Yn Llefaru Eto/Owen Thomas, Pregeth—Iachawdwriaeth yn Hawdd, Rhuf. x. 6-9
| ← Owen Thomas, Sasiwn Caernarfon, 1884 | Yn Llefaru Eto gan Anhysbys |
Owen Thomas, Englynion → |
𝕴𝖆𝖈𝖍𝖆𝖜𝖉𝖜𝖗𝖎𝖆𝖊𝖙𝖍 𝖞𝖓 𝖍𝖆𝖜𝖉𝖉.
Gan y diweddar Barch, Owen Thomas, D.D., Liverpool
"Eithr y mae y cyfiawnder sydd o ffydd yn dywedyd fel hyn: Na ddywed yn dy galon, Pwy a esgyn i'r nef? (hyny yw, dwyn Crist i waered oddiuchod); neu, Pwy a ddisgyn i'r dyfnder? (hyny yw, dwyn Crist drachefn i fyny oddiwrth y meirw); eithr pa beth y mae efe yn ei ddywedyd? Mae y gair yn ages atat, yn dy enau ac yn dy galon hwn yw gair y ffydd, yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu; mai os cyffesi a'th enau yr Arglwydd Iesu, a chredu yn dy galon i Dduw ei gyfodi ef o feirw, cadwedig fyddi." RUUFEINIAID X. 6—9.
MAE yr esgusodion a ddefnyddir gan ddynion yn erbyn ymroddi o ddifrif i grefydd yn lluosog ac yn amrywiol, ac yn aml iawn yn gwbl groes i'w gilydd. Fe edrychir arni weithiau ganddynt fel rhywbeth fechan iawn, hawdd iawn, nad oes eisiau dim trafferth o gwbl gyda hi; ac y bydd rhoi ychydig amser ar ddiwedd yr oes, ar ol myn'd yn anghymwys at bob-beth arall, pan yn cael eu hunain ar gyffiniau y byd tragwyddol, yn llawn ddigon i wneyd heddwch â Duw a pharotoi at dragwyddoldeb. Y mae rhai yn coleddu meddyliau isel iawn am grefydd—heb ddim dirnadaeth, yn wir, am y drwg ofnadwy sydd mewn pechod, am eangder cyfraith Duw; a chyda rhyw hyder yn nhrugaredd a gras Duw yn meddwl y bydd ychydig amser ar wely angeu, yn ymyl tragwyddoldeb, yn ddigon i grefydd, ac felly yn oedi o ddydd i ddydd, ar hyd yr oes, heb ymroddi iddi. Y mae arnaf ofn y gall fod yn y gynulleidfa yma heddyw rywrai sydd yn perswadio eu hunain yn y difaterwch personol hwn, gyda rhyw fân resymau fel yna. Eraill yn oedi oddiar dybiau hollol wahanol—yn edrych ar grefydd fel rhywbeth mawr, uchel, anhawdd ac yn gwbl anobeithiol iddynt hwy lwyddo dim mewn ymdrech gyda hi. Mae Duw mor fawr, mor sanctaidd; mae eu calonau hwythau mor ddrwg a'u pechodau mor fawr. Y maent yn anobeithiol—yn tybio mai hollol anobeithiol iddynt hwy fyddai dodi amser at grefydd, ei bod yn rhywbeth pell uwchlaw iddynt. Feallai mai hwnyna yw yr eithaf y mae dyn yn fwyaf tueddol iddo. Pan y daw i ddechreu teimlo pryder yn nghylch ei achos personol rhyngddo â Duw—wedi iddo gael y pechadur yn ei berson ef ei hunan, yr euog dan ei groen ef ei hunan, yn cael ei hunan wedi tori cyfraith y nefoedd, yn ymdeimlo felly â phwysau euogrwydd, y mae braidd yn y perygl o syrthio i dir Cain, ac mewn anobaith yn dweyd, “Mwy yw fy anwiredd nag y gellir ei faddeu." Y mae yn bur sicr, ar un olwg ar grefydd fel yna, ei bod yn rhywbeth mawr, uchel, anhawdd, ac o du y dyn ei hunan, anmhosibl. "A phan glybu ei ddysgyblion ef hyn, synu a wnaethant yn ddirfawr, gan ddywedyd, Pwy gan hyny a all fod yn gadwedig? A'r Iesu a edrychodd arnynt ac a ddywedodd wrthynt, Gyda dynion anmhosibl yw hyn, ond gyda Duw pobpeth sydd bosibl." Ac o'i anfeidrol ras, y mae wedi darpar trefn tuag at hyny, ac y mae y drefn hono yn cael ei chyflwyno ger ein bron ni yn yr Efengyl. Acer amlygiad helaethach o'r graslonrwydd dwyfol a gynhyrfodd, hwyrach, deimlad y pechadur pyderus yn y drefn hon, y mae yr iachawdwriaeth, nid yn unig yn bosibl, ond yn hawdd. Nid yn unig y mae yn gyrhaeddadwy, ond y mae yn ymyl. A dyna y gwirionedd gwerthfawr iawn, dybiaf, sydd yn y geiriau ddarfu i mi ddarllen fel testyn. Mae y geiriau yma, yr ydych yn gweled, yn cael eu dyfynu gan yr apostol, oblegyd dyfyniad hollol ydynt o'r gair a gawn yn Deuteronomium; ac yn y cysylltiad y cawn hwy yno gan Moses, mae yn amlwg eu bod wedi eu bwriadu er dangos mor eglur yr oedd y dadguddiad a roddesid gan yr Arglwydd drwyddo ef i'r genedl,—mor eglur ydoedd, mor agos atynt, fel nad oedd raid iddynt gael neb i esgyn i'r nefoedd i'w ddwyn atynt; nad oedd raid iddynt groesi y moroedd a myn'd i wledydd dyeithr, yn ol haeriad rhai, er mwyn ychwanegu at eu gwybodaeth; fod y dadguddiad yn eu hymyl, y gair yn agos iawn atat, "yn dy enau ac yn dy galon." Y mae y Cyfieithiad Diwygiedig yn ychwanegu "yn dy ddwylaw," y gair yn agos atat, ac yn dy galon i'w wneuthur ef. Mae yr apostol yn cymhwyso y geiriau yna at ddadguddiad grasol Duw yn y drefn i gadw pechaduriaid. Y ffordd y mae yn gwneyd hyny, nid wyf yn tybio fod yr esbonwyr goreu yn gallu cytuno a'u gilydd. Tybia rhai fod yr apostol yn defnyddio y geiriau yn hollol yn ystyr Moses, ac felly yn eu dwyn yn ystyr briodol Moses, (fel yr oedd ef yn eu deall) er cadarnhau ei syniad ef am gadwedigaeth pechadur. Mae esbonwyr da iawn yn barnu fel yna,—Gibbon a Lawford yn gwneyd hyny. Y mae fod y fath ddynion yn eu derbyn yn penderfynu fod llawer i'w ddweyd o'i blaid. Yr oedd y ddeddf a roddwyd trwy Moses a rhyw wedd ddyblyg iddi—yn cynwys y gorchymyn a'r addewid, y ddeddf foesol a'r ddeddf seremoniol; a'r dadguddiad yn eglur, yn bur sicr y pryd hwnw, o drefn anmherffaith o faddeuant yn ol trefn maddeuant drwy aberth y poethoffrwm; a'r aberthau dan y gyfraith wedi eu bwriadu i rag—ddangos ac i gysgodi yr Aberth Mawr yr oedd maddeuant drwyddo. Ac felly gallasai Paul yn hollol briodol gymeryd y geiriau yn ystyr Moses ei hunan gyda golwg ar yr athrawiaeth a ddysgid ganddo ef. Mae yn debyg, wrth ddarllen y geiriau fel y maent yn Deuteronomium, mai dyna ydyw y cysylltiad naturiol ac amlwg, er nad ydyw yr apostol yma yn defnyddio yr un dull i ddwyn y geiriau i mewn ag a ddefnyddir ganddo yn gyffredin. Mae y cyfnewidiadau y mae yn wneyd yn y dyfyniad ragor mae yn arfer wneyd gyda Moses, a'r ychwanegiadau y mae yn wneyd yn nghanol y geiriau, yn gyfryw fel y tybir yn fwy neillduol mai cymhwyso a defnyddio y geiriau y mae yr apostol yma er gosod allan agosrwydd trefn iachawdwriaeth yr efengyl, i ddangos allan agosrwydd crediniaeth drwy ffydd yn nhrefn yr efengyl. Gallasai Moses wneyd hyny yn llawer mwy am y gyfraith, yn llawer mwy nag y gall Paul wneyd hyny am yr Efengyl.
YR HAWSDER SYDD I DDEFNYDDIO TREFN YR EFENGYL I GADW PECHADURIAID, A'R ANHAWSDER MAWR SYDD I GADW DRWY Y GYFRAITH.
Y mater yna fydd dan sylw. Ydach chi wedi ei gael? Iachawdwriaeth yn y Pavilion heddyw yn beth hawdd,—cadwedigaeth yn nhrefn yr efengyl yn beth hawdd! Yn beth posibl? Yn beth hawdd! Yn beth sydd yn bod? Yn beth sydd yn dy ymyl! Yn beth y gallaf ei gael? Y mae yn agos atat. Y mae cadwedigaeth—os ydwyf yn deall y testyn yn iawn—yn nhrefn yr efengyl yn rhywbeth hawdd. Ac y mae hyny yn cael ei osod allan gan yr apostol, mi dybiwn, mewn dau neu dri o bethau.
Yn y lle cyntaf: Y mae pob peth oedd yn angenrheidiol fel sail cadwedigaeth y pechaduriaid gwaethaf wedi ei wneyd eisoes gan Iesu Grist. "Na ddywed yn dy galon, Pwy a esgyn i'r nef? (hyny yw, dwyn Crist i waered oddiuchod), neu, Pwy a ddisgyn i'r dyfnder? (hyny yw, dwyn Crist drachefn oddiwrth y meirw).
Yn yr ail le: Y mae y dadguddiad o'r drefn yna yn yr efengyl mor eglur ag y gall y gwanaf ei ddeall ei gyrhaedd a'i amgyffred. "Mae y gair yn agos atat, yn dy enau ac yn dy galon."
Ac yn y trydydd lle: Y mae amodau cadwedig. aeth yn iachawdwriaeth yr efengyl yn rhai isel, a'r hawddaf oedd yn bosibl iddynt fod. "Os cyffesi a'th enau yr Arglwydd Iesu, a chredu yn dy galon i Dduw ei gyfodi ef o feirw, cadwedig fyddi."
Y mae iachawdwriaeth yn beth hawdd! Sut yr ydych yn dweyd,—fod iachawdwriaeth yn beth hawdd i mi? Wel, dyna y sut cyntaf: Y mae pob peth angenrheidiol er gosod i lawr y sail i dy gadwedigaeth di wedi ei wneyd eisoes gan Iesu Grist. 'Does dim eisicu i ti wneyd dim ffordd yna. Gellwch dybied am gadwedigaeth mewn un o ddwy ffordd,—naill ai drwy weithredoedd neu drwy ras—naill ai drwy y ddeddf ai trwy ffydd. Y llwybr naturiol i ddyn, yn ddiameu, ydyw drwy weithredoedd, drwy ddeddf. Dyna ddeddf gyffredin creadigaeth Duw i gyd. Mae pob creadur yn ddedwydd wrth gydymffurfio â deddf ei natur. Yr un modd am yr angylion, y rhai a gadwasant eu dechreuad,— maent yn ddedwydd heddyw yn y nefoedd, yn rhodio gerbron Duw, ac mi fyddant felly byth. Y maent felly yn awr, ac felly y maent wedi bod o'u creadigaeth, oblegyd eu cydymffurfiad perffaith â deddf eu natur. Fel yna yr oedd dyn, —yn ddedwydd yn ei greadigaeth gyntaf, pan ydoedd yn ei berffeithrwydd. Sut yr ydych yn dysgu yn yr Ysgol Sul? "Yn mha gyflwr y creodd Duw ddyn?" "Mewn cyflwr sanctaidd a dedwydd." Ac fe fuasai yn ddedwydd byth pe buasai yn parhau yn sanctaidd byth. Ond nid felly y bu. "Canys y mae Moses yn ysgrifenu am y cyfiawnder sydd o'r ddeddf, Mai y dyn a wnel y pethau hyny a fydd byw drwyddynt." Nid dyfynu geiriau Moses y mae yr apostol yma er mwyn cymhell y Rhufeiniaid y pryd hwnw, ac er eich cymhell chwi heddyw, i geisio cyflawni y pethau sydd yn angenrheidiol i gael bywyd, ond gosod allan egwyddorion mawr llywodraeth yr Anfeidrol, "Y dyn a wnel y pethau hyn a fydd byw trwyddynt." Defnyddiodd ein Harglwydd eiriau tebyg wrth y gwr ieuanc hwnw, "Gwna hyn, a byw fyddi." Ond tuag at gael bywyd ar y tir yna, rhaid i'r ufudddod fod yn berffaith, oblegyd beth y mae y ddeddf yn ofyn? "Ar garu o honot yr Arglwydd dy Dduw a'th holl galon, a'th holl enaid, a'th holl nerth, ac a'th holl feddwl." Yr holl galon, yr holl enaid, yr holl nerth,—ufudd—dod perffaith, nid rhanol; ufudd—dod cyson, gwastadol, parhaus, nid achlysurol, nid o heddyw allan. Yr holl galon, yr holl enaid, yr holl nerth,—yr holl ddyn yn ufudd i'r oll o'r gyfraith am ei holl fodolaeth, o lewyrchiadau cyntaf rheswm yn ei ysbryd, yn gyson, gwastadol, didranc, i'r tragwyddoldeb di—ddiwedd. Os ydych am ddyfod i fyny gyda'r ddeddf, dyna y ffordd. "Y neb a gadwo y gyfraith i gyd ac a ballo mewn un pwnc, y mae efe yn euog o'r cwbl oll." Os ydych am ddod i fyny ar dir deddf, dyna y ffordd. Fel yna mae dyfod. "Y mae y cyfiawnder sydd o'r ddeddf yn dywedyd, Mai y dyn a wnel y pethau hyn a fydd byw trwyddynt." Os ydych am ddyfod i fyny yn wyneb deddf, dyna y ffordd cadw y gyfraith yn ddigoll, heb ballu mewn un pwnc. Ond yr ydych wedi darfod a'r ffordd yna. 'Does yma ddim un yn y Pavilion yma all ddyfod i fyny fel yna; 'does yna ddim un yn Nghaernarfon heddyw, ddim un yn y byd. P'am? Yr ydym i gyd wedi tori 'r gyfraith, i gyd yn droseddwyr. "Edrychodd Duw i lawr o'r nefoedd ar feibion dynion i weled a oedd neb yn ddeallgar, yn ymgeisio â Duw. Ciliodd pawb; cyd—ymddifwynasant; nid oes a wnel ddaioni, nac oes un. Nid oes neb cyfiawn, nac oes un; pawb a bechasant—pawb a bechasant; ac y mae yr holl fyd dan farn Duw." A dyna anmhosibilrwydd hollol, anmhosibilrwydd tragwyddol. "Ac am hyny, trwy weithredoedd y ddeddf ni chyfiawnheir un cnawd yn ei olwg ef." Ond bendigedig fyddo Duw, y mae yr efengyl yn agor drws gobaith; y mae yma drefn arall. Y mae y cyfiawnder sydd o ffydd wedi llefaru, wedi dweyd rhywbeth: "Crist yw diwedd y ddeddf er cyfiawnder i bob un a'r sydd yn credu." Beth bynag ydyw ystyr "diwedd y ddeddf," y mae Efe wedi myn'd yn ddiwedd am byth i'w holl orchymynion fel amod bywyd i bob un sydd yn credu. Y mae yr ufudd—dod perffaith i'r gyfraith yn ei fywyd, a'r boddlonrwydd perffaith a roes i'r meddwl dwyfol yn ei Angau, wedi ateb i bob gofyn yn erbyn pechadur, fel y mae yn rhaid cyfiawnhau heb gyfiawnder. Ac nid yn unig hyny, y mae wedi troi gallu y ddeddf i gondemnio yn allu i gyfiawnhau, y peth oedd yn allu i gosbi yn allu i faddeu, i achub, "er cyfiawnder i bob un a'r sydd yn credu." A dyna mae y geiriau yma yn ddweyd: "Na ddywed yn dy galon, Pwy a esgyn i'r nef?" Pwy gaf i fyn'd i'r nefoedd yn fy achos? Yn erbyn y nefoedd yr wyf wedi pechu, deddf y nefoedd wyf wedi dori, pwy gaf yno i gymeryd fy mhlaid? Pwy ga' i? "Pwy a esgyn i'r nef?" Yr wyf yn gwybod fod yno hen gyfiawnder tragwyddol yn fy erbyn, yn dadleu yn fy erbyn. Pwy gaf, a chyfiawnder ganddo o'm plaid? Ga' i rywun? Oes yn bosibl i mi gael un a digon o ras ynddo, a digon o haeddiant ganddo, i fyn'd i'r nefoedd yn fy achos i? Paid dweyd fel yna. "Na ddywed yn dy galon." Paid dychmygu peth fel yna. Na ddywed hynyna yn nirgel le dy feddwl. Ystyr peth fel yna yw dweyd nad ydyw Iesu Grist wedi myn'd yno. Y mae o wedi myn'd i'r nefoedd, ac wedi myn'd i'r nef âg haeddiant anfeidrol ganddo. A fynet ti iddo ddod i lawr eto i wneyd y gwaith eilwaith? 'Does dim eisieu iddo wneyd; y mae o wedi ei orphen. Y mae o wedi myn'd yno drwy ei waed ei hun, wedi myn'd yno yn dy achos di. Y mae wedi myn'd yno yn dy blaid di. Y mae wedi myn'd i mewn i'r nef, i'r cysegr, drwy ei waed Ei hun. Ac y mae dy waith di eisiau cael rhywun i fyn'd yno cystal a dweyd nad aeth yno, ac nad yw wedi gwneyd y gwaith. 'Does dim eisieu iddo ddod i lawr eto, myn'd i'r tlodi eto, i'r groes eto, i farw eto, i'r ing eto, dim eisieu. Mae digon byth ar lyfrau'r nef dros bechadur, wedi ei wneyd pan aeth yno y tro cyntaf. "Pwy a ddisgyn i'r dyfnder?" Yno yr wyf fi yn haeddu bod. Pwy ga'i i fyn'd dan y felldith? Pwy ga' i i ddyoddef fy nghosb? Pwy ga' i? Fedra i ddim myn'd fy hunan. Pwy ga' i? Yr wyf yn cael y gyfraith yn gwaeddi, “Melldigedig yw pob un nid yw yn aros yn yr holl bethau hyn i'w gwneuthur hwynt." A finau ddim wedi aros yn yr un o honynt! Pwy ga' i i fyn'd i'r dyfnder yn fy achos i? "Na ddywed hynyna yn dy galon." Y mae Iesu Grist wedi bod yno. Yn mha le yr oedd? Beth oedd ystyr yr Iawn? Beth oedd ystyr y chwys gwaedlyd yna? Beth oedd loesau Calfaria? Beth oedd "y llefain cryf a dagrau?" Beth oedd "Fy Nuw! fy Nuw! paham y'm gadewaist?" Pa le y mae? Yn y dyfnder. "A'r holl donnau a'r llifeiriant a aethant troswyf;" digofaint yn pwyso arnaf. Dyna fo gyda dy achos di, yn dy le di, yn talu dy ddyled di, yn cyfrif gofynion cyfiawnder yn dy le di. Ac wrth i ti fyn'd i holi yr wyt yn gwadu na wnaeth y gwaith. Y mae'r Iesu wedi myn'd i fyny. Dacw holl byrth y bedd yn agor iddo, dacw lwybr y bywyd o'i flaen, dacw fo yn esgyn i'r nefoedd wedi cyfarfod pob gofyn. 'Does dim eisieu i ti fyn'd i wneyd y gwaith, nac i neb arall ei wneyd. Ond fyddai ddim yn ormod gan yr Iesu fyn'd i Fethl'em eto pe bae eisieu, i'r Ardd eto pe bae eisieu, i'r Groes eto pe bae eisieu, i gyfarfod pob gofid eto pe bae eisieu. Ond 'does dim eisieu. Y mae digon tragwyddol wedi ei gael yn y Marw unwaith rhwng lladron i foddloni meddwl Duw, i gyfarfod pob cydwybod euog. Ond pa sicrwydd sydd genyf y caf fy nghadw er derbyn yr Iesu? Y ffydd y clywaist fy mrawd (gan gyfeirio at Dr. Saunders, yr hwn a bregethai o'i flaen) yn dweyd am dani. Pa sicrwydd leiciet ti gael? Pa sicrwydd a'th foddlona di? Wnaiff yr un sicrwydd ag a gafodd Iesu Grist? Pa le y mae Efe heddyw? Nid yn y dyfnder (llais: "Nage"). Nid yn y dyfnder. O, nage. Glywi di mo'no fo yn gwaeddi, "Dangosi i mi lwybr bywyd: digonolrwydd llawenydd sydd ger dy fron, ar dy ddeheulaw y mae digrifwch yn dragywydd." O, y mae yna le dedwydd! Y mae yno wynfyd mawr! Mae yma ryw bleser tuhwnt i bob dirnadaeth. Dyma ddigon i ad—dalu am dlodi Bethl'em. Dyma ddigon i ad—dalu am ing yr ardd, am ddyoddef melldith,—y mae'r Iesu wedi cyraedd y gwynfyd i gyd. Wneiff hyna y tro i tithau? Nid er ei fwyn ei hun, nid dros berson unigol, ond y mae yno drosom nı! DROSOM NI! Y mae wedi myn'd yno; y mae Efe yn y gwynfyd mawr. Lle mae'r dyn sydd yn ofni fod ei feiau yn rhy fawr? Sut y teimlet ti pe buaset yn gallu perswadio dy hunan dy fod wedi talu y ddyled dy hun? wedi cyfarfod pob gofyn gan gyfiawnder Duw dy hun? wedi dyoddef y felldith dy hunan? Fyddai arnat ti ofn wed'yn? Ofn wed'yn? Na, fyddai arnat ddim mwy o ofn marw nag o ofn y wraig pe baet yn gallu meddwl dy fod wedi gwneyd pob peth a wnaeth yr Iesu. Y funyd y credi di, fe fyddi yn yr un fan yn y meddwl dwyfol a phe baet wedi gwneyd y cwbl dy hunan; fe fyddi yn yr un fan yn ngolwg cyfiawnder a'r Hwn a aeth i ddeddfle yr euog. Diolch iddo! Credwch ynddo. Yn Nghrist ac yr wyt yn gadwedig ac yn y nefoedd byth. Ynddo Ef! ynddo Ef! Mae digon, a digon byth, wedi ei wneyd ar ran y pechadur gwaethaf. "Mae fy euogrwydd i yn drwm." Yr wyf yn siwr i ti fod yr Iawn yn drymach. "Mae fy meiau i yn fawr." Mae haeddiant yr Iesu yn fwy. Ydi 'n wir! Derbyn yr Iesu, a thi gei fyw, cei ddianc, a dianc mewn anrhydedd tragwyddol rhag y perygl. Y mae iachawdwriaeth yn beth hawdd.
Eto, yn yr ail le: Y mae y dadguddiad o'r drefn yma yn yr efengyl mor eglur fel y gall y gwanaf ei syniad ei sylweddoli. Dyna ystyr y geiriau gan Moses, yr wy'n meddwl. Os gallasai Moses ddweyd felly am y ddeddf, yn llawer mwy y gallasai Paul, ac y gallwn ninau, ddweyd hyny am yr efengyl. Ac y mae hi yn ymyl, yn ymyl. Un o nodweddau mwyaf arbenig yr efengyl ydyw eglurder y dadguddiad o honi. Y mae y Duw mawr yn llefaru yn ymyl y dyn. Wel, y mae iachawdwriaeth yn beth mor bwysig, ac ni fuasai yn beth i synu ato pe buasai raid treulio blynyddoedd o astudio er gwybod trefn iachawdwriaeth. Y mae yn bwysig. "Ar yr hyn bethau y mae yr angylion yn chwenychu edrych," y bodau hyny sydd wedi cynefino yn y byd ysbrydol am dragwyddoldeb. Y maent hwy yn chwenychu edrych ar y drefn yma, a gwelant ryw ryfeddodau ynddi i dreiddio iddynt yn dragywydd. Dyna un o elfenau gwynfyd y nef—gogoniant dyfnion bethau Duw yn ymagor gerbron dirnadaeth y rhai sanctaidd yn ddi—ddiwedd. Ond i dy gadw di, 'does dim eisieu hyna heddyw,—mae yr iachawdwriaeth yn dy ymyl. Nid rhyw system ddofn o athroniaeth ydi hi. Mae y drefn yn syml. "Mae y gair yn agos atat," yn agos iawn atat. Dyma y gair mwyaf syml. Clywsoch fy mrawd (Dr. Saunders) yn dweyd y gall plentyn gredu, a'i fod yn credu. Dyna hi yn dy ymyl. Meddai Duw, "Ysgrifena y weledigaeth; gwna hi yn eglur ar lechau fel y darlleno yr hwn a redo." Nid gwna hi mor eglur fel y medr ddarllen a rhedeg ar unwaith, ond fel y medr ddarllen er rhedeg. Dyna yn amlwg gyfeiriad at y llofrudd yn Israel yn dianc i'r ddinas noddfa. Y mae wedi dyfod i ryw le yn ymyl, ond ei fod ef yn dechreu cloffi ei draed, ac yn myn'd i'r ddinas noddfa. Wel, ysgrifena mewn llythyrenau breision yn y fan yna, "Noddfa! Noddfa!!" Y mae yn rhedeg, yn rhedeg. O! ddynion anwyl! O! yr ydych yn myn'd yn brysur, yn brysur iawn. Y mae y dialydd ar eich ol chi, ac yr ydych yn myn'd yn gyflym. Ond bendigedig fyddo Duw, y mae ffordd y bywyd yn eglur, yn hawdd ei deall mewn gwirionedd. 'Does dim posib' i ti fethu. Os methi, arnat ti dy hun y bydd y bai. "Os cuddiedig yw ein hefengyl ni, yn y rhai colledig y mae yn guddiedig." Y mae y ffordd yn eglur. "Yna y bydd prif—ffordd a ffordd ; a ffordd sanctaidd y gelwir hi; yr halogedig nid ä ar hyd—ddi; canys hi a fydd i'r rhai hyny; a rodio y ffordd, pe byddent ynfydion, ni chyfeiliornant." "Dydw i ddim yn 'sgolar.' 'Does dim eisio i ti fod. "Ches i ddim ysgol i barotoi." Y mae yn ddrwg gen' i glywed. Ond enaid anwyl! mae y drefn yn dy ymyl. Derbyn Iesu Grist y bora yma. "Mae y gair yn agos atat," yn agos atat ti.
Ac fel y dywedwyd, y mae yr amodau yn hawdd i'r dyn: dyna'r trydydd sylw, yr amodau yn hawdd. Sut y mae i'w chael? Dyma y drefn wedi ei gorphen; bydd yn berffaith dawel. Mae cyfaddasrwydd perffaith ynddi. Sut y caf fi hi? Ydi hi yn peidio bod uwchlaw fy amgylchiadau? Nag ydi; y mae yn dy ymyl di heddyw. Y fan lle 'rwyt ti, yn y fan yna. "Yn fy euogrwydd?" Yn dy euogrwydd. "Yn fy aflendid?" Ië, yn dy aflendid. "Yn fy nhlodi? 'does gen i ddim." 'Does dim eisio i ti, Dyna y gwir. Pe na bae gen' ti ddim i dalu, fe faddeua i ti. Mae yr efengyl yn dy ymyl di. "O deuwch i'r dyfroedd bob un y mae syched arno; ïe, yr hwn nid oes arian ganddo, deuwch, prynwch, a bwytewch; ïe, deuwch, prynwch win a llaeth, heb arian ac heb werth." Fel yr wyt ti! Mae yn dy ymyl di. "Os cyffesi a'th enau yr Arglwydd Iesu, a chredu yn dy galon," a chofiwch ystyr fy mrawd (Dr. Saunders) i'r geiriau,—"i Dduw ei gyfodi Ef o feirw, cadwedig fyddi." Pe buaswn i fel a'r fel? Fel yr wyt ti. Be buaswn i wedi gwneyd y peth a'r peth? Pe baet heb ei wneyd. Pa buaswn fel hwn—ahwn? Fel ti dy hun. "Cadwedig fyddi!" "Cadwedig fyddi," beth bynag sydd genyt. Yr oedd Mr. Henry Rees yn pregethu un tro ar "Werthfawr Waed Crist," ac yn dweyd: "Sina, tarana! Ebal, melldithia! Cyfiawnder dwyfol, agor dy safn! Cydwybod euog, condemnia! Satan, edliwia! Bechadur colledig, gobeithia, GOBEITHIA! Gobeithia yn swn taranau Sinai; gobeithia pan y mae'r ddaear yn crynu; gobeithia! P'am? 'Gwerthfawr Waed Crist." Mae yna Iesu mawr wedi myn'd dan yr holl ofynion ei hunan, ac wedi dwyn iachawdwriaeth i dy ymyl di. Ydach chi am dani hi, mhobl i? Wyt ti am dani hi, machgen i? Ngeneth i, wnei di ei derbyn hi? Yn wir, yr wyf yn credu ei bod yn llawn bryd i ni ddechreu gwneyd rhywbeth gyda phechaduriaid, ac nid dod yma i wrando ac i gael rhyw ddifyrwch. Nage, mae eisio i chi gredu. Wnewch chi ddyfod 'rwan? Gaf fi eich help chi? Dowch i i gyd; gweddiwch yn y fan yna, ar dy eistedd yn y Pavilion, fel yr wyt ti. "Geidwad dyn, achub fi. Iesu Grist derbyn fi. Mab Duw, cadw fi.
"O! cofia fi gerbron y Tad,
A dangos iddo werth dy waed;
O! dadleu 'nawr yn nghanol ne'
I ti roi 'th fywyd yn fy lle.'
"Cymer fi fel yr wyf. Yr wyf yn rhoi fy hunan i ti, i fy nghadw genyt. Yr wyf yn rhoi fy hunan yn was i ti hefyd. Cei arglwyddiaethu arnaf yn gwbl; cei deyrnasu arnaf yn gwbl. Cymer fi, Iesu, fel yr wyf, a chymeraf finau dithau yn bobpeth yr wyt yn roi dy hunan i bechadur." Ydach chi yn rhoi eich hunain iddo? dyna'r pwnc mawr; ydach chi yn gwneyd? Yr Arglwydd o'i ras a fendithio ei wirionedd i sicrhau hyny, er mwyn ei enw. Amen.
[Pavilion, Caernarfon, am ddeg, Awst 25, 1887.