Yn Llefaru Eto/Roger Edwards Pregeth—Gosteg gerbron Duw yn ei Deml, Heb. ii. 20.
| ← Roger Edwards Byr-hanes, a'i nodweddion | Yn Llefaru Eto gan Anhysbys |
Roger Edwards cerdd gan Daniel Owen → |
𝔊𝔬𝔰𝔱𝔢𝔤 𝔤𝔢𝔯𝔟𝔯𝔬𝔫 𝔇𝔲𝔴 𝔶𝔫 𝔢𝔦 𝔇𝔢𝔪𝔩.
Gan y diweddar Barch. Roger Edwards, D.D., Wyddgrug.
"Ond yr Arglwydd sydd yn ei deml sanctaidd; y ddaear oll, gostega di ger ei fron ef." HABACUC ii. 20.
Yr ydym yn cael Habaccuc, fel prophwyd Jehofah, yn rhagddywedyd yn y benod o'r blaen am y farn alaethus oedd i ddyfod ar Jerusalem a Judah drwy law y Caldeaid, ac yn y benod hon yn rhagfynegu cwymp y Caldeaid hyny, y rhai yn falch a thrahâus a ymffrostient yn eu goruchafiaeth ar Israel Duw. Mynych
yn ysgrifeniadau y prophwydi yr ydym yn gweled fod yr Arglwydd, ar ol cymeryd gelynion ei bobl yn fflangell yn ei law i'w ceryddu hwy am eu beiau, yn y diwedd yn cosbi'r gelynion, o herwydd, er fod ei ragluniaeth ddoeth a chyfiawn yn eu defnyddio yn offerynau ei farn, nid oeddynt hwy yn meddwl am ryngu ei fodd ef, ond yn ceisio eu boddhâd a'u dyrchafiad eu hunain, a'u bod, wedi unwaith gael y llaw uchaf ar ei bobl, yn eu gorthrymu yn ddirfawr. Fel hyn y bu gyda'r Caldeaid neu'r Babiloniaid; ac felly cyhoeddir yn y benod hon waëau Duw arnynt; a chan ddarlunio eu huchelgais anniwall, eu gorthrwm, eu hanghymedroldeb, a'u heilunaddoliaeth, dangosir mor gymwys a chyfiawn ydyw eu cosbedigaeth. Mae ein testyn yn dyfod i mewn yn nglyn â'r cyfeiriad at eu delwaddoliaeth. Fe nodir nad oedd duwiau Babilon ond pethau mudion, difywyd; delw gerfiedig o gareg, neu ddelw dawdd o fetel, neu ddelw naddedig o bren, heb un anadl o'u mewn; duw salw yn wir, nas gallasai glywed ei addolwyr yn ei gyfarch, na dywedyd un gair wrthynt. Ond y mae genym ni, medd y prophwyd, Dduw gwerth son am dano, Duw byw, Duw 'r nefoedd a'r ddaear. "Ond yr Arglwydd sydd yn ei deml sanctaidd." Er i'r Caldeaid ddifrodi ei deml ef yn Jerusalem, y mae ganddo Ef deml anfeidrol fwy ac ardderchocach na hono, yr hon na ddystrywir byth. Mae ei deml fry allan o gyraedd holl falais ei elynion, ac eto y mae o fewn cyraedd gweddi'r gwaelaf sydd yn dysgwyl wrtho. Ac nid Duw un wlad a chenedl yw ein Harglwydd ni, "Sanct Israel, Duw yr holl ddaear y gelwir Ef;" ac y mae yn weddus i'r holl ddaear ei gydnabod a'i wasanaethu Ef, heb rwgnach nac ymddadleu. "Y ddaear oll, gostega di ger ei fron ef."
Mae rhai beirniaid yn edrych ar y testyn fel canolbwynt yr holl lyfr—fel conglfaen holl adail y brophwydoliaeth. Pa bethau brawychus bynag sydd i'w hofni, pa bethau daionus bynag sydd i'w dysgwyl, pa bethau mawrion bynag sydd i'w cyflawni, dyma ddigon ar gyfer y naill a'r llall: "Yr Arglwydd sydd yn ei deml sanctaidd." Yno y bydd efe yn wastad i'w gael; yno yn ei ogoniant, yno yn llefaru, yno yn gweithio; a dyledswydd a braint holl deulu dyn yw syrthio yn addolgar wrth ei ystol droed, "Y ddaear, gostega di ger ei fron ef."
Wrth "deml sanctaidd" Duw yn y lle hwn, mae yn ddiau mai nef y nefoedd a olygir yn mlaenaf a phenaf. Yno y mae trigfa neillduol y Duwdod, lle y mae'r Jehofah yn ei amlygu ei hun fwyaf a gogoneddusaf. Nis gallasai'r babell yn yr anialwch ac yn Silo, na'r deml yn Jerusalem, fod yn wir a phriodol breswylfa Duw.
Nid oedd hyd yn nod y Shecina, er ei danbeidrwydd ofnadwy, ond arwydd Duw, rhywbeth arwyddol, portreiadol, o'r "goruchel a'r dyrchafedig, yr hwn a breswylia dragwyddoldeb," ac a ddywed yn benodol am y nef, "Y goruchelder a'r cysegr a breswyliaf; y nef yw fy ngorseddfainc." Portreiad y gwir gysegr oedd y cysegr o waith llaw, ac yr oedd mynediad yr archoffeiriad Iuddewig i'r sancteiddiolaf gynt, yn ffigiwr a chysgod o'r Archoffeiriad mawr, Iesu, Mab Duw, yn myned "i'r nef ei hun, i ymddangos gerbron Duw drosom ni." Ac y mae yn hyfryd i ni gofio fod genym frodyr lawer yno gyda'r Arglwydd, am y rhai y lleferir "Y maent gerbron gorseddfainc Duw, ac yn ei wasanaethu ef yn ei deml." Ac y mae yn werthfawrocach fyth i ni ddeall y gallwn ni, tra eto ar y ddaear, fod mewn cysylltiad â'r deml ogoneddus hon. Yr oedd cynteddoedd, yn nghydag ystafelloedd amrywiol, yn perthyn i'r deml hynafol ar fynydd Seion, ac yn cael llefaru am danynt fel rhan o honi. Un deml y cyfrifid yr holl adeiladaeth eang, o'r sancteiddiolaf hyd y cyntedd nesaf allan a'r ystafelloedd oddiamgylch. Felly gallwn ninau ddywedyd fod crefydd y Beibl, crefydd Iesu Grist, wedi dwyn yn un y drydedd nef a'r ddaear hon, a chyfansoddi cymanfa a chynulleidfa 'r nefolion, a chydgynulliad y saint yn mysg daearolion, yn un deml fawr i Dduw a'r Oen. Ië, y mae'r ffordd i ni yn agored i'r cysegr sancteiddiolaf; mae'r wahanlen wedi ei rhwygo, fel, i lygad ffydd fod yr holl deml yn rhyw un ystafell helaethfawr, agored, heb ddim yn ein gwarafun i edrych ar brydferthwch yr Arglwydd, a nesau yn hyderus ato ar y drugareddfa.
Dyma nodwedd arbenig y breswylfa ddwyfol, "ei deml sanctaidd." Yn ol iaith y Beibl, mae yr hyn oll sydd yn gysylltiedig â Duw a'i wasanaeth yn sanctaidd ar gyfrif eu bod yn neillduedig i'r Arglwydd. "Ei le sanctaidd ef," oedd y deml gynt, y man a ddewisodd Duw Israel i gyfarfod â'i bobl ac i dderbyn eu gwarogaeth. Yr oedd y deml ddaearol yn hynyma yn gysgod o'r deml nefol. Yno y mae cartref sancteiddrwydd ; nid sancteiddrwydd seremoniol a defodol, ond "gwir sancteiddrwydd;" uniondeb a phurdeb perffaith yw y cwbl a berthyn iddi, heb ynddi unpeth na neb ansanctaidd. Rhaid i ninau ar y ddaear, wrth gyfeirio ein gwasanaeth at Dduw yn y nefoedd, ymsancteiddio, "ymlanhau oddiwrth bob halogrwydd, cnawd ac ysbryd," ac onide ni a fyddwn anghymeradwy.
Gallwn weled yma fod a fyno Duw o'i deml nefol â'r ddaear hon. "Yr Arglwydd sydd yn ei deml sanctaidd," uwchlaw y ddaear, yn perchenogi y ddaear, ei sylw yn uniongyrchol ar y ddaear, ei feddyliau yn feddyliau o heddwch am y ddaear, a chyngor ei ewyllys yn cyraedd at holl amgylchiadau y ddaear. Gan hyny, "y ddaear oll," y ddaear hyd dy holl gyrau, y ddaear yn dy holl drigolion fel un dyn, gostega di ger ei fron ef. Yn ei deml efe a dderbyn addoliad genyt; gostega, a moes iddo ogoniant ei enw. Yn ei deml efe a lefara wrthyt; gostega, a gwrandaw beth a ddywed yr Arglwydd Dduw. O'i deml efe a wna â thi yr hyn a fyddo da yn ei olwg; gostega, ac na ddywed ddim yn ynfyd yn erbyn ei drefniadau. Ni a safwn bellach ar y pethau hyn, mewn ffordd o ymhelaethiad cymhwysiadol ar dystiolaeth ac anogaeth y testyn.
Dyna ein sylw cyntaf: Yr Arglwydd sydd yn ei deml sanctaidd yn wrthddrych addoliad; y ddaear oll, gostega i roddi yr addoliad dyledus iddo.
Mae'r gair "teml" yn cyfeirio ein meddwl at addoliad, at wasanaeth crefyddol. Duw yn ei deml sydd Dduw i'w addoli. Mae'r ddaear oll, dynion yn gyffredinol, a dynion yn unedig, i addoli Duw. Ac er mwyn ei addoli yn deilwng, "y ddaear oll, gostega." Arafa, llonydda, ymryddha oddiwrth bob peth sy'n anhwyluso addoli, tyngheda ddystawrwydd ar bob dadwrdd, addola mewn gwylder a pharchedig ofn; Gostega di ger ei fron ef." Dylai pob tawelwch a gweddeidd-dra allanol fod yn addoliad y Goruchaf. Dylai pawb wneyd egni i ddyfod i dŷ yr Arglwydd yn brydlawn, erbyn ac nid ar ol awr dechreu yr addoliad, fel y caffer pob gosteg i ddarllen a gwrando gair Duw, ac i gyd-weddio arno; ac fe ddylai fod pob ystûm ar y corff, pob agwedd ac ymddygiad, tra yn y cysegr, yn wasanaethgar i ysbryd addoli, ac yn arwyddol o wir barchedigaeth addolgar. Ond fe all yr agwedd allanol fod yn weddaidd, ac eto, anrhefn a therfysg mewn rhwysg oddi fewn : y meddwl a'r galon yn mhell o fod wedi gostegu gerbron Duw. Mae'r dyn o ran ei gorff yn yr addoldy, yn eistedd yn ddystaw, ond ei ysbryd yn nghyrau'r byd, mae'n ffair wyllt gyda chuddiedig ddyn ei galon, ac y mae yn nghyfrif y nefoedd yn gwneyd tŷ Dduw yn dy marchnad. Dyna fel yr oedd rhai o wrandawyr Ezeciel: yr oeddynt yn eistedd o flaen y prophwyd, yn ymddangos yn gwrando arno, gan ymhyfrydu yn ei ddawn, ond, medd Duw, "Eu calon sydd yn myned ar ol cybydd—dod." Yr oedd Duw yn cael y glust, ond y byd yn cael y galon. O, am i ni allu dweyd yn onest gyda'r Salmydd duwiol, “Meddyliau ofer a gascais, a'th gyfraith di a hoffais." Yr oedd Abraham, pan yr oedd yr adar yn disgyn ar gelaneddau yr ebyrth yn eu tarfu hwynt. Gwnawn ninau felly â'r meddyliau gwibiog fydd yn aflonyddu arnom yn ein haddoliadau. Na foed ini adael i'r adar ysglyfaethus ddifrodi ein haberthau ysbrydol, ond ymrown i'w hymlid hwynt ymaith. Anfonwn waedd i'r nefoedd, "Una fy nghalon i ofni dy enw." Yr hwn a ostega'r gwynt a'r môr cynddeiriog, gall efe dawelu'r galon fwyaf gynhyrfus. Rhyw adegau hyfryd i Gristion yw'r munydau y byddo wrth fyfyrio, wrth weddio, wrth ddarllen, wrth ganu, wrth wrando, wrth gymuno, yn teimlo ysbryd addoli yn gorchfygu ysbryd y byd ac yn peri gosteg sanctaidd drwy ei holl enaid. Mae hyn yn debyg i oruchafiaeth llanw'r môr, pan fyddo yn dyfod am rai milldiroedd i fyny yr afon. Mae'r afon yn rhedeg yn ei erbyn, a gallech feddwl ar y dechreu y troai hi'r llanw yn ol; a dyna gryn luchio, ymdaflu, ac ymgynhyrfu ar y dyfroedd. Ond y mae'r llanw yn mynu dyfod rhagddo, fel yn dweyd yn hyf-Mae yn rhaid i mi orchfygu, mae'r môr genyf wrth gefn. Toc, bydd yn ben llanw, ac yna ni welir ond rhyw un sheet lydan o ddyfroedd tawel, heb fwrlwm na chrychiad yn unlle, yn edrych âg wyneb agored tua'r wybren, ac yn rhoi adlewyrchiad hyfryd o haul y nefoedd, a dyfroedd yr afon bellach o'r un lliw a blâs a dŵr y môr. A gawn ni, frodyr, gyd-weddio mewn taerineb, O, Ysbryd y Duw byw, dyro yr awrhon, o'r mor o ras sydd ynot, lanw o ysbryd addoli i feddianu ein heneidiau, fel y gosteger ynom bob cynhyrfiadau allanol a daearol, ac y byddo tangnefedd Duw yn cadw'r meddwl a'r galon yn Nghrist Iesu!
"O, na ddeuai nerth i waered
Fel llifeiriant mawr ei rym,
Fel nad allo 'm nwydau penaf
Mwyach ei wrthsefyll ddim.
Dyma sylw arall: Yr Arglwydd sydd yn ei deml sanctaidd yn hysbysu ei feddwl a'i ewyllys; y ddaear oll, gostega i wrando a derbyn ei eiriau.
Hwyrach y dywedir fod y sylw hwn heb nemawr wahaniaeth rhyngddo o ran syniad a'r sylw blaenorol. Mae addoli, mae yn wir, mewn gwrando, ac y mae iawn wrando yn addoli. Ond fe ddichon y gallwn ni, wrth roddi ein gosodiad hwn fel hyn, gyflwyno rhai meddyliau chwanegol, os nad gwahaniaethol, yn nglyn a'r testyn.
Yr oedd Duw yn ei babell, ac yn y deml, yn gwneyd ei feddwl yn hysbys i'r Israel, "Mi a gyfarfyddaf â thi yno," medd efe, "ac a lefaraf wrthyt oddiar y drugareddfa." Ac felly ni a gawn y Salmydd yn deisyfu aros yn nhŷ yr Arglwydd, er mwyn "ymofyn yn ei deml," er mwyn cwestiyna, ymholi, gofyn cyfarwyddyd am y pethau mwyaf oll; canys yr oedd yr ateb Dwyfol i'w ddysgwyl yno yn arbenig, ac yn enwedig trwy yr Urim a'r Thummin. Y mae Duw eto yn llefaru yn y dyddiau diweddaf hyn, a hyny yn y modd pwysicaf a'r egluraf; mae yn llefaru wrthym ni yn ei Fab, a phriodol ydyw dweyd yn awr gyda'r prophwyd gynt, “O ddaear, ddaear, ddaear, gwrando air yr Arglwydd." Y ddaear oll, pob dyn yn mhob man-ti yr hen a thithau yr ieuanc, tydi o radd uchel a thithau o radd isel, ti broffeswr a thydi'r dibroffes, gostega, a gwrando beth yw'r gair sydd yn dyfod oddiwrth yr Arglwydd. Pan fydd y barnwr yn llefaru yn llys barn, yn enwedig pan yn cyhoeddi'r ddedfryd ar y carcharor a saif o'i flaen, bydd yno bob dystawrwydd yn cael ei orchymyn. Gosteg, gosteg! medd swyddog penodol, fel y clywer fy arglwydd farnwr. A wyt ti yn ystyried, fy enaid, dy fod yn awr yn nhŷ Dduw, mewn lle ofnadwy, ac y byddai yn wallgofrwydd i ti yma adael i ddim ddwyn dy feddwl oddiarnat? Gostega, nid i wrando yn gywreingar faterion rhai eraill, ond i glywed dy sentence dragwyddol di dy hun. A wyt ti eto heb gredu yn Nghrist? Os felly, dyma ddedfryd Duw, Barnwr pawb, arnat yr awr hon : " Yr hwn nid yw yn credu, a ddamniwyd eisoes. Yr hwn sydd heb gredu i'r Mab, ni wêl fywyd, eithr y mae digofaint Duw yn aros arno ef." Neu, o'r tu arall, os wyt yn ymdaflu yn golledig fel yr wyt ar haeddiant yr Hwn mewn pryd a fu farw dros yr annuwiol am dy fywyd byth, wele farn o ryddhad y nefoedd yn cael ei chyhoeddi uwch dy ben: "Yr hwn sydd yn credu ynddo ef, ni ddemnir. Nid oes, gan hyny, yn awr ddim damnedigaeth i'r rhai sydd yn Nghrist Iesu." Neu, os nad oes yn y fynwes eto ond rhyw bryder am fod yn gadwedig, dechre sefyll yn ddifrifol uwch ben mater enaid, rhywbeth yn peri i ti waeddi, O am fod yn barod i gyfarfod â Duw! Mae yr Arglwydd a'r deml sanctaidd yn dy gyfeirio rhag blaen at obaith iachawdwriaeth: "Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist a chadwedig fyddi." "Nid oes iachawdwriaeth yn neb arall." Duw y duwiau, sef yr Arglwydd, a lefara fel hyn, "Y ddaear oll, gostega di ger ei fron ef." Pawb sydd yn gwybod oddi ar brofiad fod geiriau Crist yr hyn y dywed ef ei hunan eu bod, "Ysbryd ydynt a bywyd ydynt,"—mae yn flin ganddynt hwy os bydd rhywbeth yn eu rhwystro i ymlynu wrth ei draed, i dderbyn ei eiriau; a hwy a fynent roi charge dystawrwydd ar bob twrf a dwndwr—
O dystewch derfysglyd donau,
Tra fwy'n gwrando llais y nef;
Swn mwy hoff, a sain mwy hyfryd
Glywir yn ei eiriau Ef,
F'enaid gwrando,
Lais tangnefedd pur a hedd."
Bendith nas gellir ei phrisio yw fod y galon yn nghysegr Duw yn arafu a gostegu oddiar barch i awdurdod ddwyfol y gwirionedd. Fe dybygid fod llawer o honom ni, genedl y Cymry, yn dysgwyl yn awchus mewn odfeuon fel hyn am gynhyrfiad teimlad, rhywbeth i ogleisio eu serchiadau a'u tymherau, rhywbeth a wnelo iddynt wenu neu wylo; ac fe glywir rhyw bobl yn achwyn ar bregeth neu gyfarfod crefyddol lle na chynyrchir ynddynt gyfryw gynhyrfiad. Yn wir, mae yn werthfawr cael ambell oedfa fydd yn twymno calon, nes peri i'r hen eiriau anwyl a glywsom gan ein tadau—yr O diolch, a'r Gogoniant, a'r Amen—lithro dros y wefus. Ond rhaid i ni gydnabod y gellir cael boddhad a chynhyrfiad fel hyn, nid oddiar weled gogoniant a theimlo rhinwedd yr efengyl ynddi ei hun, ond oddiar fawrygu rhyw drimmings ar y wisg fydd arni ar y pryd. Ond, fy nghyfeillion, os byddwch dan y bregeth yn derbyn eglurhad ar y gwirionedd, ac yn teimlo cymhelliad cydwybod i sanctaidd ymarweddiad a duwioldeb, cyfrifwch i chwi dderbyn bendith, serch i chwi fod ar y pryd heb dderbyn cynhyrfiad tymer. Nid oes dim diolch i chwi wrando yn fywiog ar adegau cynhyrfiol, mae yna ryw ruthr gorthrechol yn gorfodi sylw; ond y gamp ydyw, fod gair yr Arglwydd yn ei werth syml ei hun yn llwyddo i beri gosteg i wrando yn astud arno. Ië, gellid meddwl fod y neb sydd yn ymlonyddu enaid a chorff, mewn astudrwydd dystaw, dwys, dyfalbarhaol, wrth wrando yr efengyl, yn dangos mwy o fawredd deall, a mwy o fawredd crefydd, na'r un tymherog, trystiog, a gylch-arweinid gan bob awel cynhyrfiad. Mae'r nant fechan sy'n rhedeg i lawr o'r mynydd yn cadw twrf mawr pan yn llifo ar ol gwlaw, fel yn gwaeddi ar bawb a elo heibio, “Y fi, y fi sydd wedi cael fy llanw â dyfroedd!" Ond am yr afon ddofn sy'n myned ar hyd y gwastadedd, yr hon yn hawdd a allai lanw cant a mwy o'r fath nentydd, mae hi yn rhedeg yn ddystaw, yn cario dyfroedd lawer, heb wneyd ond ychydig swn. Agwedd ddymunol ydyw honno a gymhellid gan Elihu ar Job: "Gwrando hyn, Job, saf ac ystyria ryfeddodau Duw." Fy nghyfeillion, yn nhy yr Arglwydd, gwrandewch, sefwch, ystyriwch, ac felly nid ä lleferydd Duw wrthych yn ofer.
Heblaw gostegu i wrando, cynwysa hyn hefyd ostegu i dderbyn trwy addfwynder yr hyn a wrandewir. Gostega ac na wrthddadleua. Sut na buasai'r Beibl yn dweyd ychwaneg am y peth yma, a phaham na buasai yn esbonio'r peth acw? Pa beth, O ddyn? Nid oes genyt fwy o hawl, na mwy o fedr, i wella geiriau Duw yn y Beibl, nag sydd genyt i wella gweithredoedd Duw yn y greadigaeth; gostega di ger ei fron ef. Nid er mwyn ateb cwestiynau cywreingar oddiwrthym y gwelodd Duw yn dda godi cynteddau daearol i'w deml nefol, ond y mae efe yn rasol wedi gofalu am roddi ini ddigon o bethau amlwg tuag at hwylio ein ffordd yn ddyogel "o ganol byd i ganol nef;" ac os cawn ein hunain wedi myn'd i'r lle sanctaidd a gwynfydedig uchod, ni a gawn dragwyddoldeb i astudio dirgeledigaethau sydd yn awr yn nghudd oddiwrthym. Nage, medd y pryfyn balch sydd, yn lle cymeryd y gyfraith o enau yr Arglwydd, yn demandio rheswm paham hynyma a phaham hyn arall. Paham y goddefodd Duw i bechod a thrueni ddyfod i'r byd? paham y mynodd efe arfaethu ac ethol i wneuthur rhagor rhwng rhai ac eraill? paham na ddyry efe ras cadwedigol i bawb yn ddiwahaniaeth? yn nghyda lluaws o pahamau eraill. Na, druan! "Yn hytrach, O ddyn, pwy wyt ti, yr hwn a ddadleua yn erbyn Duw?" Ië, yn wir, pwy wyt ti? Prin, feallai, y cyrhaeddaist ti yr oedran o driugain mlynedd, neu feallai nad wyt wedi cyraedd haner cant, neu hwyrach nad wyt ti, y gwrthddadleuwr ffraeth, wedi gweled deng mlynedd ar hugain eto. Nid yw ond megys doe pan oeddit yn sugno bronau dy fam, yn beth distadl a dwl iawn; ni wyddit y buasai canwyll yn llosgi dy fys pe rhoisit ef ynddi; nid allesit na cherdded, na sefyll, na chropian, a thrwy fawr drafferth y dysgaist y naill a'r llall, a gorchest fawr yn ngolwg rhieni hoff oedd i ti fedru lispio haner geiriau. Ac yn wir nid wyt eto ond yn rhyw ddechre adwaen pethau o'th amgylch, ac y mae hyny o wybodaeth sydd genyt yn gymysg a llawer iawn o gamgymeriadau. Ac ai tydi sy'n meiddio eistedd mewn barn ar eiriau a gweithredoedd dy Wneuthurwr, y Duw unig ddoeth, yr hwn sydd o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb? Dystawa, rhag cywilydd! gostega di ger ei fron ef. O am i ni oll fod yn debyg i'r Athraw mawr, yn addfwyn a gostyngedig o galon, canys "Y rhai llariaidd a hyfforddia efe mewn barn, a'i ffordd a ddysg efe i'r rhai gostyngedig."
Dyma ein sylw olaf: Yr Arglwydd sydd yn ei deml sanctaidd, oddiyno yn llywodraethu ar bob peth; y ddaear oll, gostega di mewn ymostyngiad hollol iddo.
Darlunir y Jehofah mewn cysylltiad â'r arwydd dwyfol o'i bresenoldeb yn y deml yn eistedd fel Brenin ar ei orseddfainc. "Gorsedd ogoneddus ddyrchafedig o'r dechreuad yw lle ein cysegr ni," medd Jeremiah. Yno yr oedd efe fel Brenin Israel, yn rhoi allan ei broclamations brenhinol, a hyny nid mewn cysylltiad ag Israel yn unig, ond a'r holl genhedloedd oddiamgylch, oherwydd yr oedd llawer o'r cenhedloedd hyny yn elynion Israel, a rhai o honynt weithiau yn gynghreirwyr iddynt, fel y mae'r byd eto yn ei wahanol agweddau at yr eglwys. Wel, y mae'r frenhiniaeth ddwyfol a geid yn arwyddluniol yn nheml Jerusalem gynt i'w chael yn barhaus yn y modd mwyaf sylweddol a thrwyadl yn y deml sanctaidd uchod. "Yr Arglwydd a baratodd ei orseddfa yn y nefoedd;" yno, nid yn unig fel llys, ond fel teml; ac yno, "ei frenhiniaeth ef sydd yn llywodraethu ar bob peth." Yn llyfr y Dadguddiad, diweddglo yr holl Feibl, yn nheml Dduw yn y nef, a chydag arch ei gyfamod ef, yr ydym yn cael gorseddfainc Duw a'r Oen; ac oddiyno y darlunir y saith angel, y naill ar ol y llall, yn dyfod i gyflawni eu dirprwyaethau pwysig ar y ddaear. Rhyfedd byth! mae gorseddfa Arglwydd pawb oll o dan yr un gronglwyd, yn yr un ystafell, â swyddfa Cyfryngwr y Testament Newydd. Yn y deml gysegredig i orchwylion gras, y gras sy'n gweithio trwy'r prynedigaeth yn Nghrist Iesu, oddiar y drugareddfa sydd wedi ei thaenellu â gwaed yr Oen, yno y trinir holl achosion y llywodraeth oruchel sy'n cymeryd i fewn holl dalaethau creadigaeth Duw. Mae pawb, yn sanctaidd ac yn ansanctaidd, pob angel, pob cythraul, pob dyn, o dan ei lywodraeth ef, y Gwr a welwyd gynt mewn agwedd gwas, yn ufudd hyd angau, ïe, angau'r groes, gan y rhaid iddynt oll fod yn wasanaethgar i ddwyn yn mlaen amcanion yr angau rhyfedd hwnw. O'r deml y daw yr holl gyfraniadau grasol, ac allan o honi hefyd y daw yr holl oruchwyliaethau barnol.
Gan mai yn ei deml, sanctaidd y mae gorsedd Brenin mawr yr holl ddaear, cymwys yw'r siars hon, "Y ddaear oll, gostega di ger ei fron ef." Yn man trugaredd y llawnodwyd comisiwn yr angel sydd yn tywallt phiolau digofaint ar y ddaear yn gystal a'r angel sydd a'r efengyl dragwyddol ganddo. A chan mai o'r deml y daw'r farn yn gystal a'r fendith, nid oes le i ddweyd gair yn erbyn. Tybygem nad oes un Cristion na fawr ddymunai weled golygfeydd hyfryd llwyddiant cyffredinol efengyl Crist, pan fydd yr holl ddaear, fel y cysegr gynt, wedi myned yn llawn o ogoniant yr Arglwydd. Ond, o bosibl, rhaid i lawer o honoch chwi sydd yma heddyw ymbarotoi i weled pethau ofnadwy yn gyntaf, fel y darlunir yn ngweledigaeth Patmos,— lleisiau, a thân, a mellt, a daeargryn, a chenllysg mawr fel talentau, y fath na bu er pan yw dynion ar y ddaear. Ond os felly y bydd, gellwch fod yn sicr mai gwaith Angel y Cyfamod fydd hyny; efe, mewn atebiad i weddiau 'r saint, wedi llanw 'r thuser aur â thân yr allor, yn ei fwrw ar y ddaear. Gostega ger ei fron ef, gan ofalu myned yn brydlawn i'r ystafelloedd clyd a ddarparodd efe; yno i lechu megys enyd bach, hyd onid elo'r llid heibio.
Os bydd raid i ni ddyoddef adfydau personol a theuluaidd, gwybyddwn mai Duw'r deml, Duw yr heddwch a'r gras, sydd yn eu hanfon; a phan dan lwythau o drallodion, yn lle gwneyd dim tebyg i ymryson â'r Hollalluog, gostegwn ger ei fron ef. Os na wyddom paham y dygwyddodd hyn neu arall, ni a wyddom pwy sy'n goruwchreoli yr oll. Oddiar hyn yr oedd Dafydd yn gostegu pan mewn nychdod corff a blinder meddwl, "Aethum yn fud, ac nid agorais fy ngenau, canys ti a wnaethost hyn." Ti, Arglwydd, a wnei yr hyn a fyni, ac ni fyni di ond yr hyn sydd oreu. Dyma fel yr wyf fi yn cwyno cymaint, medd rhywun, yr wyf yn methu gweled a dirnad amcan yr oruchwyliaeth chwerw a gyfarfu â mi. Gostega, ynte, nes y gwelych. Cymer wers oddiwrth greaduriaid direswm o'th amgylch. Dyna'r bytheuaid, y cwn hela; wedi colli'r trywydd, nid ydynt y pryd hwnw yn cyfarth dim; maent yn ddystaw iawn nes y caffont eu hunain ar y scent. Gostega dithau gerbron Duw yn nos adfyd, a phan y cyfyd goleuni arnat, mae yn ddiddadl mai diolch ac nid grwgnach a wrei. Han gymerwyd ymaith yr asen a'r ebol gan ddau ddysgybl at wasanaeth Iesu Grist, ar ei fynediad y tro olaf i Jerusalem, esboniad boddlonol am y rhyddid a gymerent oedd hwnw gan y perchenogion, "Y mae yn rhaid i'r Arglwydd wrthynt." Dylai hyn fod yn ddigon i'th ostegu dithau, fy nghyfaill, os geilw'r Goruchaf am dy blentyn, neu am dy briod, neu am dy dipyn cyfoeth, neu am dy iechyd, neu am dy fywyd, ymaith,—"Y mae rhaid i'r Arglwydd wrtho." Gras y nef a'n dygo yn nydd blinder i ddystewi yn yr Arglwydd, ac i ddysgwyl wrtho.
Fel cymhwysiad argyhoeddiadol wrth derfynu, gallwn nodi fod yma rywbeth yn nglyn a'r mater diweddaf hwn sydd yn edrych yn ddu iawn ar achos pechadur anedifeiriol, yn toi diwedd yr annuwiol â thywyllwch anobaith. "Yr Arglwydd sydd yn ei deml sanctaidd;" ar ei orsedd yno yn rhoi ei law a'i sel ar weinidogaethau bywyd ac angau. Mae death warrant yr enaid colledig, gan hyny,—yr awdurdodiad fydd yn ei drosglwyddo o'r byd hwn i ddiafol ac uffern,— yn dyfod allan o deml sanctaidd Duw. Mor alaethus fydd hyn! dedfryd marwolaeth dragwyddol yn dyfod o gartref bywyd tragwyddol! y pechadur yn cael ei golli gan yr unig Benaeth a allasai ei gadw. O! y galar, y gruddfan, a'r gwae, fydd yn meddianu y truan esgeulus, pan wedi loetran yn ddiofal trwy'r dydd, y daw yn yr hwyr at unig station gras, ac y caiff fod y train olaf ar ffordd y bywyd iddo ef wedi myned ymaith! Yr enaid euog wedi mwrddro argyhoeddiadau cydwybod ar hyd ei oes, yn rhyw ddysgwyl pardwn yn y diwedd trwy yr Arglwydd a'r Achubwr Iesu Grist, ond yn awr ei ing yn cael yr Iesu,—yn lle bod yn Eiriolwr i waeddi, Arbed,—yn troi yn Ddialydd y Gwaed, ac yn gorchymyn gydag awdurdod Hollalluog, Ymaith a thi i dân tragwyddol; ni'th wared iawn mawr! Ah! fe fydd y cryfaf ei galon o'r cedyrn y pryd hwn yn gorfod gostegu ger ei fron ef. Pan ofynir i'r orseddfainc, Enaid, pa fodd y daethost ti yma o wlad efengyl y tangnefedd yn wrthryfelwr yn erbyn Duw yr heddwch? ni bydd un ateb i'w roi. "Yntau a aeth yn fud." Diolch i Dduw nad ydyw heddyw yn rhy ddiweddar i ni geisio maddeuant o'i deml sanctaidd; ac ond i ni yn ein dydd hwn gael pardwn oddiyno, bydd hwnw i ni yn dragwyddol ryddhad. O fy enaid, tra mae'r Brenin mawr oddiar orseddfainc y gras yn cyfarfod â phechadur, dos, heb oedi dim yn hwy, ymgryma o flaen ei faincdroed ef; ac yn ngwyneb grym dy euogrwydd, dadleua haeddiant yr Hwn a osododd Duw yn Iawn; yn y modd yma yn ddioedi "Ymarfer, atolwg, âg ef, a bydd heddychlawn; o hyn y daw i ti ddaioni."