Neidio i'r cynnwys

Yn Llefaru Eto (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Yn Llefaru Eto (testun cyfansawdd)

gan Anhysbys

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Yn Llefaru Eto



CYFROL GOFFA


"YN LLEFARU ETO"




CYFROL GOFFA

AM

𝓓𝓓𝓔𝓖 𝓞 𝓦𝓔𝓘𝓝𝓘𝓓𝓞𝓖𝓘𝓞𝓝 𝓜𝓔𝓣𝓗𝓞𝓓𝓘𝓢𝓣𝓐𝓘𝓓𝓓



"Y Rhai a draethasant i chwi Air Duw."


Y BALA:
ARGRAFFWYD GAN DAVIES AC EVANS, SEREN' OFFICE, BERWYN ST.
1894.


Y PARCHEDIGION

LEWIS EDWARDS, D.D., Y BALA.
OWEN THOMAS, D.D., LE'RPWL.
DAVID SAUNDERS, D.D., ABERTAWE.
DAVID CHARLES DAVIES, M.A.
JOSEPH THOMAS, CARNO.
J. HARRIES JONES, PH.D., TREFECCA.
EDWARD MATTHEWS, EWENI.
JOHN PARRY, D.D., Y BALA.
ROGER EDWARDS, D.D., WYDDGRUG.
JOHN HUGHES, D.D., CAERNARFON.





[Dymunir galw sylw y Darllenydd fod y Pregethau a gynwysir yn y Gyfrol—oll oddigerth tair—wedi eu hysgrifenu wrth eu gwrandaw, mewn Llaw Fer, (Phonographia). Gwnaed hyny gan Mr. Jno. R. Evans, Pontricket Board School, Tregeiriog; a nodir y lle a'r adeg y gwrandawyd hwynt.

Hyderwn y bydd y desgrifiad o nodweddion y gwahanol Weinidogion, a geir yn y Gyfrol, yn gynorthwy i'r ieuenctyd hyny na chawsant y fraint o fwynhau eu gweinidogaeth, i'w hadnabod a'u parchu. I'r Darllenwyr a gawsant y fraint hono, diau y bydd i eiriau y Pregethwyr, fel yr ysgrifenwyd hwy ar y pryd, felysu a pharhau eu coffadwriaeth am danynt.]

Cymerwyd y gwahanol Ddarluniau o Photographs a Steel Engravings gan Mri. W. A. Smith, Swansea; James Leach, Carnarvon; Lettsome & Sons, Llangollen; J.

Wickens, Bangor; J. Symonds, Llandudno; ac eraill.

Thomas Charles Edwards

𝕮𝖞𝖋𝖑𝖜𝖞𝖓𝖊𝖉𝖎𝖌

I'R

𝕻𝖆𝖗𝖈𝖍𝖊𝖉𝖎𝖌 𝕿𝖍𝖔𝖒𝖆𝖘 𝕮𝖍𝖆𝖗𝖑𝖊𝖘 𝕰𝖉𝖜𝖆𝖗𝖉𝖘,

M.A. (Oxon. a LOND.), D.D. (EDIN.).

PRIFATHRAW COLEG DUWINYDDOL Y BALA,

O BARCH

I'W YMDRECHION YN MHLAID ADDYSG

GWEINIDOGION IEUAINC,

A'I WASANAETH

I DDYRCHAFU DYLANWAD Y PWLPUD

YN NGHYMRU.


CYNWYSIAD.







Parch Lewis Edwards

𝖄 𝕻𝖆𝖗𝖈𝖍. 𝕷𝖊𝖜𝖎𝖘 𝕰𝖉𝖜𝖆𝖗𝖉𝖘, 𝕯.𝕯.

𝕯YNION mawr pob os yw y rhai sydd yn creu cyfnod newydd. A'r mwyaf yn ei oes ydoedd Dr. LEWIS EDWARDS, Y Bala. Edrycher o'r cyfeiriad a fyner ar Gymru o hanes sefydliad Athrofa y Bala hyd ei farwolaeth ef, ceir fod dylanwad Dr. Edwards wedi bod y symbylydd mwyaf i dyfiant bywyd Cymru, yn wladol a chrefyddol. Arddelir ei ddylanwad gan arweinwyr presenol Cymru. Ni chadwai drwst o gwbl gydag un symudiad a gefnogai neu a gychwynai,—dylanwad dystaw ond cryf a threiddiol ydoedd oll, a hyn a'i gwnaeth yn arweinydd dyogel ac o ymddiried gan y wlad. Yr oedd teithi naturiol ei feddwl, ei allu digymhar i ragweled, a grym ei gymeriad pur a'i dduwiolfrydedd, yn ei gymhwyso yn arbenig i fod yn gychwynydd symudiadau cyhoeddus yn mysg ei gydgenedl.

Ganwyd Dr. Lewis Edwards mewn ffermdy o'r enw Pwllcenawon, oddeutu pedair milldir o Aberystwyth, ar y 27ain o Hydref, 1809. Efe oedd cyntafanedig ei rieni. Gartref ac yn y capel, breintiwyd ef a'r plant eraill ag addysg grefyddol drwyadl. Yr oedd y tad yn flaenor yn nghapel Penllwyn, a nodweddid ef gan dynerwch duwiol ac arafwch doethineb. Mewn ysgol yn Mhenllwyn a Llanfihangel-genau'r-glyn y cafodd y llanc ychydig o addysg foreuol. Tybiodd y tad fod hyny yn ddigonol iddo, ond drwy eiriolaeth hen deiliwr ddigwyddai fod yn gweithio yno ar y pryd, a gredai fod gallu eithriadol yn y bachgen, perswadiwyd y tad i'w anfon i'r ysgol at yr enwog John Evans, Aberystwyth. Yn Llangeitho y bu ar ol hyn, yn ysgol y Parch. John Jones. Yma y dechreuodd bregethu; felly cychwynodd ei yrfa gyhoeddus yn llygad y gwres Methodistaidd, ac arhcsodd argraff y tân hwnw arno byth. Ond ymdrech fawr fu arno yn y cychwyn. Blinid ef gan ryw fath o afrwyddineb ymadrodd, oherwydd yr hyn hefyd y ceisiodd amryw o'r dynion a barchai efe fwyaf ganddo roi heibio y bwriad o fod yn bregethwr. Ond yn ngrym yr ewyllys gref a'r penderfyniad anhyblyg a nodweddai ei gymeriad, medrodd orchfygu y gwendid hwn ynddo ei hun fel llefarwr cyhoeddus. Yn ddiweddarach, credai mai mewn atebiad i'w weddi y cafodd y waredigaeth hon. Yn Sir Gaerfyrddin, yn athraw yn nheulu boneddwr o'r enw Mr. Lloyd y ceir ei hanes nesaf. Yma y clywodd am y Brifysgol newydd yn Llundain, a phenderfynodd fyn'd iddi. Ond rhaid oedd gofyn caniatad y Gymdeithasfa i hyn. Anturiodd i Gymdeithasfa Woodstock yn 1831, a gosododd ei gais yn ostyngodig gerbron, er na ddysgwyliai geiniog o gynorthwy. Anhawdd ydyw credu mai gwawdiaeth. oedd yn ei aros, ond dyna'r gwir. A methodd y llanc atal ei ddagrau yn ngwyneb y driniaeth. Fodd bynag, tosturiodd rhai o'r blaenoriaid drosto, a chymhellent fod iddo gael y caniatad a ofynai i fyn'd i chwilio am addysg. Wedi treulio un tymor yn y Brifysgol yn Llundain, prinhaodd yr arian, a dychwelodd i Gymru. Yn 1832 cymerodd ofal bugeiliol eglwys fechan Lacharn, yn Sir Gaerfyrddin, lle y cafodd ymarferiad rhagorol mewn pregethu Saesneg; bu yno am tua 18 mis. Ond gan fod ei lygaid wedi eu hagor ar fyd mawr gwybodaeth, penderfynodd fyned i Brifysgol Edinburgh, a chafodd gwmni Mr. John Phillips, sylfaenydd y Coleg Normalaidd yn Mangor. Drwy ganiatad arbenig, cafodd sefyll ei arholiad am y gradd o M.A. ar derfyn ei drydedd flwyddyn yn lle aros yno am bedair blynedd. Pasiodd yn anrhydeddus, a dychwelodd i Gymru fel yr Ymneillduwr cyntaf o Gymro i enill gradd mewn Prifysgol. Wedi ei ordeinio yn Nghymdeithasfa Castell Newydd Emlyn, yn 1837, cawn ef yn agor Ysgol y Prophwydi yn y Bala. Ymbriododd â Miss Jane Charles, wyres i'r enwog Charles o'r Bala. Yr hyn a roddodd fôd i'r ysgol yn y Bala oedd hoff syniad Mr. Edwards, oedd yn graddol addfedu, i sicrhau addysg drwyadl i weinidogion ieuainc Cyfundeb y Methodistiaid. Yn mhen ysbaid, mabwysiadwyd yr ysgol gan y Cyfundeb fel Athrofa, a phenodwyd yntau yn Brifathraw. Ac i gadw hon i fyny, hysbys i bawb am ffyddlondeb a medr y diweddar Barch. Edward Morgan o'r Dyffryn yn casglu at y drysorfa, drwy yr hyn y ffurfiwyd cronfa o £25,000. Yn y swydd o Brifathraw Coleg y Bala, am agos i haner can' mlynedd, efe a enillodd barch ac edmygedd tua mil o fyfyrwyr a fu dano o dro i dro, ac y mae ei ddylanwad yn amlwg ac arhosol ar fwyafrif gweinidogion Cyfundeb yn Ne a Gogledd Cymru. Cafodd Dr. Edwards gynyg y teitl o D.D. gan Brifysgol Princeton, ond gwrthododd ef. Yn 1865, cynygiwyd yr un anrhydedd iddo gan ei Brifysgol ei hun yn Edinburgh, ac aeth yno i dderbyn y teitl. Penod ddyddorol yn hanes Dr. Edwards yw yr un ar ei gysylltiad ag Addysg. Gwnaeth ymdrechion personol mawr i gael addysg. Ac fel y crybwyllwyd yn nglyn a sefydliad Athrofa y Bala, yr oedd yn gynar ar ei oes wedi ei ddwfn argyhoeddi o'r angenrheidrwydd am addysg drwyadl i weinidogion ieuainc. Yr oedd ei syniad mor eang ar y pwnc hwn fel y dychrynai ambell un rhag i'r wlad gael ei harwain i ganol peryglon anffyddiaeth Lloegr. Prawf nodedig o hyn ydoedd ei benderfyniad i anfon ei fab hynaf---Dr. Thos. Charles Edwards, Prifathraw presenol Coleg Duwinyddol y Bala--i Rydychain. Heddyw nid oes hynodrwydd o gwbl yn hyn, ond y pryd hwnw yr oedd yn newydd-beth ac yn gofyn cryn wroldeb, canys y ffaith yw ddarfod i'r holl weinidogion a blaenoriaid yr ymgynghorodd â hwy ar y mater geisio yn daer ei berswadio rhag y fath gwrs peryglus, A chydag addysg gyffredinol y genedl, bu eangder ei syniadau ef yn ddylanwad grymus i gael y vlad i symud yn y cyfeiriad hwn. Ac er cynydd addysg a'r manteision yn nglyn a hyny, credai a dadleuai os oedd effeithiolrwydd a dylanwad y pwlpud i barhau fod yn rhaid darpar ar gyfer addysg y weinidogaeth.

Yn ei Gyfundeb, cafodd ei anrhydeddu, a bu yn offeryn i roi symudiad mawr yn mlaen i deyrnas Dduw. Efe sicrhaodd y fugeiliaeth eglwysig i'r Methodistiaid, er gwaethaf llawer ystorm a gododd a'r difrawder i symud yn mlaen. Ei awgrymiad ef oedd y Gymanfa Gyffredinol. Efe yw tad y Gronfa Gynorthwyol a Thrysorfa y Gweinidogion ; a bu yn gefnogydd cryf i'r Achosion Saesneg.

Gyda thristwch cenedlaethol y derbyniwyd y newydd am farwolaeth Dr. Edwards, boreu ddydd Mawrth, Gorphenaf, 19, 1887. Ni welwyd erioed arwyddion o deimlad mwy cyffredinol o golled. Cenedl gyfan a alarai am fod un o oreugwyr y ganrif wedi cwympo. Diwrnod mawr oedd y dydd Gwener dilynol, pryd y dygwyd ei gorff ar ysgwyddau ei hen efrydwyr i fynwent anwyl Llanycil.

Cyfododd, goleuodd, ond ow! fe fachludodd,
A Chymru sydd eto dan len dywell, ddu;
Nid llen anwybodaeth fel cynt a'i gorchuddiodd,
Ond mantell ddu galar am golli 'r Haul cu;
Nid plaid ac nid enwad am dano sy'n cwyno,
O Gymru benbaladr esgyn dwys lef
O alar a gofid am un fu 'n ei swyno,
Fi phlentyn talentog, godidog, oedd ef.

"Ei allu, ei addysg, a'i fywyd gysegrodd
I grefydd ei Arglwydd a gwir les ei wlad;
Fel Llywydd ei Goleg fe gain ymddysgleiriodd,
A bu i'r myfyrwyr yn gyfaill, yn dad;
Arweiniai hwy 'n ddyfal hyd feusydd gwybodaeth,
Agorai eu deall, cyfeiriai eu dawn;
Pwy iddo 'n gyffelyb mewn dwfn dduwinyddiaeth ?
Pwy dreiddiodd mor ddwfn i drysorau yr "Iawn?"


FEL PREGETHWR.

Gan y Parch. Griffith Parry, D.D., Carno.

𝕾YLW gwir iawn oedd hwnw a wnaeth Carlyle, mai hanes gwirioneddol gwlad ydyw hanes ychydig o ddynion mawr. Ac nid ydyw yn anhawdd rhoddi cyfrif am hyn. Gweithredoedd sydd yn y golwg; ond y mae gweithredoedd yn cael eu bod yn y meddwl. Yn y dirgel y mae ffynhonau bywyd y byd. Ac os edrychwn ar hanes y byd fel goruchwyliaeth Rhagluniaeth Duw, yr hon yw y wedd uchaf arno, nid oes dim yn yr olwg hon yn anghyson â'r sylw a ddyfynwyd. Nid yn ddigyfrwng y mae Duw yn gweithio. Yn hanes y byd a'r eglwys y mae y gweithrediad dwyfol trwy offerynoliaeth ddynol. Os Duw sydd yn "tywys ei bobl fel defaid," y mae hyny "trwy law Moses ac Aaron." Pan y mae "yr awr" wedi dyfod y mae "y dyn" yn barod.

Gellid rhanu dynion mawr gwlad neu oes i ddau ddosbarth. Gwneir un i fyny o'r dynion sydd yn gwneyd y gwaith mwyaf rhagorol yn amgylchiadau yr oes y maent yn byw ynddi—y rhedegwyr glewaf ar linellau meddwl a gwaith eu hoes eu hunain. Ond y mae dosbarth arall, uwch; sef y dynion sydd yn agor llinellau newydd i diriogaethau newydd o feddwl a gwaith. Y mae y rhai hyn yn rhoddi argraff eu personoliaeth nerthol eu hunain ar eu hoes. Cyfyd ychydig ddynion sydd yn grëwyr cyfnodau. Y maent yn rhoddi cyfeiriad newydd i feddwl oesoedd. Dynion i'w hoes yw y rhai hyn mewn modd arbenig, yn gynyrch eu hoes, ond o flaen eu hoes, ac ar ar yr un pryd yn meddu digon o rym i dynu eu hoes i'w canlyn. Meddylwyr mawr a diwygwyr mawr. Un fel hyn oedd Dr. Chalmers yn Ysgotland. Ac un fel hyn yn arbenig oedd Dr. Edwards yn Nghymru.

Nis gall un dyn diragfarn ameu na ddarfu i Dr. Edwards, trwy ei wasanaeth ardderchog i'w Gyfundeb a'i genedl, agor cyfnod newydd yn hanes Addysg, Llenyddiaeth a Duwinyddiaeth Cymru. Os bu dim erioed yn ddechreuad pennod newydd yn hanes gweinidogaeth yr efengyl yn Nghyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd, agoriad Athrofa y Bala oedd hyny. Drychfeddwl Dr. Edwards oedd y Traethodydd, ac efe yn benaf a'i sylweddolodd. Efe oedd ei enaid a'i rym, er fod ganddo gynorthwywyr medrus a galluog. Daeth y cyhoeddiad hwn a byd newydd o wirioneddau i olwg darllenwyr ieuaingc Cymru. Cawsant drwyddo gychwyn marsiandïaeth â rhandiroedd pell, a dechreu cydnabyddiaeth â thrysorau gwychaf llenyddiaeth yr oesoedd. Nid gormod yw dweyd fod Dr. Edwards wedi rhoddi ffurf a chyfeiriad newydd i efrydiau duwinyddol yn Nghymru. Treiddiodd i haenau dyfnach o feddwl. Newidiodd i fesur mawr destynau yr hen ddadleuaeth dduwinyddol, trwy ddangos yn mha le yr oedd y gwir anhawsderau Symudodd y tir o danynt. Gwnaeth fyr waith o lawer o'r hen ddadleuon, nes yr oeddynt yn ymddangos yn bethau anhymig, allan o amser ac allan o berthynas â'r materion y cedwid cymaint o drwst yn eu cylch. A gwnaeth hyn nid trwy ymosod arnynt, ond trwy ddangos ffordd fwy rhagorol. Ciliodd llawer o'r hen ddulliau o feddwl a dadleu ar bynciau duwinyddol yn ddistaw o'r golwg, fel y mae y tywyllwch yn graddol ddiflanu o flaen cynydd tawel a sicr goleuni y dydd.

Creodd Dr. Edwards y chwyldroad dystaw ond effeithiol hwn yn meddwl duwinyddol Cymru yn benaf trwy ddau waith o'i eiddo :yr erthyglau godidog ar " Gysondeb y Ffydd" neu "Wirioneddau Gwrthgyferbyniol," ac hefyd ei lyfr ar "Athrawiaeth yr Iawn," yr hwn o ran gwreiddiolder a nerth, dyfnder ac eglurder, sydd yn sefyll ar ei ben ei hun yn yr iaith Gymraeg. Llewyrchodd egwyddor yr erthyglau Cysondeb y Ffydd," ar y wlad fel darganfyddiad. Nid oedd neb o'r dadleuwyr pybyr ar yr athrawiaethau wedi meddwl am ddim o'r blaen, wrth gwrs, ond fod yr holl wirionedd ar eu hochr hwy, a dim ond cyfeiliornad ar yr ochr arall. Ond dyma brophwyd wedi cyfodi a chanddo weledigaeth newydd. Dengys hwn fod gwirionedd Duw yn rhy fawr i gael ei wasgu i fewn i gyfundraethau bychain dynion. Y mae rhan o'r gwirionedd gan bob ochr. Ac os ydynt yn ymddangos yn anghyson à'u gilydd, gallwn fod yn sicr nad ydynt felly mewn gwirionedd, ond eu bod yn cyfarfod mewn undod uwch. A'r peth sydd yn sicrhau hyn ydyw—nas gall yr un gwirionedd sefyll wrtho ei hun, ond mewn undeb â'r gwirionedd gwrthgyferbyniol, y rhai ydynt fel y meini yn mwa y bont tra gyferbyn â'u gilydd eto yn cynal eu gilydd, ac yn cydsefyll yn y maen clo. Profodd ac eglurodd Dr. Edwards yr egwyddor dra phwysig hon gyda golud o ddysg a dyfnder a chlirder meddwl na welwyd dim o'i gyffelyb yn ein gwlad; dangosodd ei bod yn treiddio trwy holl weithredoedd y Creawdwr ac yn dal yn holl diriogaethau gwirionedd. Dyma ddechreuad cyfnod newydd yn hanes duwinyddiaeth yn Nghymru tebyg i'r cyfnod newydd a grewyd yn hanes athroniaeth yn Lloegr trwy Novum Organum Arglwydd Bacon. Dyma Ddull newydd i efrydu duwinyddiaeth.

Tra yr edrychir yn gyffredin ar holl weithiau Duwinyddol a Llenyddol Dr. Edwards fel y trysorau gwerthfawrocaf yn yr iaith, credwn mai y tri hyn yw y rhai penaf: y Traethodau ar Gysondeb y Ffydd, Athrawiaeth yr Iawn, a Hanes Duwinyddiaeth. Nid ydym yn meddwl fod y gwaith claf wedi cael degwm y sylw a deilynga. Nis gellir ei ddarllen heb deimlo ei fod yn waith meistr trwyadl: nid un wedi casglu yn ddyfal ac yn gallu egluro yn dda wahanol olygiadau ; ond gwaith dyn mawr mewn dysg a meddwl, un yn meddu cydnabyddiaeth lwyr â llenyddiaeth dduwinyddol yr oesoedd, ac ar yr un pryd yn feddyliwr annibynol, gwreiddiol a dwfn, ac yn gallu barnu pob golygiad neu gyfundrefn yn ngoleuni hanes meddwl mewn duwinyddiaeth ac athroniaeth. Rywfodd neu gilydd, gadawyd allan y gwaith gorchestol hwn o'r argraffiad o Weithiau Dr. Edwards; ond cyhoeddwyd ef wedi hyny ar wahan yn llyfr prydferth a golygus.

Bwriadwyd y sylwadau hyn i fod yn benaf ar Dr. Edwards fel Pregethwr. Ond wrth ymwneyd â'r fath ddyn, ac â gwaith mor eithriadol o fawr a'r gwaith a gyflawnodd efe i'w Gyfundeb a'i genedl, teimlem y buasai yn anmhriodol, os nad yn wir yn anmhosibl, i edrych arno fel pregethwr yn gwbl annibynol ar y dyn a'i waith yn ei gyfanrwydd.

Ac y mae y sylw yna yn ein harwain yn naturiol i grybwyll fod Dr. Edwards yn engraifft nodedig o'r berthynas fywiol sydd i fod rhwng y bregeth a'r pregethwr. Teimlir rai gweithiau wrth wrando ambell un fod y bregeth yn llawer mwy a gwell na'r pregethwr. Gall achosion gwahanol beri hyn, y rhai nad awn i'w holrhain yn bresenol. Ond ni theimlid hyn byth gydag ef. Pa mor odidog bynag a fyddai y bregeth, ni synem o gwbl ei bod yn dyfod oddiwrtho ef. Ffynon o ddwfr yn tarddu oedd yno. Y dyn da, o drysor da ei galon, oedd yn dwyn allan bethau da. A siarad yn ddynol, a chyda hen derm athronyddol, teimlid fod yna "achos digonol " i gynyrchu yr effaith. Ac hyd yn nod pe na buasai dim neillduol iawn yn y bregeth, teimlid fod mawredd y dyn y tu cefn iddi-mawredd meddyliol a mawredd ysbrydol. Cyfranai hyn fawredd a newydd-deb i'r bregeth. I ddefnyddio cymhariaeth y diweddar Barch. Joseph Thomas ar yr un mater, gwelid fod y creawdwr yn gynhaliwr. Attegid y bregeth a blaenllymid y sylwadau gan ragoroldeb yr hwn a'i traddodai. Dygai Dr. Edwards allan o'i drysor "bethau newydd a hen;" ond yr oedd ganddo hefyd y ddawn ryfedd yr hon y dywedai Mr. Roberts, Amlwch, oedd yn hynodi Ebenezer Morris-y ddawn "i ardderchogi pethau cyffredin." Ac eto, nid ei lais ef oedd yn gwneyd hyn, na'i ddawn (yn ystyr gyffredin y gair), na'i ddull o draddodi, ond rhywbeth mwy na'r cwbl-grym ei bersonoliaeth ef ei hunan.

Y mae yn rhydd i ni gyfaddef mai Dr. Edwards a wnaeth yr argraff ddyfnaf arnom ni o neb erioed o gymeriad gwirioneddol. Credwn ei fod yn un o'r dynion mwyaf real a welwyd. Yr oedd ei fawredd yn wir fawredd, a'i ddysgeidiaeth yn wir ddysgeidiaeth. Casai â chas cyflawn bob ffug a rhodres ac ymddangosiad. Bod ac nid ymddangos oedd y peth mawr yn ei olwg, a'r hyn a gymhellai yn wastad ar ei efrydwyr. Yr oedd y nodwedd hwn o reality fel seilwaith o dan ei holl gymeriad yn foesol a meddyliol. Ac yr oedd hyn yn rhwym o nodweddu ei bregethu. Ni cheid yn y bregeth ddim un sylw ysgafn, dibwys, llipa. Yr oedd gafael a sylwedd a phwysau yn mhob un. Ni cheid ganddo eiriau ystrydebol- gweddillion marwol wedi bod unwaith yn drigleoedd bywyd. Na teimlid grym a min yn y cwbl gan nerth y bywyd a gurai trwy ei ymadroddion. Megys y mae cyfodiad yr haul yn goleuo yr awyrgylch, felly y creai ei bregeth ef awyrgylch newydd o oleuni gwirionedd. Yr oedd efe mewn modd nodedig 'o'r gwirionedd," yn ddeiliad ffyddlon yn nheyrnas gwirionedd, yn wir addolwr yn nheml gwirionedd. Gwirionedd yn ddeallol ac yn foesol—gwirionedd yn yr ystyr o truth, ac hefyd yn yr ystyr o reality. Nerth ei gariad at wirionedd a barai ei fod mor ochelgar rhag myned i eithafion gyda dim. Dyma a barai ei fod mor deg mewn dadl, ac mor gynil yn ei ymadroddion. Ni fynai gelu na gwanhau dim oedd i'w ddweyd o blaid y golygiad gwrthwynebol. Yr oedd ei lygad yn syml. A'r un cariad at wirionedd a barai iddo gashau mor lwyr bob ffug a rhagrith, pob ymgais i ymddangos heb fod. Teimlid y rhagoriaeth uchaf hwn yn treiddio trwy y bregeth, nes rhoddi iddi allu mawr ar gydwybod y gwrandawr. Yr oedd fel blaenbrawf o ddydd y farn.

Yn nglyn â hyn, ac fel rhan o hono, rhaid nodi difrifwch fel nodwedd arbenig yn nghymeriad y dyn mawr hwn. Yr oedd ei fywyd ef i raddau nodedig yn "fywyd o ddifrif." Gwelodd bethau mawr; gosododd amcanion mawr o flaen ei lygad; a chyrchodd atynt drwy bob rhwystrau heb lwfrhau. Yr oedd ynddo gyfuniad nodedig o fawredd meddwl a mawredd ysbryd—nerth meddwl a difrifwch ysbryd. Ni welodd Cymru fywyd yn fwy o ddifrif.

Nis gellid gwrando Dr. Edwards heb weled fod cydnawsedd nodedig rhwng ei feddwl â gwirioneddau mawr yr Efengyl. Yr oedd wedi cyraedd "golud sicrwydd deall yn ei dirgelion mwyaf gogoneddus. Ac er hyn, neu yn hytrach am hyn, pwy yn fwy gwylaidd ac addolgar uwchben y dirgelion? Gwirid ynddo ef yn rhyfeddol eiriau yr Apostol:— I bob golud sicrwydd deall i gydnabyddiaeth dirgelwch Duw a'r Tad a Christ." Yr oedd ei gydnabyddiaeth mewn cyfartaledd i'w adnabyddiaeth.

Tueddir ni i gredu pe buasai modd cymeryd barn y cynulleidfaoedd gawsant wrando Dr. Edwards am haner cant neu driugain mlynedd ar y cwestiwn—beth oedd y nodwedd amlycaf yn ei bregethu ?—y buasent bron yn unfrydol yn nodi allan un rhagoriaeth, a hwnw hefyd y rhagoriaeth (meddyliol) uchaf yn ei weinidogaeth. A dyna fuasai hwnw y cyfuniad rhyfeddol oedd yn ei bregethu o fawredd a symledd. Yr oedd efe yn ddigon mawr i fod yn syml. Ni ddefnyddiai efe eiriau mawr am bethau bychain; ond fel y gwna y Beibl defnyddiai eiriau bychain am bethau mawr. Yr oedd efe yn un o'r meddylwyr dyfnaf, ac ar yr un pryd yn un o'r rhai mwyaf clir. Ac yr oedd y rhagoriaeth uchel hwn yn ei weinidogaeth yn uno yr eithafion yn mhlith ei wrandawyr i'w edmygu—y rhai deallus a'r rhai bychain.

Buasai dechreuad gweinidogaeth Dr. Edwards yn rhoddi gwedd newydd ar bregethu yn Nghymru pe na buasai am ddim ond y ffaith mai efe a ddygodd ddysgeidiaeth uchel i wasanaethu yr Efengyl. A gwnaeth hyny yn yr iawn ffordd. Ni bu pregethu neb erioed yn mhellach o wneyd arddangosiad o ddysg. Ni bu erioed bregethu mwy syml a dirodres. Ffrwyth dysg oedd yn y bregeth—canlyniadau diwylliad meddyliol uchel, ac nid y grisiau ar hyd pa rai y cyrhaeddwyd hwynt. Darlun perffaith a welid, a'r blychau lliwiau a'r offerynau o'r golwg results ac nid processes. Ond pwy all draethu gwerth y driniaeth a gafodd y fath feddwl a'r eiddo ef gan addysg uchel, i'w gyfoethogi, ei nerthu, ei loewi a'i finio at waith ei oes? Dyrchafodd hyn ei weinidogaeth i level uwch na'r eiddo neb bron o'i frodyr pan oedd efe yn cychwyn; rhoddodd newydd—deb ac arbenigrwydd arni. Dygodd Athroniaeth, Beirniadaeth Ysgrythyrol, yr ieithoedd gwreiddiol, Hanes yr Eglwys a Hanes yr Athrawiaeth—a hyny mewn dull mor ddiymhongar fel mai prin yr oedd neb yn ameu eu bod yno, ond yn eu ffrwyth

"I'w hongian yn offrwm ar drostan y groes."

Cyfuniad nodedig o ran ei natur a'i raddau yn Dr. Edwards oedd y ddwy elfen—y resymegol a'r gyfriniol. Nid oedd neb yn adnabod yn well derfynau Rheswm a Ffydd. Ymresymai gyda llymder a manylrwydd diail, gan uno treiddgarwch a thegwch, yr hyn y gellid, ac mor bell ag y gellid, ei ymresymu. Ond pan y byddai y Gwirionedd yn pasio allan o afaelion Rheswm ac yn dechreu ymgolli yn nyfnder mawr yr Anfeidrol, plygai gyda gras prydferth ac addolgar. Anfynych y gwelwyd y fath allu ymresymiadol a'r fath gydnawsedd â'r cyfriniol wedi cyd—gyfarfod. Ac yr oedd hon yn dystiolaeth nodedig i gwmpas ac ansawdd y meddwl a allai ragori cymaint yn y fath eithafion.

Meddai Dr. Edwards mewn graddau nodedig y rhagoriaeth gwerthfawr a phrin hwnw—meddwl o fantoliad da. Yr oedd ynddo gydbwysedd rhagorol. Ni cheid ynddo byth wendid ar un ochr yn difuddio y nerth ar yr ochr arall. Oblegyd hyn yr oedd ei farn yn addfed ac yn gywir, yn un y gellid ymddibynu arni bob amser. Gwnai hyn ef yn arweinydd anmhrisiadwy yn yr Athrofa, yn yr Eglwys, ac yn y Cyfundeb.

Credwn nad oes ond un farn am arddull Dr. Edwards, pa un bynag ai mewn llafar ai mewn ysgrifen. Y mae yn gynllun o berffeithrwydd. Adlewyrchiad ydoedd o ragoriaethau uchel ac amryfal ei feddwl. Corff cyfaddas a gymhwysodd ei ysbryd iddo ei hun. Y mae yn syml, yn glir, yn nerthol, ac yn ffitio y meddwl a fynegir trwyddi yn berffaith. Y mae nid fel y gwydr lliwiedig yn tynu sylw ati ei hunan, ond yn bur fel y gwydr gloyw yn datguddio yn unig y gwrthddrychau sydd i'w gweled trwyddi. "Cenad o ladmerydd " oedd Dr. Edwards,—" un o fil." Un mawr mewn oes ydoedd, wedi ei gynysgaeddu á chymhwysderau anghyffredin i gyflawni gwaith anghyffredin, i roddi symudiad mawr yn mlaen i deyrnas Dduw yn y byd. Bydd ei gymeriad a'i waith yn llenwi lle mawr yn hanes y Weinidogaeth, ac yn hanes Llenyddiaeth a Chrefydd Cymru am yr haner canrif diweddaf.

Meddyliwr cryf, o gryfder cawr,
Athronydd dwfn, Duweinydd mawr,
Ieithyddwr coeth,
Dysgawdwr doeth,
I arwain ei ddysgyblion,
I wirioneddau dyfnion:
Meddyliwr clir,
Pregethwr gwir,
Mewn mawredd symledd,
A symledd mawredd;
Arweinydd oedd i Arweinyddion Cymru,
Ac Athraw ei hathrawon byth er hyny,
Ei enw gerfir mewn anfarwol lyth'renau,
Fel un o gewri prif feddylwyr yr oesau.

—T. GRAY.


FEL PREGETHWR

GAN Y DIWEDDAR BARCH. HUGH JONES (HUW MYFYR).

Canys ni fernais i mi wybod dim yn eich mysg, ond Iesu Grist, a hwnw wedi ei groeshoelio."

𝕸ELUS gofion sydd am dano
Gyda'i sancteiddiolaf waith,
Nid ar faes Cymanfa 'n unig,
Nac mewn capel eang chwaith;
Digon mawr oedd DOCTOR EDWARDS
I ymweled yn ei dro
Ag addoldy bychan llwydaidd
Yn y gul fynyddig fro.

Athrawiaethwr efengylaidd
Uwchlaw pobpeth oedd efe,
Ac i'r Iesu croeshoeliedig
Rhoddai'r arbenicaf le;
Galwai 'n daer ar bawb i gredu
Heb ymaros i wellhau;-
Credu cyn cael calon newydd,
Credu cyn edifarhau.

Person Crist a'r Ymgnawdoliad,
Iawn a lwyr foddlonai'r nef,
Swyddau Crist, a gwaith yr Ysbryd,
Oedd ei hoffus bynciau ef:
Minau geisiaf ei ddarlunio
Yn rhyfeddu dwyfol loes;
Nid oedd dim at ddeffro 'i ysbryd
Haner ffordd i waed y Groes.


Tal, unionsyth, tywysogaidd,
Yr ymddengys yn ein gwydd :
Gwyn ei wallt fel ei gymeriad
Bellach er ys llawer blwydd;
Talcen uchel crwn sydd iddo,
Llygad byw, myfyriol, dwys:
Genau na thraffertha i agor
Ond i eiriau mawr eu pwys.

Mor ddirwysg ei ymddangosiad,
Eto mor barchedig fawr;
Grym ei bresenoldeb tawel
Bair i'r dorf wyleiddio i lawr:
Gyda dwys orchwyledd duwiol
Syll ar gyfrol hardd y Nef;
Cerub ar y drugareddfa
Welwn yma ynddo ef.

Dwys afaelgar y gweddia,
Eto gostyngedig iawn;
Prin yn wir os nad amddifad
O'r peth eilw 'r byd yn ddawn:
Ond mae ysbryd yn y weddi,
Ysbryd addoliadol byw;
Na, nid dyma 'r gwr i chwareu
Aden dawn wrth Orsedd Duw.

Hyglyw y darllena 'i destyn,
Cyfran o efengyl fras;
Lle manteisiol i ddadlenu
Anchwiliadwy olud gras:
Cloddia 'n araf i'r dyfnderoedd,
Heb un arwydd ymdrech braidd;
Dacw'r adnod fawr gyfoethog
Yn agored hyd ei chraidd.

Nid afradlawn ymadroddwr
Heddyw glywn, ond geiriwr prin:
A phob sylw megys allwedd
Yn dadgloi dirgelwch in':

Sieryd mewn brawddegau byrion
Megys gwr yn cuddio 'i nerth;
Ond mae'r acen drom grynedig
I bob gair yn gwasgu gwerth.

Rhydd ger bron y gwirioneddau
Yn eu cyd-berthynas hardd :
Holl ganghenau 'r pwnc a safant
Yn mhriodol gyff eu tardd:
Preiffion, teg, a durol ydynt,
Mor gymhesur yn mhob rhan;
Dyma, medd pob un o honynt,
Fy nhragwyddol orphwys fan.

Iaith hedegog ni ddefnyddia,
Athronyddol dermau, 'r un;
Dengys i ni drefn y cymod
Yn ei symlaf wisg ei hun,
Heb gymhariaeth fechan ddifyr
Nac un areithyddol gais;
Ond mae bywyd yn ei eiriau,
Ac awdurdod yn ei lais.

Diysgogrwydd a gwyleidd-dra
Yn ei symudiadau gawn;
Myfyr dwys a pharchedigaeth
Glywir yn pereiddio 'i ddawn;
Traetha 'r hyn a wel ei lygad,
Heb lithrigrwydd pregeth wneyd;
Gwelwch fel mae 'r gwr yn craffu
Ar wirionedd wrth ei ddweyd.

Person dwyfol a ddarlunia,
Drosom yn gwaghau Ei Hun;
Holl briodoliaethau 'r Duwdod
"Mewn gwasanaeth" bob yr un;
"EFE yw'r Iawn," medd gyda phwyslais
Yn yr Ysgrythyrol iaith ;
'Holl adnoddau 'r natur ddwyfol
Daflodd i'w Gyfryngol waith."


Heddyw gwel rhai byr eu golwg
Ryfeddodau gras y nef;
Medr i ddwyn y pell yn agos
Yw ei ddawn arbenig ef;
O! mae'r ddaear yn dyrchafu,
Neu mae'r nef yn dod i lawr;
Yntau wedi saib addolgar
Lefa,—"Dyma i chwi beth mawr!"

Symlrwydd, grym, tiriondeb, urddas,
Dwys ddifrifwch, tawel hedd,
Gyd-ymdoddant yn fawredig
Lewyrch dwyfol ar ei wedd:
Cryndod sanctaidd ei leferydd
Sydd yn graddol ymddyfnhau;
Ebychiadol bwysleisiadau
Nerthol sydd yn amlhau.

Ymehanga 'r weledigaeth
I'r cyfriniol, gor-ddwfn, pell;
Palla clir ganfyddiad rheswm,
Ffydd a gaiff weithrediad gwell;
Mae 'n dynesu feddwl aruthr,
Fel y gwthia 'r môr ei dòn,
Ag sydd i ddoethineb ddynol
Yn anghyfdyb feiddgar bron.

Darfu 'r gofal am gysoni
Aeth y cawr o'i rwymau 'n rhydd;
Ni chaiff deddfau mân Rhesymeg,
Mwyach lyffetheirio Ffydd;
Dyna'r floedd ysgubol ddyfn-groch,
Ar ei hol daw un drachefn ;
Dyfnder ysbryd mawr sy'n galw
Ar ddyfnderoedd gras y drefn.

"Haeddiant dwyfol! Iawn anfeidrol !
Arglwydd pawb mewn agwedd gwas!
Rhyfedd gariad! Rhyfedd ras!

Cred, bechadur, cred yn unig,
Syrth yr ofnau dan dy draed;
Tyr'd at Iesu fel yr wyt ti
Am dangnefedd yn ei waed."

O! 'r awdurdod a'r tynerwch
Yn ei eiriau symlaf sydd!
Anghrediniaeth gyll ei anadl
Yn ngafaelion cryfion ffydd;
Nerthoedd mawrion o'r uchelder,—
Gras yr Ysbryd yn yr Iawn
Sigla'r carchar hyd ei seiliau
Ac a dry 'n ollyngdod llawn.

Tân a liwia ei wynebpryd,
Ymestyna 'r fraich yn hir;
Ysbryd sydd ag iaith yn ymladd
Am agorfa lydan glir;
Gwyliadwriaeth lem ei natur,
Syrth am dro yn wysg ei chefn;
Clywch y floedd,—"Rhad ras for ever!
Cedwir finau yn y drefn !"

Hen bregethwr anghymharol,
Daeth i ben ei ddiwrnod gwaith;
Wedi seinio 'r udgorn arian
Dros driugain mlynedd maith:
Ond mae rhai o'i nodau'n aros,
Megys adsain yn y gwynt,
Ag sy 'n deffro cof hiraethus
Am yr hen oedfaon gynt.

𝕻𝖗𝖔𝖋𝖎 𝖆 𝕯𝖆𝖑.

Gan y diweddar Barch. Lewis Edwards, D.D., Bala.

"Profwch bob peth; deliwch yr hyn sydd dda." I THES. v. 21.

MAE lle i feddwl fod yr apostol yn bwriadu cysylltiad rhwng yr adnod hon a'r benod o'r blaen. Yn y bed- waredd adnod a'r bymtheg mae yn dweyd, "Na ddiffoddwch yr Ysbryd," a'r ffordd i ddiffodd yr Ysbryd ydyw drwy ddirmygu y prophwydoliaethau. Ac y mae yn dweyd "Na ddirmygwch y prophwydoliaethau." Wrth y prophwydoliaethau y mae i ni ddeall addysg y prophwydi. Mae yn wir fod prophwydo yn y dull o ragddywedyd yn bod i raddau ar ryw achlysuron. Ond yn gyffredin mae y gair yn arwyddo addysg y prophwydi. Y mae yn ymddangos fod tuedd yn yr eglwysi y dyddiau hyn i ddirmygu y dull cyffredin o addysgu, a'u bod yn dyrchafu y gwyrthiau goruwchnaturiol, megys llefaru â thafodau eraill, &c. Nid ydym yn sicr nad ydyw yr un perygl yn bod eto, o ran sylwedd y peth. Yr oedd llefaru â thafodau eraill yn beth dyeithr iawn, ac yn creu syndod. Yr oedd arnynt eisio rhywbeth digon dyeithr. Lled anhawdd, er hyny, ydyw cael rhai i lynu wrth addysg, i lafurio gyda y dull cyffredin o addysgu. Felly y mae y cyngor yma yn angenrheidiol i ninau eto, "Na ddirmygwch y prophwydoliaethau."

"Na ddirmygwch y prophwydoliaethau." Fel pe y dywedasai, "Na dderbyniwch bob math o brophwydoliaethau ychwaith." Y mae gau addysg. Am hyny, "profwch bob peth." Mae eisio profi er hyny. A yw yr addysg yn addysg ysgrythyrol ai peidio? "Profwch bob peth." Nid oes dim dadl nad dyna ydyw ystyr y cyngor byr yma. Nid fel y mae rhai yn ei gymeryd weithiau, "Profwch bob peth." "PROFWCH bob peth." Rhowch chwareu teg i bob peth. Gwnewch brawf o hono. Peidiwch a gwrthod peth heb ei brofi. Darllenwch bob peth. Gwnewch bob peth. Dyna fel y mae rhai yn ei esbonio. Ond y mae yn ddiamheuol mai yr ystyr ydyw, Peidiwch derbyn, peidiwch rhoi lle na gwrandawiad i ddim heb ei brofi. Un gair a ddefnyddir am brofi ydyw hwn, a ydyw yn arian da ai peidio,—pa un ai twyll ydyw? "Profwch bob peth." Ac yna, ar ol profi, "deliwch yr hyn sydd dda." Nid profi er mwyn gwrthod sydd yma, ond profi er mwyn dyfod o hyd i'r da. Deliwch hwnw. Na wrthodwch bob peth. Y mae y ddwy adnod yma yn ateb i'w gilydd yn brydferth iawn. Y mae tuedd mewn dynion sydd yn profi llawer i fyned yn feirniadol, dros ben y feirniadaeth, i wrthod pob peth; maent yn myned yn grachfeirniaid. Mae y rhai hyny i'w cael eto. "Ond ar ol profi, deliwch yr hyn sydd dda." Hold fast. Gofalwch am beidio ei ollwng. Daliwch eich gafael ynddo. Nid af i ranu yr addysg yma yn rhyw gelfyddydol pe bawn yn medru. Yr wyf yn ei chymeryd yn syml fel y mae. Mae yr holl adnod yn troi o gwmpas dau air—PROFI, DAL. Mae y cwbl yn troi o gwmpas y ddau yna,—PROFI a DAL. Ac y mae yn dweyd beth sydd i'w brofi a beth sydd i'w ddal. Mae pob peth i'w brofi, ond yr ydym i ddal yr hyn sydd dda. Nia ddechreuwn gyda y rhan gyntaf.

1. PROFI.

Gallwn ranu hwn i ddau beth. Yn iaf, Profwch bob athrawiaeth. Yn ail, Profwch bob ymarweddiad. Mae yn cynwys yr athrawiaethol a'r ymarferol.

Profwch—peidiwch derbyn un athrawiaeth heb ei phrofi; peidiwch a dilyn un math o ymarweddiad heb ei brofi yn gyntaf. Mae hyn yn cynwys fod gan ddyn allu i brofi pob peth. Mae y Duw mawr wedi rhoddi gallu o'ch mewn chwi a minau i brofi athrawiaethau,— i brofi beth sydd yn wir a beth sydd yn gelwydd. Ac y mae cryn lawer o arian drwg yn cael eu profi y dyddiau hyn, mewn ystyr foesol yr wyf yn feddwl. Y mae llawer iawn o ryw athrawiaethau newyddion, a llawer iawn o ddynion pur uchel yn ymadael oddiwrth y ffydd. Nid wyf yn tybio eich bod chwi yn clywed gau athrawiaethau yn yr un o gapeli y dref yma. Ond y mae yn debyg eich bod chwi yn darllen cryn lawer o beth na ddylech eu derbyn cyn eu profi. Y mae llawer iawn o ryw athrawiaethau croes i wirionedd yn cael eu taenu drwy y wasg yn awr, athrawiaethau yn gwadu tragwyddol gosbedigaeth, athrawiaethau yn gwadu yr Iawn, ac athrawiaethau yn taflu amheuaeth ar y bôd o Dduw. Mae y peth yn gyffredin yn Lloegr, ac y mae eisio rhybuddio am hyn, yn enwedig y bobl ieuainc. Mae rhyw awydd mewn dyn ieuanc i wybod pob peth, ac i neidio at bob peth. "Profwch bob peth," —PROFWCH. Dyna sydd yma. Peidiwch derbyn athrawiaethau ag yr ydych yn eu gweled heb edrych a wnant hwy ddal y prawf ai peidio. Mae cyneddf mewn dyn i brofi pethau moesol; nid rheswm, cofier, ond cydwybod. Dyna y brif gyneddf mewn dyn ydyw y gydwybod, Dyna y gyneddf lywodraethol. Gwrandewch ar bob peth. Mi ddywed eich cydwybod wrthych yn union beth sydd wir a beth sydd gelwydd. Os 14 wnewch hwi wrando, mi wnaiff hithau beidio siarad; ac os ewch i weithredu yn groes iddi, yr ydych yn ei chaledu hi. Mi aiff yn y diwedd fel pe wedi ei serio â haiarn poeth. Ond os caiff cydwybod chwareu teg, mi wnaiff lefaru wrthych. Lleferydd Duw yn enaid dyn ydyw cydwybod, —y Duw anfeidrol yn llefaru o'ch mewn chwi ydyw, ac wrth wrando arni yr ydych yn gwrando ar Dduw. Mae Ysbryd Duw yn siarad yn y gydwybod. Ydych chwi yn gwrando, gyfeillion? A'r ffordd oreu i ni wrando ar lais cydwybod ydyw mewn dystawrwydd. Yn y dystawrwydd y mae hi yn hoffi siarad. Mae swn y byd yma yn fynych yn boddi ei llais hi. Ond arferwch, y bobl ieuainc yma yn enwedig, arferwch fyned yn fynych i'r dystawrwydd. Rhyw lef ddystaw fain ydyw llef cydwybod, ac fe fydd yn anhawdd iawn i chwi ei chlywed hi yn nghanol swn a dadwrdd y byd yma. Ond pan ewch chwi i'r dystawrwydd, o'r neilldu, i'r ystafell ddirgel, a dechreu galw eich hunain i'r dystawrwydd, ond odid na chewch chwi glywed y llef ddystaw fain yn dweyd rhywbeth wrthych. Nid oes dim yn well na gweled pobl ieuainc yn treulio rhyw gymaint o adeg y dydd, o swn y byd ac o swn ei gydnabod, i wrando beth a ddywed yr Arglwydd wrthych drwy eich cydwybod. Y mae cydwybod gan y pagan, ac y mae hono yn llefaru dros Dduw wrth y pagan. Ond eto, mae genym ni fantais fwy o lawer iawn na'r paganiaid. Yr ydym mewn mantais i fyned a'r gydwybod at y Beibl. Mae fy nghydwybod wedi anmharu y dyddiau yma; nid yw yn anffaeledig; ond ewch a hi i fyny at y Beibl. Mae y Beibl yn cywiro eich cydwybodau chwi. Dyna y ffordd i brofi,—ewch a phob athrawiaeth at y Beibl. Yn awr, cymerwch yr athrawiaethau newyddion a dyeithr sydd yn cael eu traethu yrwan, yna prawf cydwybod hwynt, Nid wyf yn dweyd nad ydynt yn edrych yn rhesymol, ond nid rheswm sydd yn llefaru, ond cydwybod. Cymerwch dragwyddol gosbedigaeth yr annuwiol, beth ddywed y gydwybod? Mae hi yn dweyd fod pechod yn ddrwg, yn ddrwg yn erbyn Duw anfeidrol. Dyna lais cydwybod. Beth bynag ddywedo hi, fod yna ddrwg mewn un pechod na all holl weithredoedd da y byd eu cywiro. Mae eich cydwybod chwi yn dweyd fod pob pechod yn haeddu cosbedigaeth am dragwyddoldeb. Ac os bydd eich cydwybod chwi yn gwyro weithiau, ewch a hi at y Beibl. "Y rhai hyn a ânt i gosbedigaeth dragwyddol." Am hyny, peidiwch derbyn pethau fel yna. Mae eich cydwybodau yn eu condemnio. Wel, heblaw hyn, mae eich cydwybod yn dweyd fod drwg pechod yn gofyn Iawn anfeidrol, ac nid oes dim modd maddeu pechod heb waed. Mae llawer iawn yn gwneyd gwawd o hyna. Athrawiaethau y gwaed, athrawiaethau gweigion, meddant. Peidiwch gwneyd hyny, gwrandewch ar eich cydwybodau. Ac nid rhyw fath o Iawn, nid rhyw Iawn ymddangosiadol, ond Iawn i Dduw. Nid oes dim dawela eich cydwybodau, wedi eu deffro unwaith, ond golwg ar Iawn o anfeidrol werth. Nid oes dim dawela y gydwybod ond yr hyn sydd yn tawelu cyfiawnder dwyfol. Mae yn rhaid cael Iawn uniganedig Fab Duw i foddloni cyfiawnder. Ac nid oes llai a foddlona dy gydwybod dithau. Nid yw o un dyben i ti ymofyn am dawelwch yn unman arall. Mae pob peth yn dy adael di heb gysgod erbyn y dydd mawr hyd nes y doi di at Iawn Calfaria. Profwch bob athrawiaeth yn ngoleuni y Beibl.

Yr ail beth. Wedi hyny, profwch bob ymarweddiad. Peidiwch dilyn un ymarferiad, peidiwch dechreu un ymarferiad heb ei brofi. Peidiwch myn'd ar ol difyrwch heb ei brofi. Nid wyf yn condemnio bob difyrwch. Gallwch wneyd y peth a fynwch ond pechu. Ond dowch at y cwestiwn yma, a ydyw yn unol â chydwybod? a wnaiff ef beidio dolurio fy nghydwybod yn ngoleuni fy mhechod? Sut y gallwn ni farnu, ffurfio barn, ar ddim heb gael dipyn o brynu ar hono? Wel, tybiwch fel Dr. Johnson, nid ydych yn myned i fwyta y cwbl fydd ar y bwrdd er mwyn gwybod a yw yn werth ei fwyta. Mae y taste yn gofyn, mae y chwaeth yn gofyn ei ddefnyddio. Mae chwaeth yn gallu gwrthod y drwg a dewis y da. A oes genych amheuaeth am ddrwg rhywbeth? Cymerwch chwi ymarferiad, rhyw ffordd i gael pleser, ewch ag ef at eich cydwybodau ; gofynwch a gwrandewch beth a ddywed cydwybod ar y mater. "Profwch bob peth." Y bobl ieuainc, ydech chi yn sicr ydi y peth yn gwneyd lles i chwi? Ydi o yn peidio gwneyd drwg i chwi? Ar ol bod mewn rhyw gymdeithas, sut y mae y gydwybod yn teimlo? beth y mae yn ei ddweyd wrthych? Rhowch wrandawiad i lais cydwybod yn ngoleu y Beibl. Feallai fod hynyna yn ddigon ar y peth cyntaf,—"Profwch bob peth."

II. DAL, "Dal yr hyn sydd dda." Nid profi ydyw y gwaith i gyd. Mi äi ein tymor ni heibio yn ofer iawn pe na byddai ond profi i gyd, dim ond criticeisio y cwbl. Ond dyma bwnc arall, "Deliwch yr hyn sydd dda." "Profwch bob peth; deliwch yr hyn sydd dda." Mae hyn yn tybio fod rhywbeth da yn bod wedi y cwbl. A gofalwch wrth brofi a beirniadu i beidio colli golwg ar "yr hyn sydd dda." "Deliwch yr hyn sydd dda." Beth bynag sydd yn ffug a thwyll, ac y mae llawer iawn, ond wedi y cwbl mae crefydd yn beth da. Mae crefydd yn dda drwy y cwbl. Mae yna ragoriaethau ac y mae gwendidau yn y bobl ddoeth, ond crefydd sydd yn dda. Mae yn dda i fyw; mae yn dda i farw. Duwioldeb, "mae ganddi addewid o'r bywyd sydd yr awrhon ac o'r hwn a fydd." Beth arall gewch chwi i wneyd hyn? Beth sydd genych os ydych heb dduwioldeb? Beth sydd genych ar gyfer byd arall ? erbyn marw? Mae crefydd wrth farw yn dda, fy ngwrandawyr. Yn nghanol byd o ddrygau a gwagedd, crefydd ydyw y peth da. "Ofna Dduw, a chilia oddiwrth ddrygioni," —mae hyny yn dda. Mae hwna i'w gael, mae y peth da i'w gael. Ac y mae dynion wedi ei gael. Mae rhagrithwyr yn bod, ond y mae dynion duwiol yn bod. Gwrandewch chi ar y gydwybod, mi ddywed hi yr un peth. Mae dynion duwiol yn bod, 'does dim dadl nad ydynt yn bod. Mae eu bywyd yn tystiolaethu drostynt. Dynion yn meddu egwyddor sanctaidd, mae y rhai hyny yn bod. Wel, "deliwch yr hyn sydd dda." Daliwch afael, hold fast, daliwch afael yn mhob peth da. Peidiwch a'u gadael i fyned i golli. Mae yn arw iawn gweled ambell i ddyn ieuanc yn myned yn rhy falch, neu yn rhy rywbeth, i ddal i fyny yr hen arferion yr oedd ei dad a'i fam yn eu dal i fyny, yn colli yr ysbryd i ddarllen y Beibl bob dydd, ac i fyned ar ei liniau i roddi addoliad i Dduw i ddiolch am ei gynal ac i ofyn am ras i'w gadw. Dyna beth sydd yn dal yn dda. Hold fast, fy mhobl i. Y bobl ieuainc, maddeuwch i mi am fod mor hyf yn apelio atoch, os byddwch yn gadael cartref, fel y bu ac y mae llawer ohonoch, i fyned i Loegr ac i America, daliwch afael yn yr hen arferiad yna, ewch a'r hen arfer dda gyda chi,—peidiwch a'i gadael hi gartref. Beth bynag adewch chwi ar ol, ewch a'r Beibl gyda chwi, ac arferwch ei ddarllen; arferwch weddio hefyd. "Deliwch yr hyn sydd dda." Yr arferiad o wrando, a myned i'r Ysgol Sabbothol, daliwch afael yn hyny, er nad yw yn ddigon o grefydd ynddo ei hun; ond eto, mae yn ffordd dda i gael crefydd. Nid ydych yn debyg o gael crefydd yr un ffordd arall. Os ewch i esgeuluso gwrando, ac i esgeuluso eich cyd—gynulliad, ni chewch grefydd yn y ffordd hono. Daliwch yr hen arfer dda i fyny. Peth arall, daliwch afael mewn cymeriad da. Mae yn hawdd iawn colli cymeriad. Gellir dweyd fod cymeriad da fel y pren, yr hwn sydd am flynyddoedd yn tyfu, ond mi ellwch ei dori i lawr mewn ychydig amser. Daliwch afael yn eich cymeriad. A gwyliwch rhag i un fwyell ddyfod i'w dori i lawr. Mae cymeriad da yn well nag aur. Mae enw da yn well nag aur gwerthfawr, medd y Beibl. Mae gan bawb sydd yma ei enw. Nid ydych wedi ei golli. Daliwch afael ynddo yn dyn. Y mae ysbeilwyr yn yr un byd a chwi yn barod i geisio eich temtio, ac y mae y diafol, mae yntau yn gwylied, yn cerdded o amgylch, ac yn gwylio am adeg i'ch hudo. Daliwch afael yn eich cymeriadau. Mae enw da, cymeriad am ddweyd y gwir, am onestrwydd, mi all dynion ymddiried ynoch. Mae yn rhoi pleser i nghalon ac i f'enaid i glywed am feibion a merched Cymru wedi myned i Liverpool ac i Manchester, yn dal eu cymeriadau yn anrhydeddus,—eu meistriaid a'u meistresi yn gallu ymddiried ynddynt heb ddim amheuaeth am eu gonestrwydd. Ac am eu geiriau hefyd, maent yn eu credu fel pe baent ar eu llw am bobpeth ddywedant hwy. Wel, daliwch afael, gwyliwch rhag y lleidr a'r ysbeiliwr. Peidiwch myned i gwmpeini drwg, bobl ieuainc, rhai all dduo eich cymeriadau. Mae cymeriad yn dda. Gofalwch rhag arferion sydd yn arwain i golli cymeriad. Yr arferion o fyned i gyfeillachu a rhai drwg, y diwedd yw colli y carictor gan lawer. Peidiwch rhoddi achlysuron i neb i'ch denu, gyfeillion. Daliwch afael yn eich carictor. Beth y mae y Beibl yn rhoddi pwys arno? Enw da, "mae yn well nag aur gwerthfawr." Peth arall, daliwch afael yn mhob teimlad da, cofiwch. Pob teimlad da. Yr wyf yn bur sicr am danoch chwi, bobl ieuainc, nad ydych yn myned drwy y moddion, yn gwrando bob Sabbath, nad oes rhywbeth yn gafael ynoch weithiau, rhyw air, nes ydych yn teimlo, yn dyfod i deimlo fod byd arall yn bod ar ol hwn. Mae Duw yn ymwneyd a chwi. Mae dydd barn i fod eto, ac y mae yn rhaid i ni ymddangos yno. Yr ydych yn dyfod i deimlo hynyna. Ac yn enwedig pan ar eich penau eich hunain, mae rhyw deimlad yn ymaflyd ynoch am grefydd rhyw feddwl mawr am dduwioldeb, rhyw feddwl mawr am Dduw. Mae bendith yn bod ar ol y teimlad yna; ond odid nad yr Ysbryd Glan fydd yna yn dechreu argyhoeddi. Ond y mae yn bosibl i argyhoeddiadau ddarfod. Nid wyf yn dweyd fod yn bosibl i oleuni gael ei golli byth, ond y mae yn bosibl i ni golli argyhoeddiadau o eisiau eu meithrin. Mae eisio rhoi derbyniad i leferydd Ysbryd Duw. Meithrinwch bob teimlad da,—rhowch le iddo, —peidiwch edrych yn frwnt arno; ac yn enwedig, gofalwch beidio myned i foddi eich argyhoeddiadau, ond meithrinwch hwy. A daliwch afael yn yr hyn fyddwch wedi ei deimlo, mi aiff yn fwy. Daliwch afael yn y teimlad da, ac fe aiff yn gryfach. Rhywbeth wedi dechreu, rhoi ufudd—dod i'r gydwybod, pe bae yn ddim ond hyny, pe bae yn ddim ond teimlad fod y gydwybod yn dweyd wrthyt, ti ddylet weddio, ti ddylet fyn'd ar dy liniau bob dydd, ti ddylet fyn'd i foddion gras. Peidiwch gwneyd cam a'ch cydwybod, gyfeillion, rhag iddi dewi. Gwrandewch bob gair ddywed wrthych. Wnewch chi wneyd hyny? Mae yn rheol anffaeledig,—beth bynag ddywed eich cydwybod wrthych, gwnewch hyny. Ac yn enwedig beth bynag ddywed wrthych am beidio, wnewch chi beidio? Rhowch ufudd—dod i'r gydwybod. Wel, os oes eisio rhoi ufudd—dod i Dduw, wel, Duw sydd yn siarad yn y gydwybod, yn eich rhybuddio. Wel, rhowch ufudddod i'r gydwybod, beth bynag ddywed hi wrth neb o honoch. Mae y gair yma yn cadarnhau y peth oeddwn yn ceisio ei ddweyd, y gair sydd ar ol yr adnod hon, "Profwch bob peth, deliwch yr hyn sydd dda." A'r ffordd i wneyd hyny ydyw, "Ymgedwch rhag pob rhith drygioni. A gwir Dduw y tangnefedd a'ch sancteiddio yn gwbl oll; a chadwer eich ysbryd oll, a'ch enaid, a'ch corff, yn ddiargyhoedd yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist." Mae hynyna gyda "dal yr hyn sydd dda." Mae y "gwir Dduw a'i dangnefedd" yn y ffordd yna, nid yr un ffordd arall. Nid yw cydwybod yn ddigon i sancteiddrwydd, ond y mae yn ffordd i sancteiddrwydd, —dyna y llwybr. Y mae yr Arglwydd yn bur sicr, os byddwch chwi yn myned yn mlaen ar lwybr geiriau yr Apostol yn y fan yma, mi wna Efe i chwi fod yn sanctaidd. Ufuddhewch chwi i'ch cydwybodau, ac yna y mae y "gwir Dduw a'i dangnefedd yn eich sancteiddio yn gwbl oll." Nid peth ar unwaith ydyw hwn. Mae y bydol, y cnawdol, wedi darfod i gyd, pob awydd am fyned ar ol pechod wedi darfod, "a'ch sancteiddio yn gwbl oll; a chadwer eich ysbryd oll, a'ch enaid, a'ch corff,"—dyna "yn gwbl oll." Ysbryd, ac enaid, a chorff, beth bynag ydyw y gwahaniaeth rhyngddyntmae yn debyg fod rhywbeth, ond y mae "cwbl oll" yn y geiriau, "eich ysbrydoll, a'ch enaid, a'ch corff, yn ddiargyhoedd yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist." Fe ddaw hyny yn fuan, "dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist."

"Ceir gwel'd gan bwy mae sylwedd,
 A phwy sydd heb y gwir."

"Rhaid i ni oll ymddangos gerbron brawdle Crist." Mi ddaw ar y cwmwl, "a phob llygad a'i gwel." A beth dâl hyn yn y dydd diweddaf—"bod yn ddiargyhoedd?" "Yn ddiargyhoedd,"—dim blot yn ein herbyn ni, wedi ein sancteiddio yn berffaith lân, heb ddim brycheuyn na chrychni,—"yn ddiargyhoedd yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist." Ydi y gwaith da wedi ei ddechreu? Ydi o wedi dechreu—y gwaith o sancteiddio? A chwestiwn arall, Ydech chi ar dir y gallwch ddysgwyl i Ysbryd Duw ddechreu y gwaith yma? Ydech chi gyda y moddion, yn dilyn y moddion, yn darllen y Beibl, ac yn gweddio? Ydech chi ar y tir y gallwch ofyn i Ysbryd Duw "eich sancteiddio yn gwbl oll." Daliwch afael yn y pethau mawr hyn. Amen.

[Salem, Dolgellau, Nos Sul, Rhagfyr 21ain, 1882.]

O! Efengylydd mawr ei ddawn—
Adnoddau'r lawn a'i haeddiant
Edmyga'i galon hyd ei chraidd,
Ac iraidd ei fynegiant;
Arlunia 'n bwyllog geinion nef
O'u haddef byw tragwyddol
Ac weithiau chwydda ton o hwyl—
Cynhyrfa'i ysbryd eon, gwyl—
O! egwyl wir arddunol!!



Y Parch. Owen Thomas, D D.


𝖄 𝕻𝖆𝖗𝖈𝖍. 𝕺𝖜𝖊𝖓 𝕿𝖍𝖔𝖒𝖆𝖘, 𝕯 𝕯.

FEL "Pregethwr y Bobl," mae yn rhaid gosod OWEN THOMAS yn flaenaf yn mysg ei gydoeswyr. Yr oedd yn boblogaidd yn mysg pob dosbarth. I'r genhedlaeth bresenol o wrandawyr canol oed, a rhai ieuengach, clywed Owen Thomas yn ei hwyliau yn pregethu roddai y syniad goreu a chywiraf am y dylanwad rhyfedd fyddai yn cydfyn'd a gweinidogaeth y tadau a godasant bregethu Cymru i enwogrwydd a bri. Meddai hyawdledd areithyddol nodedig, ac yr oedd wedi yfed yn helaeth o danbeidrwydd ysbryd cewri y diwygiadau crefyddol sydd wedi hynodi ein gwlad.

Ganwyd Dr. Owen Thomas yn Nghaergybi, Sir Fon, ar haner dydd, Rhagfyr 16eg, 1812. Efe oedd y cyntafanedig o wyth o blant. Breintiwyd ef â rhieni crefyddol ac o ddoniau uwchlaw y cyffredin. Yr oedd ei dad, o'r un enw ag yntau, yn wr tyner a charuaidd, yn meddu barn a gwybodaeth ragorol, ond bu farw yn gynar, yn 46 ced. Nodweddid ei fam gan gallineb a chrefyddolder ysbryd: cerddodd lawer gwaith o Fon i Sasiynau y Bala a lleoedd eraill. Mae hanes boreu oes Owen Thomas yn adrodd ei fod yn ddysgwr dihafal yn blentyn; daeth yn ddarllenwr mawr, a gwasanaethodd ei gymydogion yn fuan drwy fyned o dy i dy i ddarllen rhanau o'r Beibl. Yr oedd gwiando ac ysgrifenu pregethau yr hyfrydwch penaf ganddo, a meithrinwyd ynddo drwy hyn syniad addolgar bron am fawredd pregethwr a'i swydd. Ar hyd ei oes yr oedd ganddo gof hynodyr oedd holl ddygwyddiadau a helyntion bywyd, yn fychain a mawrion, ar gof a chadw ganddo, ac yn wastad ger ei fron. Daeth hyn i'r golwg ynddo yn foreu. Dysgodd lawer o lyfrau y Beibl yn gyfan ar ei gof, ac adroddodd hwy yn gyhoeddus. Dysgodd lyfrau eraill felly. Wedi cael ychydig o addysg elfenol yn Nghaergybi, cawn ef tua thair ar ddeg oed yn myned i weithio fel saer ceryg at ei dad, gan fod amgylchiadau y teulu yn isel a gwasgedig y pryd hwn. Yn 1827 symudodd y teulu i Fangor i fyw. Bu yn gweithio gyda'i dad am tuag wyth mlynedd, ond trwy yr amser darllenai, myfyriai, a dadleuai gyda'i gydweithwyr, ar bob pwnc a llyfr ddeuai i'w afael, ac ymarferai a phob rhan o waith cyhoeddus ond pregethu. Holodd y blaenoriaid ef ar y pwnc hwn, ac wedi deall ei fod a'i fryd ar hyny, rhowd ei achos o flaen yr eglwys, a chafodd dderbyniad serchog; felly dechreuodd bregethu yn 1834, a'r Sul cyntaf wedi ei dderbyn yn aelod o'r Cyfarfod Misol bu yn pregethu yn yr awyr agored am y waith gyntaf, ac felly yr oedd o'r cychwyn yn "bregethwr maes." Cynyddodd ei boblogrwydd fel pregethwr, ac fel areithiwr gyda'r diwygiad dirwestol oedd yn boblogaidd yn Nghymru yr adeg hon. Bu yn teithio llawer trwy Dde a Gogledd Cymru. Yn 1838, dechreuodd fel efrydydd yn Athrofa y Bala, dan Dr. Edwards, ac yn 1841 aeth i Edinburgh gyda y diweddar Dr. Parry. Yn 1844 ymsefydlodd fel gweinidog yn Mhwllheli, ac ordeiniwyd ef yr un flwyddyn yn Mangor. Yn 1846 symudodd i'r Drefnewydd, lle cafodd ymarferiad mewn pregethu Saesneg. Yn 1851 galwyd ef i fugeilio Jewin Crescent, Llundain, lle y gweinidogaethodd am 14 mlynedd, gyda llwyddiant mawr. Priododd yn 1860 ag Ellen, merch ieuengaf y diweddar Barch. Wm. Roberts, Amlwch. Yn 1865 symudodd i Netherfield Road, Lerpwl, a thua 1867 anrhydeddwyd ef a'r teitl o D.D. gan un o Golegau yr America. Ymgymerodd a bugeiliaeth eglwys Princes Road yn 1871, yn yr hwn gysylltiad y parhaodd hyd nes eu gwahanwyd gan angeu. Traddododd ei bregeth olaf Chwefror 22ain, 1891, a boreu Sabbath, Awst 2il, wedi misoedd o afiechyd, bu farw yn yr oedran teg o 79, er galar mawr trwy Gymru oll.

Yr oedd llafur llenyddol Dr. Owen Thomas yn fawr iawn. Cyfoethogodd y Traethodydd a chynyrch amryddawn ei ysgrifell. Ond y gweithiau arhosol, y pery ei enw yn beraroglus byth yn nglyn a hwy, ydynt Cofiantau John Jones, Talysarn, a Henry Rees. Yr oedd yn gofiantydd digymhar, ac y mae ar ei oreu yn y rhai hyn, Gwerthfawr nodedig yw ei nodiadau yn nglyn ag Esboniad Kitto, yn arbenig yr Epistol at yr Hebreaid. Meddianwyd ef gan hoffder anarferol at y copiau goreu o bob llyfr gyhoeddid, a bendith o'r fwyaf yw fod ei lyfrgell ardderchog wedi ei chadw heb ei gwasgaru, a'i rhoi yn rhodd gan y boneddwr, W. Thomas, Ysw., Bootle, i Athrofa Dduwinyddol y Bala.

FEL PREGETHWR.

Yr oedd yn Dr. Owen Thomas gyfuniad o amryw ragorion. Tystia pawb a'i clywodd ei fod yn un o wir feistriaid y gynulleidfa. Yn nghynlluniad ei bregethau, ac effeithiolrwydd a hyawdledd y traddodiad o honynt, yr oedd ar ei ben ei hun. Byddai ei ragymadrodd yn ddernyn meistrolgar. Ceid esboniadaeth eang a manwl ar y testyn; eglurai y gwahanol olygiadau; rhoddai resymau dros y golygiad a fabwysiadai ef; ac o ddeall y geiriau yn y cysylltiadau hyny, nodai y mater yr oedd geiriau y testyn yn rhoddi mantais i alw sylw ato, a cheid rhaniadau drachefn, yn gyntaf, yn ail, ac yn drydydd. Amcan ymarferol y rhagymadrodd fyddai gwneyd lle i osod y bregeth a'i chyflegrau nerthol i lawr. Wedi nodi y materion, byddai sylw pob gwrandawr yn llwyr ganddo, a chanddo air i bob un, byddai ei holl ysbryd yn ferw o danbeidrwydd a difrifwch yn dadleu, yn ymryson, yn ymliwied, yn galw, yn gwahodd, yn cymell, yn awr yn dychrynu ac yna yn denu ac yn perswadio dynion i ufuddhau i alwadau Duw yn efengyl ei Fab,-gwasgai y pechadur i gongl, ac yno mewn melusder dangosai i bechadur ar ddarfod am dano y ddihangfa ogoneddus yn nghysgod Iawn Calfaria fryn. Heblaw hyn, hynodid Dr. Thomas gan draddodiad hyawdl ac effeithiol. Talodd fwy o sylw i'r ddawn hon nac odid neb. Meddai lais oedd fel udgorn arian, yn dreiddgar a soniarus, ac yr oedd y grec gryniadol oedd yn ei lais yn swynol iawn. Parablai yn rhwydd ac eglur. Trwy ei apeliadau calon-gynhyrfiol at bechadur, a'r modd y pwyntiai at wahanol ranau y gynulleidfa, gan ail ofyn ac ail ddweyd ei fater, gyda'i lais clochaidd ac arianaidd, cynyrchai effaith drydanol a llethol yn fynych. Bu yn llwyddianus iawn i ddeffro a chyffroi miloedd o wrandawyr difraw ac anghrediniol. Yr oedd yn ei weinidogaeth dân ysol yn llosgi, gwynt nerthol yn rhuthro, taranau yn rhuo, a mellt yn saethu gyda sydynrwydd dychrynllyd, nerthoedd y byd a ddaw yn ysgytio y cynulleidfaoedd, ar ol yr hyn oll byddai y llef ddystaw fain a Duw ynddi yn tyneru ysbryd y dorf i blygu mewn ufudd—dod ffydd. Yn wyneb hyn, nid 1hyfedd fod Dr. Thomas yn cymeryd y lle blaenaf yn odfeuon y maes yn Sasiynau Cymru am y rhan helaethaf o'i oes, ac wedi cael llawn mwy na neb o odfeuon hynod. Yn hytrach nag ymhelaethu, dodwn yma adgofion am ddwy oedfa neillduol a gafodd, sydd yn rhoi syniad pellach am dano fel pregethwr,

Sasiwn Llangeitho, 1859.
Gan y Parch, J. MORGAN JONES, Caerdydd.

Cynhelid odfa olaf Sasiwn Llangeitho, 1859, yn y capel, ac er fod y rhan fwyaf o'r dyeithriaid wedi ymadael, cafodd yr addoldy ei orlenwi yn mhell cyn amser dechreu—yr oedd o ddwy fil i ddwy fil a haner o bobl wedi ymwthio i mewn y noson hono. Pregethid yn mlaenaf gan y Parch. Evan Harries, Merthyr, y tro olaf i mi weled yr hen bererin. Er mor ffraeth a tharawiadol oedd ei ergydion, methodd ddeffro y dyrfa drwyddi y noson hono. Ar ei ol cododd y Parch. Owen Thomas, a chymerodd yn destyn y geiriau hyny yn Hebreaid ix. 14, "Pa faint mwy y bydd i waed Crist," &c. Yr oedd rhyw ddifrifwch annaearol yn ei wedd pan yn codi, a darllenodd ei destyn mewn goslef mor effeithiol nes hoelio y gynulleidfa wrth ei wefusau o'r frawddeg gyntaf. Dechreuodd yn bur athronyddol, gan olrhain y gydwybod yn ei gwahanol weddau; darluniai hi fel ysgrifenydd yn cofnodi gweithredoedd, ac fel swyddog yn gwobrwyo neu yn cosbi'r dyn am ei weithredoedd ar ol eu cyflawni. Ond er fod yr ymdriniaeth yn bur arddansoddol, ac yn cario y rhan fwyaf i diriogacth na wyddent fawr am dani, eto i gyd, yr oedd tryloewder y sylwadau, goslef ddifrifddwys y pregethwr, yn nghyda'r cymhariaethau cyfarwydd a tharawiadol a ddefnyddid ganddo, yn peri ei fod yn ddealladwy i'r holl dorf. Yn y man ymwasga yn nes at y bobl, a chyda hyny dyna ei holl natur yn cyffroi, daw y geiriau allan o'i enau yn gyflym ac yn boethion fel pelenau wedi bod mewn ffwrnes, a thyna dân y pregethwr yn ymaflyd yn y gwrandawyr. Cyffelybai y gydwybod yn cofnodi i ddyn yn ysgrifenu â patent ink; pe byddai rhywun yn edrych dros ysgwydd hwnw gallai dybio nad yw wedi ysgrifenu dim, oblegyd ymddengys y ddalen o'i flaen yn wen; ond wrth ddal y papyr o flaen y tân daw y brawddegau, y geiriau, a'r llythyrenau oll i'r golwg, ïe, hyd yn nod y dot bach uwchben yr i. Yr un fath, peth hollol anweledig yw ysgrifen cydwybod i lawer ar y ddaear, ond yn y trueni, yn ngoleu tân uffern, bydd y cyfan a ysgrifenwyd ganddi yn ddarllenadwy i bawb o honynt. Erbyn hyn, nid ces un enaid o'r tufewn i'r addoldy nad ydyw wedi ei sobri; ond parhau i lifo i mewn y mae y llanw. Ymddengys y pregethwr fel Boanerges, neu ynte fel Moses yn disgyn oddiar ben Sinai, wedi bod yn derbyn y gyfraith o law Duw, ac yn ysgwyd i fysg y dyrfa y mellt oedd wedi llechu yn mhlygion ei fantell; eistedda cwmwl digofaint ar ei ael, a dyrchafa ei lais fel udgorn yr archangel. Gydag areithyddiaeth berffaith, darluniai ddyn wedi colli ei synwyrau mewn gwallgofdy yn America. Byddai'r gwallgofddyn yn dynwared dyn yn anelu a dryll, ac yn tynu'r trigger; yna gwaeddai, Fire! Fire! He is dead! He is dead! Dywedai'r ceidwad mai mab ydoedd i Dr Rush, o Philadelphia; ei fod wedi lladd ei wrthwynebydd wrth ymladd gornest, ac mai dyna'i waith er pan ddaeth i'r gwallgofdy, ail fyw y gyflafan a gyflawnwyd ganddo. Gwelodd y bobl y cymhwysiad bron cyn i'r pregethwr ei ddweyd, mai gwallgofdy yw uffern, ac mai gwaith y gwallgofiaid yno yw ail—fyw yr hen bechodau ysgeler gyflawnwyd ganddynt ar y ddaear, a llenwid eu meddwl à braw gan y syniad ofnadwy. Erbyn hyn, yr oedd y dylanwad bron yn ormod i'r pregethwr ei hun ymgynal dano; pe buasai dyn cyffredin yno, aethai yn sypyn marw dan y pwysau; ond daliodd ef, a throdd y cyffro yn wynt tan ei adenydd i esgyn yn uwch i'r uchelion fry. Yn awr, dyna ef yn cydio yn y Beibl oddiar y pulpud, yn ei godi rhwng ei freichiau, gan ysgwyd o'r naill ochr i'r llall fel dyn wedi dyrysu, a gwaedda y geiriau a roddir yn yr Ysgrythyr yn ngenau creadur wedi ei golli, "Pa fodd y caseais i addysg? Pa fodd? PA FODD? PA FODD?" Ar unwaith dyna gymaint o'r gynulleidfa ag oedd yn eistedd o'r blaen ar eu traed fel gallt o goed, ac yn edrych fel pe ar fin gwallgofrwydd. Dyrchafa un och ddofn, dorcalonus, i fyny o fynwesau dwy fil ar unwaith, nes peri i mi deimlo fy ngwaed yn aros yn fy ngwythienau, a'm gwallt yn sefyll fel cwils ar fy mhen. Wrth godi fy ngolwg, gwelwn greaduriaid celyd, a ddaliasai holl nerthoedd y Diwygiad, a'u gwynebau wedi myned yn wynion fel calch, a'u gliniau yn curo yn nghyd fel eiddo Belsassar. Yr oedd y merched gwamal welswn yn cellwair amser y bregeth gyntaf erbyn hyn wedi troi eu ffedogau am eu penau fel rhai heb wybod beth i wneyd, a thorent allan i wylo yn uchel. Ni fum mewn lle mor ofnadwy erioed. Bum mewn ystafelloedd dynion yn marw, ac yn cyfranogi o'r difrifwch sydd yn ffynu yno. Bum yn yr hall yn gwrando prawf creadur tlawd yn cael ei dreio am ei fywyd, yn gweled rhwydwaith y tystiolaethau yn cau am dano, yn gwrando siars y barnwr i'r rheithwyr, ac yn dysgwyl mewn dystawrwydd brawychus am y verdict. Ond erioed ni theimlais y fath ddifrifwch brawychus a hwn. Braidd na chredem fod y clawr wedi cael ei godi oddiar y pydew diwaelod, ac mai dolef creadur colledig yn ymgodi o'r dyfnder obry oedd y floedd "Pa fodd y caseais i addysg?" ac mai gruddfanau y cwmni truenus o'i gwmpas oedd ocheneidiau y dorf. Ond y mae y pregethwr yn parhau. "Pa fodd y dirmygodd fy nghalon gerydd? Pa fodd? PA FODD? PA FODD? Pa fodd na wrandawswn ar lais fy athrawon? Pa fodd! PA FODD! PA FODD!!" Yn sicr, nis gall cnawd ddal peth fel hyn fawr yn hwy. Ond yn sydyn, saf y llefarwr, yna dyna wedd ei wyneb yn newid, y cwmwl du yn clirio oddiar ei ael, a'r llygaid fuasai yn melltenu mor ofnadwy yn tyneru i'r mwyneidd-dra tynera' erioed, ac mewn bloedd gynhyrfus, eto orlawn o felusder gobaith, gofyna: "A oes rhywbeth a fedr buro y gydwybod?" Dystawa yr ocheneidiau am eiliad, dalia y gynulleidfa ei hanadl i ddysgwyl am yr atebiad, fel pe byddai anobaith wedi rhoddi ffordd i bryder, a theyrnasa dystawrwydd dwfn fel y bedd. A dyma yr atebiad yn dyfod fel swn olwynion cerbyd trugaredd: "Bendigedig fyddo Duw, oes y mae, Y GWAED!" Dyna ryw ddyn o ganol y llawr yn rhywle yn rhoddi bloedd felusach na'r diliau mêl: "O! diolch!" Cipiodd y dorf y floedd i fyny, ac aeth yn un fonllef o haleliwia a diolch trwy'r capel. O'r anwyl, dyna ymwared. Yr oedd fel pe byddai'r cymylau duon gwgus fuasai yn gorchuddio'r ffurfafen yn cael eu hysgubo i ffwrdd, a'r nefoedd lås, serchog, dryloew, oedd tu hwnt yn cael ei ddatguddio, neu ynte fel dyfodiad bywyd—fad at nifer o forwyr llong—ddrylliedig wedi bod am oriau lawer ar wyneb y cefnfor, ac heb ddim ond darn astell rhyngddynt a suddo. Bid sicr, oferedd meddwl am bregethu yn hwy, ond yr wyf yn tybio i'r pregethwr geisio gorphen y cyfarfod trwy weddi, oblegid gwelwn ef yn cau ei lygaid ac yn dyrchafu ei wyneb tua'r nef, eithr ni chlybuwyd sill o'r weddi hono gan neb ond Gwrandawr gweddi ei hun, ac yn yr addoldy y buwyd am oriau.

Sasiwn Caernarfon, 1884.

Ceisiwn fyn'd yn ol am enyd i'r oedfa gofiadwy yn y Pavilion yn Awst, 1884. Rhaid addef, y mae caddug deng mlynedd wedi tywyllu peth ar y darlun, ond y mae y prif linellau yn aros mor eglur ag erioed. Yr ydym yn cofio y boreu hafaidd, tesog, y torfeydd yn dylifo i'r Pavilion, a gweinidog parchus o'r Deheudir yn pregethu yn anwyl ar y pwysigrwydd o "gyngori ein gilydd bob dydd tra y gelwir hi, Heddyw." Yr oedd ei eiriau yn disgyn fel cawodydd ar laswellt, yr oedd y gynulleidfa fawr wedi ei hireiddio o dan wlith y bregeth. Yn y man y mae yn cilio o'r ffordd, a dyna yr hybarch Dr. Thomas yn cymeryd ei le.

Dyna'r penill wedi ei ganu,
Dyna'r testyn i ni 'n awr,
Dysgwyl mae y dorf awyddus,
Fel y gwyliwr am y wawr.

A thorf ardderchog ydoedd! Trown i'r cyfeiriad y mynom, dyna a welir—torf o wynebau astud, dysgwylgar, yn craffu ar un o feistriaid y gynulleidfa. Yr oedd awelon diwygiad mewn parthau o'r wlad ar y pryd, a hawdd oedd canfod eu bod yn chwythu yn ysgafn yn yı oedfa y boreu hwn, yr oedd yn eglur er's meityn y byddai yr oedfa yn un hapus a dedwydd, ond teimlwyd cyn hir fod yna rywbeth mwy, dyfnach, rhyfeddach na chydymdeimlad dymunol cydrhwng y pregethwr a'r gynulleidfa.

Dan urddas a Duw'n arddel—tystiai
Ar y testyn uchel;
Llefarai a'r fintai fel
Yn hongian wrth fin angel.

Yr oedd nerthoedd y byd a ddaw yn cerdded drwy'r lle, a dynion cryfion, celyd, yn ceisio celu y dagrau oedd yn ffrydio o'u llygaid. "Yr oeddwn i," ebai un gwr, yn eistedd yn nghwr eithaf y Pavilion, ar ffrynt y galeri. Euthum yno yn fwy o gywreinrwydd na dim arall—yr oeddwn yn awyddus i wybod a ellid clywed yn eglur o'r fath bellder. Ni chefais fy siomi, yr oedd geiriau Dr. Thomas yn disgyn fel larwm ar fy nghlyw. Wrth syllu draw i ganol y dorf ar y llawr, gwelwn arwyddion o deimlad dwys, a llawer un yn plygu ei ben mewn dystawrwydd, ond yn sydyn dyna rywbeth yn symud dros y dorf fel gwynt cryf dros faes o yd, a chlywn swn dyeithrol yn ymledu drwy yr adeilad, a chyn pen ychydig yr oedd hen eiriau cysegredig y Diwygiadau gynt wedi adgyfodi ac yn cyniwair drwy y lle. Dystawodd y pregethwr, ac nid wyf yn cofio ychwaneg, heblaw i mi gael fy hunan toc yn nghanol mintai o frodyr a chwiorydd yn canu a'u holl egni

"Pen Calfaria,
Nac aed hwnw byth o'm cof."

Fel y canlyn yr ysgrifenai cyfaill dranoeth yr oedfa,—Y blaenaf i bregethu yn yr oedfa ddeg yn y Pavilion oedd y Parch. Thomas Rees, Merthyr. Mater ei bregeth oedd "Twyll Pechod," ac yr oedd yr effaith yn ddwys iawn. Wedi canu penill, esgynodd Dr. Owen Thomas i'r areithfa, a chymerodd ei destyn yn Rhuf. viii. 32, "Y'r Hwn nid arbedodd ei briod-Fab, eithr a'i traddododd Ef drosom ni oll; pa wedd gydag ef hefyd na ddyry Efe i ni bob peth?" Yr oedd yn amlwg o'r dechreu fod y pregethwr mewn cywair da—ei lais treiddgar yn glir ac ystwyth, a'i ysbryd yn fywiog a brwdfrydig. Yr oedd ganddo, fel arfer, amryw benau i'w bregeth, y rhai a ailadroddid gyda phwyslais nes eu sicrhau yn meddwl a chof pob gwrandawr. Fel yr elai rhagddo ymchwyddai ei lais, a dadseiniai ei frawddegau drwy yr adeilad. Yr oedd dwysder amlwg wedi meddianu y gynulleidfa, treiglai deigryn gloew dros aml i rudd, a chlywid ambell "Amen" twymn fel adlais i frawddegau y pregethwr. Elai yntau rhagddo gyda nerth adnewyddol, treiddiai bywyd trwy bob cymal o hono. Dysgleiriai ei wyneb, toddai ei lais, a chyda'r areithyddiaeth hono sy'n adnabyddus i filoedd o wrandawyr Cymru, adroddai am hen wreigan grefyddol yn cyfarch ei Gwaredwr gan ddweyd—"Iesu mawr! nid wyf yn gallu dy garu, dy folianu, na dy wasanaethu fel y dymunwn, ond cofia, 'dwyt ti ddim ond yn ei haros hi!" Gyda'i fod wedi dweyd y sylw hwn, ymdaenodd rhyw deimlad dyeithrol dros y gynulleidfa; llenwid y fan gan swn "Amenau," "Bendigedig," a chyffelyb eiriau, ac nid gormod yw dweyd fod miloedd o ruddiau yn wlybion gan "ddagrau melus iawn." Safai y pregethwr fel pe. wedi ei ddal gan syndod, tra y dyrchafai lleisiau gorfoleddus oddiamgylch. Yr oedd y cyfan mor ddisymwth, mor annysgwyliadwy, ac mor ddwys fel na ellid petruso am achos a ffynhonell y fath ddylanwadau. Yn mhen ychydig, dechreuwyd canu yr emyn anwyl hono, "Gwaed y groes sy'n codi fyny," ar hen dôn boblogaidd William Owen, Prysgol. A thra yr oedd un ran o'r gynulleidfa yn canu yr emyn, yr oedd rhan arall mewn hwyl gorfoledd, yn cymysgu y gerddoriaeth â'r hen dermau hyny sydd wedi myned mor ddyeithr mewn cyrddau crefyddol er's llawer dydd, "Bendigedig," "Gogoniant i'w enw," "Diolch am Waredwr," &c. Ac yn nghanol yr amlygiadau ardderchog hyn o deimlad y terfynodd un o'r oedfaon hynotaf.

Dyma dystiolaeth ychwanegol am yr un oedfa,—Yr oedd yr oedfa ddeg o'r gloch yn y Pavilion yn un a hir gofir. Pregethai y Parch. Thomas Rees, Merthyr, ar "Dwyll Pechod," ac yn mhell cyn iddo orphen ei bregeth yr oedd yn amlwg fod rhyw arddeliad Dwyfol ar ei eiriau. Ar ei ol, pregethodd Dr. Thomas ar y geiriau—"Yr Hwn nid arbedodd ei briod Fab," &c. Gan fod teimlad dwys wedi ei gynyrchu gan y bregeth gyntaf, nid rhyfedd o gwbl i'r fflam gynyddu dan weinidogaeth danbaid y Dr. Thomas—"pregethwr y bobl" yn Nghymru. Yr oedd ei lais yn diaspedain drwy yr adeilad eangpob gair yn swnio ar glustiau pawb oedd yn bresenol, —ei ddull o ail-adrodd ei frawddegau, ail ofyn ei gwestiynau, &c., yn cael argraph ddofn ar y gynulleidfa Troai at ran o'r adeilad a gofynai—"Pa wedd gydag Ef, na ddyry efe i ni bob peth?" Yna, taranai yr un cwestiwn yr ail waith, gan droi y tro hwn i gyfeiriad arall, gyda'i lygaid yn melltenu, a difrifwch yn llenwi ei wynebpryd, a'i fys yn pwyntio fel pe buasai yn herio unrhyw un i ateb y cwestiwn. Yr oedd desgrifiad yr Efengylydd poblogaidd o'r Arglwydd Iesu fel "Oen Duw" wedi cael eftaith anarferol ar y dorf, a phan adroddedd hanesyn am hen wraig dduwiol, yr hon a ddywedai wrth yr Iesu mewn gweddi, ei bod yn methu ei garu fel y dymunai, ac a ychwanegai—"Iesu anwyl, 'd'wyt ti ddim ond yn ei haros hi"—gorchfygwyd y dorf enfawr. Llefodd un hen chwaer yn nghanol y dyrfa "Ie, wir, Amen! Diolch!" Ac yna, gyda rhyw swn anesgrifiadwy aeth y dòn o orfoledd dros yr holl adeilad—yr "Amenau," "Bendigedig," "Gogoniant," yn llanw y lle fel swn dyfroedd lawer. Nid oedd odid wyneb sych yn un man. Curai rhai eu dwylaw dan waeddi "Bendigedig," tra y synfyfyriai eraill gyda gruddiau gwlybion a'r naill haner o'r gynulleidfa ar eu traed yn gorfoleddu. Yn nghanol yr olygfa, methai y pregethwr ar y foment a phenderfynu beth i'w wneyd, eithr wedi moment o ystyriaeth uwchben y sefyllfa, rhoddodd allan yr hen emyn "Gwaed y Groes," a phrin y medrai rhai o'r cantorion ymuno gan faint eu teimladau. Yn swn cymysgedig y gorfoledd a'r canu y terfynwyd yr oedfa nodedig. Y mae y bregeth hon wedi ei chyhoeddi yn PULPUD Cymru, cyf. v.

"Rhoes nwyf a gwres y nefoedd—i enyn
Yn nghalonau miloedd;
Gwas i Grist a'i gysegr oedd,
Hynodwr Seion ydoedd.

"I lys cenedl esgynodd—ïe, gwlad
Ar ei glin a gadwodd;
A'i allu annuw a ddrylliodd,
Ac â'i dân hen greigiau dodd.

"Ei law arweiniai luoedd —i weled
Ymylon y nefoedd;
Nerth fu i'n hareithfaoedd,
A gloew sant ein eglwys oedd."

"Ai yn null gwron allan,
Mawr Wr Duw roi Gymru ar dân."


𝕴𝖆𝖈𝖍𝖆𝖜𝖉𝖜𝖗𝖎𝖆𝖊𝖙𝖍 𝖞𝖓 𝖍𝖆𝖜𝖉𝖉.

Gan y diweddar Barch, Owen Thomas, D.D., Liverpool

"Eithr y mae y cyfiawnder sydd o ffydd yn dywedyd fel hyn: Na ddywed yn dy galon, Pwy a esgyn i'r nef? (hyny yw, dwyn Crist i waered oddiuchod); neu, Pwy a ddisgyn i'r dyfnder? (hyny yw, dwyn Crist drachefn i fyny oddiwrth y meirw); eithr pa beth y mae efe yn ei ddywedyd? Mae y gair yn ages atat, yn dy enau ac yn dy galon hwn yw gair y ffydd, yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu; mai os cyffesi a'th enau yr Arglwydd Iesu, a chredu yn dy galon i Dduw ei gyfodi ef o feirw, cadwedig fyddi." RUUFEINIAID X. 6—9.

MAE yr esgusodion a ddefnyddir gan ddynion yn erbyn ymroddi o ddifrif i grefydd yn lluosog ac yn amrywiol, ac yn aml iawn yn gwbl groes i'w gilydd. Fe edrychir arni weithiau ganddynt fel rhywbeth fechan iawn, hawdd iawn, nad oes eisiau dim trafferth o gwbl gyda hi; ac y bydd rhoi ychydig amser ar ddiwedd yr oes, ar ol myn'd yn anghymwys at bob-beth arall, pan yn cael eu hunain ar gyffiniau y byd tragwyddol, yn llawn ddigon i wneyd heddwch â Duw a pharotoi at dragwyddoldeb. Y mae rhai yn coleddu meddyliau isel iawn am grefydd—heb ddim dirnadaeth, yn wir, am y drwg ofnadwy sydd mewn pechod, am eangder cyfraith Duw; a chyda rhyw hyder yn nhrugaredd a gras Duw yn meddwl y bydd ychydig amser ar wely angeu, yn ymyl tragwyddoldeb, yn ddigon i grefydd, ac felly yn oedi o ddydd i ddydd, ar hyd yr oes, heb ymroddi iddi. Y mae arnaf ofn y gall fod yn y gynulleidfa yma heddyw rywrai sydd yn perswadio eu hunain yn y difaterwch personol hwn, gyda rhyw fân resymau fel yna. Eraill yn oedi oddiar dybiau hollol wahanol—yn edrych ar grefydd fel rhywbeth mawr, uchel, anhawdd ac yn gwbl anobeithiol iddynt hwy lwyddo dim mewn ymdrech gyda hi. Mae Duw mor fawr, mor sanctaidd; mae eu calonau hwythau mor ddrwg a'u pechodau mor fawr. Y maent yn anobeithiol—yn tybio mai hollol anobeithiol iddynt hwy fyddai dodi amser at grefydd, ei bod yn rhywbeth pell uwchlaw iddynt. Feallai mai hwnyna yw yr eithaf y mae dyn yn fwyaf tueddol iddo. Pan y daw i ddechreu teimlo pryder yn nghylch ei achos personol rhyngddo â Duw—wedi iddo gael y pechadur yn ei berson ef ei hunan, yr euog dan ei groen ef ei hunan, yn cael ei hunan wedi tori cyfraith y nefoedd, yn ymdeimlo felly â phwysau euogrwydd, y mae braidd yn y perygl o syrthio i dir Cain, ac mewn anobaith yn dweyd, “Mwy yw fy anwiredd nag y gellir ei faddeu." Y mae yn bur sicr, ar un olwg ar grefydd fel yna, ei bod yn rhywbeth mawr, uchel, anhawdd, ac o du y dyn ei hunan, anmhosibl. "A phan glybu ei ddysgyblion ef hyn, synu a wnaethant yn ddirfawr, gan ddywedyd, Pwy gan hyny a all fod yn gadwedig? A'r Iesu a edrychodd arnynt ac a ddywedodd wrthynt, Gyda dynion anmhosibl yw hyn, ond gyda Duw pobpeth sydd bosibl." Ac o'i anfeidrol ras, y mae wedi darpar trefn tuag at hyny, ac y mae y drefn hono yn cael ei chyflwyno ger ein bron ni yn yr Efengyl. Acer amlygiad helaethach o'r graslonrwydd dwyfol a gynhyrfodd, hwyrach, deimlad y pechadur pyderus yn y drefn hon, y mae yr iachawdwriaeth, nid yn unig yn bosibl, ond yn hawdd. Nid yn unig y mae yn gyrhaeddadwy, ond y mae yn ymyl. A dyna y gwirionedd gwerthfawr iawn, dybiaf, sydd yn y geiriau ddarfu i mi ddarllen fel testyn. Mae y geiriau yma, yr ydych yn gweled, yn cael eu dyfynu gan yr apostol, oblegyd dyfyniad hollol ydynt o'r gair a gawn yn Deuteronomium; ac yn y cysylltiad y cawn hwy yno gan Moses, mae yn amlwg eu bod wedi eu bwriadu er dangos mor eglur yr oedd y dadguddiad a roddesid gan yr Arglwydd drwyddo ef i'r genedl,—mor eglur ydoedd, mor agos atynt, fel nad oedd raid iddynt gael neb i esgyn i'r nefoedd i'w ddwyn atynt; nad oedd raid iddynt groesi y moroedd a myn'd i wledydd dyeithr, yn ol haeriad rhai, er mwyn ychwanegu at eu gwybodaeth; fod y dadguddiad yn eu hymyl, y gair yn agos iawn atat, "yn dy enau ac yn dy galon." Y mae y Cyfieithiad Diwygiedig yn ychwanegu "yn dy ddwylaw," y gair yn agos atat, ac yn dy galon i'w wneuthur ef. Mae yr apostol yn cymhwyso y geiriau yna at ddadguddiad grasol Duw yn y drefn i gadw pechaduriaid. Y ffordd y mae yn gwneyd hyny, nid wyf yn tybio fod yr esbonwyr goreu yn gallu cytuno a'u gilydd. Tybia rhai fod yr apostol yn defnyddio y geiriau yn hollol yn ystyr Moses, ac felly yn eu dwyn yn ystyr briodol Moses, (fel yr oedd ef yn eu deall) er cadarnhau ei syniad ef am gadwedigaeth pechadur. Mae esbonwyr da iawn yn barnu fel yna,—Gibbon a Lawford yn gwneyd hyny. Y mae fod y fath ddynion yn eu derbyn yn penderfynu fod llawer i'w ddweyd o'i blaid. Yr oedd y ddeddf a roddwyd trwy Moses a rhyw wedd ddyblyg iddi—yn cynwys y gorchymyn a'r addewid, y ddeddf foesol a'r ddeddf seremoniol; a'r dadguddiad yn eglur, yn bur sicr y pryd hwnw, o drefn anmherffaith o faddeuant yn ol trefn maddeuant drwy aberth y poethoffrwm; a'r aberthau dan y gyfraith wedi eu bwriadu i rag—ddangos ac i gysgodi yr Aberth Mawr yr oedd maddeuant drwyddo. Ac felly gallasai Paul yn hollol briodol gymeryd y geiriau yn ystyr Moses ei hunan gyda golwg ar yr athrawiaeth a ddysgid ganddo ef. Mae yn debyg, wrth ddarllen y geiriau fel y maent yn Deuteronomium, mai dyna ydyw y cysylltiad naturiol ac amlwg, er nad ydyw yr apostol yma yn defnyddio yr un dull i ddwyn y geiriau i mewn ag a ddefnyddir ganddo yn gyffredin. Mae y cyfnewidiadau y mae yn wneyd yn y dyfyniad ragor mae yn arfer wneyd gyda Moses, a'r ychwanegiadau y mae yn wneyd yn nghanol y geiriau, yn gyfryw fel y tybir yn fwy neillduol mai cymhwyso a defnyddio y geiriau y mae yr apostol yma er gosod allan agosrwydd trefn iachawdwriaeth yr efengyl, i ddangos allan agosrwydd crediniaeth drwy ffydd yn nhrefn yr efengyl. Gallasai Moses wneyd hyny yn llawer mwy am y gyfraith, yn llawer mwy nag y gall Paul wneyd hyny am yr Efengyl.

YR HAWSDER SYDD I DDEFNYDDIO TREFN YR EFENGYL I GADW PECHADURIAID, A'R ANHAWSDER MAWR SYDD I GADW DRWY Y GYFRAITH.

Y mater yna fydd dan sylw. Ydach chi wedi ei gael? Iachawdwriaeth yn y Pavilion heddyw yn beth hawdd,—cadwedigaeth yn nhrefn yr efengyl yn beth hawdd! Yn beth posibl? Yn beth hawdd! Yn beth sydd yn bod? Yn beth sydd yn dy ymyl! Yn beth y gallaf ei gael? Y mae yn agos atat. Y mae cadwedigaeth—os ydwyf yn deall y testyn yn iawn—yn nhrefn yr efengyl yn rhywbeth hawdd. Ac y mae hyny yn cael ei osod allan gan yr apostol, mi dybiwn, mewn dau neu dri o bethau.

Yn y lle cyntaf: Y mae pob peth oedd yn angenrheidiol fel sail cadwedigaeth y pechaduriaid gwaethaf wedi ei wneyd eisoes gan Iesu Grist. "Na ddywed yn dy galon, Pwy a esgyn i'r nef? (hyny yw, dwyn Crist i waered oddiuchod), neu, Pwy a ddisgyn i'r dyfnder? (hyny yw, dwyn Crist drachefn oddiwrth y meirw).

Yn yr ail le: Y mae y dadguddiad o'r drefn yna yn yr efengyl mor eglur ag y gall y gwanaf ei ddeall ei gyrhaedd a'i amgyffred. "Mae y gair yn agos atat, yn dy enau ac yn dy galon."

Ac yn y trydydd lle: Y mae amodau cadwedig. aeth yn iachawdwriaeth yr efengyl yn rhai isel, a'r hawddaf oedd yn bosibl iddynt fod. "Os cyffesi a'th enau yr Arglwydd Iesu, a chredu yn dy galon i Dduw ei gyfodi ef o feirw, cadwedig fyddi."

Y mae iachawdwriaeth yn beth hawdd! Sut yr ydych yn dweyd,—fod iachawdwriaeth yn beth hawdd i mi? Wel, dyna y sut cyntaf: Y mae pob peth angenrheidiol er gosod i lawr y sail i dy gadwedigaeth di wedi ei wneyd eisoes gan Iesu Grist. 'Does dim eisicu i ti wneyd dim ffordd yna. Gellwch dybied am gadwedigaeth mewn un o ddwy ffordd,—naill ai drwy weithredoedd neu drwy ras—naill ai drwy y ddeddf ai trwy ffydd. Y llwybr naturiol i ddyn, yn ddiameu, ydyw drwy weithredoedd, drwy ddeddf. Dyna ddeddf gyffredin creadigaeth Duw i gyd. Mae pob creadur yn ddedwydd wrth gydymffurfio â deddf ei natur. Yr un modd am yr angylion, y rhai a gadwasant eu dechreuad,— maent yn ddedwydd heddyw yn y nefoedd, yn rhodio gerbron Duw, ac mi fyddant felly byth. Y maent felly yn awr, ac felly y maent wedi bod o'u creadigaeth, oblegyd eu cydymffurfiad perffaith â deddf eu natur. Fel yna yr oedd dyn, —yn ddedwydd yn ei greadigaeth gyntaf, pan ydoedd yn ei berffeithrwydd. Sut yr ydych yn dysgu yn yr Ysgol Sul? "Yn mha gyflwr y creodd Duw ddyn?" "Mewn cyflwr sanctaidd a dedwydd." Ac fe fuasai yn ddedwydd byth pe buasai yn parhau yn sanctaidd byth. Ond nid felly y bu. "Canys y mae Moses yn ysgrifenu am y cyfiawnder sydd o'r ddeddf, Mai y dyn a wnel y pethau hyny a fydd byw drwyddynt." Nid dyfynu geiriau Moses y mae yr apostol yma er mwyn cymhell y Rhufeiniaid y pryd hwnw, ac er eich cymhell chwi heddyw, i geisio cyflawni y pethau sydd yn angenrheidiol i gael bywyd, ond gosod allan egwyddorion mawr llywodraeth yr Anfeidrol, "Y dyn a wnel y pethau hyn a fydd byw trwyddynt." Defnyddiodd ein Harglwydd eiriau tebyg wrth y gwr ieuanc hwnw, "Gwna hyn, a byw fyddi." Ond tuag at gael bywyd ar y tir yna, rhaid i'r ufudddod fod yn berffaith, oblegyd beth y mae y ddeddf yn ofyn? "Ar garu o honot yr Arglwydd dy Dduw a'th holl galon, a'th holl enaid, a'th holl nerth, ac a'th holl feddwl." Yr holl galon, yr holl enaid, yr holl nerth,—ufudd—dod perffaith, nid rhanol; ufudd—dod cyson, gwastadol, parhaus, nid achlysurol, nid o heddyw allan. Yr holl galon, yr holl enaid, yr holl nerth,—yr holl ddyn yn ufudd i'r oll o'r gyfraith am ei holl fodolaeth, o lewyrchiadau cyntaf rheswm yn ei ysbryd, yn gyson, gwastadol, didranc, i'r tragwyddoldeb di—ddiwedd. Os ydych am ddyfod i fyny gyda'r ddeddf, dyna y ffordd. "Y neb a gadwo y gyfraith i gyd ac a ballo mewn un pwnc, y mae efe yn euog o'r cwbl oll." Os ydych am ddod i fyny ar dir deddf, dyna y ffordd. Fel yna mae dyfod. "Y mae y cyfiawnder sydd o'r ddeddf yn dywedyd, Mai y dyn a wnel y pethau hyn a fydd byw trwyddynt." Os ydych am ddyfod i fyny yn wyneb deddf, dyna y ffordd cadw y gyfraith yn ddigoll, heb ballu mewn un pwnc. Ond yr ydych wedi darfod a'r ffordd yna. 'Does yma ddim un yn y Pavilion yma all ddyfod i fyny fel yna; 'does yna ddim un yn Nghaernarfon heddyw, ddim un yn y byd. P'am? Yr ydym i gyd wedi tori 'r gyfraith, i gyd yn droseddwyr. "Edrychodd Duw i lawr o'r nefoedd ar feibion dynion i weled a oedd neb yn ddeallgar, yn ymgeisio â Duw. Ciliodd pawb; cyd—ymddifwynasant; nid oes a wnel ddaioni, nac oes un. Nid oes neb cyfiawn, nac oes un; pawb a bechasant—pawb a bechasant; ac y mae yr holl fyd dan farn Duw." A dyna anmhosibilrwydd hollol, anmhosibilrwydd tragwyddol. "Ac am hyny, trwy weithredoedd y ddeddf ni chyfiawnheir un cnawd yn ei olwg ef." Ond bendigedig fyddo Duw, y mae yr efengyl yn agor drws gobaith; y mae yma drefn arall. Y mae y cyfiawnder sydd o ffydd wedi llefaru, wedi dweyd rhywbeth: "Crist yw diwedd y ddeddf er cyfiawnder i bob un a'r sydd yn credu." Beth bynag ydyw ystyr "diwedd y ddeddf," y mae Efe wedi myn'd yn ddiwedd am byth i'w holl orchymynion fel amod bywyd i bob un sydd yn credu. Y mae yr ufudd—dod perffaith i'r gyfraith yn ei fywyd, a'r boddlonrwydd perffaith a roes i'r meddwl dwyfol yn ei Angau, wedi ateb i bob gofyn yn erbyn pechadur, fel y mae yn rhaid cyfiawnhau heb gyfiawnder. Ac nid yn unig hyny, y mae wedi troi gallu y ddeddf i gondemnio yn allu i gyfiawnhau, y peth oedd yn allu i gosbi yn allu i faddeu, i achub, "er cyfiawnder i bob un a'r sydd yn credu." A dyna mae y geiriau yma yn ddweyd: "Na ddywed yn dy galon, Pwy a esgyn i'r nef?" Pwy gaf i fyn'd i'r nefoedd yn fy achos? Yn erbyn y nefoedd yr wyf wedi pechu, deddf y nefoedd wyf wedi dori, pwy gaf yno i gymeryd fy mhlaid? Pwy ga' i? "Pwy a esgyn i'r nef?" Yr wyf yn gwybod fod yno hen gyfiawnder tragwyddol yn fy erbyn, yn dadleu yn fy erbyn. Pwy gaf, a chyfiawnder ganddo o'm plaid? Ga' i rywun? Oes yn bosibl i mi gael un a digon o ras ynddo, a digon o haeddiant ganddo, i fyn'd i'r nefoedd yn fy achos i? Paid dweyd fel yna. "Na ddywed yn dy galon." Paid dychmygu peth fel yna. Na ddywed hynyna yn nirgel le dy feddwl. Ystyr peth fel yna yw dweyd nad ydyw Iesu Grist wedi myn'd yno. Y mae o wedi myn'd i'r nefoedd, ac wedi myn'd i'r nef âg haeddiant anfeidrol ganddo. A fynet ti iddo ddod i lawr eto i wneyd y gwaith eilwaith? 'Does dim eisieu iddo wneyd; y mae o wedi ei orphen. Y mae o wedi myn'd yno drwy ei waed ei hun, wedi myn'd yno yn dy achos di. Y mae wedi myn'd yno yn dy blaid di. Y mae wedi myn'd i mewn i'r nef, i'r cysegr, drwy ei waed Ei hun. Ac y mae dy waith di eisiau cael rhywun i fyn'd yno cystal a dweyd nad aeth yno, ac nad yw wedi gwneyd y gwaith. 'Does dim eisieu iddo ddod i lawr eto, myn'd i'r tlodi eto, i'r groes eto, i farw eto, i'r ing eto, dim eisieu. Mae digon byth ar lyfrau'r nef dros bechadur, wedi ei wneyd pan aeth yno y tro cyntaf. "Pwy a ddisgyn i'r dyfnder?" Yno yr wyf fi yn haeddu bod. Pwy ga'i i fyn'd dan y felldith? Pwy ga' i i ddyoddef fy nghosb? Pwy ga' i? Fedra i ddim myn'd fy hunan. Pwy ga' i? Yr wyf yn cael y gyfraith yn gwaeddi, “Melldigedig yw pob un nid yw yn aros yn yr holl bethau hyn i'w gwneuthur hwynt." A finau ddim wedi aros yn yr un o honynt! Pwy ga' i i fyn'd i'r dyfnder yn fy achos i? "Na ddywed hynyna yn dy galon." Y mae Iesu Grist wedi bod yno. Yn mha le yr oedd? Beth oedd ystyr yr Iawn? Beth oedd ystyr y chwys gwaedlyd yna? Beth oedd loesau Calfaria? Beth oedd "y llefain cryf a dagrau?" Beth oedd "Fy Nuw! fy Nuw! paham y'm gadewaist?" Pa le y mae? Yn y dyfnder. "A'r holl donnau a'r llifeiriant a aethant troswyf;" digofaint yn pwyso arnaf. Dyna fo gyda dy achos di, yn dy le di, yn talu dy ddyled di, yn cyfrif gofynion cyfiawnder yn dy le di. Ac wrth i ti fyn'd i holi yr wyt yn gwadu na wnaeth y gwaith. Y mae'r Iesu wedi myn'd i fyny. Dacw holl byrth y bedd yn agor iddo, dacw lwybr y bywyd o'i flaen, dacw fo yn esgyn i'r nefoedd wedi cyfarfod pob gofyn. 'Does dim eisieu i ti fyn'd i wneyd y gwaith, nac i neb arall ei wneyd. Ond fyddai ddim yn ormod gan yr Iesu fyn'd i Fethl'em eto pe bae eisieu, i'r Ardd eto pe bae eisieu, i'r Groes eto pe bae eisieu, i gyfarfod pob gofid eto pe bae eisieu. Ond 'does dim eisieu. Y mae digon tragwyddol wedi ei gael yn y Marw unwaith rhwng lladron i foddloni meddwl Duw, i gyfarfod pob cydwybod euog. Ond pa sicrwydd sydd genyf y caf fy nghadw er derbyn yr Iesu? Y ffydd y clywaist fy mrawd (gan gyfeirio at Dr. Saunders, yr hwn a bregethai o'i flaen) yn dweyd am dani. Pa sicrwydd leiciet ti gael? Pa sicrwydd a'th foddlona di? Wnaiff yr un sicrwydd ag a gafodd Iesu Grist? Pa le y mae Efe heddyw? Nid yn y dyfnder (llais: "Nage"). Nid yn y dyfnder. O, nage. Glywi di mo'no fo yn gwaeddi, "Dangosi i mi lwybr bywyd: digonolrwydd llawenydd sydd ger dy fron, ar dy ddeheulaw y mae digrifwch yn dragywydd." O, y mae yna le dedwydd! Y mae yno wynfyd mawr! Mae yma ryw bleser tuhwnt i bob dirnadaeth. Dyma ddigon i ad—dalu am dlodi Bethl'em. Dyma ddigon i ad—dalu am ing yr ardd, am ddyoddef melldith,—y mae'r Iesu wedi cyraedd y gwynfyd i gyd. Wneiff hyna y tro i tithau? Nid er ei fwyn ei hun, nid dros berson unigol, ond y mae yno drosom nı! DROSOM NI! Y mae wedi myn'd yno; y mae Efe yn y gwynfyd mawr. Lle mae'r dyn sydd yn ofni fod ei feiau yn rhy fawr? Sut y teimlet ti pe buaset yn gallu perswadio dy hunan dy fod wedi talu y ddyled dy hun? wedi cyfarfod pob gofyn gan gyfiawnder Duw dy hun? wedi dyoddef y felldith dy hunan? Fyddai arnat ti ofn wed'yn? Ofn wed'yn? Na, fyddai arnat ddim mwy o ofn marw nag o ofn y wraig pe baet yn gallu meddwl dy fod wedi gwneyd pob peth a wnaeth yr Iesu. Y funyd y credi di, fe fyddi yn yr un fan yn y meddwl dwyfol a phe baet wedi gwneyd y cwbl dy hunan; fe fyddi yn yr un fan yn ngolwg cyfiawnder a'r Hwn a aeth i ddeddfle yr euog. Diolch iddo! Credwch ynddo. Yn Nghrist ac yr wyt yn gadwedig ac yn y nefoedd byth. Ynddo Ef! ynddo Ef! Mae digon, a digon byth, wedi ei wneyd ar ran y pechadur gwaethaf. "Mae fy euogrwydd i yn drwm." Yr wyf yn siwr i ti fod yr Iawn yn drymach. "Mae fy meiau i yn fawr." Mae haeddiant yr Iesu yn fwy. Ydi 'n wir! Derbyn yr Iesu, a thi gei fyw, cei ddianc, a dianc mewn anrhydedd tragwyddol rhag y perygl. Y mae iachawdwriaeth yn beth hawdd.

Eto, yn yr ail le: Y mae y dadguddiad o'r drefn yma yn yr efengyl mor eglur fel y gall y gwanaf ei syniad ei sylweddoli. Dyna ystyr y geiriau gan Moses, yr wy'n meddwl. Os gallasai Moses ddweyd felly am y ddeddf, yn llawer mwy y gallasai Paul, ac y gallwn ninau, ddweyd hyny am yr efengyl. Ac y mae hi yn ymyl, yn ymyl. Un o nodweddau mwyaf arbenig yr efengyl ydyw eglurder y dadguddiad o honi. Y mae y Duw mawr yn llefaru yn ymyl y dyn. Wel, y mae iachawdwriaeth yn beth mor bwysig, ac ni fuasai yn beth i synu ato pe buasai raid treulio blynyddoedd o astudio er gwybod trefn iachawdwriaeth. Y mae yn bwysig. "Ar yr hyn bethau y mae yr angylion yn chwenychu edrych," y bodau hyny sydd wedi cynefino yn y byd ysbrydol am dragwyddoldeb. Y maent hwy yn chwenychu edrych ar y drefn yma, a gwelant ryw ryfeddodau ynddi i dreiddio iddynt yn dragywydd. Dyna un o elfenau gwynfyd y nef—gogoniant dyfnion bethau Duw yn ymagor gerbron dirnadaeth y rhai sanctaidd yn ddi—ddiwedd. Ond i dy gadw di, 'does dim eisieu hyna heddyw,—mae yr iachawdwriaeth yn dy ymyl. Nid rhyw system ddofn o athroniaeth ydi hi. Mae y drefn yn syml. "Mae y gair yn agos atat," yn agos iawn atat. Dyma y gair mwyaf syml. Clywsoch fy mrawd (Dr. Saunders) yn dweyd y gall plentyn gredu, a'i fod yn credu. Dyna hi yn dy ymyl. Meddai Duw, "Ysgrifena y weledigaeth; gwna hi yn eglur ar lechau fel y darlleno yr hwn a redo." Nid gwna hi mor eglur fel y medr ddarllen a rhedeg ar unwaith, ond fel y medr ddarllen er rhedeg. Dyna yn amlwg gyfeiriad at y llofrudd yn Israel yn dianc i'r ddinas noddfa. Y mae wedi dyfod i ryw le yn ymyl, ond ei fod ef yn dechreu cloffi ei draed, ac yn myn'd i'r ddinas noddfa. Wel, ysgrifena mewn llythyrenau breision yn y fan yna, "Noddfa! Noddfa!!" Y mae yn rhedeg, yn rhedeg. O! ddynion anwyl! O! yr ydych yn myn'd yn brysur, yn brysur iawn. Y mae y dialydd ar eich ol chi, ac yr ydych yn myn'd yn gyflym. Ond bendigedig fyddo Duw, y mae ffordd y bywyd yn eglur, yn hawdd ei deall mewn gwirionedd. 'Does dim posib' i ti fethu. Os methi, arnat ti dy hun y bydd y bai. "Os cuddiedig yw ein hefengyl ni, yn y rhai colledig y mae yn guddiedig." Y mae y ffordd yn eglur. "Yna y bydd prif—ffordd a ffordd ; a ffordd sanctaidd y gelwir hi; yr halogedig nid ä ar hyd—ddi; canys hi a fydd i'r rhai hyny; a rodio y ffordd, pe byddent ynfydion, ni chyfeiliornant." "Dydw i ddim yn 'sgolar.' 'Does dim eisio i ti fod. "Ches i ddim ysgol i barotoi." Y mae yn ddrwg gen' i glywed. Ond enaid anwyl! mae y drefn yn dy ymyl. Derbyn Iesu Grist y bora yma. "Mae y gair yn agos atat," yn agos atat ti.

Ac fel y dywedwyd, y mae yr amodau yn hawdd i'r dyn: dyna'r trydydd sylw, yr amodau yn hawdd. Sut y mae i'w chael? Dyma y drefn wedi ei gorphen; bydd yn berffaith dawel. Mae cyfaddasrwydd perffaith ynddi. Sut y caf fi hi? Ydi hi yn peidio bod uwchlaw fy amgylchiadau? Nag ydi; y mae yn dy ymyl di heddyw. Y fan lle 'rwyt ti, yn y fan yna. "Yn fy euogrwydd?" Yn dy euogrwydd. "Yn fy aflendid?" Ië, yn dy aflendid. "Yn fy nhlodi? 'does gen i ddim." 'Does dim eisio i ti, Dyna y gwir. Pe na bae gen' ti ddim i dalu, fe faddeua i ti. Mae yr efengyl yn dy ymyl di. "O deuwch i'r dyfroedd bob un y mae syched arno; ïe, yr hwn nid oes arian ganddo, deuwch, prynwch, a bwytewch; ïe, deuwch, prynwch win a llaeth, heb arian ac heb werth." Fel yr wyt ti! Mae yn dy ymyl di. "Os cyffesi a'th enau yr Arglwydd Iesu, a chredu yn dy galon," a chofiwch ystyr fy mrawd (Dr. Saunders) i'r geiriau,—"i Dduw ei gyfodi Ef o feirw, cadwedig fyddi." Pe buaswn i fel a'r fel? Fel yr wyt ti. Be buaswn i wedi gwneyd y peth a'r peth? Pe baet heb ei wneyd. Pa buaswn fel hwn—ahwn? Fel ti dy hun. "Cadwedig fyddi!" "Cadwedig fyddi," beth bynag sydd genyt. Yr oedd Mr. Henry Rees yn pregethu un tro ar "Werthfawr Waed Crist," ac yn dweyd: "Sina, tarana! Ebal, melldithia! Cyfiawnder dwyfol, agor dy safn! Cydwybod euog, condemnia! Satan, edliwia! Bechadur colledig, gobeithia, GOBEITHIA! Gobeithia yn swn taranau Sinai; gobeithia pan y mae'r ddaear yn crynu; gobeithia! P'am? 'Gwerthfawr Waed Crist." Mae yna Iesu mawr wedi myn'd dan yr holl ofynion ei hunan, ac wedi dwyn iachawdwriaeth i dy ymyl di. Ydach chi am dani hi, mhobl i? Wyt ti am dani hi, machgen i? Ngeneth i, wnei di ei derbyn hi? Yn wir, yr wyf yn credu ei bod yn llawn bryd i ni ddechreu gwneyd rhywbeth gyda phechaduriaid, ac nid dod yma i wrando ac i gael rhyw ddifyrwch. Nage, mae eisio i chi gredu. Wnewch chi ddyfod 'rwan? Gaf fi eich help chi? Dowch i i gyd; gweddiwch yn y fan yna, ar dy eistedd yn y Pavilion, fel yr wyt ti. "Geidwad dyn, achub fi. Iesu Grist derbyn fi. Mab Duw, cadw fi.

"O! cofia fi gerbron y Tad,
A dangos iddo werth dy waed;
O! dadleu 'nawr yn nghanol ne'
I ti roi 'th fywyd yn fy lle.'


"Cymer fi fel yr wyf. Yr wyf yn rhoi fy hunan i ti, i fy nghadw genyt. Yr wyf yn rhoi fy hunan yn was i ti hefyd. Cei arglwyddiaethu arnaf yn gwbl; cei deyrnasu arnaf yn gwbl. Cymer fi, Iesu, fel yr wyf, a chymeraf finau dithau yn bobpeth yr wyt yn roi dy hunan i bechadur." Ydach chi yn rhoi eich hunain iddo? dyna'r pwnc mawr; ydach chi yn gwneyd? Yr Arglwydd o'i ras a fendithio ei wirionedd i sicrhau hyny, er mwyn ei enw. Amen.

[Pavilion, Caernarfon, am ddeg, Awst 25, 1887.

Englynion

PRUDD siom am Dr. Thomas—a galar
Sy 'n gwelwi cymdeithas,
Am ffyddlonaf fwynaf was,
Diwyrni yn ngwaith y deyrnas.

Arweinydd cywir union—hynod lyw
Cynadleddau Seion.
Wr a'i adlais hyfrydlon,
Mwyna 'i ddull yn mynydd Ion.

Athrylith roed i'w threulio —a doniau
Cenad enwog iddo,
Atdynawl wres i'n tanio,
Enaid ei ddydd ydoedd o.

Mwy ei olwg i'r miloedd—ni welir
Na'i haelaf ber wleddoedd;
Mwy ni cha'r Cymanfaoedd
Owen gu a'i acen g'oedd.


Gwylaidd ruddfaned Gwalia—am wron
Mawrwych ein hareithfa;
Drwy'r holl wlad pa genad ga
Unfodd ar faes Cymanfa?

'E redai 'i gyfeiriadol—rybuddion
Er baeddu 'r annuwiol,
Cyndyn rai enillai 'n ol,—
A'i goethus ddawn fygythiol.

Ei dreiddiawl ymadroddion—ei acen
A'i "hecco" 'mhyrth Seion,
Ei lais per a'i dyner dôn
Erys am oesau hirion.

Am achub drwy "Iawn y Meichia"—seiniodd
Nes swyno holl Walia:
A'i lawen Haleliwia—drwy ei ddydd
"Pwnc ei leferydd oedd Pen Calfaria."

Mwy fe'i ceir mewn dysgleirdeb—yn sangu
Gris engyl mewn purdeb,
Mwy i wanwyn mae 'i wyneb—genad gwir
I fyw ar heuldir mewn anfarwoldeb !

I ganol thronau gwynion——o gewri
Rhagoraf Bryn Seion,
Esgynodd mewn rhwysg union——enwog
Ein doniog arwr,—mae dan ei goron.

—Beren, Pwllheli


Y Parch. David Saunders, D.D.


𝔜 𝔓𝔞𝔯𝔠𝔥. 𝔇𝔞𝔳𝔦𝔡 𝔖𝔞𝔲𝔫𝔡𝔢𝔯𝔰, 𝔇.𝔇.

GANWYD David Saunders yn Nghastellnewydd Emlyn, Mai 20fed, 1831. Ond yn fuan ar ol hyn, ceir fod ei rieni wedi symud i Lanbedr Pont Stephan, sir Aberteifi, a thrachefn i Dreforris, ger Abertawe. Yr oedd ei dad yn meddu ar chwaeth dda a choethedig, yn ddyn craftus, ac yn gerddor medrus. Gwraig o feddwl craff a galluog oedd ei fam, a'i synwyr cyffredin a'i barn yn cael ei gydnabod fel yn nodedig. Pan tua deg oed tynodd y bachgen sylw eglwys Treforris fel cantwr heb ei fath—canai ddigon o alto i lon'd capel o gantorion. Hynododd ei hun yn yr Ysgol Sul a'r ysgol ddyddiol. Dysgodd y grefft o saer dodrefn, meddai ddwy law a bysedd y celfyddydwr, ond ni ddilynodd yr alwedigaeth hon yn hir. Yr oedd ei allu anarferol fel dysgwr, ei gymeriad prydferth, a'i barabl a'i ddawn ymadroddi, yn ei nodi allan fel un cymwys i weinidogaeth yr efengyl; a dechreuodd bregethu pan oddeutu 18 oed. Aeth i Athrofa Trefecca yn :851, yn mhen dwy flynedd rhyddhawyd ef i fyned i Glasgow, ond am un flwyddyn y bu yno. Yn 1855, ymgymerodd a bugeiliaeth eglwys Penclawdd, a'r un flwyddyn priododd à merch Mr. J. Howell, Pencoed. Yn 1857; symudodd i gymeryd gofal eglwys Bethania, Aberdar, a'r flwyddyn hon yr ordeiniwyd ef. Bu yma am bum' mlynedd. Yr oedd ei weinidogaeth yn llwyddianus iawn, dyblai yntau ddiwydrwydd mewn astudiaeth galed ar gyfer y pulpud. Yn ychwanegol at ei ddyledswyddau bugeiliol, bu yn golygu y Gwladgarur. Yn 1862, symudodd i Liverpool, a bu yn allu ac yn ddylanwad grymus i'n Cyfundeb yn adeg ei lwyddiant yn y ddinas hono. Oherwydd gwaeledd ei briod, aeth i Abercarn yn 1868, ac ni fu gweinidog erioed yn fwy yn mynwes ei eglwys nag yr efe gan y ddeadell yn Abercarn. Yn y blynyddoedd hyn, cyfarfu â phrofedigaethau teuluaidd chwerw a effeithiodd yn ddwys iawn arno,- torodd ei goes, a chollodd ei blant oll ond un mab. O 1873 hyd ei farwolaeth, ar eglwys y Trinity, Abertawe, y bu yn weinidog. Edrychid arno gan ei gyd-drefwyr fel addurn penaf y pulpud yn y dref, ac fel arweinydd mewn duwinyddiaeth a chrefydd, yn gystal ag mewn materion trefol a gwladol.

Ond daeth ei yrfa i ben; bu farw ar y 19eg o Hydref, 1892, ac yr oedd ei gladdedigaeth yn dystiolaeth gyhoeddus ei fod yn wr mawr ac anwyl, ac fod un o gedyrn Seion wedi tewi. Treuliodd Dr. Saunders oes lawn o wasanaeth i'w genedl a'i Dduw. Ond yn y pulpud y rhagorai; pregethu oedd ei orchestwaith. Am dros 40 mlynedd, teithiodd drwy Dde a Gogledd Cymru i brif gynulliadau y bobl, gan fynegi rhinweddau Crist a'i groes i'r tyrfaoedd gyda pheroriaeth nefol a dylanwad sancteiddiol. Swynodd y miloedd â'i ddoniau melus, a dyrchafodd enw'r Iesu trwy ei weinidogaeth. Y mae hiraeth trwm ar ei ol.

FEL PREGETHWR.

Gan y Parch. William James, Aberdar.

Gellir dweyd am Dr. Saunders, fel y dywedodd un arall am dano ei hun, ddarfod iddo gael ei neillduo gan Dduw o groth ei fam, a'i alw ganddo trwy ei ras, i ddadguddio ei Fab ynddo fel y pregethai Ef yn mhlith y cenhedloedd. Yr oedd wedi ei lunio gan awdwr natur i fod yn bregethwr. Dyna a'n tarawai gyntaf wrth ei wrandaw, sef fod pob peth pregethwr wedi cydgyfarfod ynddo, -meddwl galluog, treiddgar, a chlir, a hwnw wedi ei ddysgyblu yn dda; calon fawr yn orlawn o hawddgarwch a serchowgrwydd, ac mewn cydymdeimlad byw a thyner â'r efengyl ac a'i gwrthddrychau; cydwybod bur, na fedrai oddef dim isel nac annheilwng mewn amcan nac ymddygiad; ewyllys fywiog, mewn cydgordiad â'r ewyllys ddwyfol ei hun; cof, pan yn anterth ei nerth, oedd yn ymylu ar fod yn ddifeth yn y pulpud; traddodiad llithrig a swynol, a'r iaith a'r cymhariaeth- au goreu yn barod at ei wasanaeth; llais cyfoethog, ystwyth, mwyn a soniarus, yn hollol o dan lywodraeth ei berchenog, ac yn medru dadgan holl deimladau amrywiol ei fynwes; a braidd bob amser yr oedd ganddo destyn a phregeth fyddai yn cynwys mer a brasder yr efengyl. Pan y disgynai yr eneiniad oddiwrth y Sanctaidd Hwnw ar ei holl enaid, ac ar y gwirionedd a bregethai, yr oedd y dylanwad y mwyaf dyrchafedig a nefol a deimlasom erioed.

Cydgyfarfyddai ynddo holl anhebgorion y gwir areithydd. Safai yn naturiol ac urddasol yn y pulpud. Yr oedd pob symudiad yn weddaidd o'r dechreu i'r diwedd, a'i holl ymddangosiad yn bendefigaidd. Yr oedd yn berffaith rydd, a'i areithyddiaeth y fath nas gellid yn hawdd ei gwella. O ddechreu ei bregeth, llifai, gyda gras dros ei wefusau, mewn seiniau tyner a melus, y brawddegau mwyaf cyfoethog a gorphenedig. Fel y byddai ei ysbryd yn cynhesu, cynyddai y ffrwd, a chodai y llais yn uwch, ond ar ei uchelfan yr oedd yn hollol soniarus. Neidiai y geiriau i'w lle, fel dan ddylanwad y rhiniwr, i ffurfio y brawddegau mwyaf tlws a phriodol i'r mater, a dygid y cwbl dan deyrnged i'r amcan mwyaf goruchel, sef pregethu yr efengyl yn deilwng. Galwai un beirniad ei bregeth yn gyfansoddiad cerddorol cysegredig.

Yn mhellach, cyffroid ei holl natur, a derbyniai ysbrydoliaeth oddiwrth bresenoldeb cynulleidfa. Byddai torf, gyda llygaid a chlustiau agored cyfeiriedig ato, yn ei gyffroi er ei wneyd yn fwy o feistr ar ei adnoddau: rhoddai iddo afael sicrach ar ei bwnc, a dirnadaeth lawnach o hono, gwelai yn gyflymach ac yn gliriach y cymhariaethau mwyaf priodol i'w egluro, a pharai ei fod yn fwy medrus yn ei ddewisiad o eiriau. Sefydlai gydymdeimlad rhyngddo a'i wrandawyr mewn byr amser; deuai efe a hwythau i ddeall eu gilydd yn mron ar unwaith; ac oddiyno hyd ddiwedd y bregeth byddai y ddau yn llewyrchu ac yn adlewyrchu goleuni a gwres ar eu gilydd. Gwnai hyn, cofier, yn hollol ddiymdrech. Clywsom ef yn dweyd lawer gwaith na thalodd funyd o sylw erioed i draddodiad; astudiai yn ddyfal er dod o hyd i'r gwirionedd; ond wedi ei gael gadawai y modd i'w draddodi i ysbrydiaeth y foment. Perffeithrwydd natur oedd ei eiddo ef, ac yr oedd ei areithyddiaeth mor naturiol a dwfr yn llifo.

Nodweddid ei weinidogaeth gan eglurder anarferol. Byddai ei lwybr o ddechreu ei bregeth hyd ei diwedd fel y goleuni; yn wir, goleuni ydoedd, oblegyd pa beth bynag sydd yn egluro, goleuni yw. Gorweddai yr achos o'i eglurder mewn dwy elfen. Yn un peth, yr oedd yn feddyliwr trwyadl. Ni foddlonai ar gael cipolwg ar egwyddor; mynai ei holrhain yn ei holl gysylltiadau, a cheisiai ddeall ei therfynau a'i pherthynas ag egwyddorion eraill. Peth arall, adnabyddai, yn mron gydag anffaeledigrwydd greddf, y ffin sydd yn gwahanu yr hyn sydd yn bosibl i ddyn ei ddirnad ar y ddaear a'r hyn sydd yn anamgyffredadwy. O fewn cylch yr hyn sydd yn bosibl ei wybod, yr oedd yn feiddgar; synai rhai at ei feiddgarwch, ac ni phetrusent ei alw yn rhyfyg. Ond unwaith y deuai wyneb yn wyneb â dirgelwch dwyfol, adnabyddai ef ar unwaith, ac ymostyngai yn addolgar yn ei bresenoldeb, a cheisiai gan y gynulleidfa beidio llygadrythu mewn cywreinrwydd cnawdol, ond yn hytrach synu ac addoli. Gan ei fod mor glir, methai rhai ganfod ei fawredd fel meddyliwr, ac ystyrient ef yn bregethwr arwynebol. Anhawdd fuasai syrthio i gamgymeriad mwy. Nid oedd neb mwy medrus i dreiddio i'r dwfn, na neb yn gwneyd hyny yn fwy mynych; cynwysai agos bob pregeth wirioneddau dyfnion wedi eu gwneyd yn syml ac eglur. Y mae yn amheus genym a wthiodd neb lawer yn mhellach i'r dwfn, ond yr oedd y dyfroedd bob amser yn loew ac yn glir.

Rhoddai arbenigrwydd ar yr ochr ddynol i'r efengyl. Feallai mai efe oedd y pregethwr mwyaf dynol a welodd Cymru. Wrth ddywedyd hyn nid ydym yn golygu ei fod yn ddibris o'r dwyfol. I'r gwrthwyneb yn hollol. Yr oedd tragwyddol Dduwdod y Gwaredwr, dwyfoldeb yr oll o drefn yr iachawdwriaeth; yr angenrheidrwydd am weithrediadau yr Ysbryd Glan i aileni a sancteiddio pechadur, yn nghydag ysbrydoliaeth y Beibl, yn erthyglau diamwys yn ei gredo, a phwysleisiai arnynt yn ei bregethau. Ond ni anghofiai yr ochr arall. Yr oedd swyn diderfyn iddo ef yn y ffaith fod Iesu Grist yn ddyn, yn ddyn perffaith, a'i alluoedd corfforol ac eneidiol wedi eu dadblygu mewn modd heb fod yn anghyffelyb i'r eiddom ni—wedi ei brofi gan gyffelyb demtasiynau a ninau, ac wedi myned trwy yr un gofidiau. Ar y gwirionedd mawr hwn y seiliai gydymdeimlad tyner yr Iesu â'i frodyr ar y ddaear, ei allu i'w cysuro ac i dywallt plew a gwin i'w harchollion, Ar y cyntaf, byddai rhywrai yn ei amheu am ei fod yn pregethu efengyl mor ddynol; drwgdybid ef o fod yn tueddu at Undodiaeth: ond gwelwyd yn fuan ei fod yn cyhoeddi yr ochr ddwyfol lawn mor ddiamwys; ac yr oedd pob drwgdybiaeth am iachusrwydd ei gredo wedi llwyr ddiflanu chwarter canrif cyn ei farw.

Medrai ddwyn holl drysorau ei wybodaeth dan deyrnged i'w weinidogaeth. Tynai ei gymhariaethau oddiwrth hanesiaeth hynafol, oddiwrth gelf a gwyddor o fywgraffiadau, ac allan o farddoniaeth hen a diweddar. Yr oedd yn medru dwyn athroniaeth yn gaeth i weinidogaeth yr efengyl. Nid oedd dim tebyg i rodres neu arddangosiad o ysgolheigdod yn ei weinidogaeth, eto yr oedd y bregeth bob amser yn seiliedig ar yr ystyr mwyaf manwl a chryno o'r testyn yr yr iaith wreiddiol, ac yr oedd ei gweithiad allan a'i thraddodiad mor drwyadl ddysgedig a choeth fel y daliai feirniadaeth y mwyaf gwrteithiedig, ac eto yn ddigon syml a phlaen i'r mwyaf anwybodus. Bedyddiai y cwbl yn ysbryd yr efengyl, nes yr oedd ei bregethau, fel y traddodid hwynt ganddo ar rai prydiau, y cyfansoddiadau mwyaf gwirioneddol ddysgedig, a mwyaf prydferth a gorphenedig a wrandawsom erioed.

Yr oedd ei deyrngarwch i wirionedd yn ddiderfyn. Canfyddai y gwirionedd, credai y gwirionedd, ac am hyny pregethai y gwirionedd ——y gwirionedd noeth digymysg yn y cariad o hono. Elai bob amser i lygad y ffynon am ddwfr y bywyd. Ni chydnabyddai un awdurdod arall. Pan y ceisid ei rwymo â chadwynau awdurdod a thraddodiad eglwysig a duwinyddol, yn groes i wirionedd, drylliai hwynt fel y torai Samson raffau y Philistiaid. Medrai wahaniaethu rhwng y gwirionedd ei hun a'r ffurf yn yr hwn y cyflwynid ef; adnabyddai ef ar ol ei ddyosg o'i wisg arferol a'i wisgo â newid dillad. Perthyna i waith y dysgawdwr wahaniaethu rhwng y cyfnewidiol a'r anghyfnewidiol mewn athrawiaeth, ac yn hyn yr oedd efe yn fedrus iawn. Gosodai wedd ymarferol a phrofiadol hefyd ar y gwirionedd. Astudiai ef yn ei berthynas â dyn, ac yn y dyn a'r Duwdod ynddo yn trigo, a gosodai hyn o angenrheidrwydd wedd ymarferol ar ei holl bregethau. Clywsom un gwrandawr craffus yn dweyd na wyddai efe i ba beth yr oedd llawer o athrawiaethau yr efengyl da nes clywed Dr. Saunders yn eu pregethu, ond trwy ei weinidogaeth ef cafodd ar ddeall fod iddynt eu hamcan ymarferol, a bod iddynt wasanaethgarwch gogoneddus.

Ymgysegrodd yn hollol i weinidogaeth yr efengyl a'i hamcanion goruchel. Pan yr oedd y byd hwn yn cilio a thragwyddoldeb yn agoshau, yr oedd yn berffaith dawel gyda golwg ar ei achos ei hun; nid oedd hwnw yn pryderu dim arno; yr oedd wedi ymgymodi â phob ffurf bosibl ar y tragwyddoldeb mawr, er ei feithder diddiwedd, yn Iesu Grist; ond yr oedd dyrchafu ei Geidwad ac achub ei gydddynion yn ddymuniad angerddol yn ei galon nos a dydd, a'i weddi ddiweddaf cyn gadael y ddaear oedd ar i Ysbryd Duw beidio gadael gwrandawyr yr efengyl yn Nghymru.

ℭ𝔯𝔢𝔡𝔲 𝔞'𝔯 𝔊𝔞𝔩𝔬𝔫

Gan y diweddar Barch, David Saunders, D.D., Abertawe.

"Canys â'r galon y credir i gyfiawnder, ac â'r genau y cyffesir i iachawdwriaeth." RHUFEINIAID X. 10.

AMCAN yr apostol yn y geiriau hyn, yn gystal a'r prif epistolau a ysgrifenodd, ydyw dangos agosrwydd a hawsder trefn Duw i achub y byd ar y cyfiawnder sydd o'r ddeddf. Ac y mae yn gwneyd hyny drwy ei chyferbynu â'r cyfiawnder sydd o'r ddeddf, a roddwyd drwy Moses. "Canys y mae Moses yn ysgrifenu am y cyfiawnder sydd o'r ddeddf, Mai y dyn a wel y pethau hyny, a fydd byw trwyddynt," adn. 5, 6. A chyferbynu cyfamod Moses â'r cyfiawnder sydd o ffydd y mae yma. Yr oedd Moses ei hun yn ei ddeall fel cyfamod, ac felly y deallid ef gan blant Israel, a'r un modd yn ddilynol gan yr Iuddewon. Un ffordd o iachawdwriaeth, un oruchwyliaeth, sydd wedi bod gan Dduw yn holl oesoedd y byd. Ond yr oedd cyfamod Moses i'r Iuddewon drwy gam-ddealltwriaeth wedi myn'd yn fath o gyfamod gweithredoedd. Felly yr oeddynt hwy yn ei ddeall, "Mai y dyn a wnel y pethau hyn, a fydd byw trwyddynt." Ac yr oedd yna gryn dipyn o bethau i'w gwneyd, ac o ganlyniad, yr oedd y cyfiawnder sydd o'r ddeddf yn gyfiawnder anhawdd iawn ei gyraedd. "Eithr y mae y cyfiawnder sydd o ffydd yn dywedyd fel hyn, Na ddywed yn dy galon, Pwy a esgyn i'r nef? neu, Pwy a ddisgyn i'r dyfnder?"—geiriau oeddynt yn arferedig yn y wlad i osod allan yr hyn oedd yn anhawdd, "esgyn i'r nefoedd" a "disgyn i'r dyfnder." Ac wrth ddefnyddio yr ymadroddion hyn yn y cysylltiad hwn, y mae yr apostol yn rhoddi ystyr iddynt, pwrpasol i'r pwnc dan sylw. "Na ddywed yn dy galon, Pwy a esgyn i'r nef? (hyny yw, dwyn Crist i waered oddiuchod); neu, Pwy a ddisgyn i'r dyfnder? (hyny yw, dwyn Crist drachefn i fyny oddiwrth y meirw)." Paid ymofyn; y mae dadrys yr anhawsderau wrth dy law di, oblegyd y maent wedi eu cyflawni eisoes. Nac ymofyn, Pwy a esgyn i'r nef i ddwyn Crist i waered oddiuchod? oblegyd y mae wedi disgyn. Neu, Pwy a ddisgyn i'r dyfnder i ddwyn Crist drachefn i fyny oddiwrth y meirw? y mae wedi esgyn. Y mae yr anhawsderau i gyd wedi eu cwblhau. "Mae y gair bellach yn agos atat, yn dy enau ac yn dy galon: hwn yw gair y ffydd, yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu; Mai os cyffesi a'th enau yr Arglwydd Iesu, a chredu yn dy galon i Dduw ei gyfodi ef o feirw, cadwedig fyddi." Nid oes dim yn aros i ti yn awr ond cyffesu â'th enau a chredu â'r galon, "Canys â'r galon y credir i gyfiawnder, ac â'r genau y cyffesir i iachawdwriaeth."

Hwyrach y tybia rhai o honoch, fy nghyfeillion, y byddwn ni heddyw'r boreu yn siaräd am yr hyn sydd yn nechreu 'r efengyl, ac y buasai yn dda genych i ni fyn'd rhagom i bynciau eraill, uwch a dyfnach. Ond eto, yr ydym yn tybio, ar adegau pwysig fel hyn, y dylid ceisio dysgu ein cynulleidfaoedd am egwyddorion dechreuad ymadroddion Duw. Ceisiwn aros am ychydig y boreu yma ar yr hyn a ddywed yr apostol yn y geiriau hyn, "A'r galon y credir i gyfiawnder." 'Yr wyf yn hyderus obeithio eich bod yn gyfarwydd a'ch Beiblau i gyd, yn ddigon cyfarwydd feallai i'w esbonio yn ol cysondeb y ffydd, yn ddigon cyfarwydd i deimlo ei bwyslais, i wybod yn mha le y mae yn pwysleisio, beth sydd yn bwysig yn ei olwg, a beth sydd yn gymharol ddibwys. Ac yr wyf yn teimlo yn bur sicr, os ydych yn gyfarwydd a'ch Beiblau (fel mae yn sicr eich bod), yr ydych wedi dyfod i deimlo i sicrwydd bellach fod y bywyd tragwyddol wedi ei gysylltu â ffydd, â chrediniaeth y galon yn Mab Duw. Atebiad pendant yr Apostol Paul i gwestiwn pendant ceidwad y carchar pan ofynodd iddo, beth oedd yn rhaid ei wneyd fel y Lyddai cadwedig, oedd: "Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist, a chadwedig fyddi, ti a'th deulu."

"Canys felly y carodd Duw y byd, fel y rhoddodd Efe ei unig—anedig Fab, fel na choller pwy bynag a gredo ynddo Ef, ond caffael o hono fywyd tragwyddol." Fe allaswn i ysgrifenu llawer iawn am dano, meddai Ioan, mwy nag wyf wedi wneyd, "ond y pethau hyn a ysgrifenwyd fel y credoch mai yr Iesu yw Crist, Mab Duw; a chan gredu, y caffoch fywyd yn ei enw Ef." Dyna ddysgeidiaeth eglur, bendant, gyffredinol Llyfr Duw. Ond gwyddoch yn dda fod rhyw ddosbarth o bobl yn ein dyddiau ni yn taflu lleferydd diystyrwch ar y trefniant hwn. Pa bwys, meddant, all fod mewn ffydd? Pa wahaniaeth i neb ond y dyn ei hunan beth y mae yn ei gredu? Beth ydyw ei garictor ydyw'r pwnc. Pa fath un ydyw ei fywyd? dyna sydd ddifrifol. Ac y maent cystal ag awgrymu nad ydyw o bwys yn y byd ond i'r dyn ei hunan pa beth y mae yn gredu. Mae hynyna yn yr awyr y dyddiau hyn. Y mae yn rhedeg drwy lenyddiaeth ein gwlad. Y mae yn anhawdd i chwi ddarllen hyd yn nod bapyr newydd nad ydych yn cael rhyw gymaint o'r gwenwyn yna, a'r dynion druain sydd yn ysgrifenu felly heb ddeall eu bod yn ceisio gwneyd eu hunain yn gallach na Duw. Oblegyd os yw hwn yn Llyfr Duw (daliai y pregethwr y Beibl i fyny yn ei ddwylaw), 'dall fod dim amheuaeth ar yr hyn sydd yn ysgrifenedig ynddo. “Canys a'r galon y credir i gyfiawnder, ac a'r genau y cyffesir i iachawdwriaeth." "There is more faith in honest doubt," ebai un. Hwyrach mai dyna dipyn o'i ysbrydiaeth, os nad wyf yn camddeall ei ystyr, dydi o fawr iawn o bwys i neb yn mha beth nac yn mhwy y mae y dyn yn credu. Dyna sydd yn ddifrifol ydyw ei ymarweddiad, ei fywyd, ei rodiad.

Ond edrychwn, fy nghyfeillion, yn y lle blaenaf, i'r ffydd yma, i'r grediniaeth yma, i geisio cael allan pa fath un ydyw. Y mae geiriau y testyn o ryw gymaint o fantais i'w deall. "A'r galon y credir i gyfiawnder,"—nid â'r deall. Nid â'r gallu sydd genyt i farnu. Nage, "â'r galon," eisteddle dy serchiadau, cartref dy ewyllys di, rhan ganol y dyn, a rhan gynes ydyw hi. "A'r galon y credir i gyfiawnder." Ac am hyny, chwi welwch ar unwaith, nghyfeillion i, fod y grediniaeth yma yn rhywbeth mwy na chrediniaeth yn ngwirionedd yr hanes, oblegyd nid â'r galon yn unig nac yn benaf y mae dyn yn credu hyny. Pan ydych yn credu gwirionedd hanes, fel rheol ffrwyth gweithrediad eich barn ydyw. Yr ydych wedi bod yn pwyso, yn mantoli y peth, y tebygolrwydd a'r annhebygolrwydd, ac yn eu gosod ar gyfer eu gilydd, yn barnu a phwyso tystiolaethau a phrofion; ac yna, ar ol barnu, credu. Ond â'r galon y credir yma. Gan hyny, y mae yma rywbeth mwy na chrediniaeth yn ngwirionedd hanes. Yr ydych yn sicr o wneyd hyny i gychwyn, mae'n wir. "Gwir yw y gair," —mae yr hanes yn hanes gwirioneddol. Nid wyf yn gwybod sut y darfu i chwi gyraedd. yr argyhoeddiad yna. Hwyrach mewn amryw ftyrdd. Mae pob un, o bosibl, wedi ei gyrhaeddyd drosto ei hun, yn ei lwybr ei hun. Mae y grefydd yma yn dosbarthu profion yn brofion mewnol ac yn brofion allanol. Hwyrach fod yma rai wedi myn'd i'r drafferth i chwilio am brofion allanol,—olrhain gyda hanes hwn o oes i oes nes dod at yr oesoedd diweddar, a chael boddlonrwydd i chwi eich hunain fod yr hanes hwn wedi ei ysgrifenu yn y cyfnod yn mha un y gallasai fod wedi ei ysgrifenu, gan y personau y mae eu henwau wrth yr hanes, Efengyl Mathew gan Mathew, Efengyl Marc gan Marc, Efengyl Luc gan Luc, Efengyl Ioan gan Ioan. Ac yr ydych wedi cyrhaeddyd sicrwydd trwyadl eich hunain fod yr Hen Lyfr yma yn cynwys hanes gwirioneddol. Y mae i chwi bob croesaw i wneyd hyny. Y mae șicrach a chadarnach profion fod Mab Duw wedi bod yn ein byd ni nag fod neb arall wedi bod. Fu neb erioed yn ein byd ni adawodd gymaint o'i ôl arno ag Iesu Grist. Ac y mae profion ei fod wedi bod yma faint a fynoch i'w cael. Chwiliwch faint a fynoch ffordd yna. Mae llawer iawn mwy o brofion fod Iesu Grist wedi bod yn byw yma na bod y Duke of Wellington wedi bod yn Lloegr erioed. Mae mwy o brofion fod Mab Duw wedi bod yma ar y ddaear na bod Martin Luther wedi bod yn Germani erioed. 'Does neb erioed wedi bod yn ein byd ni adawodd gymaint o'i ôl arno a'r Iesu. Mae'r profion o hyn yn dod o bob cyfeiriad. "Iesu Grist ydyw allwedd hanesyddiaeth y byd yma," meddai un. 'Does dim posibl deall hanes ein byd ni ond yn ngoleuni Iesu Grist. Y mae parotoadau amlwg ar ei gyfer cyn iddo dd'od, a chyfnewidiadau pwysig yn nghwrs hanesyddiaeth ar ol iddo dd'od, a'r unig allwedd i ddadgloi yr hanes ydyw Iesu Grist. Mi gewch chwilio ffordd yna faint a fynoch. Ac o bosibl fod yma lawer heddyw'r bore wedi cyraedd yr argyhoeddiad fod y Llyfr hwn yn wir na chymerasoch erioed y drafferth yna, ac hwyrach nad oeddych yn meddu y cyfleusderau i'w wneyd. Ond daethoch i deimlo rywsut wrth ddarllen y Beibl drosoch eich hunain ei fod yn Llyfr Duw. Wel, sut? Wyddoch chi ddim yn iawn. Y mae rhywbeth ynddo sydd yn perswadio eich dynoliaeth ei fod yn cynwys hanes gwirioneddol. A 'does dim rhaid i chwi fod yn ddysgedig iawn i gyraedd yr argyhoeddiad yna. 'Does dim rhaid bod yn ddysgedig i adnabod dwfr y ffynon, a'i wahaniaethu oddiwrth bob gwlybwr arall o wneuthuriad dynol. Cymysged y Chemist a fyno, 'does neb fedr wneyd dwfr ffynon ond Duw, ac y mae y dyn mwyaf anllyth'renog yn y wlad yn ei adnabod ar unwaith. "Dw'r ffynon ydyw hwn; 'does dim rhaid myn'd i Lundain i wybod fod hwn yn ddw'r ffynon," meddai; "yr wyf yn ei adnabod yn dda." Y mae rhywbeth fel yna na i'w ddweyd am Lyfr Duw, —y gall y mwyaf annysgedig ac anllyth'renog ei adnabod. Dw'r ffynon ydyw hwn. Yr ydych yn teimlo ei wirioneddolrwydd yn ei naturioldeb yn yr hyn y mae yn ei ddweyd ac yn y modd y mae yn ei ddweyd, ac yn yr hyn nad ydyw yn ei ddweyd. Y mae "hyd yn nod ei atal d'wedyd yn hyawdledd" i berswadio dyn ei fod yn berffaith wir. Yr wyf yn teimlo ynof fy hun ei fod yn cynwys hanes gwirioneddol. Fe fyn rhyw bobl ein perswadio i gredu mai yr Eglwys sydd wedi rhoi y Beibl i ni. Y nhw sydd wedi setlo pa lyfrau i'w hystyried yn llyfrau Duw, a pha rai sydd i'w hystyried heb fod yn llyfrau dwyfol. Gyda phob parch iddynt, yr wyf yn ystyried eu bod yn hòni gormod. Na, gyfeillion, yr wyf yn credu mai y Beibl ei hunan sydd yn profi y pwnc, a'i fod yn cario y profion ynddo ei hunan bob amser. Y peth berswadiodd ein tadau y dyddiau gynt ei fod yn Llyfr Duw sydd yn ein perswadio ninau eto. Nid pwyllgor o seryddwyr a all setlo a ydyw y bydoedd uwchben yn heuliau. Wel, pwy sydd yn setlo y pwnc? Yr haul ei hunan. 'Does dim eisieu ond iddo ymddangos nag y mae pob byd arall yn diflanu. Nid yr Eglwys mewn un cyfnod sydd yn penderfynu pa beth i'w ystyried yn Llyfr Duw. Beth sydd yn gwneyd hyny? Y Beibl ei hunan drosto ei hun, heb gymorth neb. Efe ei hun wnaeth hyny gynt, ac efe sydd yn gwneyd eto, ac i wneyd bob dydd. Pob parch i ddynion da sydd wedi ysgrifenu llyfrau galluog i brofi ei fod yn wirionedd ac yn ddwyfol ysbrydoledig. Hwyrach eu bod yn gwneyd lles i rywrai neu gilydd. Ond o'm rhan i fy hun, yr wyf yn coelio os na 'neiff y Beibl ei hun berswadio dyn ei fod yn wirionedd ac yn llyfr dwyfol, ffarwel i bawb arall wneyd. 'Does ar Dduw ddim eisio help neb. Y mae y Beibl yn cario ei brofion ynddo ei hunan. 'Does dim eisieu ond bod yn unplyg, yn sobr, uwch ei ben nag y bydd iddo eich perswadio ei fod yn wirionedd. Ai dyna ffydd? Nage, nid dyna ffydd y Beibl. Y mae yn bosibl i chwi gyrhaeddyd hynyna oll, fy nghyfeillion, a bod yn golledig wed'yn. O'r braidd yr wyf fi heb gredu agos nad yw hyna yn meddiant pawb sydd yn y Pavilion heddyw. Rhaid cael hyna, ond ei gael i gychwyn, ei gael i fod yn sail i'r peth arall, crediniaeth, nid yn unig yn y Llyfr, nid yn unig yn y Dystiolaeth, ond yn y Person am ba un y tystiolaetha. Ac hyd nes y byddo ffydd, gyfeillion, wedi myn'd oddiwrth y Llyfr i'r Person, nid ydyw yn ffydd nac yn grediniaeth. "A'r galon y credir i gyfiawnder." Gweithrediad calon tuag at y Person mawr hwn ydyw y grediniaeth hon. Y mae hynyna i'w weled yn amlwg yn y defnydd a wneir o'r gair ffydd gan Iesu Grist ei hun. Yr ydych yn cofio am y dysgyblion ryw dro mewn 'storm, eu Harglwydd yn cysgu, a hwythau yn myn'd yn gythryblus ato, ac yn gofyn iddo, "Ai difater genyt ein colli ni?" "O," meddai Iesu Grist, "p'am yr ydych mor ofnus? paham na byddai genych ffydd?" Pa ffydd? Nid ffydd mewn tystiolaeth. Nid oedd ganddynt yr un dystiolaeth y galląsent weithredu ftydd ynddi. Wel, ffydd yn mha beth? Ffydd ynddo Ef. Sut na buasai genych ffydd ynof fi i wybod na fuasech byth yn gallu suddo yn yr un llong a mi? Ffydd ynddo Ef! Yr un modd gyda'r wraig o Ganaan pan yn dadleu gyda'r Iesu dros ei merch, a'r Iesu yn ei chadw draw am ysbaid o amser, ond o'r diwedd y mae yn ceisio teyrnas nefoedd, a'r Iesu yn rhoi ei dymuniad iddi. Y mae yn dywedyd wrth y ddynes dlawd, "Mawr yw dy ffydd, bydded i ti fel yr wyt yn ewyllysio." Wel, pa ffydd? Nid ffydd mewn tystiolaeth. Yr oedd pob gair a ddywedodd yr Iesu yn milwrio yn erbyn y ddynes, ond eto y mae yn dweyd, "Mawr yw dy ffydd." Ffydd yn mha beth? Ffydd, yn ddiau, ynddo Ef, —ffydd ei fod Ef hyd yn nod yn well na'i eiriau. "Mawr yw dy ffydd, bydded i ti fel yr wyt yn ewyllysio." Yr un modd am holl ymadroddion y Beibl sydd yn gosod allan ffydd a chrediniaeth. Weithiau, fe'i gelwir yn rhodiad ato; bryd arall, gelwir hi yn dderbyniad o hono; bryd arall, gelwir hi yn rhoddiad ato i gadw. "Miawn i bwy y credais," meddai'r apostol, "ac y mae yn ddiamheu genyf ei fod ef yn abl i gadw yr hyn a roddais ato erbyn y dydd hwnw." Dyna ydyw ffydd,—rhoddi ato i gadw,—trust, —ymddiried, ymddiried yn y Person, credu ynddo Ef, a chredu ynddo i gyd. Credu yn urddasolrwydd ei Berson, credu yn mhob awdurdod a hona ei fod yn eu meddianu, —credu yn ei ddysgeidiaeth ac yn ei holl ddysgeidiaeth, credu yn ei allu, yn ei hollalluowgrwydd i achub, a chredu yn ei addewidion. Credu yn yr Iesu, a chredu ynddo i gyd. Nid credu yn y drefn i achub. O, nage, fy nghyfeillion. Y mae yna drefn ddwyfol, trefn ag sydd yn fwy sefydlog na deddfau natur. Ond nid crediniaeth yn y drefn sydd yn achub neb. Nage, crediniaeth yn y Person. Nid crediniaeth yn yr athrawiaeth. Nage, y mae "athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb," ond nid crediniaeth yn yr athrawiaeth sydd yn achub neb. Crediniaeth yn y Person sydd yn achub. Rhaid i chi fachu eich bôd wrth Berson Mab Duw, penderfynu cymeryd eich siawns am byth gydag Ef, a phenderfynu ei ddilyn i ba le bynag yr elo. Dyna ydyw ffydd. A rhaid i chwi gael y galon, yr holl galon i wneyd hyna. "A'r galon y credir i gyfiawnder." Wel, dyna ddigon, meddech chi. Wel, ïe, am wn i.

Ond rhag ofn i chwi dybied, a gadael rhywbeth allan, goddefwch i mi ddweyd y rhaid i'r ymddiried mawr yna i'r Person gael ei ganlyn gan ymgyflwyniad llwyr iddo. Pe bawn yn dweyd fy argyhoeddiad i chwi, dyma yr elfen fawr sydd yn ddiffygiol yn ein crefydd ni—ymgyflwyniad, mynediad drosodd i fod yn eiddo iddo am byth. Dyma lle mae gwraidd ein holl ddiffygion. Gellwch gyflogi cyfreithiwr neu barrister i ddadleu eich achos drosoch mewn case, a 'does dim rhaid i'r barrister hwnw wybod eich cyfrinach na myned i mewn i hanes eich perthynasau a'ch teuluoedd. Y mae y dyn yn rhoi y wybodaeth angenrheidiol at yr achos yn llaw y bar—gyfreithiwr, y documents, ac felly yn mlaen; ac y mae yntau yn dadleu eich achos wrth y llys, ac hwyrach yn llwyddo i enill y treial, a'i gyflog yn cael ei dalu, a'r cysylltiad yn darfod. Fydd dim a fyno a'ch cyfrinach a'ch arferion personol chwi. Mae arna i ofn fod llawer iawn o bobl yn gwneyd barrister o Fab Duw. Y maent yn ceisio ganddo gymeryd at eu hachos, a'i ddadleu yn y llys fry; y maent yn cymeryd gofal i'w ganmol am wneyd, ond ddim yn golygu iddo ef ymyraeth llawer â hwy, eu dull o fyw, eu syniadau am bethau, a'u hamcanion mewn bywyd. Na, nid barrister ydyw Iesu Grist, yn dadleu achos drwg ac yn ceisio cael eu hachos yn rhydd yn y llys fry. Na, na, mistake, bobl; camgymeriad mawr ydyw hyny. Y mae Iesu Grist yn penderfynu na chymer o achos neb na byddo yn rhoi ei hunan iddo. Chymer o mo'ch achos os na fyddwch yn rhoi eich hunain am byth yn eiddo tragwyddol iddo. Mae arna i ofn mai fan hon y mae gwraidd ein holl ddiffygion ni, mhobl i; nid ydym wedi myn'd drosodd yn eiddo i Fab Duw fel canlyniad ffydd ynddo. Ac o ganlyniad, goddefwch i mi ofyn fan yma, A ydych yn byw iddo? a ydych yn byw dano? "Yr wyf yn treio byw mor foesol ag y gallaf." O, re, yr wyf yn gweled yn mh'le yr wyt yn byw: yr wyt yn byw i dy amcanion dy hun, ac yn tori can' lleied ag a elli o orchymynion moesol wrth ymgyrhaedd at hyny. Mae gen i ofn fan yma fod eich haner yn byw i chwi eich hunain yn amcanion mawr bywyd, ond yn tori can' lleied ag y galloch o orchymynion Duw wrth gyraedd at hyny. Ond "nid felly y dysgasoch chwi Grist." Ceisio gwasanaethu Duw a mammon ydyw peth fel yna. Ond y mae yn rhaid i Fab Duw gael dy amcanion di mewn bywyd yn gystal a dy gyflawniadau di. Yr wyt i wneyd byw iddo yn amcan dy fôd. Yn wir, y mae arnaf ofn i'r athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb ac i ras Duw gael eu troi yn felldith. Yr wyf wedi cyfarfod a rhai dynion oeddynt yn proffesu crefydd, ac wedi gweled amryw swyddogion eglwysig yn byw yn grefyddol felly, ond yr oeddym yn meddwl nad oedd eu crefydd yn ddim gwell na cheisio myned ar gefn Iesu Grist i'r nefoedd, ac yn lwmp o lygredigaeth. Mae yn siwr o fod, fy mhobl i. Y maent yn credu mewn rhyw athrawiaeth o gyfrifiad nad yw yn fy Meibl i. Y mae cyfrifiad yn hwn. Oes, ond sail y cyfrifiad sydd yma ydyw undeb â Mab Duw, a hwnw yr undeb agosaf sydd yn bosibl,—undeb ysbryd, undeb bywyd, undeb bod, —y dyn wedi myn'd i mewn i Grist. Sut y mae yn ei gael? Ei gyfrif iddo? Na, y mae yn byw iddo. "Ac y'm cair ynddo ef," nid drwy gyfrifiad, ond drwy fywyd; y mae wedi myn d yn eiddo i Fab Duw. Dyna sail y cyfrifiad sydd yn fy Meibl i. Undeb a Mab Duw yw ei sail. A gwyliwch chi droi gras Duw yn drythyllwch. Y mae crediniaeth yn Iesu Grist yn golygu ymgyflwyniad llwyr a hollol iddo.

Yn awr, fy nghyfeillion, gair neu ddau cyn gorphen i ddangos CYMHWYSDER Y DREFN HON.

Yn y lle cyntaf: Y mae achubiaeth dyn drwy grediniaeth ei galon yn berffaith gyson â thelerau ei gyfrifoldeb. Y dyn ei hun bia ei galon; y dyn ei hun sydd yn gyfrifol am holl weithrediadau ei galon. Fe fyn rhyw bobl ein perswadio i gredu nas gall dyn fod yn gyfrifol am ei grediniaeth, —fod crediniaeth dyn yn ol angenrheidrwydd ein natur ni, ac nad ydyw o fewn cylch ei ewyllys ef o gwbl. Pa rinwedd sydd mewn credu fod dau a dau yn bedwar? Dim. Fedrech chi ddim credu yn wahanol pe bae chi'n treio. Pa rinwedd sydd mewn credu fod y peth yn gyfan yn fwy na rhan o hono? Dim; fedrech chi ddim peidio ei gredu. Mae holl axioms Mathematics yr un fath. Yr un modd am lawer iawn o ffeithiau hanesyddol. Pa rinwedd sydd mewn credu fod y Diwygiad Protestanaidd wedi cymeryd lle? Dim. Pa rinwedd sydd mewn credu fod brwydr Waterloo wedi ei hymladd? Dim rhinwedd. Byddai y neb geisiai eu gwadu yn fwy priodol i wallgofdy nag unlle arall. Ond nid am grediniaeth y deall yr ydym yn siarad heddyw, ond am grediniaeth y galon. A gwyddoch fod llu mawr o bethau ag y mae gan ddyn i'w credu neu eu hanghredu, a'i galon sydd yn penderfynu pa un a wna. Y mae opiniynau, a barnau, a chredoau pobl yn fynych iawn yn cael eu penderfynu gan ogwyddiadau eu calon. Y maent yn credu yr hyn y maent yn ddymuno gredu, yr hyn y maent yn garu gredu, fel y maent yn ystyried eu mantais hwy yn rhedeg. Just yr un fath ag y mae y currents ar y mor. Beth sydd yn penderfynu gogwydd y currents? Rhyw anwastadrwydd dwfn sydd yn ei wely, i lawr yn y gwaelod. Y mynyddoedd a'r dyffrynoedd sydd i lawr yn y dyfnderoedd sydd yn penderfynu currents y mor. Beth sydd yn penderfynu opiniynau, a barnau, a chredoau pobl? O, egwyddorion a thueddiadau dyfnion eu calonau. Hwyrach nad ydynt yn ymwybodol o hyny bob amser. Ond i lawr yn y galon y mae y gredo yn cael ei ffurfio, yn enwedig pan fyddo person dan sylw, person, nid pethau; person, nid arwyddebau. Person sydd yn ymwneyd â chalon. A dyna sydd yn yr efengyl: Person di—gyffelyb, a hanes di—gyffelyb am y Person hwnw: dwyfol lid a heddwch nef a daear wedi cyd—gyfarfod ynddo Ef, a chroesi ar draws hanesyddiaeth ein byd ni, yn dal ei ben hyd y nef, yn honi bod yn ddadguddiad o'r Duwdod, ac am hyny yn hawlio gwarogaeth calonau pawb. I farn y daeth Hwn y tro cyntaf, i farn y daw Hwn y tro nesaf, ac y mae yn barnu y byd o hyd. Fe ddaeth â'i wyntyll yn ei law i ysgar y gwenith a'r us oddiwrth eu gilydd. A pha le bynag yr elai, yr oedd hyny o grefydd oedd yn y gymydogaeth yn myned yn amlwg yn y fan drwy gariad ato, a hyny o gau grefydd oedd yn bod dan ffug crefyddolrwydd uchel yn myn'd yn amlwg mewn casineb ato. Dadguddiodd galonau llawer pan oedd yma yn byw. Felly y mae eto yn ngweinidogaeth yr efengyl,—yn dadguddio meddyliau llawer o galonau. Hwn ydyw y maen prawf y mae y Duw mawr wedi ei osod yn ein canol, i ddadguddio ein cymeriad ac i setlo ein tynged am byth. Mae crediniaeth yn amod iachawdwriaeth yn berffaith gyson â thelerau bywyd dyn.

Ond yn yr ail le: Y mae crediniaeth yn Hwn fel amod iachawdwriaeth yn addas iawn i ddyn yn ei wendid ac yn ei dlodi. Heb haeddiant? Ië, heb brydferthwch o fath yn y byd. Heb allu? Ië, heb dalent os mynwch hefyd. Y gweithrediad mwyaf syml o eiddo enaid dyn ydyw credu. Y gweithrediad mwyaf di—dalent, os bydd yn un da, o eiddo enaid dyn ydyw credu. 'Does dim eisieu talent i gredu. Y mae plentyn bach yn credu, yn credu yn ei dad ac yn ei fam, ac yn credu yn mhawb os caiff brawf pwy ydynt. Y gweithrediad mwyaf syml, mwyaf di—dalent, o eiddo enaid dyn ydyw credu. Y bachgen o forwr ar fwrdd llong yn canu, yn prancio ar dywydd drychinog iawn; y llong yn rowlio ar hyd y moroedd dychrynllyd, yn gwybod dim am y charts, yn gwybod dim ond "Fy nhad sydd wrth y llyw." Crediniaeth yn ei dad sydd yn gwneyd y tro yn lle pobpeth arall. Y mae y Duw mawr wedi dod ag iachawdwriaeth yn agos iawn, i'ch drws chwi a minau. Beth y mae yn ei ddweyd? "Os credwch yn fy Mab I," fel y mae y plentyn bach yn credu yn ei dad ar y ddaear, "cadwedig fyddwch." Mor bell ag y gallaf fi weled, fedrai y Duw mawr ddim dod ag iachawdwriaeth yn nes at ddyn na'i chysylltu wrth grediniaeth ei galon. Yr oedd y dysgyblion pan yn ei ddilyn yn nyddiau ei gnawd, —un fechan iawn oedd eu duwinyddiaeth hwy, ac yr oedd mwy na'r haner yn gyfeiliornad. Ond y peth oedd yn well na'r cwbl—yr oeddynt yn credu ynddo Ef; yr oeddynt wedi penderfynu myn'd ar ei ol Ef i ba le bynag yr elai. Wn i ddim faint o wybodaeth sydd yn eisiau i sicrhau cadwedigaeth dyn, ond yr wyf bron a mentro dweyd y cedwir pwy bynag a gredo ynddo Ef pa mor lleied a fyddo ei wybodaeth. Fedrai Duw ddim gosod iachawdwriaeth yn nes at y dyn na thrwy ei chysylltu â chrediniaeth ei galon.

Yn y trydydd lle: Nid yn unig y mae yn gyson â thelerau ei gyfrifoldeb, ac yn addas a chyfleus iddo, ond y mae yn sicrwydd tragwyddol fod y dyn yn darfod â phechodau. Fedr Duw, fy nghyfeillion i, ddim achub dyn mewn pechod. O, na, gwaredigaeth oddiwrth bechod ydyw gwaredigaeth yr efengyl. Gwaredigaeth oddiwrth boen leiciem ni gael yn fynych. Mae gen i ofn mai dyna yr iachawdwriaeth sydd o flaen llygaid llawer iawn o wrandawyr,—iachawdwriaeth oddiwrth boen. Ond nid dyna ydyw hanfod iachawdwriaeth Duw. Iachawdwriaeth oddiwrth bechod ydi hi, mhobl i. Beth ydyw pechod? meddai rhywun. Ië, dyna gwestiwn reit dda, a byddai dda i chi dreio cael syniad clir am dano. Mae arna i ofn fod llawer iawn yn ei daflu i'r cymylau, ac yn ei wisgo mewn rhyw ddillad nad oedd efe yn eu hadnabod. Beth ydyw pechod? Anghyfraith ydyw pechod. Beth ydyw mewn ysbryd? beth ydyw mewn egwyddor? Waeth i mieich ateb ar unwaith,—dyn yn byw iddo ei hunan yn lle byw i Duw ydyw. Dyna eiriau un awdwr arno, ac yr wyf yn credu y gwnaiff y tro yn holl amgylchiadau bywyd yn mhob man. Pan y mae dyn yn byw iddo ei hunan yn lle byw i Dduw, y mae yn pechu. Dyn wedi gadael Duw fel canolbwynt ei fod, ac yn troi o'i gwmpas ei hunan fel amcan ei fod,—dyna ydyw pechod. A phan y mae dyn felly, y mae yn pechu. Y mae ffydd yn sicrhau fod y dyn wedi rhoddi y gwrthryfel i fyny yn erbyn Duw, ac y mae yn myn'd at y Brenin mawr heb ddim, heb haeddu dim, yn ymwadu â'r oll a fedda ac yn addef na fedd ddim. "Yr wy 'n rhoi y gwrthryfel i'th erbyn, y Duw mawr, i fyny am byth; derbyn fi," meddai. "Gad i'm fyw yn dy wasanaeth di; gad i mi gael cysegru amcan fy mod i ti." A dyma'r penderfyniad y mae'r dyn wedi dod iddo:

"'Rwy 'n dewis Iesu a'i farwol glwy'
Yn Frawd a Phriod imi mwy.
Ef yn Arweinydd, Ef yn Ben,
I'm dwyn o'r byd i'r nefoedd wen."

Mae yna sicrwydd tragwyddol fod y dyn wedi darfod â phechod, fy mhob! ị.

Yn olaf: Y mae yn medru dadblygu ynddo holl rinweddau cymeriad bendigedig a'i gwna yn debyg i'r Gwr y mae yn credu ynddo. Y mae yn bachu ei galon wrth ei Geidwad, yn troi i dynu iddo, i ddringo i fyny ato, nes bod yn berffaith debyg iddo yn y man. O! y mae yn dotio ar ei Geidwad! Mae yn gwledda ar ei hawddgarwch, a thrwy edrych gydag ymhyfrydiad ar ogoniant yr Arglwydd, y mae yn cael ei gyfnewid i'r unrhyw ddelw, o ogoniant i ogoniant, megys gan ysbryd yr Arglwydd. Ac wrth edrych i fyny at ei Geidwad y mae yn dywedyd:

"Pob gras sydd yn yr eglwys fawr,
 Fry yn y nef neu ar y llawr,
 Caf feddu 'r oll, eu meddu 'n un,
 Wrth feddu d' anian di dy hun.

 "Mi lyna 'n dawel wrth dy draed,
Mi ganaf am rinweddau 'th waed,
Mi garia 'r groes, mi nofia'r don,
Ond cael dy anian dan fy mron."

Y mae yn ymddyrchafu at uchder y Person gogoneddus y mae yn credu ynddo, y mae yn myn'd yn fwy tebyg iddo, ac fe ddaw yn ddigon tebyg iddo yn y man i gael myn'd ato i fyw i dragwyddoldeb. Plant di—ofal ydyw plant ffydd: trefn Duw ydyw trefn ffydd. Mae mwy o philosophi ynddi nag sydd mewn llawer o bethau, nag sydd yn llyfrau philosophi ein byd ni. Coeliwch Dduw, gyfeillion; mentrwch ar air Duw, a mentrwch ar Berson Mab Duw. Fe'ch cwyd chwi i fyny o ran eich personau a'ch cymeriadau ato yn y man i fyw gydag Ef.

[Pavilion, Caernarfon, am ddeg, Awst 25, 1887.

DR. SAUNDERS.
Gan y Parch. E. REES (DYFED), Caerdydd.

Siomedig fyd!
Mae cysgod angau drosto i gyd,
A ffordd y bedd yn wlyb o hyd;
Ar brudd weddillion SAUNDERS fawr,
Daeth cawod arall, drom i lawr,
A chalon gwlad sydd ynddi'n fud.

O'r glyn islaw,
Y tremiwn dros y bryniau draw,
Drwy niwl y bedd i'r byd a ddaw;
A chariad sydd yn chwilio'n syn
Am ryd ysbrydion yn y glyn,
A blodau adgof yn ei law.

Ond nid oes rhyd
I groesi afon ola 'r byd,
Mae hyd ei glanau 'n llawn i gyd;
Dychwela serch yn glwyfus wan,
Gan ado 'i flodau ar y lan,
A'i galon yn y glyn o hyd.

Yr anwyl was,
O'i foreu gwyn a brofodd flas
Digonedd Duw ar lwybr gras;
Wrth gychwyn ar yr anial dir,
Dilynodd golofn dân y gwir,
Heb gwmwl yn ei wybren las.

Fel angel nef,
Ar lwyfan Duw y cafwyd ef,
Yn deffro gwlad â'i hyfryd lef;
Ac enaid, fynai roddi llam
Yn grin i wyneb bythol fflam,
Ataliai a'i ddeheulaw gref.


.
Ei bregeth fwyn.
Fel "Pren y Bywyd" oedd yn dwyn
Rhyw "ddeuddeg ffrwyth" o nefol swyn;
Ysgydwai'r cangau, ac i lawr
Y deuai'r ffrwyth yn gawod fawr,
Ac enaid tlawd anghofiai'i gwyn.

O hapus awr!
Pan godai'n y Gymanfa fawr,
A'i wyneb fel y boreu wawr;
Llewyrchai gras o'i ddysglaer lith,
Fel haul belydrau ar y gwlith
Oedd ar y dorf yn treiglo i lawr.

Hyawdledd llawn
Ymdonai drwy ei felus ddawn,
Fel awel dros fynyddau'r Iawn,
Ar faes agored euog fyd,
Anadlai'n dyner leddf o hyd
Yn fywyd newydd ar y grawn.

Y Groes! Y Groes!
Oedd ymffrost ei lafurus oes,
A'i dirmyg yn ogoniant droes:
Cysgodau'r groes, a lliw y gwaed,
Ar wynder ei feddyliau gaed,
A theimlai drydan Dwyfol loes.

Fel llif o ser,
Ar eang draeth ei ysbryd ter,
Chwareuai drychfeddyliau Ner;
A gwelid gwlad yn dod o draw,
I eistedd ar y graig gerllaw,
I wrando'i awenyddiaeth ber.

Ei ysbryd byw
Chwenychai rodio gyda Duw
Fel gyda Chyfaill yn mhob rhyw
Ystormydd blin, bu pwys ei ben,
Fel Ioan, ar ei fynwes wen,
A chariad foroedd yn ei glyw.


Gymeriad pur!
Yn bwrw i wraidd mewn dwyfol dir,
A'i frig dan flodau'r Nef yn ir;
O'i blygion tyner, ar y byw
Dyferai hedd efengyl Duw,
A'i ddail a berarogla'n hir.

Ar ben ei daith,
Ar ol ei "ddeugain mlynedd" gwaith,
Ei gwsg sydd felus; ond y mae iaith
Gyfriniol enaid yn y glyn
Mewn dagrau'n cwyno, ac ni fyn
Ar glo y bedd ddystewi chwaith.

Ti, Ysbryd Glan,
Ffynonell bywyd, dawn, a chan,
O cofia'n gwlad! Dy dystion mân
Sy'n crynu gan bryderon byw,
Yn ngwag adwyau cewri Duw—
Rho ar eu min dy ddwyfol dân.



Y Parch. David Charles Davies, M.A.


𝔜 𝔓𝔞𝔯𝔠𝔥. 𝔇𝔞𝔳𝔦𝔡 ℭ𝔥𝔞𝔯𝔩𝔢𝔰 𝔇𝔞𝔳𝔦𝔢𝔰, 𝔐.𝔄.

FEL PREGETHWR.
Gan y Parch. J. Puleston Jones, M.A., Bangor.

FEL un o'r fintai fechan hono o ddynion sydd wedi chwyddo cyfoeth meddwl eu gwlad a'u hoes y cofir David Charles Davies. Dyna ei ragoriaeth benaf; a dyna fuasai ei ragoriaeth fawr, pa ffurf bynag a gymerasai ei lafur. Meddyliwr oedd y dyn: ac fe ddeuthai hyny allan mewn unrhyw gylch yr äi dyn fel efe iddo. Bu yn son, pan oedd efe yn bur ieuanc, am fyn'd yn gyfreithiwr. Pe cyfreithiwr fuasai, er y gosodasai arferion y gwaith hwnw rywfaint o'u delw arno ef, fel ar bawb arall, gosodasai efe lawer mwy o ddelw ei feddwl hynod ei hunan ar y gwaith. Yn awr y mae crefydd Cymru ar ei mantais yn fawr, nid o fod gan Gymru fwy o ddynion mawr na chenhedloedd eraill,---ni fedd yr un genedl lawer o'r rheiny yn ol yr herwydd, ond o fod llawer o ddynion mawr Cymru wedi myn'd yn bregethwyr. Ni wyddom ni ddim eto beth yw bod am dymor hir heb do o ddynion goreu y genedl yn y pulpud.

Pregethu oedd prif waith oes Mr. Davies. Gwir yr ystyriai efe ei hun, a chyda llawer o briodoldeb hefyd mai dysgu pobl ieuainc oedd ei genadwri arbenig ef; a chafodd gyfle yn niwedd ei oes i roi toraeth ei lafur i hyny am ddwy flynedd a haner. Yr oedd yr athraw yn y pregethwr, hefyd, ar hyd ei oes. Eto trwy y rhan fwyaf o'i yrfa, pregethu oedd ei brif lwybr i ddweyd ei feddwl. Y mae y darlithiau argraffedig, a'r Esboniad ar Epistol Cyntaf Ioan, yn hen ddigon i osod Mr. Davies yn y rhes flaenaf o ysgrifenwyr llyfrau, er mai ychydig a ysgrifenodd. Ond wedi'r cwbl, y mae deunydd cyfrolau lawer o lafur, pe gellid ei gynull, eto yn ol yn ei bregethau. Bydd y nodion ar yr Epistol at yr Ephesiaid, pan ddelont allan i gyd, yn ychwanegiad gwerthfawr dros ben. Ac onid yw yn beth i ddiolch i Dduw am dano, fod un o'n meddylwyr disgleiriaf ni wedi mentro rhoi hufen ei feddyliau yn yr ymdrech i egluro yr efengyl i gynulleidfaoedd cymysg cyffredin? Y mae yn glod i gyfarfodydd pregethu Cymru, fod pregethu o fath ei bregethu ef yn hoelio sylw cynulleidfa fawr cystal a'r doniau mwyaf poblogaidd.

Rhaid cofio hefyd, ar fater fel hyn, fod aml i ddwl yn gwrando ar farn y doeth, ac yn teimlo, gan mai canmol y mae hwnw, mai canmol ddylai yntau, er bod ar ei oreu yn gwerthfawrogi yr un a ganmolir ganddo. Er hyny y mae poblogrwydd David Charles Davies yn beth hynod iawn, ac yn arwydd diamwys er daioni Ac ni fuasai dim ond ei ddoniau amlwg fel meddyliwr yn peri i bobl son cyn lleied am y gamp oedd arno fel llefarwr. Yr oedd yn fwy o feistr ar y grefft o bregethu, heb son am ddim byd uwch, nag oedd haner ei wrandawyr yn ei feddwl; ac y mae y rhagoriaeth oedd ynddo yn hyn o bwnc yn heuddu gair o sylw.

Sylwai y Doctor Saunders, wedi ei wrandaw ryw brydnawn yn Jewin, Llundain, gwrandaw a'i wyneb at y bobl, a Mr. Davies yn pregethu i'r rhai y buasai yn llafurio yn hir yn eu plith, —" Mi welaf," eb efe, "pa le mae brwdfrydedd eich cynulleidfa chwi, yn yr un fan a'ch brwdfrydedd chwithau. Y mae rhyw ddwsin o lygaid byw, yn serlo arnoch chwi drwy'r amser." Ac yn wir, heb law y rhai fyddai'n dilyn pob trofa yn yr ymresymiad, teimlai corff y gynulleidfa oddiwrth awdurdod byw, diorphwys, y pregethwr. Eithr yr oedd yn fwy peth gan Mr. Davies, dybygid, gael ychydig o'i wrandawyr yn fyw iawn, na chael y corff o honynt i wrandaw o gydwybod, gyda'r astudrwydd marw hwnw, os astudrwydd hefyd, sydd yn derbyn pobpeth yr un fath. Byddai troion yn o aml, pryd yr ymledai y gwrando byw, meddylgar, dros dyrfa fawr. Gwelwyd rhan fawr o gynulleidfa wedi codi ar eu traed, bron heb yn wybod iddynt eu hunain, dan bregeth o'i eiddo yn Nghwm Rhondda.

Llais bychan: ond rhyfedd yr awdurdod oedd yn hwnw hefyd, awdurdod heb ddim rhodres pregethwrol, a bywiogrwydd gwisgi heb un math o ddiffyg dwysder. Bydd gan rai lais cysegredig ar gyfer y pulpud a'r cyfarfed gweddi, a llais cyffredin at oruchwylion eraill. Nid oedd gan Mr. Davies ddim byd felly. Nid oedd ganddo ddim tinc Fethodistaidd, hirllaes. Yr un llais fyddai yn gwneyd y tro yn y bregeth a'r ddarlith a'r cyfarfod darllen: ac eto, yr oedd defosiwn lond ei barabl, pan godai i roi gair i ganu. Byddai gwamalwch meddwl ac ysbryd yn dofi yn ei wydd. Medrai fod yn naturiol heb fod yn iach. Ni chlywech chwi byth mo'r swn talog, didaro hwnw, sydd mor gynefin yn araethyddiaeth y Sais. Llefarai yn o ddistaw i ddechreu; ond cyn pen pump neu ddeng munyd, fel rheol, deuai yn berffaith hyglyw i dorf fawr; a pharhai felly, heb godi na gostwng llawer, hyd y diwedd, ond fod rhyw ferw o bwyslais, a rhyw oslef o swn holi, ac ambell i don o lais cryf, praffach nag arfer, yn peri digon o amrywiaeth i wneyd y traddodiad yn hollol ddifyr i'r glust. Llonyddai ac arafai dipyn at y diwedd, wrth gloi'r cwbl i fyny; a cheid yn y fan hono, yn lled gyffredin, beroration tawel, gyda'r perfeithiaf a glywech chwi gan unrhyw areithiwr. Cordeddu adnodau a phenillion y byddai Mr. Davies yn y darn hwn; ac ni buasai y bregeth, er ei chystal, ddim dan ei choron heb hwn.

Am arddull Gymraeg Mr. Davies, nid yw ei bethau argraffedig, rywfodd, yn gwneyd llawn degwch â hono. Nid bai y golygwyr na'r copiwyr ydyw hyn chwaith. Y mae yn debyg y byddai efe ei hun yn ysgrifenu yn fwy noeth a chynil nac y llefarai, yn debygach i'w arddull wrth bregethu Saesneg. Yr oedd hono yn bur ac yn goeth dros ben, ond fod llai o chwareu ynddi, a llai o amrywiaeth yn y dull o lunio brawddegau. Na feddylied neb chwaith y byddai Mr. Davies yn rhoi rhaff i'w ddawn, wrth siarad mwy nag wrth ysgrifenu. Yr oedd chwaeth dda yn bwnc mawr ganddo; ac yr oedd yn rhy selog gyda'i fater i ymdroi llawer i dynu darluniau. Ac eto, pan fyddai ei ysbryd yn danbaid, ac yntau yn nofio yn hwylus yn ei fater, byddai cyfoeth a harddwch a phriodoldeb ei ymadrodd yn taro pawb.

Y mae yn werth sylw areithwyr a llenorion ieuainc, fod dau o brif feddylwyr ein cenedl yn dra hoff o frawddegau byrion—Dr. Lewis Edwards a David Charles Davies. Nid oes dim y teimlem yn fwy diolchgar am dano, na chasgliad o ddiarhebion Mr. Davies. Dylid ei gael, cyn i'r rhai a wrandawodd lawer arno fyn'd o'r cyrhaedd. Byddai ei bregethau a'i anerchiadau seiat yn dryfrith o honynt. Dyma ryw ychydig iawn o esiamplau,

"Enw Duw yn fyr ydyw y Tad, ac yn llawn,—Y Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glan."

"Iorddonen sych yw Iorddonen y Beibl."

"Peidiwch a rhwymo dwylaw Duw yn eich gweddiau."

"Dyna yw maddeuant, nerth i beidio pechu."

"Y mae ambell un a fedr wylo gyda'r rhai sydd yn wylo, heb ddysgu bod yn llawen gyda'r rhai sydd lawen."

"Hunan yn lle Duw yw hanfod pechod."

"Nid yw pethau sanctaidd yn sancteiddio: y mae pethau ansanctaidd yn llygru."

" Nid caru cymeradwyaeth dynion yw y drwg, ond caru cymeradwyaeth dynion yn fwy na chymeradwyaeth Duw."

Byddai damhegion Mr. Davies bob amser yn rhai da.

"Pan gyfieithir y Beibl i iaith newydd, fe'i cyfieithir ar ei union o'r gwreiddiol. Gallasai fod fel arall, cyfieithu'r Saesneg o'r gwreiddiol, a'r Cymraeg o'r Saesneg, a'r Khassi o'r Cymraeg. Ond pe felly y byddai, ceid gwallau pob cyfieithiad yn y nesaf. Eithr nid felly y mae. Na, y Saesneg o'r gwreiddiol, y Cymraeg o'r gwreiddiol, y Khassi o'r gwreiddiol. Fel yna y mae Iesu Grist yn rhoddi ei ddelw ar y credadyn. Nid Stephan yn cael ei grefydd gan Grist, a Phaul gan Stephan, a Thimotheus gan Paul. Na, Stephan gan Grist, Paul gan Grist, Timotheus gan Grist."

"Mesurau caethion crefydd oedd seremoniau y gyfraith Iuddewig; ond daeth Iesu Grist, fel y bydd ambell i fardd mawr, i roi gwrid bywyd yn y mesurau caethion."

Heb i ni ymdroi rhagor gyda cheinion ei arddull, eu gogoniant penaf hwy oedd, eu bod yn llwyr wasanaethgar i brif amcan y bregeth. "Nid oes dim rhyfeddach," meddai mewn ymddiddan unwaith, "dim mwy newydd, na'r gwirionedd ei hunan pe bai modd ei ddangos." Ni byddai efe byth yn gweithio addurn; byddai yn fynych yn addurno gwaith. Ni chaech chwi byth ganddo ef ragymadrodd esboniadol, ond lle byddai hwnw yn agoriad teg ac angenrheidiol i bwnc y bregeth. Dywedai beth fyddai'r pwnc weithiau rhwng cromfachau, megis, wedi eisoes ddechreu arwain ei wrandawyr ato, "at hyn yr ydw' i'n ych arwain chi," meddai yn y fan yna, heb golli dim amser i godi materion yn y drefn arferol; ac yn ei flaen ag ef wed'yn, i ofyn cwestiynau.

Darn difyr fyddai hwn yn wastad, a tra nodweddiadol o'r pregethwr. Codai wrthddadl. Dangosai fod peth gwir yn yr wrthddadl. Yna eglurai derfynau y dyb y seiliesid yr wrthddadl arni ; a dangosai fod y gwirionedd dan sylw i'w ystyried ar dir arall, tuhwnt i'r terfynau hyn, fel na ddaliai y ddadl ddim. Os oedd gwrthddadl arall, triniai hono yr un fath. Os oedd gormod o rywbeth gormod o hyn oedd. Y mae temtasiwn dyn yn y fan lle mae ei gryfder. Tybiai rhai dynion diathroniaeth, fod Mr. Davies, o ryw aspri haner direidus, yn codi anhawsderau er mwyn yr hyfrydwch o'u bwrw i lawr. Ond erbyn dyfod i'r darn diweddaf, y darn oedd yn crynhoi nerthoedd y bregeth; gwelid ystyr a dyben i lawer ymresymiad dyfeisgar yn y darn o'r blaen, a edrychasai ar y cyntaf yn gywrain a dialw am dano.

"Chwychwi yw fy nghyfeillion." A all Duw a dyn fod yn gyfeillion ? Y mae gwahaniaeth bychan iawn rhwng dynion a'u gilydd yn peri nad ä'n nhw ddim yn gyfeillion. Y mae pethau mawr pob dyn yr un fath. Yn y pethau lleiaf y mae rhagor rhyngddynt. Gwahaniaeth oedran. Rhagor mewn gwybodaeth. Tipyn bach o wahaniaeth safle yn y byd, byw mewn dwy stryd wahanol. Ychydig iawn yw y gwahaniaeth, mor ychydig na wyr ond yr Hollwybodol beth yw e'; a dydw i ddim yn sicr y gwyr e'. Y mae y pethau bychain yna yn ddigon i beri nad ä'n nhw ddim yn gyfeillion. A pheth yw hyny yn ymyl y gwahaniaeth rhwng dyn a'r anfeidrol Dduw, rhwng y Duw glan a'r pechadur? A allant hwy fyn'd yn gyfeillion? Os gelli di faddeu, fe all peth mor fawr a hyny fod.

"Fy nghyfaill wyt,' medd Ef, wrth lwch y llawr;
'A'th Dduw wyf fi i dragwyddoldeb mawr."

Dyna yn fyr rai o gamrau pregeth o'i eiddo ar y testyn uchod Fel yr awgrymwyd nad oedd y rhagymadrodd byth yn un gosod, nid oedd y cymhwysiad byth felly chwaith. Cymhwysiad i'r bregeth hono ydoedd, nid cymhwysiad pren, y gellid ei fachu wrth haner dwsin o bregethau gwahanol. Yr oedd Mr. Davies yn rhy fyw i'w neges ar y pryd, i gymhwyso'r efengyl i gyd yn mhob oedfa.

Prin y perthyn i ni yma fyn'd ar ol rhagdybiau athronyddol ei ddiwinyddiaeth; ac y mae y pwnc hwnw yn un mawr. Yr oedd yn newydd, ac yn fentrus, yn yr ystyr oreu i'r gair; ond yr oedd yn gadarn iawn yn ei afael ar y Beibl, fel Datguddiad oddi uchod. Yr oedd awdurdod yr Ysgrythyrau fel postulate y tu cefn i'w holl ymresymiad ef. Hwyrach nad anaddas yn y fan yma rhoi siampl neu ddwy o'i dlysni anghydmarol fel esboniwr.

"Yr Arglwydd yw fy rhan, medd fy enaid. Yr Arglwydd yw fy ngwlad Canaan."

......Yn llifeiriant dyfroedd mawrion ni chant nesau ato ef, Ti ydwyt loches i mi........"Cyfeiriad at y diluw a'r Arch, fel y canodd Ann Griffiths,

"Arch i gadw dyn yw Duw."

"Llawenydd am un pechadur a edifarhao." Dau lawenydd yn cyd—gwrdd, llawenydd dau fath o gariad—cariad o dosturi at y pechadur, a chariad o ymhyfrydiad at y pechadur wedi ei gadw trwy ras. Ar adeg ei edifeirwch y mae y ddau gariad yna gyda'u gilydd, a hyny yn gwneyd deufor—gyfarfod o lawenydd."

Nid amcan y sylwadau hyn oedd cynyg beirniadaeth ar Mr. Davies, ond ceisio dweyd wrth y rhai sydd heb ei glywed, fath un ydoedd. Teimla y rhai a'i clywsant, yn ddiau, mor gwbl anghyfartal i deilyngdod y testyn yw hyn o gais. Bellach ni a'i gadawn ef dan gwmwl goleu cymeradwyaeth ei Arglwydd, y cwmwl goleu a welwyd ar fynydd y Gweddnewidiad, ac sydd fel y dywedai Mr. Davies ei hun, i'w weled eto o amgylch y gwir bregethwr.

Byr-hanes

Ganwyd David Charles Davies yn 1826. Yr oedd yn wyr i David Charles o Gaerfyrddin ac yn nai i Edward Jones, Aberystwyth. Wedi bod am dymor yn ysgol John Evans, Aberystwyth, y dref lle'i ganwyd, aeth i'r Bala yn unarddeg oed. Oddiyno gyrwyd ef at un Fletcher, yn byw gerllaw Hanley, er mwyn ei barotoi i sylweddoli ei fwriad o fyn'd yn farister. Ysgol oedd gan Mr. Fletcher i blant rhieni cefnog eu hamgylchiadau; ac ymddengys fod yno fwy o fywyd ffasiynol nag o ddysgu. Yn Hanley, pa fodd bynag, y dechreuodd David Charles Davies dyfu yn bregethwr, heb yn wybod iddo ei hun, wrth gynorthwyo yr ychydig Gymry fyddai yno yn ymgynull i gydaddoli. Ac efe eto yn fachgen, aeth i Lundain, i efrydu ar gyfer graddau y Brifysgol yno. Enillodd y "B.A.," yn unarhugain oed, a'r "M.A." yn dair ar hugain. Newydd orffen arholiad y "B.A.," symudodd i Brifysgol Glasgow, nid i gymeryd y cwrs i gyd, ond i ddilyn rhai o'r dosbeirth. Yno, yn fwy o bosibl nag yn Llundain, y cymhwyswyd ef i fod yn amddiffynydd y ffydd, trwy daro ar lawer o wyr ieuainc meddylgar oedd wedi llithre i ameu a gwadu.

Tra bu yn Llundain, cyhoeddid ef i bregethu mewn rhai o'r lleoedd Cymreig, a hyny yn aml heb ei ganiatad. Elai yntau bob amser yn ddi—nag. Gartref yn y Tabernacl y rhowd llais yr Eglwys i'w anfon ef allan fel pregethwr, ar ol iddo fod yn pregethu yn achlysurol am flynyddau. Bu yn gweinidogaethu yn Llanfair Muallt ddwywaith ; a rhwng y ddau dymor hyny, bu yn Lerpwl, gyda'r gwaith cenhadol a roes fod i Eglwys Windsor Street. Yn ystod ei ail dymor yn Llanfair Muallt y priododd Mr. Davies â Miss Cooper o Langollen. Y Dref Newydd oedd ei gartref nesaf; ac wedi arhosiad byr yn y fan hono, symudodd i'r lle oedd i fod yn gylch ei lafur am chwarter canrif; ac fel David Charles Davies, Llundain, yr adnabyddid ef bellach, nes iddo wneyd ei gartref yn Mangor yn 1882. Yn niwedd 1888, derbyniodd alwad unfryd y Deheudir i fyn'd yn Brifathraw Coleg Trefecca, lle y llafuriodd yn egniol hyd derfyn ei yrfa. Yn wir ni wyddai efe ddim am seguryd o'r dechreu i'r diwedd. Tra y bu yn Mangor yr oedd Eglwys Prince's Road dan ei ofal; a chyda hyny, dros ran o'r amser, cadwai gyfarfodydd wythnosol yn y Graig, ac yn Nghapel Saesneg Porth Aethwy. Bu farw yn Medi, 1891, O fewn ychydig ddyddiau i'r adeg yr oedd efe i fod yn y Bala, yn pregethu ar ail agoriad y Coleg hwnw.

"Dyna ddymunwn i," ebai Mr. Davies yn un o'i bregethau diweddaf, a'r Beibl agored yn ei ddwylaw, gan ddangos yr Hen Destament i ddechreu, a'r Newydd wed'yn, ac yna ddal i fyny y ddalen wen sydd rhyngddynt, "dyna ddymunwn i,—fod fy mywyd i yma fel yr Hen Destament, yn llawn o ddysgwyliadau a dyheuadau; a mywyd i yna, fel y Testament Newydd, yn llawn o gyflawniadau, yn para i ymestyn byth yn mlaen; a'r amgylchiad sydd rhyngddynt fel y ddalen wen sy'n gwahanu ac eto yn cysylltu 'r ddau."

𝔊𝔴𝔶𝔯𝔡𝔯𝔬𝔞𝔡 𝔬'𝔯 𝔈𝔣𝔢𝔫𝔤𝔶𝔩.

Gan y diweddar Barch. D. Charles Davies, M.A., Trefecca.

"Y mae yn rhyfedd genyf eich symud mor fuan oddiwrth yr hwn a'ch galwodd i ras Crist, at efengyl arall: yr hon nid yw arall; ond bod rhai yn eich trallodi chwi, ac yn chwenych dattroi [neu wyrdroi] efengyl Crist." GALATIAID I. 6, 7.

"Y MAE yn rhyfedd genyf eich symud,"nid eich bod wedi symud, ond eich bod yn symud. "Mor fuan," mor fuan ar ol gwrando yr efengyl, mor fuan ar ol credu, mor fuan ar ol derbyn yr Ysbryd wrth wrandawiad ffydd, mor fuan ar ol i Grist wedi ei groeshoelio gael ei bortreadu o flaen eich llygaid chwi. "Y mae

yn rhyfedd genyf eich symud mor fuan oddiwrth yr hwn a'ch galwodd." Pwy yw "yr hwn?" ai Duw ai ynte Paul? Nid yw yr adnod yn dweyd. Pa fodd y mae penderfynu y pwnc? A ydyw yn bwnc i aros heb ei benderfynu byth, ai ynte a oes ateb i fod i'r cwestiwn? Pa fodd yr atebir y cwestiwn yn y fath fodd ag i fod yn sicr fod yr atebiad yn un cywir? "Yr hwn a'ch galwodd." Yn y Beibl y mae dau ddosbarth o adnodau ar bwnc y gair. Y mae un dosbarth, o'r hwn y mae geiriau y testyn yn un esiampl, yn son am alw heb enwi pwy sydd yn galw. Y mae amryw o adnodau felly,—"yr hwn a'ch galwodd,"—heb enwi neb. Mae dosbarth arall o adnodau yn bod yn mha rai yr enwir yr hwn sydd yn galw. Hwnw bob amser yw Duw. Enwir neb fel yn galw ond Duw. Y mae un o'r fath adnodau, yr esiampl oreu, yn y benod hon. "Pan welodd Duw yn dda yr hwn a'm galwodd." Gan fod pob adnod sydd yn enwi yr hwn sydd yn galw yn enwi Duw, y casgliad naturiol felly am yr adnodau lle nas enwir neb ydyw, mai Duw a feddylir. Tybiwch chwi fel hyn. Beth pe buasai nifer o adnodau yn enwi Duw fel yr hwn sydd yn galw, a nifer arall o adnodau yn enwi apostol fel yr hwn sydd yn galw, buasai yn anmhosibl, pe felly, i benderfynu am adnod fel hon pwy a feddylid. Ond nid ydym yn yr anhawsder yna. Yn mhob man lle yr enwir yr un sydd yn galw, Duw ydyw hwnw. Chewch chwi yr un adnod yn y Testament Newydd lle y dywedir fod pregethwr yn galw neb,—yr un adnod lle dywedir fod apostol yn galw neb. 'D ydyw Paul ddim yn enwi ei hunan fel un sydd yn galw. Nage, nid fel yna y mae ein hesiampl mawr ni wrth bregethu yr efengyl. Ein gwaith ni ydyw, nid galw neb ond cyhoeddi "Cymer gysur, mae Duw yn dy alw." Cyhoeddiad sydd genym ni,—fod Duw yn galw pechaduriaid ato Ef ei hun. Ac yn wir, buasai braidd yn hyfdra arnom ni i alw neb ato Ef. Yr ydych yn teimlo felly. Yr ydych yn gwahodd un i'ch ty eich hunain. 'D ydych chwi ddim yn gwahodd neb i dy rhywun arall. Gan mai Duw sydd yn gwahodd pechadur ato, Efe ei hunan sydd yn galw pechadur. Gwahodd pechadur ato Ef ei hunan i dderbyn maddeuant o'i law, i ddod i gymod âg Ef ei hunan trwy farwolaeth ei Fab, y mae hynyna yn beth mor fawr ac urddasol fel y byddai bron yn afresymol. 'Does neb yn cyfiawnhau pechadur ond Duw. 'Does neb yn galw pechadur ond Efe. Felly, y casgliad ydyw, "Eich symud mor fuan oddiwrth Dduw, yr hwn a'ch galwodd i ras Crist," neu "yn ngras Crist." Galw i faddeuant, i edifeirwch, ond "galw yn ngras Crist." Beth all meddwl hyny fod? Buasai br braidd yn hyfdra i neb ofyn y cwestiwn oni bai fod atebiad yn bod wedi ei ddadguddio. Yn mha ysbryd y mae Duw yn galw pechaduriaid ato ei hunan am faddeuant? Y mae yn gwneyd hyny, ond yn mha deimlad? Y mae teimladau y Duw mawr yn eiddo iddo ei hunan. 'Does dim hawl genym i ofyn cwestiynau iddo am ei deimlad Ef. Ond os gwel Ef yn dda eu dweyd, y mae hyny yn bwnc arall. Ond y mae yr atebiad yn y cariad, yn y trugaredd a amlygwyd i'r byd yn mywyd ac angau Iesu Grist, yn hwnw y mae Duw yn gwahodd pechaduriaid ato ei hun am faddeuant. Felly, pe buasem yn gofyn, beth sydd yn y fynwes dragwyddol yn awr? raid dim ond troi i ddalenau y Beibl a gweled y cariad a'r cydymdeimlad oedd yn y Gwaredwr mawr. Yn y teimlad hwnw y mae y Bod mawr yn gwahodd pawb sydd yma i dderbyn maddeuant o'i law yn nhrefn yr efengyl. "Yr hwn a'ch galwodd yn ngras Crist."

"At efengyl arall: yr hon nid yw arall." Nid yr un gair yw "arall" yn y ddwy adnod; ac fel hyn y mae yn ol y cyfieithiad newydd: "At efengyl wahanol, yr hon nid yw arall." 'Does dim efengyl arall, chwi wyddoch. Un efengyl sydd. Un genadwri o eiddo Duw at fyd colledig sydd yn bod. Nid oes yr un arall. Ond dyma rywbeth eto, a rhywbeth yn perthyn iddi, sydd yn ei gwneuthur yn efengyl wahanol. Beth yw y gwahaniaeth? Y mae'r atebiad yn y seithfed adnod: "Yr hon nid yw arall; ond bod rhai yn eich trallodi chwi, ac yn chwenych dattroi efengyl Crist." Ac mae y chwant a'r ymgais i wyrdroi efengyl Crist yn rhoddi nodwedd wahanol i'r efengyl yn y pregethiad o honi. Am efengyl arall, 'does yr un yn bod. Ond fe eill fod yna wyrdroad, y fath wyrdroad ag i newid nodwedd yr efengyl gyda golwg ar ddynion. Sylwch hefyd ar y geiriau yma. Nid y gair yw, "ac yn gwyrdroi efengyl Crist," ond "yn chwenych gwyrdroi efengyl Crist." Am ei gwyrdroad hi, 'does dim yn bosibl gwneyd hyny. Y mae'n bosibl i un ymgais ei gwyrdroi, ac yn yr ymgais hwnw y mae y rhywbeth gwahanol sydd yn dyfod i'r efengyl, gwahanol i fel y mae Duw yn ei gynyg i fyd colledig. Ac yna cawn esiamplau gan Paul o'r modd yr oedd rhai dynion yn ceisio ei gwyrdroi hi yn ei ddyddiau ef, a hyny oedd "trwy efengylu yn amgen na'r hyn a efengylasom ni." A'r amcan oedd hyn: dangos fod Cristionogaeth yn ychwanegiad at Iuddewiaeth, ac nid yn dyfiant o Iuddewiaeth. Nid ydyw Cristionogaeth ond egwyddorion Iuddewig wedi tori allan o'r planhigyn. Llawer iawn o bethau plentynaidd, ond eu bod yn ddwyfol, ag oedd yn perthyn i'r grefydd Iuddewig, i'r trefniant yna. Ond ychwanegiad ati oedd rhai yn Galatia yn ddal oedd Cristionogaeth. Ychwanegu credu at enwaedu, ychwanegu ftydd tuag at Grist at ddilyn defodau. Ac y mae Paul yn rhoi ar ddeall eu bod yn camgymeryd. Yr oedd yno ganolfur y gwahaniaeth o amgylch y genedl Iuddewig, ond digwyddodd, fel y canodd y bardd am dano:

"Mur y gwahan dros amser maith,
Naddo un waith ni syflwyd,
Datododd hwn, er cryfed oedd,
Wrth floedd y gair Gorphenwyd!"

Y mae wedi cymeryd y gair "bloedd" oddiwrth Jericho pan syrthiodd y caerau. Ni adawyd y mur gareg wrth gareg. Wedi syrthio mur Jericho, dywedodd yr Arglwydd wrth Joshua, "Melldigedig fo a geisio adeiladu y mur yma sydd wedi syrthio." "Melldigedig fyddo pwy bynag geisio bregethu rhywbeth gwahanol i'r efengyl."

Ond yn awr, y pwnc i sylwi arno, fel y galloch chwi weled y gwirionedd pwysig—

FOD YMADAWIAD ODDIWRTH DDUW YN GYSYLLTIEDIG A GWYRDROAD O'R EFENGYL.

Fe'ch symudwyd oddiwrth Dduw, yr hwn a'ch galwodd chwi. Mae hyny yn gysylltiedig â'r chwant a'r ymgais i wyrdroi efengyl Crist. Wel, beth sydd yn yr efengyl ag sydd yn peri fod yn hawdd ei gwyrdroi hi? A oes yna rywbeth ag sydd yn perthyn i'r efengyl ag sydd yn fanteisiol i'w gwyrdroi, rhywbeth ag y mae degau oherwydd hyny yn ei gwyrdroi? Oes, y mae. A'r peth hwnw yw Gras. Y peth mawr ag sydd yn hanfod yr efengyl ydyw y peth ag sydd ynddi ag y mae yn hawdd i ddynion ei gwyrdroi hi. Ei gras yw ei gogoniant; ei gras yw ei hardderchawgrwydd. Yn ei gras y mae yna gynygiad o faddeuant rhad, llawn, tragwyddol i'r pechadur mwyaf ac i'r pechadur gwaethaf sydd ar wyneb daear. Ond na foed i ddim rwystro i mi ei chyhoeddi i fyd colledig. Nid efengyl fyddai heb ras. Ond yn y gras y mae y perygl i'w gwyrdroi hi. Yn ei gras y mae'n hawdd i ddynion gamgymeryd ei hamcan. Ond 'does dim rhaid i neb deimlo rhagfarn yn erbyn yr efengyl oherwydd gras, oblegyd y mae y lluaws mawr o drugareddau cyffredin yr ydym wedi eu derbyn heb wneuthur dim tuag at eu cael y lluaws mawr o gysuron bywyd, y maent wedi disgyn oddiwrth ein Duw a'n Tad, ac yr ydym wedi eu cael heb lafurio dim am danynt. Pe buasai dwy ffordd yn bod i'r nefoedd, un drwy weithio a'r llall drwy dderbyn heb wneyd dim, fe fuasai y dosbarth goreu o ddynion yn dymuno myn'd i'r nefoedd drwy weithio am dani. Fel gyda phethau'r bywyd yma, pe buasai dwy ffordd i ddyn i fyw yn gysurus, un ai drwy gardota neu ynte drwy weithio, fe fuasai y dosbarth goreu yn dewis gweithio. Ac fe fuasai y dosbarth goreu o ddynion yn dewis gweithio am y nefoedd. Ond y mae y ffordd yna wedi ei chau, oblegyd y mae nefoedd Duw yn beth i'w derbyn yn rhad os derbynir hi o gwbl. Gras ydyw. A mwy na hyny, erbyn rhoi yr oll o honynt at eu gilydd,—gras mewn ymgnawdoliad, gras mewn aberth anfeidrol, gras yn haeddiant Duw—ddyn,—y mae cymaint o fawredd ac ardderchawgrwydd yn bod yn nhrefn yr efengyl fel y mae y dyn a'i gwelodd hi yn ei gogoniant yn fwy hoff o gael ei achub drwy drefn mor ardderchog nag un drefn arall. Y mae gogoniant ac ardderchawgrwydd y drefn y fath ag y gall creadur deimlo yn falch, a siarad yn briodol, o gael ei gadw drwy y drefn hon.

Yn awr, ceisiaf sylwi ar y modd y mae Gras yr Efengyl yn arwain dynion i wyrdroi mewn tri o sylwadau.

Yn gyntaf: Y mae Gwyrdroad o'r Efengyl yn sicr o gymeryd lle pan y mae dynion yn rhoddi pwys ar Ras ar wahan oddiwrth Gyfiawnder yr Efengyl.

Yn ail: Y mae Gwyrdroad o'r Efengyl yn sicr hefyd pan y maent yn rhoi pwys ar Ras ar wahan oddiwrth Grist yr Efengyl.

Yn drydydd: Y mae Gwyrdroad o'r Efengyl yn sicr o gymeryd lle pan y mae dynion yn rhoi pwys ar Ras ar wahan oddiwrth Weithredoedd yr Efengyl.

Gras yw i gyd. Rhad Ras yw i gyd. "Y nefol gân, Gras fydd i gyd." Gras a Chyfiawnder, Gras a Christ, Gras a Gweithredoedd, mewn amser ac am byth. Ond boed i ddynion roddi pwys ar Ras nes anghofio y pethau eraill wyf wedi eu henwi, fe fydd hyny yn sicr o arwain i Wyrdroad oddiwrth yr Efengyl, a'r gwyrdroad hwnw yn arwain i ymadawiad oddiwrth Dduw.

Yn gyntaf: Y mae Gwyrdroad yn cymeryd lle pan y mae dynion yn rhoddi pwys ar Ras nes anghofio Cyfiawnder yr Efengyl, —Gras Duw ar wahan oddiwrth Gyfiawnder Duw. Hwyrach y gellid dangos hyny mewn esiampl gyffredin fel hyn. Dyma ddyn yn byw yn gwbl oll ar garedigrwydd dyn arall, yn dibynu yn gwbl oll am gynhaliaeth ei fywyd, nid ar ddim y mae efe ei hunan yn ei wneyd ond yn hollol ar ras rhywun arall. Mewn canlyniad i hyny y mae mewn perygl parhaus o roddi ei droed ar gyfiawnder ac aberthu egwyddor er mwyn boddio y gwr y mae 'n byw ar ei garedigrwydd. Gall deimlo ambell waith na fedr fforddio cadw y fath beth a chydwybod. Gall yr hwn y mae yn dibynu arno ddwyn cymhellion mor gryf, y peth nesaf at orfodaeth, nes y bydd y dyn yn teimlo ei hunan dan rwymau i wneyd aberth o'r hyn y mae yn gredu yn gydwybodol ddylasai wneyd er mwyn boddio y gwr ag y mae yn dibynu ar ei ewyllys. Onid ydyw hi ddim fel yna, 'rwan? Yr wyf yn addef mai dyn diegwyddor iawn fuasai hwnw sydd yn cymeryd mantais ar fod un yn dibynu arno i wneyd iddo droi i'w farn ef ei hunan. Ond y mae gras un arall yn peryglu un i wneyd aberth o'i farn er mwyn boddloni y gwr ag y mae yn dibynu arno. Mae gras dyn yn peri rhywfaint o berygl i ddynion sydd yn byw ar y gras hwnw. Tybed na ddichon? Dyma ddyn yn byw ac yn credu ac yn teimlo mai ar ras Duw y mae yn dibynu am ei iachawdwriaeth, mai ar gariad un arall y mae yn dibynu am faddeuant o'i bechodau, ac am nefoedd i dragwyddoldeb ar ewyllys da un arall. Tybed nad yw y dyn hwnw mewn rhywfaint o berygl i wneyd aberth o'i egwyddorion er mwyn boddio y Duw y mae yn dibynu arno? Y mae yn sicr iawn y gwnelai oddieithr iddo deimlo fod y Duw sydd yn llawn o ras yn llawn o gyfiawnder hefyd. A oes rhai yn gwneyd felly? Pwy sydd yn gwneyd felly? Dacw rhyw ddyn yn byw bywyd o bechu, gan gyfrif ar ras Duw ar wely angau. Tybed y gallasai y dyn wneyd hyny pe credai fod y Duw graslawn yn Dduw cyfiawn hefyd? Y mae yn cyfrif ar ei ras. Dyna'r drwg,—y mae yn cyfrif ar ei ras, ond yn cyfrif dim ar ei gyfiawnder Ef hefyd. Neu dyma ddyn eto fel hyn, yn camddefnyddio rhyddid yr efengyl. Y mae yma rywfaint o ryddid yn nhrefn yr efengyl. Rhyddid, rhyddid oddiwrth lawer iawn o bethau. Mae Paul yn y llyfr yma yn son am y rhyddid hwn. "I ryddid y'ch galwyd chwi." Ond onid oes dynion yn bod sydd yn defnyddio y rhyddid mae yr efengyl yn roi, yn arfer y rhyddid, fel y dywedai Paul, yn achlysur i'r cnawd? yn camddefnyddio y rhyddid sydd ganddynt fel dynion i deimlo fod yn rhydd iddynt i bechu, yn rhydd iddynt, os gwelant yn dda, i dori deddfau Duw? Gall y dynion hyny siarad cryn lawer am ras; ond pe buasent yn teimlo fod Duw yn Dduw cyfiawn yn gystal a Duw gras, ni fuasent yn gwneyd peth felly. Tybiwch fod dynion yn tybio mai digon i ras ydyw cyfarfod ar y Sabbath, canu am rad ras, canmawl gras Duw mewn cân, gair, a gweithred, a meddwl yn uchel, ond yn byw yn ddigon annuwiol y chwe' diwrnod arall. Fuasai y dynion hyny byth yn meiddio gwneyd hyny pe credent fod Duw gras yn Dduw cyfiawnder hefyd, oblegyd yn Nuw mae gras a chyfiawnder yn cyd—hanfodi. Yn yr Iawn, y mae gras a chyfiawnder yn cyd—ddisgleirio. 'Does dim rhagoriaeth i ras yn yr Aberth mawr fu ar y groes ar gyfiawnder ei hunan. Nag oes. "Yr hwn a osododd Duw yn Iawn i ddangos ei gyfiawnder Ef." A fuasai neb byth ar wyneb ein daear ni yn byw mewn pechod yn swn yr efengyl, gan ddiolch a chanmol gras, pe credent mai gras gyda chyfiawnder ydyw gras yr iachawdwriaeth? Onid yw gras yn teyrnasu? Ydyw; ond teyrnasu trwy gyfiawnder y mae. Onid oes maddeuant yn bod? Oes; ond maddeuant yn nhrefn cyfiawnhad ydyw. Onid oes anian i heddwch yn enaid pechadur? Oes, y mae; ond gofalodd Williams yn ei benill roddi y gair cyfiawnder yn ogyfuwch â gras yn ein bywyd ni. Ac felly, gyfeillion, yn y goleuni yna, y ffordd oreu, y ffordd uwchaf, i ni ganmol gras Duw ydyw, nid ar gân, mewn mawl,—mae ffordd uwch yn bod na hona,—Meddwl yr hyn sydd yn iawn, teimlo yr hyn sydd yn iawn, credu yr hyn sydd yn iawn, gwneyd yr hyn sydd yn iawn, a'r egwyddor o gyfiawnder wedi ein meddianu yn gwbl oll, a hyny yn ganmoliaeth i ras. Gras Duw yn cael ei ogoneddu mewn gwneyd yr hyn sydd yn iawn. Lle bynag y rhoddir pwys ar ras heb gyfiawnder, y mae yna berygl i wyrdroad, i ymadawiad oddiwrth yr efengyl.

Yn ail: Rhoddi pwys ar Ras heb Grist; mae hyna yn Wyrdroad o'r Efengyl. Hwyrach fod hyn yn cyfarfod nid yn unig â gwall yr ydym ni sydd yn gwrando yr efengyl yn agored iddo, ond yn un o'r pethau ag y mae llawer o ddynion o natur anffyddol yn yr oes yma yn agored iddo, sef rhoi pwys mawr iawn ar gariad Duw, y cariad Tadol, a dywedyd, —Pwy eisieu Crist? Pwy eisieu Efengyl? Pwy eisieu Iawn? Crist? ïe, Crist. Pwy raid o Grist? Ac nid wyf yn meddwl mai yn mhlith amheuwyr yn unig y mae hyn, ond y gall fod yn ein mysg ninau. Y mae perygl oddiwrth hyn mewn dau beth.

1. Mae byw ar ras yn unig yn arwain dynion i golli parch iddynt eu hunain. Y mae yn bod felly mewn pethau cyffredin. Y mae y dynion sydd yn gweithio, gweithwyr a'u dwylaw neu ymenydd, yn meddu llawer iawn mwy o barch iddynt eu hunain na'r dynion sydd yn byw mewn diogi ac ar garedigrwydd pobl eraill. Ië, ond yr ydym ni yn myn'd i fyw ar ras Duw. Oni fyddai hyny yn peryglu i ni golli parch i ni ein hunain? Eithaf gwir, os af i deimlo fy hun, os af i fyw yn gwbl oll ar garedigrwydd Duw, ar dderbyn o law Duw. Sut y mae hynyna yn arwain y dyn i golli ei hunan—barch? Bod yn ddibynol ar un arall? Un o bethau bychain dyn, gwendid dyn, bychandra dyn, ydyw bod yn ddibynol ar un arall. Mae yn rhaid i ddyn ddibynu. Rhaid; ond pa fodd y mae i ddyn gadw parch iddo ei hunan? Nid trwy feddwl am y pethau bychain, ond trwy feddwl am y pethau mawr sydd yn perthyn iddo. A'r peth mawr sydd yn perthyn iddo ef ydyw, ei fod yn gyfrifol. Y peth bach yw, ei fod yn dibynu. Ei wendid yw ei fod yn ddibynol; ei fawredd ei fod yn gyfrifol. Ei fychandra ydyw ei fod yn gorfod byw ar arall; ei fawredd ydyw fod ganddo gyneddfau sydd yn ei wneyd yn gyfrifol. Welwch chi ddim o'r hunan pan y mae dyn yn teimlo yn ddibynol ar Dduw ac hefyd yn gyfrifol. Y mae yn greadur ardderchog. Pa le y caiff dyn olwg ar ei fawredd? Yn Nghrist. Nid mewn gras. Gwelir mawredd y natur ddynol yn mherson Crist. Gan fod dyn yn greadur mor fawr yr oedd yn bosibl i Dduw ddyfod i undeb personol â'i natur. Beth y mae yr Iawn yn ei dybied? Fod dyn yn euog. A hyny yn tybied fod dyn yn gyfrifol. Y mae y cyfrifoldeb sydd ganddo fel creadur yn fawredd, yn urddas arno. Yr wyf yn greadur diddym, ond yr un pryd yr wyf yn greadur mawr. Ac y mae o bwys i mi deimlo fy mawredd yn gystal a'm diddymdra. Gadewch i mi suddo i ddiddymdra er fy mod yn dibynu ar ras. Rhaid i mi gael teimlo fy mod yn gyfrifol. Caf hyny yn yr olwg ar Berson Crist. Mae yn iawn i mi ddweyd, "Llwch ydym." Ië, llwch ydym. Ond gadewch i mi ddweyd mai llwch rhy werthfawr i'w golli ydym. Canwch faint a fynoch ar yr hen benill,

"Diolch Iddo
Byth am gofio llwch y llawr."

Ond cofiwch ei fod yn llwch aur bob gronyn o hono. Mae yn y dyn gyfrifoldeb na fedd y bydoedd mo hono. Y mae o fwy gwerth na'r holl fydoedd sydd yn y ffurfafen. A Christ sydd i ddwyn y mawredd yna i'r golwg. Cauwch Grist allan o'r cwestiwn a 'does dim mewn gras ond sydd yn ein tynu ni i lawr. Rhowch Grist i mewn, ac yr wyf yn teimlo fy hunan yn greadur mawr.

2. Y mae byw ar Ras yn gwbl yn arwain dyn i fethu gwerthfawrogi yr hyn y mae yn ei gael oherwydd ei fod yn eu cael yn rhad. Mae dynion yn prisio pob peth yn ol yr hyn y maent yn dalu am danynt. Onid oes dynion yn bod nad ydynt yn gweled gwerth maddeuant? a'r rheswm yw, Gras sydd yn cynyg maddeuant rhad iddynt. Ond y mae y cwbl i'w gael am ddim, y cwbl i'w gael ond ei dderbyn fel y mae Duw yn ei gynyg. Pe buasai gweithio yn foddion i'w gael, fe fuasai hyny yn amlygu i rai ei werth. Na foed i neb o honom ni ddod i weled gwerth bendithion yr efengyl drwy eu colli a bod hebddynt, a dyoddef y canlyniadau o hyny. Ac yr wyf bron yn sicr am lawer o wrandawyr yr efengyl, nad ydynt wedi gweled gwerth maddeuant, a chyfiawnhad, a nefoedd, oherwydd mai gras sydd yn cynyg y cwbl iddynt "heb arian ac heb werth." Ond y mae y Duw mawr wedi gofalu na chaiff neb o honom ni feddwl yn isel am fendithion yr efengyl, oblegyd mai o ras y maent yn cael eu rhoddi, trwy gadw yn amlwg mai trwy lefain cryf a dagrau, trwy ing yr ardd ac angeu'r groes, y daeth iachawdwriaeth yn eiddo i ni. Pe buasai dim ond gras, heb Grist, yr wyf yn sicr y buasai pawb o honom yn sicr o feddwl yn rhy isel am yr iachawdwriaeth, —am Grist, ei Waith, ei Berson, a'i Aberth. Os rhad i ni, drud iddo Ef. Ac y mae gwerth y bendithion i'w cyfrif yn ol yr hyn a gostiodd i'w Berson anfeidrol Ef i'w dwyn yn eiddo i ni. Felly, gyfeillion, derbyniwn Ras a Christ, a derbyniwn faddeuant, a maddeuant gyda Christ.


Yn drydydd: Gwyrdroad o'r Efengyl yn sicr drwy roi pwys ar Ras ar wahan oddiwrth Weithredoedd. Ond dylid gosod y gweithredoedd yn y fan iawn. Un o'r drygau sydd yn codi oddiar fyw ar ras ydyw hyny. 'Does dim a wnelo gras ond â dyn fel derbynydd, ac y mae mewn dyn elfenau gwaith. Fuasai yr efengyl yn werth dim i ni pe na buasai yn cydnabod dyn ond fel derbynydd. Nid ydyw yn gymwys i ni, oblegyd y mae ynom ni gyneddfau gweithredu. Mae y teimlad i ddod allan mewn gwaith. Y mae y deall a'r rheswm i gymeryd rhyw ffurf ymarferol. Y mae mewn dyn elfenau i weithredu. A phe buasai yr efengyl ond yn cyffwrdd â dyn yn unig fel derbynydd, fe fuasai yn hollol anghymhwys, oherwydd rhaid i ni gael rhywbeth cymwys i'r oll ag ydym. A phe buasai gras ond yn rhyw gyffwrdd â ni yn unig fel derbynydd, buasai hyny yn sicr o fagu diogi ynom. Y mae ymorphwys yn bod ynddi, ond nid ymorphwys yw y cwbl. Y mae gwaith ynddi. Onid yw yr efengyl yn rhoi modd i orphwys? Gwir iawn, ond yr un fath a chwsg. Mae llawer iawn o honom yn treulio llawer iawn o'n hamser mewn cwsg. Nid y bwriad oedd rhoi cwsg i ddyn a dim arall; nage, ond rhoi modd i'r corff a'r meddwl dawelu, er mwyn codi oddiar y tawelwch i weithio mwy. Nid gweithio er mwyn cysgu, ond cysgu er mwyn gweithio. Y mae yma fan i ymorphwys, ond ymorphwys er mwyn gweithio, i wneyd rhywbeth dros yr Arglwydd Iesu. Ac y mae hyn yn ein harwain i ddau beth sydd yn gymwys i waith.

Un peth ydyw: Gwaith Gras ydyw rhoi awydd gwaith i ni. Gwaith gras ydyw rhoi maddeuant ynom. Ië, a gwaith gras ydyw rhoi ysbryd gweithio ynom hefyd. "Canys ymddangosodd gras Duw, yr hon sydd yn dwyn iachawdwriaeth i bob dyn, gan ein dysgu ni i wadu annuwioldeb a chwantau bydol, a byw yn sobr, Yn drydydd: Gwyrdroad o'r Efengyl yn sicr drwy roi pwys ar Ras ar wahan oddiwrth Weithredoedd. Ond dylid gosod y gweithredoedd yn y fan iawn. Un o'r drygau sydd yn codi oddiar fyw ar ras ydyw hyny. 'Does dim a wnelo gras ond â dyn fel derbynydd, ac y mae mewn dyn elfenau gwaith. Fuasai yr efengyl yn werth dim i ni pe na buasai yn cydnabod dyn ond fel derbynydd. Nid ydyw yn gymwys i ni, oblegyd y mae ynom ni gyneddfau gweithredu. Mae y teimlad i ddod allan mewn gwaith. Y mae y deall a'r rheswm i gymeryd rhyw ffurf ymarferol. Y mae mewn dyn elfenau i weithredu. A phe buasai yr efengyl ond yn cyffwrdd â dyn yn unig fel derbynydd, fe fuasai yn hollol anghymhwys, oherwydd rhaid i ni gael rhywbeth cymwys i'r oll ag ydym. A phe buasai gras ond yn rhyw gyffwrdd â ni yn unig fel derbynydd, buasai hyny yn sicr o fagu diogi ynom. Y mae ymorphwys yn bod ynddi, ond nid ymorphwys yw y cwbl. Y mae gwaith ynddi. Onid yw yr efengyl yn rhoi modd i orphwys? Gwir iawn, ond yr un fath a chwsg. Mae llawer iawn o honom yn treulio llawer iawn o'n hamser mewn cwsg. Nid y bwriad oedd rhoi cwsg i ddyn a dim arall; nage, ond rhoi modd i'r corff a'r meddwl dawelu, er mwyn codi oddiar y tawelwch i weithio mwy. Nid gweithio er mwyn cysgu, ond cysgu er mwyn gweithio. Y mae yma fan i ymorphwys, ond ymorphwys er mwyn gweithio, i wneyd rhywbeth dros yr Arglwydd Iesu. Ac y mae hyn yn ein harwain i ddau beth sydd yn gymwys i waith.

Un peth ydyw: Gwaith Gras ydyw rhoi awydd gwaith i ni. Gwaith gras ydyw rhoi maddeuant ynom. Ië, a gwaith gras ydyw rhoi ysbryd gweithio ynom hefyd. "Canys ymddangosodd gras Duw, yr hon sydd yn dwyn iachawdwriaeth i bob dyn, gan ein dysgu ni i wadu annuwioldeb a chwantau bydol, a byw yn sobr, ac yn gyfiawn, ac yn dduwiol yn y byd sydd yr awr hon." Beth sydd yn gwneyd hyny? Gras Duw. Un o bethau mawrion gras Duw ydyw rhoi ysbryd i waith yn enaid y pechadur, nad oedd yn meddu arno o'r blaen. Gras i roi maddeuant o bechodau a gyflawnodd; ïe, a gras i roi ysbryd ynddo i fyw yn dduwiol yn yr amser i ddyfod.

Y peth arall ydyw: Amcan eithaf Gras yr efengyl ydyw dwyn dynion i gyraedd nefoedd. Ond beth yw y nefoedd wedi ei chyraedd ? Dwyn dynion i wneyd gweithredoedd da. Mae rhyw ddynion yn siarad fel hyn,—Mai trwy weithredoedd y mae dynion yn myn'd i'r nefoedd. Eu meddwl yw, mai trwy sancteiddrwydd y mae bod yn ddedwydd. Ac os dedwyddwch yw prif elfen y nefoedd, trwy weithio y mae myn'd yno. Ond nid dedwyddwch yw prif elfen y nefoedd, eithr sancteiddrwydd, rhodio mewn gweithredoedd da i dragwyddoldeb. Nid o weithredoedd ond o ras, nid trwy weithredoedd ond drwy ffydd. Nid ydym yn dibrisio gweithredoedd da wrth ddweyd "trwy ffydd." Nid ffordd i'r nefoedd ydyw gweithredoedd da, ond y nefoedd ei hunan ydyw,—holl alluoedd yr enaid yn gwasanaethu Duw i dragwyddoldeb mewn gweithredoedd da. Nid gras yn unig sydd yn rhoi maddeuant, ond gras sydd yn rhoi ysbryd i weithio i gychwyn, a'r ysbryd hwnw i redeg yn mlaen mewn gweithgarwch i ddechreu, a hwnw yn rhan o'r drefn i berffeithio gweithgarwch mewn byd ar ol hwn.

Cymerwch, gan hyny, Ras,—gras yn y ffynhonell fawr, anfeidrol Ras a Chyfiawnder; yn y cyfrwng, Gras a Christ; yn yr amcan, Gras a Gweithredoedd Ac ond cymeryd Gras yn ei gysylltiadau, fydd dim Gwyrdroad o Efengyl Crist. Fydd yna ddim ymadawiad "oddiwrth yr Hwn a'ch galwodd yn ngras Crist." Ond cymerwch holl gyfanwaith yr Efengyl,—rhowch yr oll gyda'u gilydd,—a chewch allan nad oes dim yn fwy cymwys i ddwyn dyn yn fwy agos at Dduw, ac i'w addoli, i fyw mewn cymundeb âg Ef, a'r Efengyl heb ei gwyrdroi o ras a gwirionedd, trwy haeddiant Mab Duw i sancteiddrwydd a gwirionedd drwy yr efengyl. Amen.

[Twrgwyn, Bangor, nos Sul, Mai 1, 1887.

ENGLYNION COFFAOL.

O golled! pa fodd y gellir ei dal,
Cwmwl du a daenir;
Wele—am Davies wylir,
Mae hi 'n wag yma yn wir.

Os galwn yn nrws ei Goleg—acw
Yn Nhrefecca wiwdeg,
A chwenych, ni chawn chwaneg
Yn y ty ei wenau teg.

Y dwthwn pan y daethai—ei Sabbath,
Ryw seibiant braf fyddai,
Fel afon Gras fe lifai,
A llonai fyd llawn o fai.

Agorai â'i feddwl gwrol— a thriniai
Athroniaeth feddyliol;
A dewr rwysg ceid ar ei ol,
Nwyfus feddyliau Nefol.

Di os mae 'n golled oesoedd—o adwyth
Ac oediad amseroedd ;
O! awr flin i roddi'r floedd,
Ymyred twrf y moroedd.

Angel lanwyd yn ngoleuni—difeth
Y dwyfol fawrhydri,
Y doethaf ddyfnaf deithi,
Diau o'r nef roes Duw ini.


Yn agos ni cheid enwogion—o'i faint
'Roedd e 'n fwy o ddigon;
Ai rhag ei flaen i'r eigion,
A gwyliai 'r dwfn—gwely 'r don.

Eilwaith fe glywir wylo—o Seion
Sydd bron a llesmeirio;
A choeliwn na chaiff, er chwilio,
Y dyn o fraint 'r un faint a fo.

Y Parch. JOHN JONES, Bryn'rodyn

Y Parch. Joseph Thomas, Carno.

𝔜 𝔓𝔞𝔯𝔠𝔥. 𝔍𝔬𝔰𝔢𝔭𝔥 𝔗𝔥𝔬𝔪𝔞𝔰, ℭ𝔞𝔯𝔫𝔬.

FEL PREGETHWR.
Gan y Parch. E. Wynne Parry, B.A., Bala.

MAE yn debyg na fu yr un pregethwr yn ddyfnach yn serchiadau cynulleidfaoedd ein gwlad yn ystod y deng mlynedd a'r hugain diweddaf na'r gwr anwyl y mae ei enw uchod. Cawsai ffafr yn ngolwg pob dosbarth o bob enwad, yn nghyd a'r lluaws mawr sydd heb fod yn perthyn i unrhyw enwad, dysgedig ac annysgedig, tlawd a chyfoethog, gwreng a bonheddig fel eu gilydd. Edrychid yn mlaen gyda dysgwyliad siriol a hapus am ei ymweliad ag ardal ar un o'r gwyliau nodedig, ac wedi yr elai yr wyl heibio byddai ei sylwadau a'i gymhariaethau yn cael eu hadrodd a'u hailadrodd am amser maith. Er ei fod yn ei fedd er's dros bum' mlynedd, mynych y gwelir rhai yma ac acw ar hyd a lled y wlad yn gwenu trwy eu dagrau wrth adgoffa rhyw sylw tlws o eiddo Joseph Thomas.

Pa fodd y gwnaeth iddo ei hun le mor ddwfn yn serchiadau ein cynulleidfaoedd? Os cymherir ef a phregethwyr poblogaidd fu yn cydoesi ag ef yn ein gwlad, gwelir ar unwaith fod gwahaniaeth dirfawr rhyngddo a phob un o honynt. Ni feddai athrylith ddysglaer na llais soniarus Morgan y Dyffryn, na hyawdledd urddasol Dr. Saunders, na chwaith ystor gyfoethog o wybodaeth dduwinyddol a hanesyddol fel Dr. Hughes; ni feddai feddwl cywrain athronydd fel David Charles Davies, na thalentau a doniau amrywiol fel Dr. Owen Thomas. Ac eto nid oedd neb o'r cedyrn hyn yn fwy wrth fodd calon mwyafrif y cynulleidfaoedd nag oedd efe. Ymdrechwn yn fyr roddi cyfrif am ei boblogrwydd mawr.

Yn un peth, yr oedd ganddo ymddangosiad dengar. Cafodd gorff lluniaidd, hardd, gwyneb oedd fel yr haul yn gwasgaru sirioldeb drwy y lle, ac, yn enwedig y blynyddoedd olaf, pan yr oedd ei wallt gwyn arianaidd yn goron ar ei ben, enillai ei olwg serch y gwrandawyr cyn iddo ddweyd gair. Hefyd, meddai alluoedd naturiol da. Gwir nad oedd yn feddyliwr dwfn nac yn dduwinydd mawr, eto nid oedd natur wedi bod yn grintachlyd wrtho ychwaith yn y cyfeiriad yma, ac yn arbenig meddai ryw graffder neillduol i adnabod dynion ac i gyfaddasu ei genadwri i gyraedd eu calonau. Credwn ei fod wedi astudio yr art o bregethu yn llawer iawn mwy nag a feddyliai neb. Gallai dyeithrddyn, wrth ei weled yn y pwlpud a golwg led wladaidd arno, a chlywed ei ddull diaddurn o lefaru, dybied mai drwy ryw ffawd dda, heb yn wybod iddo ei hunan bron, y cynyrchai effeithiau mor hapus ar y bobl. Camgymeriad hollol fuasai tybiaeth fel yna. Fel y mae arlunydd medrus yn ymddangos bron yn ddiofal wrth drin ei baent a'i bwyntel, fel pe yn eu taro ar ddamwain yma a thraw ar y canfas, ond vedi enill y feistrolaeth yna trwy flynyddoedd o astudiaeth galed a dysgyblaeth lem, a phob cyffyrddiad o'i eiddo ar y darlun yn gywir i drwch y blewyn, felly yr oedd yntau yn gwybod i'r dim beth i'w ddweyd. Er fod ei bregethau yn llawn o arabedd, gwyddai pa le i dynu y llinell-faint oedd yn ddigon i greu sirioldeb a mwynhad diniwed heb ddirywio i ysgafnder a gwamalrwydd. Byddai bob amser ar waith yn casglu defnyddiau, fel y wenynen o bob llysieuyn. Yn y tai lle y lletyai, yn y trên wrth fyn'd a dyfod i'w gyhoeddiadau, wrth daflu golwg dros golofnau y newyddiaduron, sylwai yn fanwl ar bob peth, a meddai y ddawn werthfawr i droi y cwbl yn wasanaethgar iddo fel pregethwr. Meddai lygad bardd, edrychai ar ddygwyddiadau bychan cyffredin y dreflan ddinod lle trigai, a chanfyddai o danynt a thucefn iddynt humour a pathos dwfn bywyd.

Gwelsom ef unwaith yn gwneyd cynulleidfa fawr yn Lerpwl yn foddfa o ddagrau drwyddi wrth adrodd ymddyddan syml oedd wedi cymeryd lle rhyngddo a phlentyn bychan chwech neu saith mlwydd oed mewn rhyw dy lle y dygwyddai letya. Yr oedd yr un bychan yn sefyll wrth lin y gwr dyeithr nos Sadwrn, ac yn ymgomio yn hollol ddiofn ag ef, ac yn dweyd holl hanes y teulu. Dywedodd am ei frawd hynaf oedd wedi bod i ffwrdd yn yr ysgol, ac wedi bod yn dyfod adref am y gwyliau o dro i dro, ond " un o'r dyddiau nesaf," meddai yr un bychan, "mae o yn dwad adre', a'r tro yma yn dwad adre' i aros." Sylw bach diniwed ddigon -ond aeth meddwl Mr. Thomas at lawer teulu wedi eu bylchu gan angeu, at rieni duwiol wedi eu galw adref ac yn edrych yn hiraethlawn am y diwrnod y byddai y plant i gyd wedi dyfod adref atynt, ac wedi dyfod "adre' i aros." Adroddai y gair hwn gyda goslef hynod o effeithiol a'r dagrau yn ffrydio dros ei ruddiau. Fel y derbyniai Moses bob math o roddion gan y genedl ar gyfer y tabernacl -aur, arian a phres, sidan glas a phorphor, ysgarlad, lliain main, blew geifr, crwyn hyrddod, crwyn daearfoch, olew, llysiau, a meini onix, ac a droai bob peth i wasanaeth ty Dduw, felly casglai Mr. Thomas ddefnyddiau o bob man ac a osodai bob peth yn ei le mewn pregeth neu anerchiad at wasanaeth yr efengyl.

Elfen arall yn ei boblogrwydd oedd ei fod bob amser ar level y gynulleidfa. Siaradai iaith y bobl gyffredin. Gwir na ddisgynai byth unrhyw ymadrodd anghoeth dros ei wefusau, ni ddefnyddiai ddim anghyson â chwaeth dda, ac eto iaith y werin oedd ei iaith. Yr un modd am fater ei bregethau,-cludai y bobl gydag ef. Gwelwyd pregethwyr da, meddylgar, galluog, yn trin pynciau dyrus yn ddeheuig, ond yn myned o gyraedd corff mawr y gwrandawyr, ac felly y bregeth i fesur mawr yn ddifudd ac yn feichus, oddigerth i ambell un uwch ei gyrhaeddiadau a chyflymach ei amgyftrediad na'r cyffredin. Ond yr oedd ef yn ymlwybro fel y gallai pawb ei ddilyn-yn dweyd pethau syml ac agos at y bobl. Fel y mae bardd yn rhoi mynegiad i deimladau a meddyliau ag y mae miloedd wedi bod yn ymwybodol o honynt er heb erioed allu eu gosod allan mewn geiriau, a thrwy, hyny yn deongli y dyn iddo ei hun, felly byddai Mr. Thomas yn symud hyd lwybrau cynefin ac yn trin pethau o fewn cyraedd pawb, ond yn taflu rhyw swyn dros y cyfan trwy ei ddawn neillduol ei hun.

Eto, ni byddai yn ymwneyd llawer a gwirioneddau cyffredinol, penagored, ni foddlonai ar osodiadau abstract. Dyma un rheswm paham y mae llawer pregethwr cywir ac egniol mor flinderus i wrando arno ac mor ddieffaith. Dywed bethau digon gwir a phwysig, ond ychydig o argraff a wnant ar y gynulleidfa. Mae eu geiriau fel arfau wedi pylu—nid ydynt yn tori i mewn i'r byw. Gwneir argraff ddyfnach yn fynych trwy hanesyn neu gymhariaeth, neu drwy ddefnyddio gair sydd yn codi darlun byw o flaen y meddwl na thrwy unrhyw swm o ymresymu moel. Gwelir fel y mae yr Iesu yn y bregeth ar y mynydd yn son am yr halen, y ddinas, y ganwyll, y brain, y lili, y porth cyfyng, y ty ar y graig, &c., er mwyn i'r pethau hyn fel cleddyf llym dau-finiog dori i mewn ac agor ffordd i wirioneddau pwysig i gyraedd y meddwl a'r galon. Gwyr pawb a gafodd y fraint o wrandaw Joseph Thomas mor nodedig yr oedd am hyn. Mantais ddirfawr hefyd iddo oedd ei gydnabyddiaeth lwyr å hanesion yr Hen Destament; yr oedd ef gartref yn llwybrau anhygyrch Joshua a'r Barnwyr a'r Chroniclau, ac oddiyno dygai lawer hanesyn dyddorol a phwrpasol i egluro ei bwnc. Gwnai hyn ei bregethau yn ddifyr iawn i'w gwrando, fel na flinid cynulleidfa gan awr a haner o bregeth, ac hefyd yn hawdd iawn eu cofio. Adroddid hwynt mewn ymddyddanion ar hyd y wlad am amser maith, ac felly parheid a dyfnheid eu hargraff.

Elfen arall bwysig iawn, fel yr awgrymwyd eisoes, oedd yr humour a lanwai ei natur. Gresyn na fuasai geiriau Cymraeg da am y ddau frawd hyn—humour a pathos. Rhyw ddau efaill ydynt, yn debyg iawn i'w gilydd ac i'w cael gyda eu gilydd bob amser. Credwn eu bod yn codi o galon fawr a dynoliaeth lydan,—na cheir hwynt byth mewn dynion bychain, culion, a hunanol. Anmhosibl yw rhoddi darnodiad boddhaol o honynt, ond cynwysa humour y gallu i wisgo dygwyddiadau cyffredin mewn gwedd ddigrifol, chwareus, a hyny yn llawn natur dda, heb ddim chwerwder na gwenwyn ynddo. Gwir fod gan Mr. Thomas allu i ddweyd pethau miniog iawn. Pan ymollyngai i feirniadu, gallai symio i fyny nodweddion, ac yn arbenig wendidau rhyw frawd, mewn brawddeg neu ddwy na anghofid byth gan y neb a'u clywent. Ond yr oedd yn ormod o foneddwr ac yn ormod o Gristion i ddefnyddio yr erfyn yma ond yn gynil iawn.

Ond am y peth arall—yr elfen humorous oedd ynddo—byddai hon yn byrlymu allan yn barhaus yn ei ymddiddanion a'i anerchiadau a'i bregethau nes peri llawer o fwynhad pur a diniwed hollol, a'i helpu i gyraedd amcan mawr y weinidogaeth. Ac yn nglyn a hyn yr oedd yn llawn tynerwch i gydymdeimlo â galar a thristwch yn mhob man. Gwnai y ddau beth yma ef yn wr anwyl iawn gan bawb.

Gyda golwg ar ffurf ei bregethau, cyfansoddi yn lled lac a diofal a wnai. Nid oedd yn gofalu llawer am drefnusrwydd yn rhaniadau y bregeth ac yn nghyflead ei faterion, yn hytrach cadwyn o sylwadau pert a chyfres o hanesion difyr a chymhariaethau priodol a geid ganddo. Byddai weithiau yn symud cymhariaeth o un bregeth i'r llall a gallai wneyd hyny heb niweidio y gymhariaeth na'r pregethau. Ond os oedd fel hyn yn ddibris o reolau caeth cyfansoddiad a saerniaeth pregeth, nid pregethu yn ddiamcan y byddai. Yn y bregeth, er engraifft, ar y geiriau hyny "Ai difater genyt ein colli ni?" y mae un meddwl yn rhedeg drwy y cyfan ac fel llinyn yn dal y perlau i gyd—y meddwl "nad difater gan Dduw ein colli ni." Cadwai olwg bob amser ar amcan mawr gweinidogaeth yr efengyl ac argyhoeddai bawb ei fod o ddifrif, ei fod yn genad dros Grist ac yn erfyn ar bechaduriaid i ddyfod i gymod â Duw. Tua diwedd ei oes gwelid hyn yn fwy—fwy amlwg, rhyw ddwysder teimlad fel pe byddai cyflwr y gwrandawyr yn pwyso yn drwm ar ei feddwl, yr hyn a barai fod ei apeliadau yn hynod effeithiol. Pan ychwanegwn at y pethau hyn y cymeriad gloeyw a gadwodd am oes faith, ei dduwioldeb diamheuol, a'r "eneiniad oddiwrth y Sanctaidd hwnw" yr hwn oedd mor amlwg yn gorphwys ar ei ysbryd a'i bregethu, nid rhyfedd fod ei weinidogaeth wedi bod mor fendithiol âg eiddo odid neb yn Nghymru.

Byr-hanes

Ganwyd Joseph Thomas yn Llangynog ar y 13eg o Fedi, 1814. Chwarelwr oedd ei dad, a bu yntau yn gweithio yn y chwarel am 12 mlynedd. O'r addysg brin oedd i'w chael yr adeg hon gwnaeth ddefnydd da, ac ymroddodd gyda hoffder at waith yr Ysgol Sul. Yn nglyn a'r diwygiad dirwestol tua 1836 y dechreuodd ar waith cyhoeddus. Yn 1839, dan weinidogaeth Dr. Owen Thomas, y cafodd droedigaeth amlwg. Nadolig, 1840, yr oedd yn areithio ar ddirwest yn Llwyneinion, ger y Bala, cyfarfu yno â Dr. Edwards, yr hwn a'i hanogodd i ddod i Athrofa y Bala. Bu ddwy flynedd a haner yn y Bala, a thair blynedd yn genhadwr yn Bilston a Birmingham. Yn nechreu 1848 yr aeth i Garno, yno y treuliodd weddill ei oes, gan enill pob anrhydedd y medrai ei enwad roi iddo; ac fel Joseph Thomas, Carno, yr anwylir ei goffadwriaeth gan Gymru oll. Ordeiniwyd ef yn 1847. Bu farw Ionawr 14, 1889, yn 74 mlwydd oed.


"Pregethai ef yn debyg fel gwnai 'r Iesu,—
Sef cynllun uwcha'r nef o efengylu, —
Mewa symledd pur, yn eglur a phwrpasol,
Yn brydferth, ymarferol, a defnyddiol.
Ei bregeth yn ei phobpeth oedd oleuni,
A'i amcan oedd yn drylwyr ar ddaioni.
Ni fynai fod ei hunan yn y golwg,
Ond gras, y ddwyfol drefn a fyddai 'n amlwg."


𝔇𝔲𝔴 𝔞𝔪 𝔊𝔞𝔡𝔴 𝔓𝔢𝔠𝔥𝔞𝔡𝔲𝔯.

Gan y diweddar Barch. Joseph Thomas, Carno.

"Athraw, ai difater genyt ein colli ni?" MARC III. 38.

YR ydych i gyd mor gyfarwydd a minau yn hanes y storm yn mha un y llefarwyd y testyn yma, ac felly nid af i ymdroi i ddweyd hanes y storm. i chi. Mi gewch ei ddarllen eich hunain eto. Felly, yr wyf yn gadael pobpeth amgylchiadol. Yr ydych yn teimlo ar unwaith fod yma wedd gyhuddol ar y testyn. 'Does dim posibl i chi ddarllen y testyn yma yn ystyriol heb deimlo fod yma ryw wedd gyhuddol, y dysgyblion yn cyhuddo Mab Duw o fod yn ddifater yn nghylch eu dyogelwch. Yr ydych yn clywed swn felly yn yr adnodau ar unwaith. Yr ydym yn cael, pan fyddai brenhinoedd y ddaear fel Alexander Fawr ac eraill yn gwneyd anturiaethau mawrion mewn rhyfeloedd, eu bod yn gwneyd pob ymdrech i geisio cael allan beth oedd syniad y duwiau am eu hanturiaeth. Byddent yn myn'd a'r offeiriaid gyda hwy i offrymu i'r duwiau er mwyn eu cadw mewn tymer dda; yn myn'd a dewiniaid gyda hwy i egluro iddynt feddwl y duwiau, yn dal sylw sut y byddai yr adar yn ehedeg, a pha fodd y byddai y gwynt yn chwythu, er ceisio cael allan syniadau y duwiau am eu hanturiaeth. Wel, fy nghyfeillion, eich anturiaeth fawr chwi a minau ydyw myn'd trwy y byd yma, a'i dibenu hi yn y wlad well; dyna yr anturiaeth fawr. Ac os dymunwch wybod syniad Duw am yr anturiaeth, y mae i'w chael yma; ac ar hyny y ceisiaf aros am ychydig funydau. A dyma yr unig sylw a gaf wneyd ydyw,—

MAI NID DIFATER GAN DDUW EIN COLLI NI.

Fe ddymunwn i hyn aros ar eich meddwl chi, i fod yn destyn ymddyddan a'ch gilydd; ac wedi i chi fyn'd adref, gellwch ddweyd, dydi Duw ddim anı ein colli ni. Nis gwn i am ddim yn fwy tebyg o fod yn fendith i chi a minau na'r syniad yma, mai nid difater gan Dduw ein colli ni. Mae dynion da a dynion drwg wedi cyhuddo Duw o hyn lawer gwaith. Cewch ddynion da iawn yn Llyfr y Salmau yn dweyd am Dduw, "Dyma ni," meddent hwy, "yn nghanol profedigaethau ac erledigaethau, yr wyt ti wedi ein hanghofio ni, wedi ein hanghofio ni ac yn meddwl dim am danom;" ac yn dweyd yn yr un Salm wed'yn, "dyma ni yn nghanol treialon a thithau wedi myn'd i gysgu," yn cyhuddo Duw fel yna o bethau nas gallai eu gwneyd; pobl dda a phobl ddrwg wedi gwneyd hyny lawer gwaith.

Wel, i mi beidio ymdroi,— Mai nid difater gan Dduw ein colli ni. Gwelwch hynyna

Yn y lle cyntaf: Yn mwriadau Duw ar gyfer dyn yn y greadigaeth gyntaf yma. Y mae i'w weled yn amlwg iawn. Pe buasech yn ceisio cael allan briodoliaethau Duw ar wahan oddiwrth eu gilydd, yr wyf yn credu mai dyma y ffordd. Y mae Duw yn un galluog iawn —y mae ei weithredoedd yn dangos hyny. Mae yn un doeth—mae ei drefniadau yn profi hyny. Y cwestiwn mawr ydyw, a yw yn un da? Ydyw Duw yn dda? Wel, sut yr ydych yn cael hyny allan? Fel hyn, hyd y gallaf ddeall, y mae yn alluog, mae ei weithredoedd yn profi hyny; y mae yn ddoeth, mae ei drefniadau yn profi hyny; ond a ydyw yn un da? A ydyw am i'w greaduriaid fod yn ddedwydd? Yn y fan yna y cewch ddaioni Duw yn dyfod i'r golwg. A ydyw am i'w greaduriaid fod yn hapus? Wel, wrth i ni edrych ar waith Duw, yr ydym yn gweled fod yma bob darpariaeth i gynal y creaduriaid, i'w llywodraethu ac i'w dedwyddoli. Nid wyf yn gweled dim yn sicrhau yr etyb y byd ddyben Duw o'i greu ond fod Duw yn ei lywodraethu. A ydyw yn un da? Ydyw, y mae mor dda fel yr oedd pob creadur oedd yn meddu bywyd, yn ddigon uchel i fwynhau bywyd, yn ddedwydd fel y gwnaeth Duw ef. Nid yw pob bywyd yn ddigon uchel i fwynhau bywyd. Ond pob bywyd, am a wyddom ni, a greodd Duw ag oedd yn ddigon uchel i fwynhau dedwyddwch, yr oedd yn ddedwydd fel y gwnaeth Duw ef, fel nad oes dim byd yn fwy amlwg yn nhrefniadau Duw na'i ddaioni, a'i fod am i'w greaduriaid fod yn hapus. Y mae adnod yn rhywle yn dweyd, "Y. rhai sydd yn dioddef yn ol ewyllys Duw, gorchymant eu heneidiau iddo ef, megys i Greawdwr ffyddlawn, gan wneuthur yn dda." Fe fyddai un o'r hen dadau yn eich gwlad chwi yn dweyd yn ddoeth; felly byddai ef yn deyd, "fod gan bawb ffafr i waith ei ddwylaw, ac felly fod gan Dduw ffafr i ninau fel ei greaduriaid." Gallwn ni fentro cryn lawer ar Dduw fel ein Creawdwr. Mae ganddo ffafr i waith ei ddwylaw. Fe fyddai yr hen dad yn dweyd hyny lawer gwaith, "y mae gan bawb ffafr i waith ei ddwylaw." Gallwn fentro llawer ar Dduw fel ein Creawdwr. Wnaiff ef byth gam a ni.

O! Greawdwr doeth! Heblaw hyny, pe baech yn edrych wedyn ar ddarpariadau Duw i adfer byd syrthiedig, yr ydych yn gweled mai nid difater gan Dduw ein colli ni. Rhaid addef fod Duw, wedi i ddyn bechu, wedi ei droi allan o Eden y lle dedwydd, ffrwythlawn, a hapus, a breintiau lawer iawn yn perthyn iddo; ond trodd Duw ef allan i fyw mewn byd o sorod, byd o gystuddiau, a byd y byddai farw ynddo. Trodd Duw ef i fyd fel yna, ond throdd o mohono i uffern 'chwaith. Gallasai wneyd hyny, ac ni fuasai gan neb le i'w feio; ond wnaeth o ddim. Fe'i trodd i fyd o sorod, a throdd o mohono i uffern. Gallasai wneyd hyny, mae'n amlwg. Mae llawer yn cwyno fod porth y bywyd yn gyfyng. Rhaid addef mai porth cyfyng ydyw, ond dylem ddiolch ei fod yn borth heb ei gau eto; ac y mae miloedd o'n teuluoedd ni wedi myn'd trwyddo; ac nid yw wedi ei gau eto. Yr ydym yn cael fod Duw, wedi i ddyn gwympo, yn dyfod gydag awel y dydd ac yn rhoi yr addewid gyntaf o Had y wraig i'n rhieni cyntaf. Fe fum i yn meddwl, os bu brys ar Dduw erioed, mai dyna yr adeg y bu yn brysio; fod arno frys i ddechreu datod ei hen blan tragwyddol i godi byd wedi syrthio; yr oedd arno frys i ddyfod, daeth gydag awel y dydd i ddechreu ei ddatod. Yr oedd wedi cael pleser wrth ei ben yn y tragwyddoldeb, ac y mae yn dod gydag awel y dydd i ddechreu ei ddadblygu, ac i ddatod ei drefn fawr i adfer byd syrthiedig. Fe fum yn meddwl, os bu arno frys erioed, mai dyna yr adeg y bu Duw mewn brys,—eisieu gwel'd yr adeg i ddechreu dadblygu ei hen fwriad tragwyddol. Gwelwn yr un peth yn amynedd Duw. Rhaid addef fod gradd o amynedd yn cael ei arfer tuag at yr angylion syrthiedig hyd ddydd y farn, i ryw ddibenion nad wyf fi yn hysbys o honynt. Ond dylech gofio hyny yn wastad, fy nghyfeillion. Pan yn son am Ben-arglwyddiaeth Duw, dylem gofio, nad ydyw Duw yn gwneyd dim heb rywbeth teilwng ohono ei hun dros ei wneyd. Nid yw wedi ei ddadguddio i ni; ond y mae gan Dduw rywbeth teilwng ohono ei hunan dros bobpeth y mae yn wneyd. Ac felly y mae yn gallu goddef yr angylion syrthiedig i ryw ddibenion hyd ddydd y farn. Y maent hwythau yn gwybod hyny hefyd. Dyna un o honynt yn dweyd wrth Iesu Grist, "a ddaethost ti i'n poeni ni cyn yr amser?" Yr oeddynt yn gweled Iesu Grist yn dechreu arnynt cyn yr amser. Y mae Duw yn eu goddef un tro i brofi a themtio Job, ac y mae yn bosibl ei fod eto yn eu goddef i'ch temtio chwithau. Wni ddim na fydd cadwedigaeth pechadur yn y diwedd yn fwy gogoneddus wedi i Dduw adael tipyn o liberty iddyn nhw wneyd eu goreu, a Duw yn ei gadw er eu gwaethaf. Byddaf bron yn meddwl hyny weithiau. Fe fydd yn rhyw golofn yn iachawdwriaeth dyn fod y Duw mawr wedi ei gadw er gwaethaf pobpeth. Ond y mae Duw yn goddef dynion nid i'r un dyben, "Cyfrifwn amynedd Duw yn Iachawdwriaeth." Rhyw gyfle i ddyn gael gafael ar iachawdwriaeth ydyw tymor bywyd; a geiriau trwm iawn ydyw y geiriau hyny sydd yn cael eu dweyd am ddyn, ei fod wedi para yn anufudd tra y parhaodd hiramynedd Duw. Gwyliwch, bobol, i hiramynedd Duw ddarfod, a'ch cael yn anufudd. Nid yr un dyben sydd wrth oddef dynion ag wrth oddef yr angylion syrthiedig. Gwelir hyny yn amlwg iawn yn hanes yr hen fyd. Tipyn o ffordd y mae Duw wedi drefnu cyn myn'd a ni i dreial ydyw y byd yma, a dyma heno yn gyfle i chi setlo gyda'r Barnwr cyn cyraedd yno; a gwyliwch gyraedd yno heb setlo. Peth ffol iawn fydd myn'd yno heb setlo. Y mae yn fanteisiol iawn i setlo heno hefyd. Mae ffordd maddeuant yn rhad. Ond os ei di i'r jail, ddoi di ddim oddiyno hyd nes y teli y ffyrling eithaf. Rhyw le i setlo, ag y mae y Duw Mawr wedi roi i chwi a minau, ydi'r byd yma. Ac os na setlwch chi yn y tymor y mae Duw wedi roi i chi, setlwch chi ddim pe caech chi fil o flynyddoedd i setlo. Ni ddarfu i mi ddeall fod dim dadl erioed wedi ei roi yn erbyn y tymor y mae Duw wedi roi ini. Ac os na fydd y peth wedi ei setlo yn y tymor y mae Duw wedi roi i ni, wnaem ni fawr well pe caem ni dymor mwy. Heblaw hyn, y mae Duw yn ei drugaredd wedi troi y byd yma yn rhyw hospital i wella dynion. Byd y mendio ydi hwn. Gwyliwch fyn'd o hwn heb fendio. Fendiwch chi byth wedi myn'd oddiyma. Byd y mendio ydi hwn. Hyd y galla i ddeall, y mae trugaredd Duw wedi troi pobpeth yma braidd yn foddion i'n mendio ni. Hyd yn nod y pethau ddo'th yma trwy bechod—y maent wedi eu troi yn foddion i wella dyn gan drugaredd Duw. Dyna ddyben y cwbl. Fe fyddaf bob amser yn gynil iawn wrth son am gosbedigaethau, yn o hwyrfrydig ac ara' deg yn son am danyn nhw. Charwn i ddim dweyd nad oes cosbedigaeth. Ond yr wyf yn credu am oruchwyliaethau Duw tuag atom yn y byd yma mai ceryddon ydynt ac nid cosbedigaethau. A dyna un gwahaniaeth rhwng cosb a cherydd, mai gwella dyn ydyw amcan y cerydd; nid dyna yw amcan cosb. Y mae amcan arall. Y mae gan Dduw ei gosbedigaethau a'i geryddon. Mae gan y wlad gyfraith, a chanddi ei cheryddon a'i chosbedigaethau. Tipyn o flynyddau yn ol yr oedd yna un barnwr yn cyhoeddi dedfryd marwolaeth ar ddyn ieuanc, un o'r rhai ieuengaf a gosbwyd erioed. 'Roedd o wedi bod yn ngafael y gyfraith lawer gwaith o'r blaen. Ond dyna ddeydodd y barnwr wrtho—bachgen oedd o,—Wel, y'ch gwella chi oedd y dyben o'r blaen, ond dydi gwella ddim yn amcan 'rwan; erbyn y tro hwn mae hi wedi dwad yn gosbi. A credu yr ydw i mai ceryddon ydi goruchwyliaethau Duw tuag atom yn y byd yma i'n mendio, a gobeithio ein bod ni yn mendio. Ac fel y mae hi yn y claf—dai mawr yna, 'does neb i gael bod yma os na fydd gobaith i'w wella. A byddaf yn meddwl hyny weithiau, yn gweled dyn wedi ei adael yn yr Hospital yn dipyn o brawf fod Duw, y Meddyg Mawr, heb ei roi i fyny; ac nid wyf yn meddwl y cawsech fod yma yn hir wedi i bob gobaith eich gwella ddarfod. Byddaf yn meddwl fod Duw am ddanfon dyn i bob man er ei fendio.

Heblaw hyny eto, gallwn ddweyd: Y mae yna rwystrau lawer wedi eu gosod yn ein ffordd i fyn'd i uffern gan drugaredd Duw. Mae rhai yn son am rwystrau i fyn'd i'r nefoedd, ond y mae llawer iawn mwy o rwystrau ar ein ffordd i fyn'd i uffern. Pwy fu yn eu gosod, tybed? Pwy ond trugaredd Duw? "Cauaf eu ffordd hwy â drain;" ac os bydd hyny yn aneffeithiol, fe wnaf fur rhag iddynt gael eu ffordd. Rhwystrau, nid ydynt yn ddim ond pethau y mae trugaredd Duw yn daflu ar ffordd pechadur i fyn'd i drueni. Pwy fu yn gosod y canllawiau? Trugaredd Duw fu yn eu gosod. Y mae llawer iawn o ganllawiau wedi eu gosod rhag i chwi a minau syrthio drosodd. Y mae trugaredd Duw wedi bod yn bur ffyddlon yn eu gosod, lawer o honynt, mwy nag ydych wedi feddwl. Meddyliwch am y goleudai sydd yn amgylchu yr ynysoedd yma. Bu adeg pan nad oeddynt yn bod,yr hen forwyr yn eu hamgylchu heb olwg ar 'run o honynt; ond erbyn heddyw, y mae goleu arnynt bron i gyd. Pwy fu yn eu codi? Y môr—ladron, ynte? O, na, rhywrai oedd yn dymuno yn dda i'r morwyr druain fu yn eu codi, a 'does braidd yr un graig 'rwan nad oes goleu arni. Rhaid i ni addef fod hen bobol dda y Beibl wedi methu weithiau. Nid yw y Beibl yn celu hyny, ond fyddaf fi ddim yn dewis son llawer am eu colliadau. Byddaf yn gynil wrth son am bechodau pobol Dduw. Fe fyddaf yn gwybod fy mod yn son am bechodau ag y mae Duw wedi eu maddeu er's llawer iawn, Ond rhaid addef eu bod wedi methu. Dyna Noah. Mi fethodd yntau, ond 'doedd dim goleu ar ei graig ef, dim goleu. Ond erbyn hyn, mae goleu ar y creigiau bron i gyd. Dacw Judas yn gwerthu ei Arglwydd. Gofalodd Duw am dipyn o drugaredd; a beth feddyliech gafodd trugaredd Duw i wneyd goleu? Ei grogbren,—rhywbeth i bawb gilio yn mhell oddiwrtho. Trugaredd Duw fu yn ei gosod. "Llusern yw dy air i'm traed." Beth yw y Beibl? Goleudy i ti wel'd yn mha le i ti roi dy droed i lawr yn anialwch y byd yma.

Heblaw hyny, dyna beth arall, rhaid i mi just ei gyffwrdd, a dim ond hyny, y mae hyny yn ddigon,dyna ydyw: Y draul yr aeth Duw iddi i gael trefn i'n cadw. Gallwn ddweyd fod hyn yn ddigon i brofi y pwnc yma, nad ydi Duw ddim am ein colli. Y mae y draul y mae Duw wedi myn'd iddi i'n cadw ni yn ddigon ynddi ei hun i brofi mai nid difater gan Dduw ein colli ni. Pan fyddaf yn edrych ar waith Duw, fydda i byth yn gweled Duw yn gwneyd dim heb fod ganddo ddigon wrth gefn. Faint o fydoedd wnaeth o? Wn i ddim, ond gwn y buasai yn gwneyd ychwaneg pe buasai angen ychwaneg. Ond pan roddodd Duw ei Fab, fe fyddaf yn credu fod Duw yn rhoi o'i eisieu megys, Duw yn rhoi o'i eisiau. Pe baech yn mesur cariad y rhoddydd ar wahan i 'stad a theimlad ei galon at yr achos, gwnaethech gam mawr iawn. Rhodd fach iawn oedd eiddo y wraig weddw, ond calon noble iawn, —y fwyaf yn y lle o lawer. Ond am ein Duw ni, wnaech chi ddim cam ag Ef pe baech yn mesur ei galon wrth faint ei rodd. A phan roddodd Duw ei Fab, dyma un rodd sydd yn ddigon i fesur maint ei gariad tragwyddol. Wnewch chi ddim cam â chariad tragwyddol Duw wrth gymeryd hwn yn gorsen fesur. Fe roddodd Duw o'i eisiau wrth roi ei Fab. Y mae yma lawer iawn o bethau wedi dod i'r golwg mewn cysylltiad a threfn cadw dyn. Y mae rhai yn meddwl y buasai Iesu Grist yn ymgnawdoli pe buasai dyn heb bechu. Wni ddim; 'does gen i ddim Beibl arno, a 'does ganddynt hwythau ddim 'chwaith. A'r Beibl ydi llyfr crefydd. Nid wyf yn gwybod hyny;—gwell genyf ei adael: ond yr wyf yn credu hyn, fod bodau rhesymol eraill heblaw dynion wedi cael mantais fawr ar yr ymgnawdoliad, ac mai yn y fan yma y maent yn gweled Duw egluraf. Fe fyddai yr hen dadau yn arfer dweyd, fel y gwyddoch, mai yn Eden y byddai duwinyddion yn arfer dechreu, ond yn awr y maent wedi myn'd o Eden i Galfaria, ac y maent o'r farn na ddeallodd neb erioed Eden yn iawn ond o Galfaria. Y maent yn dweyd fod yn rhaid i'r seryddwyr fyn'd rhyw ganoedd o filldiroedd o ffordd er mwyn cael golwg iawn ar ryw ser penodol. Wn i ddim. Ond y mae yn sicr erbyn hyn fod Eden i'w deall yn well yn ngolwg Calfaria. Y mae yr angylion yn chwenychu edrych ar ryw bethau: yr oeddynt yn yr hen amser yn treulio cryn amser i syllu uwchben Eden, ond y maent wedi myn'd i rywle arall erbyn hyn. Fe dybir mai Calfaria yw y lle hwnw, a'u bod wedi myn'd yno er's talm. Y mae y Beibl yn rhoi ar ddeall mai yno y maent hefyd. Mae yn ddiameu mai yno y maent, ac mai yno y byddwn ninau,—mai yno y byddwn yn gweled Duw egluraf o un man arall.

Mae dyn hefyd yn ateb ei ddyben wrth gael ei gadw. Tipyn o beth ydyw i ni ateb ein dyben. Wrth gael ein cadw yr atebwn ni ddyben Duw yn ein creu. Peth mawr iawn ydyw i ni ateb ein dyben i'r Duw a'n gwnaeth. Mae hwn yn sylw pobl sydd yn fwy na mi; ac eto nid wyf yn gildio iddynt o fewn cylch yr Hen Feibl: hwn ydyw llyfr crefydd, ac ond i ni iawn ddeall hwn, fe ddylai hwn fod yn derfyn ar y cwbl. Os na rown warogaeth i'r Beibl, nid ydym yn talu y parch a ddylem iddo. Os bu rhywbeth ag y maent i gyd o'r un farn arno, y maent ar hwn, y scientific men i gyd,—os bydd rhywbeth wedi ei greu i ddyben penodol, mae yn anhawdd gwneyd dim byd arall o hono. Wel, mae Duw wedi ein gwneyd ni i'w wasanaethu a'i fwynhau, a ddaw dim byd o honom ni yn unlle arall. Byddwch ar goll i dragwyddoldeb ond yn ngwasanaeth Duw ac mewn mwynhad o Dduw. 'Does dim posib' gwneyd dim arall o honoch. Yr ydym wedi ein gwneyd i hyny. Felly y mae hi gyda y corff yma. Y mae pob aelod yn y corff wedi ei wneyd i amcan penodol. Meddyliwch just am un esiampl—y llygad. Y mae wedi ei wneyd mor noble i weled. Beth arall fedrwch wneyd o hono? 'Does dim posibl gwneyd dim byd. Ond y mae wedi ei wneyd yn ogoneddus i weled. Felly y mae Duw wedi ein gwneyd ninau, i'w wasanaethu a'i fwynhau; ac ar goll y byddwn byth ond yn ngwasanaeth Duw ac mewn mwynhad o Dduw. Ac y mae y drefn fawr yma yn codi dyn i ateb y dyben oedd gan Dduw yn ei greadigaeth.

Heblaw hyny eto, wnaf fi ddim ond just enwi hwn i chi, fy nghyfeillion: Mae y ffaith fod Duw mor hwyrfrydig i roi dyn i fyny yn profi mai nid difater ganddo 'y'n colli ni Yr ydym yn credu hynyna er's blynyddoedd—mai Duw ydi yr olaf o bawb i roi dyn i fyny, ac yn credu hefyd mai peth olaf Duw ydi o. Yr ydan ni yn aml yn gweled pobol Dduw yn rhoi rhai i fyny, ond yn cael lle i gredu mai Duw ydi yr olaf bob amser i roi dyn i fyny. Mae o yn gomedd derbyn ateb—fel pe yn gwthio yn erbyn gobaith yn hytrach na rhoi y dyn i fyny. Yr wyf yn ofni fod pobol Dduw yn derbyn ateb y dyn ac yn ei roi i fyny, ond Duw yn gomedd gwneyd. Gwyliwch, bobol, fe fyddwch wedi rhoi yr ateb olaf cyn hir. Pa'm mae Duw mor hir yn rhoi dyn i fyny? Mae o yn dysgwyl i chi roi gwell ateb i'r efengyl. Yr ydym yn cael pobol Dduw yn derbyn ateb y dyn, ond Duw heb roi y dyn i fyny. Yr oeddwn yn adwaen un felly. Yr oedd pawb wedi ei roi i fyny, ac yr oedd ar ei wely angau. Ac un tro, pan yn ymweled ag ef, gofynais iddo a oedd ef yn meddwl y talai i'w ddangos yn y nef? "Nag ydwyf, yn wir," meddai, "ond yr ydw i yn credu er's pum' wythnos bellach y talaf i'm cuddio mewn marwol glwy." Duw ydi yr olaf o bawb, bobol, i roi dyn i fyny. Rhaid i mi adael hyna yn union gyda chi. Yr wyf yn credu er's blynyddoedd y caf fy hunan yn y diwedd yn nwylaw Barnwr na rydd o mona i byth yn uftern os setlaf gydag Ef yn ei Fab. Gelli fod yn dawel, os ffiti di i fod yn y nefoedd, mi fyddi yno. Fyddai o fantais yn y byd i ti fyn'd yno os na fyddet yn gymwys i fod yn unlle arall. Ond os byddi yn gymwys i fod yn rhywle, penderfyna nad ei di ddim i uffern. Chrewyd mo uffern ar eich cyfer. Ond os cytuni di a'r angylion syrthiedig, yno y byddi di. Ond chrewyd mo uffern ar eich cyfer, bobol. Mae gen i ddau neu dri o syniadau ar y pwnc yma. Dyna un, Fod Duw yn meddwl cymaint o achub pechaduriaid fel na fydd yma ddim byd yn werth gan Dduw ddal goleu i ddynion wedi i bawb gael ei achub. Leiciech chi ddim bod yma wedi i bawb gael ei achub. Tebyg i'r hen fyd y bydd hi, 'rwy'n meddwl. Ni fuasech yn leicio bod yma wedi i Noah fyned i mewn i'r arch. Byd i achub ydi y byd yma. Peth arall, —Yr wyf yn credu fod Duw yn meddwl mwy o ddyn wedi ei greu yn Nghrist Iesu nag oedd yn meddwl o ddyn ar y dechreu. Mi gadwyd Adda ac Efa 'rwy'n credu; ond yr wyf yn credu fod y Cristion ar dir uwch nag fuodd Adda erioed, ac yn annhraethol fwy dyogel. Mae Duw wedi rhoi aml argraffiad o'r ddeddf, ond y maent yn cael eu colli. "Ond mynaf un argraffiad eto," meddai, "chollir mo hwnw byth." "Yn mhle yr wyt yn myn'd i roi dy gyfraith?" "Yn y galon, ysgrifenaf hi yn y galon." Ac anrhydedd mawr i galon dyn fydd bod yn llechau i ddeddf Duw. Dyna beth arall hefyd, —Yr wyf yn credu fod Duw yn meddwl mwy o ddyn wedi ei gadw na chyn iddo fyn'd ar goll. Yr ydych yn cofio fod un mab wedi aros gartref yn nameg y Mab Afradlon, ac ddim yn foddlawn i roi y croesaw pan ddo'th yr afradlon yn ol. Ond rhaid oedd llawenychu a gorfoleddu. "Waeth i ti heb gwyno, diwrnod yr afradlon ydi hi heddyw; waeth heb son am ddim heddyw; 'dy frawd oedd farw a ddaeth yn fyw drachefn, a gollwyd ac a gafwyd; rhaid oedd llawenychu a gorfoleddu;' waeth i ti heb rwgnach am ddim, diwrnod yr afradlon hi." Ac yr oedd y teulu yn leicio ei weled. Yr oedd Christmas Evans yn sylwi mai gorchymyn gwneyd gwledd i'r hen deulu i gyd ddarfu y tad ar ol i'r mab dd'od adref, ac nid gwneyd rhyw damaid bychan i'r mab afradlon ei hunan. Ac felly y mae eglwys Dduw, mae hi yn cael rhywbeth nad yw hi byth yn ei gael pan y mae afradloniaid yn dwad adref. Mae'r Duw mawr yn meddwl mwy o ddyn wedi ei gadw. Pe buasech yn myn'd at Dafydd pan oedd o yn bugeilio defaid, ac yn gofyn iddo, "Yn mh'le mae y ddau oen ddaru ti waredu o safn y llew a'r arth?" fe fuasai yn y munyd yn eu pointio nhw allan. Yr oedd yn meddwl mwy o'r ddau yna na'r un oedd ganddo yn ei flock. Yr wyf yn credu felly am un pechadur wedi ei achub, na fydd yn ail law i'r un yn mhlith holl greaduriaid Duw yn yr arddangosfa yn niwedd y byd, ac mai am danom ni y bydd y dillad goreu—pechaduriaid wedi eu gwisgo yn nghyfiawnder Crist. Y gair olaf,—'Dydi Duw ddim yn dirmygu y peth lleiaf wnewch chi drosto. Pe baet ti yn rhy wan i ddweyd gair am dano wrth dy gymydog annuwiol, os byddi yn meddwl am Ei Enw, mi fydd hyny i lawr yn y llyfr. Mae yn meddwl mwy o dy gadw na dim elli di wneyd drosto. Nid yw yn dirmygu y peth lleiaf wnei di drosto, ond y mae yn meddwl y byd o dy gadw di.

Dyna ydi cwestiwn yr efengyl heddyw, fy nghyfeillion,— Beth mae Duw yn ofyn? Gofyn a gaiff o dy gadw di. Dyma gwestiwn mawr yr efengyl, a diolch i Dduw am ddweyd cymaint am gadw pechadur. Mae o yn meddwl mwy am dy gadw nag fedri di wneyd drosto. A dyma gwestiwn mawr yr efengyl heno, gaift hi ein cadw ni? Chi sydd i ateb. Gwyliwch fod yn ddifater yn nghylch eich iachawdwriaeth, bobol. Pwy sydd yn ddifater? Dydi Duw ddim yn ddifater beth bynag. A gallwn ddweyd am hyny o awydd achub y byd sydd yn Eglwys Dduw, mai rhyw ddafn o'r môr o dosturi sydd yn y Duw mawr ydi o. Pe bae Duw yn eich rhoi i fyny, caech lonydd gan bawb arall. Wel, pwy sydd yn ddifater? 'Dydi y diafol ddim yn ddifater. Nag ydyw. 'Does neb yn ddifater os nag ydi yr annuwiol ei hun. Meddyliwch am Jonah yn y llong. Dacw y morwyr yn taflu darn o'r llwyth dros y dec yn y gobaith o allu morio yn mlaen, ac yn gwneyd egni mawr iawn i hwylio am y lan,—pob un yn galw ar ei dduw, a Jonah yn ddifater. Wel, y mae Duw wedi darpar i dy gadw di os wyt yn annuwiol. Y mae y diafol yn gwneyd ei oreu i dy ddinystrio, a thithau yn ddifater,—y dyn ei hunan yn ddifater. Beth fuasech chi yn ddeyd oedd Jeremiah yn ei haeddu? Y maent yn ei fwrw i'r pydew ar gam, am iddo ddweyd cenadwri yr Arglwydd wrth y bobol. Ond dacw Ebedmelech yn cael cenad i godi Jeremiah o'r pydew un diwrnod gan y brenin, ac mae o 'n myn'd a deg ar hugain o ddynion cryfion at y pydew i'w godi. Pa'm yr oedd yn rhaid cael deg ar hugain i'w godi? Yr oedd hyny yn ormod. Rhag ofn i neb eu rhwystro. Rhaid oedd ei gael i fyny. A dyna Ebedmelech yn myn'd, a'r rhaff ganddo, ac yn ei gollwng hi i lawr ac yn siarad ac yn dweyd wrth Jeremiah, "Gosod y rhaff am dy ganol; dal sylw, mae yma dipyn o fratiau, wedi dwad yma i dy godi di yr ydan ni, ac am dy godi mor esmwyth ag mae modd." Ac yntau yn gomedd eu rhoi am dano wed'yn. Beth fuasech chi yn ddeyd am dano? Rhywbeth go debyg ydi hyna i wrthod yr efengyl. Mae trefn yr efengyl yn dy ymyl. 'Dei di ddim i uffern ond drwy ei gwrthod. Mae Duw wedi penderfynu dy godi, a hyny mor esmwyth ag y mae'n bosibl. Gwyliwn fod yn ddifater, bobol, a phawb arall yn teimlo yn gryf. Chaiff neb fantais ar dy golli, fydd o ddim o un fantais i neb. Fe gaiff yr hen bregethwyr gryn dipyn o golled, fe ä eu llafur ar goll. Y mae yna adnod yn rhywle yn dweyd fod yn rhaid i ni oll roi cyfrif i fyny. Mi fydd yr hen bregethwyr yn drist,eu llafur wedi myn'd yn ofer. Chaiff neb fantais o dy golli, ond y mae tipyn o fantais o dy gadw di i gryn lawer. Yr ydych yn cofio hanes y storm. Yr oedd y storm yn fawr, ond wedi y cwbl yr oedd yna Un yn y llong fedrai ei gwneyd yn dawel, ond yr oedd eisio i'r dysgyblion ei ddeffro. Cofiwch chwithau hyny,—mae eisio i chwi ei ddeffro, a gosodwch werth ar y pethau sydd. Yr oedd rhyw adnod wedi nharo i fel hyn,"Jeremiah yn wylo uwchben ei hen wrandawyr, ac yn wylo uwch eu pen am nad oeddynt yn gwella." "Pa'm yr wyt ti yn wylo uwch eu pen nhw, Jeremiah?" "Dydyn nhw ddim yn gwella, ac y mae'r adeg fwyaf fanteisiol i wella wedi myn'd heibio." Y mae dwy adnod felly yn Jeremiah, "Onid oes balm yn Gilead? onid oes yno physygwr? Paham na wellha iechyd merch fy mhobl?" a meddygon lawer yn Gilead i gyfarwyddo y bobol sut i ddefnyddio y balm. Wel, mae balm a physygwyr Gilead wedi methu, ac y mae Jeremiah yn wylo uwch eu pen nhw. Yr ydych wedi clywed y pregethwyr goreu glywch chi byth. Tybed nad oes neb gwell? Nag oes, neb gwell i chi, beth bynag, byth eto. Yr ydach wedi clywed y rhai goreu glywch chi. Yr wyf yn hollol gredu fod y tymor gora i lawer wedi myn'd drosodd, a'r manteision goreu wedi eu colli. Pobol Gilead ydach chi, a phobol Gilead fyddwch yn y farn. Dyna fyddwch chi yn y dydd hwnw. "Pwy ydych chwi," meddai yr Iesu wrthych. "Pobol y stryt a'r stryt fuost ti yn dysgu ynddi." Pobol y stryt yna fyddwch chi a mina yn nydd y farn. Jeremiah yn wylo, maent heb wella eto, a'r amser goreu wedi myn'd heibio, yr adeg fwyaf tebyg i'r rhai hyn wella wedi myn'd heibio. Y mae genych gyfraith Duw a phrophwydi Duw yn eich cyfarwyddo, ac eto nid ydych yn credu. Dyma fi yn gadael y pethau yma, ddim ond dweyd hyn felly: Gaiff o eich cadw? gaiff o eich cadw? Y mae wedi meddwl llawer am hyny, ac yn meddwl mwy o dy gadw nag unpeth arall. Amen.

[Salem, Dolgellau, nos Sul, Ebrill 4, 1886.

Sylwadau o Bregeth ar Ephesiaid ii. 4-7.

Ystyr arbenig y testyn mawr yma ydi Trugaredd a Gras Duw wedi meddwl gwneyd enw iddynt eu hunain drwy godi y tlawd o'r llwch.

Yr ydw i yn credu hyn yn gryf,—nad ydi gweddi yr anuwiol ddim yn bechod os bydd o ddifrif: boed o can waethed ag y bo, os o ddifrif, dydi o ddim yn bechod iddo droi at Dduw. Leiciwn i ddim gadael yr argraff, fy nghyfeillion, ar feddwl dynion am Dduw, mai un anhawdd ei foddhau ydyw. Yr ydw i yn credu y gall dyn gael ei achub a gwneyd rhyw bethau i gyraedd rhyw radd o gymeradwyaeth Duw. Esiampl neu ddwy. Ahab oedd un, dyn annuwiol; am wni, nad felly bu o farw. Wedi iddo glywed y bygythion wnaeth Duw, plygodd o'i flaen. A dyma ddeydodd Duw wrth Elias, "Weli di, Elias, fel yr ymostwng Ahab?" Dyn mawr cryf oedd Elias, ond mae arna i ofn fod o wedi rhoi Ahab i fyny. "Weli di o yn ymostwng?" Blygodd o? Do, plygodd dipyn; plygodd ddigon i daflu y gawod i'r oes nesa; a dysa fo yn plygu dipyn bach chwaneg, mi fysa wedi plygu digon i'w safio byth. Yr oedd hyny o blygu wnaeth o yn ddigon i blesio Duw. Esiampl arall: y Ninifeaid, Duw yn anfoddlawn eu taro. Pa'm? Mae nhw wedi eu gwisgo mewn dillad na fedra fo mo'u taro. Beth ydi rheiny? Sachlian a lludw. Dyma y dillad, gyfeillion, fedr Duw ddim taro neb yn y rhain. Y Duw yna ydi ein Duw ninau, bobol.

Yr oeddwn i yn meddwl am ffordd Trugaredd o wneyd a ni yr un fath ag y mae rhyw air yn un o'r prophwydi. Duw yn deyd wrth y genedl pan oedd yn myn'd i Babilon am godi tipyn o arwyddion ffordd wrth fyn'd. "Wel, i be y gwnawn ni hyny?" medda nhwtha. "Gael i chi wybod y ffordd i ddod adre." "Ddown ni ddim adre," meddent. "O, dowch, mi ddowch yn eich hola," meddai Duw, "gadewch ambell bren ar eu penau, gwnewch ambell garnedd o geryg ar y ffordd; a phe baech chi yn marw yn Babilon, mi gewch ddeyd wrth eich plant am yr arwyddion." Felly y byddaf fi yn meddwl am Drugaredd Duw. Mae ganddi arwyddion ffordd wedi eu codi yn help i bechadur ddod ato, —gwrando gweddi'r gwael a'r tlawd, &c.

Y grisiau bendigedig ar hyd pa rai y bydd Trugaredd Duw yn codi pechadur. (1.) Wedi ein caru. Dyma y peth rhyfeddaf, i Dduw allu caru pechadur. Peth od iawn ydi cariad. Un elfen fawr mewn cariad ydi nad yw y draul a'r drafferth ddim yn ormod. (2.) Ein bywhau. Yr ydan ni yn son cryn dipyn am y nefoedd. Os wyt ti wedi cael bywyd yr wyt wedi cael peth mwy na'r nefoedd. Beth ydi'r nefoedd? Lle i'r bywyd yma i ddadblygu ac ymbleseru byth. (3.) Cyfodi. Dyna sut y dowch i fyny. Y mae yna faen ar dy fedd di, bechadur, a rhaid treiglo hwnw ymaith. Beth sydd yn treiglo y maen? Maddeuant. Ac wedi i'r maen gael ei dreiglo, yr wyt yn siwr o fyn'd i fyny wed'yn. A Duw yn unig fedr dreiglo y maen. (4.) Ein gorseddu. Wneiff Duw ddim gollwng gafael o honot nes dy wel'd yn cyd—eistedd a Mab Duw.

Y mae yn dda gen i feddwl hyny, fod ein cadw ni yn beth posibl. Beth bynag wyt, a beth bynag wnest, mae dy gadw yn bosibl heno. A gallaf ddweyd chwaneg,——mae dy debyg wedi ei gadw, a chollir mo honot tithau ond drwy i ti wrthod y drugaredd y mae Duw yn ei rad ras yn ei chynyg. Os wyt ti yn methu dwad, mi ddeydaf un adnod, os ydach chi o ddifrif am ddyfod, fy nghyngor bach ydi, gwnewch fel Ephraim—anfon at Dduw am gymorth, " O Arglwydd, dychwel fi, a mi a ddychwelaf." Gwnewch hona yn weddi. Gwyliwch oedi, y tragwyddoldeb mawr sydd gerllaw.


Y Parch. J. Harries Jones, Ph.D.


𝔜 𝔓𝔞𝔯𝔠𝔥. 𝔍. ℌ𝔞𝔯𝔯𝔦𝔢𝔰 𝔍𝔬𝔫𝔢𝔰, 𝔓𝔥.𝔇.

FEL PREGETHWR.
GAN Y PARCH. DAVID EVANS, M.A., ABERMAW.
Awdwr y "Sunday Schools of Wales," &c.

ER ei ragoriaethau fel myfyriwr ac athraw, fel pregethwr mawr a phoblogaidd, yn ddiau, yr erys Dr. Harries Jones hwyaf yn nghof y wlad. Yr oedd ynddo gydgyfarfyddiad bron o'r holl gymwysderau tuag at wneyd pregethwr mawr. Parheid drwyddo y neillduolion hyny ydoedd wedi perthyn i gewri pulpud yr oes o'r blaen yn Nghymru. Magwyd ef dan weinidogaeth Ebenezer Richards, W. Morris, Cilgerran, Richards, Abergwaun, Evans Llwynffortun, &c. Ac megys y dywedwyd am danynt hwy, "eu bod yn ddynion o bresenoldeb personol golygus ac awdurdodol, wedi eu cynysgaeddu â lleisiau o gwmpas a melodedd mawr, yr hwn drwy ymarferiad parhaus yr oeddynt wedi dysgu ei reoli, fel ag i fynegi gyda'r donyddiaeth gywreiniaf holl foddau amrywiol meddwl yr areithydd; ac yn enwedig yn meddu un o anhebgorion cyntaf llwyddiant areithyddol, yn arbenig felly yn y pulpud—difrifoldeb a dwysder tuhwnt i'r cyffredin," felly hefyd am Dr Harries Jones, ceid ynddo bresenoldeb hynod o ffafriol, wynebpryd agored a hawddgar, llygaid mawrion, llais soniarus, a gwresogrwydd ysbryd ydoedd yn rhoddi effeithiolrwydd dyblyg i'r gallu corfforol a feddai i floeddio yn swynol eiriau gwerthfawrocaf yr Iachawdwriaeth. Heblaw bod yn gydnabyddus ag arddull y cewri Cymreig, ac yn edmygydd o honynt, astudiodd hefyd y models goreu y daeth i gyfarfyddiad a hwy yn Lloegr. Ysgotland, a Germani. Tra ar y Cyfandir, er ei holl awydd i ymberffeithio mewn mewn duwinyddiaeth, athronyddiaeth a'r ieithoedd Semitaidd, nid anghofiodd un adeg ei uchelgais penaf i fod yn bregethwr llwyddianus. Ymddengys fod ganddo feddwl uchel o Tholuck fel pregethwr, ac os gwnaeth un o bregethwyr Germani yn gynllun, Tholuck ydoedd hwnw. Cymharwyd Harries Jones, cyn yma, i'w gymydog poblogaidd John Jones, Blaenanerch, ac mewn llawer o bethau yr ydoedd yn ddiau yn debyg, megys o gorff, llais cryf a swynol, a'i gydymdeimlad dwfn a gwirionedd- au syml yr efengyl. Ond a chymeryd pobpeth yn nghyd, y mae yn rhaid rhoi y flaenoriaeth i'r Dr., oblegyd y meddai yr ychwanegiad pwysig o ddiwylliant meddyliol uchel, a chanlyniad naturiol gwres- ogrwydd ysbryd wedi ei danio ar arucheledd ei fater ydoedd ei floeddio; ac yn hyn dygai lawer o ddelw y Parch John Jones, Talsarn.

Hynodid ef yn aml gan arucheledd ei ddrychfeddyliau. Yr ydoedd bob amser yn fwy barddonol ac athronyddol, nag argyhoeddiadol, yn fwy tebyg i'r prophwyd Esaiah pan ar uchelfanau y maes na phan yn edliw i'r genedl ei phechodau. Ni thybiodd y Dr. y derbyniodd erioed y comisiwn hwnw a roddwyd i Esaiah _" Llefa å'th geg, nac arbed; dyrchafa dy lais fel udgorn, a mynega i'm pobl eu camwedd, a'u pechodau i dy Jacob." Yr oedd ei natur yn rhy dyner, a'i dueddfryd yn ormod i gymeryd yr olwg ffafriol ar bethau, i ddelio llawer mewn bygythion a dyfarniadau. Ei rodfeydd mwy dymunol ef oedd graslonrwydd trefn yr iachawdwriaeth, a'r neillduolion hyny sydd yn perthyn iddi ag sydd yn dwyn yr angel- ion i chwenychu edrych i mewn iddi. Ei nod mawr ef oedd dwyn ei wrandawyr i ryfeddu yn fwy nag i arswydo, i deimlo yn debyg o dan ei weinidogaeth ag y teimlai y bardd pan yn myfyrio uwch ben rhyfeddodau y drefn :-

Pan bwy'n rhyfeddu unpeth, peth arall ddaw i 'mryd;
O iachawdwriaeth rasol, rhyfeddol wyt i gyd."

Defnyddiai gydmariaethau, yn gystal o arferion cyffredin bywyd ag o faes eang ei ddarlleniadau clasurol, i egluro neu i brydferthu pynciau y drefn. Ni phetrusai yn wir gasglu blodau o feusydd chwedloniaeth baganaidd i addurno bedd Iachawdwr y byd, neu i berarogli coffadwriaeth yr Hwn, er iddo farw, sydd eto yn fyw, ac wele byw a fydd yn oesoesoedd. Gweithiai allan ei ffigyrau yn gyflawn a chyson: ac wedi cael gafael ar ddrychfeddwl, ymhyfrydai yn y gwaith o'i ddadblygu a'i gymhwyso yn ei wahanol gysylltiadau. Yn y 68ain Salm, wedi cael lle i feddwl fod cyfeiriad yn y geiriau, "Y cantorion a aethant o'r blaen, a'r cerddorion ar ol," at orymdaith yr Arglwydd Iesu yn myned i mewn drwy byrth y Gaersalem fry, ar ol Ei esgyniad, gyda saint yr Hen Destament o'r o'r blaen, a saint y Newydd ar ol, cofus gan lawer gyda'r fath bryd. ferthwch a chyflawnder y desgrifiai yr olygfa ogoneddus. Yn ei bregeth ar yr adgyfodiad, desgrifiai long yr iachawdwriaeth yn cychwyn allan o'r porthladd, dri o'r gloch prydnawn diwrnod y croeshoeliad, ynghanol ystorm, ond cipiwyd hen leidr ar ei bwrdd o ymyl porth uffern, yn ernes o'r myrddiynau a gedwid ynddi cyn terfyn yr oruchwyliaeth. I egluro tybiaeth yr Apostol mai ofer ydoedd fydd y credinwyr, os Crist ni chyfodwyd, meddyliai am deulu wedi bod yn llafurio yn galed ar hyd eu hoes, ac yn byw yn gynil er mwyn cael ychydig wrth gefn yn eu hen ddyddiau, ond y fath siomedigaeth iddynt fyddai clywed fod y bank wedi tori, pan yr oeddynt ar fyned i bwyso ar eu hadnoddau allan o hono. Ond yr oedd y gyfryw siomedigaeth yn myned i'r cysgod o'i chydmaru â siomed— igaeth y credadyn, os ydoedd sail ei obaith ef yn profi yn dwyllod— rus. Gyda'r fath rym gan hyny yr adseiniai orfoledd yr Apostol wedi profi ei fater y tu hwynt i bob dadl, "Eithr yn awr Crist a gyfodwyd oddiwrth y meirw, ac a wnaed yn flaenffrwyth y rhai a hunasant." Hapus, yn ddieithriad, fyddai ei ddefnydd o hanes arwyr Homer a Virgil, neu rhyw ddygwyddiad yn hanesiaeth Groeg a Rhufain, fel trostan i dderchafu yn uwch i sylw ei wrandawyr glodydd y Gwaredwr. Llawer gwaith y llwyddodd i yspeilio yr Aifftiaid er mwyn cael tlysau at wasanaeth y tabernacl, ac i droi llwyni a chysegroedd yr eilunod megys yn demlau i'r Duw Goruchaf.

Drwy lawer o anhawsderau y cyrhaeddodd ei safle uchel fel "un o feistriaid y gynulleidfa." Bu am amser ar y cyntaf yn ymdrafod a'r pynciol a'r dyrus yn ei bregethau, a chafodd aml i odfa flat yn herwydd hyny. Ond erbyn ei flynyddoedd diweddaf, yr oedd wedi gadael y cynllun hwnw heibio, ac yn gofalu hwylio ei lestr ar ganol sianel gwirioneddau yr Efengyl, a'r awelon nefol, y rhan fynychaf, yn llanw ei hwyliau. Llawer Cymanfa yn Mhwllheli, a lleoedd eraill, y gwelwyd effeithiau anghyffredin yn dilyn ei weinidogaeth y pregethwr a'r gwrandawyr wedi ymdoddi i'w gilydd a'r gwasanaeth yn terfynu mewn mawl a gorfoledd megys hen ddiwygiadau Cymru gynt

Byr-gofiant

Ganwyd Dr. Harries Jones mewn ffermdy o'r enw Waenwthan, yn mhlwyf Llangeler, sir Gaerfyrddin, ar y 28ain o Awst, 1827. Pan yn ddwyflwydd oed, symudodd ei rieni i Penybanc, Closygraig, yn yr un sir. Daeth yn aelod gweithgar o'r Ysgol Sul, a dysgodd yr Hyfforddwr yn berffaith. Yr ysgol gyntaf gafodd ydoedd ysgol Saron, Llangeler; yn 12 oed, symudodd i ysgol ramadegol Castell newydd emlyn. Ar ol hyn ceisiwyd gwneyd ffarmwr o hono, ond taflodd y drol a'r ceftyl a llwyth o ymenyn dros ddibyn, a setlodd hyny ei dynged. Wedi bod yn Ngholeg Presbyteraidd Caerfyrddin, trwy ymroad a phenderfyniad, enillodd ysgoloriaeth Dr. Williams yn Mhrifysgol Glasgow, Arosodd yma bedair blynedd. Enillodd wobr uchaf y Brifysgol, sef y bathodyn aur, a chafodd ei M.A. Yna aeth i Germani, bu yn efrydu yn Mhrifysgolion Goettingen a Halle, ac enillodd y teitl o Ph.D. Dewiswyd ef yn athraw yn Ngholeg Trefecca. Mawr oedd serch a chariad y dysgyblion ato, ac ymroddodd o ddifrif gyda'i holl ddyledswyddau, ac enill poblogrwydd yn mysg ei gydwladwyr. Ordeiniwyd ef yn 1859. Bu farw yn Southport, Gorphenaf 21, 1885, a chludwyd ei weddillion i fynwent Closygraig. " Efe oedd fawr gan ei genedl, ac yn gymeradwy yn yn mysg lluaws ei frodyr, yn ceisio daioni i'w bobl, ac yn dywedyd am heddwch i'w holl diriogaeth."

𝔇𝔴𝔶𝔫 𝔐𝔢𝔦𝔟𝔦𝔬𝔫 𝔩𝔞𝔴𝔢𝔯 𝔦 𝔒𝔤𝔬𝔫𝔦𝔞𝔫𝔱.

Gan y diweddar Barch. J. Harries Jones, M.A., Ph.D., Trefecca.

"Canys gweddus oedd iddo ef, oherwydd yr hwn y mae pob peth, a thrwy yr hwn y mae pob peth, wedi iddo ddwyn meibion lawer i ogoniant, berffeithio Tywysog eu Hiachawdwriaeth hwy trwy ddioddefiadau." HEBREAID ii. 10.

YR un amcan sydd i holl weithredoedd Duw pa mor amrywiol bynag fyddont o ran eu natur. Maent oll yn diweddu yn yr un man, mewn gogoniant i Dduw. Ac wrth hyny, yr ydym yn deall fod ei briodoliaethau dwyfol yn cael eu dwyn i arferiad, i exercise, a'u harddangos gerbron y byd, a hyny yn cael ei wneyd er dedwyddwch a lleshad ei greaduriaid moesol. Mi fuasai amcan îs na hwn yn annheilwng ac yn anaddas i Dduw. Gweithredu heb fod yr amcan hwn mewn golwg ganddo, mi fuasai yn gweithredu yn îs nag Ef ei hun. Yr un amcan, o ganlyniad, sydd i'r prynedigaeth a'r greadigaeth. Y mae cysylltiad mor agos rhyngddynt, yn ol un dosbarth o dduwinyddion, fel y mynant i ni edrych ar yr Ymgnawdoliad fel diwedd—glo y greadigaeth; na fuasai y greadigaeth yn gwbl, yn gyflawn, ac yn berffaith heb i Fab Duw ymgnawdoli. Felly yr edrychant ar Adda'r Ail, yn hytrach na'r Adda Cyntaf, fel diwedd—glo y greadigaeth, fel stop—stone teml y greadigaeth; Adda'r Ail ac nid yr Adda cyntaf. Ond beth bynag am hyny, fy mhobl i, dywedir yn bendant yn yr Ysgrythyrau sanctaidd fod y greadigaeth yma yn briodoliad o Dduw. Mae ei briodoliaethau naturiol yn cael eu hamlygu yn y greadigaeth, a'i allu, a'i ddoethineb, a'i awdurdod. "Canys ei anweledig bethau Ef er creadigaeth y byd, wrth eu hystyried yn y pethau a wnaed, a welir yn amlwg, sef ei dragwyddol allu Ef a'i Dduwdod." Yn awr, meddyliwch am foment,—nid yw yn anmhosibl i ni ddychymygu—ein bod yn cael ein gwysio i fod yn llygaddystion o weithredoedd newydd yn y greadigaeth, Duw yn myned i greu byd materol newydd, bydoedd materol newyddion. Golygwch ein bod yn cael ein cymeryd i fyny i ryw seren bellenig. O'n cwmpas nid oes dim ond gwagle mawr. Gallwn ddychymygu y teimladau o ddychryn ac edmygedd fuasai yn ein meddianu o dan y cyfryw amgylchiadau. Dyma ni wedi cymeryd ein safle, ac yr ydym yn barod i fod yn llygaddystion ac yn glust—dystion o'r hyn sydd i gymeryd lle. Dyna y gair "Bydded" yn dadseinio trwy y gwagle mawr, ac yn canlyn ar ol yr adseiniad, dyna fydoedd yn neidio i fôd, cyfandiriaethau yn llamu i fodolaeth, a lleuadau i oleuo y bydoedd yna. Edrychwch o'ch cwmpas, mae y gwagle mawr yn cael ei lanw o fydoedd mawr. Nid peth wedi cael ei drawsffurfio na'i drawsnewid, ond y cwbl yn cael ei wneyd o newydd. Dyna bentwr o fydoedd wedi dyfod allan o'r gwagle; dyna oleuni wedi cael ei daro allan o dywyllwch; dyna enedigaeth wedi dyfod allan o fro diddymdra. Yn awr, yn argraffedig arnynt oll, mae olion doethineb dwyfol a gallu yn ymorfoleddus yn ei waith gorchestol a buddugoliaethus. Ond beth ydym ni wedi ei gael? Creadigaeth faterol, priodolaeth Duw wedi gweithredu ar fater, byd materol newydd. Ydych chi yn teimlo braidd fod yna ormod o wastraff ar fawredd—dim ond gweithiau allanol, gweledig, teimladwy y gellwch chwi eu teimlo â'ch dwylaw, os oedd yr holl bethau yna wedi cael eu gwneyd er mwyn eu hunain yn unig? Yr ydych yn barod i ddweyd fod yna wastraff wedi bod—nid ydych yn gweled fod yr amcan yn ddigon mawr. Ond os tybiwch fod yna greaduriaid wedi cael eu gwneyd o flaen y weithred olaf yr ydym wedi cyfeirio ati, nis gallant fod felly. Ond tybiwch fod y greadigaeth faterol yna wedi cael ei dwyn i fôd gan y Duw mawr er mwyn rhoddi addysg i ddyn, er mwyn dysgu dyn, dyna i chwi amcan uwch. Ond dyma ddyn yn edrych ar y greadigaeth, yn studio gwaith y greadigaeth, yn gweled "ei dragwyddol allu Ef a'i Dduwdod," ac yn gweled nad oes dim ond hollalluowgrwydd ac anfeidrol ddoethineb ac awdurdod digyffelyb allasai ddwyn y pethau yna i fodolaeth, fy nghyfeillion. Nid yw yr olwg yna gan ddyn ar y greadigaeth ond aneglur dros ben. Mae yna feddyliau o Dduw yn y greadigaeth. Ond yr wyf fi yn barod i feddwl am ddyn yn edrych ar amlygiad o Dduw yn y greadigaeth yn debyg i ddyn a'i olwg yn dechreu pallu, yn darllen llyfr ag argraff fân iawn ynddo, ac yn drafferthus iawn i'w ddarllen. Yn awr, dewch gyda mi eto am foment i syllu ar arddangosiad arall hollol wahanol. Nid i edrych ar briodoliaethau naturiol Duw, ond ar ei briodoliaethau moesol yn llywodraeth y byd yma. Y mae ei hollalluowgrwydd yn dyfod i'r golwg, ac y mae ei ddoethineb yn dyfod i'r golwg, ond nid doethineb noeth ynddi ei hun ydyw, ond doethineb Duw yn dyfod i ddatod cylymau dyrus y rhai na fuasai yr un creadur dynol byth yn rhinwedd ei allu ei hunan, byth yn eu datod. Ond heblaw y rhai yna, yr ydym yn canfod dau wirionedd—ffyddlondeb Duw i'w Air a'i Gyfiawnder—a'r ddau yna yn cynwys ei Sancteiddrwydd. Yn awr, yr amlygiad ydym yn gael o ffyddlondeb Duw ydywtystiolaeth ei ewyllys a'i gyfiawnder Ef sydd mewn gweithredoedd o'i uniondeb. Ofer a ffolineb ydyw meddwl fod cyfiawnder a gwirionedd yn wahanol o ran eu natur yn Nuw ragor ydynt yn y dyn. Mae yna wahaniaeth mawr, mae'n wir, ond yr un ydynt o ran eu natur. Fuasem ni ddim yn well o'r syniad yma, os ydyw gwirionedd, a sancteiddrwydd, a ffyddlondeb yn y Duw mawr yn wahanol ragor ydynt yn y dyn.

Dyna ni wedi bod yn edrych ar ddwy arddangosfa, y naill yn dangos priodoliaethau naturiol Duw, a'r llall ei rai moesol. Yr ydym yn canfod pwysau, maintioli, a dysgleirdeb wedi cael eu dwyn allan gan ei briodoliaethau naturiol. Ond y mae y lleill yn dibynu ar feddwl wedi cael eu gweithredu ar feddwl gan y Duw mawr—cyfiawnder, sancteiddrwydd, a gwirionedd. Y maent a fyno â'r meddwl ac nid â mater. Yr ydym yn deall y naill fel y llall, pob un o honom yn medru desgrifio y naill briodolaeth fel y llall, ei rai moesol a'i rai naturiol. Ond y dygwyddiad mwyaf amlwg o briodoliaethau Duw yn y ddwy ydyw marw'r groes. Os ydych am engraifft o allu ar ei oreu, edrychwch i'r groes; a doethineb Duw, edrychwch i'r groes. Mae yn y groes allu Duw a doethineb Duw. Ac nid rhyw ranau o'i ffurf sydd yn dyfod i'r golwg yn y fan yna. Nis gellwch ddychmygu am ddadguddiad gwell, dadguddiad uwch. Dyma gyfiawnder wedi myn'd allan hyd yr eithaf, a sancteiddrwydd Duw yn dysgleirio ar ei oreu. A dyna sydd yn rhyfedd, fe fwriadwyd y groes i fod yn fuddugoliaeth grefyddol—i fod yn ddadguddiad o briodoliaethau moesol Duw. Ac yn yr un fan hefyd yr ydych yn cael y dadguddiad mwyaf o briodoliaethau naturiol Duw yn y prynedigaeth. Yn awr, cymerir tir is yn gyffredin i ddadleu yr angenrheidrwydd am farwolaeth yr Arglwydd Iesu, tir is nag a gymerir yn y testyn. Ac y mae hwn yn dir priodol dros ben, sef wrth ei Iuddewiaeth. Sut y gellwch feddwl am y sefydliadau Iuddewig dan yr hen oruchwyliaeth ond fod Oen Duw i gael ei gymeryd i dynu ymaith bechodau y byd? Ond fe gymerir tir uwch yn y testyn. Mae y testyn yn myn'd yn ol at gynseiliau cyntefig, yn myn'd yn ol at achosion pethau, yn myn'd yn ol at y pethau hyny ag sydd wedi d'od i'r meddwl dynol gyntaf, a'r hyn sydd yn cael ei ragdybied ydyw y deddfau yn ol pa rai y mae y Duw mawr yn llywodaethu y bydoedd. "Canys gweddus oedd iddo ef, oherwydd yr hwn y mae pob peth, a thrwy yr hwn y mae pob peth, wedi iddo ddwyn meibion lawer i ogoniant, berffeithio Tywysog eu hiachawdwriaeth hwy trwy ddyoddefiadau." Mae yn ddrychfeddwl gogoneddus cysylltu yr lawn âg egwyddorion llywodraeth Duw, cysylltu Iawn Calfaria â Duw fel gwrthddrych mawr y greadigaeth, fel lluniwr a chynhalydd yr holl fyd. A dyna wneir yn y testyn. "Oherwydd yr hwn y mae pob peth," neu fel y tybia rhai mai fel hyn y dylid ei ddarllen, "i'r hwn y mae pob peth;" mi fuasai yn well fel yna hwyrach. "Trwy yr hwn y mae pob peth" ddywedir fel rheol gyffredin am y Mab. "Wedi iddo ddwyn meibion lawer i ogoniant, berffeithio Tywysog eu hiachawdwriaeth hwy drwy ddyoddefiadau." Paham? Oherwydd fod yr Arweinydd yn gorfod dyoddef llawer, ac oherwydd fod plant y cystudd mawr yn cael eu perffeithio. Mae hynyna yn wirionedd, ac a ddysgir yn y geiriau hyn, fel y cawn ni yn ol llaw ddangos. Onid dyma y gwirionedd,—fod cydymdeimlad dwfn rhwng Tywysog yr iachawdwriaeth â'r fyddin sydd dan ei arweiniad. "Gweddus oedd iddo ef berffeithio Tywysog eu hiachawdwriaeth." Mae yr ymresymiad yn rhydd ac yn ofalus. Sylwch fel y mae yr apostol yn siarad yn y testyn, nid fod yn angenrheidiol, fod yn weddus i Dduw—gan iddo greu pob peth, a chan ei fod yn llywodraethu pob peth—i achub. Y mae hynyna yn hollol gyfeiliornus,—nid yw yn wir. Nid oherwydd fod Duw wedi gwneyd pob peth er ei fwyn ei hun y mae yn angenrheidiol iddo berffeithio Tywysog ein hiachawdwriaeth drwy ddyoddefiadau. Mae y syniad yna yn gyfeiliornus. Beth oedd yn angenrheidiol, ynte? Cosbi, damnio. Damnio oedd yn naturiol. 'Doedd dim yn ffordd damnio ar ol pechu. Rhwystr mawr oedd i godi y tlawd o'r llwch. Beth yw ffurf yr ymresymiad ynte? Y mae yna gynseiliau yn cael eu gwneyd, neu ragdybiau. Mae yma ddau ragdybiad. I. Fod y Duw mawr wedi sefydlu bwriad yn ei feddwl ei hun—wedi bwriadu bwriad cyn bod amser, ac yr oedd yn meddwl y Duw—dod erioed. Beth oedd hwnw? Dwyn meibion lawer i ogoniant. Dyna yr hen feddwl, y meddwl tragwyddol o hedd. Meddwl cyntaf y Duwdod oedd achub, "dwyn meibion lawer i ogoniant." Dyma yr hen drugareddau, "dwyn meibion lawer i ogoniant,"—dyna y bwriad, dyna yr amcan, dyna feddwl cyntaf y Duwdod. Mae hwnyna yn cael ei rag—dybied. Beth yw yr ail? Ei fod wedi apwyntio moddion addas a theilwng o hono ei hun i gyraedd yr amcan. Beth oedd hwnw? Apwyntio yr Ail Berson, ei anwyl Fab, i fod yn Dywysog yr Iachawdwriaeth—i fod yn Arweinydd yr Iachawdwriaeth—yn Dywysog ar y dyrfa fawr na ddichon neb ei rhifo ag sydd yn myned i ogoniant. Dyna y ddau beth sydd yn cael eu rhag—dybied yn y testyn. Caniatewch chwi y ddau beth yna, mae'r apostol yn myn'd yn ei flaen gyda'r ymresymiad. Yr oedd yn angenrheidiol iddo, meddai yr apostol, berffeithio y Tywysog yna trwy ddyoddefiadau. Paham? "Gweddus oedd iddo ef, oherwydd yr hwn y mae pob peth, a thrwy yr hwn y mae pob peth:" dyma yr egwyddorion drwy ba rai yr oedd yn llywodraethu y byd. Pa fodd i gosbi pechod? Nid oedd modd i ddyn gael ei achub heb i bechod gael ei gosbi. Yr oedd egwyddorion llywodraeth y Duw mawr yn gofyn am hyny. Pe buasai Duw yn cosbi pechod yn y pechadur, ni fuasai yr un pechadur yn cael ei achub,—mi fuasai yn dyoddef byth. Ond Yn gyntaf: Bwriad Duw wedi cael ei sefydlu i "ddwyn meibion lawer i ogoniant."

Meibion,—y mae Mabwysiad yn un o'r athrawiaethau mwyaf cynwysfawr yn yr efengyl, oblegyd ei bod yn cymeryd i mewn Gyfiawnhad ac Adenedigaeth, ac y mae yn cael ei gosod allan fel yn cynwys holl fendithion yr efengyl, a'r oll yr ydym mewn angen o honynt. Os ydych yn "feibion" yma heddyw, yr ydych yn ngafael pob bendith. Derbyniad y Mabwysiad yn ein gwneyd yn feibion,—dyna yr amcan mawr. Mae darpariaeth wedi ei gwneyd yn yr efengyl i faddeu holl bechodau y rhai hyn, a'u sancteiddio. Nid rhyw enw yw mabwysiad, nid enw ydyw, nid enw ydyw bod yn feibion; ond gyda y teitl mae yna deimladaeth briodol i'r sefyllfa yn cael ei gynyrchu drwy weinidogaeth daer yn mynwesau y rhai hyny ag sydd ganddynt hawl i fod yn feibion i Dduw. Maent yn feibion nid mewn enw,—maent yn wir feibion. Mae yr elyniaeth wedi ei ladd. Nid yw y galon yn elynol i Dduw yn bresenol. Nid gelynion mwyach, ond meibion, a meibion i Dduw. Mae gan y rhai hyn gydymdeimlad â phob symudiad sanctaidd yn holl lywodraeth Duw. Maent yr un feddwl â Duw yn mhob peth. Maent yn blant sanctaidd. Maent yn cydymffurfio a meddwl mwyaf y Duw mawr, yn byw fel y mae Duw eisiau iddynt wneyd. Y rhai yna sydd yn cael son am danynt yn y testyn. Beth am danynt? Maent yn cael eu dwyn i ogoniant. Pa ogoniant? Y gogoniant i'r hwn y derbyniwyd Crist. Mi ellwch fod yn foddlon ar hwn, oni ellwch? Fe'i derbyniwyd i dragwyddol ogoniant. Os wyt tithau yn fab, mi gei fyn'd i'r lle y mae Crist ynddo,—i dragwyddol ogoniant. Mae yna le, ac y mae y geiriau yma yn cyfeirio at y gogoniant yna fel lle. Gogoniant pavilion yr hanfod ddwyfol; mi gei ddigon yn yr un lle a Christ, yn yr un babell ag yntau. "Meibion lawer i ogoniant." Maent wedi cael eu hapwyntio i ogoniant., maent wedi cael eu trefnu i ogoniant, ac wedi eu byddino i ogoniant. Dyna fydd dy ddiwedd di,—gogoniant. Yr wyt yn cael dy barotoi i'r fan yna. Mae yr Arglwydd Iesu wedi ymgymeryd a'r gwaith o dy gonductio di i'r gogoniant yna. “Meibion lawer i ogoniant," meibion lawer. Nid tyrfa fach, fy mhobl i, fydd ar gael, ond tyrfa fawr na ddichon neb ei rhifo. Mae yna dyrfa wedi dechreu myned i ogoniant er y cychwyn, er dechreuad y byd. Yr wyf yn meddwl mai Abel oedd y cyntaf aeth i mewn yno. Ond y mae yna filiynau wedi myned ar ol hyny—mae y dyrfa yn chwyddo o oes i oes, o genhedlaeth i genhedlaeth. Mae yna dyrfa hardd, tyrfa fawr yn cael eu dwyn i ogoniant. Mae y dyrfa wedi bod ar y ffordd yn mhob oes, ac yn mhob cenedlaeth. Nid yw y byd yn aml iawn yn eu hadnabod. Gwaradwydd mewn llawer oes ydyw ei rhan, ac erledigaeth sydd yn agoriad i'r nefoedd i aml un. Mae yn bresenol lawer wedi myned i'r nefoedd, llawer wedi myned i mewn, ac y mae rhai y foment hon yn yr act o fyned i mewn trwy y pyrth, ac i'r heolydd euraidd. Maent yn ymdyru ar fryniau goleuni, ac i'r heolydd euraidd. Ond y rhan fwyaf sydd ar ol ar y ddaear, gan gynwys, cofiwch, y cenhedlaethau ag sydd eto heb eu geni, y rhai a fyddant sanctaidd, ac a folianant yr Arglwydd. Ac felly, chwi welwch, fod dyddordeb arswydus yn y plant bach yn yr oes sydd yn codi, oblegid o'r rhai hyn y mae Tywysog yr Iachawdwriaeth yn myned i wneyd i fyny ei gyflenwad. Mae y dyrfa sydd yn myned i ogoniant i gynyddu o oes i oes. Mae yn fawr yn bresenol, mi fydd yn fwy yn yr oes nesaf, ac yn y man mi fydd yn llenwi yr holl ddaear yma. Mae y byd a'i gyflawnder i fod yn eiddo'r Arglwydd. Mae y dyrfa yn cynyddu o oes i oes, ac o genhedlaeth i genhedlaeth. Sut y mae y Duw mawr yn myned yn mlaen? Llyncu pobl o'r genhedlaeth yma, ac o'r genhedlaeth arall, nes yn y diwedd y bydd "holl deyrnasoedd y byd wedi myned i'n Harglwydd ni a'i Grist ef." Mae y dyrfa yn cynyddu o hyd. Edrychwch arni, edrychwch o'ch blaen, nis gellwch weled y pen blaen: edrychwch yn ol, nis gellwch weled y dyrfa y ffordd yna chwaith. Yr Arglwydd yw eu Harweinydd. Welwch chi y Cadben mawr ar y blaen yn commandio, mor fawreddog ydyw y procession, torf ar ol torf, pob un yn cadw ei olwg ar y Pen Tywysog. Tywysog eu hiachawdwriaeth hwy sydd yn eu tywys. Pob peth da sydd wedi bod, ac yn bod, yn y byd yma, beth yw? Dim ond ymlithriad y fyddin yn mlaen drwy y ddaear, o'r "meibion lawer" ar eu ffordd "i ogoniant." Pob peth mawreddog a nerthol a defnyddiol sydd wedi bod yn y byd yma erioed, beth yw? "Meibion lawer, meibion lawer, yn myned i ogoniant." 'Does dim cyfrif arnynt, fy mhobl i, maent i gyd wedi eu selio, maent yn sicr o gael gogoniant. Maent wedi cael addewid o'r gogoniant. Ydi hi yn cynwys pawb? Ydi hi yn cynwys pob gwrandawr yr efengyl? Na, dim pawb. Paham? Nid yw Duw wedi bwriadu gogoneddu pawb, nid yw wedi bwriadu myned a phawb i'r nefoedd: ond, er hyny, cofiwch, nid oes dim diffyg yn yr Iawn. Mae yna ddarpariaeth gyflawn yn yr efengyl. Mae y rhwystrau oedd i bawb fyned i'r nefoedd wedi eu symud yn yr Iawn, pan waeddodd Crist ar y groes y gair "Gorphenwyd." Pa le ynte y mae y rhwystrau? Yn dy galon ddrwg di y mae y rhwystr, ac yn y fan yna yn unig. Nid o du yr Iawn. Na, y mae darpariaeth yr efengyl yn ddigon ar gyfer yr holl fyd. O ran ei ddigonolrwydd mae yr Iawn yn ddiderfyn: ac yn y cynygiadau o hono, mae yn ddiderfyn. Mae yr Iawn o ran ei addasrwydd yn ddiderfyn, ac yn y digonolrwydd o hono mae'n ddiderfyn. Ac yr ydw i yn leicio y darn hwnw o eiddo un hen fardd adnabyddus,—

"I'e buasai yn yr arfaeth i fyn'd i uffern dân,
Golchasai'r holl gythreuliaid i gyd yn berffaith lân."

Nid yw Duw wedi meddwl myned a phawb i ogoniant. Mae yna feibion lawer yn cael eu dwyn i ogoniant.

Yn ail: Beth yw y moddion trwy ba rai y mae'r amcan yna i gael ei gyraedd? Amcan uchel, anhawdd ei gyraedd ydyw. Ac os yw yr amcan yna i gael ei gyraedd, fe gostia i Dduw yn ddrud. Beth fydd y moddion? Apwyntio yr Ail Berson, ei Fab ei Hun, i ymgymeryd a chonductio y meibion lawer yma i ogoniant. Rebels oedd y meibion; rhai wedi gwrthryfela yn erbyn llywodraeth Duw. Y peth cyntaf oedd eu gwneyd yn feibion, ac y mae Efe wedi ymgymeryd â'r gwaith. Yr ydych yn rhwym o deimlo y bydd y cwbl yn sicr o gael eu cyflawni pan y byddoch yn cofio pwy sydd wedi cymeryd y gwaith yn ei law—"Tywysog eu hiachawdwriaeth hwy. Mae pawb yn sicr o gael eu dwyn i ogoniant. Yn awr, enw sydd yn cael ei ddefnyddio yn y rhanau diweddaf o'r Ysgrythyr ydyw Tywysog, Tywysog ac Iachawdwr, Tywysog y Bywyd, Awdwr ffydd, Tywysog yr Iachawdwriaeth, Tywysog ein Hiachawdwriaeth. Yr un gair sydd yn cael ei ddefnyddio yn yr adnod ydym wedi ddifynu yn bresenol. Yr ydym yn gweled fod y gyffelybiaeth wedi ei chymeryd oddiwrth bethau milwrol—yr ydych yn nghanol y filwriaeth, yn nghanol y rhyfel. Yn y testyn, Tywysog yr Iachawdwriaeth. Fe'i gwnaeth yn flaenor i'w bobl, yn flaenor ac yn athraw i'w bobl,—"Leader and commander," yn ol y Saesneg. Yn cyfeirio drachefn at y filwriaeth, meddai un o'r prophwydi bychain, "Wele dy frenin yn dyfod atat; Cyfiawn ac Achubydd yw Efe : y mae Efe yn llariaidd, ac yn marchogaeth ar asyn, ac ar ebol llwdn asyn." Yr ydym yn nghanol swn rhyfel, —"Tywysog eu Hiachawdwriaeth hwy." Mae yn deitl gogoneddus, ac yn cyfeirio at waith cyfryngol yr Arglwydd Iesu yn ei holl ranau, fel y mae wedi ymgymeryd â "dwyn meibion lawer i ogoniant," a'u dwyn yn ddiogel—i ofalu am eu cynydd yn y byd yma, a'u terfyniad buddugoliaethus yn y gogoniant. Tra y mae y cyfeiriad yn gyffredinol fel yna, mae yn rhaid i ni gael dweyd fod yma ryw gyfeiriad unigol, sef at waith Joshua yn arwain y genedl o'r Aipht i Ganaan. Mi ymddangosodd angel a chleddyf yn ei law i Joshua. Yr oedd yn olwg ogoneddus i edrych arno, a'r lle y darfu iddo ymddangos, yr oedd yn lle gogoneddus. Yr oedd Joshua yn barod i dynu ei esgidiau, oblegid disgynodd Duw yno. Dyna nod tir sanctaidd yn yr Hen Destament, fod Duw wedi disgyn yno. Ac y mae yr un fath eto. Lle bynag yr ydych yn cael cymundeb â Duw, waeth dae chi ar y 'stryt, mae yn fan sanctaidd. Pwy oedd yr ymwelydd hwn ymddangosodd i Joshua? Tywysog llu yr Arglwydd. Yr un un sydd yn cael son am dano yn y testyn. Mae wedi rhagflaenu cyflawnder yr amser. Nid yn Bethlehem y daeth i'r byd yma gyntaf,—yr oedd yma er y dechreuad. Yr oedd wedi ymddangos i Joshua yn Dywysog llu yr Arglwydd. Yr oedd yr olwg yn fawreddog arno. Yr oedd yn barod i'r rhyfel yr adeg hono. Yr oedd yn goch ei ddillad dan oruchwyliaeth yr Hen Destament. Fe ganfyddodd lawer o'r hen frodyr hyny ar ei wisg yr amser hwnw. Nid yn unig yr oedd yn un goch, ond yr oedd yn un hardd hefyd. Dyma fo yn eu harwain nhw trwy yr anialwch i feddiant o'r Ganaan yma. Y mae tebygolrwydd rhwng y ddau Joshua. Nid digwyddiad yw fod yr un enw ar y ddau, yr un o ran ystyr. Nid digwyddiad yw hynyna. Yr oedd y naill a'r llall yn llawn o ysbryd. Fe ddarfu Joshua o dan yr hen oruchwyliaeth ddwyn y genedl i feddiant o Ganaan. Fe'u harweiniodd trwy ddyfroedd mawr, ac fe'u dygodd i'r Ganaan dymhorol, wedi croesi yr hen Iorddonen, ac enillodd deyrnasoedd. Ond am Iesu y Testament Newydd, mae wedi gwneyd mwy o wrhydri. Mae wedi gwaredu ei bobl oddiwrth y byd drwg presenol. Ië, fe ranodd afon leidiog ddofn tir marwolaeth i ni gael myned trwyddi i afael a'r trigfanau dedwydd. Mi ddwg y meibion lawer i'r nefoedd. Ni rydd hwy i fyny hyd nes y bydd iddo eu dwyn i'r nefoedd. Dyma y moddion, apwyntiad y Mab i ddwyn y meibion lawer i ogoniant. Ac mor sicred a bod y Mab wedi cymeryd y gwaith yn ei law, mae yn sicr o'u dwyn i ogoniant. Mae wedi cymeryd meddiant yn bresenol o'r nefoedd; mae wedi myned yno. Mi ant o nerth i nerth i'r nefoedd. Mae wedi prynu hawl i'ch arwain, fy mhobl i; fe fu farw. Mae wedi cael ei berffeithio trwy ddyoddefiadau. Mae wedi gwaeddi allan er's canoedd o flynyddoedd bellach y gair "Gorphenwyd." Mae yn abl i gwbl iachau. Mae wedi cael ei gysegru i'r swydd â gwaed cyfamod tragwyddol i dy arwain i ogoniant. Mae anrhydedd y Tywysog yn y cwestiwn, ac oherwydd hyny, mae yn anmhosibl i ti fod yn ol. Na, "nichyfrgollant byth, ac ni ddwg neb hwy allan o'i law ef." Does dim perygl i ti fod yn golledig: mae dy ofal wedi cael ei ymddiried gan y Tad i Dywysog mawr yr Iachawdwriaeth. Faint o honoch sydd yn perthyn y boreu yma i'r fyddin hon, ac y mae rhai o honoch wedi gwrthod er's blynyddoedd. Lle yr ydych yn myn'd, gyfeillion? Ar eich ffordd i uffern dân yr ydych. Pwy sydd yn eich arwain? Y diafol. Nid yw Tywysog yr Iachawdwriaeth yn eich arwain. Mynwch eich harwain, bobl anwyl, gan y Tywysog hwn, ac ymddiriedwch eich eneidiau i ofal Tywysog mawr yr Iachawdwriaeth. Amen.

[Salem, Dolgellau, boreu Sul, Gorph. 29, 1883.

Y Parch. Edward Matthews, Eweni.

𝔜 𝔓𝔞𝔯𝔠𝔥. 𝔈𝔡𝔴𝔞𝔯𝔡 𝔐𝔞𝔱𝔱𝔥𝔢𝔴𝔰, 𝔈𝔴𝔢𝔫𝔦.

FEL PREGETHWR.
Gan y Parch. J. Wyndham Lewis, Caerfyrddin.

GANWYD y gwr mawr ac athrylithgar hwn yn Sant Athan, Bro Morganwg, Mai 13eg, 1813; a bu farw am chwarter i wyth o'r gloch boreu Sadwrn, Tachwedd 26ain, 1892, yn ei breswylfod ei hun, sef, Bryneglwys—ty ardderchog a adeiladwyd ganddo dair blynedd cyn ei farwolaeth, ar lan afon Ogwy, yn nghwr deheuol tref hynafol Pen-y-bont-ar-Ogwy, yn Sir Forganwg. Saif lle genedigol y bardd-bregethwr a'r dramatist enwog ar lan Sianel Bristol, tonau yr hon sydd wedi bod yn golchi ei draed er ys oesau, dwywaith o leiaf, yn y dydd.

Yr oedd tad ein gwrthrych—Thomas Alexander Matthews, wedi hanu o un o deuluoedd hynaf a pharchusaf Bro Morganwg. Y mae llawer o'i hynafiaid yn gorwedd yn Ngangell Eglwys Gadeiriol Llandaff. Perthynas iddo hefyd oedd y Tad Matthews, y dirwestwr enwog wnaeth gymaint o les yn y cyfeiriad hwn yn yr Ynys Werdd. Yr oedd ei fam hefyd—Miss Ann Morgan, yn ferch un o deuluoedd mwyaf cyfrifol y Fro. Bu farw y fam pan oedd Edward, yr ieuangaf o chwech o blant, yn dair mlwydd oed; ond yr oedd yn ei chofio, er hyny, yn dda; a chawsom y pleser o'i glywed, fwy nag unwaith, yn desgrifio pa fath un ydoedd y foneddiges a gafodd y fraint o fod yn fam iddo. Wedi i'w dad wario yr etifeddiaeth ar redegfeydd ceffylau, ac ofer-gampau dwyrain Morganwg, aeth efe a phedwar o'r plant, tri mab ac un ferch, i'r America; ond aeth Thomas Alexander Matthews, y mab hynaf, i Hirwain, lle enwog iawn yr amser hwnw am ei lofeydd, &c; a chymerodd Edward fychan, yr hwn oedd ddeng mlwydd yn ieuangach nag ef gydag ef, a bu iddo yn dad ac yn noddwr; ac yn eglwys Hirwain y dechreuodd efe bregethu pan oddeutu 18 mlwydd oed.

Er iddo gael llawer o wrthwynebiad y ddwy flynedd gyntaf, eto yr ydym yn ei gael yn bregethwr y Cyfarfod Misol mewn pum mlynedd ar ol dechreu pregethu! Daeth yn mhen deng mlynedd y pregethwr mwyaf poblogaidd yn Morganwg, ac eithrio y Parch. William Evans, yr "udgorn arian" o Donyrefail; a pharhaodd yn un o brif bregethwyr Cymru am 55 mlynedd. Er fod llawer o ddadleu ac amrywiaeth barn yn ei gylch fel pregethwr, yr oedd pob dosbarth yn y wlad yn caru ei glywed; ond yn marn y bobl, y werin bobl, nid oedd neb yn y De, pa fodd bynag, fel 'Matthews o'r Eweni.'

Rhodd Duw yn ddiau ydoedd i'r Cyfundeb Methodistaidd. Dynion galluog, pregethwyr hyawdl a nerthol, ydynt roddion penaf yr Arglwydd Iesu i'n byd ni. Un o'r profion sicraf fod enwad o Dduw, a bod ganddo waith i'w gyflawni dros Dduw, yw fod Pen yr Eglwys wedi rhoi i'r enwad hwnw bregethwyr galluog a phoblogaidd : nid all yr un enwad fyw yn hir oddi eithr fod yn ei bwlpud wyr grymus. Pan oedd " Seintiau y Dyddiau Diweddaf," y dynion dirmygedig a diymadferth hyny, yn bygwth cario y cwbl o'u blaen, nid yn unig yn Llanelli, ond hefyd yn rhai o drefi Morganwg, flynyddoedd yn ol, clywais pan yn llanc yn Llychwr, un o'r dynion callaf yn yr hen fwrdeisdref hono yn gwneyd y sylw rhagorol hwn, yn atebiad i frawd arall oedd yn dygwydd bod yn yr ystafell ar y pryd. "Feä pawb, chwi gewch weled," ebe dyn ag oedd ei galon yn llawer gwell na'i ben, " fe ä pawb yn Llanelli a'r cymydogaethau hyn yn Seintiau." Nid yn Seintiau yn ystyr y Testament Newydd, ond Seintiau y Dyddiau Diweddaf; "ac fe welir ein capelau yn fuan," meddai, "wedi eu cau." "Dim perygl," ebe gwr ag oedd genym ni syniad uchel am ei farn, "dim perygl, oddi eithr fod ganddynt anrhaethol well pregethwyr na'r rhai sydd wedi bod yn Nghaslychwr yn pregethu." Y mae yn y sylw yna wirionedd mawr pwysig; nid all yr un enwad fyw yn hir oddi eithr fod ganddo ddynion galluog a hyawdl yn ei bwlpud. I'w phiegethwyr y mae cenedl y Cymry yn ddyledus am ei phethau goreu. Proftwydi, pregethwyr yr Hen Destament, oedd cymwynaswyr mwyaf y genedl Iuddewig. Yr oedd yr offeiriad, y mae yn wir, yn ddyn pwysig; yr oedd yn bwysig am fod ganddo swydd bwysig; ond er mai efe oedd dyn y genedl, ei chynrychiolydd gerbron Duw, eto, yr oedd yn llawer pellach oddi wrth y bobl na dyn Duw, sef y proffwyd, neu y pregethwr. Diffyg mawr yr offeiriad dan y gyfraith oedd ei fod yn cyflawni ei waith yn rhy swyddogol; oblegid y mae swydd, er pob gofal ac ymdrech i'r gwrthwyneb, yn creu pellder, ac yn cynyrchu oerni. Pellder ac oerni yw canlyniadau naturiol, os nad anocheladwy pob swydd. Peth oer iawn yw swydd; ac y mae y swydd leiaf yn tueddu i wahanu, ac i greu pellder: mae swydd ynddi ei hun yn ddidoliad ac yn bellder. Y proffwyd, dyn Duw, ac nid yr archoffeiriad, dyn y bobl eu hunain, oedd yr agosaf atynt; ac efe hefyd oedd yn medru cydymdeimlo ddyfnaf å hwynt yn eu trallodion a'u profedigaethau. Y proffwyd oedd y dyn mwyaf dwyfol, y mwyaf llawn o Dduw o bawb oedd yn Nghanaan; ac am y rhesum hyny, efe oedd y mwyaf humane, y mwyaf dynol o bawb yn mhlith y genedl: efe oedd yn medru cydymdeimlo ddyfnaf â'r werin bobl. Y Proffwyd Mawr, y Dyn a'r Duwdod ynddo yn trigo, oedd yr unig gyfaill oedd gan bublicanod a phechaduriaid Palestina; ac y mae yr hyn sydd yn wirionedd am yr Athraw, yn wirionedd hefyd am y dysgybl. Ni bu pregethwr mwy caredig wrth bregethwyr ieuainc na Mr. Matthews; rhoddodd lawer o lyfrau, a darlithiodd yn rhad i gynorthwyo rhai sydd heddyw yn y dosbarth blaenaf o bregethwyr y Methodistiaid yn y De, i gael addysg ragbarotoawl dda cyn myned i'r athrofa.

Ond fel meddyliwr, ysgrifenwr, a phregethwr, adnabyddir ef gan genedl y Cymry. Ar gyfrif ei ddawn, ei ystumiau, a'i action, fel y dywedir, yr oedd yn hollol ar ei ben ei hun: ni bu ei fath yn y pulpud Cymreig. Yr oedd ei floedd y peth mwyaf effeithiol a gorchfygol a glywsom erioed. Tynai sylw pawb—pob dosbarth yn y gynulleidfa—o'r dechreu; ond am y floedd y byddai y lluaws yn dysgwyl, ac yn hiraethu.

Fe allai y carai ein darllenwyr gael desgrifiad o'n gwron o ran ei ymddangosiad corfforol, ei arddull o siarad, a'i ystumiau yn y pulpud, &c. O ran taldra, yr oedd oddeutu pum troedfedd a naw modfedd yn tueddu i fod yn gorffol—ac o wneuthuriad cryf a chadarn. Yr oedd ei ben yn un o'r rhai mwyaf a welsom, ac o'r un ffurf a phen yr athrylithgar John Foster. Tyfai ei wallt—gwallt llwyd—oleu—yn hytrach yn isel fel nad oedd ond haner ei dalcen yn y golwg. Eiliau ysgeifn; llygaid gleision, tawel a myfyrgar; ond anfynych y byddai yn eu hagor yn llawn. Yr oedd yn rhaid i'w enaid gael ei gynhyrfu gan ryw ddrychfeddwl mawr a gogoneddus cyn y gwnai efe hyny. Gwyneb llydan, llyfn, heb gymaint a blewyn arno, oddi eithr ychydig yn lled uchel ar y cernau. Dyna oedd yr arferiad pan ddechreuodd efe eillio, a glynodd wrth y ffasiwn hyd ddydd ei farwolaeth. Genau cymedrol oedd ganddo o ran lledoddeutu haner lled genau Dr. Owen Thomas, er esampl; genau bloeddiwr yn hytrach na siaradwr llithrig a hyawdl oedd ei enau ef. Pan wenai, gwelid ei fod wedi ei fendithio â rhes o ddanedd bychain glân, o'r un maintioli, ac yr oeddynt mor wynion a'r ifori. Cerddai yn drwm ac yn araf, a'i ben yn hytrach yn mlaen, gan syllu ar bob gwrthddrych, a phob golygfa ar y dde ac ar yr aswy. Ar ol blino ar wrthddrychau a golygfeydd y ddaear, edrychai i fyny i'r nefoedd gwmpasog a gogoneddus uwch ben. Safai yn syth yn y pulpud pan yn darllen yr emyn a'r benod, a thra yn gweddio, ac ar hyd y bregeth. Ymaflai, naill ai yn un o gloriau y llyfr hymnau a'r Beibl, gan eu hongian, neu tröai y cloriau yn eu gwrthol. Hyn oedd y rheswm fod llawer yn gosod Beibl a llyfr hymnau mwy cyffredin ar y pulpud ar y Sabboth pan y byddai Mr. Matthews yn dygwydd pregethu yn y lle. Plygai y Beibl gan ei osod yn agos i'w lygaid am ei fod yn fyr ei olwg; yr oedd ei olygon mor fyr fel nad allodd erioed ddweyd beth ydoedd ar y gloch pan edrychai ar gloc y capel. Darllenai yn araf a hamddenol, ond, rhyfeddol o ddyddorol; yr oedd yr hyn a ddarllenai yn cael ei wneyd yn fyw i'r gwrandawyr. Gweddiai hefyd yn araf a gwylaidd, a hynod fyr; ond ni theimlem fod yn ei weddi unrhyw ddiffyg; ni theimlem ei fod wedi gadael dim allan ddylasai fod ynddi. Yr oedd ei weddi yn un eang a chynwysfawr, er yn fyr. Ymddiddanol ydoedd y rhan gyntaf o'r bregeth; ac i lawer dyna y darn godidocaf a rhagoraf o'r cwbl. Gwneyd background i ddarlun ardderchog oedd ei waith yr haner cyntaf o'r bregeth. Yna dadorchuddiai yn sydyn y darlun yr oedd wedi bod wrtho am awr, neu am awr a haner, nes synu pawb: cymerai bawb, fel y dywedir, by surprise. Yr oedd cryn llawer o surprises yn mhob pregeth o'i eiddo. Yn ein barn ni, Mr. Matthews oedd Charles Dickens y pulpud Cymreig efe oedd y mwyaf realistic yn Nghymru; yr oedd pob peth yn myn'd yn fyw dan ei ddwylaw.

Yn mlynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth, pwysleisiai ar hawliau Duw. Dyna un o nodweddion gwahaniaethol pregethwyr mawr, ac yn neillduol diwygwyr pob oes a gwlad. Ond yn mlynyddoedd olaf ei oes, tosturi Duw at fyd colledig a thruenus—parodrwydd Duw i wrando ar 'lef dyn '—oedd baich ei weinidogaeth rymus ac effeithiol. Y mae yn sicr na chafodd neb odfeuon mwy grymus a nerthol yn Nghymru na'n gwron o'r Eweni. Odfeuon a gofir byth oedd odfeuon Pwllheli, o flaen y Parchedig Henry Rees; ac Aberystwyth, drachefn, o flaen yr un gwr enwog. Odfa ryfeddol oedd hono ar y maes ar ol yr ysgrifenydd yn Nghymdeithasfa Llangefni. Ond un o'r troion mwyaf nerthol y clywsom ni ef erioed oedd yn Nghymanfa Gyffredinol Dolgellau, ar ol y diweddar Dr. John Hughes, Caernarfon. Ei destyn y pryd hwnw oedd, "Gan ddiolch i'r Tad, yr hwn a'n gwnaeth ni yn gymhwys i gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni. Yr hwn a'n gwaredodd ni allan o feddiant y tywyllwch, ac a'n symudodd i deyrnas ei anwyl Fab." Sylwai fod y gair 'symud yn cael ei gymhwyso at gyfieithu o un iaith i iaith arall, a'i fod yn cael ei ddefnyddio am symud (translatio) esgob o un esgobaeth i'r llall. Translated ydyw y gair a ddefnyddir am y weithred hono. Y mae yr esgob, meddai efe, er ei dranslatio, yn aros yr un o ran ei gymeriad moesol; nid ydyw y symudiad yn effeithio un cyfnewidiad yn ei gyflwr. Y mae yr iaith y cyfieithir o honi yn parhau i fod, Ond y mae Duw pan yn symud—pan yn cyfieithu yn translatio pechadur o 'feddiant y tywyllwch i deyrnas ei anwyl Fab'—yn dileu y gwreiddiol. Symudwyd, translatiwyd Paul ar y ffordd i Damascus; ac wrth wneyd hyny, fe ddilewyd y gwreiddiol yn llwyr ac am byth. 'Cablwr' ydoedd cyn ei symud; ond • gweddiwr' oedd wedi ei symud i Grist. 'Wele, y mae efe yn gweddio,' oedd tystiolaeth yr Arglwydd i Ananias am dano. Odfa ryfeddol oedd hono!

Odfa nerthol iawn, hefyd, ac ofnadwy yn ei heffeithiau ar y bobl, oedd hono ar ol Dr. Saunders, ar brydnawn ddydd Llun, yn Nghapel Nazareth, yn Nghwm Rhondda. Yr oedd y Parch. David James, Llaneirwg, a'r ysgrifenydd, wedi bod yn pregethu yn y boreu; Dr. Saunders a Mr. Matthews am 2; am 6, yr ysgrifenydd a Dr. Saunders yn nghapel Nazareth; a'r Parch. D. James a Mr. Mathews yr un adeg yn nghapel Siloh (A.) Yr oedd hufen y Cwm—yn feirdd, yn feddygwyr, cyfreithwyr, &c.—yn odfa y prydnawn. Yn ymyl y sedd fawr, eisteddai un o feddygon adnabyddus y lle, a'i gynorthwywr, a Mr. Ishmael Williams, o'r Ddinas, a Mr. R. Smith Lewis, Ton—y—pandy. Yn y sedd fawr, ar gyfer y pregethwr, eisteddai y Barnwr Gwilym Williams o Fiskin; y Mri. D. Evans, Bodringallt; J. James, y Manager; Dafydd Terry, o'r Ddinas; a W. Abraham (Mabon,) A.S.

Testyn Dr. Saunders oedd Luc iv. 18, 19;—"Blwyddyn gymeradwy yr Arglwydd." Ni chlywsom y Dr. braidd erioed yn fwy hyawdl. Testyn Mr. Matthews ydoedd Salm xxv. 16;—" Tro ataf, a thugarha wrthyf: canys unig a thlawd ydwyf." Bu yn aros llawer gyda'r geiriau 'unig a thlawd.' "Fu neb sydd yma," meddai, yn wirioneddol unig eto. Pan ddaethom i'r byd, yr oedd rhywun yn yr ystafell i'n derbyn, ac i'n hymgeleddu. Ond am uffern, lle ydyw ag y bydd pob un yn unig ynddo—yn dragwyddol unig! Nid ydynt yn caru eu gilydd yno, nac yn cydymdeimlo â'u gilydd. Tywyllwch fel y fagddu—nos dragwyddol fydd hi yn uffern! Wêl y pechadur neb yn oes oesoedd yno; ac ni chlyw ddim yn dyfod trwy y duwch ond cableddau, rhegfeydd, a rhincian danedd i dragwyddoldeb!" Yn y fan hon, fe wnaeth y pregethwr rincian ei ddanedd deirgwaith, fel y gellid ei glywed allan o'r heol. Ymdaenodd cwmwl, hefyd, ar y pryd dros yr holl Gwm, a daeth yn ystorm o fellt a tharanau dychrynllyd. Chwanegodd hyn yn ddirfawr at effaith desgrifiad ofnadwy y pregethwr o drueni yr unig,' yr annuwiol, yn y byd a ddaw. Yr oedd pawb yn y lle yn ofni ac yn crynu; ac yr oedd yr olwg ar y pregethwr yn un arswydlawn o ddifrifol. Yr oedd y meddyg yn glasu, ac yn troi yn ol a blaen ar ei sedd; y Barnwr Williams yn foddfa o ddagrau; Terry, o'r Ddinas, yn taraw ei ffon fawr ar lawr y sedd fawr, ac yn gwaeddi, "Wel, wel, beth wnawn ni, Mr. Matthews anwyl? " Y nefoedd fawr,' ebe yntau, mewn bloedd oedd yn cario y cwbl o'i blaen — " y nefoedd fawr! 'Does dim rhaid i neb sydd yma, o drugaredd, fyned yno, oddi eithr ei fod yn mynu myn'd—yn mynu bod yn golledig! Fe fu Iesu Grist ' yn unig' er mwyn rhoddi ei gwmni i bechadur yn y glyn. 'O'r bobl nid oedd neb' gyda'n Harglwydd ni! Gorchfygodd y gelyn ei ei hunan; cuddiod edifeirwch o'i olwg; diddymodd angau—llyngcodd ef mewn buddugoliaeth; a chyfododd yn fuddugoliaethus foreu y trydydd dydd! Pan fydd y credadyn farw, fe fydd Iesu Grist yn yr ystafell. Bydd gydag ef yn yr afon, hefyd, i ddal ei ben uwch law y don. Pan elych trwy y dyfroedd, myfi a fyddaf gyda thi, a thrwy yr afonydd fel na lifont drosot," &c. Erbyn hyn, yr oedd yn orfoledd mawr trwy yr holl le; ac yn swn y gorfoleddu a'r molianu am drefn i'n gwaredu rhag bod yn 'unig' yn angau, ac yn 'unig' yn y farn, y terfynwyd yr odfa ryfeddol hon.

Y mae lle gwag iawn yn y Sassiwn, ac yn y Dywysogaeth yn gyffredinol, ar ol y fath bregethwr nerthol a gwreiddiol; ac y mae yn ofid calon i ugeiniau o filoedd o Gymry yn ngwahanol wledydd y ddaear, fel i'r ysgrifenydd ei hun, na chânt weled ei wyneb urddasol a phendefigaidd ef mwyach, na chlywed ei floeddiadau gorchfygol ac anghydmharol byth mwy. Y mae galaru a thristau ar ol gwr mor enwog—un o'r rhai enwogaf o gedyrn 'mynydd Duw'—yn naturiol; ond tra yn galaru, dylem gofio fod y gweddiwr mawr, a'r pregethwr hyawdl fu yn ysgwyd Cymru, yn parhau i fyw, ac yn parhau i wasanaethu yr un Arglwydd, ond mewn cylch llawer uwch, ac yn mhlith creaduriaid uwch a mwy urddasol na'r rhai a breswyliant ein daear ni.

"We wonder'd, Matthews, that thou went'st so soon
From the world's stage to the grave's tiring—room :
We thought thee dead; but this thy printed worth
Tells thy spectators, that thou went'st but forth
To enter with applause: an actor's art
Can die, and live to act a second part :
That's but an exit of mortality,
This a re—entrance to a plaudite."


"Angel Duw yn fy ngwlad oedd—a daniwyd
A doniau o'r nefoedd :
Ei hyawdl lais roddai floedd
Ai 'n fywyd trwy 'r tyrfaoedd."

"Boed heddwch i'w lwch anwyl ef—yn awr,
'Yn nhy ei hir gartref!'
Ac o fodd gwnawn gyfaddef
Marw wnaeth Gwr mawr y Nef!"


𝔜𝔯 𝔄𝔫𝔪𝔥𝔢𝔯𝔣𝔣𝔞𝔦𝔱𝔥 𝔞𝔯 𝔭𝔢𝔯𝔣𝔣𝔞𝔦𝔱𝔥.

Gan y diweddar Barch. Edward Matthews, Eweni.

"Pan oeddwn fachgen, fel bachgen y llefarwn, fel bachgen y deallwn, fel bachgen y meddyliwn; ond pan aethum yn wr, mi a roes heibio bethau bachgenaidd. Canys gweled yr ydym yr awrhon trwy ddrych, mewn dameg, ond yna, wyneb yn wyneb: yn awr yr adwaen o ran; ond yna yr adnabyddaf megys y'm hadwaenir."

I Cor. xiii. II, 12.

YMDDENGYS mai gweithio allan anmherffeithrwydd ein sefyllfa bresenol, a pherffeithrwydd y dyfodol, yw amcan yr Apostol. Ein sefyllfa mewn cysylltiad a'r byd presenol sydd yn dywyll ac aneglur; ac er ein dwyn o dywyllwch pechod trwy ras "i'w ryfeddol oleuni ef," nid ydyw ond lled dywyll mewn cyfer

byniad i'r dyfodol mawr sydd yn ein haros. Gwneir ymegniad cryf gan yr Apostol i ddangos y gwahaniaeth rhwng y sefyllfa bresenol o anmherffeithrwydd a'r sefyllfa o berffeithrwydd dyfodol. Y mae yn debyg nad yw yr ychydig wybodaeth sydd genym yn awr am sefyllfa ddyfodol ond megys niwl tew a thywyll. Ac nid ydyw y sefyllfa o dan ddylanwad ffydd, gobaith, a chariad, er yn un ysbrydol, ond fel un yn edrych "drwy ddrych mewn dameg," neu, yn dywyll.

Bydd y pethau ag sydd yn gweinyddu ein dysg presenol yn myned heibio, fel pethau rhy wan a thywyll i fod yn gyfryngau gwybodaeth yn y sefyllfa o berffeithrwydd ysbrydol. Nid oes ond gwneuthur goreu y gellir o iaith ddaearol, ffurfiau a lluniau daearol; cymhariaethau daearol, ïe, pobpeth daearol, i gario a chyflwyno i'r meddwl ryw syniad gwan o'r perffeithrwydd ysbrydol hwnw y bydd agoriad y byd a ddaw yn unig yn ei egluro. Ein sefyllfa ddaearol, ein pellder oddiwrth ysbrydolrwydd a pherffeithrwydd, sydd yn gosod prophwydoliaeth yn angenrheidrwydd o gwbl, a defodau o bob natur. Iaith dywyll yw iaith prophwydoliaeth, defodau cnawdol yw arferion crefydd, a gwybodaeth sydd yn gymysglyd a niwlog; ar yr un pryd, yn ateb ein sefyllfa bresenol, ac yn egwyddorion cyntaf ein haddysg a'n cymhwysder i ddadguddiad helaethach. "Eithr pa un bynag ai prophwydoliaethau, hwy a ballant; ai gwybodaeth, hi a ddiflana. Canys o ran y gwyddom, ac o ran yr ydym yn prophwydo. Eithr pan ddelo yr hyn sydd berffaith, yna yr hyn sydd o ran a ddilëir." Ni bydd eisiau cynorthwyon y sefyllfa ddaearol yn y sefyllfa nefol. Yr oeddent yn burion i ddyfod hyd lan yr afon, eithr gadewir hwynt yno i'r nesaf. Gwendid corff sydd yn gosod angenrheidrwydd am ffon; eithr os derfydd yr hyn oedd yn cyfansoddi yr angenrheidrwydd, yna teflir y ffon ymaith. Ni bydd eisiau ffurfiau dynol yn y nefoedd, pan y mae cyfryngau uwch ac agosach at Dduw, trwy y rhai y delir cymundeb ag ef. "Teml ni welais ynddi, canys yr Arglwydd Dduw Hollalluog a'r Oen yw ei theml hi." Bydd yr angenrheidrwydd am gapel, Ysgol Sul, pregethau, bara a gwin, a llawer o bethau eraill, wedi darfod pan y gwelir ef "wyneb yn wyneb," beth bynag ydyw hyny. Bydd yr hen Gristion, pan y delo wyneb Duw i'r golwg yn yr afon, yn taflu yr hen ffyn y naill ochr, i'r nesaf. "Yn awr yr adwaen o ran; ond yna yr adnabyddaf megys y'm hadwaenir," medd y testyn, Tywyll ac aneglur iawn yw ein syniadau uchaf am y byd a ddaw, a'n sefyllfa ysbrydol ni yno; wedi ein dadrys o'r sefyllfa gorfforol, yn byw drwy gyfryngau, anadnabyddus i ni yn awr, o ran ein bodolaeth a'n mwynhad ysbrydol. "Nid amlygwyd i ni eto beth a fyddwn; eithr ni a wyddom, pan ymddangoso efe, y byddwn gyffelyb iddo, canys ni a gawn ei weled ef megys ag y mae." Ië, "o ran y gwyddom, ac o ran yr ydym yn prophwydo. Eithr pan ddelo yr hyn sydd berffaith, yna yr hyn sydd o ran a ddileir."

Gwelir hefyd fod yr hyn sydd o ran yn ddefnyddiol mewn sefyllfa anmherffaith, canys moddion i gyrhaedd perffeithrwydd ydyw. Yr ydych drwy yr anmherffaith yn dyfod i afael y perffaith-drwy y daearol yn dyfod i fwynhad o'r ysbrydol; o fod yn fechgyn i fod yn wyr. Yn awr, eglur yw nad ydyw pob sefyllfa ddaearol ond sefyllfa blentynaidd ; fel bachgen yn mhob peth; heb fyned yn wr mewn gras nes myned i'r nefoedd, "pan ymgyfarfyddom oll yn undeb ffydd a gwybodaeth Mab Duw, yn wr perffaith, at fesur oedran cyflawnder Crist." Bellach, bydded i'r mabanod gael eu porthi a "didwyll laeth y gair, fel y cynyddont drwyddo ef," a thrwy hyny ddyfod yn wyr, i fwyta bwyd cryf. "Canys bwyd cryf sydd yn perthyn i'r rhai perffaith." Yr ydym o dan anogaeth i fyned rhagom at berffeithrwydd, gan ddefnyddio yr anmherffaith yn foddion i cyrhaedd y dyben hwnw. Pethau i ddiflanu, medd yr Apostol, yw pob peth yn fuan; eto awgryma y posiblrwydd o gyrhaedd y pethau nad ydynt yn diflanu drwyddynt, ië, derbyn "anniflanedig goron y bywyd."

Y peth tebycaf i berffeithrwydd o bob peth a enwir, yw cariad. Y mae cariad yn elfen mor ddwyfol, mor debyg i Dduw ei hun, fel y mae yn parhau heb ddiflanu. Y mae yn debyg nad ydyw yn cyfnewid gymaint yn ei ffurf a'r grasau eraill, fel y dywedir, "Cariad byth ni chwymp ymaith," Y peth, gan hyny, tebycaf i'r nefoedd, ag sydd yn myned i'r nefoedd o dan lai o gyfnewidiadau na dim arall, a ddylai gael ei harfer fwyaf ar y ddaear. Dyna'r sicrwydd mwyaf am y nefoedd, yw arferiad o'r pethau mwyaf nefol yn y sefyllfa ddaearol. "Yr hwn nid yw yn caru, nid adnabu Dduw; oblegid Duw, cariad yw. Yn hyn yr eglurwyd cariad Duw tuag atom ni, oblegid danfon o Dduw ei uniganedig Fab i'r byd, fel y byddem fyw trwyddo ef. Ac y mae pob un sydd ganddo y gobaith hwn yn ei buro ei hun, megys y mae yntau yn bur." Cariad sydd yn ffurfio y gobaith hwn gryfaf o bob peth. Gwelir fod yr Apostol yn gosod cariad yn sail dysgwyliad am y nefoedd. Nid ydyw dyn yn hinsawdd y nefoedd o gwbl, os nad yw yn byw mewn cariad. "Nia wyddom ddarfod ein symud ni o farwolaeth i fywyd, oblegid ein bod yn caru'r brodyr. Yr hwn nad yw yn caru ei frawd, y mae yn aros yn marwolaeth. Pob un ag sydd yn casau ei frawd, lleiddiad dyn yw; a chwi a wyddoch nad oes i un lleiddiad dyn fywyd tragywyddol yn aros ynddo." Y peth tebycaf i'r nefoedd ar y ddaear yw cariad, a'r peth tebycaf hefyd o fyned o'r ddaear i'r nefoedd.

Yn ddiau, canfyddir yn rhesymeg yr Apostol anogaeth gref i arfer y pethau ar y ddaear sydd yn cyfeirio at berffeithrwydd y nefoedd, "Ceisiwch y doniau goreu. Ewch rhagoch at berffeithrwydd." Bydd llawer o bethau mewn crefydd, ag sydd wedi bod yn wasanaethgar yma, yn bur ddiwerth mewn sefyllfa berffeithiach, ag sydd yn ein harwain i feddwl na ddylid sicrhau gormod ar bethau ag y bydd, fe allai, gwybodaeth fwy perffaith yn dangos eu ffolineb. Nid ydyw anffaeledigrwydd yn preswylio mewn creadur, yn enwedig mewn byd tywyll fel hyn. Y mae rhan helaeth o'r fuchedd hon yn gynwysedig mewn edifarhau am gyfeiliornadau, a dymuno y buasai yn bosibl eu galw yn ol. Eglurhad rhagorol o hyn ydyw y testyn: "Pan oeddwn fachgen, fel bachgen y llefarwn, fel bachgen y deallwn, fel bachgen y meddyliwn; ond pan aethum yn wr, mi a rois heibio bethau bachgenaidd." Gwelir, yn ol darluniad yr Apostol, fod cyfnewidiadau mawion yn cymeryd lle, o'r bachgen i'r gwr; ond beth yw hyny at amser a thragywyddoldeb-at y ddaear a'r nefoeddat wasanaeth oer y capel a gwasanaeth perffaith a gwresog y teulu sydd yn gwasanaethu Duw a'r Oen ar fynydd Seion?

Edrychwn am ychydig, er hyn oll, ar gymhariaeth yr Apostol yn nghylch y cyfnewidiadau sydd yn dygwydd rhwng y bachgen a'r gwr, er egluro fod yr un egwyddor yn y cyfnewidiadau o sefyllfa anmherffaith y byd hwn i'r byd a ddaw mewn crefydd, ond yn unig fod y cyfnewidiadau yn fwy o lawer yn yr olaf na'r blaenaf. Pan oeddwn fachgen, yr oeddwn fel bachgen; ond pan aethum yn wr, yr oeddwn fel gwr.

Y mae hyn yn dangos sefyllfa anmherffaith a sefyllfa berffaith dyn-yn fachgen ac yn wr. Eto, gwelir ei fod yn myned o dan gyfnewidiadau mawrion er cyraedd perffeithrwydd. Gellid meddwl fod cryn ffordd rhwng y bachgen a'r gwr, ac y mae mewn rhyw ystyr hefyd, er nad oes ond ychydig o amser rhwng y ddau. "Pan oeddwn fachgen," yr oeddwn fel bachgen; "ond pan aethum yn wr," yr oeddwn fel gwr, ac wedi "rhoddi heibio bethau bachgenaidd." Yr ydym yn deall hyn yna, canys myned ydyw o anmherfteithrwydd dynoliaeth i berffeithrwydd. Bydd yn drugaredd gweled corff ac enaid yn myned gyda'u gilydd, oherwydd weithiau gwelir cynydd corft heb gynydd enaid; ac y mae yn bosibl fod cynydd enaid hefyd heb gynydd corff; eithr nid yw y naill na'r llall yn brydferthwch. Nid yw bod yn blentyn mewn corff nac enaid ddim yn ddymunol am amser maith; eithr mae bod yn myned "yn wr" heb y llall yn beth nad yw yn ddymunol. Bod yn debyg i'r Iesu yn hyn, fel pob peth arall, sydd yn naturiol. "Efe a gynyddodd mewn doethineb a chorffolaeth."

Ond i adael hyn yna eto: Gwelir yn amlwg fod cyfnewidiadau rhwng y bachgen a'r gwr. Byddai Dafydd yn sefyll uwchben y cyfnewidiad sydd o'r bru i'r bedd gyda syndod. Er nad ydyw'r ffordd yn faith, eto y mae yn gyfnewidiol, ac yr ydym ninau yn myned drwy y cyfnewidiadau i fwy o berffeithrwydd dynol. "Ni chuddiwyd fy sylwedd oddiwrthyt, pan y'm gwnaethpwyd yn ddirgel, ac y'm cywreiniwyd yn iselder y ddaear. Toaist fi yn nghroth fy mam." Gwelir prydferthwch y baban, pan wedi agor ei lygaid ar y byd, ac heb sylwi ar ddim Eto, cyn hir, byddai y prydferthwch yma wedi troi yn sobrwydd, oherwydd y myned o un safle i'r llall i fod yn y byd hwn." Y baban sydd yn cyflymu yn fachgen, ac yn dechreu siarad; eithr, fel y dywed yr Apostol, yn siarad "fel bachgen;" ac fel hyny hefyd y disgwylir iddo siarad. Yn fuan, fel y gwelir, bydd y bachgen yn myned yn wr, ac wedi hyny y gwr yn adfeilio ac yn suddo i'r hen ddyn, a'r hen ddyn yn suddo i'r bedd, ac i dragwyddoldeb. "Ebrwydd y derfydd, a ni a ehedwn ymaith."


Gwelir yn amlwg yn y bachgen a'r gwr mai sefyllfa o anmherffeithrwydd a pherffeithrwydd sydd o dan ymdrafodaeth-y daearol a'r nefol. Canys gweled yr ydym yr awrhon trwy ddrych, mewn dameg; ond yna yr adnabyddaf megys y'm hadwaenir."

Bachgen yn llefaru. Y gymhariaeth, fel y gwelir, yw'r bachgen a'r gwr, y cyntaf yn cyfeirio at anmherffeithrwydd, a'r llall at berffeithrwydd. Sefyllfa bachgenaidd yw tymor anmherffeithrwydd y gwr, a myned yn wr yw myned i sefyllfa o berffeithrwydd, neu fel y dywedir, y dyn perffaith. "Pan aethum yn wr, mi a roes heibio bethau bachgenaidd." Gwelir fod y gwr yn suddo'r bachgen o'r golwg, yn taflu ei arferion bachgenaidd heibio, ac yn naturiol yn cymeryd at bethau mwy cydweddol ag archwaeth y sefyllfa a'i alluoedd. "Fel bachgen y llefarwn" pan yn fachgen; ac yr oedd yn brydferth yn y bachgen, a hynod gariadus. Yr oedd ei dafod byr, ei seiniau aneglur, ei fethu dweyd yn groew, yn bethau oedd yn swyno ei fam, ac yn peri iddi redeg i'w gusanu. Yr oedd y tad yn agos o dan yr un teimladau hefyd; teimlai yntau hyfrydwch pan yn ei glywed yn dechreu dweyd "Tata," cyn gallu dweyd "Fy nhad" yn groew. Ond, beth pe tybiech ei fod yr un peth pan yn ugain oed? Byddai yn ofid blin i'w rieni a fyddai gynt yn ymhyfrydu yn y seiniau. Pe gwelech beth fel hyn, clywech gwynfan y rhieni mewn henaint a phenllwydni, gan ddweyd, "O, y mae bod y bechgyn yn cael eu gadael ar ein hol yn blant, heb erioed ddyfod yn wyr, yn tori ein calonau yn fwy na dim. Y maent yr un fath yn awr a phan yn dechreu siarad, yn blant o hyd. Fel bechgyn y maent eto yn llefaru, ac fel plant yn bwyta, eu harchwaeth a phob peth oll sydd yn blentynaidd." Natur yn ei lle yw gweled plentyn yn myned yn wr, ac yn rhoi heibio bethau bachgenaidd. A hyn hefyd sydd yn gysur yn mhob cylch. Mae Paul yn cyngori i fod yn blant byth mewn drygioni-yn anmherffaith, eithr peidio aros yn blant mewn deall a rhinwedd. "Frodyr," meddai, "na fyddwch fechgyn mewn deall; eithr mewn drygioni byddwch blant; ond mewn deall byddwch berffaith." Byddwch yn ddynion, byddwch yn wyr, a rhowch heibio "bethau bachgenaidd." Mewn cyferbyniad i sefyllfa bachgen, y mae sefyllfa'r gwr yn cael ei dal allan gan yr Apostol yn berffeithrwydd. Wedi'n y mae yn dal allan yn mhellach fechgyn mewn crefydd, mewn gras, a gwyr cryfion. Na fyddwch fechgyn yn hir mewn gras; ewch yn y blaen o sefyllfa y bachgen i sefyllfa y gwr. "Am hyny, gan roddi heibio yr ymadrodd sydd yn dechreu rhai yn Nghrist, awn rhagom at berffeithrwydd, heb osod i lawr drachefn sail i edifeirwch oddiwrth weithredoedd meirwon, ac i ffydd tuag at Dduw, i athrawiaeth bedyddiadau, ac arddodiad dwylaw, ac adgyfodiad y meirw, a'r farn dragywyddol. A hyn a wnawn, os caniata Duw." Ewch rhagoch at fwy o berffeithrwydd mewn gras a gwybodaeth ysbrydol. Cerddwch yn y blaen, o fod yn fechgyn i fod yn ddynion bellach. Yr oedd yr Apostol yn gweled ac yn gofidio nad oedd yn bosibl iddo weinyddu iddynt y wybodaeth angenrheidiol i'w sefyllfa bresenol, oblegid eu bod yn aros yn blant o hyd. "Am yr hyn y mae i ni lawer i'w ddywedyd, ac yn anhawdd eu traethu, o achos eich bod chwi yn hwyrdrwm eich clustiau. Canys lle dylech fod yn athrawon o ran amser, y mae arnoch drachefn eisieu dysgu i chwi beth ydyw egwyddorion dechreuad ymadroddion Duw; ac yr ydych yn rhaid i chwi wrth laeth, ac nid bwyd cryf." Ewch rhagoch at berffeithrwydd fel y gallwyf roddi bwyd gwyr i chwi, ac nid plant, fel y galloch "roi heibio bethau bachgenaidd."

Bachgen yn deall ac yn meddwl. "Fel bachgen y deallwn, fel bachgen y meddyliwn; hyny yw, pan oeddwn fachgen, fel bachgen yr oeddwn yn mhobpeth. Wrth gwrs, fel bachgen y dysgwylid iddo fod pan yn fachgen; ond y pwnc yw, y mae yn myned yn wr yn y cwestiwn, a rhoi heibio bethau bachgenaidd. Rhaid myned at berffeithrwydd, ac y mae hyny yn rhywle yn oes dyn ar y ddaear. "Pan oeddwn fachgen, fel bachgen y meddyliwn." Yr ydych yn cofio yr amser pan yr oeddych yn meddwl fod dimai yn fwy na thyddyn —fod melusder teisen yn fwy ac yn well na bwyd cryf —fod y top a'r marble yn rhagorach na phleserau penaf y ddaear. Ydych; ond, pa fath fyd fyddai hwn pe bae pawb yn aros yn y dull yna o feddwl, a'r llwybr yna o fyw? Yn sicr ddigon, hi a fyddai yn benbleth; eithr y mae un peth yn amlwg, ni fyddai yn debyg o aros yn hir cyn dybenu. Gwelir yn amlwg fod y bachgen, yn ol trefn natur, i fyned yn wr, a bod trefn gras a gogoniant yn cynwys yr un egwyddor.

Y mae gras yn oruchwyliaethol wedi bod yn fachgen ac yn wr. Neu ynte, os deallir yn well, y mae'r dadguddiad dwyfol o ras yn cyfateb i sefyllfa gynyddol dynoliad mewn gwybodaeth. Yr oedd yn rhaid meithrin y plentyn a llaeth, i roi sail gwr i lawr ; a chynyddu cryfder cyfansoddiadol yr oedd raid cryfhau y bwyd. Felly yn ysbrydol hefyd. Yr oedd goruchwyliaethau y Patriarchiaid a'r Iuddewon yn rhywbeth fel porthi'r plant i'w gwneuthur yn ddynion; a phan ddaeth cyflawnder y amser i'r dyn Crist Iesu ymddangos, yr oedd yn dysgwyl i'r byd fyw ar fwyd cryfach. Yr oedd yr eglwys y pryd hwnw i groesi y llinell o fod yn fachgen i fod yn wr—i fyw ar rywbeth sydd yn "perthyn i'r rhai perffaith."

Yr un wedd yn bersonol hefyd: rhaid gadael y bachgen, a phethau bachgenaidd, am sefyllfa y gwr, ac arferion gwr; oblegid "pan ddelo yr hyn sydd berffaith, yna yr hyn sydd o ran a ddileir." Perffeithrwydd sydd yn dileu pob anmherffeithrwydd; felly y mae sefyllfa'r gwr yn dileu anmherffeithrwydd y bachgen. Fel natur, felly hefyd gras yn sefyllfa gynyddol; ac y mae'r Apostol yn dyfod a'r sefyllfa ddyfodol yn y blaen fel gwr perffaith, a phob un arall mewn cymhariaeth i hyny yn sefyllfa bachgenaidd. Nid yw y gwr perffaith mewn gras ond bachgen mewn cymhariaeth i'r dyn perffaith mewn gogoniant. "Eithr nyni oll ag wyneb agored, yn edrych ar ogoniant yr Arglwydd megys mewn drych, a newidir i'r unrhyw ddelw, o ogoniant i ogoniant, megys gan ysbryd yr Arglwydd." Sefyllfa y bachgen yma yw edrych ar ogoniant yr Arglwydd, ac felly yn cael ei gyfnewid i'r unrhyw ddelw, yr hyn a fydd sefyllfa'r gwr mewn gogoniant. Nid ydyw y sefyllfa uchaf mewn gras yma ond sefyllfa bachgen—sefyllfa gynyddol. "Gweled wyneb yn wyneb" yw sefyllfa y gwr. Y bachgen sydd yn llefaru, y bachgen sydd yn meddwl, y bachgen sydd yn deall, ïe, edrych y mae drwy ddrych mewn dameg; nid oes weledigaeth amlwg. Y drychau a'r damegion, a phethau felly sydd yn dal perthynas a sefyllfa bachgen, fyddant wedi eu rhoi heibio ar ol croesi yr Iorddonen i wlad Canaan. Y mae yr hen ddrychau—y glasses—a fu ddefnyddiol iawn yn y byd hwn, mewn byd o fater, wedi eu rhoi heibio, fel yn perthyn i sefyllfa fachgenaidd. Y maent yn wasanaethgar i'n cymwyso at sefyllfa uwch. "Hyd oni ymgyfarfyddom oll yn undeb ffydd a gwybodaeth Mab Duw, yn wr perffaith, at fesur oedran cyflawnder Crist." Pan y cyrhaeddir y sefyllfa hon o berffeithrwydd, bydd y byd a'i arferion wedi eu rhoi heibio. Yr ydym yn myned o dan gyfnewidiadau mawrion mewn natur, ac felly mewn gras. Y maban sydd yn croesii'r bachgen, ac yn gadael pethau babanaidd, bydd ar y bachgen gywilydd o honynt, a gwna ei oreu i'w "dileu" a'u rhoddi heibio yn llwyr; a chyn braidd y mae wedi gorphen gwneuthur hyny, dacw ef wedi croesi dros y llinell nesaf—wedi myned yn wr. Y peth cyntaf y gwelir ef yn ei wneuthur wedi myned yn wr yw dileu y bachgen, a rhoi heibio ei holl arferion fel gwagedd. Gyda hyny, dacw ef yn croesi i drafferthion canol oed, ac yn edrych ar dymor y gwr fel tir gwyllt, os nad diffaethwch gwag erchyll; a thra y mae yn ymddiosg ac yn rhoi heibio y tymor hwnw, dacw ef drachefn yn croesi dros y llinell i diriogaeth yr hynafgwr, yn taflu golwg yn ol oddiyno, ac yn gwaeddi, "Gwagedd yw mebyd, gwagedd yw ieuenctyd," ïe, "gwagedd yw'r cwbl." O ïe! "Ac yn awr, beth a ddysgwyliaf, O Arglwydd?" Dyna fel y bydd y dyn yn myned, a'r Cristion hefyd yn rhywbeth cyffelyb, drwy gyfnewidiadau, nes cyraedd y gwr neu y dyn perffaith.

Y mae, pa fodd bynag, un ragoriaeth o bwys mewn gras a natur. Nid ydyw y naill fel y llall, ar ol cyraedd y gwr, yn dychwelyd yn blentyn. Ona, nid oes adfeilio mwy, na marw mwy.

Gwelir fod dirgeledigaethau rhyfedd yn y cyfnewidiadau yr eir trwyddynt. Mor araf yw y cyfnewidiadau fel y mae'r llinell terfynol rhwng y maban a'r bachgen, rhwng y bachgen a'r gwr, yn hollol anweledig. Croesi o un sefyllfa i'r llall heb yn wybod i'r dyn ei hun. "Pan aethum yn wr." Ië, pa bryd? pa ddiwrnod? pa fis? pa flwyddyn? Nid oes neb yn gwybod. Yr oedd "wedi myned" cyn deall. Y mae pawb yn myned yn hen, neu wedi myned. Nid oes neb yn deall, a gallu dweyd, "Dyna'r diwrnod yr aethum i yn hen." Felly hefyd y mae'r llinell yn hynod anweledig rhwng y byd hwn a'r nesaf; yr ydym drosodd cyn deall ein bod arni. Y mae rhywbeth teneu iawn rhwng adwaen o ran ac adwaen megys y'm hadwaenir—rhwng gweled drwy ddrych ac wyneb yn wyneb—rhwng y gwr perffaith mewn gras a'r gwr perffaith mewn gogonaint.

Dymunem goffhau wrth derfynu fod tymor y bachgen yn effeithio pob peth ar dymor y gwr. Os bydd y bachgen yn ddrwg, bydd yn rhedeg i gyfansoddiad corfforol ac ysbrydol y gwr. Bachgen drwg yn osgoi addysg a ddinystriodd y gwr; ac o'r tu arall, y bachgen da a lynodd wrth ei lyfrau, a wna nid yn unig dad llawen, ond hefyd a wna'r gwr, a'r gwr hwnw a wna efe ei hun yn gysurus. Bydd yr hau hadau yn nhymor y bachgen yn ffrwyth addfed yn nhymor y gwr. Felly hefyd adeg bywyd yw y tymor i hau drwg neu dda am dragwyddoldeb. Mae aml un, yn ei adeg yn y byd, yn hau had drwg a fydd yn gynhauaf o felldithion tragwyddol. Bydd yr adeg fachgenaidd o fodolaeth dyn, ei fywyd yn y byd hwn, yn sicr o wneuthur tragwyddoldeb da neu ddrwg. Mae y bachgen i effeithio byth ar y gwr er cysur neu anghysur. "Gwnaethost i mi feddianu pechodau fy ieuenctyd." Ië, y peth a heuo'r bachgen a fêd y gwr, mewn amser a thragwyddoldeb. Am hyny, "da yw i wr ddwyn yr iau yn ei ieuenctyd."


Y Parch. John Parry, D. D


𝔜 𝔓𝔞𝔯𝔠𝔥. 𝔍𝔬𝔥𝔫 𝔓𝔞𝔯𝔯𝔶, 𝔇. 𝔇

Fel Pregethwr
Gan y Parch. W. R. Jones (Goleufryn), Caergybi.

Y MAE y pregethwyr sydd yn llenwi pwlpud y Methodistiaid Calfinaidd yn Nghymru, yn enwedig yn Ngogledd Cymru, o'r canol oed i fyny, dan fwy o ddyled i ddau ddyn neillduol nag y maent erioed wedi ei ystyried, a mwy, pe yr ystyrient, nag y gallant fyth ei draethu. Y ddau ddyn hyny ydynt y Doctoriaid Lewis Edwards a John Parry y Bala. A gallwn ddweyd yn mhellach fod meddwl Cymru, oherwydd cysylltiad y ddau ag addysg a llenyddiaeth ein gwlad, o dan ddyled ddirfawr iddynt. Dau arweinydd meddyliau oeddynt mewn modd arbenig, a thra y bydd y meddyliau hyny a arweiniwyd ganddynt mewn bod, bydd eu dylanwad arnynt mewn mil a mwy o wahanol ffurfiau, a thrwyddynt hwy cerir eu dylanwad i lawr i oesau dilynol. Ac y mae yn ddylanwad diarwybod gan mwyaf. Gwyddom, ein bod yn ddyledus iddynt, ond ni wyddom pa mor ddyledus ydym y mae yn ddylanwad fel yr awyr a anedlir genym, neu fel yr elfen dân sydd yn llechu yn guddiedig mewn sylweddau o'n deutu, nis gwyddom ei fod nes y daw rhyw amgylchiadau i'n cyfarfod i'w dynu i'r golwg. Y mae hyn yn neillduol wir am Dr. Parry; gwnaeth ei oreu i fod o'r golwg. Adroddid i ni, yn ddiweddar, mai un o'i bryderon penaf, yn nglyn ag un o anturiaethau llenyddol mwyaf Cymru, ydoedd ceisio cuddio ei hunan, a mynasai, pe y llwyddasai, i gadw ei enw ei hunan allan yn gyfangwbl o unrhyw gysylltiad a'r anturiaeth fawr hono sydd, erbyn hyn, wedi troi allan i fod y fath fendith i genedl y Cymry! Bu yr amddifadrwydd hwn ynddo o unrhyw uchelgais am ddyfod i olwg y cyhoedd, tra yn addurn i'w gymeriad prydferth ef, ar yr un pryd yn golled i'w genedl yn ddiameu, gan na symbylid ef i gyhoeddi dim ond a fyddai raid, yn ystod ei fywyd. Felly cawsom rhy ychydig o'i bregethau, ac y mae pob ymdrech a wneir wedi ei farw, ïe, yn mhen cryn amser ar ol ei farw, hefyd, i gyhoeddi rhai o honynt yn werthfawr iawn fel cam tuag at gadw rhag difancoll y llwch aur allan o weithdy un o'r gweithwyr mwyaf difefl a medrus a welodd Cymru erioed.

Yr oedd Dr. Parry mor fawr a chyflawn mewn llawer cyfeiriad fel nad ydyw yn cael a haeddai mewn rhai cyfeiriadau. Yr ydoedd yn Athraw Coleg mor ragorol, yn Arholydd Ysgolion Sabbothol diail, yn arweinydd ymddiddan yn y Cyfarfod Eglwysig heb ei fath, fel na chafodd y credit o fod yn bregethwr mor fawr ag ydoedd. Pe buasai yn llai mewn rhai o'r pethau hyn cawsai fod yn fwy yn y pwlpud. Ond prawf y gyfrol o bregethau a gyhoeddwyd ar ol ei farw ei fod yn bregethwr mawr mewn gwirionedd. Cyfyngodd ei hunan hefyd i gylch rhy neillduedig; mynai er pob ymdrech gyfyngu ei hunan i gylch capeli bychain mynyddoedd a chymoedd Sir Feirionydd. Yr hyn a fu yn enill i'r lleoedd hyny fu yn golled fawr i wlad gyfan. Llawen iawn oedd genym ddeall, fod pregeth o'i eiddo i gael ei chyhoeddi hoffem yn fawr ddeall fod ychwaneg ar gael, ac i gael eu cyhoeddi. Y mae y gyfrol a gyhoeddwyd tua deng mlynedd yn ol yn drysor o'r gwerth mwyaf. Oni bae am gyhoeddiad hono ni buasai ond cylch cydmariaethol fychan yn gwybod nemawr ddim am dano fel pregethwr. Erbyn hyn, gan fod cylch ei weinidogaeth gyhoeddus mor gyfyng, ac amser yn treiglo heibio mor gyflym, ychydig ydyw nifer y rhai a gawsant y fraint o'i glywed. A oes gobaith cael cyfrol eto? Pe buasai Dr. Parry yn Ysgotiad buasai rhywrai wedi casglu yn ddichlyn bob briwsionyn o'i ymddyddanion yn ei ddosbarth yn yr Athrofa, ei hanes yn y cwrdd Eglwysig, a'i weddillion llenyddol. Meddylier fel y mae pobpeth am Dr. John Duncan, Stewart, Cromarty, a Dr. W. B. Robertson, Irvine, wedi eu casglu yn nghyd, fel na chollid dim. I'n tyb ni, yr oedd tebygolrwydd neillduol rhwng Dr. Parry, i'r ddau ddiweddaf a enwyd. Yr un lledneisrwydd a gwylder, yr un cyffyrddiad o athrylith i wneyd pob peth yn fyw, yr un eneiniad nawsaidd ar eu meddyliau, ac os oedd yr Ysgotiaid ar y blaen mewn dychymyg a ffansi a nerth desgrifiadol, yr oedd y Cymro yn rhagori mewn mater a nerth meddyliol i dreiddio i wirioneddau yr Efengyl.

[ocr errors] Prif nodweddion gweinidogaeth Dr. Parry ydoedd amrywiaeth a chyflawnder. Edrycher ar ei bregethau cyhoeddedig, y mae ynddynt amrywiaeth dulliau o gyfansoddi a chyflawnder o bob rhagoriaethau. Weithiau ceir ef yn deffinio carictor, fel yn y bregeth ar Gwymp ac Adferiad Pedr." Bryd arall, y mae'n olrhain athrawiaeth fawr fel yn ei bregeth ar "Ddarostyngiad a Dyrchafiad Crist." Glyn fwy wrth y dull testynol na'r un arall ; cyfyd ei bregethau y rhan amlaf o'r testyn, ond er fod tueddfryd naturiol ei feddwl i hyny, eto ni chyfynga ei hun yn hollol i'r dull hwnw. Er casglu ei bregethau argraffedig ynghyd o dan gryn anfantais, dangosant feddylgarwch neillduol. Yn mysg yr amryw gyfrolau o bregethau o eiddo gweinidogion ymadawedıg y Methodistiaid Calfinaidd, a gyhoeddwyd yn y blynyddoedd a aethant heibio yn Nghymru, yr ydym yn ei ddweyd gyda phob pwyll, fod yn amheus genym a ddengys yr un o honynt gyfuniad gwell o ansoddau uwchaf pregethu, na rhai o'r pregethau a geir yn y gyfrol hon. Cyfunir ynddynt ragoriaethau a geir yn gyffredin ar wahan. Nid oes ynddynt y gwrthgyferbyniadau sydyn, gwreiddiol, a geir yn mhregethau cyntaf Charles Caerfyrddin, ond dangosir ynddynt yn well, olyniad gwirioneddau a'u perthynas â'u gilydd. Nid ydynt, feallai, mor drymion o fater a phregethau Henry Rees, ond y maent yn llawn ohono, ac yn llawer mwy darllenadwy. Nid oes ynddynt y talpiau aruthrol o feddyliau a'r rhyferthwy o farddoniaeth a geir mewn rhanau o bregethau John Jones, Talysarn, ond ceir ynddynt fwy o undod a chyfartalrwydd meddwl. Ni cheir ynddynt y dysgleirdeb a'r nwyfiant a geir yn mhregethau Edward Morgan, ond y maent lawn mor sylweddol. Ni cheir ynddynt yr hyawdledd rhwysgfawr a geir yn mhregethau Dr. Saunders, eithr, wedi eu darllen, gadawant chwi gyda llawn cymaint o wir werth yn eich meddiant yn y ffurf o argraffiadau arhosol. Yr oedd Dr. Parry yn feddyliwr clir iawn; nid oedd ynddo nemawr ddim o'r gyfriniaeth ddofn sydd wedi gosod cymaint o swyn ar feddyliau rhai o bregethwyr Cymru. Er hyny, y mae ei bregethau y rhai mwyaf darllenadwy, ac yn dryfrith gan ddywediadau tarawiadol a chofiadwy. Gallech yn hawdd ddyfynu o bob tudalen o'i bregethau ddywediadau sydd yn glynu yn y cof, oherwydd eu pertrwydd a'u tlysni. Dywed am Grist: "Pan ar y ddaear buddugoliaeth ffydd oedd credu ei fod yn Dduw ; yn awr, pan y mae yn y nefoedd, buddugoliaeth ffydd ydyw credu ei fod yn frawd ini." Am bechod dywed: "Yr oedd dybenu pechod trwy allu noeth yn anmhosibl. Gellid lladd y pechadur felly. Boddwyd byd felly. Ond trwy haeddiant y mae lladd y pechod- trwy haeddiant y mae dybenu camwedd." Nis gallwn ddychmygu am barotoad gwell i ddyn ar gyfer Cyfarfod Eglwysig na darllen pregeth i Newman, Charles o Gaerfyrddin, neu Dr. Parry, y Bala, yn ystod y diwrnod.

Dengys ei bregethau hefyd nad rhaid i bregethu dyn o ddiwylliant eang ac ysgoleigdod diamwys fod yn fyr o eneiniad a naws ysbrydol. Yn ei hanes ef gwelir nad ydoedd gwir ddiwylliant wedi ei glymu o angenrheidrwydd wrth raddau Colegawl. Yr ydoedd yn ddyn o culture eang yn ystyr oreu y gair, ac fel y doethion gynt, ac fel pob gwir ddoethion, bob amser, offrymodd ei aur, ei thus, a'i fyrr, i'r baban a aned yn Methlehem. Wele ddyn wedi bod yn lloffa yn llwyddianus yn mhob maes, yn dod a'i ysgub o flaenftr wyth,--ei ysgub benaf, o faes yr Efengyl. Gwrthbrosa pregethau Dr. Parry am byth y syniad cyftredin, fod pregethau dynion o ddysg a diwylliant, i fod o angenrheidrwydd yn rhai sychion. Y maent oll wedi eu nawseiddio gan brofiad melus, ac arogl yr eneiniad oddiwrth y Sanctaidd Hwnw arnynt i gyd. Ac mor Ysgrythyrol ydynt. Gellwch ddarllen cyfrolau o bregethau diweddar, yn enwedig pregethau y Saeson, heb gymaint a dyfyniad o adnod am dudalenau lawer! Hen arferiad y Piwritaniaid oedd dyfynu adnodau, ac nid ydyw, gellid meddwl, yn cydweddu â chwaeth yr oes hon. Ond yn mhregethau Dr. Parry trethir yr holl Feibl i wasanaeth yr Efengyl, neu, i ddweyd yn fwy cywir, cloddir allan o'r holl Feibl fŵn aur gwerthfawr yr Efengyl. Ac y mae ei bregethau ar yr un pryd yn llawn o gyfeiriadau at bethau yr oes bresenol. Llenwir hwynt a chyfeiriadau hanesyddol, a brithir hwynt a chydmariaethau sydd yn dangos yn eglur fod y pregethwr mewn cyffyrddiad byw ag ysbryd ei oes. Ynddo ceir elfenau goreu y Piwritan, teithi ysgolaig, ymchwil hanesydd, medr llenor cyfarwydd, craffder athronydd, y cwbl wedi eu cyfuno i wneyd pregethwr na welodd Cymru odid ei well erioed. Y mae syched arnom, ïe, gwir syched am gael ychwaneg, os oes fodd, o'i bregethau yn argraffedig.

Wrth ystyried fod y rhai a'i cofiant yn myned weithian yn brin, hwyrach y dylem, cyn rhoi ein hysgrifell heibio, geisio galw ein hadgofion ynghyd i wneyd delweddiad byr o hono. Yr ydoedd mor naturiol fel nad oes dim hynodion i fod yn y darlun. Nid oedd ganddo ddim byd od mewn na llais nac ystum. O'r pedwar wyneb y sonia Ezeciel am danynt, "wyneb dyn" oedd ei wyneb ef. Ambell i wynepryd, ac yn enwedig ambell i bar o lygaid, a eilw i'ch cof y " wyneb eryr" y sonia y prophwyd am dano. Ymddangosiad penderfynol beiddgar a digryn un arall, a'ch adgofia chwi o'r "wyneb llew." Adgofiai cyrff cydnerth, a safiad tawel, hywedd, rhai o'r tadau ni o'r wyneb ych." Pwy na chlywodd am "hen ychain " Cymru? Ond wrth edrych ar holl ymddangosiad corfforol Dr. Parry yn y pulpud, a'i holl symudiadau gyda phregethu yr Efengyl, dygir i'n cof yr ymadrodd fod "arno ef gyftelybrwydd, megis gwelediad dyn." Llais uchel, clir, oedd ganddo, ac yn parablu yn lled wastad a dibwyslais. Ceid ganddo oslef soniarus, eithr yn tueddu braidd at fod yn ddiamrywiaeth. Y mae ambell i lais yn rhoddi i chwi y syniad ei fod yn disgyn oddiuchod, a hyny yn lled ddidrafferth i'w berchenog, tra y dyry llais arall i chwi y syniad ei fod yn cael ei sugno drwy ymdrech flin, megis o bydew dwfn. Profedigaeth y dosbarth cyntaf o leisiau ydyw bod yn rhy undonog a gwastad; perygl y dosbarth diweddaf o leisiau ydyw bod yn brin. Llais yn disgyn megis oddifyny iddo yn ddirwystr oedd ei lais ef, ac yn ei amser goreu, meddai gyflawnder o hono, a rhaid i ni gyfaddef yr ychwanegai hyd y nod yr ychydig acen Seisnig i ni yn fawr at swyn y traddodiad. Meddai y dull mwyaf hylithr a naturiol o lefaru. Llefarai nid mor araf fel ag i fod yn llusgedig. nac ychwaith mor gyflym fel ag i fod yn faldorddus. Yr oedd ei iaith yn agos ac eglur i feddyliau cyffredin, a hyny heb fod yn rhy sathredig, ac yn goeth a chwaethus i'r glust fwyaf llednais, a hyny heb ormod o sawyr llyfr ac ol geiriadur arni. Mewn gair, arddull ymddiddanol wedi ei gwisgo ag urddas oedd ei arddull o bregethu.

Byr-hanes

Y mae un lle arall heblaw y pulpud, lle pur agos i'r pulpud, ag y temtir ni, cyn cloi i fyny yr ychydig sylwadau hyn, i ddweyd ychydig am Dr. Parry ynddo, sef fel arweinydd yr ymddiddan yn y Cyfarfod Eglwysig. Yn y lle hwn yr ydoedd lawn cymaint, os nad yn fwy, nag yn y pulpud. Cynllun o gwrdd eglwysig yr ystyriem "Seiat y Bala" yn yr amser y byddai Dr. Lewis Edwards yn llefaru yn fynych ynddi, gan arwain y cyfarfod, a'r Dr. Parry yn arwain y rhyddymddan am bethau ysbrydel. Nid ydym yn disgwyl gweled ar y ddaear ragorach cyfarfodydd eglwysig na'r rhai hyny. Tybiwn eu bod y pethau agosaf ellid gael i gyfarfodydd yr eglwysi boreuol, pan oedd y saint " yn parhau yn athrawiaeth ac yn'ghymdeithas yr apostolion, gan foli Duw a chael ffafr gan yr holl bobl." Gwnelai Dr. Parry yr eglwys yn un aelwyd fawr gynes, pawb yn teimlo eu bod yn aelodau o'r un teulu, ac yntau yn arwain yr ymddiddan. Clywsom lawer o ymresymu ar ol hyny ar y dull goreu o "gadw seiat;" ie, clywsom rai yn myned mor bell ag i ameu a oedd y fath gyfarfod a "seiat brofiad" yn angenrheidiol o gwbl: ond teimlem y gallem fforddio gwenu yn gomfforddus am ben yr holl faldordd hwn. Byth ar ol bod yn seiat y Bala yr adeg hono, nid y peth mawr i ni oedd y " dull," ond y defnyddiau, a'r un peth, i'n bryd ni, fyddai i Gristion neu eglwys i geisio byw heb gyfarfod eglwysig ag a fyddai i ddyn byw geisio bodoli heb anadlu. Dull cyffredin Dr. Parry yn y cyfarfod eglwysig ydoedd yr un ag yn ei ddosbarth yn yr Athrofa, ac wrth holwyddori yn y Cyfarfod Ysgolion, sef tynu meddyliau allan. Fel rhiniwr medrus tynai brofiad allan yn ddi-drafferth, ac nis gallai neb fod yn fud neu fyddar o fewn cylch ei ddylanwad. Diferai yr adnodau gan enaint, a pheraroglid dyddiau yr wythnos, a'u gorchwylion cyffredin, gan yr eneiniad a geffid yn y cyrddau eglwysig wythnosol. Disgyned arnom ddeuparth o'i ysbryd llednais a gostyngedig ef, a bedyddier ni yn ehelaeth a'r eneiniad hwnw a wnaeth ei goffadwriaeth mor beraroglus.

Ganwyd Dr. Parry yn Bersham, gellaw Gwrecsam, Mawrth 23, 1812. Gwr hynaws a charedig oedd ei dad, ac ystyrid ei fam yn un o'r gwragedd cyflymaf ei deall, ac o ysbryd gwrol. Saesneg arferid yn y pentref y'i ganwyd, fel nad oedd yn mlynyddoedd cyntaf ei oes yn gwybod nemawr ddim Cymraeg. Pan oedd yn 12 oed, symudodd ei rieni i Manchester, ac ymunasant â'r achos Cymraeg. Daeth yn fuan i gymeryd dyddordeb yn yr achos, yr Ysgol Sul yn enwedig. Yn 1837, dewiswyd ef yn flaenor, a gwelwyd yn fuan fod ei duedd at fyned yn bregethwr. Yn 1838 daeth yn efrydydd i'r Bala, ac ym roddodd yn ddiflin i'w holl efrydiau. Aeth i Edinburgh ya 1841; ac yn Awst, 1843, ceir ei fod wedi ei benodi yn athraw yn Ngholeg y Bala, ac yma y treuliodd weddill ei oes. Yn nghylch Penllyn yn benaf y treuliai ei amser mewn gwaith cyhoeddus. Am ddeng mlynedd bu yn dyoddef dan afiechyd a ymddangosai o natur y parlys yn ei fraich dde, ond er y gwendid hwn bu ei yni gyda'i ddyledswyddau yn rhyfeddol. Yn Ngorphenaf, 1873, derbyniodd y gradd o D.D. Daeth y diwedd i raddau yn anysgwyliadwy. Rhai o'i eiriau diweddaf, oeddynt:—" I am going to God's rest." Ac ar y 19eg o Ionawr, 1874, efe a hunodd, wedi iddo wasanaethu ei genhedlaeth trwy ewyllys Duw.

Pan yr äi
I'w bwlpud eilwaith, gell'sid meddwl mai
'R pregethwr oedd yn unig, gan mor llawn
Oedd rhiniau'r brynedigaeth drwy ei ddawn.
Addurnol arddull, heb yr ofer wych;
Y coeth a'r athronyddol, heb y sych:
Gallasai weithio allan feddwl mawr,
A'i ddangos gefn a gwyneb, nen a llawr,
Nes aem o'i ogylch:—safai erbyn hyn
Fel palas o oleuni ar ryw fryn,
Na fu yn gorphwys arno niwl erioed,
Na neb yn meiddio amheu wrth ei droed.

Ei arddull ydoedd gynllun llawn
O weinidogaeth uchel iawn—
Mawr ganol bwynt ei ddysg a'i ddawn
Oedd Crist a lawn ei groes.


𝔊𝔬𝔤𝔬𝔫𝔦𝔞𝔫𝔱 𝔖𝔢𝔦𝔬𝔫.

Gan y diweddar Barch. John Parry, D.D., Y Bala,

"Ei sail sydd ar y mynyddoedd sanctaidd. Yr Arglwydd a gâr byrth Seion yn fwy na holl breswylfeydd Jacob. Gogoneddus bethau a ddywedir am danat ti, O ddinas Duw. Cofiaf Rahab a Babilon wrth fy nghydnabod: wele Philistia, a Thyrus, yn nghyd ag Ethiopia. Yno y ganwyd hwn. Ac am Seion y dywedir, Y gwr a'r gwr a anwyd ynddi; a'r Goruchaf ei hun a'i sicrha hi. Yr Arglwydd a gyfrif pan ysgrifeno y bobl, eni hwn yno. Y cantorion a'r cerddorion a fyddant yno: fy holl ffynonhau sydd ynot ti." SALM lxxxvii.

CANMOLIAETH i Seion ydyw y Salm hon, fel cysgod o Eglwys Dduw. Tybia rhai iddi gael ei hysgrifenu i ddatgan llawenydd pobl Dduw pan oedd Seion mewn sefyllfa lwyddianus neu wedi cael rhyw fuddugoliaeth hynod, fel y waredigaeth gafodd Israel dan Hezeciah. Tybia eraill mai i gryfhau ffydd a gobaith pobl Dduw yr ysgrifenwyd hi pan oedd Seion yn anrheithiedig a chyn iddi gael ei hailadeiladu ar ol y caethgludiad i Babilon. Ar ol i'r deml gael ei hadeiladu, yr allor gael ei gosod i fyny, a gwasanaeth Duw ei adferyd, eto yr oedd sefyllfa yr eglwys yn bur isel, nid oedd ond gweddill yn aros, ac yr oedd y gweddill hwnw yn cael ei leihau bob dydd. Yr oedd y deıl hefyd yn llawer llai mewn gwychder nag ydoedd y deml gyntaf. Wrth ystyried hyn oll yr oedd yn ymddangos y byddai yn dra anhebyg yr adenillai yr eglwys ei gogoniant byth yn ol. Yn ngwyneb yr amgylchiadau hyn nid rhyfedd fuasai iddynt suddo i anobaith. Ond yn yr oes hono y mae yr Arglwydd yn addaw iddynt enill yn ol yr hyn a gollasant; a mwy na hyny, y gwisgid Seion eto â mwy gogoniant na dim y bu hi yn ei meddianu o'r blaen, "Bydd mwy gogoniant y ty diweddaf hwn na'r cyntaf, medd Arglwydd y lluoedd." Ond pa un bynag o'r ddwy dybiaeth hyn a ddewisir am gyfansoddiad y Salm, y mae ei chynwysiad, yn lled eglur—y mae yn ddatganiad o ogoniant Eglwys Crist, "Gogoneddus bethau a ddywedir am danat ti, O ddinas Duw."

Y mae y dull o ymadroddi yn gyffredinol o fwriad. "A ddywedir."—Nid yw y Salm yn hysbysu pwy sydd yn dweyd. Y mae hyn yn ein gadael yn rhydd i feddwl fod pawb yn dweyd. Y mae Seion yn cael gogoniant gan bawb—gan Dduw a chan y byd, gan Israel a chan y byd paganaidd. "Gogoneddus bethau a ddywedir," ynot ti, yn dy hanes, yn ngoruchwyliaethau Duw tuag atat. Y sail ar ba un y dywedir pethau gogoneddus am Seion ydyw ei bod yn "ddinas Duw." Y mae ei gelynion yn fynych yn dweyd pethau dirmygus am dani, ond pethau gogoneddus a ddywedir am dani gan Dduw.

I. Am ei sylfaeniad. "Ei sail," adn. 1. Y mae Seion wedi ei sylfaenu ar y mynyddoedd ar fynydd Seion. "Y mynyddoedd sanctaidd," yn cyfeirio at ei neillduad oddiwrth holl fynyddoedd eraill y byd, ei ragoriaeth ar y cwbl, a'i ddyogelwch yn ngwyneb holl ymosodiadau y byd. Amy neillduad hwn, y mae yn ddyledus i ddewisiad Duw, "Dyma y mynydd a chwenychodd Duw ei breswylio." Nid oedd mynydd Seion ond cysgod o Eglwys Dduw dan yr Efengyl. "Chwi a ddaethoch i fynydd Seion, i ddinas y Duw byw." Y mae i'r eglwys ei sylfeini. "Dinas ydyw hon ag iddi sylfaeni." Y mae hyn yn dangos ei chadernid. "Y mae y byd wedi ei seilio ar y moroedd" i ddangos ei gyfnewidioldeb a'i ansefydlogrwydd, ond yr Eglwys "ar y mynyddoedd" i ddangos nad oes dim yn barhaus ond yr Eglwys. Yn ngwyneb holl chwyldroadau a stormydd y byd, nid oes dim yn gwrthsefyll pob ymosodiadau ond Eglwys Dduw; yn ngwyneb cynifer o deyrnasoedd ac ymerodraethau sydd wedi cyfodi i fawredd a gwychder, ac yna wedi diflanu a myned o'r golwg yn llwyr, y mae yr Eglwys yn ymeangu ac yn enill buddugoliaethau newyddion yn barhaus. Dyma un o'r pethau gogoneddus a ddywedir am Seion"Seilio o'r Arglwydd Seion." Pan bydd cenhadau yn cyrchu o wahanol wledydd y ddaear i ymofyn am waith Duw yn y byd, yn codi un deyrnas ac yn darostwng un arall, pa ateb a roddir iddynt?—"pa beth a atebir i genhadau y genedl?" "Seilio o'r Arglwydd Seion." "Ac y gobeithia trueiniaid ei bobl ef ynddi." amcan mawr yn y greadigaeth, yn ngoruchwyliaethau Rhagluniaeth, yn holl ryfeddodau y Prynedigaeth, oedd seilio Seion. "Wele fi yn gosod maen yn Seion." Y mae sail gobaith i drueiniaid wedi ei gosod yn Seion. Jehofah sydd wedi ei gosod. Nid angel na dyn, ond Jehofah. Y mae y cwbl wedi gwreiddio yn nghariad a doethineb Duw. Y mae Iesu Grist wedi ei osod, wedi ei gymhwyso, wedi ei awdurdodi, wedi ei anfon i fod yn sail gobaith trueiniaid. Hwn yw y maen a wrthodwyd gan yr adeiladwyr. Croeshoeliasant Arglwydd y gogoniant. Ond Efe sydd wedi myned yn ben i'r gongl. "Gwybydded holl blant Israel ddarfod i Dduw wneuthur yn Arglwydd ac yn Grist yr Iesu hwn a groeshoeliasoch chwi."

II. Y mae Seion yn wrthddrych neillduol cariad Duw. "Yr Arglwydd a gâr byrth Seion." Am yr holl bethau gogoneddus a ddywedir am dani, y mae hi yn ddyledus i ras Duw fel ffynhonell y cwbl. Nid Seion ddarfu ddewis Duw, ond Duw a ddewisodd Seion, "Canys dewisodd yr Arglwydd Seion, ac a'i chwenychodd yn drigfa iddo ei hun; dyma fy ngorphwysfa, yma y trigaf, canys chwenychais hi." Y mae Seion yn caru Duw am iddo Ef yn gyntaf ei charu hi. "Nid o weithredoedd cyfiawnder y rhai a wnaethom ni, eithr yn ol ei drugaredd yr achubodd efe ni." Yn Seion y mae yr Arglwydd yn cyfarfod ei bobl, "yma y trigaf." Yma y mae yn cymdeithasu â hwynt, yn derbyn eu haddoliad, ac yn rhoddi amlygiadau iddynt o'i ffafr. Nid rhyfedd ei fod yn eu caru. "Pyrth Seion." Y pyrth i ddinasoedd oedd gwrthddrychau cyntaf ymosodiad y gelyn, ac arnynt byddai yr ymosodiad gryfaf. Y mae yr Arglwydd yn arbenig yn amddiffyn y pyrth, y lle y mae'r ymosodiad ffyrnicaf. Os oedd y pyrth yn ddyogel yr oedd dyogelwch yr holl ddinas yn sicr. "Ti a elwi dy fagwyrydd yn iachawdwriaeth a'th byrth yn foliant." Pan lwyddodd Senacherib yn erbyn dinasoedd eraill Canaan, methodd yn ei ymosodiad ar byrth Seion. Am Eglwys Dduw, "pyrth uffern nis gorchfygant hi." "Y mae yr Arglwydd yn caru pyrth Seion yn fwy na holl breswylfeydd Jacob." Y mae yn caru preswylfeydd Jacob,—y mae yn derbyn eu haddoliad oddiar yr allor deuluaidd y mae yn gymeradwy ganddo; ond yn y deml, yn Seion, y mae yn meddwl yn benaf am gyfarfod ei bobl. "Yma y trigaf," yma y mae yn gwneuthur ei gartref. Tua Seion hefyd yr oedd hiraeth pobl Dduw, "Llawenychais pan ddywedent wrthyf, Awn i dŷ yr Arglwydd." "Mor hawddgar yw dy bebyll di, O Arglwydd y lluoedd. Fy enaid a hiraetha, ïe, ac a flysia am gynteddau yr Arglwydd."

III. Gogoneddus bethau a ddywedir am ledaeniad yr Eglwys, "Cofiaf Rahab a Babilon wrth fy nghydnabod." Y mae hyn yn dangos yr Eglwys yn ymeangu ac yn cymeryd i mewn y cenhedloedd fu yn elynol, fu yn sychedu am ei gwaed. Y rhai fu yn ei dirmygu a ddeuant i weled mai yr anrhydedd uchaf fydd cael eu rhestru yn mhlith dinasyddion Seion. Y mae yr Iuddewon yn deall y geiriau hyn fel ag i ddangos rhagoriaeth y genedl Iuddewig mewn rhinwedd a deall, —mai ychydig o ddynion enwog a gwyd o genhedloedd eraill, o Philistia, a Thyrus, yn nghyd ag Ethiopia; o'r braidd y bydd un rhyngddynt i gyd. "Yno y ganwyd hwn,"—rhyw un dyn enwog yn eu mysg hwynt oll; a chan mor anaml y byddant, gellir cyfeirio ato a'r bys a dywedyd "Yno y ganwyd hwn,"—dim ond hwn. Ond am Seion, "y gwr a'r gwr a anwyd ynddi," nid hwn yn unig, ond hwn a hwn, "y gwr a'r gwr." Y mae esbonwyr Cristionogol yn deall y geiriau am Grist, "y gwr a'r gwr," gwr y gwyr. Ond prophwydoliaeth ydyw y geiriau am ddychweliad paganiaid i Seion. "Cofiaf," hyny yw, hysbysaf, soniaf am "Rahab a Babilon wrth fy nghydnabod." Cyfrifaf, rhestraf hwynt yn mhlith y rhai sydd yn fy adnabod. Cyfrifaf hwynt yn mhlith fy mhobl pan ymostyngant i'r efengyl, pan enir hwynt drachefn, pan ddelont i gyfranogi o ragorfreintiau y wir Seion. Er eu bod yn ddyeithriaid a phererinion, dygir hwynt yn gyd—ddinasyddion a'r saint. "Am Seion y dywedir, y gwr a'r gwr." Y mae y Salm yn cyfrif y cenhedloedd oedd fwyaf gelynol i'r Eglwys. Darostyngir y rhai mwyaf gelynoli'r Efengyl. "Rahab," y creulonaf. "Babilon," yr ymerodraeth eangaf. "Tyrus," y farchnadfa fwyaf. "Ethiopia,” hiliogaeth Ham ag ydoedd dan felldith. "Ygwr a'r gwr." Mae cyfeiriad hyn at enwogrwydd y deiliaid. “Brenhinoedd hefyd fydd dy dadmaethod, a'u brenhinesau dy famaethod; crymant i ti a'u hwynebau tua'r llawr, a llyfant lwch dy draed; a chei wybod mai myfi yw yr Arglwydd; canys ni chywilyddir y rhai a ddysgwyliant wrthyf fi." Y mae anrhydedd Seion yn gynwysedig yn y cyfnewidiadau mewnol. Y mae yr Eglwys yn gymdeithas o ddynion wedi ei sicrhau gan y Goruchaf. Nid unrhyw eglwys neillduol a feddylir, ond y mae Seion yn parhau er i eglwysi lleol ddiflanu. Bydd gan Dduw o hyd ei Eglwys broffesedig, "Dywedir am Seion, y gwr a'r gwr a anwyd ynddi. Y Goruchaf ei hun a'i sicrha hi." Y mae Seion yn sefyll pan y mae teyrnasoedd eraill yn diflanu. Nid oes un deyrnas ddaearol wedi llwyddo yn ngwyneb pob gelyniaeth, ond y mae Seion yn codi ei phen yn ngwyneb pob storm. Nid oes ond yr Eglwys wedi dal ei phen yn nghanol pob gelynion. Y mae yr ymosodiadau fu arni, ag sydd wedi bod yn ddinystr i gymdeithasau eraill, wedi bod yn fuddiol iddi hi, wedi lliosogi ei deiliaid, ac wedi ei phuro. Pan yn anrheithiedig y mae Duw wedi ei chodi eilwaith.

IV. Gogoneddus bethau a ddywedir am ei pharhad a'i dyogelwch, "a'r Goruchaf ei hun a'i sicrha hi." "Duw sydd yn ei chanol nid ysgog hi." "Y mae Arglwydd y lluoedd gyda ni; amddiffynfa i ni yw Duw Jacob.' "Duw yn ei phalasau a adwaenir yn amddiffynfa." Y mae y Salm yn galw ar ddynion i edrych ar Seion, "Amgylchwch Seion, ac ewch o'i hamgylch hi; rhifwch ei thyrau hi. Ystyriwch ei rhagfuriau, edrychwch ar ei phalasau; fel y mynegoch i'r oes a ddelo ar ol." Pa beth ydyw ei thyrau a'i rhagfuriau? Addewidion Duw—Duw mewn cyfamod, amddiffyniad Duw drosti, presenoldeb Duw gyda hi, a llywodraeth Crist arni fel Pen yr Eglwys. "Gosodais fy Mrenin ar Seion, fy mynydd sanctaidd." Dyma alwad ar bawb i'w hamgylchu —cyfeillion a gelynion.

V. Bydd enwau meibion Seion i lawr yn nghofrestrau y dinasyddion, "yr Arglwydd a gyfrif pan ysgrifeno y bobl eni hwn yno." Cyfeiriad sydd yn yr adnod hon at yr arferiad o restru enwau y dinasyddion. Y mae pob un o feibion Seion yn werthfawr yn ngolwg yr Arglwydd, y mae yn "cyfrif" ac yn "ysgrifenu." Y mae enw pob un o'r dinasyddion yn cael ei roi i lawr. A'r peth mawr yn eu hanes ydyw "eu geni," eu geni drachefn. Nid oes dim arall yn bwysig. Y mae yr Arglwydd ei hun yn cadw cyfrif o hyn, "eni hwn yno.' Nis gall swyddogion eglwysig gadw cyfrif ond o'n perthynas â'r eglwys weledig; nis gallant hwy gadw cyfrif a dweyd "geni hwn yno." Yn Seion nid oes cofrestriad ond o enedigaeth y plant. "Pob un a ysgrifenwyd yn mhlith y rhai byw yn Jerusalem." Nid oes cofrestru marwolaethau yno. Y rhai "byw" ydynt. Ni byddant farw yn dragywydd.


VI. Ni bydd Seion byth heb destynau mawl: "Y cantorion a'r cerddorion fyddant yno." Yn mha le y mae testynau mawl ond yn Seion? "Fy holl ffynhonau sydd ynot ti." Testynau llawenydd Seion ydyw y gwirioneddau a ddatguddir, y rhyfeddodau a gyhoeddir, y ffynhonau iachawdwriaeth a agorir, a'r dynion a enir o'r newydd yno. Y mae ganddo Ef lyfr coffadwriaeth o bob un sydd wedi ei eni yn y drigfa hon o fynydd Seion. Wyddom ni ddim a ydyw pob enw yn llyfr yr Eglwys sydd wedi bod yn aelodau yn hen gapel y Bala y can' mlynedd diweddaf. Ond y mae Efe yn ysgrifenu "eni hwn yno." Y mae llawer wedi myned o'r lle hwn i'r nefoedd. Y gwaith mawr ydyw bod dynion yn cael eu geni,—dyna'r peth mwyaf yn yr hen gapel. Cyll y capel newydd ei amcan ond mor bell ag y genir dynion ynddo. Hyn fydd ei ogoniant—yr Arglwydd yn cyfrif geni hwn yno. Y mae yr Arglwydd yn caru holl breswylfeydd Jacob, ond yn enwedig y lle y maent yn cyfarfod i'w addoli. Dyma ei dŷ. Dyma fan cyfarfod Duw a'i bobl. Y mae bendith Duw ar eu pebyll, ar eu preswylfeydd, ar eu cartrefi, ar eu mynediad a'u dyfodiad. Y mae'r Arglwydd yn bendithio ei bobl yn mhob dim. Gwel Deut. xxviii. 3—14. Y mae bendith arbenig ar byrth Seion. "Un peth a ddeisyfais i gan yr Arglwydd, hyny a geisiaf, sef caffael trigo yn nhy yr Arglwydd holl ddyddiau fy mywyd; i edrych ar brydferthwch yr Arglwydd ac i ymofyn yn ei deml." Y mae yr Arglwydd yn gwybod pwy sydd yn ymadael o'r hen gapel i'r capel newydd heb eu geni drachefn.

[Hon oedd y bregeth olaf a draddodwyd yn hen gapel y Bala, a'r olaf hefyd a draddododd Dr. Parry yn y Bala o gwbl. Copiwyd hi o'i lawysgrif ef ei hun drwy garedigrwydd Mrs. Parry. Gwelir nad ydyw ond amlinelliad o bregeth. Hysbysir ni fod yr odfa y nos Sul hwnw yn un deimladwy a dwys iawn.]


Y Parch. Roger Edwards, D.D.


𝔜 𝔓𝔞𝔯𝔠𝔥. ℜ𝔬𝔤𝔢𝔯 𝔈𝔡𝔴𝔞𝔯𝔡𝔰, 𝔇.𝔇.
GAN Y PARCH. WILLIAM WILLIAMS, GLYNDYFRDWY.

YN y flwyddyn yr oedd y Methodistiaid wedi ymaddfedu i ordeinio gweinidogion o'u plith eu hunain, ac yn y misoedd yr oedd Mr. Charles yn trefnu i ddwyn oddiamgylch yr ordeiniad cyntaf, ganwyd un a gymerodd ar ol hyny ran yn ordeiniad nifer mwy o weinidogion nag odid neb o'i frodyr, oherwydd yn y Bala yn y flwyddyn 1811 fe anwyd y diweddar Barchedig Roger Edwards. Pan oedd yn dri mis oed, symudodd ei rieni i Ddolgellau, ac yn y dref hono y treuliodd flynyddoedd ei febyd a'i ieuenctyd. Yr oedd yn hanu o rieni parchus a chrefyddol, ac yr oedd awyrgylch foesol a chrefyddol tref Dolgellau yn un fanteisiol i gynydd deallol ac ysbrydol bachgen oedd yn ofni yr Arglwydd o'i febyd. Dygwyd ef i fyny yn dyner yn mysg pobl grefyddol a diwylliedig, a buan y cyfranogodd yntau o'u hysbryd. Pan oedd cyfnod y pregethu teithiol yn ei fri mwyaf, yr oedd Dolgellau yn cael cyfran helaethach na'r cyffredin o drefydd Cymru o weinidogaeth pregethwyr enwog y De a'r Gogledd ar eu mynediad trwodd o'r naill dalaeth i'r llall. Cafodd yntau, felly, fantais i ymgydnabyddu pan yn dra ieuanc â rhai o brif weinidogion y Cyfundeb, a pharodd bywiogrwydd ei feddwl a nerth ei gof iddo allu trysori yn ei feddwl lawer o'u dywediadau tarawgar.

Er na chafodd yr hyn a allai ei alw yn briodol yn addysg athrofaol, oherwydd nid oedd Athrofa wedi ei sefydlu gan ein Cyfundeb ni pan oedd ef yn ieuanc, eto efe a dderbyniodd addysg dda mewn amryw ysgolion oeddynt fwy neu lai uwchraddol, fel y gellid ei ystyried ar gychwyniad ei yrfa gyhoeddus yn ysgolor da, yn ddyn ieuanc diwylliedig, o chwaetli bur a choethedig, cymwys i droi yn esmwyth mewn cylchoedd uchel. Parhaodd iastudio a dysgu trwy ei oes. Dechreuodd bregethu yn ieuanc, a chyn hir wedi iddo ddechreu ar waith y weinidogaeth, symudodd i'r Wyddgrug, i gysylltiad â Chyfarfod Misol Sir Fflint, a daeth cyn pen llawer o flynyddoedd y goleuad dysgleiriaf yn mhlith gweinidogion y sir hono, ac yn un o ser dysglaer y pulpud Cymreig.

Y mae yn wybyddus ei fod er's blynyddoedd meithion cyn ei farw yn un o wyr mwyaf dylanwadol y dref a'r sir y trigai ynddi, yn gystal ag yn un o golofnau yr achos Methodistaidd yn y Dywysogaeth. Dangosodd yn dra buan ei fod yn wr grymus. Yr oedd ganddo yr hyn y gellir ei alw yn ddynoliaeth ardderchog, corph lluniaidd a phrydferth, ei symudiadau yn fywiog eto yn urddasol. Yr oedd cymesuredd yn gystal ag uwchraddoldeb yn nodweddu galluoedd ei feddwl, ac o ran ei dueddfryd a'i dymer naturiol yr oedd yn hynod o addfwyn, serchog, a chyfeillgar. Er fod ganddo ewyllys gref a meddwl penderfynol, yr oedd yn un o'r dynion mwyaf hoffus a dyddan, ac yn ei holl ymddygiadau yn wr anrhydeddus.

Yr oedd ei bregethau yn wastad yn llawn o athrawiaeth iachus yr efengyl, o duedd yn benaf i feithrin y bywyd ysbrydol yn yr enaid, ac i galonogi y saint yn eu hymdrech i gyraedd purdeb a pherfteithrwydd. Byddai ei bregethau o ran eu cyfansoddiad yn nodedig o drefnus, yr iaith yn syml ac eglur, y meddyliau a'r iaith yn goeth, a'r traddodiad, er nad yn hollol rwydd oherwydd gradd o atal dywedyd, eto yn hynod o ddymunol, yn gyffredin dan radd helaeth o eneiniad, ac ar brydiau yn neillduol o rymus. Mynych y gellir clywed adgofio pregethau a draddododd.

Nid oedd tuedd athronyddol yn un o deithi ei feddwl. Yr oedd yn nodedig am ei gydnabyddiaeth eang a'r Ysgrythyrau. "Yr oedd," meddai y Parch. Griffith Ellis, M.A., Bootle, mewn ysgrif, "ei hyddysgrwydd rhyfeddol yn y Beibl yn un o'r pethau mwyaf swynol yn ei bregethau a'i weddiau." Yr oedd yn fwy o fardd nag o athronydd er na themtiwyd neb, am a wyddom, i'w alw ef yn fardd—bregethwr. Diau ei fod yn fwy o dduwinydd nag o athronydd. Duwinyddiaeth iachus geid yn ei bregethau, yn cynwys hanfod yr efengyl, ac yn aml byddai rhyw dynerwch toddeidiol yn nodwedd neillduol yn ei bregethau. Gan mor bell yr ymgadwai oddi wrth ddull dadleuol o bregethu, rhyfedd gan ei wrandawyr am yr ugain mlynedd olaf o'i oes feddwl yr amheuid uniongrededd ei dduwinyddiaeth yn rhan gyntaf ei oes gyhoeddus, ac yr ystyrid ef yn un o arweinwyr ysgol newydd o dduwinyddion. Ond y mae y ffaith ei fod ef, fel eraill, wedi cael eu drwgdybio unwaith yn dangos fod ynddo nerth, ac fod ei olygiadau yn gadarn a sefydlog ar drefn fawr yr efengyl. Yr oedd yn ei weinidogaeth lawer o duedd ymarferol, a mynych y cymhwysai y gwirioneddau a draethai at galon a chydwybod y gwrandawyr, ond gofalai fod ganddo athrawiaeth i'w chymhwyso. Cymerai drafferth gwirioneddol i gyfansoddi ei bregethau hyd y diwedd. Y mae y rhai olaf a gyfansoddodd wedi eu hysgrifenu yn llawn ac mor fanwl ag yn amser ei nerth corfforol mwyaf. Myfyriai yn amyneddgar, a darllenai yn helaeth. Ysgrifenai ac adysgrifenai, nes yr oedd y copi olaf yn addas bob llinell i'w roddi yn y wasg. Daliai i gyfoethogi ei lyfrgell hyd ei ddyddiau olaf. Nid oedd yr hyn a elwir declamation yn nodweddu ei bregethau. Cawn ei syniad ef ei hun ar y ddoethineb o gadw ar ganol llwybr gwirionedd, a pheidio myned i eithafion, yn y mater hyd yn nod o gymhwyso y gwirionedd, mewn erthygl o'i eiddo yn y gyfrol gyntaf o'r Traethodydd. "Mae rhai," medd efe, yn pregethu yn mron yn gwbl ar dderbyn a gwrthod yr efengyl, ac heb egluro nemawr ar gyhoeddiad yr efengyl ei hun Yn lle rhoddi adroddiad ffyddlawn o gynwysiad cenadwri y cymod, hydred a lledred eu pregethau yw, Paham na dderbyniwch y genadwri? Traethant fwy am y pwys o gredu yn Nghrist nag am addasrwydd Crist fel gwrthddrych i gredu ynddo." Cadwodd ef ei hun yn dda at yr hyn a gymhellai yn yr erthygl ragorol hono trwy ymdrechu iawn—gyfranu gair y gwirionedd, heb ormodedd ar un llaw na diffyg ar y llaw arall.

Fel bardd, cyfansoddodd ddarnau ac emynau sydd yn debyg o barhau tra pery y Gymraeg. Y mae "Yr afonig ar ei thaith," "Ceisiwch eto," "Cân Miriam," ac eraill, wedi hir wneyd eu lle, ac yn mhlith ei emynau ceir "Y gwaed, y gwaed a egyr," "Mae'r byd yn gyfnewidiol," "O am ffydd i ffoi at Iesu," "Teithio 'rwyf trwy ddyrus anial," "Arglwydd, tyn y lleni tewion," ac eraill nad ydynt mor adnabyddus, megys

Fy nghalon, caled yw,
O tyred, Ysbryd Duw,
Chwilfriwia hon;
Dwg fi at Grist a'i groes
I wel'd ei farwol loes;
Does arall, gwn nid oes
All ddryllio hon."


Casglodd hefyd Lyfr Emynau a fu yn dra gwasanaethgar i'r Cyfundeb Methodistaidd. Yn ei gymydogaeth ei hun yr oedd yn un o gynorthwywyr penaf Addysg.

Yr oedd yn wr mawr mewn gwirionedd yn nghynadleddau y Gymdeithasfa a Chyfarfod Misol ei sir ei hun. Yma yr oedd yn dywysog yn mhlith ei frodyr, ac yn cael ei gydnabod felly gan y rhai yr oedd eu doniau gweinidogaethol, feallai, yn ddysgleiriach nag ef. Clywsom dystio iddo wneuthur gwaith tra mawr mewn heddychu eglwysi yn ei sir, yn nechreu ei arosiad yno yn enwedig. Yn un o'r rhai mwyaf eofn a diarswyd oedd yn fyw y pryd hwnw, daeth mewn gwirionedd yn brif wr Cyfarfod Misol ei sir, ac yn mhob achos pwysig o'r bron, o fewn ei gylch, rhaid oedd cael ei lais a'i ddylanwad. Heblaw ei fedr gydag achosion cyffredinol, yr hwn oedd yn ffrwyth ei ddoethineb a'i brofiad maith, yr oedd yn barod i gymeryd rhan effeithiol mewn ymdriniaethau ar faterion athrawiaethol; ac yma deuai cyflawnder ei adnoddau, ffrwythlondeb ei feddwl, a pharodrwydd ei ddawn i'r golwg yn llawn mwy amlwg nag yn ei bregethau. Byddai ei anerchiadau yn gynwysfawr, yn wresog, ac yn iraidd, ac awchlymid ei sylwadau yn fynych gan adroddiad effeithiol o ryw sylw tarawgar o eiddo enwogion ymadawedig. Trwy hyn, byddai ef, fel y diweddar Ddr. Thomas, yn peri i bawb ymdeimlo fod y tadau eto megys yn ein plith.

Bu yn Ysgrifenydd Cymdeithasfa y Gogledd am 34 o flynyddoedd sef o ddechreu 1840 hyd ddiwedd y flwyddyn 1874 gyda'r eithriad o'r flwyddyn 1870 yn ystod yr hon yr oedd yn Llywydd y Gymdeithasfa am y waith gyntaf. Etholwyd ef yr ail waith i lanw cadair Cymdeithasfa y Gogledd am y flwyddyn 1886, ond bu farw ar ganol ail flwyddyn ei lywyddiaeth. Bu hefyd yn Llywydd y Gymanfa Gyffredinol am flwyddyn, yn Arholydd Duwinyddol Athrofa y Bala, ac amryw weithiau yn traddodi y Cyngor ar ordeiniad gweinidogion, yr hyn a wnai yn wastad gydag urddas ac effeithioldeb.

Yr oedd ei lafur llenyddol yn helaeth iawn. I olygu newyddiadur y symudodd gyntaf i'r Wyddgrug, sef Cronicl yr Oes, y newyddiadur gwleidyddol cyntaf, yn ol pob hanes a allwn ni ei gael, a gyhoeddwyd yn Nghymru erioed. Y newyddiadur cyntaf oll a gyhoeddwyd yn Gymraeg ydoedd Seren Gomer, ond nid oedd hwnw yn bapyr gwleidyddol. Nid ei amcan oedd amddiffyn daliadau Rhyddfrydol neu Doriaidd, ond yr oedd Cronicl yr Oes yn wleidyddol a Rhyddfrydol o'r dechreu. Am rai ysbeidiau hefyd, efe, yn ol a allwn ni ei gasglu, oedd yr unig newyddiadur Cymraeg mewn bod. Ymddengys yn ddiamheuol mai y Parch. Roger Edwards ydoedd tad y newyddiadur gwleidyddol yn Nghymru. Er fod tua haner can mlynedd er pan ymddangosodd rhifynau cyntaf y papyr, cynhwysa sylwadau,—er engraifft, ar yr Iwerddon addas at ystad y deyrnas yn y blynyddoedd diweddaf. Yn ddiau, yr oedd y golygydd yn un o'r rhai oeddynt o flaen eu hoes. Dywedai Mr. E. J. Salisbury am dano: "Ni ddeliais yr amheuaeth leiaf, nid yn unig mai Mr. Edwards a lwyddodd i greu annibyniaeth meddwl parthed gwleidyddiaeth yn Ngogledd Cymru, eithr mai efe hefyd a'i sefydlodd trwy gyfrwng Cronicl yr Oes." Efe ydoedd awdwr "Y Tri Brawd," a gweithiau cyffelyb eraill, y chwedlau cyntaf o'u bath, y mae'n debyg, a ymddangosasant mewn misolion Cymraeg

Parhâi i ysgrifenu tra y bu byw. Tra yn golygu y Drysorfa, llwyddodd i'w chadw yn drysorfa nid mewn enw yn unig ond mewn ystyr fwy sylweddol hefyd, a mynych y cyfoethogid ei dalenau gan gynyrch ei feddwl. Bu yn cydolygu y "Traethodydd" hefyd gyda Dr. Edwards, a Dr. Thomas am ddeg neu ddeuddeng mlynedd ac yn y cyhoeddiad hwnw ceir prawf chwanegol o eangder ei wybodaeth, rhyddfrydigrwydd a nerth ei syniadau ar bynciau gwladol ac eglwysig, ei chwaeth bur, ei wladgarwch diledryw, a'i allu uchel fel llenor. Y mae bellach dros saith mlynedd er pan ddaeth ei fywyd llafurus i ben, ac heb arfer unrhyw ormodiaeth na cheisio rhoi lle uwch iddo nag a haeddai yn mysg cedyrn y pulpud, gellir dweyd yn ddibetrus nad oedd un o'r gwyr grymus a gwympasant yn ystod y deng mlynedd diweddaf yn fwy difai yn eu cyflawniadau cyhoeddus, yn fwy hawddgar a serchog eu tymer, nac yn fwy boneddigaidd a difrycheulyd eu hymddygiad, na'r un a adnabyddir yn dda ac a gofir yn hir gan genedl y Cymry wrth yr enw Roger Edwards. Daeth ei yrfa i ben ar y 19eg o Orphenaf, 1886.

𝔊𝔬𝔰𝔱𝔢𝔤 𝔤𝔢𝔯𝔟𝔯𝔬𝔫 𝔇𝔲𝔴 𝔶𝔫 𝔢𝔦 𝔇𝔢𝔪𝔩.
Gan y diweddar Barch. Roger Edwards, D.D., Wyddgrug.

"Ond yr Arglwydd sydd yn ei deml sanctaidd; y ddaear oll, gostega di ger ei fron ef." HABACUC ii. 20.

Yr ydym yn cael Habaccuc, fel prophwyd Jehofah, yn rhagddywedyd yn y benod o'r blaen am y farn alaethus oedd i ddyfod ar Jerusalem a Judah drwy law y Caldeaid, ac yn y benod hon yn rhagfynegu cwymp y Caldeaid hyny, y rhai yn falch a thrahâus a ymffrostient yn eu goruchafiaeth ar Israel Duw. Mynych

yn ysgrifeniadau y prophwydi yr ydym yn gweled fod yr Arglwydd, ar ol cymeryd gelynion ei bobl yn fflangell yn ei law i'w ceryddu hwy am eu beiau, yn y diwedd yn cosbi'r gelynion, o herwydd, er fod ei ragluniaeth ddoeth a chyfiawn yn eu defnyddio yn offerynau ei farn, nid oeddynt hwy yn meddwl am ryngu ei fodd ef, ond yn ceisio eu boddhâd a'u dyrchafiad eu hunain, a'u bod, wedi unwaith gael y llaw uchaf ar ei bobl, yn eu gorthrymu yn ddirfawr. Fel hyn y bu gyda'r Caldeaid neu'r Babiloniaid; ac felly cyhoeddir yn y benod hon waëau Duw arnynt; a chan ddarlunio eu huchelgais anniwall, eu gorthrwm, eu hanghymedroldeb, a'u heilunaddoliaeth, dangosir mor gymwys a chyfiawn ydyw eu cosbedigaeth. Mae ein testyn yn dyfod i mewn yn nglyn â'r cyfeiriad at eu delwaddoliaeth. Fe nodir nad oedd duwiau Babilon ond pethau mudion, difywyd; delw gerfiedig o gareg, neu ddelw dawdd o fetel, neu ddelw naddedig o bren, heb un anadl o'u mewn; duw salw yn wir, nas gallasai glywed ei addolwyr yn ei gyfarch, na dywedyd un gair wrthynt. Ond y mae genym ni, medd y prophwyd, Dduw gwerth son am dano, Duw byw, Duw 'r nefoedd a'r ddaear. "Ond yr Arglwydd sydd yn ei deml sanctaidd." Er i'r Caldeaid ddifrodi ei deml ef yn Jerusalem, y mae ganddo Ef deml anfeidrol fwy ac ardderchocach na hono, yr hon na ddystrywir byth. Mae ei deml fry allan o gyraedd holl falais ei elynion, ac eto y mae o fewn cyraedd gweddi'r gwaelaf sydd yn dysgwyl wrtho. Ac nid Duw un wlad a chenedl yw ein Harglwydd ni, "Sanct Israel, Duw yr holl ddaear y gelwir Ef;" ac y mae yn weddus i'r holl ddaear ei gydnabod a'i wasanaethu Ef, heb rwgnach nac ymddadleu. "Y ddaear oll, gostega di ger ei fron ef."

Mae rhai beirniaid yn edrych ar y testyn fel canolbwynt yr holl lyfr—fel conglfaen holl adail y brophwydoliaeth. Pa bethau brawychus bynag sydd i'w hofni, pa bethau daionus bynag sydd i'w dysgwyl, pa bethau mawrion bynag sydd i'w cyflawni, dyma ddigon ar gyfer y naill a'r llall: "Yr Arglwydd sydd yn ei deml sanctaidd." Yno y bydd efe yn wastad i'w gael; yno yn ei ogoniant, yno yn llefaru, yno yn gweithio; a dyledswydd a braint holl deulu dyn yw syrthio yn addolgar wrth ei ystol droed, "Y ddaear, gostega di ger ei fron ef."

Wrth "deml sanctaidd" Duw yn y lle hwn, mae yn ddiau mai nef y nefoedd a olygir yn mlaenaf a phenaf. Yno y mae trigfa neillduol y Duwdod, lle y mae'r Jehofah yn ei amlygu ei hun fwyaf a gogoneddusaf. Nis gallasai'r babell yn yr anialwch ac yn Silo, na'r deml yn Jerusalem, fod yn wir a phriodol breswylfa Duw.

Nid oedd hyd yn nod y Shecina, er ei danbeidrwydd ofnadwy, ond arwydd Duw, rhywbeth arwyddol, portreiadol, o'r "goruchel a'r dyrchafedig, yr hwn a breswylia dragwyddoldeb," ac a ddywed yn benodol am y nef, "Y goruchelder a'r cysegr a breswyliaf; y nef yw fy ngorseddfainc." Portreiad y gwir gysegr oedd y cysegr o waith llaw, ac yr oedd mynediad yr archoffeiriad Iuddewig i'r sancteiddiolaf gynt, yn ffigiwr a chysgod o'r Archoffeiriad mawr, Iesu, Mab Duw, yn myned "i'r nef ei hun, i ymddangos gerbron Duw drosom ni." Ac y mae yn hyfryd i ni gofio fod genym frodyr lawer yno gyda'r Arglwydd, am y rhai y lleferir "Y maent gerbron gorseddfainc Duw, ac yn ei wasanaethu ef yn ei deml." Ac y mae yn werthfawrocach fyth i ni ddeall y gallwn ni, tra eto ar y ddaear, fod mewn cysylltiad â'r deml ogoneddus hon. Yr oedd cynteddoedd, yn nghydag ystafelloedd amrywiol, yn perthyn i'r deml hynafol ar fynydd Seion, ac yn cael llefaru am danynt fel rhan o honi. Un deml y cyfrifid yr holl adeiladaeth eang, o'r sancteiddiolaf hyd y cyntedd nesaf allan a'r ystafelloedd oddiamgylch. Felly gallwn ninau ddywedyd fod crefydd y Beibl, crefydd Iesu Grist, wedi dwyn yn un y drydedd nef a'r ddaear hon, a chyfansoddi cymanfa a chynulleidfa 'r nefolion, a chydgynulliad y saint yn mysg daearolion, yn un deml fawr i Dduw a'r Oen. Ië, y mae'r ffordd i ni yn agored i'r cysegr sancteiddiolaf; mae'r wahanlen wedi ei rhwygo, fel, i lygad ffydd fod yr holl deml yn rhyw un ystafell helaethfawr, agored, heb ddim yn ein gwarafun i edrych ar brydferthwch yr Arglwydd, a nesau yn hyderus ato ar y drugareddfa.

Dyma nodwedd arbenig y breswylfa ddwyfol, "ei deml sanctaidd." Yn ol iaith y Beibl, mae yr hyn oll sydd yn gysylltiedig â Duw a'i wasanaeth yn sanctaidd ar gyfrif eu bod yn neillduedig i'r Arglwydd. "Ei le sanctaidd ef," oedd y deml gynt, y man a ddewisodd Duw Israel i gyfarfod â'i bobl ac i dderbyn eu gwarogaeth. Yr oedd y deml ddaearol yn hynyma yn gysgod o'r deml nefol. Yno y mae cartref sancteiddrwydd ; nid sancteiddrwydd seremoniol a defodol, ond "gwir sancteiddrwydd;" uniondeb a phurdeb perffaith yw y cwbl a berthyn iddi, heb ynddi unpeth na neb ansanctaidd. Rhaid i ninau ar y ddaear, wrth gyfeirio ein gwasanaeth at Dduw yn y nefoedd, ymsancteiddio, "ymlanhau oddiwrth bob halogrwydd, cnawd ac ysbryd," ac onide ni a fyddwn anghymeradwy.

Gallwn weled yma fod a fyno Duw o'i deml nefol â'r ddaear hon. "Yr Arglwydd sydd yn ei deml sanctaidd," uwchlaw y ddaear, yn perchenogi y ddaear, ei sylw yn uniongyrchol ar y ddaear, ei feddyliau yn feddyliau o heddwch am y ddaear, a chyngor ei ewyllys yn cyraedd at holl amgylchiadau y ddaear. Gan hyny, "y ddaear oll," y ddaear hyd dy holl gyrau, y ddaear yn dy holl drigolion fel un dyn, gostega di ger ei fron ef. Yn ei deml efe a dderbyn addoliad genyt; gostega, a moes iddo ogoniant ei enw. Yn ei deml efe a lefara wrthyt; gostega, a gwrandaw beth a ddywed yr Arglwydd Dduw. O'i deml efe a wna â thi yr hyn a fyddo da yn ei olwg; gostega, ac na ddywed ddim yn ynfyd yn erbyn ei drefniadau. Ni a safwn bellach ar y pethau hyn, mewn ffordd o ymhelaethiad cymhwysiadol ar dystiolaeth ac anogaeth y testyn.

Dyna ein sylw cyntaf: Yr Arglwydd sydd yn ei deml sanctaidd yn wrthddrych addoliad; y ddaear oll, gostega i roddi yr addoliad dyledus iddo.

Mae'r gair "teml" yn cyfeirio ein meddwl at addoliad, at wasanaeth crefyddol. Duw yn ei deml sydd Dduw i'w addoli. Mae'r ddaear oll, dynion yn gyffredinol, a dynion yn unedig, i addoli Duw. Ac er mwyn ei addoli yn deilwng, "y ddaear oll, gostega." Arafa, llonydda, ymryddha oddiwrth bob peth sy'n anhwyluso addoli, tyngheda ddystawrwydd ar bob dadwrdd, addola mewn gwylder a pharchedig ofn; Gostega di ger ei fron ef." Dylai pob tawelwch a gweddeidd-dra allanol fod yn addoliad y Goruchaf. Dylai pawb wneyd egni i ddyfod i dŷ yr Arglwydd yn brydlawn, erbyn ac nid ar ol awr dechreu yr addoliad, fel y caffer pob gosteg i ddarllen a gwrando gair Duw, ac i gyd-weddio arno; ac fe ddylai fod pob ystûm ar y corff, pob agwedd ac ymddygiad, tra yn y cysegr, yn wasanaethgar i ysbryd addoli, ac yn arwyddol o wir barchedigaeth addolgar. Ond fe all yr agwedd allanol fod yn weddaidd, ac eto, anrhefn a therfysg mewn rhwysg oddi fewn : y meddwl a'r galon yn mhell o fod wedi gostegu gerbron Duw. Mae'r dyn o ran ei gorff yn yr addoldy, yn eistedd yn ddystaw, ond ei ysbryd yn nghyrau'r byd, mae'n ffair wyllt gyda chuddiedig ddyn ei galon, ac y mae yn nghyfrif y nefoedd yn gwneyd tŷ Dduw yn dy marchnad. Dyna fel yr oedd rhai o wrandawyr Ezeciel: yr oeddynt yn eistedd o flaen y prophwyd, yn ymddangos yn gwrando arno, gan ymhyfrydu yn ei ddawn, ond, medd Duw, "Eu calon sydd yn myned ar ol cybydd—dod." Yr oedd Duw yn cael y glust, ond y byd yn cael y galon. O, am i ni allu dweyd yn onest gyda'r Salmydd duwiol, “Meddyliau ofer a gascais, a'th gyfraith di a hoffais." Yr oedd Abraham, pan yr oedd yr adar yn disgyn ar gelaneddau yr ebyrth yn eu tarfu hwynt. Gwnawn ninau felly â'r meddyliau gwibiog fydd yn aflonyddu arnom yn ein haddoliadau. Na foed ini adael i'r adar ysglyfaethus ddifrodi ein haberthau ysbrydol, ond ymrown i'w hymlid hwynt ymaith. Anfonwn waedd i'r nefoedd, "Una fy nghalon i ofni dy enw." Yr hwn a ostega'r gwynt a'r môr cynddeiriog, gall efe dawelu'r galon fwyaf gynhyrfus. Rhyw adegau hyfryd i Gristion yw'r munydau y byddo wrth fyfyrio, wrth weddio, wrth ddarllen, wrth ganu, wrth wrando, wrth gymuno, yn teimlo ysbryd addoli yn gorchfygu ysbryd y byd ac yn peri gosteg sanctaidd drwy ei holl enaid. Mae hyn yn debyg i oruchafiaeth llanw'r môr, pan fyddo yn dyfod am rai milldiroedd i fyny yr afon. Mae'r afon yn rhedeg yn ei erbyn, a gallech feddwl ar y dechreu y troai hi'r llanw yn ol; a dyna gryn luchio, ymdaflu, ac ymgynhyrfu ar y dyfroedd. Ond y mae'r llanw yn mynu dyfod rhagddo, fel yn dweyd yn hyf-Mae yn rhaid i mi orchfygu, mae'r môr genyf wrth gefn. Toc, bydd yn ben llanw, ac yna ni welir ond rhyw un sheet lydan o ddyfroedd tawel, heb fwrlwm na chrychiad yn unlle, yn edrych âg wyneb agored tua'r wybren, ac yn rhoi adlewyrchiad hyfryd o haul y nefoedd, a dyfroedd yr afon bellach o'r un lliw a blâs a dŵr y môr. A gawn ni, frodyr, gyd-weddio mewn taerineb, O, Ysbryd y Duw byw, dyro yr awrhon, o'r mor o ras sydd ynot, lanw o ysbryd addoli i feddianu ein heneidiau, fel y gosteger ynom bob cynhyrfiadau allanol a daearol, ac y byddo tangnefedd Duw yn cadw'r meddwl a'r galon yn Nghrist Iesu!

"O, na ddeuai nerth i waered
Fel llifeiriant mawr ei rym,
Fel nad allo 'm nwydau penaf
Mwyach ei wrthsefyll ddim.

Dyma sylw arall: Yr Arglwydd sydd yn ei deml sanctaidd yn hysbysu ei feddwl a'i ewyllys; y ddaear oll, gostega i wrando a derbyn ei eiriau.

Hwyrach y dywedir fod y sylw hwn heb nemawr wahaniaeth rhyngddo o ran syniad a'r sylw blaenorol. Mae addoli, mae yn wir, mewn gwrando, ac y mae iawn wrando yn addoli. Ond fe ddichon y gallwn ni, wrth roddi ein gosodiad hwn fel hyn, gyflwyno rhai meddyliau chwanegol, os nad gwahaniaethol, yn nglyn a'r testyn.

Yr oedd Duw yn ei babell, ac yn y deml, yn gwneyd ei feddwl yn hysbys i'r Israel, "Mi a gyfarfyddaf â thi yno," medd efe, "ac a lefaraf wrthyt oddiar y drugareddfa." Ac felly ni a gawn y Salmydd yn deisyfu aros yn nhŷ yr Arglwydd, er mwyn "ymofyn yn ei deml," er mwyn cwestiyna, ymholi, gofyn cyfarwyddyd am y pethau mwyaf oll; canys yr oedd yr ateb Dwyfol i'w ddysgwyl yno yn arbenig, ac yn enwedig trwy yr Urim a'r Thummin. Y mae Duw eto yn llefaru yn y dyddiau diweddaf hyn, a hyny yn y modd pwysicaf a'r egluraf; mae yn llefaru wrthym ni yn ei Fab, a phriodol ydyw dweyd yn awr gyda'r prophwyd gynt, “O ddaear, ddaear, ddaear, gwrando air yr Arglwydd." Y ddaear oll, pob dyn yn mhob man-ti yr hen a thithau yr ieuanc, tydi o radd uchel a thithau o radd isel, ti broffeswr a thydi'r dibroffes, gostega, a gwrando beth yw'r gair sydd yn dyfod oddiwrth yr Arglwydd. Pan fydd y barnwr yn llefaru yn llys barn, yn enwedig pan yn cyhoeddi'r ddedfryd ar y carcharor a saif o'i flaen, bydd yno bob dystawrwydd yn cael ei orchymyn. Gosteg, gosteg! medd swyddog penodol, fel y clywer fy arglwydd farnwr. A wyt ti yn ystyried, fy enaid, dy fod yn awr yn nhŷ Dduw, mewn lle ofnadwy, ac y byddai yn wallgofrwydd i ti yma adael i ddim ddwyn dy feddwl oddiarnat? Gostega, nid i wrando yn gywreingar faterion rhai eraill, ond i glywed dy sentence dragwyddol di dy hun. A wyt ti eto heb gredu yn Nghrist? Os felly, dyma ddedfryd Duw, Barnwr pawb, arnat yr awr hon : " Yr hwn nid yw yn credu, a ddamniwyd eisoes. Yr hwn sydd heb gredu i'r Mab, ni wêl fywyd, eithr y mae digofaint Duw yn aros arno ef." Neu, o'r tu arall, os wyt yn ymdaflu yn golledig fel yr wyt ar haeddiant yr Hwn mewn pryd a fu farw dros yr annuwiol am dy fywyd byth, wele farn o ryddhad y nefoedd yn cael ei chyhoeddi uwch dy ben: "Yr hwn sydd yn credu ynddo ef, ni ddemnir. Nid oes, gan hyny, yn awr ddim damnedigaeth i'r rhai sydd yn Nghrist Iesu." Neu, os nad oes yn y fynwes eto ond rhyw bryder am fod yn gadwedig, dechre sefyll yn ddifrifol uwch ben mater enaid, rhywbeth yn peri i ti waeddi, O am fod yn barod i gyfarfod â Duw! Mae yr Arglwydd a'r deml sanctaidd yn dy gyfeirio rhag blaen at obaith iachawdwriaeth: "Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist a chadwedig fyddi." "Nid oes iachawdwriaeth yn neb arall." Duw y duwiau, sef yr Arglwydd, a lefara fel hyn, "Y ddaear oll, gostega di ger ei fron ef." Pawb sydd yn gwybod oddi ar brofiad fod geiriau Crist yr hyn y dywed ef ei hunan eu bod, "Ysbryd ydynt a bywyd ydynt,"—mae yn flin ganddynt hwy os bydd rhywbeth yn eu rhwystro i ymlynu wrth ei draed, i dderbyn ei eiriau; a hwy a fynent roi charge dystawrwydd ar bob twrf a dwndwr—

O dystewch derfysglyd donau,
Tra fwy'n gwrando llais y nef;
Swn mwy hoff, a sain mwy hyfryd
Glywir yn ei eiriau Ef,
F'enaid gwrando,
Lais tangnefedd pur a hedd."

Bendith nas gellir ei phrisio yw fod y galon yn nghysegr Duw yn arafu a gostegu oddiar barch i awdurdod ddwyfol y gwirionedd. Fe dybygid fod llawer o honom ni, genedl y Cymry, yn dysgwyl yn awchus mewn odfeuon fel hyn am gynhyrfiad teimlad, rhywbeth i ogleisio eu serchiadau a'u tymherau, rhywbeth a wnelo iddynt wenu neu wylo; ac fe glywir rhyw bobl yn achwyn ar bregeth neu gyfarfod crefyddol lle na chynyrchir ynddynt gyfryw gynhyrfiad. Yn wir, mae yn werthfawr cael ambell oedfa fydd yn twymno calon, nes peri i'r hen eiriau anwyl a glywsom gan ein tadau—yr O diolch, a'r Gogoniant, a'r Amen—lithro dros y wefus. Ond rhaid i ni gydnabod y gellir cael boddhad a chynhyrfiad fel hyn, nid oddiar weled gogoniant a theimlo rhinwedd yr efengyl ynddi ei hun, ond oddiar fawrygu rhyw drimmings ar y wisg fydd arni ar y pryd. Ond, fy nghyfeillion, os byddwch dan y bregeth yn derbyn eglurhad ar y gwirionedd, ac yn teimlo cymhelliad cydwybod i sanctaidd ymarweddiad a duwioldeb, cyfrifwch i chwi dderbyn bendith, serch i chwi fod ar y pryd heb dderbyn cynhyrfiad tymer. Nid oes dim diolch i chwi wrando yn fywiog ar adegau cynhyrfiol, mae yna ryw ruthr gorthrechol yn gorfodi sylw; ond y gamp ydyw, fod gair yr Arglwydd yn ei werth syml ei hun yn llwyddo i beri gosteg i wrando yn astud arno. Ië, gellid meddwl fod y neb sydd yn ymlonyddu enaid a chorff, mewn astudrwydd dystaw, dwys, dyfalbarhaol, wrth wrando yr efengyl, yn dangos mwy o fawredd deall, a mwy o fawredd crefydd, na'r un tymherog, trystiog, a gylch-arweinid gan bob awel cynhyrfiad. Mae'r nant fechan sy'n rhedeg i lawr o'r mynydd yn cadw twrf mawr pan yn llifo ar ol gwlaw, fel yn gwaeddi ar bawb a elo heibio, “Y fi, y fi sydd wedi cael fy llanw â dyfroedd!" Ond am yr afon ddofn sy'n myned ar hyd y gwastadedd, yr hon yn hawdd a allai lanw cant a mwy o'r fath nentydd, mae hi yn rhedeg yn ddystaw, yn cario dyfroedd lawer, heb wneyd ond ychydig swn. Agwedd ddymunol ydyw honno a gymhellid gan Elihu ar Job: "Gwrando hyn, Job, saf ac ystyria ryfeddodau Duw." Fy nghyfeillion, yn nhy yr Arglwydd, gwrandewch, sefwch, ystyriwch, ac felly nid ä lleferydd Duw wrthych yn ofer.

Heblaw gostegu i wrando, cynwysa hyn hefyd ostegu i dderbyn trwy addfwynder yr hyn a wrandewir. Gostega ac na wrthddadleua. Sut na buasai'r Beibl yn dweyd ychwaneg am y peth yma, a phaham na buasai yn esbonio'r peth acw? Pa beth, O ddyn? Nid oes genyt fwy o hawl, na mwy o fedr, i wella geiriau Duw yn y Beibl, nag sydd genyt i wella gweithredoedd Duw yn y greadigaeth; gostega di ger ei fron ef. Nid er mwyn ateb cwestiynau cywreingar oddiwrthym y gwelodd Duw yn dda godi cynteddau daearol i'w deml nefol, ond y mae efe yn rasol wedi gofalu am roddi ini ddigon o bethau amlwg tuag at hwylio ein ffordd yn ddyogel "o ganol byd i ganol nef;" ac os cawn ein hunain wedi myn'd i'r lle sanctaidd a gwynfydedig uchod, ni a gawn dragwyddoldeb i astudio dirgeledigaethau sydd yn awr yn nghudd oddiwrthym. Nage, medd y pryfyn balch sydd, yn lle cymeryd y gyfraith o enau yr Arglwydd, yn demandio rheswm paham hynyma a phaham hyn arall. Paham y goddefodd Duw i bechod a thrueni ddyfod i'r byd? paham y mynodd efe arfaethu ac ethol i wneuthur rhagor rhwng rhai ac eraill? paham na ddyry efe ras cadwedigol i bawb yn ddiwahaniaeth? yn nghyda lluaws o pahamau eraill. Na, druan! "Yn hytrach, O ddyn, pwy wyt ti, yr hwn a ddadleua yn erbyn Duw?" Ië, yn wir, pwy wyt ti? Prin, feallai, y cyrhaeddaist ti yr oedran o driugain mlynedd, neu feallai nad wyt wedi cyraedd haner cant, neu hwyrach nad wyt ti, y gwrthddadleuwr ffraeth, wedi gweled deng mlynedd ar hugain eto. Nid yw ond megys doe pan oeddit yn sugno bronau dy fam, yn beth distadl a dwl iawn; ni wyddit y buasai canwyll yn llosgi dy fys pe rhoisit ef ynddi; nid allesit na cherdded, na sefyll, na chropian, a thrwy fawr drafferth y dysgaist y naill a'r llall, a gorchest fawr yn ngolwg rhieni hoff oedd i ti fedru lispio haner geiriau. Ac yn wir nid wyt eto ond yn rhyw ddechre adwaen pethau o'th amgylch, ac y mae hyny o wybodaeth sydd genyt yn gymysg a llawer iawn o gamgymeriadau. Ac ai tydi sy'n meiddio eistedd mewn barn ar eiriau a gweithredoedd dy Wneuthurwr, y Duw unig ddoeth, yr hwn sydd o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb? Dystawa, rhag cywilydd! gostega di ger ei fron ef. O am i ni oll fod yn debyg i'r Athraw mawr, yn addfwyn a gostyngedig o galon, canys "Y rhai llariaidd a hyfforddia efe mewn barn, a'i ffordd a ddysg efe i'r rhai gostyngedig."

Dyma ein sylw olaf: Yr Arglwydd sydd yn ei deml sanctaidd, oddiyno yn llywodraethu ar bob peth; y ddaear oll, gostega di mewn ymostyngiad hollol iddo.

Darlunir y Jehofah mewn cysylltiad â'r arwydd dwyfol o'i bresenoldeb yn y deml yn eistedd fel Brenin ar ei orseddfainc. "Gorsedd ogoneddus ddyrchafedig o'r dechreuad yw lle ein cysegr ni," medd Jeremiah. Yno yr oedd efe fel Brenin Israel, yn rhoi allan ei broclamations brenhinol, a hyny nid mewn cysylltiad ag Israel yn unig, ond a'r holl genhedloedd oddiamgylch, oherwydd yr oedd llawer o'r cenhedloedd hyny yn elynion Israel, a rhai o honynt weithiau yn gynghreirwyr iddynt, fel y mae'r byd eto yn ei wahanol agweddau at yr eglwys. Wel, y mae'r frenhiniaeth ddwyfol a geid yn arwyddluniol yn nheml Jerusalem gynt i'w chael yn barhaus yn y modd mwyaf sylweddol a thrwyadl yn y deml sanctaidd uchod. "Yr Arglwydd a baratodd ei orseddfa yn y nefoedd;" yno, nid yn unig fel llys, ond fel teml; ac yno, "ei frenhiniaeth ef sydd yn llywodraethu ar bob peth." Yn llyfr y Dadguddiad, diweddglo yr holl Feibl, yn nheml Dduw yn y nef, a chydag arch ei gyfamod ef, yr ydym yn cael gorseddfainc Duw a'r Oen; ac oddiyno y darlunir y saith angel, y naill ar ol y llall, yn dyfod i gyflawni eu dirprwyaethau pwysig ar y ddaear. Rhyfedd byth! mae gorseddfa Arglwydd pawb oll o dan yr un gronglwyd, yn yr un ystafell, â swyddfa Cyfryngwr y Testament Newydd. Yn y deml gysegredig i orchwylion gras, y gras sy'n gweithio trwy'r prynedigaeth yn Nghrist Iesu, oddiar y drugareddfa sydd wedi ei thaenellu â gwaed yr Oen, yno y trinir holl achosion y llywodraeth oruchel sy'n cymeryd i fewn holl dalaethau creadigaeth Duw. Mae pawb, yn sanctaidd ac yn ansanctaidd, pob angel, pob cythraul, pob dyn, o dan ei lywodraeth ef, y Gwr a welwyd gynt mewn agwedd gwas, yn ufudd hyd angau, ïe, angau'r groes, gan y rhaid iddynt oll fod yn wasanaethgar i ddwyn yn mlaen amcanion yr angau rhyfedd hwnw. O'r deml y daw yr holl gyfraniadau grasol, ac allan o honi hefyd y daw yr holl oruchwyliaethau barnol.

Gan mai yn ei deml, sanctaidd y mae gorsedd Brenin mawr yr holl ddaear, cymwys yw'r siars hon, "Y ddaear oll, gostega di ger ei fron ef." Yn man trugaredd y llawnodwyd comisiwn yr angel sydd yn tywallt phiolau digofaint ar y ddaear yn gystal a'r angel sydd a'r efengyl dragwyddol ganddo. A chan mai o'r deml y daw'r farn yn gystal a'r fendith, nid oes le i ddweyd gair yn erbyn. Tybygem nad oes un Cristion na fawr ddymunai weled golygfeydd hyfryd llwyddiant cyffredinol efengyl Crist, pan fydd yr holl ddaear, fel y cysegr gynt, wedi myned yn llawn o ogoniant yr Arglwydd. Ond, o bosibl, rhaid i lawer o honoch chwi sydd yma heddyw ymbarotoi i weled pethau ofnadwy yn gyntaf, fel y darlunir yn ngweledigaeth Patmos,— lleisiau, a thân, a mellt, a daeargryn, a chenllysg mawr fel talentau, y fath na bu er pan yw dynion ar y ddaear. Ond os felly y bydd, gellwch fod yn sicr mai gwaith Angel y Cyfamod fydd hyny; efe, mewn atebiad i weddiau 'r saint, wedi llanw 'r thuser aur â thân yr allor, yn ei fwrw ar y ddaear. Gostega ger ei fron ef, gan ofalu myned yn brydlawn i'r ystafelloedd clyd a ddarparodd efe; yno i lechu megys enyd bach, hyd onid elo'r llid heibio.

Os bydd raid i ni ddyoddef adfydau personol a theuluaidd, gwybyddwn mai Duw'r deml, Duw yr heddwch a'r gras, sydd yn eu hanfon; a phan dan lwythau o drallodion, yn lle gwneyd dim tebyg i ymryson â'r Hollalluog, gostegwn ger ei fron ef. Os na wyddom paham y dygwyddodd hyn neu arall, ni a wyddom pwy sy'n goruwchreoli yr oll. Oddiar hyn yr oedd Dafydd yn gostegu pan mewn nychdod corff a blinder meddwl, "Aethum yn fud, ac nid agorais fy ngenau, canys ti a wnaethost hyn." Ti, Arglwydd, a wnei yr hyn a fyni, ac ni fyni di ond yr hyn sydd oreu. Dyma fel yr wyf fi yn cwyno cymaint, medd rhywun, yr wyf yn methu gweled a dirnad amcan yr oruchwyliaeth chwerw a gyfarfu â mi. Gostega, ynte, nes y gwelych. Cymer wers oddiwrth greaduriaid direswm o'th amgylch. Dyna'r bytheuaid, y cwn hela; wedi colli'r trywydd, nid ydynt y pryd hwnw yn cyfarth dim; maent yn ddystaw iawn nes y caffont eu hunain ar y scent. Gostega dithau gerbron Duw yn nos adfyd, a phan y cyfyd goleuni arnat, mae yn ddiddadl mai diolch ac nid grwgnach a wrei. Han gymerwyd ymaith yr asen a'r ebol gan ddau ddysgybl at wasanaeth Iesu Grist, ar ei fynediad y tro olaf i Jerusalem, esboniad boddlonol am y rhyddid a gymerent oedd hwnw gan y perchenogion, "Y mae yn rhaid i'r Arglwydd wrthynt." Dylai hyn fod yn ddigon i'th ostegu dithau, fy nghyfaill, os geilw'r Goruchaf am dy blentyn, neu am dy briod, neu am dy dipyn cyfoeth, neu am dy iechyd, neu am dy fywyd, ymaith,—"Y mae rhaid i'r Arglwydd wrtho." Gras y nef a'n dygo yn nydd blinder i ddystewi yn yr Arglwydd, ac i ddysgwyl wrtho.

Fel cymhwysiad argyhoeddiadol wrth derfynu, gallwn nodi fod yma rywbeth yn nglyn a'r mater diweddaf hwn sydd yn edrych yn ddu iawn ar achos pechadur anedifeiriol, yn toi diwedd yr annuwiol â thywyllwch anobaith. "Yr Arglwydd sydd yn ei deml sanctaidd;" ar ei orsedd yno yn rhoi ei law a'i sel ar weinidogaethau bywyd ac angau. Mae death warrant yr enaid colledig, gan hyny,—yr awdurdodiad fydd yn ei drosglwyddo o'r byd hwn i ddiafol ac uffern,— yn dyfod allan o deml sanctaidd Duw. Mor alaethus fydd hyn! dedfryd marwolaeth dragwyddol yn dyfod o gartref bywyd tragwyddol! y pechadur yn cael ei golli gan yr unig Benaeth a allasai ei gadw. O! y galar, y gruddfan, a'r gwae, fydd yn meddianu y truan esgeulus, pan wedi loetran yn ddiofal trwy'r dydd, y daw yn yr hwyr at unig station gras, ac y caiff fod y train olaf ar ffordd y bywyd iddo ef wedi myned ymaith! Yr enaid euog wedi mwrddro argyhoeddiadau cydwybod ar hyd ei oes, yn rhyw ddysgwyl pardwn yn y diwedd trwy yr Arglwydd a'r Achubwr Iesu Grist, ond yn awr ei ing yn cael yr Iesu,—yn lle bod yn Eiriolwr i waeddi, Arbed,—yn troi yn Ddialydd y Gwaed, ac yn gorchymyn gydag awdurdod Hollalluog, Ymaith a thi i dân tragwyddol; ni'th wared iawn mawr! Ah! fe fydd y cryfaf ei galon o'r cedyrn y pryd hwn yn gorfod gostegu ger ei fron ef. Pan ofynir i'r orseddfainc, Enaid, pa fodd y daethost ti yma o wlad efengyl y tangnefedd yn wrthryfelwr yn erbyn Duw yr heddwch? ni bydd un ateb i'w roi. "Yntau a aeth yn fud." Diolch i Dduw nad ydyw heddyw yn rhy ddiweddar i ni geisio maddeuant o'i deml sanctaidd; ac ond i ni yn ein dydd hwn gael pardwn oddiyno, bydd hwnw i ni yn dragwyddol ryddhad. O fy enaid, tra mae'r Brenin mawr oddiar orseddfainc y gras yn cyfarfod â phechadur, dos, heb oedi dim yn hwy, ymgryma o flaen ei faincdroed ef; ac yn ngwyneb grym dy euogrwydd, dadleua haeddiant yr Hwn a osododd Duw yn Iawn; yn y modd yma yn ddioedi "Ymarfer, atolwg, âg ef, a bydd heddychlawn; o hyn y daw i ti ddaioni."

ROGER EDWARDS.

Gweinidog Duw! ein hoff weinidog pur!
Er it' ein gadael, d' ysbryd sydd o hyd
Yn myn'd a dyfod efo'm yn y byd
I'n cyfarwyddo ac i leddfu'n cur!

Ac er fod "atal" arnat—d'wedaist fwy
Na nemor un am Dduw, am Grist a'i ras;
A miloedd, drwot ti, brofasant flas
Y Feddyginiaeth oedd i wella'u clwy'.

Hoenus dy ysbryd, bywiog, tanbaid dwym,
Wrth natur oeddit ti: a'r Ysbryd Glân
Bentyrodd friw-wydd sanctaidd ar dy dân,
Ac a'i cysegrodd iddo'i hun yn rhwym!

Chwith yw bod heb y gwenau siriol, mad
Ac heb y weddi dynai'r nef i lawr;
Ac heb y cynghor—heb y dagrau mawr !
Ac heb y Cyfaill pur! y Brawd! y Tad!


——DANIEL OWEN.


Y Parch. John Hughes, D.D.


𝔜 𝔓𝔞𝔯𝔠𝔥. 𝔍𝔬𝔥𝔫 ℌ𝔲𝔤𝔥𝔢𝔰, 𝔇.𝔇.

FEL PREGETHWR.
Gan y Parch. John Owen Jones, B.A., Y Bala.

NID oes neb wedi ysgrifenu am y diweddar Ddr. Hughes nad ydyw yn mhlith pethau eraill wedi crybwyll am ei arabedd. Ac yr oedd efe yn ddiddadl yn feddianol ar wir arabedd. Nid gwawdiaith ydym yn ei olygu. Yr oedd efe 'n feistr ar wawdiaith ; gallai ddweyd pethau, os byddai 'n argyhoeddedig mai'r ffordd hono y gwnai fwyaf o ddaioni, a dynai waed. Ond y mae gwahaniaeth rhwng arabedd a gwawdiaith. Gall y naill a'r llall fod yn ddigrifol ; ond rhaid i'r cyntaf fod felly, dichon y llall beidio bod. Nid yw pob dyn sarcastic yn humorous, ond anfynych y ceir dyn gwir humorous heb feddu 'r gallu i fod yn sarcastic hefyd. Y mae ambell un wrth geisio bod yn ddigrifol, yn ysgafn a chwareus, wrth geisio dangos ei fod yn feddianol ar arabedd, yn ddieithriad yn clwyfo; y mae ei arabedd yn troi yn wawdiaith frathog. Nid felly Dr. Hughes. Gallai ef fod yn wir ddigrifol heb glwyfo neb, a gallai ddefnyddio 'r wawdiaith lemaf heb ddigio 'n anghymodlawn y sawl fyddai dan y wialen. I bawb fu'n gwylio tipyn ar ei symudiadau yn y Cymdeithasfaoedd a'r Cyfarfodydd Misol, a chylchoedd eraill, mae 'n amlwg mai nid anfynych y byddai ei ddigrifwch yn bygwth troi 'n brofedigaeth iddo. Os byddai rhywbeth mwy digrifol na'i gilydd mewn rhyw anerchiad neu amgylchiad neu gynllun, byddai Dr. Hughes yn sicr o'i weled, ac odid fawr na lwyddai i'w osod allan mewn rhyw ymadrodd byr, cynwysfawr. Ond yn ei bregethau llwyddai i gadw'r arabedd hwn dan reolaeth, gan ei ddefnyddio weithiau i amcanion gwir ragorol.

Nis gallai neb wrandaw ar Dr. Hughes yn pregethu heb deimlo ei fod efe yn gwbl feistr ar yr iaith Gymraeg. Byddai ei eiriau bob amser yn bur, yn gryf, ac yn ddetholedig, a'i frawddegau 'n gaboledig dros ben; a llawer gwaith y clywsom ef yn rhoi pwys ar i bregethwyr ieuainc ddysgu Cymraeg, myn'd i mewn i drysorau 'r iaith, ac nid ei llurgunio neu ymfoddloni ar ryw "Gymraeg llaprog, plwyfol," pan yn ceisio traethu gwirioneddau mawr yr efengyl. Credai ef y dylai 'r pregethwr gysegru pob gallu a mantais a fedd i wasanaethu 'r efengyl, ac ymdrechai yntau roddi iddi oreu yr iaith Gymraeg. Y mae gan ambell un fwy o feddyliau nag o iaith, ac arall fwy o iaith nag o feddyliau, ond llwyddai Dr. Hughes i osod allan y meddyliau mwyaf yn yr iaith odidocaf. A theimlid hyny'n arbenig pan y byddai'n gwahaniaethu rhwng geiriau a'u gilydd, fel y clywsom ef unwaith yn gwahaniaethu rhwng callineb a doethineb. Gwnai efe hyn yn lled fynych yn ei bregethau; ond nid er mwyn gwahaniaethu neu wneyd arddangosiad o'i allu i ddadansoddi, ond er mwyn drwy hyny ddwyn gwirioneddau pwysig i'r amlwg. Mynych y llwyddai, drwy'r dull hwn, i ddinystrio llawer o gau syniadau, i ddangos prif elfenau rhyw wirionedd fyddai ganddo dan sylw, ac yna i'w cyfuno gan eu dwyn i egluro 'i brif bwnc: a thrwy hyny clevo deall ac yn aml gyraedd calon y gwrandawyr.

Deuai yr un manylrwydd i'r golwg mewn nodwedd arall a welid mewn llawer o'i bregethau. Os mai Lightfoot a Meyer oedd ei hoff esbonwyr, teimlem yn wastad, wrth geisio 'i ddilyn yn troi a throsi o gwmpas ei destyn, gan egluro 'r cysylltiadau a dangos perthynas y gwahanol ranau a'u gilydd ac â phrif wirionedd y benod neu 'r llyfr, y byddai pob esboniad llyfr wedi ei lyncu i fyny yn y syniad clir a fyddai ganddo ef ei hun. Nid oedd efe, mae'n wir, wedi myn'd yn ddwfn, yn ol ei gyfaddefiad ei hun, i feusydd yr Uwchfeirniadaeth; parotoi yr ydoedd, yn ei ddyddiau olaf, i wneyd ymosodiad ar y maes hwnw. Er hyny, gorfodid pawb i deimlo fod yn ei esboniadaeth ef ar lawer adnod ryw newydd-deb a manylrwydd neillduol. "O holl alluoedd ei feddwl," ebe rhywun am dano, "hwyrach nad oedd yr un yn fwy nodweddiadol na'r gallu oedd ganddo i ddihysbyddu cynwysiad y llyfr a ddarllenai, ac i droi ei sylwedd i fod yn rhan o sylwedd ei ysbryd ef ei hun." A gellir dweyd hefyd am'dano 'n esbonio llawer rhan o'r Ysgrythyr yn ei bregethau, y llwyddai i gael gafael sicr ar swm a sylwedd cenadwri Duw ynddynt, nes peri i ni deimlo mai nid mater o ddeall yn unig a fyddai ei eglurhad arnynt, ond rhywbeth ag y byddai ei brofiad a'i ysbryd ef ei hun yn ei gadarnhau.

Ac y mae hyn yn peri i ni feddwl am beth arall a welid yn amlwg yn Dr. Hughes fel pregethwr. Yn ei bregethau ef ceid cyfuniad o feddyliau dyfnion a theimlad tanllyd. Nid rhyfedd ei fod yn feddianol ar gyflawnder o feddyliau, oherwydd astudiai'n fanwl bobpeth goreu llenyddiaeth Lloegr a Germani mewn athroniaeth a duwinyddiaeth. "Gyda golwg ar gwestiynau duwinyddol y dydd, ebe un a'i hadwaenai 'n dda, "yn holl amrywiaeth eu hagweddion, nid oedd braidd lyfr yn ymddangos drwy 'r wasg-llyfrau yn dal perthynas â'r Bod o Dduw, yr adnabyddiaeth o hono, âg Ysbrydoliaeth yr Ysgrythyrau, â'r Goruwchnaturiol, ar Berson y Gwaredwr, ar Ddadblygiad yr Athrawiaeth Gristionogol, a'r cyffelyb-nad ydoedd yn eu hefrydu yn fanwl, ac yn dihysbyddu yn llwyr eu cynwysiad." Nis gall dyn fyddo wedi ymdrechu 'n deg i ddeall Butler, Mansel, Mill, Hamilton, Martensen, Reuss, Dorner, ac eraill o'r un nodwedd, fod yn dlawd mewn meddyliau, yn enwedig pan gofiwn yr ychwanegai at efrydiaeth o bynciau athroniaeth a duwinyddiaeth efrydiaeth o hanes athroniaeth a hanes yr Eglwys a'i duwinyddiaeth. Ond heblaw hyn, amlwg yw yr yfai efe gynwys y fath lyfrau a Krummacher's "The Suffering Saviour," Edwards ar "Serchiadau Crefyddol;" ac nis gall ymwneyd llawer â llyfrau o'r fath ond puro, dwyseiddio, a gwresogi 'r teimlad. Pur anfynych y gellir dweyd y byddai Dr. Hughes, wrth bregethu, "yn sych," oherwydd nid meddyliau mewn un rhan o'r bregeth, a theimlad mewn rhan arall, a fyddai ganddo. Gwir mai pan yn cymhwyso'r gwirionedd at gydwybodau a chalonau 'r gwrandawyr y ceid ganddo yr ehediadau mwyaf barddonol a'r desgrifiadau mwyaf byw; ond byddai'n amlwg y teimlai efe ar hyd y bregeth mai'r gwirionedd a fyddai ganddo, ac y byddai'r gwirionedd hwnw ac yntau 'n un. Nid casglu defnyddiau tân y byddai efe am un rhan o'r bregeth, ac yna cyneu 'r tân ; byddai'r tân yn ei enaid ef ei hun o'r dechreu i'r diwedd, oherwydd byddai 'r gwirionedd ei hun yno.

"Nid wyf yn credu," ebe Dr. Owen Thomas am Dr. Hughes, "fod ei lwyddiant fel pregethwr i'w briodoli i lais soniarus, yr hyn sydd wir am rai; ond nid hyn sydd yn peri fod dynion yn awyddus am ei glywed ef. Nid wyf yn dweyd nad oes ganddo lais a fuasai yn swyno y cynulleidfaoedd pe buasai yn gwneyd defnydd o hono; ond nid llais yw ei hynodrwydd ef. Nid mewn adrodd ystraeon ychwaith y mae cuddiad ei gryfder. Nid wyf am fychanu ei allu i wneyd defnydd da o stori, ond nid trwy hyny y mae efe wedi enill ei boblogrwydd." Dyma, yn ol Dr. Thomas, brif nodweddion Dr. Hughes fel pregethwr, —"Ei allu i roddi eglurhad goleu a llawn ar wirioneddau gogoneddus yr efengyl; yr olwg eang a gymer ar y gwirionedd yn ei wahanol gysylltiadau ac oddiar wahanol safleoedd; ei degwch yn ei ymwneyd â syniadau gwahanol i'r rhai a gymeradwya ef ei hunan; yr ymwybodolrwydd cryf a fedd yn y gwirionedd, yr hyn sydd yn peri iddo fod yn hollol hunanfeddianol a diysgog yn nhraethiad ei genadwri; cyfoeth anhysbyddadwy ei wybodaeth, dirnadaeth eang, cyflawnder o feddyliau, a'r geiriau goreu i'w gosod allan mewn prydferthwch: gofal neillduol am roddi lle a phwysigrwydd i bob gwirionedd yn ol y lle a'r pwysigrwydd sydd iddo yn Ngair Duw; ei barodrwydd bob amser i dderbyn argraff y gwirionedd ar ei feddwl ei hunan; ei fod yn amcanu dangos y cysylltiad sydd rhwng y gwirionedd yn bynciol â moesoldeb, ac yn hyn y mae yn ddysgybl perffaith i'r Apostol Paul."

ADGOFION AM SASIWN DOLGELLAU, 1860.
Gan y Parch. Griffith Ellis, M. A., Bootle
.

Gofynir i mi roddi ychydig o hanes oedfa rytedd Dr. Hughes yn Nolgellau yn 1860; ond nid oeddwn pan yn ei gwrandaw yn llawn 16 oed, ac felly tra bachgenaidd o angenrheidrwydd yw fy argraffiadau. Ond y mae yr adgof am dani yn nodedig o ddedwydd ; ac nid wyf yn tybio y camgymerwn ychwaith pe dywedwn nad yw fy adgof am unrhyw oedfa braidd yn fy oes yn fwy byw nag ydyw am yr oedfa ac am y Gymdeithasfa hono. Buaswn mewn Sassiwn yn Nolgellau yn ngwanwyn 1853, ac mewn un arall yn Machynlleth yn Mehefin, yr un flwyddyn. Ac yr wyf yn cofio rhyw bethau o'r ddwy yn dda. Y cyntaf a glywais yn pregethu yn Sassiwn Dolgellau oedd y Parchedig David Charles, Caerfyrddin. Ar lin fy nhad yr oeddwn yn gwrandaw; a phan yr adroddai y pregethwr y penill, “O fryniau Caersalem ceir gweled," &c., sisialai fy nhad yn fy nghlust inau, " Ei dad o wnaeth y penill yna:" Ond peth mawr y Sassiwn hono i mi oedd gweled Henry Rees. Efe oedd yr agosaf o bawb i Iesu Grist yn syniad fy nhad; ac nis gallai addaw dim mwy i mi, wedi dysgu yr Hyfforddwr, na chael myned i'r Sasiwn i weled Henry Rees." Ac i'w weled hefyd yn hytrach na'i glywed. Ac y mae yr olwg gyntaf a gefais arno yn dod i mewn i gapel Salem mor fyw heddyw yn fy meddwl a dim a ddygwyddodd erioed yn fy hanes. A'i wylio ef yn y pulpud bychan, islaw y pulpud mawr, oedd fy ngwaith yn yr oedfa hono yn hytrach na gwrando ar y pregethau a draddodid.

Clywsom "John Hughes y Borth" hefyd yn pregethu yn Nolgellau yn Mehefin 1856. Cyfarfod Pregethu oedd yno y tro hwnw ; a chyfarfod bythgofiadwy ydoedd. Yr oedd yno bedwar o bregethwyr-John Hughes, Lerpwl; John Jones, Talysarn; Owen Thomas, Llundain; a John Hughes, y Borth. A dyna y tro cyntaf i mi glywed y tri olaf. Pa ryfedd i'r cyfarfod wneyd argraff ddofn ac arosol ar fy meddwl ieuanc? Pregethau nodedig a gafwyd yno gan y pregethwr ieuanc, canys nid oedd Dr. Hughes y pryd hwnw yn llawn 29 mlwydd oed. Ei destynau oeddynt 1 Ioan v. 4, 5, ac Actau xvii. 31.

Y tro cyntaf i mi ei glywed ar ol hyny oedd yn Sassiwn 1860. Yr oedd erbyn hyn wedi symud i Lerpwl er's dwy flynedd o amser, ac yn cael ei alw "John Hughes, Everton," i'w wahaniaethu oddiwrth awdwr "Methodistiaeth Cymru," yr hwn oedd yntau yn byw ar y pryd yn Liverpool. Bu efe farw Awst 8fed, 1860. Sassiwn fawr oedd hono i mi. Buaswn yn bur wael am wythnosau ychydig cyn hyny; ac yr oeddwn mewn llawer o bryder rhag na byddwn yn alluog i fyned iddi. Nid oedd gwres y diwygiad mawr wedi myned heibio yn llwyr, er nad oedd ychwaith yn gyfryw yn Mehefin ag a fuasai o Tachwedd hyd Mawrth. Lle rhyfedd oedd yn Nolgellau yn Nghyfarfod Misol Ionawr, 1860. Un oedfa o hono yn unig a gefais i. Nid oedd meddyg y pryd hwnw i'w gael yn nes i Aberllefeni na Dolgellau neu Fachynlleth; a disgynodd i'm rhan i fyned i Ddolgellau ddiwrnod y Cyfarfod Misol, i ymofyn â meddyg. Ac aethum yno yn foreu er mwyn cael un oedfa. Ac oedfa ryfedd ydoedd. Yn pregethu yr oedd y Parchedig Robert Williams, Aberdyfi, a'r Parchedig Edward Morgan, Dyffryn. Testyn Mr. Williams oedd Psalm ii. 12, Cusenwch y Mab," &c. Torid ar draws y pregethwr yn aml gan floeddiadau o bryder a gorfoledd; a mynych y rhoddai yntau ei ddau benelin ar y Beibl ac y cuddiai ei wyneb yn ei ddwylaw i wylo yn hidl. Testyn Mr. Morgan oedd Zephaniah iii. 17, "Yr Arglwydd dy Dduw yn dy ganol di sydd gadarn," &c. Gwelir y bregeth yn yr Ail Gyfrol o'i Bregethau. Ac yr oedd y dylanwad yn rhyfeddol gyda hi ar yr achlysur hwnw. Bu raid i mi droi tuag adref, er mor anhueddol, cyn oedfa y prydnawn. Y Parchedig Griffith Williams, Talsarnau, oedd un o'r brodyr a bregethai yn yr oedfa hono; ond torodd allan yn orfoledd mawr cyn iddo fyned yn mlaen ond ychydig gyda'i bregeth. "Yr oedd gan Iesu Grist feddwl mawr iawn o'i groes," meddai Mr Williams. "Felly y mae genon ninau," meddai merch ieuanc o'r gynulleidfa; ac ar y gair aeth y lle yn oddaith. Ni chafodd y pregethwr ddweyd yr un gair yn mhellach.

Ond, fel y dywedwyd, nid oedd gwres y diwygiad mor fawr yn y Sassiwn ag ydoedd yn y Cyfarfod Misol; ac eto yr oedd llawer o hono yn aros, a'r rhai mwyaf gwresog o'r eglwysi trwy yr holl wlad oeddynt wedi cyrchu i Ddolgellau yn Mehefin. Y cyfarfod ordeinio oedd y cyfarfod cyntaf i mi ei gael; ac yr oeddwn yn eistedd yn bur agos i'r un lle ag yr oeddwn ynddo yn y Sassiwn saith mlynedd a chwarter cyn hyny. Ond gyda'm mam yr oeddwn y tro hwn; yr oedd fy nhad wedi cael ei alw adref er's agos i ddwy flynedd. Yr oedd fy mam a minau yno yn brydlon, yn edrych ar y pregethwyr a'r blaenoriaid yn dod i mewn. "Dyn," meddai fy mam, "dacw Rhys Jones, y Bermo; welais i mo hono er's llawer blwyddyn ; mae o wedi newid cryn dipyn wedi gadael y Bermo." Ond yr oedd yno rai wynebau adnabyddus; ac un o honynt oedd Joseph Thomas, Carno, yr hwn oedd yn traethu ar Natur Eglwys. O'r saith a ordeiniwyd y mae pedwar yn awr yn fyw, sef y Parchedigion John Jones, Rhydbach (yn awr o Emporia, Kansas); Thomas Ellis, Penant (Llanystumdwy); William Davies, Llanegryn; a Francis Jones, Ffestiniog (Abergele). O'r rhai a gymerent ran yn yr ordeiniad nid oes cymaint ag un yn aros. Yr un modd y mae pob un a bregethai yn y Gymdeithasfa wedi huno. Y nos yn mlaen ar y maes, dechreuwyd yr oedfa gan y Parchedig Thomas Evans, Rock, Mynwy; a phregethodd y Parchedigion Joseph Thomas, a Roger Edwards. Testyn Mr. Thomas oedd Psalm cxxiv. 7, "Y fagl a dorwyd," &c. Yr oeddwn wedi clywed y bregeth fis cyn hyny yn Nghorris, mewn Cyfarfod Pregethu Undebol, a gynhelid yno y flwyddyn hono yn lle yr Wyl Ddirwestol flynyddol. Yr wyf yn cofio yn dda pan y darllenai ei destyn yn Nghorris fod cymeriad a enillodd lawer o sylw yn adeg y diwygiad yn sefyll o flaen y sêt fawr yn dysgwyl am dano. Wedi ei glywed dychwelodd i'w eisteddle gan ddweyd yn uchel, " 'Deith hona ddim i'r pen heno." Ac megys y brophwydoliaeth felly hefyd y bu y cyflawniad. Pregeth anghyffredin ydoedd hyd yn nod yn mysg pregethau Mr. Thomas. Gwyddwn gan hyny pan y clywais y testyn yn Nolgellau beth oedd i'w ddysgwyl ar ei ol; a rhyfeddol oedd y dylanwad a ddisgynodd trwy y bregeth ar y dorf. Testyn Mr. Roger Edwards oedd Mathew xi. 29, "Cymerwch fy iau," &c., a chafodd oedfa hwylus iawn. Am ddeg o'r gloch, dranoeth, yn yr un lle, pregethodd y Parchedig Dr. John Harries Jones, oddiar 1 Cor. xv. 26, " Y gelyn diweddaf," &c., a'r Parchedig Henry Rees, oddiar y geiriau "Deddf ffydd" yn Rhuf. iii. 27. Dyna y tro cyntaf i mi weled a chlywed Dr. Jones, yn ddyn ieuanc 32 mlwydd oed. Mis ond un diwrnod oedd ef yn hynach na Dr. Hughes. Ac nid anghofiaf yr olwg hardd oedd arno pan y safodd i fyny o flaen y dyrfa. A chafodd oedfa hwyliog iawn. Llawer bloedd a roddwyd yn mhell cyn haner y bregeth; a therfynodd yn hapus iawn. Nid oedd Mr. Rees yn or-hoff o'r gorfoledd yn amser y diwygiad ; ond bu raid iddo yntau y tro hwnw, gyda'r pethau gogoneddus oedd ganddo, ddygymod a thipyn o hono. Yn y prydnawn dechreuwyd yr oedfa, gyda hwyl anarferol, gan y Parchedig David Davies, Abermaw. Pregethodd yn gyntaf y Parchedig Rees Jones, Felinheli, oddiar Rhuf. xvi. 25, 26. Mynych y clywais ef wedi hyny yn son am yr oedfa hono fel oedfa galed ei oes. Ei bwnc oedd "Ufudd-dod Ffydd;" a thaflesid ef oddiar ei echel i fesur gan bregeth Mr. Rees yn y boreu ar "Ddeddf Ffydd." Ond yr oedd y bregeth yn gyfansoddiad cryf, a'r syniadau yn dangos yn eglur nodweddion arbenig meddwl Mr. Jones. Y tro diweddaf y clywais ef yn pregethu oedd yn Nghymanfa Gyffredinol Aberdar yn 1885, lle yr oeddwn yn cael y fraint o gyd-bregethu ag ef. Oedfa fendigedig oedd hono. Am yspaid yn y dechreu symudai yr olwynion yn araf; ac yr oedd ei ogwydd at fod yn drymaidd. Ond yn raddol fe gynhesodd, a chyda'r gwres daeth goleuni. Gwefreiddid y gynulleidfa, ac yn enwedig y rhan fwyaf deallus o honi, gan brydferthwch yn gystal a grym rhai o'i sylwadau. A chyn y diwedd yr oedd wedi enill llwyr feistrolaeth ar ei wrandawyr. Ond yn Nolgellau, yn 1860, rhaid addef nad oedd yr oedfa a gafodd mor hwyliog o gryn lawer ag ydoedd rhai o'r oedfeuon eraill. Ar ei ol cyfododd "John Hughes, Everton," a phregethodd oddiar Mat. x. 37, "Yr hwn sydd yn caru tad neu fam yn fwy na myfi," &c. Nid oedd ar y pryd wedi cyrhaedd 33 mlwydd oed; ond galwyd ef, fel y gwelir, i bregethu yn olaf yn un o'r prif oedfeuon. Ac os nad wyf yn cam-gofio, cyhoeddwyd ef i bregethu drachefn yn yr hwyr gyda Mr. Rees; ond yr oedd hyny allan o'r cwestiwn ar ol yr oedfa fawr yn y prydnawn. Disgynodd y gorchwyl gan hyny i ran y Parchedig David Davies; a chafodd, fel y clywais wedi hyny, hwyl nodedig. Bu raid i mi droi tuag adref, er croesi y mynydd cyn nos, cyn yr oedfa hono.

Yn awr, yr wyf wedi dyfod at yr hyn yr wyf yn cyrchu ato o'r dechreu, desgrifiad o bregeth Dr. Hughes; ond ychydig iawn sydd genym i'w ddweyd. Ofer yw troi at y llyfr yr oeddwn yn cofnodi y pregethau ynddo; nid oes yno braidd ddim wedi ei ysgrifenu. Sefyll yr oeddwn o ddechreu yr oedfa i'r diwedd, yn y tyndra, yn lled agos at y stage, ac oblegyd hyny nid gorchwyl hawdd fuasai ysgrifenu o gwbl. Ond yr wyf yn cofio yn dda nas gallwn feddwl am ysgrifenu; yr oedd y bregeth yn cario fy holl ysbryd gyda hi, fel mai yn brin y gwyddwn i, mwy na chanoedd eraill, yn mha le yr oeddwn yn sefyll. Gogoniant Person a Chymeriad y Gwaredwr oedd ei phwnc, a dangosai fod ei hawl ar gariad dyn yn hawl resymol. Yr oedd yn cydgyfarfod ynddo holl degwch y ddaear, a holl brydferthwch y nef; holl rinweddau y ddynoliaeth, a holl gyflawnder y Duwdod. Ond nid oes genyf allu i gofio yn gywir lawer o'r desgrifiadau oeddynt yn cyffroi ac yn swyno y gynulleidfa. " Y mae yn rhagori ar ddeng mil. Deng mil o beth? Deng mil o'r peth a fynoch chwi. Deng mil o saint, deng mil o angylion, deng mil o gerubiaid, deng mil o seraphiaid, deng mil o arch-angylion os mynwch chwi, pe baent i'w cael-nid oes dim ond un." Ac yn y bregeth hono y cafwyd am y tro cyntaf sylwadau y bu yn eu gwneyd mewn pregethau eraill ar ol hyny. "Mi welaf Ioan yn myned at y gorchwyl o'i ddesgrifio. 'A'r Gair a wnaethpwyd yn gnawd, ac a drigodd yn ein plith ni; ac ni a welsom ei ogoniant Ef, gogoniant megys-megys, MEGYS. Ac mi debygaf weled cymhariaethau yr Hen Destament yn rhedeg at ei benelin, gan gynyg eu gwasanaeth iddo, ond nid oes yr un o honynt a wna y tro. Y mae yn eu troi ymaith i gyd, -' gogoniant megys yr Unig-anedig oddiwrth y Tad;' nid yw yn debyg i neb ond iddo ei hun." Rhyfedd oedd y dylanwad ar y gynulleidfa. O bob cwr o'r dyrfa-o'r wageni, a'r stages gerllaw stage y pregethwyr, ac o bob rhan o'r maes, dyrchafai bloeddiadau oeddynt yn fynych yn uwch na llais y pregethwr, ac yn y diwedd yn ei foddi braidd yn hollol. Traddodai gyda rhyw yni rhyfedd: taflai holl nerth ei natur yn wir i'r traddodiad. Ymddangosai fel un wedi llwyr anghofio ei hun. Ac nid gormod ydyw dweyd fod y pethau a draethid ganddo yn effeithio llawn gymaint ar y pregethwr ag oeddynt ar neb o'i wranddwyr. Ieuanc, fel y dywedais, oeddwn i pan yn gwrando y bregeth, ond nid wyf yn cofio gweled y Gwaredwr erioed yn fwy gogoneddus nag yr ymddangosai ynddi.

Bum yn siarad a Dr. Hughes am yr oedfa aml dro, ac er nad oedd yn ystyried y bregeth o lawer yn mysg ei rai goreu, teimlai fod rhywbeth hynod ynddi ar yr achlysur hwnw. Yr wyf yn credu yr edrychai ar yr oedfa yn Nolgellau yn 1860, fel un o rai hynotaf ei oes. Ac felly, yn ddiau, yr oedd yn syniad y rhai a gawsant gyfleusderau mynych i'w wrandaw ar adegau nodedig.

Grymus iawn oedd ei bregeth yn mhen deng mlynedd wedi hyny (1870) mewn Sassiwn yn Nolgellau, ar 1 Ioan iv. 17: "Yn hyn y perffeithiwyd ein cariad ni, fel y caffom hyder ddydd y farn," &c. Ond nid oedd ei gynulleidfa mor dwym y pryd hwnw, ac er grymused y bregeth nid oedd yr effeithiau ar y gwrandawyr yn gyffelyb. Y mae oedfa 1860 yn un o'r rhai yr wyf yn edrych yn ol arnynt, ac yn teimlo fod ynddynt yr hyn sydd anesgrifiadwy. A dweyd y gwir, croes iawn i'm teimlad fy hun ydyw gwneyd cais i osod ar bapyr yr hyn, pe gellid ei roddi yno, a beidiai a bod yr hyn ydyw. Fy unig esgus dros geisio myned o amgylch yr olygfa ydyw, dweyd wrth eraill ychydig am yr amgylchiadau yn mha rai y profais fy hun y pethau rhyfeddaf a brofais yn fy oes. Hir y parhao "Sassiwn" Cymru i feddu y dylanwad ar ein hieuenctyd a feddai ar fy ysbryd i yn nyddiau fy mebyd. Ac nid wyf yn cywilyddio dweyd fod ei swyn i mi heddyw lawn cymaint ag erioed. Ganwyd Dr. John Hughes, yn nhy'r capel, Llanerchymedd, Medi 27, 1827. Bu ei dad farw pan nad oedd ef ond 6 oed, ond bu ei fam fyw i gyraedd 72 oed, ac yr oedd yn wraig ragorol am ei phwyll a'i gras. Hynododd ei hun yn blentyn fel dysgwr ac adroddwr penodau.

Daeth yn ddarllenwr mawr yn fuan, ar lyfrau Cymraeg a Saesneg, ac i gael blas ar weinidogaeth y diweddar Barch. W. Roberts, Amlwch, ac eraill. Pan yn 20 oed, yn 1847, dechreuodd bregethu, a'r flwyddyn ddilynol aeth i Athrofa y Bala. "Dyddiau hyfryd, bendigaid," meddai, " oedd y tair blynedd y bum dan addysg Dr. Edwards a Dr. Parry." Yn 1852, priododd â Miss Dew, a symudodd i'r Borth (Menai Bridge). Yn 1857, symudodd i Le'rpwl, a threuliodd 32 mlynedd yno. Daeth yn boblogaidd iawn yno. Gelwid am ei wasanaeth i'r uchel-wyliau yn mhob parth o Gymru, a byddai ei weinidogaeth yn nerthol ac mewn dylanwad mawr yn fynych. Yr oedd coethder ei Gymraeg yn y pwlpud, a'i gynyrchion llenyddol, yn gymeradwy a chyfoethog iawn. Symudodd o Le'rpwl i Gaernarfon yn 1889, yn fugail eglwys Engedi. Daeth terfyn ei daith yn sydyn, nos Lun Hydref 23, 1893. Pregethodd deirgwaith y Sul cynt yn Amlwch, darlithiai yn Engedi nos Iau, a nos Wener yn Mhorthmadog bu yn siarad ar drydydd Jiwbili y Cyfundeb, a'r wythnos y bu farw yr oedd i fod ar daith drwy Leyn yn dathlu y Jiwbili. Yr oedd Dr. Hughes yn un o'r rhai a groesawid fwyaf gan y cynulleidfaoedd

"𝔉𝔶 𝔑𝔤𝔴𝔞𝔰 𝔞 𝔏𝔴𝔶𝔡𝔡𝔞."
Gan y diweddar Barch. John Hughes, D.D., Caernarfon

"Wele, fy ngwas a lwydda; efe a godir, a ddyrchefir, ac a fydd uchel iawn. Megys y rhyfeddodd llawer wrthyt; (mor llygredig oedd ei wedd yn anad neb, a'i bryd yn anad meibion dynion.)"—ESAIAH LII. 13, 14.

GWAS y dywedir hyn oll am dano yw yr Arglwydd Iesu Grist, hysbysydd ewyllys Duw i'r byd a chyflawnydd ei holl fwriadau. Ac yn yr adran sydd yn dechreu gyda'r geiriau a ddarllenwyd, y mae prophwydoliaeth yr Hen Destament yn cyraedd ei phwynt uchaf, ei man dysgleiriaf, a'r prophwyd ynddi yn llefaru, nid am dano ei hun nac am neb o gedyrn yr hen gyfamod, ond am yr "Un mawr oedd ar ddyfod." Mewn prophwydoliaethau boreuach yn y llyfr, y mae yr Arglwydd yn cyfarch Jacob neu Israel fel "ei was," oblegyd yr oedd Duw wedi dethol y genedl i gynrychioli ei enw ef yn mysg holl genhedloedd y ddaear, ac yr oedd megys yn gyntafanedig iddo ar gyfrif ei rhagorfraint. Felly hefyd yr oedd iddo yn was ar gyfrif ei neges a'i chyfrifoldeb. Ond os oedd eu galwad yn uchel, fy nghyfeillion, yr oedd eu cyflawniad yn dra diffygiol, a chyda golwg ar hyny y mae yr Arglwydd drwy y prophwyd yn ymliw â'r genedl gan edliw iddi ei hanffyddlondeb. "Pwy sydd ddall ond fy ngwas i?" meddai, "neu fyddar fel fy nghenad a anfonais? Pwy mor ddall a'r perffaith, a dall fel gwas yr Arglwydd?" Lle y dylasai Israel feddu ar olwg craff i wybod ewyllys Duw, a chlustiau agoredig i glywed pob gair oddiwrtho, yn lle hyny, dall ydoedd, a diarhebol ddall a byddar. "Pwy mor ddall a'r perffaith, a byddar a gwas yr Arglwydd?" Ond nid yw cyngor Duw byth yn syrthio i lawr oherwydd anffyddlondeb dyn. Y mae gwas arall i gyfodi, yr hwn a ddealla yr ewyllys yn berffaith; ac y mae Duw yma yn galw sylw ei eglwys mewn dull cynhyrfiol, yn galw eu hastudrwydd at ymddangosiad y gwas hwn. "Wele, fy ngwas a lwydda," Fy ngwas a ymddwyn yn ddoeth. "Efe a godir, a ddyrchefir, ac a fydd uchel iawn." Y Gwas hwn ydyw etholedig Duw, rheswm a sylfaen pob etholedigaeth o'i eiddo. Yn Hwn y mae enaid Duw yn foddlawn. Nid oes dim nas gŵyr na dim nas gall, oblegyd y mae Ysbryd yr Arglwydd yn gorphwys arno Ef yn ysbryd doethineb a deall, yn ysbryd cyngor a chadernid, yn ysbryd gwybodaeth ac ofn yr Arglwydd. Oblegyd hyny, "Efe a lwydda." Efe a ddwg farn i'r cenhedloedd, "Efe a godir, Efe a fydd uchel iawn." Ond y mae cyfodiad, a llwyddiant, a dyrchafiad Gwas yr Arglwydd yn awgrymu cyferbyniad â'i sefyllfa flaenorol o ddarostyngiad. "Efe a fydd uchel iawn." Nid felly bu bob amser. Na, "megys y rhyfeddodd llawer wrthyt." Fe fu gynt yn wrthddrych ymwrthodiad, dynion yn cilio oddiwrtho, - "Mor llygredig oedd ei wedd yn anad neb, a'i bryd yn anad meibion dynion." Ond fe gyfetyb uchder ei ddyrchafiad i iselder ei ostyngiad. Os oedd llawer o bersonau unigol yn rhyfeddu wrtho ac yn cilio mewn ymwrthodiad oddiwrtho yn nyddiau ei ostyngiad, felly yn nyddiau ei ddyrchafiad y taenella Efe genhedloedd lawer. Nid llawer o bersonau, ond cenhedloedd lawer; a'r fath fydd ei lwydd, y fath fydd ei ogoniant, fel ag i gau geneuau brenhinoedd ac i daro y byd â syndod. "Canys gwelant yr hyn ni fynegasid iddynt, a deallant yr hyn nis clywsant." Ac yn awr, fy nghyfeillion, yr oeddwn inau eto am geisio, os gallaf, enill eich meddwl at y Person bendigedig hwn-"Gwas yr Arglwydd."

A dyna y mater: Gyrfa Gwas yr Arglwydd fel Rhyfeddod ar gyfrif y cyfuniad sydd ynddi o Ostyngiad a Dyrchafiad.

Ac wrth son am ei yrfa ef, yr ydys yn cynwys ei holl hanes—ei ddisgyniad o'r nef i'r ddaear, ei ymdaith ar y ddaear o'r preseb i'r groes, ei esgyniad o'r ddaear i ddeheulaw Duw. A dyna y gwirionedd ag y dymunwn i ei argraffu ar eich meddyliau,—Y mae yr yrfa yna yn rhyfeddod yn hanes y byd, y rhyfeddod mwyaf; a gwyn fyd na ddygai Ysbryd Duw filoedd eto yn Nghymru i synu, i ryfeddu at yrfa Gwas yr Arglwydd.

Yn un peth: Y mae Dylanwad ei Enw Ef ar hanes plant dynion yn Ddylanwad heb ei ail na'i gyffelyb,—Dylanwad ei Enw. Ac y mae dylanwad ei enw i'w briodoli i hynodrwydd ei yrfa, a hynodrwydd ei yrfa drachefn i'w briodoli i hynodrwydd dwyfol-ddynol ei berson. Am fod ei berson yr hyn yw y mae ei yrfa yr hyn yw; am fod ei yrfa yr hyn yw, y mae ei ddylanwad yn ddihafal, yn ddigyffelyb ar hanes y byd. Ac yn awr, wrth son am ei ddylanwad Ef y mae yn perthyn iddo bob peth mawr, pob elfen ragorol a ellir gysylltu â dylanwad—lled, hyd, uchder, dyfnder; yn yr holl fesurau, y mae dylanwad enw Iesu yn ddigyffelyb. Os dywedwn ni am burdeb, pa ddylanwad mor bur â hwn? Y mae can bured â'r nefoedd, a chan bured â'r Duwdod ei hunan. Yn wir, dylanwad enw'r Iesu ydyw yr elfen fawr bureiddiol yn ngwareiddiad y byd. Fe fuasai y byd yma wedi pydru i ddinystr er's oesoedd oni buasai enw Iesu. Fuasai ddim yn werth i chwi fyw ynddo, i chwi na'ch tadau o'ch blaen, oni buasai enw'r Iesu. Dyma yr unig elfen bureiddiol yn ngwareiddiad Ewrob ydyw enw'r Iesu,—yr oes, yr einioes fer a dreuliwyd o Bethlehem i Galfaria, a brynodd dy einioes di a mi oddiwrth ei oferedd. 'Does dim yn werth i chwi ymguro yn Sir Feirionydd am driugain neu ddeg-a-thriugain mlynedd, ddim yn werth i ni geisio byw oni buasai fod yr Iesu wedi byw o'n blaen ni, a phrynu einioes ddaearol oddiwrth ei gwagedd a'i hoferedd. Yn wir, 'does dim ag y mae a wnelo meddwl ag ef nad ydyw enw'r Iesu wedi effeithio er puredigaeth iddo. Masnach y byd, gwleidyddiaeth y byd, y gwyddorau, y celfyddydau, y bywyd teuluaidd, y bywyd cymdeithasol—" nid ymgudd dim rhag ei wres ef." Y mae dylanwad ei enw yn treiddio i holl agenau a chysylltiadau cymdeithas. Dyma y dylanwad puraf mewn bod. Ond amlygiad uwch eto o'i nerth ydyw y gafaeliad, (yr wyf yn gobeithio y'ch bod yn fy nghlywed), y gafaeliad, meddaf, sydd ganddo ar y dyn unigol. Y mae yn eang iawn ar gymdeithas, ond, ysywaeth, nid yw eto yn ddwfn iawn. Os mynwch chwi brawf o'i nerth, edrychwch ar ambell ddyn unigol sydd wedi ildio ei hunan iddo. Dyna un dyn er engraifft—Saul o Tarsus, un o'r dynion—fe faddeua i mi am ddweyd pe clywai fi—un o'r dynion mwyaf annibynol, mwyaf pen-syth, mwyaf uchel-falch wrth naturiaeth a fu ar y ddaear erioed. Nid oedd yn foddlawn i ymostwng mewn darostyngiad i neb na dim ; dyna fo, y dyn anhawdd ei drin, dyn o ewyllys gref oedd Saul o Tarsus, am orchfygu pawb rywfodd. Ond o'r awr y daeth i adnabod Iesu o Nazareth yr oedd yn falch i ystyried ei hun yn slave iddo, yn gaethwas iddo, yn eiddo hollol iddo. A diolch i Dduw, y mae yn y gynulleidfa heddyw aml un tebyg. iddo. Dyma i chwi brawf o nerth dylanwad. Y mae y dyn yn cyfrif ei hunan yn eiddo hollol i'r person hwn ar ol ei adnabod. Yn awr, oddiar burdeb y dylanwad mewn undeb a'i ddwysder y cyfyd ei tarhad; ac yn hynyna eto, 'does yr un dylanwad, dylanwad yr un enw yn gyffelyb i enw'r Iesu. Os darfu i chwi sylwi, ac y mae yr hen bobl yma wedi sylwi, hynod mor fyr-hoedlog ydyw dylanwad enwau gwael y llawr, hynod fyr-hoedlog. Pa un yw yr enw uchaf heddyw yn Ewrob? Da'i ddim i ddweyd ar g'oedd y Gymanfa; meddyliwch chi yn ddystaw. Pe buaswn yn gofyn hynyna fe fuasai yn amheus pwy ydyw. Ond gadewch i mi ail ofyn, Pa un fydd yr enw mwyaf dylanwadol yn Ewrob ddeng mlynedd ar hugain i heddyw? 'Does un dewin all ddweyd nac un prophwyd. Fa un oedd yr enw cryfaf yn Mhrydain Fawr ac yn Ewrob yn nechreu y ganrif yma? Wel, yn ddiameu, enw Napoleon Fawr—Napoleon Bonaparte; yr oedd miliynau o Ffrancod yn tyngu i'w enw, a'r Ellmyn yn brawychu wrth glywed ei enw, ac fe fyddai eich teidiau a'ch neiniau chi yn methu gorwedd yn eu gwely yn y nos rhag ofn i “Bonni” lanio yn Mhrydain cyn y boreu. Yr enw cryfaf i swyno ac i frawychu yn mlynyddoedd boreuaf y ganrif yma, lle mae heddyw? Beth y mae ei enw yn wneyd heddyw? Dydi o ddim yn gwneyd llawer i swyno'r Ffrancod heddyw, a 'does ar yr un Cymro ddim ofn wrth glywed ei enw. Fe welwch pa mor fyr—hoedlog ydyw enwau gwael y llawr. Deunaw cant o flynyddoedd yn ol yr oedd enw Iesu o Nazareth yn swyno Simon Pedr ac Andreas ei frawd, Ioan ac Iago ei frawd, Bartholomew, ac felly yn mlaen, Joanna gwraig Chusi, goruchwyliwr Herod, Salome, Mair Magdalen, a'r Mair arall. Cyn i'r ganrif fyned i ben, sawl myrddiwn o Iuddewon oedd yn credu ynddo, ac o genhedloedd halogedig hefyd? Yn mhen rhyw dri chan' mlynedd wed'yn, dyna Ymerodraeth Rhufain, y fwyaf fu erioed ar y ddaear cyn hyny, yn plygu glin ger ei fron Ef. Yn y canol oesoedd, ei enw Ef barodd godi yr hen fynachlogydd yma, a'r hen eglwysi mawrion. Ei enw Ef oedd bywyd pob gwareiddiad oedd yn yr oesoedd tywyll yna. A heddyw, ar ol i ddeunaw canrif redeg drosodd, mae mwy yn credu ynddo nag mewn un oes o'r blaer, yr wy'n hyderu. Mae hyd yn nod anffyddwyr rai yn proffesu ryw gymaint o barch i'w garictor, ac am wn i, dydyn' nhw ddim yn teimlo dim anhawsder i goelio geiriau y Salmydd, "Ei enw fydd yn dragywydd. Ei enw bery tra fyddo haul." Dyna un sylw—Dylanwad Ei Enw. "Gwelant yr hyn ni fynegasid iddynt ; deallant yr hyn ni chlywsant."

Yn ail: Mae Dylanwad Ei Enw i'w briodol i hynodrwydd Ei yrfa. A hynodrwydd ei yrfa, sylwch, ydyw y cyfuniad sydd ynddi o fawredd a mwyneidd—dra, o ostyngeiddrwydd a dyrchafiad.

"Uchelderau mawr ei Dduwdod,
A dyfnderoedd ei ufudd-dod,
Sy'n creu synu fyth ar synu
Yn nhrigolion gwlad y goleuni."

Hynodrwydd y cyfuniad yna, drachefn, ydyw fod y mynediad o un sefyllfa i'r llall i'w briodoli, nid i ddim angenrhaid, ond i gariad a gras. Fe ddaeth yr Hwn oedd gyfoethog yn dlawd, yn unig o ras. Mae yr Hwn a fu yn dlawd wedi esgyn goruwch yr holl nefoedd. Pa'm? Am ei fod wedi haeddu y gogoniant; am ei fod wedi enill y goron. Mae y mynediad o un 'stad i'r llall i'w briodoli, nid i natur ac angenrhaid, ond i gariad a gras. Ac yn awr, fy nghyfeillion, pan y byddwn yn ceisio dal am funyd eto y ddwy sefyllfa ar gyfer eu gilydd, anfonwch ochenaid ddystaw i'r nef am i'r Ysbryd tragwyddol ogoneddu Crist. O, na ddeuai i'r golwg! O, na chai pobl ei wel'd! gweled yr Iesu! Gofynwch, gweddïwch am i'r Ysbryd yn y Gymanfa yma ei ogoneddu a'i ddangos i bechaduriaid, i ni i gyd. Y ddwy sefyllfa: "Mor llygredig oedd ei wedd yn anad neb, a'i fryd yn anad meibion dynion." Pan ddaeth Naomi i Bethlehem, "Ai hwn yw Naomi," meddai'r bobl yn dra siomedig. Pan ddaeth Iesu Mab Duw i Bethlehem, yr un oedd y siomedigaeth : “Ai hwn yw y Messiah?" medden' nhw. "Nid am un fel hwn yr oeddym ni yn edrych. Pa le y mae y mawredd? Paley mae yr honiad, y disglaerni? Ai hwn yw Gwaredwr yr Israel? Nid ydym ni yn gweled tân, yn ol y brophwydoliaeth, yn ysu o'i flaen. Dydi'r creigiau ddim yn cael eu bwrw i lawr ganddo. Ai hwn ydyw?" "Dirmygedig yw, a diystyraf o'r gwyr; gŵr y gofidiau a chynefin â dolur." "Efe," meddai Esaiah, "Efe a dŷf o'i flaen Ef fel blaguryn." Mae Duw Dad yn gwylio ei flaguriad o'r nef, yn sylwi arno. Y mae yn tyfu o'i flaen Ef fel blaguryn, ac fel gwreiddyn ar dir sych yn ngolwg ei gyd—genedl. A'i frenhiniaeth a dyfodd; erbyn hyn, gwreiddyn mewn daear sech ydyw hi. Fe fu golwg ardderchog arni gynt. Yr oedd tylwyth Dafydd yn un o'r teuluoedd mwyaf urddasol y dwyrein—fyd. "A'ch brenhiniaeth fel cedrwydden yn cuddio'r mynyddoedd gyda'u cysgod." Ond dilynwch y teulu i lawr; dowch i lawr gyda'r teulu, dowch at gyflawnder yr amser, 'does yna yr un tywysog, 'does yna yr un gŵr cyfoethog, 'does yna yr un concwerwr yn y teulu i gyd. Pwy sydd yn ei gynrychioli heddyw? Neb ond Joseph y saer o Nazareth a'r fwyell ar ei gefn. Dyna y goreu—dyna representative o deulu Dafydd. Iawn y gallem ddweyd, "Y mae pabell Dafydd wedi syrthio." A oes rhywun a'i cyfyd hi? 'Does dim un arwydd y gwneir. Wel, aroswch, meddech chwi. Sylwch ar y blaguryn tyner yna sydd yn tarddu allan—yr wyf finau yn ei weled. Ond y mae mor dyner fel y bydd barug un boreu—ddydd yn ddigon i'w ddallu. Y bobl fawr yn meddwl dim o hono! Yn chwilio ac yn gweled na chododd Prophwyd o Galilea, heb son am y Messiah'r Brenhin." Ddaeth erioed brophwyd o Galilea. Gwn ei fod yn pregethu, ond pregethu i'r tlodion y mae. Sorod y wlad ydyw ei wrandawyr. Mae wedi fturfio coleg o fyfyrwyr o'i amgylch, ond wyddoch chi pwy ydyn nhw? Pysgotwyr Galileatir cysgod angau. Nid pysgotwyr y môr mawr ydynt, ond pysgotwyr ar damaid o lyn ydynt—dyna ydynt ar y goreu. Dyna ei weision, dyna ei ddilynwyr. "Mae yn llefaru geiriau Duw," meddech chi. Ydyw, ond y mae doethineb ei oes yn gwrthod moesoldeb y geiriau hyny. "Y neb a ddyrchafo ei hun a ostyngir, a'r neb a'i gostyngo ei hun a ddyrchefir." "Ynfydrwydd," meddai doethineb uwchaf y byd. "Y mae yn cyflawni gweithredoedd Duw." Gwir, ond y mae ei wyrthiau ar level ei ddarostyngiad, ac yn cyfranogi o wyleidd—dra y darostyngiad. Mae y wyrth yn debyg i fenyw ddiwair yn cywilyddio wrth ymddangos o flaen cenhedlaeth drofaus, "Gwel na ddywedych i neb." Dirmygedig yw!" Oes ryfedd wedi dechreu yn mhreseb anifail, mae hi i ddibenu ar groes drwgweithredwyr, a'r einioes rhwng y dechreu a'r diwedd yn cyfranogi o natur y ddau. "Mor lygredig yw dy wedd yn anad neb, a'th bryd yn anad meibion dynion."

Yn nesaf, fy nghyfeillion: Mae Gwas yr Arglwydd yn ymddwyn yn ddoeth yn hyn oll. "Wele, fy ngwas a lwydda;" fy ngwas a wna yn ddoeth; 'a wna yn gall,' meddai ymyl y ddalen. Llawer gwell ydyw "A wna yn ddoeth."

Y peth doethaf a wnaeth Jacob yn ei fywyd oedd gadael pabell ei dad a'i fam a myn'd gyda'i ffon—dim ond efe a'i ffon yn myn'd dros yr Iorddonen. Pa'm? Mi gwelaf ef yn dychwel o Padan—aram gyda'r wraig a'r plant yn ddwy fintai gyda chyfoeth mawr. O, nghyfeillion i, y peth doethaf a wnaeth yr Ail Berson erioed oedd dibrisio ei hun, cymeryd arno agwedd gwas, ac mi ddywedaf i chwi pa'm yr wyf yn dweyd fel hyn. Dyma y nefoedd yn dodi ei sêl ar ei ddarostyngiad, ar ddoethineb ei ddarostyngiad. "Efe a godir, a ddyrchefir, ac a fydd uchel iawn. Efe a wna yn ddoeth." Nid efe a wna yn gall. Mae byd o wahaniaeth, medde nhw, rhwng bod yn gall a bod yn ddoeth. Y mae yn anhawdd dweyd hefyd beth ydyw, ond fe ŵyr pob dyn doeth yma beth wy'n ei feddwl. Y mae gwahaniaeth mawr iawn rhwng callineb a doethineb. Peth da iawn ydyw bod yn gall. Peth buddiol iawn ydyw callineb. Y mae yn enillgar, fel rheol. Y mae yn beth gweddaidd. Yr un pryd, 'does dim byd mawrfrydig, dim godidog o gwbl mewn callineb. 'Does yr un wreichionen o frwdfrydedd ynddo, ac anmhosibl ydyw iddo gyneu brwdfrydedd mewn eraill, oblegyd braidd y bydd neb farw dros un call. Welsoch chi neb erioed wedi gwneyd. Mewn gair, mae callineb yn sawru o fychander, gormod o ofal ar ran dyn o ran ei hunan; y mae o natur gyfyng—'does dim yn eang mewn callineb. Os goddefwch i mi ei ddefnyddio, synwyr llais y plwy' ydyw callineb. Dyna ydyw callineb, rhyw synwyr bach, twt, i eistedd ar bwyllgor ac i edrych i mewn i fuddianau y plwyfolion heb anghofio ei interests ei hun. Beth ydyw doethineb? Dealltwriaeth yr ymherodraeth, yn adnabod egwyddorion mawrion cyfiawnder, barn a thrugaredd. Fe fyddai yn sarhad ar Was yr Arglwydd i neb ddweyd ei fod yn ymddwyn yn gall. Beth wnaeth? Ymddwyn yn ddoeth. "Ti a geraist gyfiawnder, ti a gaseaist anwiredd." Cafodd ei wobr am hyny. Eneiniodd Duw Ef âg olew llawenydd "tuhwnt i'w gyfeillion." Yr oedd peth digrifwch, yn ddiau, yn yr amgylchiad hwnw un diwrnod, yr hwn na ellir ei olygu yn rhyw gall iawn un amser; hyny ydyw, nid ei brif nodwedd ydoedd callineb. Gwelaf Pedr un diwrnod yn cynyg ei hun i gallineb i'w ysbrydoli, ac yn edrych yn sobr, can' sobred a'r ustus ar ei Arglwydd gan ei geryddu. "Trugarha wrthyt dy hun, nis bydd hyn i ti." Ceisia ymddwyn yn ochelgar ac yn gall o hyn allan. Beth pe buasai yr Iesu yn byw yn ol ei gyfarwyddyd? Beth os yn ol yr egwyddor yna y buasai yn gweithredu erioed ac yn awr, beth fuasai y canlyniad? Beth ddeuai o Pedr ei hun pe buasai yn byw ac yn marw dan ormes y Phariseaid yn ddysgawdwr anenwog a dim arall? Beth ddeuai o Lywodraeth Duw? Fe fuasai yr anrhefn yn parhau, a phechod yn ymrwysgo yn ddi-ddiwedd. Chawsai Duw yr un hatling o deyrnged byth o'n daear ni, y nefoedd ddim boddlonrwydd, y ddeddf ddim anrhydedd. Ond bendigedig fyddo enw y Gwas sydd yn y testyn. Fe ymddygodd yn ddoeth, cadwodd ei lygaid ar y pethau mwyaf—egwyddorion mawrion cyfiawnder a thrugaredd. "Am hyny, efe a'i dibrisiodd ei hun." "Efe a gymerodd arno agwedd gwas." Beth sydd i fod eto? "Efe a godir, efe a ddyrchefir, efe a fydd uchel iawn." Ydi o ddim yn dda genoch chi glywed ei fod o i fyn'd i fyny? Mi glywais fod rhyw weinidog er's talwm yn——— yn pregethu ar Ddyrchafiad y Gwaredwr, ac yr oedd wedi myn'd yn rhy galed ar ryw hen chwaer nes y gwaeddodd allan, "I fyny ag o." Eled i fyny. Oes arnoch chwi, bobl y Bala a'r cymydogaethau, wir awyddfryd calon am iddo fyn'd yn uchel iawn? A ydyw yn llawen genych ei fod eisoes yn uchel iawn, yn uchel yn y nefoedd? Bydded yn uwch i barhau ar y ddaear yn uchel iawn. Paul, o bawb, sydd yn gosod allan ogoniant ei ddyrchafiad, ac mi foddlonaf yn awr yn unig ar ddweyd un o'i eiriau. Oherwydd paham"—oherwydd iddo ddioddef y groes, oherwydd iddo ddyfod yn ufudd hyd angau, ïe, angau'r groes—"Duw a'i tra-dyrchafodd yntau—a'i tra-dyrchafodd yntau, ac a roddes iddo enw, enw, yr hwn sydd goruwch pob enw." Pa enw? Pa enw a roes Duw iddo ar ol ei dderbyniad i'r ddeheulaw? Pa enw? Yr enw Iesu—dyna yr enw uwchaf [ocr errors] heddyw yn y nefoedd—Iesu. Nid yn unig y Person sydd yn gwisgo yr enw, ond yr uwchaf o'i enwau Ef ydyw IESU. Enw a fu yn dra diystyr ar y ddaear. Y mae y gŵr bonheddig hwnw, Ffestus, yn teimlo fod ei enau yn rhy goeth i'w lygru gyda'r enw—" y pethau yn nghylch un Iesu," meddai. Yr oedd yn edifar ganddo ei fod wedi dweyd enw mor isel—wael—"un Iesu, un Iesu." Ond y Person yna ydyw yr uwchaf, yr enw yna—Iesu: dyna yr enw uwchaf—enw Bethlehem, enw Galilea, enw Calfaria. Y mae yr enw yna yn uwchaf yn y nefoedd; mae yn cynwys Duwdod a Dyndod, Mabolaeth a Chyfryngdod—Enw'r Iesu! Ac O! yr olwg sydd yno pan y mae yr enw yn cael ei ddweyd gan ryw sant o Gymru, a'r nefoedd yn plygu glin. Fe fuom i cyn hyn yn treio gwneyd arlun o dyrfa'r gwaredigion ar y môr gwydr yn ffrynt yr orseddfainc yn moli Duw a'r Oen. A dyna ryw hen Gymro yn teimlo ryw afiaeth ysbrydol, sanctaidd, ac yn mysg y llu yn codi i fyny ac yn adgofio hen benill y ddaear

"Ymgrymed pawb i lawr,
I enw'r addfwyn Oen;
Yr enw mwyaf mawr
Erioed a glywyd son;
Y clod, y mawl, y parch a'r bri,
Fo byth i enw ein Harglwydd ni."

'Amen,' meddai'r pedwar-henuriad-ar-hugain. 'Amen,' meddai'r holl angylion. Y nefoedd yn gyfan yn plygu i enw'r Iesu. Yr wyf wedi diffygio. Wnewch chwi blygu'r glin iddo heddyw? Pared Duw fod yma liaws o'r newydd yn cusanu'r Mab cyn yr elo'r Gymanfa heibio. Efe yw dy Iôr di; ymostwng iddo, ymostwng iddo. Derbyn Ef yn yr hyn oll ag ydyw; derbyn Ef yn Offeiriad i wneyd heddwch rhyngot â Duw, yn Frenhin i lywodraethu arnat. Plyga'r glin; plygwch y gliniau i enw'r Iesu hwn, a bydded cyn yr elo y Gymanfa yma heibio fod lluaws o'r newydd wedi ymostwng iddo Ef.

[Sasiwn y Bala, ar y Maes, am 2, Mehefin 1890.




Y BALA:

Argraffwyd a ChyhoeddWYD GAN DAVIES AC EVANS, SWYDDFA'R "SEREN" A "PULPUD CYMRU,"

BERWYN STREET.

Nodiadau

[golygu]
  1. Diawl y wasg—I Thes. v. 21

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1926, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.