Yn Llefaru Eto/Owen Thomas, Englynion
| ← Owen Thomas, Pregeth—Iachawdwriaeth yn Hawdd, Rhuf. x. 6-9 | Yn Llefaru Eto gan Anhysbys |
David Saunders, Byr-hanes → |
Englynion
PRUDD siom am Dr. Thomas—a galar
Sy 'n gwelwi cymdeithas,
Am ffyddlonaf fwynaf was,
Diwyrni yn ngwaith y deyrnas.
Arweinydd cywir union—hynod lyw
Cynadleddau Seion.
Wr a'i adlais hyfrydlon,
Mwyna 'i ddull yn mynydd Ion.
Athrylith roed i'w threulio —a doniau
Cenad enwog iddo,
Atdynawl wres i'n tanio,
Enaid ei ddydd ydoedd o.
Mwy ei olwg i'r miloedd—ni welir
Na'i haelaf ber wleddoedd;
Mwy ni cha'r Cymanfaoedd
Owen gu a'i acen g'oedd.
Gwylaidd ruddfaned Gwalia—am wron
Mawrwych ein hareithfa;
Drwy'r holl wlad pa genad ga
Unfodd ar faes Cymanfa?
'E redai 'i gyfeiriadol—rybuddion
Er baeddu 'r annuwiol,
Cyndyn rai enillai 'n ol,—
A'i goethus ddawn fygythiol.
Ei dreiddiawl ymadroddion—ei acen
A'i "hecco" 'mhyrth Seion,
Ei lais per a'i dyner dôn
Erys am oesau hirion.
Am achub drwy "Iawn y Meichia"—seiniodd
Nes swyno holl Walia:
A'i lawen Haleliwia—drwy ei ddydd
"Pwnc ei leferydd oedd Pen Calfaria."
Mwy fe'i ceir mewn dysgleirdeb—yn sangu
Gris engyl mewn purdeb,
Mwy i wanwyn mae 'i wyneb—genad gwir
I fyw ar heuldir mewn anfarwoldeb !
I ganol thronau gwynion——o gewri
Rhagoraf Bryn Seion,
Esgynodd mewn rhwysg union——enwog
Ein doniog arwr,—mae dan ei goron.
—Beren, Pwllheli