. Ni welodd Cymru fywyd yn fwy o ddifrif.

Nis gellid gwrando Dr. Edwards heb weled fod cydnawsedd nodedig rhwng ei feddwl â gwirioneddau mawr yr Efengyl. Yr oedd wedi cyraedd "golud sicrwydd deall yn ei dirgelion mwyaf gogoneddus. Ac er hyn, neu yn hytrach am hyn, pwy yn fwy gwylaidd ac addolgar uwchben y dirgelion? Gwirid ynddo ef yn rhyfeddol eiriau yr Apostol:— I bob golud sicrwydd deall i gydnabyddiaeth dirgelwch Duw a'r Tad a Christ." Yr oedd ei gydnabyddiaeth mewn cyfartaledd i'w adnabyddiaeth.

Tueddir ni i gredu pe buasai modd cymeryd barn y cynulleidfaoedd gawsant wrando Dr. Edwards am haner cant neu driugain mlynedd ar y cwestiwn—beth oedd y nodwedd amlycaf yn ei bregethu ?—y buasent bron yn unfrydol yn nodi allan un rhagoriaeth, a hwnw hefyd y rhagoriaeth (meddyliol) uchaf yn ei weinidogaeth. A dyna fuasai hwnw y cyfuniad rhyfeddol oedd yn ei bregethu o fawredd a symledd. Yr oedd efe yn ddigon mawr i fod yn syml. Ni ddefnyddiai efe eiriau mawr am bethau bychain; ond fel y gwna y Beibl defnyddiai eiriau bychain am bethau mawr. Yr oedd efe yn un o'r meddylwyr dyfnaf, ac ar yr un pryd yn un o'r rhai mwyaf clir. Ac yr oedd y rhagoriaeth uchel hwn yn ei weinidogaeth yn uno yr eithafion yn mhlith ei wrandawyr i'w edmygu—y rhai deallus a'r rhai bychain.

Buasai dechreuad gweinidogaeth Dr. Edwards yn rhoddi gwedd newydd ar bregethu yn Nghymru pe na buasai am ddim ond y ffaith mai efe a ddygodd ddysgeidiaeth uchel i wasanaethu yr Efengyl. A gwnaeth hyny yn yr iawn ffordd. Ni bu pregethu neb erioed yn mhellach o wneyd arddangosiad o ddysg. Ni bu erioed bregethu mwy syml a dirodres. Ffrwyth dysg oedd yn y bregeth—canlyniadau diwylliad meddyliol uchel, ac nid y grisiau ar hyd pa rai y cyrhaeddwyd hwynt. Darlun perffaith a welid, a'r blychau lliwiau a'r offerynau o'r golwg results ac nid processes. Ond pwy all draethu gwerth y driniaeth a gafodd y fath feddwl a'r eiddo ef gan addysg uchel, i'w gyfoethogi, ei nerthu, ei loewi a'i finio at waith ei oes? Dyrchafodd hyn ei weinidogaeth i level uwch na'r eiddo neb bron o'i frodyr pan oedd efe yn cychwyn; rhoddodd newydd—deb ac arbenigrwydd arni. Dygodd Athroniaeth, Beirniadaeth Ysgrythyrol, yr ieithoedd gwreiddiol, Hanes yr Eglwys a Hanes yr Athrawiaeth—a hyny mewn dull mor ddiymhongar fel mai prin yr oedd neb yn ameu eu bod yno, ond yn eu ffrwyth

"I'w hongian yn offrwm ar drostan y groes."

Cyfuniad nodedig o ran ei natur a'i raddau yn Dr. Edwards oedd y ddwy elfen—y resymegol a'r gyfriniol. Nid oedd neb yn adnabod yn well derfynau Rheswm a Ffydd. Ymresymai gyda llymder a manylrwydd diail, gan uno treiddgarwch a thegwch, yr hyn y gellid, ac mor bell ag y gellid, ei ymresymu. Ond pan y byddai y Gwirionedd yn pasio allan o afaelion Rheswm ac yn dechreu ymgolli yn nyfnder mawr yr Anfeidrol, plygai gyda gras prydferth ac addolgar. Anfynych y gwelwyd y fath allu ymresymiadol a'r fath gydnawsedd â'r cyfriniol wedi cyd—gyfarfod. Ac yr oedd hon yn dystiolaeth nodedig i gwmpas ac ansawdd y meddwl a allai ragori cymaint yn y fath eithafion.

Meddai Dr. Edwards mewn graddau nodedig y rhagoriaeth gwerthfawr a phrin hwnw—meddwl o fantoliad da. Yr oedd ynddo gydbwysedd rhagorol. Ni cheid ynddo byth wendid ar un ochr yn difuddio y nerth ar yr ochr arall. Oblegyd hyn yr oedd ei farn yn addfed ac yn gywir, yn un y gellid ymddibynu arni bob amser. Gwnai hyn ef yn arweinydd anmhrisiadwy yn yr Athrofa, yn yr Eglwys, ac yn y Cyfundeb.

Credwn nad oes ond un farn am arddull Dr. Edwards, pa un bynag ai mewn llafar ai mewn ysgrifen. Y mae yn gynllun o berffeithrwydd. Adlewyrchiad ydoedd o ragoriaethau uchel ac amryfal ei feddwl. Corff cyfaddas a gymhwysodd ei ysbryd iddo ei hun. Y mae yn syml, yn glir, yn nerthol, ac yn ffitio y meddwl a fynegir trwyddi yn berffaith. Y mae nid fel y gwydr lliwiedig yn tynu sylw ati ei hunan, ond yn bur fel y gwydr gloyw yn datguddio yn unig y gwrthddrychau sydd i'w gweled trwyddi. "Cenad o ladmerydd " oedd Dr. Edwards,—" un o fil." Un mawr mewn oes ydoedd, wedi ei gynysgaeddu á chymhwysderau anghyffredin i gyflawni gwaith anghyffredin, i roddi symudiad mawr yn mlaen i deyrnas Dduw yn y byd. Bydd ei gymeriad a'i waith yn llenwi lle mawr yn hanes y Weinidogaeth, ac yn hanes Llenyddiaeth a Chrefydd Cymru am yr haner canrif diweddaf.

Meddyliwr cryf, o gryfder cawr,
Athronydd dwfn, Duweinydd mawr,
Ieithyddwr coeth,
Dysgawdwr doeth,
I arwain ei ddysgyblion,
I wirioneddau dyfnion:
Meddyliwr clir,
Pregethwr gwir,
Mewn mawredd symledd,
A symledd mawredd;
Arweinydd oedd i Arweinyddion Cymru,
Ac Athraw ei hathrawon byth er hyny,
Ei enw gerfir mewn anfarwol lyth'renau,
Fel un o gewri prif feddylwyr yr oesau.

—T. GRAY.


Nodiadau

[golygu]