Yn Llefaru Eto/Roger Edwards cerdd gan Daniel Owen
Gwedd
| ← Roger Edwards Pregeth—Gosteg gerbron Duw yn ei Deml, Heb. ii. 20. | Yn Llefaru Eto gan Anhysbys |
John Hughes, Fel Pregethwr → |
ROGER EDWARDS.
Gweinidog Duw! ein hoff weinidog pur!
Er it' ein gadael, d' ysbryd sydd o hyd
Yn myn'd a dyfod efo'm yn y byd
I'n cyfarwyddo ac i leddfu'n cur!
Ac er fod "atal" arnat—d'wedaist fwy
Na nemor un am Dduw, am Grist a'i ras;
A miloedd, drwot ti, brofasant flas
Y Feddyginiaeth oedd i wella'u clwy'.
Hoenus dy ysbryd, bywiog, tanbaid dwym,
Wrth natur oeddit ti: a'r Ysbryd Glân
Bentyrodd friw-wydd sanctaidd ar dy dân,
Ac a'i cysegrodd iddo'i hun yn rhwym!
Chwith yw bod heb y gwenau siriol, mad
Ac heb y weddi dynai'r nef i lawr;
Ac heb y cynghor—heb y dagrau mawr !
Ac heb y Cyfaill pur! y Brawd! y Tad!
DANIEL OWEN.