Yn Llefaru Eto/Lewis Edwards Pregeth—Profi a Dal, I Thes. v. 31
← Lewis Edwards Fel Pregethwr (2) | Yn Llefaru Eto gan Anhysbys |
Owen Thomas, Byr-hanes → |
𝕻𝖗𝖔𝖋𝖎 𝖆 𝕯𝖆𝖑.
Gan y diweddar Barch. Lewis Edwards, D.D., Bala.
"Profwch bob peth; deliwch yr hyn sydd dda." I THES. v. 21.
MAE lle i feddwl fod yr apostol yn bwriadu cysylltiad rhwng yr adnod hon a'r benod o'r blaen. Yn y bed- waredd adnod a'r bymtheg mae yn dweyd, "Na ddiffoddwch yr Ysbryd," a'r ffordd i ddiffodd yr Ysbryd ydyw drwy ddirmygu y prophwydoliaethau. Ac y mae yn dweyd "Na ddirmygwch y prophwydoliaethau." Wrth y prophwydoliaethau y mae i ni ddeall addysg y prophwydi. Mae yn wir fod prophwydo yn y dull o ragddywedyd yn bod i raddau ar ryw achlysuron. Ond yn gyffredin mae y gair yn arwyddo addysg y prophwydi. Y mae yn ymddangos fod tuedd yn yr eglwysi y dyddiau hyn i ddirmygu y dull cyffredin o addysgu, a'u bod yn dyrchafu y gwyrthiau goruwchnaturiol, megys llefaru â thafodau eraill, &c. Nid ydym yn sicr nad ydyw yr un perygl yn bod eto, o ran sylwedd y peth. Yr oedd llefaru â thafodau eraill yn beth dyeithr iawn, ac yn creu syndod. Yr oedd arnynt eisio rhywbeth digon dyeithr. Lled anhawdd, er hyny, ydyw cael rhai i lynu wrth addysg, i lafurio gyda y dull cyffredin o addysgu. Felly y mae y cyngor yma yn angenrheidiol i ninau eto, "Na ddirmygwch y prophwydoliaethau."
"Na ddirmygwch y prophwydoliaethau." Fel pe y dywedasai, "Na dderbyniwch bob math o brophwydoliaethau ychwaith." Y mae gau addysg. Am hyny, "profwch bob peth." Mae eisio profi er hyny. A yw yr addysg yn addysg ysgrythyrol ai peidio? "Profwch bob peth." Nid oes dim dadl nad dyna ydyw ystyr y cyngor byr yma. Nid fel y mae rhai yn ei gymeryd weithiau, "Profwch bob peth." "PROFWCH bob peth." Rhowch chwareu teg i bob peth. Gwnewch brawf o hono. Peidiwch a gwrthod peth heb ei brofi. Darllenwch bob peth. Gwnewch bob peth. Dyna fel y mae rhai yn ei esbonio. Ond y mae yn ddiamheuol mai yr ystyr ydyw, Peidiwch derbyn, peidiwch rhoi lle na gwrandawiad i ddim heb ei brofi. Un gair a ddefnyddir am brofi ydyw hwn, a ydyw yn arian da ai peidio,—pa un ai twyll ydyw? "Profwch bob peth." Ac yna, ar ol profi, "deliwch yr hyn sydd dda." Nid profi er mwyn gwrthod sydd yma, ond profi er mwyn dyfod o hyd i'r da. Deliwch hwnw. Na wrthodwch bob peth. Y mae y ddwy adnod yma yn ateb i'w gilydd yn brydferth iawn. Y mae tuedd mewn dynion sydd yn profi llawer i fyned yn feirniadol, dros ben y feirniadaeth, i wrthod pob peth; maent yn myned yn grachfeirniaid. Mae y rhai hyny i'w cael eto. "Ond ar ol profi, deliwch yr hyn sydd dda." Hold fast. Gofalwch am beidio ei ollwng. Daliwch eich gafael ynddo. Nid af i ranu yr addysg yma yn rhyw gelfyddydol pe bawn yn medru. Yr wyf yn ei chymeryd yn syml fel y mae. Mae yr holl adnod yn troi o gwmpas dau air—PROFI, DAL. Mae y cwbl yn troi o gwmpas y ddau yna,—PROFI a DAL. Ac y mae yn dweyd beth sydd i'w brofi a beth sydd i'w ddal. Mae pob peth i'w brofi, ond yr ydym i ddal yr hyn sydd dda. Nia ddechreuwn gyda y rhan gyntaf.
1. PROFI.
Gallwn ranu hwn i ddau beth. Yn iaf, Profwch bob athrawiaeth. Yn ail, Profwch bob ymarweddiad. Mae yn cynwys yr athrawiaethol a'r ymarferol.
Profwch—peidiwch derbyn un athrawiaeth heb ei phrofi; peidiwch a dilyn un math o ymarweddiad heb ei brofi yn gyntaf. Mae hyn yn cynwys fod gan ddyn allu i brofi pob peth. Mae y Duw mawr wedi rhoddi gallu o'ch mewn chwi a minau i brofi athrawiaethau,— i brofi beth sydd yn wir a beth sydd yn gelwydd. Ac y mae cryn lawer o arian drwg yn cael eu profi y dyddiau hyn, mewn ystyr foesol yr wyf yn feddwl. Y mae llawer iawn o ryw athrawiaethau newyddion, a llawer iawn o ddynion pur uchel yn ymadael oddiwrth y ffydd. Nid wyf yn tybio eich bod chwi yn clywed gau athrawiaethau yn yr un o gapeli y dref yma. Ond y mae yn debyg eich bod chwi yn darllen cryn lawer o beth na ddylech eu derbyn cyn eu profi. Y mae llawer iawn o ryw athrawiaethau croes i wirionedd yn cael eu taenu drwy y wasg yn awr, athrawiaethau yn gwadu tragwyddol gosbedigaeth, athrawiaethau yn gwadu yr Iawn, ac athrawiaethau yn taflu amheuaeth ar y bôd o Dduw. Mae y peth yn gyffredin yn Lloegr, ac y mae eisio rhybuddio am hyn, yn enwedig y bobl ieuainc. Mae rhyw awydd mewn dyn ieuanc i wybod pob peth, ac i neidio at bob peth. "Profwch bob peth," —PROFWCH. Dyna sydd yma. Peidiwch derbyn athrawiaethau ag yr ydych yn eu gweled heb edrych a wnant hwy ddal y prawf ai peidio. Mae cyneddf mewn dyn i brofi pethau moesol; nid rheswm, cofier, ond cydwybod. Dyna y brif gyneddf mewn dyn ydyw y gydwybod, Dyna y gyneddf lywodraethol. Gwrandewch ar bob peth. Mi ddywed eich cydwybod wrthych yn union beth sydd wir a beth sydd gelwydd. Os 14 wnewch hwi wrando, mi wnaiff hithau beidio siarad; ac os ewch i weithredu yn groes iddi, yr ydych yn ei chaledu hi. Mi aiff yn y diwedd fel pe wedi ei serio â haiarn poeth. Ond os caiff cydwybod chwareu teg, mi wnaiff lefaru wrthych. Lleferydd Duw yn enaid dyn ydyw cydwybod, —y Duw anfeidrol yn llefaru o'ch mewn chwi ydyw, ac wrth wrando arni yr ydych yn gwrando ar Dduw. Mae Ysbryd Duw yn siarad yn y gydwybod. Ydych chwi yn gwrando, gyfeillion? A'r ffordd oreu i ni wrando ar lais cydwybod ydyw mewn dystawrwydd. Yn y dystawrwydd y mae hi yn hoffi siarad. Mae swn y byd yma yn fynych yn boddi ei llais hi. Ond arferwch, y bobl ieuainc yma yn enwedig, arferwch fyned yn fynych i'r dystawrwydd. Rhyw lef ddystaw fain ydyw llef cydwybod, ac fe fydd yn anhawdd iawn i chwi ei chlywed hi yn nghanol swn a dadwrdd y byd yma. Ond pan ewch chwi i'r dystawrwydd, o'r neilldu, i'r ystafell ddirgel, a dechreu galw eich hunain i'r dystawrwydd, ond odid na chewch chwi glywed y llef ddystaw fain yn dweyd rhywbeth wrthych. Nid oes dim yn well na gweled pobl ieuainc yn treulio rhyw gymaint o adeg y dydd, o swn y byd ac o swn ei gydnabod, i wrando beth a ddywed yr Arglwydd wrthych drwy eich cydwybod. Y mae cydwybod gan y pagan, ac y mae hono yn llefaru dros Dduw wrth y pagan. Ond eto, mae genym ni fantais fwy o lawer iawn na'r paganiaid. Yr ydym mewn mantais i fyned a'r gydwybod at y Beibl. Mae fy nghydwybod wedi anmharu y dyddiau yma; nid yw yn anffaeledig; ond ewch a hi i fyny at y Beibl. Mae y Beibl yn cywiro eich cydwybodau chwi. Dyna y ffordd i brofi,—ewch a phob athrawiaeth at y Beibl. Yn awr, cymerwch yr athrawiaethau newyddion a dyeithr sydd yn cael eu traethu yrwan, yna prawf cydwybod hwynt, Nid wyf yn dweyd nad ydynt yn edrych yn rhesymol, ond nid rheswm sydd yn llefaru, ond cydwybod. Cymerwch dragwyddol gosbedigaeth yr annuwiol, beth ddywed y gydwybod? Mae hi yn dweyd fod pechod yn ddrwg, yn ddrwg yn erbyn Duw anfeidrol. Dyna lais cydwybod. Beth bynag ddywedo hi, fod yna ddrwg mewn un pechod na all holl weithredoedd da y byd eu cywiro. Mae eich cydwybod chwi yn dweyd fod pob pechod yn haeddu cosbedigaeth am dragwyddoldeb. Ac os bydd eich cydwybod chwi yn gwyro weithiau, ewch a hi at y Beibl. "Y rhai hyn a ânt i gosbedigaeth dragwyddol." Am hyny, peidiwch derbyn pethau fel yna. Mae eich cydwybodau yn eu condemnio. Wel, heblaw hyn, mae eich cydwybod yn dweyd fod drwg pechod yn gofyn Iawn anfeidrol, ac nid oes dim modd maddeu pechod heb waed. Mae llawer iawn yn gwneyd gwawd o hyna. Athrawiaethau y gwaed, athrawiaethau gweigion, meddant. Peidiwch gwneyd hyny, gwrandewch ar eich cydwybodau. Ac nid rhyw fath o Iawn, nid rhyw Iawn ymddangosiadol, ond Iawn i Dduw. Nid oes dim dawela eich cydwybodau, wedi eu deffro unwaith, ond golwg ar Iawn o anfeidrol werth. Nid oes dim dawela y gydwybod ond yr hyn sydd yn tawelu cyfiawnder dwyfol. Mae yn rhaid cael Iawn uniganedig Fab Duw i foddloni cyfiawnder. Ac nid oes llai a foddlona dy gydwybod dithau. Nid yw o un dyben i ti ymofyn am dawelwch yn unman arall. Mae pob peth yn dy adael di heb gysgod erbyn y dydd mawr hyd nes y doi di at Iawn Calfaria. Profwch bob athrawiaeth yn ngoleuni y Beibl.
Yr ail beth. Wedi hyny, profwch bob ymarweddiad. Peidiwch dilyn un ymarferiad, peidiwch dechreu un ymarferiad heb ei brofi. Peidiwch myn'd ar ol difyrwch heb ei brofi. Nid wyf yn condemnio bob difyrwch. Gallwch wneyd y peth a fynwch ond pechu. Ond dowch at y cwestiwn yma, a ydyw yn unol â chydwybod? a wnaiff ef beidio dolurio fy nghydwybod yn ngoleuni fy mhechod? Sut y gallwn ni farnu, ffurfio barn, ar ddim heb gael dipyn o brynu ar hono? Wel, tybiwch fel Dr. Johnson, nid ydych yn myned i fwyta y cwbl fydd ar y bwrdd er mwyn gwybod a yw yn werth ei fwyta. Mae y taste yn gofyn, mae y chwaeth yn gofyn ei ddefnyddio. Mae chwaeth yn gallu gwrthod y drwg a dewis y da. A oes genych amheuaeth am ddrwg rhywbeth? Cymerwch chwi ymarferiad, rhyw ffordd i gael pleser, ewch ag ef at eich cydwybodau ; gofynwch a gwrandewch beth a ddywed cydwybod ar y mater. "Profwch bob peth." Y bobl ieuainc, ydech chi yn sicr ydi y peth yn gwneyd lles i chwi? Ydi o yn peidio gwneyd drwg i chwi? Ar ol bod mewn rhyw gymdeithas, sut y mae y gydwybod yn teimlo? beth y mae yn ei ddweyd wrthych? Rhowch wrandawiad i lais cydwybod yn ngoleu y Beibl. Feallai fod hynyna yn ddigon ar y peth cyntaf,—"Profwch bob peth."
II. DAL, "Dal yr hyn sydd dda." Nid profi ydyw y gwaith i gyd. Mi äi ein tymor ni heibio yn ofer iawn pe na byddai ond profi i gyd, dim ond criticeisio y cwbl. Ond dyma bwnc arall, "Deliwch yr hyn sydd dda." "Profwch bob peth; deliwch yr hyn sydd dda." Mae hyn yn tybio fod rhywbeth da yn bod wedi y cwbl. A gofalwch wrth brofi a beirniadu i beidio colli golwg ar "yr hyn sydd dda." "Deliwch yr hyn sydd dda." Beth bynag sydd yn ffug a thwyll, ac y mae llawer iawn, ond wedi y cwbl mae crefydd yn beth da. Mae crefydd yn dda drwy y cwbl. Mae yna ragoriaethau ac y mae gwendidau yn y bobl ddoeth, ond crefydd sydd yn dda. Mae yn dda i fyw; mae yn dda i farw. Duwioldeb, "mae ganddi addewid o'r bywyd sydd yr awrhon ac o'r hwn a fydd." Beth arall gewch chwi i wneyd hyn? Beth sydd genych os ydych heb dduwioldeb? Beth sydd genych ar gyfer byd arall ? erbyn marw? Mae crefydd wrth farw yn dda, fy ngwrandawyr. Yn nghanol byd o ddrygau a gwagedd, crefydd ydyw y peth da. "Ofna Dduw, a chilia oddiwrth ddrygioni," —mae hyny yn dda. Mae hwna i'w gael, mae y peth da i'w gael. Ac y mae dynion wedi ei gael. Mae rhagrithwyr yn bod, ond y mae dynion duwiol yn bod. Gwrandewch chi ar y gydwybod, mi ddywed hi yr un peth. Mae dynion duwiol yn bod, 'does dim dadl nad ydynt yn bod. Mae eu bywyd yn tystiolaethu drostynt. Dynion yn meddu egwyddor sanctaidd, mae y rhai hyny yn bod. Wel, "deliwch yr hyn sydd dda." Daliwch afael, hold fast, daliwch afael yn mhob peth da. Peidiwch a'u gadael i fyned i golli. Mae yn arw iawn gweled ambell i ddyn ieuanc yn myned yn rhy falch, neu yn rhy rywbeth, i ddal i fyny yr hen arferion yr oedd ei dad a'i fam yn eu dal i fyny, yn colli yr ysbryd i ddarllen y Beibl bob dydd, ac i fyned ar ei liniau i roddi addoliad i Dduw i ddiolch am ei gynal ac i ofyn am ras i'w gadw. Dyna beth sydd yn dal yn dda. Hold fast, fy mhobl i. Y bobl ieuainc, maddeuwch i mi am fod mor hyf yn apelio atoch, os byddwch yn gadael cartref, fel y bu ac y mae llawer ohonoch, i fyned i Loegr ac i America, daliwch afael yn yr hen arferiad yna, ewch a'r hen arfer dda gyda chi,—peidiwch a'i gadael hi gartref. Beth bynag adewch chwi ar ol, ewch a'r Beibl gyda chwi, ac arferwch ei ddarllen; arferwch weddio hefyd. "Deliwch yr hyn sydd dda." Yr arferiad o wrando, a myned i'r Ysgol Sabbothol, daliwch afael yn hyny, er nad yw yn ddigon o grefydd ynddo ei hun; ond eto, mae yn ffordd dda i gael crefydd. Nid ydych yn debyg o gael crefydd yr un ffordd arall. Os ewch i esgeuluso gwrando, ac i esgeuluso eich cyd—gynulliad, ni chewch grefydd yn y ffordd hono. Daliwch yr hen arfer dda i fyny. Peth arall, daliwch afael mewn cymeriad da. Mae yn hawdd iawn colli cymeriad. Gellir dweyd fod cymeriad da fel y pren, yr hwn sydd am flynyddoedd yn tyfu, ond mi ellwch ei dori i lawr mewn ychydig amser. Daliwch afael yn eich cymeriad. A gwyliwch rhag i un fwyell ddyfod i'w dori i lawr. Mae cymeriad da yn well nag aur. Mae enw da yn well nag aur gwerthfawr, medd y Beibl. Mae gan bawb sydd yma ei enw. Nid ydych wedi ei golli. Daliwch afael ynddo yn dyn. Y mae ysbeilwyr yn yr un byd a chwi yn barod i geisio eich temtio, ac y mae y diafol, mae yntau yn gwylied, yn cerdded o amgylch, ac yn gwylio am adeg i'ch hudo. Daliwch afael yn eich cymeriadau. Mae enw da, cymeriad am ddweyd y gwir, am onestrwydd, mi all dynion ymddiried ynoch. Mae yn rhoi pleser i nghalon ac i f'enaid i glywed am feibion a merched Cymru wedi myned i Liverpool ac i Manchester, yn dal eu cymeriadau yn anrhydeddus,—eu meistriaid a'u meistresi yn gallu ymddiried ynddynt heb ddim amheuaeth am eu gonestrwydd. Ac am eu geiriau hefyd, maent yn eu credu fel pe baent ar eu llw am bobpeth ddywedant hwy. Wel, daliwch afael, gwyliwch rhag y lleidr a'r ysbeiliwr. Peidiwch myned i gwmpeini drwg, bobl ieuainc, rhai all dduo eich cymeriadau. Mae cymeriad yn dda. Gofalwch rhag arferion sydd yn arwain i golli cymeriad. Yr arferion o fyned i gyfeillachu a rhai drwg, y diwedd yw colli y carictor gan lawer. Peidiwch rhoddi achlysuron i neb i'ch denu, gyfeillion. Daliwch afael yn eich carictor. Beth y mae y Beibl yn rhoddi pwys arno? Enw da, "mae yn well nag aur gwerthfawr." Peth arall, daliwch afael yn mhob teimlad da, cofiwch. Pob teimlad da. Yr wyf yn bur sicr am danoch chwi, bobl ieuainc, nad ydych yn myned drwy y moddion, yn gwrando bob Sabbath, nad oes rhywbeth yn gafael ynoch weithiau, rhyw air, nes ydych yn teimlo, yn dyfod i deimlo fod byd arall yn bod ar ol hwn. Mae Duw yn ymwneyd a chwi. Mae dydd barn i fod eto, ac y mae yn rhaid i ni ymddangos yno. Yr ydych yn dyfod i deimlo hynyna. Ac yn enwedig pan ar eich penau eich hunain, mae rhyw deimlad yn ymaflyd ynoch am grefydd rhyw feddwl mawr am dduwioldeb, rhyw feddwl mawr am Dduw. Mae bendith yn bod ar ol y teimlad yna; ond odid nad yr Ysbryd Glan fydd yna yn dechreu argyhoeddi. Ond y mae yn bosibl i argyhoeddiadau ddarfod. Nid wyf yn dweyd fod yn bosibl i oleuni gael ei golli byth, ond y mae yn bosibl i ni golli argyhoeddiadau o eisiau eu meithrin. Mae eisio rhoi derbyniad i leferydd Ysbryd Duw. Meithrinwch bob teimlad da,—rhowch le iddo, —peidiwch edrych yn frwnt arno; ac yn enwedig, gofalwch beidio myned i foddi eich argyhoeddiadau, ond meithrinwch hwy. A daliwch afael yn yr hyn fyddwch wedi ei deimlo, mi aiff yn fwy. Daliwch afael yn y teimlad da, ac fe aiff yn gryfach. Rhywbeth wedi dechreu, rhoi ufudd—dod i'r gydwybod, pe bae yn ddim ond hyny, pe bae yn ddim ond teimlad fod y gydwybod yn dweyd wrthyt, ti ddylet weddio, ti ddylet fyn'd ar dy liniau bob dydd, ti ddylet fyn'd i foddion gras. Peidiwch gwneyd cam a'ch cydwybod, gyfeillion, rhag iddi dewi. Gwrandewch bob gair ddywed wrthych. Wnewch chi wneyd hyny? Mae yn rheol anffaeledig,—beth bynag ddywed eich cydwybod wrthych, gwnewch hyny. Ac yn enwedig beth bynag ddywed wrthych am beidio, wnewch chi beidio? Rhowch ufudd—dod i'r gydwybod. Wel, os oes eisio rhoi ufudd—dod i Dduw, wel, Duw sydd yn siarad yn y gydwybod, yn eich rhybuddio. Wel, rhowch ufudddod i'r gydwybod, beth bynag ddywed hi wrth neb o honoch. Mae y gair yma yn cadarnhau y peth oeddwn yn ceisio ei ddweyd, y gair sydd ar ol yr adnod hon, "Profwch bob peth, deliwch yr hyn sydd dda." A'r ffordd i wneyd hyny ydyw, "Ymgedwch rhag pob rhith drygioni. A gwir Dduw y tangnefedd a'ch sancteiddio yn gwbl oll; a chadwer eich ysbryd oll, a'ch enaid, a'ch corff, yn ddiargyhoedd yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist." Mae hynyna gyda "dal yr hyn sydd dda." Mae y "gwir Dduw a'i dangnefedd" yn y ffordd yna, nid yr un ffordd arall. Nid yw cydwybod yn ddigon i sancteiddrwydd, ond y mae yn ffordd i sancteiddrwydd, —dyna y llwybr. Y mae yr Arglwydd yn bur sicr, os byddwch chwi yn myned yn mlaen ar lwybr geiriau yr Apostol yn y fan yma, mi wna Efe i chwi fod yn sanctaidd. Ufuddhewch chwi i'ch cydwybodau, ac yna y mae y "gwir Dduw a'i dangnefedd yn eich sancteiddio yn gwbl oll." Nid peth ar unwaith ydyw hwn. Mae y bydol, y cnawdol, wedi darfod i gyd, pob awydd am fyned ar ol pechod wedi darfod, "a'ch sancteiddio yn gwbl oll; a chadwer eich ysbryd oll, a'ch enaid, a'ch corff,"—dyna "yn gwbl oll." Ysbryd, ac enaid, a chorff, beth bynag ydyw y gwahaniaeth rhyngddyntmae yn debyg fod rhywbeth, ond y mae "cwbl oll" yn y geiriau, "eich ysbrydoll, a'ch enaid, a'ch corff, yn ddiargyhoedd yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist." Fe ddaw hyny yn fuan, "dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist."
"Ceir gwel'd gan bwy mae sylwedd,
A phwy sydd heb y gwir."
"Rhaid i ni oll ymddangos gerbron brawdle Crist." Mi ddaw ar y cwmwl, "a phob llygad a'i gwel." A beth dâl hyn yn y dydd diweddaf—"bod yn ddiargyhoedd?" "Yn ddiargyhoedd,"—dim blot yn ein herbyn ni, wedi ein sancteiddio yn berffaith lân, heb ddim brycheuyn na chrychni,—"yn ddiargyhoedd yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist." Ydi y gwaith da wedi ei ddechreu? Ydi o wedi dechreu—y gwaith o sancteiddio? A chwestiwn arall, Ydech chi ar dir y gallwch ddysgwyl i Ysbryd Duw ddechreu y gwaith yma? Ydech chi gyda y moddion, yn dilyn y moddion, yn darllen y Beibl, ac yn gweddio? Ydech chi ar y tir y gallwch ofyn i Ysbryd Duw "eich sancteiddio yn gwbl oll." Daliwch afael yn y pethau mawr hyn. Amen.
[Salem, Dolgellau, Nos Sul, Rhagfyr 21ain, 1882.]
O! Efengylydd mawr ei ddawn—
Adnoddau'r lawn a'i haeddiant
Edmyga'i galon hyd ei chraidd,
Ac iraidd ei fynegiant;
Arlunia 'n bwyllog geinion nef
O'u haddef byw tragwyddol
Ac weithiau chwydda ton o hwyl—
Cynhyrfa'i ysbryd eon, gwyl—
O! egwyl wir arddunol!!